xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5CYLLID TAI

Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai

131Diddymu cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai

(1)Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer diddymu’r cymhorthdal sy’n daladwy mewn perthynas â Chyfrifon Refeniw Tai awdurdodau tai lleol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

(2)Mae’r Deddf honno wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(3)Yn Rhan 6 (Cyllid Tai)—

(a)hepgorer adran 79 (cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai);

(b)hepgorer adran 80 (cyfrifo cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai);

(c)hepgorer adran 80ZA (symiau cymhorthdal negyddol a fo’n daladwy i berson priodol);

(d)hepgorer adran 80A (penderfyniad terfynol ynglŷn â’r swm o gymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai);

(e)hepgorer adran 80B (cytundebau i eithrio awdurdodau neu eiddo penodol);

(f)hepgorer adran 85 (y pŵer i gael gwybodaeth);

(g)hepgorer adran 86 (adennill cymhorthdal mewn rhai achosion).

(4)Yn Atodlen 4 (cadw’r Cyfrif Refeniw Tai)—

(a)yn Rhan 1 (credydau i’r Cyfrif), hepgorer Eitem 3 (cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai);

(b)yn Rhan 2 (debydau i’r Cyfrif), hepgorer Eitem 5 (symiau sy’n daladwy o dan adran 80ZA);

(c)yn Rhan 3 (achosion arbennig), hepgorer paragraff 2 (balans credyd pan nad yw cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai yn daladwy) a’r pennawd yn union cyn y paragraff hwnnw.

Taliadau mewn perthynas â Chyfrifon Refeniw Tai

132Taliadau setlo

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud dyfarniad sy’n darparu ar gyfer cyfrifo swm taliad mewn perthynas â phob awdurdod tai lleol sy’n cadw Cyfrif Refeniw Tai.

(2)Cyfeirir at daliad o’r math a grybwyllir yn is-adran (1) yn y Rhan hon fel “taliad setlo”.

(3)Caiff dyfarniad o dan yr adran hon ddarparu ar gyfer cyfrifo’r swm cyfan neu ran o’r swm yn unol â fformiwla neu fformiwlâu.

(4)Wrth benderfynu ar fformiwla at y diben hwn, caiff Gweinidogion Cymru gynnwys newidynnau sy’n cael eu ffurfio gan gyfeirio at y cyfryw faterion y maent yn eu hystyried yn briodol.

(5)Caiff dyfarniad o dan yr adran hon ddarparu bod effaith y cyfrifiad mewn perthynas ag awdurdod tai lleol fel a ganlyn—

(a)bod yn rhaid i Weinidogion Cymru wneud taliad setlo i’r awdurdod tai lleol,

(b)bod yn rhaid i’r awdurdod tai lleol wneud taliad setlo i Weinidogion Cymru, neu

(c)mai dim yw swm taliad setlo yng nghyswllt yr awdurdod hwnnw.

(6)Nid yw is-adrannau (3), (4) a (5) yn cyfyngu ar gyffredinolrwydd y pŵer a roddir gan is-adran (1).

133Taliadau pellach

(1)Os oes taliad setlo wedi ei wneud mewn perthynas ag awdurdod tai lleol, caiff Gweinidogion Cymru, o bryd i’w gilydd, ddyfarnu bod yn rhaid gwneud taliad pellach a gyfrifir yn unol â’r dyfarniad—

(a)gan Weinidogion Cymru i’r awdurdod tai lleol, neu

(b)gan yr awdurdod tai lleol i Weinidogion Cymru.

(2)Ond ni all Gweinidogion Cymru wneud dyfarniad o dan yr adran hon ond pan fo is-adran (3) neu (4) yn gymwys.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os bu newid mewn unrhyw fater a gymerwyd i ystyriaeth wrth wneud—

(a)y dyfarniad mewn perthynas â’r taliad setlo neu gyfrifiad o dan y dyfarniad hwnnw, neu

(b)dyfarniad blaenorol o dan yr adran hon mewn perthynas â’r awdurdod tai lleol neu gyfrifiad o dan y dyfarniad hwnnw.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y cafodd gwall ei ddwyn i ystyriaeth wrth wneud unrhyw benderfyniad neu gyfrifiad o’r math a grybwyllir yn is-adran (3).

(5)Caniateir amrywio neu ddirymu dyfarniad o dan yr adran hon gan ddyfarniad dilynol.

134Darpariaeth atodol ynghylch taliadau

(1)Rhaid gwneud taliad o dan y Rhan hon yn y cyfryw randaliadau, ar y cyfryw adegau ac yn unol â’r cyfryw drefniadau a benderfynir gan Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i awdurdod tai lleol ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani wrth wneud taliad o dan y Rhan hon.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru godi llog ar awdurdod tai lleol, ar y cyfryw gyfraddau ac am y cyfryw gyfnodau a benderfynir gan Weinidogion Cymru, ar unrhyw swm a fo’n daladwy gan yr awdurdod tai lleol o dan y Rhan hon nas talwyd erbyn yr adeg a benderfynwyd ar gyfer y taliad o dan yr adran hon.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru godi swm ar awdurdod tai lleol a fo’n gyfwerth ag unrhyw gostau ychwanegol yr aeth Gweinidogion Cymru iddynt o ganlyniad i unrhyw swm a fo’n daladwy gan yr awdurdod tai lleol o dan y Rhan hon nas talwyd erbyn yr adeg a benderfynwyd ar gyfer y taliad o dan yr adran hon.

(5)Rhaid i daliad o dan y Rhan hon ac eithrio taliad o dan is-adran (3) neu (4)—

(a)os y’i gwneir gan awdurdod tai lleol, gael ei drin gan yr awdurdod fel gwariant cyfalaf at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003;

(b)os y’i gwneir i awdurdod tai lleol, gael ei drin gan yr awdurdod fel derbyniad cyfalaf at ddibenion y Bennod honno.

(6)Caiff dyfarniad o dan y Rhan hon ei gwneud hi’n ofynnol i daliad i awdurdod tai lleol a wneir o dan y Rhan hon gael ei ddefnyddio gan yr awdurdod at ddiben a bennir yn y dyfarniad.

(7)Rhaid i awdurdod tai lleol y mae gofyniad o’r fath yn gymwys iddo gydymffurfio â’r gofyniad.

(8)Yn Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cadw’r Cyfrif Refeniw Tai), yn Rhan 2 (debydau i’r cyfrif) wedi Eitem 5A (symiau sy’n daladwy o dan adran 170 o Ddeddf Lleoliaeth 2011) mewnosoder—

Darpariaeth gyffredinol

135Darparu gwybodaeth ar gais

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol ddarparu i Weinidogion Cymru y gyfryw wybodaeth y caiff Gweinidogion Cymru ei phennu at ddibenion galluogi Gweinidogion Cymru i arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru arfer eu pwerau o dan yr adran hon yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achos neilltuol.

(3)Os bydd awdurdod tai lleol yn peidio â chydymffurfio â’r adran hon cyn pen unrhyw gyfnod y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu, caiff Gweinidogion Cymru arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ar sail unrhyw ragdybiaethau ac amcangyfrifon y mae Gweinidogion Cymru yn gweld yn dda.

136Dyfarniadau o dan y Rhan hon

(1)Caiff dyfarniad o dan y Rhan hon wneud gwahanol ddarpariaeth ar gyfer gwahanol achosion neu ddisgrifiadau o achos, gan gynnwys gwahanol ddarpariaeth—

(a)ar gyfer gwahanol ardaloedd;

(b)ar gyfer gwahanol awdurdodau tai lleol;

(c)ar gyfer gwahanol ddisgrifiadau o awdurdod tai lleol.

(2)Cyn gwneud dyfarniad o dan y Rhan hon sy’n ymwneud â phob awdurdod tai lleol neu ddisgrifiad o awdurdod tai leol, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw—

(a)gynrychiolwyr llywodraeth leol yng Nghymru, a

(b)personau eraill,

ag y bo’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(3)Cyn gwneud dyfarniad o dan y Rhan hon sy’n ymwneud ag awdurdod tai lleol neilltuol, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdod tai lleol hwnnw.

(4)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol wedi gwneud dyfarniad o dan y Rhan hon, rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r dyfarniad at yr awdurdod neu’r awdurdodau tai lleol y mae’n ymwneud â hwy.

(5)Mae is-adrannau (4) i (7) o adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (defnyddio dulliau cyfathrebu electronig i anfon copïau o ddyfarniadau) yn berthnasol i ddyfarniad o dan y Rhan hon fel ag y maent yn berthnasol i ddyfarniad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ran 6 o’r Ddeddf honno.