RHAN 2DIGARTREFEDD

PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

Hawl i adolygiad ac apêl

I1I785Hawl i ofyn am adolygiad

1

Mae gan geisydd yr hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniadau canlynol—

a

penderfyniad awdurdod tai lleol ynghylch chymhwystra’r ceisydd ar gyfer cymorth;

b

penderfyniad awdurdod tai lleol nad oes dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66, 68, 73, neu 75 (dyletswyddau i geiswyr sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd);

c

penderfyniad awdurdod tai lleol bod dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66, 68, 73, neu 75 wedi dod i ben (gan gynnwys pan fo’r awdurdod wedi atgyfeirio achos y ceisydd at awdurdod arall neu wedi penderfynu bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio wedi eu bodloni).

2

Pan fo’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 73 wedi dod i ben o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 74(2) neu (3), mae gan geisydd yr hawl i ofyn am adolygiad o pa un a gafodd camau rhesymol eu cymryd yn ystod y cyfnod yr oedd y ddyletswydd o dan adran 73 yn ddyledus i gynorthwyo i sicrhau y byddai llety addas ar gael iddo ei feddiannu ai peidio.

3

Caiff ceisydd y cynigir llety iddo wrth gyflawni unrhyw ddyletswydd o dan y Bennod hon, neu mewn perthynas â hi, ofyn am adolygiad o addasrwydd y llety a gynigir i’r ceisydd (pa un a yw wedi derbyn y cynnig ai peidio).

4

Nid oes hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad a wnaed mewn adolygiad cynharach.

5

Rhaid gwneud cais am adolygiad cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau (neu’r cyfryw gyfnod hirach ag y caiff yr awdurdod ei ganiatáu yn ysgrifenedig) gan ddechrau gyda’r diwrnod yr hysbysir y ceisydd am benderfyniad yr awdurdod.

6

Pan gyflwynir cais iddynt, rhaid i’r awdurdod neu’r awdurdodau o dan sylw adolygu eu penderfyniad.

I2I6I886Gweithdrefn ar gyfer adolygiad

1

Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ynghylch y weithdrefn i’w dilyn mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 85.

2

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud y canlynol, er enghraifft,—

a

ei gwneud yn ofynnol i’r penderfyniad ar adolygiad gael ei wneud gan berson ar y lefel briodol nad oedd yn ymwneud â’r penderfyniad gwreiddiol, a

b

darparu ar gyfer yr amgylchiadau lle bydd y ceisydd â’r hawl i wrandawiad llafar, ac a ganiateir yr hawl i’r ceisydd gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad o’r fath, a chan bwy, a

c

darparu ar gyfer y cyfnod y mae’n rhaid cynnal yr adolygiad a rhoi hysbysiad ynghylch y penderfyniad ynddo.

3

Rhaid i’r awdurdod perthnasol, neu yn ôl y digwydd y naill neu’r llall o’r awdurdodau perthnasol, hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad ynghylch yr adolygiad.

4

Rhaid i’r awdurdod hefyd hysbysu’r ceisydd am y rhesymau dros y penderfyniad, os yw’r penderfyniad—

a

yn cadarnhau’r penderfyniad gwreiddiol ar unrhyw fater yn groes i fuddiannau’r ceisydd, neu

b

yn cadarnhau y cafodd camau rhesymol eu cymryd.

5

Pa fodd bynnag, rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd am ei hawl i apelio i’r llys sirol ar bwynt cyfreithiol, ac am y cyfnod y mae’n rhaid cyflwyno apêl o’r fath ynddo (gweler adran 88).

6

Ni chaniateir trin hysbysiad am y penderfyniad fel un sydd wedi ei roi oni chydymffurfir ag is-adran (5), a phan fo hynny’n gymwys is-adran (4), a hyd nes y gwneir hynny.

7

Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi i berson o dan yr adran hon gael ei roi yn ysgrifenedig ac, os nad yw’n dod i law’r person hwnnw, gael ei drin fel pe bai wedi ei roi os yw ar gael yn swyddfa’r awdurdod am gyfnod rhesymol i’w gasglu gan y person neu ar ran y person.

I3I987Effaith penderfyniad mewn adolygiad neu apêl na chafodd camau rhesymol eu cymryd

1

Mae is-adran (2) yn gymwys pan benderfynir mewn adolygiad o dan adran 85(2) neu mewn apêl yn erbyn penderfyniad o dan yr adran honno na chafodd camau rhesymol eu cymryd.

2

Mae’r ddyletswydd yn adran 73 yn gymwys i’r ceisydd eto, gyda’r addasiad bod y cyfnod o 56 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-adran (2) o adran 74 i’w ddehongli fel bod y cyfnod hwnnw’n dechrau ar y dyddiad y mae’r awdurdod yn hysbysu’r ceisydd am ei benderfyniad mewn adolygiad o dan adran 85(2) neu, mewn apêl, y cyfryw ddyddiad ag y caiff y llys ei orchymyn.

I4I1088Hawl i apelio i lys sirol ar bwynt cyfreithiol

1

Caiff ceisydd sydd wedi gofyn am adolygiad o dan adran 85 apelio i’r llys sirol ar unrhyw bwynt cyfreithiol sy’n codi o’r penderfyniad neu, yn ôl y digwydd, y penderfyniad gwreiddiol neu gwestiwn ynghylch a gymerwyd pob cam rhesymol—

a

os yw’r ceisydd yn anfodlon â’r penderfyniad yn yr adolygiad, neu

b

os nad yw’r ceisydd yn cael ei hysbysu am y penderfyniad yn yr adolygiad o fewn y cyfnod a ragnodir o dan adran 86.

2

Rhaid cyflwyno apêl o fewn 21 o ddiwrnodau i hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad neu, yn ôl y digwydd, i’r diwrnod y dylai’r ceisydd fod wedi cael ei hysbysu am benderfyniad mewn adolygiad.

3

Caiff y llys ganiatáu cyflwyno apêl ar ôl diwedd y cyfnod a ganiateir gan is-adran (2), ond dim ond os yw’n fodlon—

a

pan ofynnir am ganiatâd cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod rheswm da pam nad yw’r ceisydd yn gallu cyflwyno’r apêl mewn pryd, neu

b

pan ofynnir am ganiatâd ar ôl y cyfnod hwnnw, bod rheswm da dros fethiant y ceisydd i gyflwyno’r apêl mewn pryd ac am unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd.

4

Mewn apêl caiff y llys wneud y cyfryw orchymyn i gadarnhau, i ddiddymu neu i amrywio’r penderfyniad ag y gwêl yn dda.

5

Pan oedd yr awdurdod o dan ddyletswydd o dan adran 68, 75 neu 82 i sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, caiff sicrhau bod llety addas ar gael yn y fath fodd—

a

yn ystod y cyfnod ar gyfer apelio o dan yr adran hon yn erbyn penderfyniad yr awdurdod, a

b

os cyflwynir apêl, hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr apêl (ac unrhyw apêl bellach).

I5I1189Apelau yn erbyn gwrthodiad i letya wrth aros am apêl

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gan geisydd yr hawl i apelio i’r llys sirol o dan adran 88.

2

Caiff ceisydd apelio i’r llys sirol yn erbyn penderfyniad yr awdurdod—

a

i beidio ag arfer ei bŵer o dan adran 88(5) (“y pŵer adran 88(5)”) yn achos y ceisydd,

b

i arfer y pŵer hwnnw am gyfnod cyfyngedig sy’n dod i ben cyn penderfyniad terfynol y llys sirol ynghylch apêl y ceisydd o dan adran 88(1) (“y brif apêl”), neu

c

i roi’r gorau i arfer y pŵer hwnnw cyn y penderfyniad terfynol.

3

Ni chaniateir cyflwyno apêl o dan yr adran hon wedi i’r llys sirol wneud ei benderfyniad terfynol ar y brif apêl.

4

Mewn apêl o dan yr adran hon—

a

caiff y llys orchymyn yr awdurdod i sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu hyd nes y penderfynir ar yr apêl (neu hyd y cyfryw amser cynharach ag y caiff y llys ei bennu), a

b

rhaid i’r llys gadarnhau neu ddiddymu’r penderfyniad y cyflwynwyd apêl yn ei erbyn.

5

Wrth ystyried pa un ai i gadarnhau neu i ddiddymu’r penderfyniad rhaid i’r llys gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysa’r Uchel Lys mewn cais am adolygiad barnwrol.

6

Os diddyma’r llys y penderfyniad caiff orchymyn yr awdurdod i arfer y pŵer adran 88(5) yn achos y ceisydd am y cyfryw gyfnod ag y ceir ei bennu yn y gorchymyn.

7

Yn achos gorchymyn o dan is-adran (6)—

a

caniateir gwneud gorchymyn dim ond os yw’r llys yn fodlon y byddai methu ag arfer y pŵer adran 88(5) yn unol â’r gorchymyn yn rhagfarnu yn sylweddol allu’r ceisydd i fwrw ymlaen â’r brif apêl;

b

ni chaiff gorchymyn bennu unrhyw gyfnod sy’n dod i ben ar ôl i’r llys sirol wneud ei benderfyniad terfynol ar y brif apêl.