Nodyn Esboniadol

Deddf Tai (Cymru) 2014

7

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 6 Caniatáu I Gymdeithasau Tai Cwbl Gydfuddiannol Roi Tenantiaethau Sicr

Adran 137 – Diwygio Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988

241.Mae Deddf Tai 1988 (“Deddf 1988”) wedi ei diwygio i wneud darpariaeth i gymdeithasau tai cwbl gydfuddiannol (sy’n cynnwys cymdeithasau tai cydweithredol) allu rhoi tenantiaethau sicr.

242.Mae Rhan 1 o Ddeddf 1988 yn darparu ar gyfer y system o denantiaethau preswyl sicr (gan gynnwys tenantiaethau byrddaliol sicr). Mae Atodlen 1 i Ddeddf 1988 yn nodi’r mathau o denantiaeth na allant fod yn denantiaethau sicr; mae hynny’n cynnwys, ym mharagraff 12(1)(h) of Atodlen 1, denantiaethau a gynigir gan gymdeithas dai gwbl gydfuddiannol (gweler isod).

243.Effaith adran 137 yw darparu ar gyfer eithriad i’r cyfyngiad cyffredinol ym mharagraff 12(1)(h) o Atodlen 1 i Ddeddf 1988 pan fo’r amodau a grybwyllir yn adran 137(3) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â thenantiaeth. Bydd cymdeithasau tai cwbl gydfuddiannol yn gallu optio i mewn i’r drefn ar gyfer tenantiaethau sicr drwy roi’r denantiaeth honno fel tenantiaeth sicr. Bydd hyn yn galluogi cymdeithasau tai cwbl gydfuddiannol i roi tenantiaethau sicr a thenantiaethau byrddaliol sicr fel y caiff eu haelodau elwa ar yr amddiffyniad statudol y mae’r tenantiaethau hyn yn ei ddarparu, fel a nodir yn Neddf 1988.

Adran 138 – Diwygio Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988

244.Mae Atodlen 2 i Ddeddf 1988 Act wedi ei diwygio hefyd i ychwanegu sail dros feddiannu tenantiaeth sicr a roddir gan gymdeithas dai gwbl gydfuddiannol. Canlyniad yw hyn i’r ffaith bod cymdeithasau yn gallu optio i mewn i’r drefn ar gyfer tenantiaethau sicr.

245.Os yw tenantiaeth yn denantiaeth sicr, dim ond ar un neu ragor o’r seiliau a nodir yn Atodlen 2 y caiff y landlord fel rheol geisio gorchymyn llys i derfynu tenantiaeth ac adennill meddiant o gartref. Mae Rhan 1 o Atodlen 2 yn nodi’r seiliau pan nad oes gan lys unrhyw ddisgresiwn a bod rhaid iddo orchymyn meddiant os caiff y sail ei phrofi. Mae’r Adran hon yn mewnosod sail ychwanegol yn Rhan 1 o Atodlen 2 sy’n darparu bod gorchymyn ildio meddiant yn cael ei wneud ar y sail bod y gymdeithas dai gwbl gydfuddiannol wedi methu â glynu wrth amodau morgais. Ni chaniateir defnyddio’r sail hon oni bai bod y gymdeithas yn rhoi i’w aelod-denant hysbysiad y gallai’r sail hon fod yn gymwys cyn bod y denantiaeth yn cael ei rhoi.

246.Diffinnir cymdeithas tai gwbl gydfuddiannol (“fully mutual housing association”) yn adran 45 o Ddeddf 1988 drwy gyfeirio at yr ystyr a roddir i’r ymadrodd Saesneg gan Ran 1 o Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985. Adran 1 o Ddeddf 1985 sy’n cynnwys y diffiniad. Yn gryno, mae’n diffinio cymdeithas dai fel corff dielw y mae ei ddibenion yn cynnwys darparu tai. Mae cymdeithas dai “gydfuddiannol” yn golygu bod aelodaeth ohoni wedi ei chyfyngu i’r rhai sy’n denantiaid neu’n ddarpar denantiaid. Yn ychwanegol, dim ond i aelodau y caniateir rhoi tenantiaethau. Ystyr cymdeithas dai gydweithredol (“co-operative housing association”) yw cymdeithas tai gwbl gydfuddiannol sydd wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965.