RHAN 9AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
Cyffredinol
142Gorchmynion a rheoliadau
1
Mae pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.
2
Mae pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—
a
i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion neu ddosbarthiadau o achosion, gwahanol ardaloedd neu at wahanol ddibenion;
b
i wneud darpariaeth wahanol yn gyffredinol neu yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthiadau o achosion yn unig;
c
i wneud y gyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, ddarfodol, drosiannol neu arbed ag y gwêl y person sy’n gwneud y gorchymyn neu’r rheoliadau yn dda.
3
Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—
a
yn Rhan 1—
i
gorchymyn a wneir o dan adran 2(1)(c), 3, 5(f), 6(3), 7(4), 8(f), 10(4)(d), 12(3)(d), 14(3), 20(7) neu 29(5);
ii
rheoliadau a wneir o dan adran 19(2);
b
yn Rhan 2—
i
gorchymyn a wneir o dan adran 57(4), 59(3), 72, 80(5)(b)(i), 80(8) neu 81(4);
ii
rheoliadau a wneir o dan adran 78(1) neu 86(1) a rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 1 o Atodlen 2;
c
yn Rhan 3, gorchymyn a wneir o dan adran 101 neu 109;
d
yn y Rhan hon, rheoliadau a wneir o dan adran 144 sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
4
Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys gorchymyn neu reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon ac eithrio gorchymyn a wneir o dan adran 40(7) yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
5
Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn a wneir o dan adran 80(5)(b)(ii) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron, a’i gymeradwyo drwy benderfyniad—
a
dau Dŷ’r Senedd, a
b
Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
6
Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 1 o Atodlen 2 oni bai bod drafft o’r offeryn statudol wedi ei osod gerbron dau Dŷ’r Senedd, a’i gymeradwyo ganddynt drwy benderfyniad.
7
Nid yw’r adran hon yn gymwys i orchymyn a wneir o dan adran 145 (cychwyn).