RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

Gorfodi

I1I2I328Erlyniad gan awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol

1

Caiff awdurdod trwyddedu ddwyn achos troseddol mewn perthynas â throsedd o dan—

a

adran 4(2), 6(4), 7(5), 9(2), 11(3) neu 13(3), os yw’r drosedd honedig yn codi mewn perthynas ag annedd yn yr ardal y mae’n awdurdod trwyddedu ar ei chyfer;

b

adran 16(3) neu 23(3), mewn perthynas â gwybodaeth sy’n rhaid darparu i’r awdurdod;

c

is-adran (1) neu (4) o adran 38, mewn perthynas ag unrhyw beth sy’n ofynnol o dan hysbysiad a roddir gan berson sydd wedi’i awdurdodi gan yr awdurdod;

d

is-adran (1) neu (2) o adran 39, mewn perthynas â gwybodaeth a gyflenwir i’r awdurdod.

2

Caiff awdurdod tai lleol nad yw’n awdurdod trwyddedu ar gyfer ei ardal, gyda chydsyniad yr awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal, ddwyn achos troseddol mewn perthynas â throsedd o dan adran 4(2), 6(4), 7(5), 9(2), 11(3) neu 13(3), os yw’r drosedd honedig yn codi mewn perthynas ag annedd yn ei ardal.

3

Caiff awdurdod trwyddedu roi ei gydsyniad o dan is-adran (2) yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol.

4

Nid yw’r adran hon yn effeithio ar—

a

unrhyw un neu ragor o bwerau eraill y person a ddynodir o dan adran 3(1) i ddwyn achos troseddol;

b

adran 222 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (pŵer awdurdodau lleol i erlyn neu amddiffyn achosion cyfreithiol).