Search Legislation

Deddf Tai (Cymru) 2014

Status:

This is the original version (as it was originally enacted).

RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

Cyflwyniad

1Trosolwg o’r Rhan hon

(1)Mae’r Rhan hon yn rheoleiddio—

(a)gosod anheddau o dan fathau penodol o denantiaethau (a ddiffinnir fel “tenantiaethau domestig” yn adran 2), a

(b)rheolaeth anheddau sy’n ddarostyngedig i’r cyfryw denantiaethau,

drwy gyfrwng system gofrestru a thrwyddedu.

(2)Mae’n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid—

(a)bod yn gofrestredig ar gyfer pob annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, neu’n cael ei marchnata neu ei chynnig ar gyfer ei gosod o dan denantiaeth o’r fath, y maent yn landlordiaid mewn perthynas â hwy (adran 4), yn ddarostyngedig i eithriadau (adran 5);

(b)bod yn drwyddedig i ymgymryd â mathau penodol o weithgareddau gosod ar gyfer anheddau sy’n cael eu marchnata neu eu cynnig ar gyfer eu gosod o dan denantiaethau domestig (adran 6), yn ddarostyngedig i eithriadau (adran 8);

(c)bod yn drwyddedig i ymgymryd â mathau penodol o weithgareddau rheoli eiddo ar gyfer anheddau sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig (adran 7), yn ddarostyngedig i eithriadau (adran 8).

(3)Mae’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n gweithredu ar ran landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd â’r canlynol—

(a)gwaith gosod mewn perthynas ag annedd sy’n cael ei marchnata neu ei chynnig ar gyfer ei gosod o dan denantiaeth ddomestig (adran 9);

(b)gwaith rheoli eiddo mewn perthynas ag annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig (adran 11).

(4)Mae “gwaith gosod” a “gwaith rheoli eiddo” wedi eu diffinio at ddibenion y Rhan hon yn adrannau 10 a 12; mae’r diffiniadau yn eithrio personau a gweithgareddau penodol o’r gofynion trwyddedu a osodir ar bersonau sy’n gweithredu ar ran landlordiaid.

(5)Mae’r system o gofrestru a thrwyddedu i’w gweinyddu a’i gorfodi gan berson a ddynodir gan Weinidogion Cymru fel yr awdurdod trwyddedu ar gyfer Cymru gyfan neu gan wahanol bersonau a ddynodir fel awdurdodau trwyddedu ar gyfer gwahanol ardaloedd o fewn Cymru (adran 3); gwneir darpariaeth hefyd sy’n galluogi awdurdodau tai lleol i arfer pwerau gorfodi penodol.

(6)Mae adrannau 14 i 17 ac Atodlen 1 yn darparu ar gyfer sefydlu a chynnal cofrestr gan yr awdurdod trwyddedu ac ar gyfer cofrestru yn gyffredinol.

(7)Mae adrannau 18 i 27 yn darparu ar gyfer trwyddedau yn gyffredinol; ac

(a)ni chaiff awdurdod trwyddedu ond rhoi dau fath o drwydded (un ar gyfer landlordiaid a’r llall ar gyfer personau sy’n gweithredu ar ran landlordiaid) ac mae trwyddedau yn cael effaith mewn perthynas â’r ardal y mae awdurdod trwyddedu yn gyfrifol amdani (adran 18);

(b)er mwyn bod yn drwyddedig rhaid i berson gwrdd â meini prawf penodol, gan gynnwys bod yn berson addas a phriodol (adran 20) a gofynion sy’n ymwneud â hyfforddiant (gweler adran 19).

(8)Mae’r gofynion a osodir gan y Rhan hon yn cael eu gorfodi gan—

(a)troseddau mewn perthynas â thorri gofynion cofrestru a thrwyddedu (gweler yr adrannau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (2) a (3) ac adrannau 16(3), 23(3), 38(1) a (4) a 39(1) a (2));

(b)hysbysiadau cosbau penodedig (adran 29);

(c)gorchmynion atal rhent (adrannau 30 a 31);

(d)gorchmynion ad-dalu rhent (adrannau 32 a 33).

(9)Mae adrannau 36 i 39 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr wybodaeth sy’n ofynnol neu’n cael ei rhoi at ddibenion y Rhan hon.

(10)Mae adran 40 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi cod ymarfer a gwneir darpariaeth ar gyfer canllawiau (adran 41) a chyfarwyddiadau (adran 42).

(11)Mae adrannau 43 i 48 yn gwneud darpariaeth atodol.

(12)Mae adran 49 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch dehongli ac yn mynegeio’r termau wedi eu diffinio a ddefnyddir yn y Rhan hon.

2Ystyr y prif dermau

(1)Yn y Rhan hon—

  • ystyr “annedd” (“dwelling”) yw adeilad neu ran o adeilad a feddiennir neu y bwriedir ei feddiannu fel annedd ar wahân, ynghyd ag unrhyw fuarth, gardd, tai allan ac atodynnau sy’n perthyn iddo neu a fwynheir gydag ef fel arfer, pan fo’r annedd gyfan yng Nghymru;

  • ystyr “eiddo ar rent” (“rental property”) yw annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, neu sy’n cael ei marchnata neu ei chynnig i’w gosod o dan denantiaeth o’r fath;

  • ystyr “landlord” (“landlord”)—

    (a)

    mewn perthynas ag annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, yw’r landlord uniongyrchol neu, mewn perthynas â thenant statudol, y person a fyddai, ar wahân i’r denantiaeth statudol, â’r hawl i feddiannu’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r denantiaeth, a

    (b)

    mewn perthynas ag annedd nad yw’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, y person a fyddai’n landlord uniongyrchol pe bai’r annedd yn cael ei gosod o dan denantiaeth ddomestig;

  • ystyr “tenantiaeth ddomestig” (“domestic tennancy”) yw—

    (a)

    tenantiaeth sy’n denantiaeth sicr at ddibenion Deddf Tai 1988 (sy’n cynnwys tenantiaeth fyrddaliol sicr), ac eithrio—

    (i)

    pan fo’r denantiaeth yn les hir at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (“Deddf 1993”), neu

    (ii)

    yn achos les ranberchenogaeth (o fewn yr ystyr a roddir i “shared ownership lease” gan adran 7(7) o Ddeddf 1993), tenantiaeth a fyddai’n les o’r fath pe bai cyfran y tenant (o fewn yr ystyr a roddir gan yr adran honno) yn 100 y cant;

    (b)

    tenantiaeth reoleiddiedig at ddibenion Deddf Rhenti 1977, neu

    (c)

    tenantiaeth y mae annedd yn cael ei gosod fel annedd ar wahân oddi tani ac sydd o ddisgrifiad a bennir at ddibenion y Rhan hon mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Yn yr adran hon, ystyr “tenant statudol” a “tenantiaeth statudol” yw tenant statudol neu denantiaeth statudol o fewn yr ystyr a roddir i “statutory tenant” a “statutory tenancy” yn Neddf Rhenti 1977.

3Awdurdod trwyddedu

(1)At ddibenion y Rhan hon rhaid i Weinidogion Cymru wneud y naill neu’r llall o’r canlynol drwy orchymyn—

(a)dynodi un person fel yr awdurdod trwyddedu ar gyfer Cymru gyfan, neu

(b)dynodi gwahanol bersonau fel awdurdodau trwyddedu ar gyfer gwahanol ardaloedd o Gymru a bennir yn y gorchymyn, ar yr amod nad oes gan yr un ardal fwy nag un awdurdod trwyddedu a bod yr holl ardaloedd gyda’i gilydd, yn cynnwys Cymru gyfan.

(2)Mewn perthynas â Gweinidogion Cymru—

(a)ni chaiff Gweinidogion Cymru ond dynodi person sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus mewn perthynas â Chymru yn llwyr neu yn bennaf;

(b)caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi eu hunain;

(c)ni chaiff Gweinidogion Cymru ddynodi un o Weinidogion y Goron.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth y maent yn ei hystyried yn angenrheidiol neu’n hwylus mewn perthynas â dynodi person o dan yr adran hon.

(4)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw berson y maent yn bwriadu ei ddynodi (ac eithrio hwy eu hunain) a’r cyfryw bersonau eraill ag y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

Gwahardd gosod a rheoli heb gofrestriad a thrwydded

4Gofyniad i landlord fod yn gofrestredig

(1)Rhaid i landlord annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, neu sy’n cael ei marchnata neu ei chynnig i’w gosod o dan denantiaeth o’r fath, fod yn gofrestredig o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r annedd (gweler adrannau 14 i 17), oni bai bod eithriad yn adran 5 yn gymwys.

(2)Mae landlord sy’n torri is-adran (1) yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(3)Mewn achos yn erbyn landlord am drosedd o dan is-adran (2) mae’r ffaith bod gan y landlord esgus rhesymol am beidio â bod yn gofrestredig yn amddiffyniad.

5Eithriadau i’r gofyniad i landlord fod yn gofrestredig

Nid yw’r gofyniad yn adran 4(1) yn gymwys—

(a)os yw’r landlord wedi gwneud cais i’r awdurdod trwyddedu i fod yn gofrestredig mewn perthynas â’r annedd honno ac na phenderfynwyd ar y cais;

(b)am gyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr aseinir buddiant y landlord yn yr annedd i’r landlord;

(c)os yw’r landlord yn cymryd camau i adennill meddiant o’r annedd o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr aseinir buddiant y landlord yn yr annedd i’r landlord, am ba hyd bynnag ag y bydd y landlord yn parhau yn ddiwyd i geisio adennill meddiant;

(d)i landlord sy’n landlord cymdeithasol cofrestredig;

(e)i landlord sy’n gymdeithas dai gwbl gydfuddiannol;

(f)i berson o ddisgrifiad a bennir at ddibenion yr adran hon mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

6Gofyniad i landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau gosod

(1)Ni chaniateir i landlord annedd sy’n cael ei marchnata neu ei chynnig i’w gosod o dan denantiaeth ddomestig wneud unrhyw un o’r pethau a ddisgrifir yn is-adran (2) mewn perthynas â’r annedd oni bai—

(a)bod y landlord yn drwyddedig i wneud hynny o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi,

(b)mai’r hyn a wneir yw trefnu i asiant awdurdodedig wneud rhywbeth ar ran y landlord, neu

(c)bod eithriad yn adran 8 yn gymwys.

(2)Y pethau yw—

(a)trefnu neu gynnal ymweliadau gan ddarpar denantiaid;

(b)casglu tystiolaeth at ddiben penderfynu ar addasrwydd darpar denantiaid (er enghraifft, drwy gadarnhau tystlythyrau, cynnal gwiriadau credyd neu gyfweld darpar denantiaid);

(c)paratoi, neu drefnu i baratoi, cytundeb tenantiaeth;

(d)paratoi, neu drefnu i baratoi, stocrestr ar gyfer yr annedd neu restr gyflwr ar gyfer yr annedd.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy orchymyn—

(a)diwygio neu hepgor y disgrifiadau o bethau yn is-adran (2) (gan gynnwys pethau a ychwanegir o dan baragraff (b));

(b)ychwanegu disgrifiadau pellach o bethau at is-adran (2).

(4)Mae landlord sy’n torri is-adran (1) yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

(5)Mewn achos yn erbyn landlord am drosedd o dan is-adran (4) mae’r ffaith bod gan y landlord esgus rhesymol am beidio â bod yn drwyddedig yn amddiffyniad.

(6)Yn is-adran (1) ystyr “asiant awdurdodedig” yw—

(a)person sy’n drwyddedig i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y lleolir yr annedd ynddi,

(b)awdurdod tai lleol (pa un a yw’n arfer ei swyddogaethau fel awdurdod tai lleol ai peidio), neu

(c)mewn perthynas â pharatoi, neu drefnu i baratoi cytundeb tenantiaeth yn unig, cyfreithiwr cymwysedig (o fewn yr ystyr a roddir i “qualified solicitor” yn Rhan 1 o Ddeddf Cyfreithwyr 1974), person sy’n gweithredu ar ran cyfreithiwr o’r fath neu unrhyw berson o ddisgrifiad a bennir mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

7Gofyniad i landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau rheoli eiddo

(1)Ni chaniateir i landlord annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig wneud unrhyw un o’r pethau a ddisgrifir yn is-adran (2) mewn perthynas â’r annedd oni bai—

(a)bod y landlord yn drwyddedig i wneud hynny o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y lleolir yr annedd ynddi,

(b)mai’r peth a wneir yw trefnu i asiant awdurdodedig wneud rhywbeth ar ran y landlord, neu

(c)bod eithriad yn adran 8 yn gymwys.

(2)Y pethau yw—

(a)casglu rhent;

(b)bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer y tenant mewn perthynas â materion sy’n codi o dan y denantiaeth;

(c)gwneud trefniadau gyda pherson i ymgymryd â gwaith trwsio neu gynnal a chadw;

(d)gwneud trefniadau gyda thenant neu feddiannwr yr annedd i sicrhau mynediad i’r annedd at unrhyw ddiben;

(e)cadarnhau cynnwys neu gyflwr yr annedd, neu drefnu iddynt gael eu cadarnhau;

(f)cyflwyno hysbysiad terfynu tenantiaeth.

(3)Ni chaiff landlord annedd a oedd yn ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, ond nad yw bellach yn ddarostyngedig i’r denantiaeth ddomestig honno, gadarnhau cyflwr neu gynnwys yr annedd, neu drefnu iddynt gael eu cadarnhau, at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â’r denantiaeth oni bai—

(a)bod y landlord yn drwyddedig i wneud hynny o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi,

(b)mai’r peth sy’n cael ei wneud yw trefnu i asiant awdurdodedig wneud hynny ar ran y landlord, neu

(c)bod eithriad yn adran 8 yn gymwys.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy orchymyn—

(a)diwygio neu hepgor y disgrifiadau o bethau yn is-adran (2) neu (3) (gan gynnwys pethau a ychwanegir o dan baragraff (b)) na chaiff landlord ei wneud oni bai bod unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (c) o is-adran (1) neu (3) yn gymwys (yn ôl y digwydd);

(b)ychwanegu disgrifiadau pellach o bethau at ddibenion yr adran hon (gan gynnwys drwy ddiwygio’r Rhan hon).

(5)Mae landlord sy’n torri is-adran (1) neu (3) yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

(6)Mewn achos yn erbyn landlord am drosedd o dan is-adran (5) mae’r ffaith bod gan y landlord esgus rhesymol am beidio â bod yn drwyddedig yn amddiffyniad.

(7)Yn is-adran (1) ystyr “asiant awdurdodedig” yw—

(a)person sy’n drwyddedig i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y lleolir yr annedd ynddi,

(b)awdurdod tai lleol (pa un a yw’n arfer ei swyddogaethau fel awdurdod tai lleol ai peidio), neu

(c)mewn perthynas â chyflwyno hysbysiad terfynu tenantiaeth yn unig, cyfreithiwr cymwysedig (o fewn yr ystyr a roddir i “qualified solicitor” yn Rhan 1 o Ddeddf Cyfreithwyr 1974), person sy’n gweithredu ar ran cyfreithiwr o’r fath neu unrhyw berson o ddisgrifiad a bennir mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

8Eithriadau i ofynion i landlord fod yn drwyddedig

Nid yw’r gofynion yn adrannau 6(1), 7(1) a 7(3) yn gymwys—

(a)os yw’r landlord wedi gwneud cais i’r awdurdod trwyddedu i fod yn drwyddedig, am y cyfnod o ddyddiad y cais hyd nes y bydd yr awdurdod yn penderfynu arno neu (os yw’r awdurdod yn gwrthod y cais) hyd nes y bydd pob dull o apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod y cais wedi ei ddisbyddu a’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau;

(b)am gyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr aseinir buddiant y landlord yn yr annedd i’r landlord;

(c)os yw’r landlord yn cymryd camau i adennill meddiant o’r eiddo o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr aseinir buddiant y landlord yn yr annedd i’r landlord, am ba hyd bynnag ag y bydd y landlord yn parhau yn ddiwyd i geisio adennill meddiant;

(d)i landlord sy’n landlord cymdeithasol cofrestredig;

(e)i landlord sy’n gymdeithas dai gwbl gydfuddiannol;

(f)mewn achosion a bennir at ddibenion yr adran hon mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

9Gofyniad i asiantau fod yn drwyddedig i ymgymryd â gwaith gosod

(1)Ni chaniateir i berson sy’n gweithredu ar ran landlord annedd sy’n cael ei marchnata neu ei chynnig i’w gosod o dan denantiaeth ddomestig ymgymryd â gwaith gosod mewn perthynas â’r annedd oni bai bod y person yn drwyddedig i wneud hynny o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi.

(2)Mae person sy’n torri yr adran hon yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

(3)Mewn achos yn erbyn person am drosedd a gyflawnwyd o dan is-adran (2) mae’r ffaith bod gan y person esgus rhesymol am fethu â bod yn drwyddedig yn amddiffyniad.

10Ystyr gwaith gosod

(1)Yn y Rhan hon ystyr “gwaith gosod” yw’r pethau y mae unrhyw berson yn eu gwneud mewn ymateb i gyfarfwyddiadau gan—

(a)person sy’n ceisio canfod person arall sy’n dymuno rhentu annedd o dan denantiaeth ddomestig ac, ar ôl canfod y cyfryw berson, rhoi’r gyfryw denantiaeth (“darpar landlord”);

(b)person sy’n ceisio canfod annedd i’w rhentu o dan denantiaeth ddomestig ac, ar ôl canfod y gyfryw annedd, gael gafael ar y gyfryw denantiaeth ohoni (“darpar denant”);

yn ddarostyngedig i’r is-adrannau a ganlyn.

(2)Nid yw “gwaith gosod” yn cynnwys unrhyw beth ym mharagraffau (a) neu (b) a ganlyn—

(a)cyhoeddi hysbysebion neu ledaenu gwybodaeth;

(b)darparu dull—

(i)y gall darpar landlord (neu asiant y darpar landlord) neu ddarpar denant ei ddefnyddio, mewn ymateb i hysbyseb neu ledaeniad gwybodaeth, i gysylltu’n uniongyrchol â darpar denant neu (yn ôl y digwydd) ddarpar landlord (neu asiant y darpar landlord);

(ii)y gall darpar landlord (neu asiant y darpar landlord) a darpar denant ei ddefnyddio i barhau i gyfathrebu yn uniongyrchol â’i gilydd;

pan fo’n cael ei wneud gan berson—

(c)nad yw’n gwneud unrhyw beth arall o fewn is-adran (1), a

(d)nad yw’n gwneud gwaith rheoli eiddo mewn perthynas â’r eiddo.

(3)Nid yw “gwaith gosod” yn cynnwys gwneud unrhyw un o’r pethau ym mharagraffau (a) i (c) a ganlyn—

(a)trefnu a chynnal ymweliadau gan ddarpar denantiaid;

(b)paratoi, neu drefnu i baratoi, y cytundeb tenantiaeth;

(c)paratoi, neu drefnu i baratoi, unrhyw stocrestr neu restr o gyflwr;

pan fo’n cael ei wneud gan berson—

(d)nad yw’n gwneud unrhyw beth arall yn y paragraffau hynny nac unrhyw beth arall o fewn is-adran (1), ac

(e)nad yw’n gwneud unrhyw beth o fewn adran 12(1) mewn perthynas â’r eiddo.

(4)Nid yw “gwaith gosod” yn cynnwys y canlynol ychwaith—

(a)gwneud pethau o dan gontract gwasanaeth neu brentisiaeth gyda landlord;

(b)gwneud pethau o dan gontract gwasanaeth neu brentisiaeth, neu gontract am wasanaethau, gyda pherson sydd—

(i)wedi ei gyfarwyddo i ymgymryd â’r gwaith gan landlord, a

(ii)wedi ei drwyddedu i wneud hynny o dan y Rhan hon;

(c)unrhyw beth a wneir gan awdurdod tai lleol (pa un a yw’n arfer ei swyddogaethau fel awdurdod tai lleol ai peidio);

(d)pethau o ddisgrifiad, neu bethau a wneir gan berson o ddisgrifiad, a bennir at ddibenion yr adran hon mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

11Gofyniad i asiantau fod yn drwyddedig i ymgymryd â gwaith rheoli eiddo

(1)Ni chaniateir i berson sy’n gweithredu ar ran landlord annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig ymgymryd â gwaith rheoli eiddo mewn perthynas â’r annedd oni bai bod y person yn drwyddedig i wneud hynny o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi.

(2)Ni chaniatieir i berson sy’n gweithredu ar ran landlord annedd a oedd yn ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, ond nad yw bellach yn ddarostyngedig i’r denantiaeth ddomestig honno, gadarnhau cyflwr neu gynnwys yr annedd, neu drefnu iddynt gael eu cadarnhau, at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â’r denantiaeth oni bai—

(a)bod y person yn drwyddedig i wneud hynny o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi,

(b)bod y person yn ymatal rhag gwneud unrhyw beth arall mewn perthynas â’r annedd sy’n dod o fewn—

(i)adran 10(1), ac eithrio paratoi, neu drefnu i baratoi, unrhyw stocrestr neu restr o gyflwr, neu

(ii)adran 12(1), neu

(c)na fyddai’r gweithgaredd, yn rhinwedd adran 12(3), yn waith rheoli eiddo.

(3)Mae person sy’n torri is-adran (1) neu (2) yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

(4)Mewn achos yn erbyn person am drosedd a gyflawnwyd o dan is-adran (3) mae’r ffaith bod gan y person esgus rhesymol am fethu â bod yn drwyddedig yn amddiffyniad.

12Ystyr gwaith rheoli eiddo

(1)Yn y Rhan hon, ystyr “gwaith rheoli eiddo” yw gwneud unrhyw un o’r pethau canlynol—

(a)casglu rhent;

(b)bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer y tenant mewn perthynas â materion sy’n codi o dan y denantiaeth;

(c)gwneud trefniadau gyda pherson i ymgymryd â gwaith trwsio neu gynnal a chadw;

(d)gwneud trefniadau gyda thenant neu feddiannwr yr annedd i sicrhau mynediad i’r annedd at unrhyw ddiben;

(e)cadarnhau cynnwys neu gyflwr yr annedd, neu drefnu iddynt gael eu cadarnhau;

(f)cyflwyno hysbysiad terfynu tenantiaeth.

(2)Ond nid yw “gwaith rheoli eiddo” yn cynnwys gwneud unrhyw un o’r pethau ym mharagraffau (b) i (f) o is-adran (1) pan fo’n cael ei wneud gan berson—

(a)nad yw’n gwneud unrhyw beth arall o fewn is-adran (1), a

(b)nad yw’n gwneud unrhyw beth o fewn adran 10(1) mewn perthynas â’r annedd.

(3)Nid yw “gwaith rheoli eiddo” yn cynnwys y canlynol ychwaith—

(a)gwneud pethau o dan gontract gwasanaeth neu brentisiaeth gyda landlord;

(b)gwneud pethau o dan gontract gwasanaeth neu brentisiaeth, neu gontract am wasanaethau, gyda pherson sydd—

(i)wedi ei gyfarwyddo i ymgymryd â’r gwaith gan landlord, a

(ii)wedi ei drwyddedu i wneud hynny o dan y Rhan hon;

(c)unrhyw beth a wneir gan awdurdod tai lleol (pa un a yw’n arfer ei swyddogaethau fel awdurdod tai lleol ai peidio);

(d)pethau o ddisgrifiad, neu bethau a wneir gan berson o ddisgrifiad, a bennir at ddibenion yr adran hon mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

13Y drosedd o benodi asiant heb drwydded

(1)Ni chaniateir i landlord annedd sy’n cael ei marchnata neu ei chynnig ar osod o dan denantiaeth ddomestig benodi person i ymgymryd â gwaith gosod, neu barhau i adael i berson ymgymryd â gwaith gosod, ar ran y landlord mewn perthynas â’r annedd honno, os—

(a)nid yw’r person yn dal trwydded i wneud hynny o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi, a

(b)mae’r landlord yn gwybod neu dylai wybod nad yw’r person yn dal trwydded o’r fath.

(2)Rhaid i landlord annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig beidio â phenodi neu barhau i adael i berson ymgymryd â gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas â’r annedd honno, os—

(a)nid yw’r person yn dal trwydded i wneud hynny o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi, a

(b)mae’r landlord yn gwybod neu dylai wybod nad yw’r person yn dal trwydded o’r fath.

(3)Mae landlord sy’n torri is-adran (1) neu (2) yn cyflawni trosedd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y gyfradd safonol.

Cofrestru

14Dyletswydd i gynnal cofrestr mewn perthynas ag eiddo ar rent

(1)Rhaid i awdurdod trwyddedu greu a chynnal cofrestr ar gyfer ei ardal sydd yn cofnodi’r wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 1.

(2)Mae Rhan 2 o Atodlen 1 yn cynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â chaniatáu i’r cyhoedd gael mynediad at wybodaeth a ddelir ar y gofrestr.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 1 drwy orchymyn.

15Cofrestru gan awdurdod trwyddedu

(1)Mae cais i fod yn gofrestredig i gael ei wneud i’r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae’r annedd y mae’r cais yn ymwneud â hi wedi ei lleoli ynddi; a rhaid i’r awdurdod gofrestru’r landlord o fewn y cyfnod rhagnodedig os yw’r cais—

(a)yn cael ei wneud ar y ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod,

(b)yn cynnwys y gyfryw wybodaeth ag sy’n rhagnodedig,

(c)yn cynnwys y gyfryw wybodaeth arall ag sy’n ofynnol gan yr awdurdod, ac

(d)wedi ei yrru ynghyd â’r ffi ragnodedig.

(2)Os yw’r landlord yn gofrestredig, rhaid i’r awdurdod trwyddedu hysbysu’r landlord—

(a)bod y landlord yn gofrestredig, a

(b)am y rhif cofrestru sydd wedi ei neilltuo i’r landlord.

(3)Ar yr achlysur cyntaf y bydd landlord yn cael ei gofrestru rhaid i awdurdod trwyddedu neilltuo rhif cofrestru i’r landlord.

(4)Caiff awdurdod trwyddedu godi ffi ragnodedig bellach ar y landlord am barhau yn gofrestredig, ond ni chaiff wneud hynny—

(a)cyn pen 5 mlynedd ar ôl y dyddiad y cofrestrwyd y landlord, a

(b)cyn pen pob cyfnod o 5 mlynedd ar ôl y dyddiad y codwyd ffi ragnodedig bellach.

16Dyletswydd i ddiweddaru gwybodaeth

(1)Rhaid i landlord sy’n gofrestredig o dan adran 15 mewn perthynas ag eiddo ar rent hysbysu’r awdurdod trwyddedu yn ysgrifenedig am y newidiadau a ganlyn—

(a)unrhyw newid yn yr enw y cofrestrir y landlord oddi tano;

(b)penodi person i ymgymryd â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas â’r eiddo ar rent;

(c)bod person a benodwyd yn flaenorol gan y landlord i ymgymryd â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas â’r eiddo ar rent wedi rhoi’r gorau i wneud hynny;

(d)unrhyw aseiniad o fuddiant y landlord yn yr eiddo ar rent;

(e)unrhyw newidiadau rhagnodedig.

(2)Rhaid i landlord gydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (1) o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod cyntaf yr oedd y landlord yn gwybod am y newid, neu y dylai fod wedi gwybod amdano.

(3)Mae person sy’n torri is-adran (1) yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol.

(4)Mewn achos yn erbyn person am drosedd a gyflawnwyd o dan is-adran (3) mae’r ffaith bod gan y person esgus rhesymol am fethu â chydymffurfio yn amddiffyniad.

17Dirymu cofrestriad

(1)Caiff awdurdod trwyddedu ddirymu cofrestriad unrhyw landlord—

(a)sy’n darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol mewn cais o dan adran 15 neu wrth hysbysu am newid o dan adran 16;

(b)sy’n torri adran 16;

(c)sy’n methu â thalu unrhyw ffi bellach sy’n cael ei chodi o dan adran 15.

(2)Cyn dirymu cofrestriad landlord rhaid i awdurdod trwyddedu—

(a)hysbysu’r landlord am ei fwriad i ddirymu’r cofrestriad a’r rhesymau dros hynny, a

(b)ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan y landlord cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr hysbyswyd y landlord.

(3)Ar ôl dirymu cofrestriad landlord rhaid i awdurdod trwyddedu hysbysu’r landlord—

(a)am y dirymiad a’r rhesymau dros wneud hynny;

(b)am hawl y landlord i apelio.

(4)Caiff person y dirymir ei gofrestriad apelio yn erbyn y penderfyniad i dribiwnlys eiddo preswyl.

(5)Mewn perthynas ag apêl—

(a)rhaid iddo gael ei wneud cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr hysbyswyd y person am y penderfyniad (y “cyfnod apelio”);

(b)caniateir penderfynu arno gan roi sylw i faterion nad oedd yr awdurdod trwyddedu yn ymwybodol ohonynt.

(6)Caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gyflwyno iddo ar ôl diwedd y cyfnod apelio os yw’n fodlon bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (ac am unrhyw oedi cyn gofyn am ganiatâd i apelio y tu allan i’r cyfnod hwnnw).

(7)Caiff y tribiwnlys gadarnhau penderfyniad yr awdurdod trwyddedu neu gyfarwyddo’r awdurdod i gofrestru’r landlord.

(8)Mae dirymiad cofrestriad landlord yn cael effaith ar y diwrnod y mae pa un bynnag o’r canlynol yn digwydd gyntaf—

(a)pan nad yw’r landlord yn apelio yn erbyn y penderfyniad i ddirymu’r cofrestriad o fewn y cyfnod apelio, pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben;

(b)pan fo’r landlord yn apelio o fewn y cyfnod apelio ond yn tynnu’r apêl yn ôl yn ddiweddarach, dyddiad ei dynnu’n ôl;

(c)pan fo’r landlord yn apelio o fewn y cyfnod apelio a’r tribiwnlys eiddo preswyl yn cadarnhau penderfyniad yr awdurdod trwyddedu, yn ddarostyngedig i baragraff (d), dyddiad penderfyniad y tribiwnlys;

(d)pan fo’r landlord yn cyflwyno apêl bellach, y dyddiad y mae pob dull o apelio yn erbyn y penderfyniad wedi ei ddisbyddu a phenderfyniad yr awdurdod trwyddedu yn cael ei gadarnhau.

(9)Pan fo cofrestriad landlord yn cael ei ddirymu, rhaid i’r awdurdod trwyddedu—

(a)hysbysu unrhyw berson a gofnodwyd ar y gofrestr fel person a benodwyd gan y landlord i ymgymryd â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo ar ran y landlord, a

(b)hysbysu tenantiaid neu feddianwyr eiddo ar rent a gofrestrwyd o dan enw’r landlord.

Trwyddedu

18Trwyddedau y caniateir eu rhoi

Ni chaiff awdurdod trwyddedu ond roi’r mathau canlynol o drwydded o dan y Rhan hon—

(a)trwydded ar gyfer ei ardal at ddibenion cydymffurfio ag adrannau 6 (gofyniad i landlordiaid fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau gosod) a 7 (gofyniad i landlordiaid fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau rheoli eiddo);

(b)trwydded ar gyfer ei ardal at ddiben cydymffurfio ag adrannau 9 (gofyniad i asiantau fod yn drwyddedig i ymgymryd â gwaith gosod) a 11 (gofyniad i asiantau fod yn drwyddedig i ymgymryd â gwaith rheoli eiddo).

19Gofynion cais am drwydded

(1)Rhaid i gais am drwydded—

(a)cael ei wneud ar y gyfryw ffurf ag sy’n ofynnol gan yr awdurdod trwyddedu,

(b)darparu’r gyfryw wybodaeth ag sy’n rhagnodedig,

(c)darparu’r gyfryw wybodaeth arall ag sy’n ofynnol gan yr awdurdod, ac

(d)cael ei yrru ynghyd â’r ffi ragnodedig.

(2)Cyn rhoi trwydded rhaid i awdurdod trwyddedu fod yn fodlon—

(a)bod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn drwyddedig (gweler adran 20);

(b)bod gofynion mewn perthynas â hyfforddiant a bennir mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru neu oddi tanynt wedi eu bodloni neu y byddant yn cael eu bodloni (yn ôl y digwydd).

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2)(b) (ymhlith pethau eraill)—

(a)awdurdodi awdurdod trwyddedu i bennu gofynion mewn perthynas â hyfforddiant mewn cysylltiad â’r canlynol—

(i)ymrwymiadau statudol landlord a thenant;

(ii)y berthynas gontractiol rhwng landlord a thenant;

(iii)rôl asiant sy’n cyflawni gwaith gosod neu waith rheoli eiddo;

(iv)arferion gorau wrth osod a rheoli anheddau sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, neu sy’n cael eu marchnata neu eu cynnig ar gyfer eu gosod o dan denantiaeth o’r fath;

(b)gwneud darpariaeth o ran ac mewn cysylltiad â’i gwneud yn ofynnol i hyfforddiant—

(i)cael ei gynnal gan bersonau sydd wedi eu hawdurdodi i wneud hynny gan yr awdurdod trwyddedu neu Weinidogion Cymru;

(ii)cael ei gyflwyno drwy gyrsiau hyfforddi a gymeradwywyd gan yr awdurdod trwyddedu neu Weinidogion Cymru;

mae hyn yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer codi ffioedd ar gyfer awdurdodiad neu gymeradwyaeth.

20Gofyniad person addas a phriodol

(1)Wrth benderfynu a yw person yn berson addas a phriodol i fod yn drwyddedig fel sy’n ofynnol gan adran 19(2)(a) rhaid i awdurdod trwyddedu roi sylw i’r holl faterion y mae’n eu hystyried yn briodol.

(2)Ymhlith y materion y mae’n rhaid i’r awdurdod trwyddedu roi sylw iddynt y mae unrhyw dystiolaeth o fewn is-adrannau (3) i (5).

(3)Mae tystiolaeth o fewn yr is-adran hon os yw’n dangos bod y person—

(a)wedi cyflawni unrhyw drosedd sy’n ymwneud â thwyll neu anonestrwydd arall, trais, arfau tanio neu gyffuriau neu unrhyw drosedd a restrir yn Atodlen 3 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (troseddau sydd â gofynion hysbysu),

(b)wedi aflonyddu ar rywun neu wahaniaethu’n anghyfreithlon yn ei erbyn ar sail unrhyw nodwedd sy’n nodwedd warchodedig o dan adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, neu wedi erlid person arall yn groes i’r Ddeddf honno, wrth gynnal unrhyw fusnes neu mewn cysylltiad â hynny, neu

(c)wedi torri unrhyw ddarpariaeth yn y gyfraith sy’n ymwneud â thai neu landlord a thenant.

(4)Mae tystiolaeth o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw’n dangos bod unrhyw berson arall sy’n gysylltiedig â’r person neu a oedd yn gysylltiedig â’r person yn flaenorol (pa un ai ar sail bersonol, ar sail gwaith neu ar sail arall) wedi gwneud unrhyw un neu ragor o’r pethau hynny a nodir yn is-adran (3), a

(b)mae’n ymddangos i’r awdurdod trwyddedu bod y dystiolaeth yn berthnasol wrth ystyried a yw’r person yn berson addas a phriodol i fod yn drwyddedig.

(5)Mae tystiolaeth o fewn yr is-adran hon os yw’n dangos bod y person wedi methu yn flaenorol â chydymffurfio ag amod trwydded a roddwyd o dan y Rhan hon gan awdurdod trwyddedu.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau trwyddedu ynghylch penderfynu a yw person yn berson addas a phriodol i fod yn drwyddedig fel sy’n ofynnol gan adran 19(2)(a).

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy orchymyn er mwyn amrywio’r dystiolaeth y mae’n rhaid i awdurdod trwyddedu roi sylw iddi wrth benderfynu a yw person yn berson addas a phriodol i fod yn drwyddedig.

21Penderfynu ar gais

(1)Pan fo awdurdod trwyddedu yn fodlon bod y ceisydd yn cwrdd â’r gofynion a nodir yn adran 19, rhaid iddo roi trwydded i’r ceisydd.

(2)Ar ôl rhoi’r drwydded rhaid i’r awdurdod trwyddedu—

(a)neilltuo rhif trwydded i ddeiliad y drwydded;

(b)cofnodi rhif y drwydded yn y drwydded;

(c)cofnodi’r dyddiad y rhoddwyd y drwydded yn y drwydded;

(d)rhoi’r drwydded i ddeiliad y drwydded.

(3)Pan fo awdurdod trwyddedu yn gwrthod cais, rhaid iddo hysbysu’r ceisydd—

(a)bod y cais wedi ei wrthod a’r rhesymau pam y’i gwrthodwyd;

(b)am hawl y ceisydd i apelio (gweler adran 27).

(4)Rhaid i’r awdurdod trwyddedu benderfynu ar gais o fewn cyfnod rhagnodedig.

22Amodau trwydded

(1)Rhaid rhoi trwydded yn ddarostyngedig i amod bod deiliad y drwydded yn cydymffurfio ag unrhyw god ymarfer a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 40.

(2)Caiff awdurdod trwyddedu roi trwydded yn ddarostyngedig i’r cyfryw amodau pellach ag y mae’n eu hystyried yn briodol.

23Dyletswydd i ddiweddaru gwybodaeth

(1)Rhaid i ddeiliad trwydded hysbysu’r awdurdod trwyddedu yn ysgrifenedig am y newidiadau a ganlyn—

(a)unrhyw newid yn yr enw y cofrestrir deiliad y drwydded oddi tano;

(b)unrhyw newidiadau rhagnodedig.

(2)Rhaid i ddeiliad trwydded gydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (1) o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod cyntaf yr oedd deiliad y drwydded yn gwybod am y newid, neu y dylai fod wedi gwybod amdano.

(3)Mae person sy’n torri’r adran hon yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(4)Mewn achos yn erbyn person am drosedd a gyflawnwyd o dan is-adran (3) mae’r ffaith bod gan y person esgus rhesymol am fethu â chydymffurfio yn amddiffyniad.

24Diwygio trwydded

(1)Caiff awdurdod trwyddedu, yn unol â’r adran hon, ddiwygio unrhyw drwydded a roddir ganddo.

(2)Caniateir diwygio trwydded er mwyn—

(a)gosod amodau newydd;

(b)dileu neu newid amodau presennol (ac eithrio’r gofyniad i gydymffurfio ag unrhyw god ymarfer a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru).

(3)Ond cyn penderfynu diwygio trwydded rhaid i awdurdod trwyddedu—

(a)hysbysu deiliad y drwydded am ei fwriad i ddiwygio’r drwydded a’r rhesymau dros hynny, a

(b)ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan ddeiliad y drwydded cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr hysbyswyd y person.

(4)Nid yw is-adran (3)(b) yn gymwys i ddiwygiad—

(a)os yw deiliad y drwydded yn cydsynio iddo, neu

(b)pan fo awdurdod trwyddedu yn ystyried bod amgylchiadau eithriadol sy’n golygu bod angen ei wneud yn ddi-oed.

(5)Ar ôl diwygio trwydded rhaid i’r awdurdod trwyddedu hysbysu deiliad y drwydded am—

(a)y diwygiad a’r rhesymau drosto;

(b)ac eithrio pan fo deilad y drwydded wedi cydsynio i’r diwygiad, gwybodaeth am hawl deiliad y drwydded i apelio (gweler adran 27).

(6)Mae diwygiad i drwydded yn cael effaith ar y diwrnod y mae pa un bynnag o’r canlynol yn digwydd gyntaf—

(a)pan fo deiliad y drwydded wedi cydsynio, pan fydd yr awdurdod trwyddedu yn hysbysu deiliad y drwydded o dan is-adran (5);

(b)pan nad yw deiliad y drwydded yn apelio yn erbyn y penderfyniad i ddiwygio’r drwydded o fewn y cyfnod apelio, pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben;

(c)pan fo deiliad y drwydded yn apelio o fewn y cyfnod apelio ond yn tynnu’r apêl yn ôl yn ddiweddarach, dyddiad ei dynnu’n ôl;

(d)pan fo deiliad y drwydded yn apelio o fewn y cyfnod apelio a’r tribiwnlys eiddo preswyl yn cadarnhau penderfyniad yr awdurdod trwyddedu i ddiwygio’r drwydded, yn ddarostyngedig i baragraff (e), dyddiad penderfyniad y tribiwnlys;

(e)pan fo deiliad y drwydded yn cyflwyno apêl bellach, y dyddiad y mae pob dull o apelio yn erbyn y penderfyniad wedi ei ddisbyddu a phenderfyniad yr awdurdod trwyddedu yn cael ei gadarnhau.

(7)Y “cyfnod apelio” at ddibenion is-adran (6) yw’r cyfnod hwnnw a grybwyllir yn adran 27(3)(a) (apelau trwyddedu).

25Dirymu trwydded

(1)Caiff awdurdod trwyddedu ddirymu trwydded—

(a)os yw deiliad y drwydded wedi torri un neu ragor o amodau’r drwydded;

(b)os nad yw’r awdurdod wedi ei fodloni bellach bod deiliad y drwydded yn berson addas a phriodol i ddal trwydded;

(c)os yw deiliad y drwydded wedi torri adran 23 (dyletswydd deiliad trwydded i ddiweddaru gwybodaeth);

(d)os yw deiliad y drwydded a’r awdurdod trwyddedu wedi cytuno y dylid dirymu’r drwydded.

(2)Ond cyn dirymu trwydded rhaid i awdurdod trwyddedu—

(a)hysbysu deiliad y drwydded am ei fwriad i ddirymu’r drwydded a’r rhesymau dros hynny, a

(b)ystyried unrhyw sylwadau a gynigir gan ddeiliad y drwydded cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr hysbyswyd deiliad y drwydded.

(3)Nid yw is-adran (2)(b) yn gymwys—

(a)os yw deiliad y drwydded yn cydsynio i’r dirymiad, neu

(b)pan fo awdurdod trwyddedu yn ystyried bod amgylchiadau eithriadol sy’n golygu bod angen dirymu’r drwydded yn ddi-oed.

(4)Ar ôl dirymu trwydded rhaid i’r awdurdod trwyddedu hysbysu deiliad y drwydded—

(a)am y dirymiad a’r rhesymau dros wneud hynny;

(b)am hawl deiliad y drwydded i apelio (gweler adran 27).

(5)Mae dirymiad trwydded yn cael effaith ar y diwrnod y mae pa un bynnag o’r canlynol yn digwydd gyntaf—

(a)mae deiliad y drwydded yn cysylltu â’r awdurdod trwyddedu er mwyn cydsynio i’r dirymiad;

(b)pan na fo deiliad y drwydded yn apelio yn erbyn y penderfyniad i ddirymu’r cofrestriad o fewn y cyfnod apelio, pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben;

(c)pan fo deiliad y drwydded yn apelio o fewn y cyfnod apelio ond yn tynnu’r apêl yn ôl yn ddiweddarach, dyddiad ei dynnu’n ôl;

(d)pan fo deiliad y drwydded yn apelio o fewn y cyfnod apelio a’r tribiwnlys eiddo preswyl yn cadarnhau penderfyniad yr awdurdod trwyddedu i ddirymu’r drwydded, yn ddarostyngedig i baragraff (e), dyddiad penderfyniad y tribiwnlys;

(e)pan fo deiliad y drwydded yn cyflwyno apêl bellach, y dyddiad y mae pob dull o apelio yn erbyn y penderfyniad wedi ei ddisbyddu a phenderfyniad yr awdurdod trwyddedu yn cael ei gadarnhau.

(6)Y “cyfnod apelio” at ddibenion is-adran (5) yw’r cyfnod hwnnw a grybwyllir yn adran 27(3)(a) (apelau trwyddedu).

(7)Pan fo trwydded person i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran landlord yn cael ei ddirymu, rhaid i’r awdurdod trwyddedu hysbysu unrhyw landlord a gofnodwyd ar ei gofrestr fel rhywun a benododd y person hwnnw.

(8)Pan fo trwydded landlord yn cael ei ddirymu, rhaid i’r awdurdod trwyddedu hysbysu tenantiaid neu feddianwyr eiddo ar rent a gofrestrwyd o dan enw’r landlord.

26Trwydded yn dod i ben neu yn cael ei hadnewyddu

(1)Daw trwydded i ben ar ddiwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau gyda’r dyddiad y rhoddwyd y drwydded, oni bai bod deiliad trwydded yn gwneud cais i adnewyddu’r drwydded yn unol ag is-adran (2).

(2)Caiff deiliad trwydded wneud cais i adnewyddu’r drwydded yn ystod y cyfnod o 84 o ddiwrnodau cyn y dyddiad y byddai’r drwydded fel arall yn dod i ben.

(3)Pan fo cais yn cael ei wneud i adnewyddu trwydded yn unol ag is-adran (2) nid yw’r drwydded yn dod i ben nes i’r cais gael ei benderfynu ac nid yw’n dod i ben oni bai bod y cais yn cael ei wrthod.

(4)Mae cais i adnewyddu trwydded i’w wneud a’i benderfynu yn unol ag adrannau 19 (gofynion cais am drwydded) i 21 (penderfynu ar gais).

(5)Ond pan fo awdurdod trwyddedu yn adnewyddu trwydded, nid yw’r gofyniad yn is-adran (2)(a) o adran 21 i neilltuo rhif trwydded i ddeiliad y drwydded yn gymwys.

(6)Lle gwrthodir cais i adnewyddu trwydded, daw’r drwydded bresennol i ben ar ba un bynnag o’r dyddiadau canlynol sy’n digwydd gyntaf—

(a)pan nad yw deiliad y drwydded yn apelio yn erbyn y gwrthodiad o fewn y cyfnod apelio, pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben;

(b)pan fo deiliad y drwydded yn apelio o fewn y cyfnod apelio ond yn tynnu’r apêl yn ôl yn ddiweddarach, dyddiad ei dynnu’n ôl;

(c)pa fo deiliad y drwydded yn apelio o fewn y cyfnod apelio a’r tribiwnlys eiddo preswyl yn cadarnhau penderfyniad yr awdurdod trwyddedu, dyddiad penderfyniad y tribiwnlys (yn ddarostyngedig i baragraff (d));

(d)pan fo deiliad y drwydded yn cyflwyno apêl bellach, y dyddiad y mae pob dull o apelio yn erbyn y penderfyniad wedi ei ddisbyddu a phenderfyniad yr awdurdod trwyddedu yn cael ei gadarnhau.

(7)Y “cyfnod apelio” at ddibenion is-adran (6) yw’r cyfnod hwnnw a grybwyllir yn adran 27(3)(a) (apelau trwyddedu).

(8)Mae trwydded yn dod i ben ac mae unrhyw gais a wneir gan ddeiliad y drwydded i’w hadnewyddu i’w drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl pan fo deiliad trwydded—

(a)yn marw;

(b)yn achos corff corfforaethol, yn cael ei ddiddymu.

27Apelau trwyddedu

(1)Caiff ceisydd am drwydded neu, yn ôl y digwydd, ddeiliad trwydded, apelio i dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn y penderfyniadau a wneir gan awdurdod trwyddedu a restrir yn is-adran (2).

(2)Y penderfyniadau yw—

(a)rhoi trwydded yn ddarostyngedig i amod, ac eithrio’r gofyniad i gydymffurfio ag unrhyw god ymarfer a ddyroddir gan Weinidogion Cymru;

(b)gwrthod cais am drwydded;

(c)diwygio trwydded;

(d)dirymu trwydded.

(3)Mewn perthynas ag apêl—

(a)rhaid ei gyflwyno cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n cychwyn gyda’r dyddiad yr hysbyswyd y ceisydd am y penderfyniad (y “cyfnod apelio”);

(b)gellir penderfynu arno drwy roi sylw i faterion nad oedd yr awdurdod trwyddedu yn ymwybodol ohonynt.

(4)Caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gyflwyno iddo ar ôl diwedd y cyfnod apelio os yw’n fodlon bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (ac am unrhyw oedi cyn gofyn am ganiatâd i apelio y tu allan i’r cyfnod hwnnw).

(5)Caiff y tribiwnlys gadarnhau penderfyniad yr awdurdod trwyddedu neu fel arall—

(a)yn achos penderfyniad i roi trwydded yn ddarostyngedig i amod, cyfarwyddo’r awdurdod i roi trwydded ar y cyfryw delerau ag y mae’r tribiwnlys yn eu hystyried yn briodol;

(b)yn achos penderfyniad i wrthod cais am drwydded, cyfarwyddo’r awdurdod i roi trwydded ar y cyfryw delerau ag y mae’r tribiwnlys yn eu hystyried yn briodol;

(c)yn achos penderfyniad i ddiwygio trwydded, cyfarwyddo’r awdurdod i beidio â diwygio’r drwydded neu i ddiwygio’r drwydded ar y cyfryw delerau ag y mae’r tribiwnlys yn eu hystyried yn briodol;

(d)yn achos penderfyniad i ddirymu trwydded, dileu’r penderfyniad hwnnw.

(6)Mae trwydded a roddwyd gan awdurdod trwyddedu yn dilyn cyfarwyddyd gan dribiwnlys o dan yr adran hon i’w thrin fel pe bai wedi ei rhoi gan yr awdurdod o dan adran 21(1).

Gorfodi

28Erlyniad gan awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol

(1)Caiff awdurdod trwyddedu ddwyn achos troseddol mewn perthynas â throsedd o dan—

(a)adran 4(2), 6(4), 7(5), 9(2), 11(3) neu 13(3), os yw’r drosedd honedig yn codi mewn perthynas ag annedd yn yr ardal y mae’n awdurdod trwyddedu ar ei chyfer;

(b)adran 16(3) neu 23(3), mewn perthynas â gwybodaeth sy’n rhaid darparu i’r awdurdod;

(c)is-adran (1) neu (4) o adran 38, mewn perthynas ag unrhyw beth sy’n ofynnol o dan hysbysiad a roddir gan berson sydd wedi’i awdurdodi gan yr awdurdod;

(d)is-adran (1) neu (2) o adran 39, mewn perthynas â gwybodaeth a gyflenwir i’r awdurdod.

(2)Caiff awdurdod tai lleol nad yw’n awdurdod trwyddedu ar gyfer ei ardal, gyda chydsyniad yr awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal, ddwyn achos troseddol mewn perthynas â throsedd o dan adran 4(2), 6(4), 7(5), 9(2), 11(3) neu 13(3), os yw’r drosedd honedig yn codi mewn perthynas ag annedd yn ei ardal.

(3)Caiff awdurdod trwyddedu roi ei gydsyniad o dan is-adran (2) yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol.

(4)Nid yw’r adran hon yn effeithio ar—

(a)unrhyw un neu ragor o bwerau eraill y person a ddynodir o dan adran 3(1) i ddwyn achos troseddol;

(b)adran 222 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (pŵer awdurdodau lleol i erlyn neu amddiffyn achosion cyfreithiol).

29Hysbysiadau cosbau penodedig

(1)Pan fo gan berson sydd wedi’i awdurdodi yn ysgrifenedig at ddiben yr adran hon gan awdurdod trwyddedu reswm i gredu ar unrhyw achlysur bod person wedi cyflawni trosedd o dan y Rhan hon (ac eithrio trosedd o dan adran 13(3) neu adran 38(4)), caiff y person awdurdodedig, drwy hysbysiad, gynnig cyfle i’r person ryddhau ei hun o unrhyw atebolrwydd am gollfarn am y drosedd honno drwy dalu cosb benodedig i’r awdurdod.

(2)Pan roddir hysbysiad i berson o dan yr adran hon mewn perthynas â throsedd—

(a)ni chaniateir cychwyn unrhyw achos mewn perthynas â’r drosedd cyn i’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hysbysiad hwnnw ddod i ben;

(b)ni chaniateir collfarnu’r person am y drosedd honno os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(3)Rhaid i hysbysiad o dan yr adran hon—

(a)rhoi pa fanylion bynnag am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd sy’n angenrheidiol er mwyn rhoi gwybodaeth resymol ynghylch y drosedd,

(b)datgan yn ystod pa gyfnod na chychwynnir achos mewn perthynas â’r drosedd,

(c)datgan swm y gosb benodedig, a

(d)datgan i ba berson ac ym mha gyfeiriad y gellir talu’r gosb benodedig.

(4)Y gosb benodedig sy’n daladwy i awdurdod trwyddedu o dan yr adran hon yw £150 oni bai bod y drosedd yn un sy’n dwyn dirwy anghyfyngedig yn ei sgil; mewn achos felly, y gosb benodedig sy’n daladwy yw £250.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (4) drwy orchymyn.

(6)Caniateir talu cosb benodedig drwy ragdalu a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person a grybwyllir yn is-adran (3)(d) yn y cyfeiriad a grybwyllir yno; ond nid yw hynny’n rhwystro taliad drwy ddull arall.

(7)Pan fo llythyr yn cael ei bostio yn unol ag is-adran (6) bernir bod y taliad wedi ei wneud ar yr amser y byddai’r llythyr wedi ei ddosbarthu yn nhrefn arferol y post.

(8)Mewn unrhyw achos mae tystysgrif—

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi ar ran person sydd wedi’i awdurdodi gan yr awdurdod trwyddedu at y diben hwn, a

(b)sy’n datgan y daeth taliad cosb benodedig i law neu na ddaeth i law erbyn dyddiad a bennir yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.

(9)Ni chaniateir i awdurdod trwyddedu ddefnyddio ei dderbyniadau cosbau penodedig ond at ddibenion ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi’r Rhan hon.

(10)Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod trwyddedu”—

(a)mewn achos trosedd o dan adran 4(2), 6(4), 7(5), 9(2) neu 11(3), yw’r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae’r annedd y mae’r drosedd yn ymwneud â hi wedi ei lleoli ynddi;

(b)mewn achos trosedd o dan adran 16(3) neu 23(3), yw’r awdurdod trwyddedu y darparwyd yr wybodaeth y mae’r trosedd yn ymwneud â hi iddo;

(c)mewn achos trosedd o dan adran 38(1), yw’r awdurdod trwyddedu a awdurdododd y person a roddodd yr hysbysiad perthnasol;

(d)mewn achos trosedd o dan adran 39(1) neu (2), yw’r awdurdod trwyddedu y cyflenwyd yr wybodaeth iddo.

(11)Caiff awdurdod tai lleol nad yw’n awdurdod trwyddedu ar gyfer ei ardal, gyda chydsyniad yr awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal honno, arfer swyddogaethau’r awdurdod trwyddedu o dan yr adran hon yn gydredol â’r awdurdod trwyddedu; ond dim ond o ran y troseddau a grybwyllir yn is-adran (10)(a).

(12)Pan fo awdurdod tai lleol yn arfer swyddogaethau o dan yr adran hon yn rhinwedd is-adran (11), mae’r cyfeiriadau yn is-adrannau (1), (4), (8), (9) a (10)(a) at “awdurdod trwyddedu” i’w darllen fel petaent yn gyfeiriadau at yr awdurdod tai lleol.

30Gorchmynion atal rhent

(1)Caiff tribiwnlys eiddo preswyl, yn unol â’r adran hon, wneud gorchymyn (“gorchymyn atal rhent”) mewn perthynas ag annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig ar gais a wnaed iddo gan—

(a)yr awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi, neu

(b)yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi.

(2)Ond ni chaiff awdurdod tai lleol wneud cais o dan is-adran (1) heb gydsyniad yr awdurdod trwyddedu a grybwyllir ym mharagraff (a) o’r is-adran honno (oni bai mai ef yw’r awdurdod trwyddedu); a chaiff cydsyniad at y diben hwnnw gael ei roi yn gyffredinol neu mewn cysylltiad â chais penodol.

(3)Pan fo tribiwnlys yn gwneud gorchymyn atal rhent—

(a)mae taliadau cyfnodol sy’n daladwy mewn cysylltiad â thenantiaeth ddomestig o’r annedd sy’n ymwneud â chyfnod, neu ran o gyfnod, sy’n dod o fewn dyddiad a bennir yn y gorchymyn (y “dyddiad atal”) a dyddiad a bennir gan y tribiwnlys pan fydd y gorchymyn wedi ei ddirymu (gweler adran 31(4)) yn cael eu hatal,

(b)mae rhwymedigaeth o dan denantiaeth ddomestig i dalu swm a atelir gan y gorchymyn yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei bodloni,

(c)mae pob hawl a rhwymedigaeth arall o dan denantiaeth o’r fath yn parhau heb eu heffeithio,

(d)rhaid i unrhyw daliadau cyfnodol a atelir gan y gorchymyn ond a wnaed gan denant yr annedd (pa un ai cyn neu ar ôl y dyddiad atal) gael eu had-dalu gan y landlord, ac

(e)rhaid i’r awdurdod a wnaeth y cais am y gorchymyn roi copi ohono i’r canlynol—

(i)landlord yr annedd y mae’r gorchymyn yn ymwneud â hi;

(ii)tenant yr annedd.

(4)Caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn atal rhent dim ond os yw wedi ei fodloni o ran y materion a grybwyllir yn is-adrannau (5) a (6).

(5)Rhaid i’r tribiwnlys fod wedi ei fodloni bod trosedd yn cael ei chyflawni o dan adran 7(5) neu 13(3) mewn perthynas â’r annedd (pa un a oes person wedi ei gollfarnu neu ei gyhuddo mewn perthynas â’r drosedd ai peidio).

(6)Rhaid i’r tribiwnlys fod wedi ei fodloni—

(a)bod yr awdurdod sy’n gwneud y cais am y gorchymyn wedi rhoi hysbysiad i landlord a thenant yr annedd ( “hysbysiad o achos arfaethedig”)—

(i)yn esbonio bod yr awdurdod yn bwriadu gwneud cais am orchymyn atal rhent,

(ii)yn nodi’r rhesymau pam y mae’n bwriadu gwneud hynny,

(iii)yn esbonio effaith gorchymyn atal rhent,

(iv)yn esbonio sut y gellir dirymu gorchymyn atal rhent, a

(v)yn achos hysbysiad a roddir i landlord, gwahodd y landlord i gyflwyno sylwadau i’r awdurdod o fewn cyfnod o ddim llai na 28 o ddiwrnodau a bennir yn yr hysbysiad,

(b)bod y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau wedi dod i ben, ac

(c)bod yr awdurdod wedi ystyried unrhyw sylwadau a wnaed iddo gan y landlord o fewn y cyfnod hwnnw.

(7)Ni chaiff y tribiwnlys bennu dyddiad atal at ddiben is-adran (3)(a) sy’n dod cyn y dyddiad y gwnaed y gorchymyn atal rhent.

(8)Mae swm sy’n daladwy yn rhinwedd is-adran (3)(d) nad yw’n cael ei ad-dalu yn adferadwy gan y tenant fel dyled sy’n ddyledus i’r tenant gan y landlord.

(9)Yn is-adran (5), nid yw’r cyfeiriad at drosedd a gyflawnwyd o dan adran 13(3) yn cynnwys trosedd a gyflawnwyd o ganlyniad i dorri is-adran (1) o’r adran honno.

31Dirymu gorchmynion atal rhent

(1)Caiff tribiwnlys eiddo preswyl, yn unol â’r adran hon, ddirymu gorchymyn atal rhent a wnaed mewn cysylltiad ag annedd o dan adran 30.

(2)Caiff y tribiwnlys ddirymu gorchymyn dim ond—

(a)ar gais gan y canlynol—

(i)yr awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi,

(ii)yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi, neu

(iii)landlord yr annedd, a

(b)os yw wedi ei fodloni nad yw trosedd o dan adran 7(5) neu 13(3) bellach yn cael ei chyflawni mewn perthynas â’r annedd.

(3)Ond ni chaiff awdurdod tai lleol wneud cais o dan is-adran (2) heb gydsyniad yr awdurdod trwyddedu a grybwyllir ym mharagraff (a)(i) o’r is-adran honno (oni bai mai’r awdurdod tai lleol yw’r awdurdod trwyddedu); a chaiff cydsyniad at y diben hwnnw gael ei roi yn gyffredinol neu mewn cysylltiad â chais penodol.

(4)Pan fo’r tribiwnlys yn dirymu gorchymyn atal rhent, mae taliadau cyfnodol mewn cysylltiad â thenantiaeth ddomestig o’r annedd yn dod yn daladwy o ddyddiad a bennir gan y tribiwnlys (a gaiff, os yw’r tribiwnlys yn ei ystyried yn briodol, fod yn ddyddiad cynharach na’r dyddiad y mae’r gorchymyn yn cael ei ddirymu).

(5)Ond nid yw dirymu gorchymyn atal rhent yn gwneud person yn atebol i dalu unrhyw daliadau cyfnodol a ataliwyd, yn rhinwedd y gorchymyn, mewn cysylltiad â’r cyfnod sy’n dechrau gyda’r dyddiad atal (gweler adran 30(3)(a)) ac sy’n dod i ben gyda’r dyddiad a bennir gan y tribiwnlys wrth ddirymu’r gorchymyn.

(6)Os yw gorchymyn atal rhent yn cael ei ddirymu yn dilyn cais a wnaed o dan is-adran (2)(a)(i) neu (ii), rhaid i’r awdurdod a wnaeth y cais hysbysu’r personau a ganlyn fod y gorchymyn wedi ei ddirymu ac am effaith y dirymiad—

(a)unrhyw denant neu feddiannydd yr annedd, a

(b)landlord yr annedd.

(7)Pan fo dirymiad yn digwydd yn dilyn cais a wnaed gan landlord, rhaid i’r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi sicrhau bod unrhyw denant neu feddiannydd yr annedd yn cael ei hysbysu bod y gorchymyn wedi ei ddirymu ac am effaith y dirymiad.

(8)Yn is-adran (2)(b)—

(a)nid yw’r cyfeiriad at drosedd o dan adran 7(5) yn cynnwys trosedd a gyflawnwyd o ganlyniad i dorri is-adran (3) o’r adran honno, a

(b)nid yw’r cyfeiriad at drosedd a gyflawnwyd o dan 13(3) yn cynnwys trosedd a gyflawnwyd o ganlyniad i dorri is-adran (1) o’r adran honno.

32Gorchmynion ad-dalu rhent

(1)Caiff tribiwnlys eiddo preswyl, yn unol â’r adran hon ac adran 33, wneud gorchymyn (“gorchymyn ad-dalu rhent”) mewn perthynas ag annedd ar gais a wnaed iddo gan—

(a)yr awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi,

(b)yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi, neu

(c)tenant yr annedd.

(2)Ond ni chaiff awdurdod tai lleol wneud cais o dan is-adran (1) heb gydsyniad yr awdurdod trwyddedu a grybwyllir ym mharagraff (a) o’r is-adran honno (oni bai mai’r awdurdod tai lleol yw’r awdurdod trwyddedu); a chaiff cydsyniad at y diben hwnnw gael ei roi yn gyffredinol neu mewn cysylltiad â chais penodol.

(3)“Gorchymyn ad-dalu rhent” yw gorchymyn a wneir mewn perthynas ag annedd sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person priodol (gweler is-adran (9)) dalu’r cyfryw swm i’r ymgeisydd mewn cysylltiad â’r dyfarniad neu’r dyfarniadau perthnasol o gredyd cynhwysol neu’r budd-dal tai a dalwyd fel a grybwyllir yn is-adran (5), neu (yn ôl y digwydd) y taliadau cyfnodol a dalwyd fel a grybwyllir yn is-adran (7)(b), fel a bennir yn y gorchymyn.

(4)Caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn ad-dalu rhent dim ond os yw wedi ei fodloni—

(a)pan yr ymgeisydd yw’r awdurdod trwyddedu neu pan fo’r ymgeisydd yn awdurdod tai lleol (yn ôl y digwydd), o’r materion a grybwyllir yn is-adran (5);

(b)pan fo’r ymgeisydd yn denant, o’r materion a grybwyllir yn is-adran (7).

(5)Rhaid bod y tribiwnlys wedi ei fodloni—

(a)bod trosedd o dan adran 7(5) neu 13(3) wedi ei chyflawni mewn perthynas â’r annedd ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar ddyddiad yr hysbysiad o achos arfaethedig sy’n ofynnol gan is-adran (6) (pa un a oes person wedi ei gyhuddo neu ei gollfarnu o’r drosedd ai peidio);

(b)bod—

(i)un neu ragor o ddyfarniadau perthnasol o gredyd cynhwysol wedi eu talu (i unrhyw berson), neu

(ii)budd-dal tai wedi ei dalu (i unrhyw berson) mewn cysylltiad â thaliadau cyfnodol sy’n daladwy mewn cysylltiad â thenantiaeth ddomestig yr annedd,

yn ystod unrhyw gyfnod y mae’n ymddangos i’r tribiwnlys bod y cyfryw drosedd wedi cael ei chyflawni ynddo, ac

(c)y cydymffurfiwyd â gofynion is-adran (6) mewn perthynas â’r cais.

(6)Dyma’r gofynion hynny—

(a)rhaid bod yr awdurdod sy’n ceisio am orchymyn fod wedi rhoi hysbysiad (“hysbysiad o achos arfaethedig”) i’r person priodol—

(i)sy’n hysbysu’r person bod yr awdurdod yn bwriadu gwneud cais am orchymyn ad-dalu rhent,

(ii)sy’n nodi’r rhesymau pam y mae’n bwriadu gwneud hynny,

(iii)sy’n nodi’r swm y bydd yn ceisio ei adfer o dan yr is-adran honno a sut cyfrifwyd y swm hwnnw, a

(iv)sy’n gwahodd y person i gyflwyno sylwadau i’r awdurdod o fewn cyfnod o ddim llai na 28 o ddiwrnodau a bennir yn yr hysbysiad;

(b)rhaid bod y cyfnod hwnnw wedi dod i ben, ac

(c)rhaid bod yr awdurdod wedi ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd iddo gan y person priodol o fewn y cyfnod hwnnw.

(7)Rhaid bod y tribiwnlys wedi ei fodloni—

(a)bod person wedi ei gollfarnu o drosedd o dan adran 7(5) neu 13(3) mewn perthynas â’r annedd, neu fod gorchymyn ad-dalu rhent wedi ei gwneud yn ofynnol i berson wneud taliad mewn cysylltiad â’r canlynol—

(i)un neu ragor o ddyfarniadau perthnasol o gredyd cynhwysol, neu

(ii)budd-dal tai a delir mewn cysylltiad â thenantiaeth yr annedd;

(b)bod y tenant wedi talu i’r person priodol (pa un ai’n uniongyrchol neu fel arall) daliadau cyfnodol mewn cysylltiad â thenantiaeth yr annedd yn ystod unrhyw gyfnod y mae’n ymddangos i’r tribiwnlys bod trosedd o’r fath wedi bod yn cael ei chyflawni mewn perthynas â’r annedd, ac

(c)y gwnaed y cais o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—

(i)gyda dyddiad y gollfarn neu’r gorchymyn, neu

(ii)os yw gorchymyn o’r fath yn dilyn collfarn o’r fath (neu i’r gwrthwyneb), gyda dyddiad yr un sy’n digwydd hwyraf.

(8)Yn yr adran hon—

(a)nid yw cyfeiriadau at drosedd o dan adran 7(5) yn cynnwys trosedd a gyflawnwyd o ganlyniad i dorri is-adran (3) o’r adran honno, a

(b)nid yw cyfeiriadau at drosedd a gyflawnwyd o dan adran 13(3) yn cynnwys trosedd a gyflawnwyd o ganlyniad i dorri is-adran (1) o’r adran honno.

(9)Yn yr adran hon—

  • ystyr “budd-dal tai” (“housing benefit”) yw budd-dal tai a ddarperir yn rhinwedd cynllun o dan adran 123 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

  • ystyr “dyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol” (“relevant award of universal credit”) yw dyfarniad o gredyd cynhwysol yr oedd ei gyfrifiad yn cynnwys swm o dan adran 11 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, a gyfrifwyd yn unol ag Atodlen 4 i Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (yr elfen costau tai i rentwyr) (OS 2013/376) neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol sy’n disodli’r Atodlen honno, mewn cysylltiad â thaliadau cyfnodol mewn perthynas â thenantiaeth ddomestig yr annedd;

  • ystyr “person priodol” (“appropriate person”), mewn perthynas ag unrhyw daliad o gredyd cynhwysol neu fudd-dal tai neu daliad cyfnodol mewn cysylltiad â thenantiaeth ddomestig annedd, yw’r person oedd â hawl i gael, ar ran y person hwnnw ei hun, daliadau cyfnodol mewn cysylltiad â’r denantiaeth ar yr adeg y gwnaethpwyd y taliadau;

  • ystyr “tenant” (“tenant”), mewn perthynas ag unrhyw daliad cyfnodol, yw person a oedd yn denant ar adeg y taliad (ac mae i “tenantiaeth” ystyr gyfatebol).

(10)At ddibenion yr adran hon, mae swm—

(a)nad yw’n cael ei dalu gan denant yn wirioneddol ond sy’n cael ei ddefnyddio i ryddhau atebolrwydd y tenant yn llawn neu’n rhannol mewn cysylltiad â thaliad cyfnodol (er enghraifft, drwy wrthbwyso’r swm yn erbyn unrhyw atebolrwydd o’r fath), a

(b)nad yw’n swm o gredyd cynhwysol neu fudd-dal tai,

i’w ystyried fel swm a delir gan y tenant mewn cysylltiad â’r taliad cyfnodol hwnnw.

33Gorchmynion ad-dalu rhent: darpariaeth bellach

(1)Pan fo’r tribiwnlys, ar gais gan yr awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol (yn ôl y digwydd) am orchymyn ad-dalu rhent, wedi ei fodloni—

(a)bod person wedi ei gollfarnu o drosedd o dan adran 7(5) neu 13(3) mewn perthynas â’r annedd y mae’r cais yn ymwneud â hi, a

(b)bod—

(i)un neu ragor o ddyfarniadau perthnasol o gredyd cynhwysol wedi eu talu (pa un ai i’r person priodol ai peidio), neu

(ii)budd-dal tai wedi ei dalu (pa un ai i’r person priodol ai peidio) mewn cysylltiad â thaliadau cyfnodol sy’n daladwy mwn perthynas â thenantiaeth ddomestig o’r annedd yn ystod unrhyw gyfnod y mae’n ymddangos i’r tribiwnlys bod y gyfryw drosedd wedi bod yn cael ei chyflawni mewn perthynas â’r annedd o dan sylw,

rhaid i’r tribiwnlys wneud gorchymyn ad-dalu rhent sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person priodol dalu i’r awdurdod a wnaeth y cais y swm a grybwyllir yn is-adran (2); ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (3), (4) ac (8).

(2)Mae’r swm—

(a)yn swm sy’n gyfwerth â—

(i)pan fo un dyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol wedi ei dalu fel a grybwyllir yn is-adran (1)(b)(i), y swm a oedd wedi ei gynnwys yng nghyfrifiad y dyfarniad hwnnw o dan adran 11 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, a gyfrifwyd yn unol ag Atodlen 4 i Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (yr elfen o ran costau tai i rentwyr) (OS 2013/376) neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol sy’n disodli’r Atodlen honno, neu swm y dyfarniad os yw’n llai, neu

(ii)os talwyd mwy nag un dyfarniad o’r math a grybwyllir yn is-adran (1)(b)(i), cyfanswm y symiau a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarniadau hynny fel y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (i), neu gyfanswm symiau’r dyfarniadau hynny os yw’n llai, neu

(b)swm sy’n gyfwerth â chyfanswm y budd-dal tai a dalwyd fel a grybwyllir yn is-adran (1)(b)(ii) (yn ôl y digwydd).

(3)Os yw cyfanswm y symiau a gafwyd gan y person priodol mewn cysylltiad â thaliadau cyfnodol sy’n daladwy fel a grybwyllir ym mharagraff (b) o is-adran (1) (“cyfanswm y rhent”) yn llai na’r swm a grybwyllir yn is-adran (2), mae’r swm y mae’n ofynnol iddo gael ei dalu yn rhinwedd gorchymyn ad-dalu rhent a wnaed yn unol ag is-adran (1) yn gyfyngedig i gyfanswm y rhent.

(4)Ni chaiff gorchymyn ad-dalu rhent a wnaed yn unol ag is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i berson dalu unrhyw swm y mae’r tribiwnlys wedi ei fodloni y byddai’n afresymol i’w gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei dalu oherwydd unrhyw amgylchiadau eithriadol.

(5)Mewn achos pan na fo is-adran (1) yn gymwys, mae’r swm y mae’n ofynnol iddo gael ei dalu yn rhinwedd gorchymyn ad-dalu rhent i fod yn swm y mae’r tribiwnlys yn ei ystyried yn rhesymol o dan yr amgylchiadau; ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (6) i (8).

(6)Mewn achos o’r fath, rhaid i’r tribiwnlys roi ystyriaeth i’r materion canlynol—

(a)cyfanswm y taliadau perthnasol a dalwyd mewn cysylltiad â thenantiaeth yr annedd yn ystod unrhyw gyfnod y mae’n ymddangos i’r tribiwnlys bod trosedd wedi bod yn cael ei chyflawni mewn perthynas â’r annedd o dan adran 7(5) neu 13(3);

(b)y graddau yr oedd y cyfanswm hwnnw—

(i)yn cynnwys taliadau o ddyfarniadau perthnasol o gredyd cynhwysol neu fudd-dal tai, neu’n deillio ohonynt, a

(ii)wedi ei gael gan y person priodol;

(c)pa un a yw’r person priodol wedi ei gollfarnu o drosedd ar unrhyw adeg o dan adran 7(5) neu 13(3);

(d)ymddygiad ac amgylchiadau ariannol y person priodol; ac

(e)pan fo’r cais wedi ei wneud gan denant, ymddygiad y tenant.

(7)Yn is-adran (6) ystyr “taliadau perthnasol” yw—

(a)mewn perthynas â chais gan yr awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol (yn ôl y digwydd), taliadau o ddyfarniadau perthnasol o gredyd cynhwysol, budd-dal tai neu daliadau cyfnodol sy’n daladwy gan denantiaid;

(b)mewn perthynas â chais gan denant, taliadau cyfnodol sy’n daladwy gan y tenant, heb gynnwys—

(i)pan fu un neu ragor o ddyfarniadau perthnasol o gredyd cynhwysol yn daladwy yn ystod y cyfnod o dan sylw, y swm a grybwyllir yn is-adran (2)(a) mewn cysylltiad â’r dyfarniad neu’r dyfarniadau a oedd yn perthyn i’r denantiaeth yn ystod y cyfnod hwnnw, neu

(ii)unrhyw swm o fudd-dal tai a fu’n daladwy mewn cysylltiad â thenantiaeth yr annedd yn ystod y cyfnod o dan sylw.

(8)Ni chaiff gorchymyn ad-dalu rhent ei gwneud yn ofynnol talu unrhyw swm sydd—

(a)pan fo’r cais yn cael ei wneud gan yr awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol (yn ôl y digwydd), mewn cysylltiad ag unrhyw amser sydd y tu allan i’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben gyda dyddiad yr hysbysiad o achos arfaethedig a roddir o dan adran 32(6), neu

(b)pan fo’r cais yn cael ei wneud gan denant, mewn cysylltiad ag unrhyw amser sydd y tu allan i’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben gyda dyddiad cais y tenant o dan adran 32(1);

ac mae’r cyfnod sydd i’w ystyried o dan is-adran (6)(a) wedi ei gyfyngu yn unol â hynny.

(9)Mae unrhyw swm sy’n daladwy yn rhinwedd gorchymyn ad-dalu rhent yn adferadwy fel dyled sy’n ddyledus i’r awdurdod trwyddedu, awdurdod tai lleol neu denant (yn ôl y digwydd) gan y person priodol.

(10)Ac nid yw swm sy’n daladwy i’r awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol yn rhinwedd gorchymyn o’r fath, pan fydd yn cael ei adfer ganddo, yn swm o gredyd cynhwysol neu fudd-dal tai (yn ôl y digwydd) sy’n cael ei adfer gan yr awdurdod hwnnw.

(11)Mae is-adrannau (8), (9) a (10) o adran 32 yn gymwys at ddibenion yr adran hon yn yr un modd ag y maent yn gymwys at ddibenion adran 32.

34Pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas ag adrannau 32 a 33

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud y gyfryw ddarpariaeth ag a ystyrir yn briodol ganddynt ar gyfer ategu darpariaethau adrannau 32 a 33.

(2)Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (1), er enghraifft, wneud darpariaeth—

(a)ar gyfer sicrhau nad yw personau wedi eu niweidio’n annheg gan orchmynion ad-dalu rhent (mewn achosion pan fo gordaliadau o gredyd cynhwysol neu fudd-dal tai wedi digwydd neu fel arall);

(b)i’w gwneud yn ofynnol i ymdrin â symiau a dderbynnir gan yr awdurdod trwyddedu neu awdurdodau tai lleol yn rhinwedd gorchmynion ad-dalu rhent mewn modd a bennir yn y rheoliadau, neu i awdurdodi hynny.

35Troseddau gan gyrff corfforaethol

(1)Pan brofir bod trosedd o dan y Rhan hon a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y canlynol—

(a)cyfarwyddwr, rheolwr, neu ysgrifennydd y corff corfforaethol, neu

(b)person sy’n honni cyflawni’r gyfryw swyddogaeth,

mae’r person hwnnw yn ogystal â’r corff corfforaethol yn cyflawni’r drosedd ac yn agored i achos yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(2)Mae’r cyfeiriad at gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd y corff corfforaethol yn cynnwys cyfeiriad—

(a)at unrhyw swyddog tebyg arall yn y corff;

(b)pan fo’r corff yn gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, at unrhyw swyddog neu aelod o’r corff.

Gwybodaeth

36Ceisiadau am wybodaeth gan awdurdodau a defnyddio gwybodaeth gan awdurdodau

(1)Os bydd awdurdod trwyddedu yn gofyn i awdurdod tai lleol ddarparu gwybodaeth iddo y mae is-adran (2) yn gymwys iddi ac sydd ei hangen arno at ddibenion arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r awdurdod tai lleol gydymffurfio â’r cais oni bai bod yr awdurdod tai lleol yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r awdurdod tai lleol ei hun, neu

(b)yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau’r awdurdod tai lleol.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw wybodaeth y mae awdurdod tai lleol wedi cael gafael arni wrth iddo arfer—

(a)ei swyddogaethau fel awdurdod tai lleol;

(b)ei swyddogaethau o dan Ran 1 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y dreth gyngor).

(3)Dylid trin gwybodaeth a ddaeth i law awdurdod tai lleol o dan adran 134 o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 (budd-dal tai) cyn i’r adran honno gael ei diddymu gan Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Lles 2012 fel gwybodaeth y mae is-adran (2) yn gymwys iddi.

(4)Os bydd awdurdod trwyddedu yn gofyn i awdurdod trwyddedu arall ddarparu gwybodaeth iddo y mae is-adran (5) yn gymwys iddi ac sydd ei hangen arno at ddibenion arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r awdurdod arall gydymffurfio â’r cais oni bai bod yr awdurdod arall yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun, neu

(b)yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer ei swyddogaethau.

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw wybodaeth sydd wedi dod i law awdurdod trwyddedu wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(6)Caiff awdurdod trwyddedu ddefnyddio unrhyw wybodaeth y mae is-adran (2) neu (5) yn gymwys iddi (pa un a yw wedi ei chael o dan is-adran (1) neu (4) ai peidio) at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig ag arfer swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon.

(7)Os bydd awdurdod tai lleol yn gofyn i awdurdod trwyddedu ddarparu gwybodaeth iddo y mae is-adran (5) yn gymwys iddi ac sydd ei hangen arno at ddibenion arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r awdurdod trwyddedu gydymffurfio â’r cais oni bai bod yr awdurdod trwyddedu yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r awdurdod ei hun, neu

(b)yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer ei swyddogaethau.

(8)Caiff awdurdod tai lleol ddefnyddio unrhyw wybodaeth y mae is-adran (2) neu (5) yn gymwys iddi (pa un a yw wedi ei chael o dan is-adran (7) ai peidio) at unrhyw ddibenion sy’n gysylltiedig ag arfer swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon.

37Pŵer i’w gwneud yn ofynnol cyflwyno dogfennau neu ddarparu gwybodaeth

(1)Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan awdurdod trwyddedu arfer y pwerau a roddir gan is-adrannau (2) a (3) mewn perthynas â dogfennau neu wybodaeth (yn ôl y digwydd) sy’n rhesymol ofynnol gan yr awdurdod—

(a)at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig ag arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon, neu

(b)at ddiben ymchwilio a oes unrhyw drosedd wedi ei chyflawni o dan y Rhan hon.

(2)Caiff person sydd wedi ei awdurdodi o dan is-adran (1) roi hysbysiad i berson perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw—

(a)cyflwyno unrhyw ddogfennau sydd—

(i)wedi eu pennu neu eu disgrifio yn yr hysbysiad, neu sy’n dod o dan gategori o ddogfen sydd wedi ei bennu neu ei ddisgrifio yn yr hysbysiad, a

(ii)sydd yng ngwarchodaeth neu o dan reolaeth y person, a

(b)eu cyflwyno ar adeg, mewn lleoliad ac i berson a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Caiff person sydd wedi ei awdurdodi o dan is-adran (1) roi hysbysiad i berson perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw—

(a)cyflwyno unrhyw wybodaeth sydd—

(i)wedi ei phennu neu ei disgrifio yn yr hysbysiad, neu sy’n dod o dan gategori o wybodaeth sydd wedi ei phennu neu ei disgrifio yn yr hysbysiad, a

(ii)sy’n hysbys i’r person, a

(b)ei rhoi mewn modd ac ar ffurf a bennir yn yr hysbysiad.

(4)Rhaid i’r hysbysiad o dan is-adran (2) neu (3) gynnwys gwybodaeth am ganlyniadau posibl peidio â chydymffurfio â’r hysbysiad.

(5)Caiff y person y cyflwynir unrhyw ddogfen iddo yn unol â hysbysiad o dan is-adrannau (2) neu (3) wneud copi o’r ddogfen.

(6)Nid yw’n ofynnol o dan yr adran hon i unrhyw berson gyflwyno unrhyw ddogfen neu roi unrhyw wybodaeth y byddai’r person o fewn ei hawl i wrthod eu rhoi mewn achos yn yr Uchel Lys ar sail braint broffesiynol gyfreithiol.

(7)Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar ffurfiau nad ydynt yn ffurfiau darllenadwy, ac mewn perthynas â gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi fel hynny, mae unrhyw gyfeiriad at gyflwyno dogfen yn gyfeiriad at gyflwyno copi o’r wybodaeth ar ffurf ddarllenadwy.

(8)Yn yr adran hon, mae “person perthnasol” yn golygu person a gynhwysir yn unrhyw un neu ragor o’r paragraffau canlynol—

(a)person sy’n gwneud cais am drwydded o dan y Rhan hon neu sy’n ddeiliad trwydded o dan y Rhan hon;

(b)person sydd ag ystâd neu fuddiant mewn eiddo ar rent;

(c)person sy’n ymwneud â gosod neu reoli eiddo ar rent, neu’n bwriadu bod yn ymwneud â hynny;

(d)person sy’n preswylio mewn eiddo ar rent.

38Gorfodi pwerau cael gafael ar wybodaeth

(1)Mae person sy’n methu â gwneud unrhyw beth y mae’n ofynnol iddo ei wneud drwy hysbysiad o dan adran 37 yn cyflawni trosedd.

(2)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan is-adran (1), mae’r ffaith fod gan y person esgus rhesymol am fethu â chydymffurfio â’r hysbysiad yn amddiffyniad.

(3)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(4)Mae person sy’n mynd ati’n fwriadol i newid, i atal neu i ddinistrio unrhyw ddogfen y mae’n ofynnol iddo ei chyflwyno gan hysbysiad o dan adran 37 yn cyflawni trosedd.

(5)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (4) yn agored, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy.

(6)Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar ffurfiau nad ydynt yn ffurfiau darllenadwy, ac mewn perthynas â gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi fel hynny—

(a)mae’r cyfeiriad at gyflwyno dogfen yn gyfeiriad at gyflwyno copi o’r wybodaeth ar ffurf ddarllenadwy, a

(b)mae’r cyfeiriad at atal dogfen yn cynnwys cyfeiriad at ddinistrio’r ffordd o atgynhyrchu’r wybodaeth.

39Gwybodaeth anwir neu gamarweiniol

(1)Mae person—

(a)sy’n cyflenwi unrhyw wybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol i awdurdod trwyddedu mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan y Rhan hon, a

(b)sy’n gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol neu sy’n ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol,

yn cyflawni trosedd.

(2)Mae person—

(a)sy’n cyflenwi gwybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol i berson arall,

(b)sy’n gwybod ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol neu sy’n ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol, ac

(c)sy’n gwybod bod yr wybodaeth i’w defnyddio at ddibenion cyflenwi gwybodaeth i awdurdod trwyddedu mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan y Rhan hon,

yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) neu (2) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “yn anwir neu’n gamarweiniol” yw yn anwir neu’n gamarweiniol mewn unrhyw fater perthnasol.

Pwerau Gweinidogion Cymru

40Cod ymarfer

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod ymarfer yn pennu safonau mewn perthynas â gosod a rheoli eiddo ar rent.

(2)Gellir dyroddi safonau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) mewn perthynas â hyfforddiant.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)dyroddi cod ymarfer sydd, yn rhannol neu’n gyfan gwbl, yn gymwys i bersonau neu achosion penodedig yn unig, neu’n cael ei gymhwyso’n wahanol i wahanol bersonau neu achosion;

(b)diwygio cod ymarfer neu ei dynnu yn ôl.

(4)Cyn dyroddi neu ddiwygio cod ymarfer rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau rhesymol i ymgynghori â’r canlynol—

(a)personau sy’n gysylltiedig â gosod a rheoli eiddo ar rent a phersonau sy’n meddiannu eiddo ar rent o dan denantiaeth, neu

(b)personau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn cynrychioli buddiannau’r personau a grybwyllir ym mharagraff (a),

ar fersiwn ddrafft o’r cod neu fersiwn ddrafft o god diwygiedig (“y cod arfaethedig”).

(5)Os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r cod arfaethedig (gydag addasiadau neu heb addasiadau), rhaid iddynt osod copi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddyroddi’r cod arfaethedig ar ffurf y fersiwn ddrafft honno oni bai ei fod wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(7)Unwaith y mae wedi ei gymeradwyo mae’r cod neu’r cod diwygiedig yn dod i rym ar y dyddiad a bennir drwy orchymyn Gweinidogion Cymru.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru dynnu cod a wneir o dan yr adran hon yn ôl mewn cod diwygiedig neu drwy gyfarwyddyd.

(9)Ni chaniateir i god a gymeradwywyd drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei dynnu yn ôl oni chymeradwyir cynnig i’r perwyl hwnnw drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(10)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi pob cod neu god diwygiedig a ddyroddir o dan yr adran hon.

41Canllawiau

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i awdurdod trwyddedu roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Wrth arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac eithrio fel awdurdod trwyddedu, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)rhoi canllawiau o dan y Rhan hon yn gyffredinol neu i awdurdodau o ddisgrifiad penodedig;

(b)diwygio canllawiau a roddir o dan y Rhan hon drwy roi canllawiau pellach;

(c)dirymu canllawiau a roddir o dan y Rhan hon drwy roi canllawiau pellach neu drwy hysbysiad.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau o dan y Rhan hon neu hysbysiad o dan yr adran hon.

(5)Cyn rhoi, diwygio neu ddirymu canllawiau o dan y Rhan hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyfryw bersonau ag y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

(6)Gall ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r adran hon ddod i rym fodloni’r gofyniad yn is-adran (5).

42Cyfarwyddiadau

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i awdurdod trwyddedu gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Wrth arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac eithrio fel awdurdod trwyddedu, rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2) gael ei roi yn gyffredinol neu i awdurdodau o ddisgrifiad penodedig.

(4)Mewn perthynas â chyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon—

(a)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd dilynol;

(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi.

Atodol

43Gweithgaredd sy’n groes i’r Rhan hon: effaith ar gytundebau tenantiaeth

(1)Nid yw unrhyw rheol gyfreithiol sy’n ymwneud â dilysrwydd neu orfodadwyedd contractau mewn amgylchiadau sy’n cynnwys anghyfreithlondeb i effeithio ar ddilysrwydd neu orfodadwyedd unrhyw ddarpariaeth mewn tenantiaeth ddomestig annedd y mae’r Rhan hon wedi ei thorri mewn perthynas â hi.

(2)Ond o ran taliadau cyfnodol—

(a)caniateir i rai sy’n daladwy mewn cysylltiad â thenantiaeth o’r fath gael eu hatal yn unol ag adran 30 (gorchmynion atal rhent), a

(b)caniateir i rai a delir mwn cysylltiad â thenantiaeth o’r fath gael eu hadfer yn unol ag adrannau 32 a 33 (gorchmynion ad-dalu rhent).

44Cyfyngiad ar derfynu tenantiaethau

(1)Ni chaniateir rhoi hysbysiad adran 21 mewn perthynas ag annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig a honno’n denantiaeth fyrddaliol sicr os—

(a)nad yw’r landlord yn gofrestredig mewn perthynas â’r annedd, neu

(b)nad yw’r landlord yn drwyddedig o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi ac nad yw wedi penodi person sydd yn drwyddedig o dan y Rhan hon i ymgymryd â’r holl waith rheoli eiddo mewn perthynas â’r annedd ar ran y landlord.

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys am y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod pan fo buddiant y landlord yn yr annedd yn cael ei aseinio i’r landlord.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “hysbysiad adran 21” yw hysbysiad o dan adran 21(1)(b) neu (4)(a) o Ddeddf Tai 1988.

45Landlordiaid sy’n ymddiriedolwyr

Os ymddiriedolwyr yw’r landlord, caniateir i’r landlord fod yn gofrestredig neu’n drwyddedig at ddibenion y Rhan hon o dan enw sy’n ddisgrifiad ar y cyd o’r ymddiriedolwyr fel ymddiriedolwyr yr ymddiriedolaeth o dan sylw.

46Rheoliadau ar ffioedd

(1)Caiff rheoliadau a wneir o dan y Rhan hon sy’n rhagnodi swm ffi sy’n daladwy gan berson mewn cysylltiad â cheisiadau i fod yn gofrestredig neu yn drwyddedig ddarparu —

(a)mai’r ffi fydd swm a nodir yn y rheoliadau;

(b)y caiff y ffi ei phenderfynu gan berson neu drwy ddull a bennir yn y rheoliadau.

(2)Caiff y cyfryw reoliadau ragnodi ffi wahanol ar gyfer gwahanol bersonau.

47Gwybodaeth am geisiadau

Rhaid i awdurdod trwyddedu gyhoeddi gwybodaeth am ei ofynion mewn perthynas ag—

(a)ffurf a chynnwys ceisiadau i fod yn gofrestredig ac yn drwyddedig;

(b)yr wybodaeth sydd i’w darparu wrth wneud ceisiadau.

48Rhoi hysbysiad etc. o dan y Rhan hon

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth o’r Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol neu’n ei awdurdodi (ym mha dermau bynnag) i—

(a)hysbysu person am rywbeth, neu

(b)rhoi dogfen i berson (gan gynnwys hysbysiad neu gopi o ddogfen).

(2)Caniateir i’r hysbysiad gael ei roi neu i’r ddogfen gael ei rhoi i’r person o dan sylw—

(a)drwy ei draddodi neu ei thraddodi i’r person,

(b)drwy ei anfon neu ei hanfon drwy’r post i gyfeiriad cywir y person,

(c)drwy ei adael neu ei gadael yn nghyfeiriad cywir y person, neu

(d)os yw’r amodau yn is-adran (4) yn cael eu bodloni, drwy ei anfon neu ei hanfon yn electronig.

(3)Caniateir i’r hysbysiad gael ei roi neu i’r ddogfen gael ei rhoi i gorff corfforaethol drwy ei roi neu ei rhoi i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw.

(4)Caiff person perthnasol anfon hysbysiad neu ddogfen yn electronig at berson dim ond os bodlonir y gofynion a ganlyn—

(a)rhaid i’r person y mae’r hysbysiad neu’r ddogfen i’w roi neu ei rhoi iddo fod wedi—

(i)nodi wrth y person perthnasol barodrwydd i gael yr hysbysiad neu’r ddogfen yn electronig, a

(ii)rhoi cyfeiriad sy’n addas at y diben hwnnw i’r person perthnasol, a

(b)rhaid i’r person perthnasol anfon yr hysbysiad neu’r ddogfen i’r cyfeiriad hwnnw.

(5)At ddibenion yr adran hon ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978 (cyfeiriadau at gyflwyno drwy’r post) yn ei gymhwysiad i’r adran hon, cyfeiriad cywir person yw—

(a)yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

(b)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y person.

(6)Mae hysbysiad neu ddogfen a roddir i berson drwy ei adael neu ei gadael yng nghyfeiriad cywir y person i’w drin neu ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel ei fod neu ei bod wedi ei roi neu ei rhoi ar yr amser y gadawyd ef neu hi yn y cyfeiriad.

(7)Mae pob un o’r canlynol yn “berson perthnasol” at ddibenion yr adran hon—

(a)awdurdod trwyddedu;

(b)awdurdod tai lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac eithrio fel awdurdod trwyddedu;

(c)person sydd, yn rhinwedd awdurdodiad ysgrifenedig, yn arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ar ran awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol o’r math a grybwyllir ym mharagraff (b).

Cyffredinol

49Dehongli’r Rhan hon a mynegai o dermau wedi eu diffinio

(1)Yn y Rhan hon—

  • mae i “annedd” (“dwelling”) yr ystyr a roddir gan adran 2;

  • ystyr “awdurdod trwyddedu” (“licensing authority”) yw person sydd wedi ei ddynodi drwy orchymyn o dan adran 3;

  • mae i “cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol” yr un ystyr a roddir i “fully mutual housing association” gan adran 1(2) o Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985;

  • mae i “eiddo ar rent” (“rental property”) yr ystyr a roddir gan adran 2;

  • mae i “gwaith gosod” (“lettings work”) yr ystyr a roddir gan adran 10;

  • mae i “gwaith rheoli eiddo” (“property management work”) yr ystyr a roddir gan adran 12;

  • mae i “landlord” (“landlord”) yr ystyr a roddir gan adran 2;

  • ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” (“registered social landlord”) yw landlord cofrestredig sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 1996;

  • ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw rhagnodedig mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “taliadau cyfnodol” (“periodical payments”) yw taliadau drwy rent neu dâl gwasanaeth;

  • mae i “tenantiaeth ddomestig” (“domestic tenancy”) yr ystyr a roddir gan adran 2.

(2)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at aseinio buddiant i landlord—

(a)yn cynnwys unrhyw drawsgludiad ac eithrio morgais neu arwystl, a

(b)os ymddiriedolwyr yw’r landlord, nid yw’n cynnwys newid yn y personau sydd, am y tro, yn ymddiriedolwyr i’r ymddiriedolaeth.

(3)Yn y Rhan hon—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at gais am drwydded yn cynnwys cyfeiriad at gais am adnewyddu trwydded, a

(b)mae unrhyw gyfeiriad at roi trwydded gan awdurdod trwyddedu yn cynnwys cyfeiriad at adnewyddu trwydded;

ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources