78.Caiff tribiwnlys eiddo preswyl ddirymu gorchymyn atal rhent. Ni chaiff wneud hyn ond os yw cais wedi ei wneud gan yr awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y lleolir yr annedd ynddi, yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y lleolir yr annedd ynddi, neu landlord yr annedd. Rhaid iddo fod wedi ei fodloni hefyd nad yw trosedd o dan adran 7(5), yn ddarostyngedig i’r sylwadau isod, neu adran 13(3) yn cael ei gyflawni mwyach mewn cysylltiad â’r annedd. I’r graddau y mae’n ymwneud â throsedd o dan adran 7(5), ni all gorchymyn atal rhent fod yn gymwys ond i dorri adran 7(1), sy’n ymwneud â gwneud pethau penodol pan fo annedd yn ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, ac nid i dorri adran 7(3), sy’n ymwneud ag anheddau nad ydynt yn ddarostyngedig mwyach i denantiaeth. Y rheswm am hyn yw na chaniateir i orchmynion atal rhent gael eu dyroddi ond pan fo annedd yn ddarostyngedig i denantiaeth a bod rhent, felly, yn cael ei dalu.
79.Pan fo tribiwnlys yn dirymu gorchymyn atal rhent, effaith hynny yw adfer gallu’r landlord i gael rhent am yr eiddo o ddyddiad a benderfynir gan y tribiwnlys.
80.Os dirymir gorchymyn atal rhent, rhaid i’r awdurdod a wnaeth y cais hysbysu tenant neu feddiannydd yr annedd a’r landlord. Nid yw’r olaf yn gymwys os y landlord oedd yr un a wnaeth y cais yn y lle cyntaf; mewn achos felly, mae’n ofynnol i’r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y lleolir yr annedd ynddi hysbysu tenantiaid neu feddianwyr yr annedd fod y gorchymyn wedi ei ddirymu.