RHAN 4SAFONAU AR GYFER TAI CYMDEITHASOL
Safonau ar gyfer tai a ddarperir gan awdurdodau tai lleol
I1I2116Arfer pwerau ymyrryd
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu—
a
pa un a i arfer pŵer ymyrryd,
b
pa bŵer ymyrryd i’w arfer, neu
c
sut i arfer pŵer ymyrryd.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru ystyried—
a
a yw methiant neu fethiant tebygol i fodloni’r safon yn ddigwyddiad rheolaidd neu’n ddigwyddiad unigol, neu’n debygol o fod yn ddigwyddiad rheolaidd neu’n ddigwyddiad unigol;
b
pa mor gyflym y mae angen mynd i’r afael â’r methiant, neu’r methiant tebygol i fodloni’r safonau.
3
Yn is-adran (1), ystyr “pŵer ymyrryd” yw pŵer sy’n arferadwy o dan adrannau 117 i 127.