RHAN 5CYLLID TAI
Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai
I1131Diddymu cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai
I31
Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer diddymu’r cymhorthdal sy’n daladwy mewn perthynas â Chyfrifon Refeniw Tai awdurdodau tai lleol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
I32
Mae’r Deddf honno wedi ei diwygio fel a ganlyn.
I33
Yn Rhan 6 (Cyllid Tai)—
a
hepgorer adran 79 (cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai);
b
hepgorer adran 80 (cyfrifo cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai);
c
hepgorer adran 80ZA (symiau cymhorthdal negyddol a fo’n daladwy i berson priodol);
d
hepgorer adran 80A (penderfyniad terfynol ynglŷn â’r swm o gymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai);
e
hepgorer adran 80B (cytundebau i eithrio awdurdodau neu eiddo penodol);
f
hepgorer adran 85 (y pŵer i gael gwybodaeth);
g
hepgorer adran 86 (adennill cymhorthdal mewn rhai achosion).
4
Yn Atodlen 4 (cadw’r Cyfrif Refeniw Tai)—
I3a
yn Rhan 1 (credydau i’r Cyfrif), hepgorer Eitem 3 (cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai);
I3b
yn Rhan 2 (debydau i’r Cyfrif), hepgorer Eitem 5 (symiau sy’n daladwy o dan adran 80ZA);
I2c
yn Rhan 3 (achosion arbennig), hepgorer paragraff 2 (balans credyd pan nad yw cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai yn daladwy) a’r pennawd yn union cyn y paragraff hwnnw.