xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CDIGARTREFEDD

PENNOD 2LL+CCYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

Termau allweddolLL+C

54Cymhwyso termau allweddolLL+C

Mae adrannau 55 i 59 yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 54 mewn grym ar 27.4.2015 gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 5

55Ystyr digartrefedd a’r bygythiad o ddigartrefeddLL+C

(1)Mae person yn ddigartref os nad oes unrhyw lety ar gael i’r person ei feddiannu, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, y mae’r person—

(a)â hawl i’w feddiannu yn rhinwedd buddiant ynddo neu yn rhinwedd gorchymyn llys,

(b)â thrwydded datganedig neu oblygedig i’w feddiannu, neu

(c)yn ei feddiannu fel preswylfa yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol cyfreithiol sy’n rhoi i’r person yr hawl i barhau i feddiannu neu’n cyfyngu ar hawl person arall i adennill meddiant.

(2)Mae person yn ddigartref hefyd os oes gan y person lety ond—

(a)nad yw’n gallu cael mynediad iddo, neu

(b)mae’n strwythur, yn gerbyd neu’n gwch symudol, sydd wedi ei ddylunio neu ei addasu i bobl fyw ynddo ac nad oes unrhyw fan lle mae’r person â’r hawl neu’r caniatâd i’w leoli ac hefyd i fyw ynddo.

(3)Ni chaniateir i berson gael ei drin fel person sydd â llety oni bai ei fod yn lety y byddai’n rhesymol i’r person barhau i’w feddiannu.

(4)Mae person o dan fygythiad o ddigartrefedd os yw’n debygol y bydd y person yn dod yn ddigartref o fewn 56 o ddiwrnodau.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I4A. 55 mewn grym ar 27.4.2015 gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 6

56Ystyr llety sydd ar gael i’w feddiannuLL+C

(1)Caniateir i lety gael ei ystyried yn llety sydd ar gael i berson ei feddiannu ond os yw ar gael i’r person hwnnw ei feddiannu ynghyd ag—

(a)unrhyw berson arall sy’n preswylio gyda’r person hwnnw fel arfer fel aelod o’i deulu, neu

(b)unrhyw berson arall y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r person hwnnw.

(2)Dylid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at sicrhau bod llety ar gael i berson ei feddiannau yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I6A. 56 mewn grym ar 27.4.2015 gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 7

57A yw’n rhesymol parhau i feddiannu lletyLL+C

(1)Nid yw’n rhesymol i berson barhau i feddiannu llety os yw’n debygol y bydd yn arwain at fod y person hwnnw, neu aelod o aelwyd y person hwnnw, yn wynebu camdriniaeth.

(2)Yn yr adran hon ystyr “aelod o aelwyd y person” yw—

(a)person sy’n preswylio gydag ef fel arfer fel aelod o’i deulu, neu

(b)unrhyw berson arall y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r person hwnnw.

(3)Wrth benderfynu a fyddai’n rhesymol, neu y byddai wedi bod yn rhesymol, i berson barhau i feddiannu llety—

(a)caiff awdurdod tai lleol roi sylw i’r amgylchiadau cyffredinol presennol mewn perthynas â thai yn ardal yr awdurdod tai lleol y mae’r person wedi gwneud cais iddo am gymorth i sicrhau llety;

(b)rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i pa un a yw’r llety yn fforddiadwy i’r person hwnnw ai peidio.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru bennu’r canlynol drwy orchymyn—

(a)amgylchiadau eraill lle bydd yn cael ei ystyried yn rhesymol neu’n afresymol i berson barhau i feddiannu llety, a

(b)materion eraill i’w hystyried neu eu diystyru wrth benderfynu a fyddai’n rhesymol, neu y byddai wedi bod yn rhesymol, i berson barhau i feddiannu llety.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I8A. 57 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2

I9A. 57 mewn grym ar 27.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 8

58Ystyr camdriniaeth a camdriniaeth ddomestigLL+C

(1)Ystyr “camdriniaeth” yw trais corfforol, ymddygiad bygythiol neu fygylus ac unrhyw ffurf arall ar gamdriniaeth a all, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, arwain at y perygl o niwed; ac ystyr “camdriniaeth ddomestig” yw camdriniaeth sy’n dod o du person sy’n gysylltiedig â’r dioddefwr.

(2)Mae person yn gysylltiedig â pherson arall os ydynt—

(a)yn briod â’i gilydd neu wedi bod yn briod â’i gilydd;

(b)yn bartneriaid sifil i’w gilydd neu wedi bod yn bartneriaid sifil i’w gilydd;

(c)yn byw â’i gilydd neu wedi bod yn byw â’i gilydd mewn perthynas deuluol barhaus (pa un ai os ydynt o rywiau gwahanol neu o’r un rhyw);

(d)yn byw neu wedi byw ar yr un aelwyd;

(e)yn berthnasau;

(f)wedi cytuno i briodi ei gilydd (pa un a yw’r cytundeb hwnnw wedi ei derfynu ai peidio);

(g)wedi ymrwymo i gytundeb partneriaeth sifil rhyngddynt (pa un a yw’r cytundeb hwnnw wedi ei derfynu ai peidio);

(h)mewn perthynas bersonol agos â’i gilydd, neu wedi bod mewn perthynas o’r fath, sydd, neu a oedd, wedi parhau am gyfnod sylweddol;

(i)mewn perthynas â phlentyn, y naill a’r llall yn rhiant i’r plentyn neu â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, neu wedi bod â chyfrifoldeb o’r fath.

(3)Os yw plentyn wedi ei fabwysiadu neu yn dod o fewn is-adran (4), mae dau berson hefyd yn gysylltiedig â’i gilydd at ddibenion y Bennod hon—

(a)os yw un yn rhiant naturiol i’r plentyn neu’n rhiant i riant naturiol o’r fath, a

(b)y person arall yw—

(i)y plentyn, neu

(ii)person sydd wedi dod yn rhiant i’r plentyn yn rhinwedd gorchymyn mabwysiadu, sydd wedi gwneud cais am orchymyn mabwysiadu neu y mae’r plentyn wedi ei leoli gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu ar unrhyw adeg.

(4)Mae plentyn yn dod o fewn yr adran hon—

(a)os yw asiantaeth fabwysiadu, o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, wedi ei hawdurdodi i leoli’r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu o dan adran 19 o’r Ddeddf honno (gosod plentyn â chydsyniad rhiant) neu mae’r plentyn wedi dod yn destun gorchymyn o dan adran 21 o’r Ddeddf honno (gorchmynion lleoli), neu

(b)os yw’r plentyn yn cael ei ryddhau ar gyfer ei fabwysiadu yn rhinwedd gorchymyn a wneir—

(i)yng Nghymru a Lloegr, o dan adran 18 o Ddeddf Mabwysiadu 1976,

(ii)yng Ngogledd Iwerddon, o dan Erthygl 17(1) neu 18(1) o Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 1987, neu

(c)os yw’r plentyn yn destun gorchymyn parhauster yn yr Alban sy’n cynnwys rhoi’r awdurdod i fabwysiadu.

(5)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I11A. 58 mewn grym ar 27.4.2015 gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 9

59Addasrwydd lletyLL+C

(1)Wrth benderfynu a yw llety’n addas ar gyfer person, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i’r deddfiadau canlynol—

(a)Rhan 9 o Ddeddf Tai 1985 (clirio slymiau);

(b)Rhan 10 o Ddeddf Tai 1985 (gorlenwi);

(c)Rhan 1 o Ddeddf Tai 2004 (cyflwr tai);

(d)Rhan 2 o Ddeddf Tai 2004 (trwyddedu tai amlfeddiannaeth);

(e)Rhan 3 o Ddeddf Tai 2004 (trwyddedu dethol ar gyfer llety preswyl arall);

(f)Rhan 4 o Ddeddf Tai 2004 (darpariaethau rheoli atodol mewn perthynas â llety preswyl);

(g)Rhan 1 o’r Ddeddf hon (rheoleiddio tai rhentu preifat).

(2)Wrth benderfynu a yw llety’n addas ar gyfer person, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i pa un a yw’r llety yn fforddiadwy i’r person hwnnw ai peidio.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru bennu’r canlynol drwy orchymyn—

(a)amgylchiadau lle bo llety i’w ystyried yn addas ar gyfer person, a lle na fo i’w ystyried felly, a

(b)materion i’w hystyried neu i’w diystyru wrth benderfynu a yw llety yn addas ar gyfer person.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I13A. 59 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2

I14A. 59 mewn grym ar 27.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 10