RHAN 5CYLLID TAI

Taliadau mewn perthynas â Chyfrifon Refeniw Tai

I1134Darpariaeth atodol ynghylch taliadau

1

Rhaid gwneud taliad o dan y Rhan hon yn y cyfryw randaliadau, ar y cyfryw adegau ac yn unol â’r cyfryw drefniadau a benderfynir gan Weinidogion Cymru.

2

Rhaid i awdurdod tai lleol ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani wrth wneud taliad o dan y Rhan hon.

3

Caiff Gweinidogion Cymru godi llog ar awdurdod tai lleol, ar y cyfryw gyfraddau ac am y cyfryw gyfnodau a benderfynir gan Weinidogion Cymru, ar unrhyw swm a fo’n daladwy gan yr awdurdod tai lleol o dan y Rhan hon nas talwyd erbyn yr adeg a benderfynwyd ar gyfer y taliad o dan yr adran hon.

4

Caiff Gweinidogion Cymru godi swm ar awdurdod tai lleol a fo’n gyfwerth ag unrhyw gostau ychwanegol yr aeth Gweinidogion Cymru iddynt o ganlyniad i unrhyw swm a fo’n daladwy gan yr awdurdod tai lleol o dan y Rhan hon nas talwyd erbyn yr adeg a benderfynwyd ar gyfer y taliad o dan yr adran hon.

5

Rhaid i daliad o dan y Rhan hon ac eithrio taliad o dan is-adran (3) neu (4)—

a

os y’i gwneir gan awdurdod tai lleol, gael ei drin gan yr awdurdod fel gwariant cyfalaf at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003;

b

os y’i gwneir i awdurdod tai lleol, gael ei drin gan yr awdurdod fel derbyniad cyfalaf at ddibenion y Bennod honno.

6

Caiff dyfarniad o dan y Rhan hon ei gwneud hi’n ofynnol i daliad i awdurdod tai lleol a wneir o dan y Rhan hon gael ei ddefnyddio gan yr awdurdod at ddiben a bennir yn y dyfarniad.

7

Rhaid i awdurdod tai lleol y mae gofyniad o’r fath yn gymwys iddo gydymffurfio â’r gofyniad.

8

Yn Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cadw’r Cyfrif Refeniw Tai), yn Rhan 2 (debydau i’r cyfrif) wedi Eitem 5A (symiau sy’n daladwy o dan adran 170 o Ddeddf Lleoliaeth 2011) mewnosoder—

  • Item 5B: sums payable under section 134 of the Housing (Wales) Act 2014

    Sums payable for the year to the Welsh Ministers under section 134(3) or (4) of the Housing (Wales) Act 2014 (interest etc charged as a result of late payment of settlement payments etc).