(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod tai lleol i ymrwymo i gontract neu drefniant eraill â pherson penodedig, neu berson sy’n dod o fewn dosbarth penodedig, ar gyfer darparu gwasanaethau penodedig o natur gynghorol i’r awdurdod.
(3)Caiff y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu drefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.
(4)Yn yr adran hon ac adran 121 ystyr “penodedig” yw penodedig mewn cyfarwyddyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 120 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 120 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1