xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Deddf Tai (Cymru) 2014

2014 dccc 7

Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu ar gyfer rheoleiddio tai rhent preifat; diwygio’r gyfraith yn ymwneud â digartrefedd; i ddarparu ar gyfer asesu anghenion Sipsiwn a Theithwyr am lety ac i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gwrdd â’r anghenion hynny; i wneud darpariaeth ynghylch safonau’r tai y mae awdurdodau lleol yn eu darparu; i ddiddymu’r cymhorthdal cyfrif refeniw tai; i ganiatáu i gymdeithasau tai cwbl gydfuddiannol roi tenantiaethau sicr; i wneud darpariaeth ynghylch y dreth gyngor sy’n daladwy ar gyfer anheddau gwag; ac at ddibenion eraill sy’n ymwneud â thai.

[17 Medi 2014]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

Cyflwyniad

1Trosolwg o’r Rhan hon

(1)Mae’r Rhan hon yn rheoleiddio—

(a)gosod anheddau o dan fathau penodol o denantiaethau (a ddiffinnir fel “tenantiaethau domestig” yn adran 2), a

(b)rheolaeth anheddau sy’n ddarostyngedig i’r cyfryw denantiaethau,

drwy gyfrwng system gofrestru a thrwyddedu.

(2)Mae’n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid—

(a)bod yn gofrestredig ar gyfer pob annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, neu’n cael ei marchnata neu ei chynnig ar gyfer ei gosod o dan denantiaeth o’r fath, y maent yn landlordiaid mewn perthynas â hwy (adran 4), yn ddarostyngedig i eithriadau (adran 5);

(b)bod yn drwyddedig i ymgymryd â mathau penodol o weithgareddau gosod ar gyfer anheddau sy’n cael eu marchnata neu eu cynnig ar gyfer eu gosod o dan denantiaethau domestig (adran 6), yn ddarostyngedig i eithriadau (adran 8);

(c)bod yn drwyddedig i ymgymryd â mathau penodol o weithgareddau rheoli eiddo ar gyfer anheddau sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig (adran 7), yn ddarostyngedig i eithriadau (adran 8).

(3)Mae’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n gweithredu ar ran landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd â’r canlynol—

(a)gwaith gosod mewn perthynas ag annedd sy’n cael ei marchnata neu ei chynnig ar gyfer ei gosod o dan denantiaeth ddomestig (adran 9);

(b)gwaith rheoli eiddo mewn perthynas ag annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig (adran 11).

(4)Mae “gwaith gosod” a “gwaith rheoli eiddo” wedi eu diffinio at ddibenion y Rhan hon yn adrannau 10 a 12; mae’r diffiniadau yn eithrio personau a gweithgareddau penodol o’r gofynion trwyddedu a osodir ar bersonau sy’n gweithredu ar ran landlordiaid.

(5)Mae’r system o gofrestru a thrwyddedu i’w gweinyddu a’i gorfodi gan berson a ddynodir gan Weinidogion Cymru fel yr awdurdod trwyddedu ar gyfer Cymru gyfan neu gan wahanol bersonau a ddynodir fel awdurdodau trwyddedu ar gyfer gwahanol ardaloedd o fewn Cymru (adran 3); gwneir darpariaeth hefyd sy’n galluogi awdurdodau tai lleol i arfer pwerau gorfodi penodol.

(6)Mae adrannau 14 i 17 ac Atodlen 1 yn darparu ar gyfer sefydlu a chynnal cofrestr gan yr awdurdod trwyddedu ac ar gyfer cofrestru yn gyffredinol.

(7)Mae adrannau 18 i 27 yn darparu ar gyfer trwyddedau yn gyffredinol; ac

(a)ni chaiff awdurdod trwyddedu ond rhoi dau fath o drwydded (un ar gyfer landlordiaid a’r llall ar gyfer personau sy’n gweithredu ar ran landlordiaid) ac mae trwyddedau yn cael effaith mewn perthynas â’r ardal y mae awdurdod trwyddedu yn gyfrifol amdani (adran 18);

(b)er mwyn bod yn drwyddedig rhaid i berson gwrdd â meini prawf penodol, gan gynnwys bod yn berson addas a phriodol (adran 20) a gofynion sy’n ymwneud â hyfforddiant (gweler adran 19).

(8)Mae’r gofynion a osodir gan y Rhan hon yn cael eu gorfodi gan—

(a)troseddau mewn perthynas â thorri gofynion cofrestru a thrwyddedu (gweler yr adrannau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (2) a (3) ac adrannau 16(3), 23(3), 38(1) a (4) a 39(1) a (2));

(b)hysbysiadau cosbau penodedig (adran 29);

(c)gorchmynion atal rhent (adrannau 30 a 31);

(d)gorchmynion ad-dalu rhent (adrannau 32 a 33).

(9)Mae adrannau 36 i 39 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr wybodaeth sy’n ofynnol neu’n cael ei rhoi at ddibenion y Rhan hon.

(10)Mae adran 40 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi cod ymarfer a gwneir darpariaeth ar gyfer canllawiau (adran 41) a chyfarwyddiadau (adran 42).

(11)Mae adrannau 43 i 48 yn gwneud darpariaeth atodol.

(12)Mae adran 49 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch dehongli ac yn mynegeio’r termau wedi eu diffinio a ddefnyddir yn y Rhan hon.

2Ystyr y prif dermau

(1)Yn y Rhan hon—

(2)Yn yr adran hon, ystyr “tenant statudol” a “tenantiaeth statudol” yw tenant statudol neu denantiaeth statudol o fewn yr ystyr a roddir i “statutory tenant” a “statutory tenancy” yn Neddf Rhenti 1977.

3Awdurdod trwyddedu

(1)At ddibenion y Rhan hon rhaid i Weinidogion Cymru wneud y naill neu’r llall o’r canlynol drwy orchymyn—

(a)dynodi un person fel yr awdurdod trwyddedu ar gyfer Cymru gyfan, neu

(b)dynodi gwahanol bersonau fel awdurdodau trwyddedu ar gyfer gwahanol ardaloedd o Gymru a bennir yn y gorchymyn, ar yr amod nad oes gan yr un ardal fwy nag un awdurdod trwyddedu a bod yr holl ardaloedd gyda’i gilydd, yn cynnwys Cymru gyfan.

(2)Mewn perthynas â Gweinidogion Cymru—

(a)ni chaiff Gweinidogion Cymru ond dynodi person sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus mewn perthynas â Chymru yn llwyr neu yn bennaf;

(b)caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi eu hunain;

(c)ni chaiff Gweinidogion Cymru ddynodi un o Weinidogion y Goron.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth y maent yn ei hystyried yn angenrheidiol neu’n hwylus mewn perthynas â dynodi person o dan yr adran hon.

(4)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw berson y maent yn bwriadu ei ddynodi (ac eithrio hwy eu hunain) a’r cyfryw bersonau eraill ag y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

Gwahardd gosod a rheoli heb gofrestriad a thrwydded

4Gofyniad i landlord fod yn gofrestredig

(1)Rhaid i landlord annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, neu sy’n cael ei marchnata neu ei chynnig i’w gosod o dan denantiaeth o’r fath, fod yn gofrestredig o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r annedd (gweler adrannau 14 i 17), oni bai bod eithriad yn adran 5 yn gymwys.

(2)Mae landlord sy’n torri is-adran (1) yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(3)Mewn achos yn erbyn landlord am drosedd o dan is-adran (2) mae’r ffaith bod gan y landlord esgus rhesymol am beidio â bod yn gofrestredig yn amddiffyniad.

5Eithriadau i’r gofyniad i landlord fod yn gofrestredig

Nid yw’r gofyniad yn adran 4(1) yn gymwys—

(a)os yw’r landlord wedi gwneud cais i’r awdurdod trwyddedu i fod yn gofrestredig mewn perthynas â’r annedd honno ac na phenderfynwyd ar y cais;

(b)am gyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr aseinir buddiant y landlord yn yr annedd i’r landlord;

(c)os yw’r landlord yn cymryd camau i adennill meddiant o’r annedd o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr aseinir buddiant y landlord yn yr annedd i’r landlord, am ba hyd bynnag ag y bydd y landlord yn parhau yn ddiwyd i geisio adennill meddiant;

(d)i landlord sy’n landlord cymdeithasol cofrestredig;

(e)i landlord sy’n gymdeithas dai gwbl gydfuddiannol;

(f)i berson o ddisgrifiad a bennir at ddibenion yr adran hon mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

6Gofyniad i landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau gosod

(1)Ni chaniateir i landlord annedd sy’n cael ei marchnata neu ei chynnig i’w gosod o dan denantiaeth ddomestig wneud unrhyw un o’r pethau a ddisgrifir yn is-adran (2) mewn perthynas â’r annedd oni bai—

(a)bod y landlord yn drwyddedig i wneud hynny o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi,

(b)mai’r hyn a wneir yw trefnu i asiant awdurdodedig wneud rhywbeth ar ran y landlord, neu

(c)bod eithriad yn adran 8 yn gymwys.

(2)Y pethau yw—

(a)trefnu neu gynnal ymweliadau gan ddarpar denantiaid;

(b)casglu tystiolaeth at ddiben penderfynu ar addasrwydd darpar denantiaid (er enghraifft, drwy gadarnhau tystlythyrau, cynnal gwiriadau credyd neu gyfweld darpar denantiaid);

(c)paratoi, neu drefnu i baratoi, cytundeb tenantiaeth;

(d)paratoi, neu drefnu i baratoi, stocrestr ar gyfer yr annedd neu restr gyflwr ar gyfer yr annedd.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy orchymyn—

(a)diwygio neu hepgor y disgrifiadau o bethau yn is-adran (2) (gan gynnwys pethau a ychwanegir o dan baragraff (b));

(b)ychwanegu disgrifiadau pellach o bethau at is-adran (2).

(4)Mae landlord sy’n torri is-adran (1) yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

(5)Mewn achos yn erbyn landlord am drosedd o dan is-adran (4) mae’r ffaith bod gan y landlord esgus rhesymol am beidio â bod yn drwyddedig yn amddiffyniad.

(6)Yn is-adran (1) ystyr “asiant awdurdodedig” yw—

(a)person sy’n drwyddedig i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y lleolir yr annedd ynddi,

(b)awdurdod tai lleol (pa un a yw’n arfer ei swyddogaethau fel awdurdod tai lleol ai peidio), neu

(c)mewn perthynas â pharatoi, neu drefnu i baratoi cytundeb tenantiaeth yn unig, cyfreithiwr cymwysedig (o fewn yr ystyr a roddir i “qualified solicitor” yn Rhan 1 o Ddeddf Cyfreithwyr 1974), person sy’n gweithredu ar ran cyfreithiwr o’r fath neu unrhyw berson o ddisgrifiad a bennir mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

7Gofyniad i landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau rheoli eiddo

(1)Ni chaniateir i landlord annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig wneud unrhyw un o’r pethau a ddisgrifir yn is-adran (2) mewn perthynas â’r annedd oni bai—

(a)bod y landlord yn drwyddedig i wneud hynny o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y lleolir yr annedd ynddi,

(b)mai’r peth a wneir yw trefnu i asiant awdurdodedig wneud rhywbeth ar ran y landlord, neu

(c)bod eithriad yn adran 8 yn gymwys.

(2)Y pethau yw—

(a)casglu rhent;

(b)bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer y tenant mewn perthynas â materion sy’n codi o dan y denantiaeth;

(c)gwneud trefniadau gyda pherson i ymgymryd â gwaith trwsio neu gynnal a chadw;

(d)gwneud trefniadau gyda thenant neu feddiannwr yr annedd i sicrhau mynediad i’r annedd at unrhyw ddiben;

(e)cadarnhau cynnwys neu gyflwr yr annedd, neu drefnu iddynt gael eu cadarnhau;

(f)cyflwyno hysbysiad terfynu tenantiaeth.

(3)Ni chaiff landlord annedd a oedd yn ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, ond nad yw bellach yn ddarostyngedig i’r denantiaeth ddomestig honno, gadarnhau cyflwr neu gynnwys yr annedd, neu drefnu iddynt gael eu cadarnhau, at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â’r denantiaeth oni bai—

(a)bod y landlord yn drwyddedig i wneud hynny o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi,

(b)mai’r peth sy’n cael ei wneud yw trefnu i asiant awdurdodedig wneud hynny ar ran y landlord, neu

(c)bod eithriad yn adran 8 yn gymwys.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy orchymyn—

(a)diwygio neu hepgor y disgrifiadau o bethau yn is-adran (2) neu (3) (gan gynnwys pethau a ychwanegir o dan baragraff (b)) na chaiff landlord ei wneud oni bai bod unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (c) o is-adran (1) neu (3) yn gymwys (yn ôl y digwydd);

(b)ychwanegu disgrifiadau pellach o bethau at ddibenion yr adran hon (gan gynnwys drwy ddiwygio’r Rhan hon).

(5)Mae landlord sy’n torri is-adran (1) neu (3) yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

(6)Mewn achos yn erbyn landlord am drosedd o dan is-adran (5) mae’r ffaith bod gan y landlord esgus rhesymol am beidio â bod yn drwyddedig yn amddiffyniad.

(7)Yn is-adran (1) ystyr “asiant awdurdodedig” yw—

(a)person sy’n drwyddedig i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y lleolir yr annedd ynddi,

(b)awdurdod tai lleol (pa un a yw’n arfer ei swyddogaethau fel awdurdod tai lleol ai peidio), neu

(c)mewn perthynas â chyflwyno hysbysiad terfynu tenantiaeth yn unig, cyfreithiwr cymwysedig (o fewn yr ystyr a roddir i “qualified solicitor” yn Rhan 1 o Ddeddf Cyfreithwyr 1974), person sy’n gweithredu ar ran cyfreithiwr o’r fath neu unrhyw berson o ddisgrifiad a bennir mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

8Eithriadau i ofynion i landlord fod yn drwyddedig

Nid yw’r gofynion yn adrannau 6(1), 7(1) a 7(3) yn gymwys—

(a)os yw’r landlord wedi gwneud cais i’r awdurdod trwyddedu i fod yn drwyddedig, am y cyfnod o ddyddiad y cais hyd nes y bydd yr awdurdod yn penderfynu arno neu (os yw’r awdurdod yn gwrthod y cais) hyd nes y bydd pob dull o apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod y cais wedi ei ddisbyddu a’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau;

(b)am gyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr aseinir buddiant y landlord yn yr annedd i’r landlord;

(c)os yw’r landlord yn cymryd camau i adennill meddiant o’r eiddo o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr aseinir buddiant y landlord yn yr annedd i’r landlord, am ba hyd bynnag ag y bydd y landlord yn parhau yn ddiwyd i geisio adennill meddiant;

(d)i landlord sy’n landlord cymdeithasol cofrestredig;

(e)i landlord sy’n gymdeithas dai gwbl gydfuddiannol;

(f)mewn achosion a bennir at ddibenion yr adran hon mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

9Gofyniad i asiantau fod yn drwyddedig i ymgymryd â gwaith gosod

(1)Ni chaniateir i berson sy’n gweithredu ar ran landlord annedd sy’n cael ei marchnata neu ei chynnig i’w gosod o dan denantiaeth ddomestig ymgymryd â gwaith gosod mewn perthynas â’r annedd oni bai bod y person yn drwyddedig i wneud hynny o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi.

(2)Mae person sy’n torri yr adran hon yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

(3)Mewn achos yn erbyn person am drosedd a gyflawnwyd o dan is-adran (2) mae’r ffaith bod gan y person esgus rhesymol am fethu â bod yn drwyddedig yn amddiffyniad.

10Ystyr gwaith gosod

(1)Yn y Rhan hon ystyr “gwaith gosod” yw’r pethau y mae unrhyw berson yn eu gwneud mewn ymateb i gyfarfwyddiadau gan—

(a)person sy’n ceisio canfod person arall sy’n dymuno rhentu annedd o dan denantiaeth ddomestig ac, ar ôl canfod y cyfryw berson, rhoi’r gyfryw denantiaeth (“darpar landlord”);

(b)person sy’n ceisio canfod annedd i’w rhentu o dan denantiaeth ddomestig ac, ar ôl canfod y gyfryw annedd, gael gafael ar y gyfryw denantiaeth ohoni (“darpar denant”);

yn ddarostyngedig i’r is-adrannau a ganlyn.

(2)Nid yw “gwaith gosod” yn cynnwys unrhyw beth ym mharagraffau (a) neu (b) a ganlyn—

(a)cyhoeddi hysbysebion neu ledaenu gwybodaeth;

(b)darparu dull—

(i)y gall darpar landlord (neu asiant y darpar landlord) neu ddarpar denant ei ddefnyddio, mewn ymateb i hysbyseb neu ledaeniad gwybodaeth, i gysylltu’n uniongyrchol â darpar denant neu (yn ôl y digwydd) ddarpar landlord (neu asiant y darpar landlord);

(ii)y gall darpar landlord (neu asiant y darpar landlord) a darpar denant ei ddefnyddio i barhau i gyfathrebu yn uniongyrchol â’i gilydd;

pan fo’n cael ei wneud gan berson—

(c)nad yw’n gwneud unrhyw beth arall o fewn is-adran (1), a

(d)nad yw’n gwneud gwaith rheoli eiddo mewn perthynas â’r eiddo.

(3)Nid yw “gwaith gosod” yn cynnwys gwneud unrhyw un o’r pethau ym mharagraffau (a) i (c) a ganlyn—

(a)trefnu a chynnal ymweliadau gan ddarpar denantiaid;

(b)paratoi, neu drefnu i baratoi, y cytundeb tenantiaeth;

(c)paratoi, neu drefnu i baratoi, unrhyw stocrestr neu restr o gyflwr;

pan fo’n cael ei wneud gan berson—

(d)nad yw’n gwneud unrhyw beth arall yn y paragraffau hynny nac unrhyw beth arall o fewn is-adran (1), ac

(e)nad yw’n gwneud unrhyw beth o fewn adran 12(1) mewn perthynas â’r eiddo.

(4)Nid yw “gwaith gosod” yn cynnwys y canlynol ychwaith—

(a)gwneud pethau o dan gontract gwasanaeth neu brentisiaeth gyda landlord;

(b)gwneud pethau o dan gontract gwasanaeth neu brentisiaeth, neu gontract am wasanaethau, gyda pherson sydd—

(i)wedi ei gyfarwyddo i ymgymryd â’r gwaith gan landlord, a

(ii)wedi ei drwyddedu i wneud hynny o dan y Rhan hon;

(c)unrhyw beth a wneir gan awdurdod tai lleol (pa un a yw’n arfer ei swyddogaethau fel awdurdod tai lleol ai peidio);

(d)pethau o ddisgrifiad, neu bethau a wneir gan berson o ddisgrifiad, a bennir at ddibenion yr adran hon mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

11Gofyniad i asiantau fod yn drwyddedig i ymgymryd â gwaith rheoli eiddo

(1)Ni chaniateir i berson sy’n gweithredu ar ran landlord annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig ymgymryd â gwaith rheoli eiddo mewn perthynas â’r annedd oni bai bod y person yn drwyddedig i wneud hynny o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi.

(2)Ni chaniatieir i berson sy’n gweithredu ar ran landlord annedd a oedd yn ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, ond nad yw bellach yn ddarostyngedig i’r denantiaeth ddomestig honno, gadarnhau cyflwr neu gynnwys yr annedd, neu drefnu iddynt gael eu cadarnhau, at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â’r denantiaeth oni bai—

(a)bod y person yn drwyddedig i wneud hynny o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi,

(b)bod y person yn ymatal rhag gwneud unrhyw beth arall mewn perthynas â’r annedd sy’n dod o fewn—

(i)adran 10(1), ac eithrio paratoi, neu drefnu i baratoi, unrhyw stocrestr neu restr o gyflwr, neu

(ii)adran 12(1), neu

(c)na fyddai’r gweithgaredd, yn rhinwedd adran 12(3), yn waith rheoli eiddo.

(3)Mae person sy’n torri is-adran (1) neu (2) yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

(4)Mewn achos yn erbyn person am drosedd a gyflawnwyd o dan is-adran (3) mae’r ffaith bod gan y person esgus rhesymol am fethu â bod yn drwyddedig yn amddiffyniad.

12Ystyr gwaith rheoli eiddo

(1)Yn y Rhan hon, ystyr “gwaith rheoli eiddo” yw gwneud unrhyw un o’r pethau canlynol—

(a)casglu rhent;

(b)bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer y tenant mewn perthynas â materion sy’n codi o dan y denantiaeth;

(c)gwneud trefniadau gyda pherson i ymgymryd â gwaith trwsio neu gynnal a chadw;

(d)gwneud trefniadau gyda thenant neu feddiannwr yr annedd i sicrhau mynediad i’r annedd at unrhyw ddiben;

(e)cadarnhau cynnwys neu gyflwr yr annedd, neu drefnu iddynt gael eu cadarnhau;

(f)cyflwyno hysbysiad terfynu tenantiaeth.

(2)Ond nid yw “gwaith rheoli eiddo” yn cynnwys gwneud unrhyw un o’r pethau ym mharagraffau (b) i (f) o is-adran (1) pan fo’n cael ei wneud gan berson—

(a)nad yw’n gwneud unrhyw beth arall o fewn is-adran (1), a

(b)nad yw’n gwneud unrhyw beth o fewn adran 10(1) mewn perthynas â’r annedd.

(3)Nid yw “gwaith rheoli eiddo” yn cynnwys y canlynol ychwaith—

(a)gwneud pethau o dan gontract gwasanaeth neu brentisiaeth gyda landlord;

(b)gwneud pethau o dan gontract gwasanaeth neu brentisiaeth, neu gontract am wasanaethau, gyda pherson sydd—

(i)wedi ei gyfarwyddo i ymgymryd â’r gwaith gan landlord, a

(ii)wedi ei drwyddedu i wneud hynny o dan y Rhan hon;

(c)unrhyw beth a wneir gan awdurdod tai lleol (pa un a yw’n arfer ei swyddogaethau fel awdurdod tai lleol ai peidio);

(d)pethau o ddisgrifiad, neu bethau a wneir gan berson o ddisgrifiad, a bennir at ddibenion yr adran hon mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

13Y drosedd o benodi asiant heb drwydded

(1)Ni chaniateir i landlord annedd sy’n cael ei marchnata neu ei chynnig ar osod o dan denantiaeth ddomestig benodi person i ymgymryd â gwaith gosod, neu barhau i adael i berson ymgymryd â gwaith gosod, ar ran y landlord mewn perthynas â’r annedd honno, os—

(a)nid yw’r person yn dal trwydded i wneud hynny o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi, a

(b)mae’r landlord yn gwybod neu dylai wybod nad yw’r person yn dal trwydded o’r fath.

(2)Rhaid i landlord annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig beidio â phenodi neu barhau i adael i berson ymgymryd â gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas â’r annedd honno, os—

(a)nid yw’r person yn dal trwydded i wneud hynny o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi, a

(b)mae’r landlord yn gwybod neu dylai wybod nad yw’r person yn dal trwydded o’r fath.

(3)Mae landlord sy’n torri is-adran (1) neu (2) yn cyflawni trosedd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y gyfradd safonol.

Cofrestru

14Dyletswydd i gynnal cofrestr mewn perthynas ag eiddo ar rent

(1)Rhaid i awdurdod trwyddedu greu a chynnal cofrestr ar gyfer ei ardal sydd yn cofnodi’r wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 1.

(2)Mae Rhan 2 o Atodlen 1 yn cynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â chaniatáu i’r cyhoedd gael mynediad at wybodaeth a ddelir ar y gofrestr.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 1 drwy orchymyn.

15Cofrestru gan awdurdod trwyddedu

(1)Mae cais i fod yn gofrestredig i gael ei wneud i’r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae’r annedd y mae’r cais yn ymwneud â hi wedi ei lleoli ynddi; a rhaid i’r awdurdod gofrestru’r landlord o fewn y cyfnod rhagnodedig os yw’r cais—

(a)yn cael ei wneud ar y ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod,

(b)yn cynnwys y gyfryw wybodaeth ag sy’n rhagnodedig,

(c)yn cynnwys y gyfryw wybodaeth arall ag sy’n ofynnol gan yr awdurdod, ac

(d)wedi ei yrru ynghyd â’r ffi ragnodedig.

(2)Os yw’r landlord yn gofrestredig, rhaid i’r awdurdod trwyddedu hysbysu’r landlord—

(a)bod y landlord yn gofrestredig, a

(b)am y rhif cofrestru sydd wedi ei neilltuo i’r landlord.

(3)Ar yr achlysur cyntaf y bydd landlord yn cael ei gofrestru rhaid i awdurdod trwyddedu neilltuo rhif cofrestru i’r landlord.

(4)Caiff awdurdod trwyddedu godi ffi ragnodedig bellach ar y landlord am barhau yn gofrestredig, ond ni chaiff wneud hynny—

(a)cyn pen 5 mlynedd ar ôl y dyddiad y cofrestrwyd y landlord, a

(b)cyn pen pob cyfnod o 5 mlynedd ar ôl y dyddiad y codwyd ffi ragnodedig bellach.

16Dyletswydd i ddiweddaru gwybodaeth

(1)Rhaid i landlord sy’n gofrestredig o dan adran 15 mewn perthynas ag eiddo ar rent hysbysu’r awdurdod trwyddedu yn ysgrifenedig am y newidiadau a ganlyn—

(a)unrhyw newid yn yr enw y cofrestrir y landlord oddi tano;

(b)penodi person i ymgymryd â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas â’r eiddo ar rent;

(c)bod person a benodwyd yn flaenorol gan y landlord i ymgymryd â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas â’r eiddo ar rent wedi rhoi’r gorau i wneud hynny;

(d)unrhyw aseiniad o fuddiant y landlord yn yr eiddo ar rent;

(e)unrhyw newidiadau rhagnodedig.

(2)Rhaid i landlord gydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (1) o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod cyntaf yr oedd y landlord yn gwybod am y newid, neu y dylai fod wedi gwybod amdano.

(3)Mae person sy’n torri is-adran (1) yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol.

(4)Mewn achos yn erbyn person am drosedd a gyflawnwyd o dan is-adran (3) mae’r ffaith bod gan y person esgus rhesymol am fethu â chydymffurfio yn amddiffyniad.

17Dirymu cofrestriad

(1)Caiff awdurdod trwyddedu ddirymu cofrestriad unrhyw landlord—

(a)sy’n darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol mewn cais o dan adran 15 neu wrth hysbysu am newid o dan adran 16;

(b)sy’n torri adran 16;

(c)sy’n methu â thalu unrhyw ffi bellach sy’n cael ei chodi o dan adran 15.

(2)Cyn dirymu cofrestriad landlord rhaid i awdurdod trwyddedu—

(a)hysbysu’r landlord am ei fwriad i ddirymu’r cofrestriad a’r rhesymau dros hynny, a

(b)ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan y landlord cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr hysbyswyd y landlord.

(3)Ar ôl dirymu cofrestriad landlord rhaid i awdurdod trwyddedu hysbysu’r landlord—

(a)am y dirymiad a’r rhesymau dros wneud hynny;

(b)am hawl y landlord i apelio.

(4)Caiff person y dirymir ei gofrestriad apelio yn erbyn y penderfyniad i dribiwnlys eiddo preswyl.

(5)Mewn perthynas ag apêl—

(a)rhaid iddo gael ei wneud cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr hysbyswyd y person am y penderfyniad (y “cyfnod apelio”);

(b)caniateir penderfynu arno gan roi sylw i faterion nad oedd yr awdurdod trwyddedu yn ymwybodol ohonynt.

(6)Caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gyflwyno iddo ar ôl diwedd y cyfnod apelio os yw’n fodlon bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (ac am unrhyw oedi cyn gofyn am ganiatâd i apelio y tu allan i’r cyfnod hwnnw).

(7)Caiff y tribiwnlys gadarnhau penderfyniad yr awdurdod trwyddedu neu gyfarwyddo’r awdurdod i gofrestru’r landlord.

(8)Mae dirymiad cofrestriad landlord yn cael effaith ar y diwrnod y mae pa un bynnag o’r canlynol yn digwydd gyntaf—

(a)pan nad yw’r landlord yn apelio yn erbyn y penderfyniad i ddirymu’r cofrestriad o fewn y cyfnod apelio, pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben;

(b)pan fo’r landlord yn apelio o fewn y cyfnod apelio ond yn tynnu’r apêl yn ôl yn ddiweddarach, dyddiad ei dynnu’n ôl;

(c)pan fo’r landlord yn apelio o fewn y cyfnod apelio a’r tribiwnlys eiddo preswyl yn cadarnhau penderfyniad yr awdurdod trwyddedu, yn ddarostyngedig i baragraff (d), dyddiad penderfyniad y tribiwnlys;

(d)pan fo’r landlord yn cyflwyno apêl bellach, y dyddiad y mae pob dull o apelio yn erbyn y penderfyniad wedi ei ddisbyddu a phenderfyniad yr awdurdod trwyddedu yn cael ei gadarnhau.

(9)Pan fo cofrestriad landlord yn cael ei ddirymu, rhaid i’r awdurdod trwyddedu—

(a)hysbysu unrhyw berson a gofnodwyd ar y gofrestr fel person a benodwyd gan y landlord i ymgymryd â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo ar ran y landlord, a

(b)hysbysu tenantiaid neu feddianwyr eiddo ar rent a gofrestrwyd o dan enw’r landlord.

Trwyddedu

18Trwyddedau y caniateir eu rhoi

Ni chaiff awdurdod trwyddedu ond roi’r mathau canlynol o drwydded o dan y Rhan hon—

(a)trwydded ar gyfer ei ardal at ddibenion cydymffurfio ag adrannau 6 (gofyniad i landlordiaid fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau gosod) a 7 (gofyniad i landlordiaid fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau rheoli eiddo);

(b)trwydded ar gyfer ei ardal at ddiben cydymffurfio ag adrannau 9 (gofyniad i asiantau fod yn drwyddedig i ymgymryd â gwaith gosod) a 11 (gofyniad i asiantau fod yn drwyddedig i ymgymryd â gwaith rheoli eiddo).

19Gofynion cais am drwydded

(1)Rhaid i gais am drwydded—

(a)cael ei wneud ar y gyfryw ffurf ag sy’n ofynnol gan yr awdurdod trwyddedu,

(b)darparu’r gyfryw wybodaeth ag sy’n rhagnodedig,

(c)darparu’r gyfryw wybodaeth arall ag sy’n ofynnol gan yr awdurdod, ac

(d)cael ei yrru ynghyd â’r ffi ragnodedig.

(2)Cyn rhoi trwydded rhaid i awdurdod trwyddedu fod yn fodlon—

(a)bod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn drwyddedig (gweler adran 20);

(b)bod gofynion mewn perthynas â hyfforddiant a bennir mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru neu oddi tanynt wedi eu bodloni neu y byddant yn cael eu bodloni (yn ôl y digwydd).

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2)(b) (ymhlith pethau eraill)—

(a)awdurdodi awdurdod trwyddedu i bennu gofynion mewn perthynas â hyfforddiant mewn cysylltiad â’r canlynol—

(i)ymrwymiadau statudol landlord a thenant;

(ii)y berthynas gontractiol rhwng landlord a thenant;

(iii)rôl asiant sy’n cyflawni gwaith gosod neu waith rheoli eiddo;

(iv)arferion gorau wrth osod a rheoli anheddau sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, neu sy’n cael eu marchnata neu eu cynnig ar gyfer eu gosod o dan denantiaeth o’r fath;

(b)gwneud darpariaeth o ran ac mewn cysylltiad â’i gwneud yn ofynnol i hyfforddiant—

(i)cael ei gynnal gan bersonau sydd wedi eu hawdurdodi i wneud hynny gan yr awdurdod trwyddedu neu Weinidogion Cymru;

(ii)cael ei gyflwyno drwy gyrsiau hyfforddi a gymeradwywyd gan yr awdurdod trwyddedu neu Weinidogion Cymru;

mae hyn yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer codi ffioedd ar gyfer awdurdodiad neu gymeradwyaeth.

20Gofyniad person addas a phriodol

(1)Wrth benderfynu a yw person yn berson addas a phriodol i fod yn drwyddedig fel sy’n ofynnol gan adran 19(2)(a) rhaid i awdurdod trwyddedu roi sylw i’r holl faterion y mae’n eu hystyried yn briodol.

(2)Ymhlith y materion y mae’n rhaid i’r awdurdod trwyddedu roi sylw iddynt y mae unrhyw dystiolaeth o fewn is-adrannau (3) i (5).

(3)Mae tystiolaeth o fewn yr is-adran hon os yw’n dangos bod y person—

(a)wedi cyflawni unrhyw drosedd sy’n ymwneud â thwyll neu anonestrwydd arall, trais, arfau tanio neu gyffuriau neu unrhyw drosedd a restrir yn Atodlen 3 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (troseddau sydd â gofynion hysbysu),

(b)wedi aflonyddu ar rywun neu wahaniaethu’n anghyfreithlon yn ei erbyn ar sail unrhyw nodwedd sy’n nodwedd warchodedig o dan adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, neu wedi erlid person arall yn groes i’r Ddeddf honno, wrth gynnal unrhyw fusnes neu mewn cysylltiad â hynny, neu

(c)wedi torri unrhyw ddarpariaeth yn y gyfraith sy’n ymwneud â thai neu landlord a thenant.

(4)Mae tystiolaeth o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw’n dangos bod unrhyw berson arall sy’n gysylltiedig â’r person neu a oedd yn gysylltiedig â’r person yn flaenorol (pa un ai ar sail bersonol, ar sail gwaith neu ar sail arall) wedi gwneud unrhyw un neu ragor o’r pethau hynny a nodir yn is-adran (3), a

(b)mae’n ymddangos i’r awdurdod trwyddedu bod y dystiolaeth yn berthnasol wrth ystyried a yw’r person yn berson addas a phriodol i fod yn drwyddedig.

(5)Mae tystiolaeth o fewn yr is-adran hon os yw’n dangos bod y person wedi methu yn flaenorol â chydymffurfio ag amod trwydded a roddwyd o dan y Rhan hon gan awdurdod trwyddedu.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau trwyddedu ynghylch penderfynu a yw person yn berson addas a phriodol i fod yn drwyddedig fel sy’n ofynnol gan adran 19(2)(a).

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy orchymyn er mwyn amrywio’r dystiolaeth y mae’n rhaid i awdurdod trwyddedu roi sylw iddi wrth benderfynu a yw person yn berson addas a phriodol i fod yn drwyddedig.

21Penderfynu ar gais

(1)Pan fo awdurdod trwyddedu yn fodlon bod y ceisydd yn cwrdd â’r gofynion a nodir yn adran 19, rhaid iddo roi trwydded i’r ceisydd.

(2)Ar ôl rhoi’r drwydded rhaid i’r awdurdod trwyddedu—

(a)neilltuo rhif trwydded i ddeiliad y drwydded;

(b)cofnodi rhif y drwydded yn y drwydded;

(c)cofnodi’r dyddiad y rhoddwyd y drwydded yn y drwydded;

(d)rhoi’r drwydded i ddeiliad y drwydded.

(3)Pan fo awdurdod trwyddedu yn gwrthod cais, rhaid iddo hysbysu’r ceisydd—

(a)bod y cais wedi ei wrthod a’r rhesymau pam y’i gwrthodwyd;

(b)am hawl y ceisydd i apelio (gweler adran 27).

(4)Rhaid i’r awdurdod trwyddedu benderfynu ar gais o fewn cyfnod rhagnodedig.

22Amodau trwydded

(1)Rhaid rhoi trwydded yn ddarostyngedig i amod bod deiliad y drwydded yn cydymffurfio ag unrhyw god ymarfer a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 40.

(2)Caiff awdurdod trwyddedu roi trwydded yn ddarostyngedig i’r cyfryw amodau pellach ag y mae’n eu hystyried yn briodol.

23Dyletswydd i ddiweddaru gwybodaeth

(1)Rhaid i ddeiliad trwydded hysbysu’r awdurdod trwyddedu yn ysgrifenedig am y newidiadau a ganlyn—

(a)unrhyw newid yn yr enw y cofrestrir deiliad y drwydded oddi tano;

(b)unrhyw newidiadau rhagnodedig.

(2)Rhaid i ddeiliad trwydded gydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (1) o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod cyntaf yr oedd deiliad y drwydded yn gwybod am y newid, neu y dylai fod wedi gwybod amdano.

(3)Mae person sy’n torri’r adran hon yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(4)Mewn achos yn erbyn person am drosedd a gyflawnwyd o dan is-adran (3) mae’r ffaith bod gan y person esgus rhesymol am fethu â chydymffurfio yn amddiffyniad.

24Diwygio trwydded

(1)Caiff awdurdod trwyddedu, yn unol â’r adran hon, ddiwygio unrhyw drwydded a roddir ganddo.

(2)Caniateir diwygio trwydded er mwyn—

(a)gosod amodau newydd;

(b)dileu neu newid amodau presennol (ac eithrio’r gofyniad i gydymffurfio ag unrhyw god ymarfer a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru).

(3)Ond cyn penderfynu diwygio trwydded rhaid i awdurdod trwyddedu—

(a)hysbysu deiliad y drwydded am ei fwriad i ddiwygio’r drwydded a’r rhesymau dros hynny, a

(b)ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan ddeiliad y drwydded cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr hysbyswyd y person.

(4)Nid yw is-adran (3)(b) yn gymwys i ddiwygiad—

(a)os yw deiliad y drwydded yn cydsynio iddo, neu

(b)pan fo awdurdod trwyddedu yn ystyried bod amgylchiadau eithriadol sy’n golygu bod angen ei wneud yn ddi-oed.

(5)Ar ôl diwygio trwydded rhaid i’r awdurdod trwyddedu hysbysu deiliad y drwydded am—

(a)y diwygiad a’r rhesymau drosto;

(b)ac eithrio pan fo deilad y drwydded wedi cydsynio i’r diwygiad, gwybodaeth am hawl deiliad y drwydded i apelio (gweler adran 27).

(6)Mae diwygiad i drwydded yn cael effaith ar y diwrnod y mae pa un bynnag o’r canlynol yn digwydd gyntaf—

(a)pan fo deiliad y drwydded wedi cydsynio, pan fydd yr awdurdod trwyddedu yn hysbysu deiliad y drwydded o dan is-adran (5);

(b)pan nad yw deiliad y drwydded yn apelio yn erbyn y penderfyniad i ddiwygio’r drwydded o fewn y cyfnod apelio, pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben;

(c)pan fo deiliad y drwydded yn apelio o fewn y cyfnod apelio ond yn tynnu’r apêl yn ôl yn ddiweddarach, dyddiad ei dynnu’n ôl;

(d)pan fo deiliad y drwydded yn apelio o fewn y cyfnod apelio a’r tribiwnlys eiddo preswyl yn cadarnhau penderfyniad yr awdurdod trwyddedu i ddiwygio’r drwydded, yn ddarostyngedig i baragraff (e), dyddiad penderfyniad y tribiwnlys;

(e)pan fo deiliad y drwydded yn cyflwyno apêl bellach, y dyddiad y mae pob dull o apelio yn erbyn y penderfyniad wedi ei ddisbyddu a phenderfyniad yr awdurdod trwyddedu yn cael ei gadarnhau.

(7)Y “cyfnod apelio” at ddibenion is-adran (6) yw’r cyfnod hwnnw a grybwyllir yn adran 27(3)(a) (apelau trwyddedu).

25Dirymu trwydded

(1)Caiff awdurdod trwyddedu ddirymu trwydded—

(a)os yw deiliad y drwydded wedi torri un neu ragor o amodau’r drwydded;

(b)os nad yw’r awdurdod wedi ei fodloni bellach bod deiliad y drwydded yn berson addas a phriodol i ddal trwydded;

(c)os yw deiliad y drwydded wedi torri adran 23 (dyletswydd deiliad trwydded i ddiweddaru gwybodaeth);

(d)os yw deiliad y drwydded a’r awdurdod trwyddedu wedi cytuno y dylid dirymu’r drwydded.

(2)Ond cyn dirymu trwydded rhaid i awdurdod trwyddedu—

(a)hysbysu deiliad y drwydded am ei fwriad i ddirymu’r drwydded a’r rhesymau dros hynny, a

(b)ystyried unrhyw sylwadau a gynigir gan ddeiliad y drwydded cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr hysbyswyd deiliad y drwydded.

(3)Nid yw is-adran (2)(b) yn gymwys—

(a)os yw deiliad y drwydded yn cydsynio i’r dirymiad, neu

(b)pan fo awdurdod trwyddedu yn ystyried bod amgylchiadau eithriadol sy’n golygu bod angen dirymu’r drwydded yn ddi-oed.

(4)Ar ôl dirymu trwydded rhaid i’r awdurdod trwyddedu hysbysu deiliad y drwydded—

(a)am y dirymiad a’r rhesymau dros wneud hynny;

(b)am hawl deiliad y drwydded i apelio (gweler adran 27).

(5)Mae dirymiad trwydded yn cael effaith ar y diwrnod y mae pa un bynnag o’r canlynol yn digwydd gyntaf—

(a)mae deiliad y drwydded yn cysylltu â’r awdurdod trwyddedu er mwyn cydsynio i’r dirymiad;

(b)pan na fo deiliad y drwydded yn apelio yn erbyn y penderfyniad i ddirymu’r cofrestriad o fewn y cyfnod apelio, pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben;

(c)pan fo deiliad y drwydded yn apelio o fewn y cyfnod apelio ond yn tynnu’r apêl yn ôl yn ddiweddarach, dyddiad ei dynnu’n ôl;

(d)pan fo deiliad y drwydded yn apelio o fewn y cyfnod apelio a’r tribiwnlys eiddo preswyl yn cadarnhau penderfyniad yr awdurdod trwyddedu i ddirymu’r drwydded, yn ddarostyngedig i baragraff (e), dyddiad penderfyniad y tribiwnlys;

(e)pan fo deiliad y drwydded yn cyflwyno apêl bellach, y dyddiad y mae pob dull o apelio yn erbyn y penderfyniad wedi ei ddisbyddu a phenderfyniad yr awdurdod trwyddedu yn cael ei gadarnhau.

(6)Y “cyfnod apelio” at ddibenion is-adran (5) yw’r cyfnod hwnnw a grybwyllir yn adran 27(3)(a) (apelau trwyddedu).

(7)Pan fo trwydded person i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran landlord yn cael ei ddirymu, rhaid i’r awdurdod trwyddedu hysbysu unrhyw landlord a gofnodwyd ar ei gofrestr fel rhywun a benododd y person hwnnw.

(8)Pan fo trwydded landlord yn cael ei ddirymu, rhaid i’r awdurdod trwyddedu hysbysu tenantiaid neu feddianwyr eiddo ar rent a gofrestrwyd o dan enw’r landlord.

26Trwydded yn dod i ben neu yn cael ei hadnewyddu

(1)Daw trwydded i ben ar ddiwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau gyda’r dyddiad y rhoddwyd y drwydded, oni bai bod deiliad trwydded yn gwneud cais i adnewyddu’r drwydded yn unol ag is-adran (2).

(2)Caiff deiliad trwydded wneud cais i adnewyddu’r drwydded yn ystod y cyfnod o 84 o ddiwrnodau cyn y dyddiad y byddai’r drwydded fel arall yn dod i ben.

(3)Pan fo cais yn cael ei wneud i adnewyddu trwydded yn unol ag is-adran (2) nid yw’r drwydded yn dod i ben nes i’r cais gael ei benderfynu ac nid yw’n dod i ben oni bai bod y cais yn cael ei wrthod.

(4)Mae cais i adnewyddu trwydded i’w wneud a’i benderfynu yn unol ag adrannau 19 (gofynion cais am drwydded) i 21 (penderfynu ar gais).

(5)Ond pan fo awdurdod trwyddedu yn adnewyddu trwydded, nid yw’r gofyniad yn is-adran (2)(a) o adran 21 i neilltuo rhif trwydded i ddeiliad y drwydded yn gymwys.

(6)Lle gwrthodir cais i adnewyddu trwydded, daw’r drwydded bresennol i ben ar ba un bynnag o’r dyddiadau canlynol sy’n digwydd gyntaf—

(a)pan nad yw deiliad y drwydded yn apelio yn erbyn y gwrthodiad o fewn y cyfnod apelio, pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben;

(b)pan fo deiliad y drwydded yn apelio o fewn y cyfnod apelio ond yn tynnu’r apêl yn ôl yn ddiweddarach, dyddiad ei dynnu’n ôl;

(c)pa fo deiliad y drwydded yn apelio o fewn y cyfnod apelio a’r tribiwnlys eiddo preswyl yn cadarnhau penderfyniad yr awdurdod trwyddedu, dyddiad penderfyniad y tribiwnlys (yn ddarostyngedig i baragraff (d));

(d)pan fo deiliad y drwydded yn cyflwyno apêl bellach, y dyddiad y mae pob dull o apelio yn erbyn y penderfyniad wedi ei ddisbyddu a phenderfyniad yr awdurdod trwyddedu yn cael ei gadarnhau.

(7)Y “cyfnod apelio” at ddibenion is-adran (6) yw’r cyfnod hwnnw a grybwyllir yn adran 27(3)(a) (apelau trwyddedu).

(8)Mae trwydded yn dod i ben ac mae unrhyw gais a wneir gan ddeiliad y drwydded i’w hadnewyddu i’w drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl pan fo deiliad trwydded—

(a)yn marw;

(b)yn achos corff corfforaethol, yn cael ei ddiddymu.

27Apelau trwyddedu

(1)Caiff ceisydd am drwydded neu, yn ôl y digwydd, ddeiliad trwydded, apelio i dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn y penderfyniadau a wneir gan awdurdod trwyddedu a restrir yn is-adran (2).

(2)Y penderfyniadau yw—

(a)rhoi trwydded yn ddarostyngedig i amod, ac eithrio’r gofyniad i gydymffurfio ag unrhyw god ymarfer a ddyroddir gan Weinidogion Cymru;

(b)gwrthod cais am drwydded;

(c)diwygio trwydded;

(d)dirymu trwydded.

(3)Mewn perthynas ag apêl—

(a)rhaid ei gyflwyno cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n cychwyn gyda’r dyddiad yr hysbyswyd y ceisydd am y penderfyniad (y “cyfnod apelio”);

(b)gellir penderfynu arno drwy roi sylw i faterion nad oedd yr awdurdod trwyddedu yn ymwybodol ohonynt.

(4)Caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gyflwyno iddo ar ôl diwedd y cyfnod apelio os yw’n fodlon bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (ac am unrhyw oedi cyn gofyn am ganiatâd i apelio y tu allan i’r cyfnod hwnnw).

(5)Caiff y tribiwnlys gadarnhau penderfyniad yr awdurdod trwyddedu neu fel arall—

(a)yn achos penderfyniad i roi trwydded yn ddarostyngedig i amod, cyfarwyddo’r awdurdod i roi trwydded ar y cyfryw delerau ag y mae’r tribiwnlys yn eu hystyried yn briodol;

(b)yn achos penderfyniad i wrthod cais am drwydded, cyfarwyddo’r awdurdod i roi trwydded ar y cyfryw delerau ag y mae’r tribiwnlys yn eu hystyried yn briodol;

(c)yn achos penderfyniad i ddiwygio trwydded, cyfarwyddo’r awdurdod i beidio â diwygio’r drwydded neu i ddiwygio’r drwydded ar y cyfryw delerau ag y mae’r tribiwnlys yn eu hystyried yn briodol;

(d)yn achos penderfyniad i ddirymu trwydded, dileu’r penderfyniad hwnnw.

(6)Mae trwydded a roddwyd gan awdurdod trwyddedu yn dilyn cyfarwyddyd gan dribiwnlys o dan yr adran hon i’w thrin fel pe bai wedi ei rhoi gan yr awdurdod o dan adran 21(1).

Gorfodi

28Erlyniad gan awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol

(1)Caiff awdurdod trwyddedu ddwyn achos troseddol mewn perthynas â throsedd o dan—

(a)adran 4(2), 6(4), 7(5), 9(2), 11(3) neu 13(3), os yw’r drosedd honedig yn codi mewn perthynas ag annedd yn yr ardal y mae’n awdurdod trwyddedu ar ei chyfer;

(b)adran 16(3) neu 23(3), mewn perthynas â gwybodaeth sy’n rhaid darparu i’r awdurdod;

(c)is-adran (1) neu (4) o adran 38, mewn perthynas ag unrhyw beth sy’n ofynnol o dan hysbysiad a roddir gan berson sydd wedi’i awdurdodi gan yr awdurdod;

(d)is-adran (1) neu (2) o adran 39, mewn perthynas â gwybodaeth a gyflenwir i’r awdurdod.

(2)Caiff awdurdod tai lleol nad yw’n awdurdod trwyddedu ar gyfer ei ardal, gyda chydsyniad yr awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal, ddwyn achos troseddol mewn perthynas â throsedd o dan adran 4(2), 6(4), 7(5), 9(2), 11(3) neu 13(3), os yw’r drosedd honedig yn codi mewn perthynas ag annedd yn ei ardal.

(3)Caiff awdurdod trwyddedu roi ei gydsyniad o dan is-adran (2) yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol.

(4)Nid yw’r adran hon yn effeithio ar—

(a)unrhyw un neu ragor o bwerau eraill y person a ddynodir o dan adran 3(1) i ddwyn achos troseddol;

(b)adran 222 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (pŵer awdurdodau lleol i erlyn neu amddiffyn achosion cyfreithiol).

29Hysbysiadau cosbau penodedig

(1)Pan fo gan berson sydd wedi’i awdurdodi yn ysgrifenedig at ddiben yr adran hon gan awdurdod trwyddedu reswm i gredu ar unrhyw achlysur bod person wedi cyflawni trosedd o dan y Rhan hon (ac eithrio trosedd o dan adran 13(3) neu adran 38(4)), caiff y person awdurdodedig, drwy hysbysiad, gynnig cyfle i’r person ryddhau ei hun o unrhyw atebolrwydd am gollfarn am y drosedd honno drwy dalu cosb benodedig i’r awdurdod.

(2)Pan roddir hysbysiad i berson o dan yr adran hon mewn perthynas â throsedd—

(a)ni chaniateir cychwyn unrhyw achos mewn perthynas â’r drosedd cyn i’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hysbysiad hwnnw ddod i ben;

(b)ni chaniateir collfarnu’r person am y drosedd honno os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(3)Rhaid i hysbysiad o dan yr adran hon—

(a)rhoi pa fanylion bynnag am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd sy’n angenrheidiol er mwyn rhoi gwybodaeth resymol ynghylch y drosedd,

(b)datgan yn ystod pa gyfnod na chychwynnir achos mewn perthynas â’r drosedd,

(c)datgan swm y gosb benodedig, a

(d)datgan i ba berson ac ym mha gyfeiriad y gellir talu’r gosb benodedig.

(4)Y gosb benodedig sy’n daladwy i awdurdod trwyddedu o dan yr adran hon yw £150 oni bai bod y drosedd yn un sy’n dwyn dirwy anghyfyngedig yn ei sgil; mewn achos felly, y gosb benodedig sy’n daladwy yw £250.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (4) drwy orchymyn.

(6)Caniateir talu cosb benodedig drwy ragdalu a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person a grybwyllir yn is-adran (3)(d) yn y cyfeiriad a grybwyllir yno; ond nid yw hynny’n rhwystro taliad drwy ddull arall.

(7)Pan fo llythyr yn cael ei bostio yn unol ag is-adran (6) bernir bod y taliad wedi ei wneud ar yr amser y byddai’r llythyr wedi ei ddosbarthu yn nhrefn arferol y post.

(8)Mewn unrhyw achos mae tystysgrif—

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi ar ran person sydd wedi’i awdurdodi gan yr awdurdod trwyddedu at y diben hwn, a

(b)sy’n datgan y daeth taliad cosb benodedig i law neu na ddaeth i law erbyn dyddiad a bennir yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.

(9)Ni chaniateir i awdurdod trwyddedu ddefnyddio ei dderbyniadau cosbau penodedig ond at ddibenion ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi’r Rhan hon.

(10)Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod trwyddedu”—

(a)mewn achos trosedd o dan adran 4(2), 6(4), 7(5), 9(2) neu 11(3), yw’r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae’r annedd y mae’r drosedd yn ymwneud â hi wedi ei lleoli ynddi;

(b)mewn achos trosedd o dan adran 16(3) neu 23(3), yw’r awdurdod trwyddedu y darparwyd yr wybodaeth y mae’r trosedd yn ymwneud â hi iddo;

(c)mewn achos trosedd o dan adran 38(1), yw’r awdurdod trwyddedu a awdurdododd y person a roddodd yr hysbysiad perthnasol;

(d)mewn achos trosedd o dan adran 39(1) neu (2), yw’r awdurdod trwyddedu y cyflenwyd yr wybodaeth iddo.

(11)Caiff awdurdod tai lleol nad yw’n awdurdod trwyddedu ar gyfer ei ardal, gyda chydsyniad yr awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal honno, arfer swyddogaethau’r awdurdod trwyddedu o dan yr adran hon yn gydredol â’r awdurdod trwyddedu; ond dim ond o ran y troseddau a grybwyllir yn is-adran (10)(a).

(12)Pan fo awdurdod tai lleol yn arfer swyddogaethau o dan yr adran hon yn rhinwedd is-adran (11), mae’r cyfeiriadau yn is-adrannau (1), (4), (8), (9) a (10)(a) at “awdurdod trwyddedu” i’w darllen fel petaent yn gyfeiriadau at yr awdurdod tai lleol.

30Gorchmynion atal rhent

(1)Caiff tribiwnlys eiddo preswyl, yn unol â’r adran hon, wneud gorchymyn (“gorchymyn atal rhent”) mewn perthynas ag annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig ar gais a wnaed iddo gan—

(a)yr awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi, neu

(b)yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi.

(2)Ond ni chaiff awdurdod tai lleol wneud cais o dan is-adran (1) heb gydsyniad yr awdurdod trwyddedu a grybwyllir ym mharagraff (a) o’r is-adran honno (oni bai mai ef yw’r awdurdod trwyddedu); a chaiff cydsyniad at y diben hwnnw gael ei roi yn gyffredinol neu mewn cysylltiad â chais penodol.

(3)Pan fo tribiwnlys yn gwneud gorchymyn atal rhent—

(a)mae taliadau cyfnodol sy’n daladwy mewn cysylltiad â thenantiaeth ddomestig o’r annedd sy’n ymwneud â chyfnod, neu ran o gyfnod, sy’n dod o fewn dyddiad a bennir yn y gorchymyn (y “dyddiad atal”) a dyddiad a bennir gan y tribiwnlys pan fydd y gorchymyn wedi ei ddirymu (gweler adran 31(4)) yn cael eu hatal,

(b)mae rhwymedigaeth o dan denantiaeth ddomestig i dalu swm a atelir gan y gorchymyn yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei bodloni,

(c)mae pob hawl a rhwymedigaeth arall o dan denantiaeth o’r fath yn parhau heb eu heffeithio,

(d)rhaid i unrhyw daliadau cyfnodol a atelir gan y gorchymyn ond a wnaed gan denant yr annedd (pa un ai cyn neu ar ôl y dyddiad atal) gael eu had-dalu gan y landlord, ac

(e)rhaid i’r awdurdod a wnaeth y cais am y gorchymyn roi copi ohono i’r canlynol—

(i)landlord yr annedd y mae’r gorchymyn yn ymwneud â hi;

(ii)tenant yr annedd.

(4)Caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn atal rhent dim ond os yw wedi ei fodloni o ran y materion a grybwyllir yn is-adrannau (5) a (6).

(5)Rhaid i’r tribiwnlys fod wedi ei fodloni bod trosedd yn cael ei chyflawni o dan adran 7(5) neu 13(3) mewn perthynas â’r annedd (pa un a oes person wedi ei gollfarnu neu ei gyhuddo mewn perthynas â’r drosedd ai peidio).

(6)Rhaid i’r tribiwnlys fod wedi ei fodloni—

(a)bod yr awdurdod sy’n gwneud y cais am y gorchymyn wedi rhoi hysbysiad i landlord a thenant yr annedd ( “hysbysiad o achos arfaethedig”)—

(i)yn esbonio bod yr awdurdod yn bwriadu gwneud cais am orchymyn atal rhent,

(ii)yn nodi’r rhesymau pam y mae’n bwriadu gwneud hynny,

(iii)yn esbonio effaith gorchymyn atal rhent,

(iv)yn esbonio sut y gellir dirymu gorchymyn atal rhent, a

(v)yn achos hysbysiad a roddir i landlord, gwahodd y landlord i gyflwyno sylwadau i’r awdurdod o fewn cyfnod o ddim llai na 28 o ddiwrnodau a bennir yn yr hysbysiad,

(b)bod y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau wedi dod i ben, ac

(c)bod yr awdurdod wedi ystyried unrhyw sylwadau a wnaed iddo gan y landlord o fewn y cyfnod hwnnw.

(7)Ni chaiff y tribiwnlys bennu dyddiad atal at ddiben is-adran (3)(a) sy’n dod cyn y dyddiad y gwnaed y gorchymyn atal rhent.

(8)Mae swm sy’n daladwy yn rhinwedd is-adran (3)(d) nad yw’n cael ei ad-dalu yn adferadwy gan y tenant fel dyled sy’n ddyledus i’r tenant gan y landlord.

(9)Yn is-adran (5), nid yw’r cyfeiriad at drosedd a gyflawnwyd o dan adran 13(3) yn cynnwys trosedd a gyflawnwyd o ganlyniad i dorri is-adran (1) o’r adran honno.

31Dirymu gorchmynion atal rhent

(1)Caiff tribiwnlys eiddo preswyl, yn unol â’r adran hon, ddirymu gorchymyn atal rhent a wnaed mewn cysylltiad ag annedd o dan adran 30.

(2)Caiff y tribiwnlys ddirymu gorchymyn dim ond—

(a)ar gais gan y canlynol—

(i)yr awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi,

(ii)yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi, neu

(iii)landlord yr annedd, a

(b)os yw wedi ei fodloni nad yw trosedd o dan adran 7(5) neu 13(3) bellach yn cael ei chyflawni mewn perthynas â’r annedd.

(3)Ond ni chaiff awdurdod tai lleol wneud cais o dan is-adran (2) heb gydsyniad yr awdurdod trwyddedu a grybwyllir ym mharagraff (a)(i) o’r is-adran honno (oni bai mai’r awdurdod tai lleol yw’r awdurdod trwyddedu); a chaiff cydsyniad at y diben hwnnw gael ei roi yn gyffredinol neu mewn cysylltiad â chais penodol.

(4)Pan fo’r tribiwnlys yn dirymu gorchymyn atal rhent, mae taliadau cyfnodol mewn cysylltiad â thenantiaeth ddomestig o’r annedd yn dod yn daladwy o ddyddiad a bennir gan y tribiwnlys (a gaiff, os yw’r tribiwnlys yn ei ystyried yn briodol, fod yn ddyddiad cynharach na’r dyddiad y mae’r gorchymyn yn cael ei ddirymu).

(5)Ond nid yw dirymu gorchymyn atal rhent yn gwneud person yn atebol i dalu unrhyw daliadau cyfnodol a ataliwyd, yn rhinwedd y gorchymyn, mewn cysylltiad â’r cyfnod sy’n dechrau gyda’r dyddiad atal (gweler adran 30(3)(a)) ac sy’n dod i ben gyda’r dyddiad a bennir gan y tribiwnlys wrth ddirymu’r gorchymyn.

(6)Os yw gorchymyn atal rhent yn cael ei ddirymu yn dilyn cais a wnaed o dan is-adran (2)(a)(i) neu (ii), rhaid i’r awdurdod a wnaeth y cais hysbysu’r personau a ganlyn fod y gorchymyn wedi ei ddirymu ac am effaith y dirymiad—

(a)unrhyw denant neu feddiannydd yr annedd, a

(b)landlord yr annedd.

(7)Pan fo dirymiad yn digwydd yn dilyn cais a wnaed gan landlord, rhaid i’r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi sicrhau bod unrhyw denant neu feddiannydd yr annedd yn cael ei hysbysu bod y gorchymyn wedi ei ddirymu ac am effaith y dirymiad.

(8)Yn is-adran (2)(b)—

(a)nid yw’r cyfeiriad at drosedd o dan adran 7(5) yn cynnwys trosedd a gyflawnwyd o ganlyniad i dorri is-adran (3) o’r adran honno, a

(b)nid yw’r cyfeiriad at drosedd a gyflawnwyd o dan 13(3) yn cynnwys trosedd a gyflawnwyd o ganlyniad i dorri is-adran (1) o’r adran honno.

32Gorchmynion ad-dalu rhent

(1)Caiff tribiwnlys eiddo preswyl, yn unol â’r adran hon ac adran 33, wneud gorchymyn (“gorchymyn ad-dalu rhent”) mewn perthynas ag annedd ar gais a wnaed iddo gan—

(a)yr awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi,

(b)yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi, neu

(c)tenant yr annedd.

(2)Ond ni chaiff awdurdod tai lleol wneud cais o dan is-adran (1) heb gydsyniad yr awdurdod trwyddedu a grybwyllir ym mharagraff (a) o’r is-adran honno (oni bai mai’r awdurdod tai lleol yw’r awdurdod trwyddedu); a chaiff cydsyniad at y diben hwnnw gael ei roi yn gyffredinol neu mewn cysylltiad â chais penodol.

(3)“Gorchymyn ad-dalu rhent” yw gorchymyn a wneir mewn perthynas ag annedd sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person priodol (gweler is-adran (9)) dalu’r cyfryw swm i’r ymgeisydd mewn cysylltiad â’r dyfarniad neu’r dyfarniadau perthnasol o gredyd cynhwysol neu’r budd-dal tai a dalwyd fel a grybwyllir yn is-adran (5), neu (yn ôl y digwydd) y taliadau cyfnodol a dalwyd fel a grybwyllir yn is-adran (7)(b), fel a bennir yn y gorchymyn.

(4)Caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn ad-dalu rhent dim ond os yw wedi ei fodloni—

(a)pan yr ymgeisydd yw’r awdurdod trwyddedu neu pan fo’r ymgeisydd yn awdurdod tai lleol (yn ôl y digwydd), o’r materion a grybwyllir yn is-adran (5);

(b)pan fo’r ymgeisydd yn denant, o’r materion a grybwyllir yn is-adran (7).

(5)Rhaid bod y tribiwnlys wedi ei fodloni—

(a)bod trosedd o dan adran 7(5) neu 13(3) wedi ei chyflawni mewn perthynas â’r annedd ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar ddyddiad yr hysbysiad o achos arfaethedig sy’n ofynnol gan is-adran (6) (pa un a oes person wedi ei gyhuddo neu ei gollfarnu o’r drosedd ai peidio);

(b)bod—

(i)un neu ragor o ddyfarniadau perthnasol o gredyd cynhwysol wedi eu talu (i unrhyw berson), neu

(ii)budd-dal tai wedi ei dalu (i unrhyw berson) mewn cysylltiad â thaliadau cyfnodol sy’n daladwy mewn cysylltiad â thenantiaeth ddomestig yr annedd,

yn ystod unrhyw gyfnod y mae’n ymddangos i’r tribiwnlys bod y cyfryw drosedd wedi cael ei chyflawni ynddo, ac

(c)y cydymffurfiwyd â gofynion is-adran (6) mewn perthynas â’r cais.

(6)Dyma’r gofynion hynny—

(a)rhaid bod yr awdurdod sy’n ceisio am orchymyn fod wedi rhoi hysbysiad (“hysbysiad o achos arfaethedig”) i’r person priodol—

(i)sy’n hysbysu’r person bod yr awdurdod yn bwriadu gwneud cais am orchymyn ad-dalu rhent,

(ii)sy’n nodi’r rhesymau pam y mae’n bwriadu gwneud hynny,

(iii)sy’n nodi’r swm y bydd yn ceisio ei adfer o dan yr is-adran honno a sut cyfrifwyd y swm hwnnw, a

(iv)sy’n gwahodd y person i gyflwyno sylwadau i’r awdurdod o fewn cyfnod o ddim llai na 28 o ddiwrnodau a bennir yn yr hysbysiad;

(b)rhaid bod y cyfnod hwnnw wedi dod i ben, ac

(c)rhaid bod yr awdurdod wedi ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd iddo gan y person priodol o fewn y cyfnod hwnnw.

(7)Rhaid bod y tribiwnlys wedi ei fodloni—

(a)bod person wedi ei gollfarnu o drosedd o dan adran 7(5) neu 13(3) mewn perthynas â’r annedd, neu fod gorchymyn ad-dalu rhent wedi ei gwneud yn ofynnol i berson wneud taliad mewn cysylltiad â’r canlynol—

(i)un neu ragor o ddyfarniadau perthnasol o gredyd cynhwysol, neu

(ii)budd-dal tai a delir mewn cysylltiad â thenantiaeth yr annedd;

(b)bod y tenant wedi talu i’r person priodol (pa un ai’n uniongyrchol neu fel arall) daliadau cyfnodol mewn cysylltiad â thenantiaeth yr annedd yn ystod unrhyw gyfnod y mae’n ymddangos i’r tribiwnlys bod trosedd o’r fath wedi bod yn cael ei chyflawni mewn perthynas â’r annedd, ac

(c)y gwnaed y cais o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—

(i)gyda dyddiad y gollfarn neu’r gorchymyn, neu

(ii)os yw gorchymyn o’r fath yn dilyn collfarn o’r fath (neu i’r gwrthwyneb), gyda dyddiad yr un sy’n digwydd hwyraf.

(8)Yn yr adran hon—

(a)nid yw cyfeiriadau at drosedd o dan adran 7(5) yn cynnwys trosedd a gyflawnwyd o ganlyniad i dorri is-adran (3) o’r adran honno, a

(b)nid yw cyfeiriadau at drosedd a gyflawnwyd o dan adran 13(3) yn cynnwys trosedd a gyflawnwyd o ganlyniad i dorri is-adran (1) o’r adran honno.

(9)Yn yr adran hon—

(10)At ddibenion yr adran hon, mae swm—

(a)nad yw’n cael ei dalu gan denant yn wirioneddol ond sy’n cael ei ddefnyddio i ryddhau atebolrwydd y tenant yn llawn neu’n rhannol mewn cysylltiad â thaliad cyfnodol (er enghraifft, drwy wrthbwyso’r swm yn erbyn unrhyw atebolrwydd o’r fath), a

(b)nad yw’n swm o gredyd cynhwysol neu fudd-dal tai,

i’w ystyried fel swm a delir gan y tenant mewn cysylltiad â’r taliad cyfnodol hwnnw.

33Gorchmynion ad-dalu rhent: darpariaeth bellach

(1)Pan fo’r tribiwnlys, ar gais gan yr awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol (yn ôl y digwydd) am orchymyn ad-dalu rhent, wedi ei fodloni—

(a)bod person wedi ei gollfarnu o drosedd o dan adran 7(5) neu 13(3) mewn perthynas â’r annedd y mae’r cais yn ymwneud â hi, a

(b)bod—

(i)un neu ragor o ddyfarniadau perthnasol o gredyd cynhwysol wedi eu talu (pa un ai i’r person priodol ai peidio), neu

(ii)budd-dal tai wedi ei dalu (pa un ai i’r person priodol ai peidio) mewn cysylltiad â thaliadau cyfnodol sy’n daladwy mwn perthynas â thenantiaeth ddomestig o’r annedd yn ystod unrhyw gyfnod y mae’n ymddangos i’r tribiwnlys bod y gyfryw drosedd wedi bod yn cael ei chyflawni mewn perthynas â’r annedd o dan sylw,

rhaid i’r tribiwnlys wneud gorchymyn ad-dalu rhent sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person priodol dalu i’r awdurdod a wnaeth y cais y swm a grybwyllir yn is-adran (2); ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (3), (4) ac (8).

(2)Mae’r swm—

(a)yn swm sy’n gyfwerth â—

(i)pan fo un dyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol wedi ei dalu fel a grybwyllir yn is-adran (1)(b)(i), y swm a oedd wedi ei gynnwys yng nghyfrifiad y dyfarniad hwnnw o dan adran 11 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, a gyfrifwyd yn unol ag Atodlen 4 i Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (yr elfen o ran costau tai i rentwyr) (OS 2013/376) neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol sy’n disodli’r Atodlen honno, neu swm y dyfarniad os yw’n llai, neu

(ii)os talwyd mwy nag un dyfarniad o’r math a grybwyllir yn is-adran (1)(b)(i), cyfanswm y symiau a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarniadau hynny fel y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (i), neu gyfanswm symiau’r dyfarniadau hynny os yw’n llai, neu

(b)swm sy’n gyfwerth â chyfanswm y budd-dal tai a dalwyd fel a grybwyllir yn is-adran (1)(b)(ii) (yn ôl y digwydd).

(3)Os yw cyfanswm y symiau a gafwyd gan y person priodol mewn cysylltiad â thaliadau cyfnodol sy’n daladwy fel a grybwyllir ym mharagraff (b) o is-adran (1) (“cyfanswm y rhent”) yn llai na’r swm a grybwyllir yn is-adran (2), mae’r swm y mae’n ofynnol iddo gael ei dalu yn rhinwedd gorchymyn ad-dalu rhent a wnaed yn unol ag is-adran (1) yn gyfyngedig i gyfanswm y rhent.

(4)Ni chaiff gorchymyn ad-dalu rhent a wnaed yn unol ag is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i berson dalu unrhyw swm y mae’r tribiwnlys wedi ei fodloni y byddai’n afresymol i’w gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei dalu oherwydd unrhyw amgylchiadau eithriadol.

(5)Mewn achos pan na fo is-adran (1) yn gymwys, mae’r swm y mae’n ofynnol iddo gael ei dalu yn rhinwedd gorchymyn ad-dalu rhent i fod yn swm y mae’r tribiwnlys yn ei ystyried yn rhesymol o dan yr amgylchiadau; ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (6) i (8).

(6)Mewn achos o’r fath, rhaid i’r tribiwnlys roi ystyriaeth i’r materion canlynol—

(a)cyfanswm y taliadau perthnasol a dalwyd mewn cysylltiad â thenantiaeth yr annedd yn ystod unrhyw gyfnod y mae’n ymddangos i’r tribiwnlys bod trosedd wedi bod yn cael ei chyflawni mewn perthynas â’r annedd o dan adran 7(5) neu 13(3);

(b)y graddau yr oedd y cyfanswm hwnnw—

(i)yn cynnwys taliadau o ddyfarniadau perthnasol o gredyd cynhwysol neu fudd-dal tai, neu’n deillio ohonynt, a

(ii)wedi ei gael gan y person priodol;

(c)pa un a yw’r person priodol wedi ei gollfarnu o drosedd ar unrhyw adeg o dan adran 7(5) neu 13(3);

(d)ymddygiad ac amgylchiadau ariannol y person priodol; ac

(e)pan fo’r cais wedi ei wneud gan denant, ymddygiad y tenant.

(7)Yn is-adran (6) ystyr “taliadau perthnasol” yw—

(a)mewn perthynas â chais gan yr awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol (yn ôl y digwydd), taliadau o ddyfarniadau perthnasol o gredyd cynhwysol, budd-dal tai neu daliadau cyfnodol sy’n daladwy gan denantiaid;

(b)mewn perthynas â chais gan denant, taliadau cyfnodol sy’n daladwy gan y tenant, heb gynnwys—

(i)pan fu un neu ragor o ddyfarniadau perthnasol o gredyd cynhwysol yn daladwy yn ystod y cyfnod o dan sylw, y swm a grybwyllir yn is-adran (2)(a) mewn cysylltiad â’r dyfarniad neu’r dyfarniadau a oedd yn perthyn i’r denantiaeth yn ystod y cyfnod hwnnw, neu

(ii)unrhyw swm o fudd-dal tai a fu’n daladwy mewn cysylltiad â thenantiaeth yr annedd yn ystod y cyfnod o dan sylw.

(8)Ni chaiff gorchymyn ad-dalu rhent ei gwneud yn ofynnol talu unrhyw swm sydd—

(a)pan fo’r cais yn cael ei wneud gan yr awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol (yn ôl y digwydd), mewn cysylltiad ag unrhyw amser sydd y tu allan i’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben gyda dyddiad yr hysbysiad o achos arfaethedig a roddir o dan adran 32(6), neu

(b)pan fo’r cais yn cael ei wneud gan denant, mewn cysylltiad ag unrhyw amser sydd y tu allan i’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben gyda dyddiad cais y tenant o dan adran 32(1);

ac mae’r cyfnod sydd i’w ystyried o dan is-adran (6)(a) wedi ei gyfyngu yn unol â hynny.

(9)Mae unrhyw swm sy’n daladwy yn rhinwedd gorchymyn ad-dalu rhent yn adferadwy fel dyled sy’n ddyledus i’r awdurdod trwyddedu, awdurdod tai lleol neu denant (yn ôl y digwydd) gan y person priodol.

(10)Ac nid yw swm sy’n daladwy i’r awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol yn rhinwedd gorchymyn o’r fath, pan fydd yn cael ei adfer ganddo, yn swm o gredyd cynhwysol neu fudd-dal tai (yn ôl y digwydd) sy’n cael ei adfer gan yr awdurdod hwnnw.

(11)Mae is-adrannau (8), (9) a (10) o adran 32 yn gymwys at ddibenion yr adran hon yn yr un modd ag y maent yn gymwys at ddibenion adran 32.

34Pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas ag adrannau 32 a 33

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud y gyfryw ddarpariaeth ag a ystyrir yn briodol ganddynt ar gyfer ategu darpariaethau adrannau 32 a 33.

(2)Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (1), er enghraifft, wneud darpariaeth—

(a)ar gyfer sicrhau nad yw personau wedi eu niweidio’n annheg gan orchmynion ad-dalu rhent (mewn achosion pan fo gordaliadau o gredyd cynhwysol neu fudd-dal tai wedi digwydd neu fel arall);

(b)i’w gwneud yn ofynnol i ymdrin â symiau a dderbynnir gan yr awdurdod trwyddedu neu awdurdodau tai lleol yn rhinwedd gorchmynion ad-dalu rhent mewn modd a bennir yn y rheoliadau, neu i awdurdodi hynny.

35Troseddau gan gyrff corfforaethol

(1)Pan brofir bod trosedd o dan y Rhan hon a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y canlynol—

(a)cyfarwyddwr, rheolwr, neu ysgrifennydd y corff corfforaethol, neu

(b)person sy’n honni cyflawni’r gyfryw swyddogaeth,

mae’r person hwnnw yn ogystal â’r corff corfforaethol yn cyflawni’r drosedd ac yn agored i achos yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(2)Mae’r cyfeiriad at gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd y corff corfforaethol yn cynnwys cyfeiriad—

(a)at unrhyw swyddog tebyg arall yn y corff;

(b)pan fo’r corff yn gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, at unrhyw swyddog neu aelod o’r corff.

Gwybodaeth

36Ceisiadau am wybodaeth gan awdurdodau a defnyddio gwybodaeth gan awdurdodau

(1)Os bydd awdurdod trwyddedu yn gofyn i awdurdod tai lleol ddarparu gwybodaeth iddo y mae is-adran (2) yn gymwys iddi ac sydd ei hangen arno at ddibenion arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r awdurdod tai lleol gydymffurfio â’r cais oni bai bod yr awdurdod tai lleol yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r awdurdod tai lleol ei hun, neu

(b)yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau’r awdurdod tai lleol.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw wybodaeth y mae awdurdod tai lleol wedi cael gafael arni wrth iddo arfer—

(a)ei swyddogaethau fel awdurdod tai lleol;

(b)ei swyddogaethau o dan Ran 1 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y dreth gyngor).

(3)Dylid trin gwybodaeth a ddaeth i law awdurdod tai lleol o dan adran 134 o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 (budd-dal tai) cyn i’r adran honno gael ei diddymu gan Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Lles 2012 fel gwybodaeth y mae is-adran (2) yn gymwys iddi.

(4)Os bydd awdurdod trwyddedu yn gofyn i awdurdod trwyddedu arall ddarparu gwybodaeth iddo y mae is-adran (5) yn gymwys iddi ac sydd ei hangen arno at ddibenion arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r awdurdod arall gydymffurfio â’r cais oni bai bod yr awdurdod arall yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun, neu

(b)yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer ei swyddogaethau.

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw wybodaeth sydd wedi dod i law awdurdod trwyddedu wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(6)Caiff awdurdod trwyddedu ddefnyddio unrhyw wybodaeth y mae is-adran (2) neu (5) yn gymwys iddi (pa un a yw wedi ei chael o dan is-adran (1) neu (4) ai peidio) at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig ag arfer swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon.

(7)Os bydd awdurdod tai lleol yn gofyn i awdurdod trwyddedu ddarparu gwybodaeth iddo y mae is-adran (5) yn gymwys iddi ac sydd ei hangen arno at ddibenion arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r awdurdod trwyddedu gydymffurfio â’r cais oni bai bod yr awdurdod trwyddedu yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r awdurdod ei hun, neu

(b)yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer ei swyddogaethau.

(8)Caiff awdurdod tai lleol ddefnyddio unrhyw wybodaeth y mae is-adran (2) neu (5) yn gymwys iddi (pa un a yw wedi ei chael o dan is-adran (7) ai peidio) at unrhyw ddibenion sy’n gysylltiedig ag arfer swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon.

37Pŵer i’w gwneud yn ofynnol cyflwyno dogfennau neu ddarparu gwybodaeth

(1)Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan awdurdod trwyddedu arfer y pwerau a roddir gan is-adrannau (2) a (3) mewn perthynas â dogfennau neu wybodaeth (yn ôl y digwydd) sy’n rhesymol ofynnol gan yr awdurdod—

(a)at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig ag arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon, neu

(b)at ddiben ymchwilio a oes unrhyw drosedd wedi ei chyflawni o dan y Rhan hon.

(2)Caiff person sydd wedi ei awdurdodi o dan is-adran (1) roi hysbysiad i berson perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw—

(a)cyflwyno unrhyw ddogfennau sydd—

(i)wedi eu pennu neu eu disgrifio yn yr hysbysiad, neu sy’n dod o dan gategori o ddogfen sydd wedi ei bennu neu ei ddisgrifio yn yr hysbysiad, a

(ii)sydd yng ngwarchodaeth neu o dan reolaeth y person, a

(b)eu cyflwyno ar adeg, mewn lleoliad ac i berson a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Caiff person sydd wedi ei awdurdodi o dan is-adran (1) roi hysbysiad i berson perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw—

(a)cyflwyno unrhyw wybodaeth sydd—

(i)wedi ei phennu neu ei disgrifio yn yr hysbysiad, neu sy’n dod o dan gategori o wybodaeth sydd wedi ei phennu neu ei disgrifio yn yr hysbysiad, a

(ii)sy’n hysbys i’r person, a

(b)ei rhoi mewn modd ac ar ffurf a bennir yn yr hysbysiad.

(4)Rhaid i’r hysbysiad o dan is-adran (2) neu (3) gynnwys gwybodaeth am ganlyniadau posibl peidio â chydymffurfio â’r hysbysiad.

(5)Caiff y person y cyflwynir unrhyw ddogfen iddo yn unol â hysbysiad o dan is-adrannau (2) neu (3) wneud copi o’r ddogfen.

(6)Nid yw’n ofynnol o dan yr adran hon i unrhyw berson gyflwyno unrhyw ddogfen neu roi unrhyw wybodaeth y byddai’r person o fewn ei hawl i wrthod eu rhoi mewn achos yn yr Uchel Lys ar sail braint broffesiynol gyfreithiol.

(7)Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar ffurfiau nad ydynt yn ffurfiau darllenadwy, ac mewn perthynas â gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi fel hynny, mae unrhyw gyfeiriad at gyflwyno dogfen yn gyfeiriad at gyflwyno copi o’r wybodaeth ar ffurf ddarllenadwy.

(8)Yn yr adran hon, mae “person perthnasol” yn golygu person a gynhwysir yn unrhyw un neu ragor o’r paragraffau canlynol—

(a)person sy’n gwneud cais am drwydded o dan y Rhan hon neu sy’n ddeiliad trwydded o dan y Rhan hon;

(b)person sydd ag ystâd neu fuddiant mewn eiddo ar rent;

(c)person sy’n ymwneud â gosod neu reoli eiddo ar rent, neu’n bwriadu bod yn ymwneud â hynny;

(d)person sy’n preswylio mewn eiddo ar rent.

38Gorfodi pwerau cael gafael ar wybodaeth

(1)Mae person sy’n methu â gwneud unrhyw beth y mae’n ofynnol iddo ei wneud drwy hysbysiad o dan adran 37 yn cyflawni trosedd.

(2)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan is-adran (1), mae’r ffaith fod gan y person esgus rhesymol am fethu â chydymffurfio â’r hysbysiad yn amddiffyniad.

(3)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(4)Mae person sy’n mynd ati’n fwriadol i newid, i atal neu i ddinistrio unrhyw ddogfen y mae’n ofynnol iddo ei chyflwyno gan hysbysiad o dan adran 37 yn cyflawni trosedd.

(5)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (4) yn agored, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy.

(6)Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar ffurfiau nad ydynt yn ffurfiau darllenadwy, ac mewn perthynas â gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi fel hynny—

(a)mae’r cyfeiriad at gyflwyno dogfen yn gyfeiriad at gyflwyno copi o’r wybodaeth ar ffurf ddarllenadwy, a

(b)mae’r cyfeiriad at atal dogfen yn cynnwys cyfeiriad at ddinistrio’r ffordd o atgynhyrchu’r wybodaeth.

39Gwybodaeth anwir neu gamarweiniol

(1)Mae person—

(a)sy’n cyflenwi unrhyw wybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol i awdurdod trwyddedu mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan y Rhan hon, a

(b)sy’n gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol neu sy’n ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol,

yn cyflawni trosedd.

(2)Mae person—

(a)sy’n cyflenwi gwybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol i berson arall,

(b)sy’n gwybod ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol neu sy’n ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol, ac

(c)sy’n gwybod bod yr wybodaeth i’w defnyddio at ddibenion cyflenwi gwybodaeth i awdurdod trwyddedu mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan y Rhan hon,

yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) neu (2) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “yn anwir neu’n gamarweiniol” yw yn anwir neu’n gamarweiniol mewn unrhyw fater perthnasol.

Pwerau Gweinidogion Cymru

40Cod ymarfer

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod ymarfer yn pennu safonau mewn perthynas â gosod a rheoli eiddo ar rent.

(2)Gellir dyroddi safonau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) mewn perthynas â hyfforddiant.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)dyroddi cod ymarfer sydd, yn rhannol neu’n gyfan gwbl, yn gymwys i bersonau neu achosion penodedig yn unig, neu’n cael ei gymhwyso’n wahanol i wahanol bersonau neu achosion;

(b)diwygio cod ymarfer neu ei dynnu yn ôl.

(4)Cyn dyroddi neu ddiwygio cod ymarfer rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau rhesymol i ymgynghori â’r canlynol—

(a)personau sy’n gysylltiedig â gosod a rheoli eiddo ar rent a phersonau sy’n meddiannu eiddo ar rent o dan denantiaeth, neu

(b)personau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn cynrychioli buddiannau’r personau a grybwyllir ym mharagraff (a),

ar fersiwn ddrafft o’r cod neu fersiwn ddrafft o god diwygiedig (“y cod arfaethedig”).

(5)Os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r cod arfaethedig (gydag addasiadau neu heb addasiadau), rhaid iddynt osod copi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddyroddi’r cod arfaethedig ar ffurf y fersiwn ddrafft honno oni bai ei fod wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(7)Unwaith y mae wedi ei gymeradwyo mae’r cod neu’r cod diwygiedig yn dod i rym ar y dyddiad a bennir drwy orchymyn Gweinidogion Cymru.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru dynnu cod a wneir o dan yr adran hon yn ôl mewn cod diwygiedig neu drwy gyfarwyddyd.

(9)Ni chaniateir i god a gymeradwywyd drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei dynnu yn ôl oni chymeradwyir cynnig i’r perwyl hwnnw drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(10)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi pob cod neu god diwygiedig a ddyroddir o dan yr adran hon.

41Canllawiau

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i awdurdod trwyddedu roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Wrth arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac eithrio fel awdurdod trwyddedu, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)rhoi canllawiau o dan y Rhan hon yn gyffredinol neu i awdurdodau o ddisgrifiad penodedig;

(b)diwygio canllawiau a roddir o dan y Rhan hon drwy roi canllawiau pellach;

(c)dirymu canllawiau a roddir o dan y Rhan hon drwy roi canllawiau pellach neu drwy hysbysiad.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau o dan y Rhan hon neu hysbysiad o dan yr adran hon.

(5)Cyn rhoi, diwygio neu ddirymu canllawiau o dan y Rhan hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyfryw bersonau ag y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

(6)Gall ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r adran hon ddod i rym fodloni’r gofyniad yn is-adran (5).

42Cyfarwyddiadau

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i awdurdod trwyddedu gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Wrth arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac eithrio fel awdurdod trwyddedu, rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2) gael ei roi yn gyffredinol neu i awdurdodau o ddisgrifiad penodedig.

(4)Mewn perthynas â chyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon—

(a)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd dilynol;

(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi.

Atodol

43Gweithgaredd sy’n groes i’r Rhan hon: effaith ar gytundebau tenantiaeth

(1)Nid yw unrhyw rheol gyfreithiol sy’n ymwneud â dilysrwydd neu orfodadwyedd contractau mewn amgylchiadau sy’n cynnwys anghyfreithlondeb i effeithio ar ddilysrwydd neu orfodadwyedd unrhyw ddarpariaeth mewn tenantiaeth ddomestig annedd y mae’r Rhan hon wedi ei thorri mewn perthynas â hi.

(2)Ond o ran taliadau cyfnodol—

(a)caniateir i rai sy’n daladwy mewn cysylltiad â thenantiaeth o’r fath gael eu hatal yn unol ag adran 30 (gorchmynion atal rhent), a

(b)caniateir i rai a delir mwn cysylltiad â thenantiaeth o’r fath gael eu hadfer yn unol ag adrannau 32 a 33 (gorchmynion ad-dalu rhent).

44Cyfyngiad ar derfynu tenantiaethau

(1)Ni chaniateir rhoi hysbysiad adran 21 mewn perthynas ag annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig a honno’n denantiaeth fyrddaliol sicr os—

(a)nad yw’r landlord yn gofrestredig mewn perthynas â’r annedd, neu

(b)nad yw’r landlord yn drwyddedig o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi ac nad yw wedi penodi person sydd yn drwyddedig o dan y Rhan hon i ymgymryd â’r holl waith rheoli eiddo mewn perthynas â’r annedd ar ran y landlord.

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys am y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod pan fo buddiant y landlord yn yr annedd yn cael ei aseinio i’r landlord.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “hysbysiad adran 21” yw hysbysiad o dan adran 21(1)(b) neu (4)(a) o Ddeddf Tai 1988.

45Landlordiaid sy’n ymddiriedolwyr

Os ymddiriedolwyr yw’r landlord, caniateir i’r landlord fod yn gofrestredig neu’n drwyddedig at ddibenion y Rhan hon o dan enw sy’n ddisgrifiad ar y cyd o’r ymddiriedolwyr fel ymddiriedolwyr yr ymddiriedolaeth o dan sylw.

46Rheoliadau ar ffioedd

(1)Caiff rheoliadau a wneir o dan y Rhan hon sy’n rhagnodi swm ffi sy’n daladwy gan berson mewn cysylltiad â cheisiadau i fod yn gofrestredig neu yn drwyddedig ddarparu —

(a)mai’r ffi fydd swm a nodir yn y rheoliadau;

(b)y caiff y ffi ei phenderfynu gan berson neu drwy ddull a bennir yn y rheoliadau.

(2)Caiff y cyfryw reoliadau ragnodi ffi wahanol ar gyfer gwahanol bersonau.

47Gwybodaeth am geisiadau

Rhaid i awdurdod trwyddedu gyhoeddi gwybodaeth am ei ofynion mewn perthynas ag—

(a)ffurf a chynnwys ceisiadau i fod yn gofrestredig ac yn drwyddedig;

(b)yr wybodaeth sydd i’w darparu wrth wneud ceisiadau.

48Rhoi hysbysiad etc. o dan y Rhan hon

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth o’r Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol neu’n ei awdurdodi (ym mha dermau bynnag) i—

(a)hysbysu person am rywbeth, neu

(b)rhoi dogfen i berson (gan gynnwys hysbysiad neu gopi o ddogfen).

(2)Caniateir i’r hysbysiad gael ei roi neu i’r ddogfen gael ei rhoi i’r person o dan sylw—

(a)drwy ei draddodi neu ei thraddodi i’r person,

(b)drwy ei anfon neu ei hanfon drwy’r post i gyfeiriad cywir y person,

(c)drwy ei adael neu ei gadael yn nghyfeiriad cywir y person, neu

(d)os yw’r amodau yn is-adran (4) yn cael eu bodloni, drwy ei anfon neu ei hanfon yn electronig.

(3)Caniateir i’r hysbysiad gael ei roi neu i’r ddogfen gael ei rhoi i gorff corfforaethol drwy ei roi neu ei rhoi i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw.

(4)Caiff person perthnasol anfon hysbysiad neu ddogfen yn electronig at berson dim ond os bodlonir y gofynion a ganlyn—

(a)rhaid i’r person y mae’r hysbysiad neu’r ddogfen i’w roi neu ei rhoi iddo fod wedi—

(i)nodi wrth y person perthnasol barodrwydd i gael yr hysbysiad neu’r ddogfen yn electronig, a

(ii)rhoi cyfeiriad sy’n addas at y diben hwnnw i’r person perthnasol, a

(b)rhaid i’r person perthnasol anfon yr hysbysiad neu’r ddogfen i’r cyfeiriad hwnnw.

(5)At ddibenion yr adran hon ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978 (cyfeiriadau at gyflwyno drwy’r post) yn ei gymhwysiad i’r adran hon, cyfeiriad cywir person yw—

(a)yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

(b)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y person.

(6)Mae hysbysiad neu ddogfen a roddir i berson drwy ei adael neu ei gadael yng nghyfeiriad cywir y person i’w drin neu ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel ei fod neu ei bod wedi ei roi neu ei rhoi ar yr amser y gadawyd ef neu hi yn y cyfeiriad.

(7)Mae pob un o’r canlynol yn “berson perthnasol” at ddibenion yr adran hon—

(a)awdurdod trwyddedu;

(b)awdurdod tai lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac eithrio fel awdurdod trwyddedu;

(c)person sydd, yn rhinwedd awdurdodiad ysgrifenedig, yn arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ar ran awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol o’r math a grybwyllir ym mharagraff (b).

Cyffredinol

49Dehongli’r Rhan hon a mynegai o dermau wedi eu diffinio

(1)Yn y Rhan hon—

(2)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at aseinio buddiant i landlord—

(a)yn cynnwys unrhyw drawsgludiad ac eithrio morgais neu arwystl, a

(b)os ymddiriedolwyr yw’r landlord, nid yw’n cynnwys newid yn y personau sydd, am y tro, yn ymddiriedolwyr i’r ymddiriedolaeth.

(3)Yn y Rhan hon—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at gais am drwydded yn cynnwys cyfeiriad at gais am adnewyddu trwydded, a

(b)mae unrhyw gyfeiriad at roi trwydded gan awdurdod trwyddedu yn cynnwys cyfeiriad at adnewyddu trwydded;

ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.

RHAN 2DIGARTREFEDD

PENNOD 1ADOLYGIADAU A STRATEGAETHAU DIGARTREFEDD

50Dyletswydd i gynnal adolygiad digartrefedd a llunio strategaeth ddigartrefedd

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol (yn gyfnodol, fel sy’n ofynnol gan yr adran hon)—

(a)cynnal adolygiad digartrefedd ar gyfer ei ardal, a

(b)llunio a mabwysiadu strategaeth ddigartrefedd yn seiliedig ar ganlyniadau’r adolygiad hwnnw.

(2)Rhaid i’r awdurdod fabwysiadu strategaeth ddigartrefedd yn 2018 a strategaeth ddigartrefedd newydd ym mhob pedwaredd flwyddyn ar ôl 2018.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (2) drwy orchymyn.

(4)Rhaid i gyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru gymryd ei strategaeth ddigartrefedd i ystyriaeth wrth arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n arferadwy heblaw fel awdurdod tai lleol).

(5)Nid oes unrhyw beth yn is-adran (4) yn effeithio ar unrhyw ddyletswydd neu ofyniad sy’n codi ar wahân i’r adran hon.

(6)Yn y Bennod hon mae i “digartref” yr ystyr a roddir gan adran 55 ac mae “digartrefedd” i’w ddehongli yn unol â hynny.

51Adolygiadau digartrefedd

(1)Rhaid i adolygiad digartrefedd o dan adran 50 gynnwys adolygiad o’r canlynol—

(a)lefelau digartrefedd, a lefelau tebygol digartrefedd yn y dyfodol, yn ardal yr awdurdod tai lleol;

(b)y gweithgareddau a gynhelir yn ardal yr awdurdod tai lleol i gyflawni’r amcanion canlynol (neu sy’n cyfrannu at eu cyflawni)—

(i)atal digartrefedd;

(ii)bod llety addas ar gael, neu y bydd ar gael, i bobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref;

(iii)bod cefnogaeth foddhaol ar gael ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref;

(c)yr adnoddau sydd ar gael i’r awdurdod (gan gynnwys adnoddau sydd ar gael wrth arfer swyddogaethau heblaw fel awdurdod tai lleol), awdurdodau cyhoeddus eraill, cyrff gwirfoddol a phersonau eraill ar gyfer gweithgareddau o’r fath.

(2)Ar ôl cwblhau adolygiad digartrefedd, rhaid i awdurdod tai lleol gyhoeddi canlyniadau’r adolygiad drwy—

(a)sicrhau bod canlyniadau’r adolygiad ar gael ar ei wefan (os oes ganddo un);

(b)sicrhau bod copi o ganlyniadau’r adolygiad ar gael yn ei brif swyddfa i’r cyhoedd gael eu gweld ar bob adeg resymol, a hynny’n ddi-dâl;

(c)darparu copi o’r canlyniadau hynny i unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n gofyn am un (ar ôl talu ffi resymol os yw hynny’n ofynnol gan yr awdurdod).

52Strategaethau digartrefedd

(1)Strategaeth ddigartrefedd o dan adran 50 yw strategaeth ar gyfer cyflawni’r amcanion canlynol yn ardal yr awdurdod tai lleol—

(a)atal digartrefedd;

(b)bod llety addas ar gael, ac y bydd ar gael, i bobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref;

(c)bod cefnogaeth foddhaol ar gael ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref.

(2)Caiff strategaeth ddigartrefedd bennu amcanion manylach i anelu atynt, a chamau y bwriedir eu cymryd, wrth arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod (gan gynnwys swyddogaethau sy’n arferadwy heblaw fel awdurdod tai lleol).

(3)Caiff strategaeth ddigartrefedd hefyd gynnwys darpariaeth yn ymwneud â chamau penodol y mae’r awdurdod yn disgwyl iddynt gael eu cymryd—

(a)gan unrhyw awdurdod cyhoeddus sydd â swyddogaethau sy’n gallu cyfrannu at gyflawni unrhyw un neu ragor o’r amcanion a grybwyllir yn is-adran (1), neu

(b)gan unrhyw gorff gwirfoddol neu berson arall y mae ei weithgareddau’n gallu cyfrannu at gyflawni unrhyw un neu ragor o’r amcanion hynny.

(4)Rhaid cael cymeradwyaeth y corff neu’r person dan sylw er mwyn cynnwys mewn strategaeth ddigartrefedd unrhyw ddarpariaeth sy’n ymwneud â’r camau a grybwyllir yn is-adran (3).

(5)Wrth lunio strategaeth ddigartrefedd rhaid i’r awdurdod ystyried (ymysg pethau eraill) i ba raddau y gellir cyflawni unrhyw un neu ragor o’r amcanion a grybwyllir yn is-adran (1) drwy gamau sy’n ymwneud â dau neu fwy o’r cyrff neu’r personau eraill a grybwyllir yn is-adrannau (2) a (3).

(6)Rhaid i strategaeth ddigartrefedd gynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â chamau y mae’r awdurdod yn cynllunio eu cymryd wrth arfer ei swyddogaethau, a chamau penodol y mae’r awdurdod yn disgwyl i awdurdodau cyhoeddus, cyrff gwirfoddol a phersonau eraill o fewn is-adran (3) eu cymryd, mewn perthynas â’r rheini y mae’n bosibl bod angen cymorth arnynt yn benodol os ydynt yn ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref, gan gynnwys yn benodol—

(a)pobl sy’n gadael y carchar neu lety cadw ieuenctid,

(b)pobl ifanc sy’n gadael gofal,

(c)pobl sy’n gadael lluoedd arfog rheolaidd y Goron,

(d)pobl sy’n gadael yr ysbyty ar ôl triniaeth feddygol am anhwylder meddyliol fel claf preswyl, ac

(e)pobl sy’n cael gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned.

(7)Rhaid i awdurdod tai lleol adolygu ei strategaeth ddigartrefedd a chaiff ei haddasu.

(8)Cyn mabwysiadu neu addasu strategaeth ddigartrefedd rhaid i awdurdod tai lleol ymgynghori â’r cyfryw awdurdodau cyhoeddus neu leol, cyrff gwirfoddol neu bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr awdurdod.

(9)Ar ôl mabwysiadu neu addasu strategaeth ddigartrefedd, rhaid i awdurdod tai lleol gyhoeddi’r strategaeth drwy—

(a)sicrhau bod copi o ganlyniadau’r adolygiad ar gael ar ei wefan (os oes ganddo un);

(b)sicrhau bod copi o ganlyniadau’r adolygiad ar gael yn ei brif swyddfa i’r cyhoedd gael eu gweld ar bob adeg resymol, a hynny’n ddi-dâl;

(c)darparu copi o’r strategaeth i unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n gofyn am un (ar ôl talu ffi resymol os yw hynny’n ofynnol gan yr awdurdod).

(10)Os yw’r awdurdod yn addasu ei strategaeth ddigartrefedd, caiff gyhoeddi’r addasiadau neu’r strategaeth fel y’i haddaswyd (fel sydd fwyaf priodol ym marn yr awdurdod).

(11)Pan fo’r awdurdod yn penderfynu cyhoeddi’r addasiadau yn unig, mae’r cyfeiriadau at y strategaeth ddigartrefedd ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (9) i’w dehongli fel cyfeiriadau at yr addasiadau.

PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

Cyflwyniad

53Trosolwg o’r Bennod hon

(1)Mae’r Bennod hon yn rhoi dyletswyddau ar awdurdodau tai lleol i gynorthwyo pobl sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd ac yn gwneud darpariaeth cysylltiedig.

(2)Mae adrannau 55 i 59 yn diffinio ac yn egluro fel arall ystyr rhai termau allweddol (ceir darpariaeth bellach ynghylch dehongli a mynegai o’r termau a ddiffinnir yn y Bennod hon yn adran 99).

(3)Mae adran 60 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol sicrhau y darperir gwasanaeth sy’n darparu gwybodaeth a chyngor sy’n gysylltiedig â digartrefedd i bobl ynghyd â chynhorthwy i gael gafael ar gymorth o dan y Bennod hon.

(4)Mae adran 61 yn cyflwyno Atodlen 2 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyster i gael cymorth o dan y Bennod hon.

(5)Mae adran 62 yn gosod dyletswydd ar awdurdod tai lleol i asesu achosion pobl (“ceiswyr”) sy’n gwneud cais i’r awdurdod am lety, neu am gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, pan fo’n ymddangos i’r awdurdod eu bod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd.

(6)Mae adran 63 yn darparu ar gyfer rhoi hysbysiad i geiswyr ynghylch canlyniad yr asesiad.

(7)Mae adran 64 yn rhoi enghreifftiau o’r mathau o ffyrdd y caniateir arfer y dyletswyddau dilynol i sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety ar gael a beth y caniateir ei wneud er mwyn eu harfer; ac mae adran 65 yn egluro beth y mae “cynorthwyo i sicrhau” yn ei olygu.

(8)Mae adrannau 66 i 79 yn nodi’r prif ddyletswyddau sydd ar awdurdodau tai lleol i gynorthwyo ceiswyr, yr amgylchiadau pan fo’r dyletswyddau hynny’n dod i ben a darpariaeth gysylltiedig; y prif ddyletswyddau yw—

(a)dyletswydd i gynorthwyo i atal ceiswyr sydd o dan fygythiad o ddigartrefedd rhag dod yn ddigartref (adran 66);

(b)dyletswydd i sicrhau llety interim ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol (adran 68) (mae adran 70 yn darparu ar gyfer pwy sydd i gael angen blaenoriaethol am lety at ddibenion y Bennod);

(c)dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael i geiswyr digartref ei feddiannu (adran 73);

(d)dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fydd y ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben (adran 75).

(9)Mae adran 78 yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau hynny pan gaiff awdurdodau tai lleol roi sylw i ba un a ddaeth ceisydd yn ddigartref yn fwriadol ai peidio wrth benderfynu a yw dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol yn gymwys; mae adran 77 yn darparu ar gyfer ystyr bod yn ddigartref yn fwriadol.

(10)Mae adrannau 80 i 82 yn darparu y caiff awdurdodau tai lleol ddod â’u dyletswydd i geisydd i ben drwy gyfeirio eu hachosion at at awdurdodau eraill yng Nghymru neu Loegr, pan fo gan y ceiswyr gysylltiad lleol ag ardaloedd yr awdurdodau eraill hynny; mae adran 81 yn diffinio ystyr “cysylltiad lleol” at ddibenion y Bennod hon.

(11)Mae adrannau 85 i 89 yn darparu ar gyfer adolygiadau ac apelau.

(12)Mae adrannau 90 i 99 yn gwneud darpariaeth atodol a chyffredinol.

Termau allweddol

54Cymhwyso termau allweddol

Mae adrannau 55 i 59 yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

55Ystyr digartrefedd a’r bygythiad o ddigartrefedd

(1)Mae person yn ddigartref os nad oes unrhyw lety ar gael i’r person ei feddiannu, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, y mae’r person—

(a)â hawl i’w feddiannu yn rhinwedd buddiant ynddo neu yn rhinwedd gorchymyn llys,

(b)â thrwydded datganedig neu oblygedig i’w feddiannu, neu

(c)yn ei feddiannu fel preswylfa yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol cyfreithiol sy’n rhoi i’r person yr hawl i barhau i feddiannu neu’n cyfyngu ar hawl person arall i adennill meddiant.

(2)Mae person yn ddigartref hefyd os oes gan y person lety ond—

(a)nad yw’n gallu cael mynediad iddo, neu

(b)mae’n strwythur, yn gerbyd neu’n gwch symudol, sydd wedi ei ddylunio neu ei addasu i bobl fyw ynddo ac nad oes unrhyw fan lle mae’r person â’r hawl neu’r caniatâd i’w leoli ac hefyd i fyw ynddo.

(3)Ni chaniateir i berson gael ei drin fel person sydd â llety oni bai ei fod yn lety y byddai’n rhesymol i’r person barhau i’w feddiannu.

(4)Mae person o dan fygythiad o ddigartrefedd os yw’n debygol y bydd y person yn dod yn ddigartref o fewn 56 o ddiwrnodau.

56Ystyr llety sydd ar gael i’w feddiannu

(1)Caniateir i lety gael ei ystyried yn llety sydd ar gael i berson ei feddiannu ond os yw ar gael i’r person hwnnw ei feddiannu ynghyd ag—

(a)unrhyw berson arall sy’n preswylio gyda’r person hwnnw fel arfer fel aelod o’i deulu, neu

(b)unrhyw berson arall y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r person hwnnw.

(2)Dylid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at sicrhau bod llety ar gael i berson ei feddiannau yn unol â hynny.

57A yw’n rhesymol parhau i feddiannu llety

(1)Nid yw’n rhesymol i berson barhau i feddiannu llety os yw’n debygol y bydd yn arwain at fod y person hwnnw, neu aelod o aelwyd y person hwnnw, yn wynebu camdriniaeth.

(2)Yn yr adran hon ystyr “aelod o aelwyd y person” yw—

(a)person sy’n preswylio gydag ef fel arfer fel aelod o’i deulu, neu

(b)unrhyw berson arall y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r person hwnnw.

(3)Wrth benderfynu a fyddai’n rhesymol, neu y byddai wedi bod yn rhesymol, i berson barhau i feddiannu llety—

(a)caiff awdurdod tai lleol roi sylw i’r amgylchiadau cyffredinol presennol mewn perthynas â thai yn ardal yr awdurdod tai lleol y mae’r person wedi gwneud cais iddo am gymorth i sicrhau llety;

(b)rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i pa un a yw’r llety yn fforddiadwy i’r person hwnnw ai peidio.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru bennu’r canlynol drwy orchymyn—

(a)amgylchiadau eraill lle bydd yn cael ei ystyried yn rhesymol neu’n afresymol i berson barhau i feddiannu llety, a

(b)materion eraill i’w hystyried neu eu diystyru wrth benderfynu a fyddai’n rhesymol, neu y byddai wedi bod yn rhesymol, i berson barhau i feddiannu llety.

58Ystyr camdriniaeth a camdriniaeth ddomestig

(1)Ystyr “camdriniaeth” yw trais corfforol, ymddygiad bygythiol neu fygylus ac unrhyw ffurf arall ar gamdriniaeth a all, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, arwain at y perygl o niwed; ac ystyr “camdriniaeth ddomestig” yw camdriniaeth sy’n dod o du person sy’n gysylltiedig â’r dioddefwr.

(2)Mae person yn gysylltiedig â pherson arall os ydynt—

(a)yn briod â’i gilydd neu wedi bod yn briod â’i gilydd;

(b)yn bartneriaid sifil i’w gilydd neu wedi bod yn bartneriaid sifil i’w gilydd;

(c)yn byw â’i gilydd neu wedi bod yn byw â’i gilydd mewn perthynas deuluol barhaus (pa un ai os ydynt o rywiau gwahanol neu o’r un rhyw);

(d)yn byw neu wedi byw ar yr un aelwyd;

(e)yn berthnasau;

(f)wedi cytuno i briodi ei gilydd (pa un a yw’r cytundeb hwnnw wedi ei derfynu ai peidio);

(g)wedi ymrwymo i gytundeb partneriaeth sifil rhyngddynt (pa un a yw’r cytundeb hwnnw wedi ei derfynu ai peidio);

(h)mewn perthynas bersonol agos â’i gilydd, neu wedi bod mewn perthynas o’r fath, sydd, neu a oedd, wedi parhau am gyfnod sylweddol;

(i)mewn perthynas â phlentyn, y naill a’r llall yn rhiant i’r plentyn neu â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, neu wedi bod â chyfrifoldeb o’r fath.

(3)Os yw plentyn wedi ei fabwysiadu neu yn dod o fewn is-adran (4), mae dau berson hefyd yn gysylltiedig â’i gilydd at ddibenion y Bennod hon—

(a)os yw un yn rhiant naturiol i’r plentyn neu’n rhiant i riant naturiol o’r fath, a

(b)y person arall yw—

(i)y plentyn, neu

(ii)person sydd wedi dod yn rhiant i’r plentyn yn rhinwedd gorchymyn mabwysiadu, sydd wedi gwneud cais am orchymyn mabwysiadu neu y mae’r plentyn wedi ei leoli gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu ar unrhyw adeg.

(4)Mae plentyn yn dod o fewn yr adran hon—

(a)os yw asiantaeth fabwysiadu, o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, wedi ei hawdurdodi i leoli’r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu o dan adran 19 o’r Ddeddf honno (gosod plentyn â chydsyniad rhiant) neu mae’r plentyn wedi dod yn destun gorchymyn o dan adran 21 o’r Ddeddf honno (gorchmynion lleoli), neu

(b)os yw’r plentyn yn cael ei ryddhau ar gyfer ei fabwysiadu yn rhinwedd gorchymyn a wneir—

(i)yng Nghymru a Lloegr, o dan adran 18 o Ddeddf Mabwysiadu 1976,

(ii)yng Ngogledd Iwerddon, o dan Erthygl 17(1) neu 18(1) o Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 1987, neu

(c)os yw’r plentyn yn destun gorchymyn parhauster yn yr Alban sy’n cynnwys rhoi’r awdurdod i fabwysiadu.

(5)Yn yr adran hon—

59Addasrwydd llety

(1)Wrth benderfynu a yw llety’n addas ar gyfer person, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i’r deddfiadau canlynol—

(a)Rhan 9 o Ddeddf Tai 1985 (clirio slymiau);

(b)Rhan 10 o Ddeddf Tai 1985 (gorlenwi);

(c)Rhan 1 o Ddeddf Tai 2004 (cyflwr tai);

(d)Rhan 2 o Ddeddf Tai 2004 (trwyddedu tai amlfeddiannaeth);

(e)Rhan 3 o Ddeddf Tai 2004 (trwyddedu dethol ar gyfer llety preswyl arall);

(f)Rhan 4 o Ddeddf Tai 2004 (darpariaethau rheoli atodol mewn perthynas â llety preswyl);

(g)Rhan 1 o’r Ddeddf hon (rheoleiddio tai rhentu preifat).

(2)Wrth benderfynu a yw llety’n addas ar gyfer person, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i pa un a yw’r llety yn fforddiadwy i’r person hwnnw ai peidio.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru bennu’r canlynol drwy orchymyn—

(a)amgylchiadau lle bo llety i’w ystyried yn addas ar gyfer person, a lle na fo i’w ystyried felly, a

(b)materion i’w hystyried neu i’w diystyru wrth benderfynu a yw llety yn addas ar gyfer person.

Gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i gael gafael ar gymorth

60Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i gael gafael ar gymorth

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol sicrhau y darperir gwasanaeth, heb godi tâl amdano, sy’n cynnig y canlynol i bobl yn ei ardal, neu bobl sydd â chysylltiad lleol â’i ardal—

(a)gwybodaeth a chyngor yn ymwneud ag atal digartrefedd, sicrhau llety pan fo pobl yn ddigartref, cael gafael ar unrhyw gymorth arall sydd ar gael ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref, a

(b)cynhorthwy i gael gafael ar gymorth o dan y Bennod hon neu unrhyw gymorth arall ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref.

(2)Mewn perthynas ag is-adran (1)(a), rhaid i’r gwasanaeth gynnwys, yn benodol, gyhoeddi gwybodaeth a chyngor am y materion canlynol—

(a)y system y darperir ar ei chyfer gan y Bennod hon a sut y mae’r system yn gweithredu yn ardal yr awdurdod;

(b)a oes unrhyw gymorth arall ar gael yn ardal yr awdurdod ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref (pa un a yw’r person o dan fygythiad o ddigartrefedd o fewn ystyr y Bennod hon ai peidio);

(c)sut i gael gafael ar y cymorth sydd ar gael.

(3)Mewn perthynas ag is-adran (1)(b), rhaid i’r gwasanaeth gynnwys, yn Benodol, gynhorthwy i gael gafael ar gymorth i atal person rhag dod yn ddigartref sydd ar gael pa un a yw’r person o dan fygythiad o ddigartrefedd o fewn ystyr y bennod hon ai peidio.

(4)Rhaid i’r awdurdod tai lleol, yn benodol drwy weithio gydag awdurdodau cyhoeddus eraill, cyrff gwirfoddol a phersonau eraill, sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddylunio i ddiwallu anghenion grwpiau sy’n wynebu perygl arbennig o ddigartrefedd, gan gynnwys yn benodol—

(a)pobl sy’n gadael y carchar neu lety cadw ieuenctid,

(b)pobl ifanc sy’n gadael gofal,

(c)pobl sy’n gadael lluoedd arfog rheolaidd y Goron,

(d)pobl sy’n gadael yr ysbyty ar ôl triniaeth feddygol am anhwylder meddyliol fel claf preswyl, ac

(e)pobl sy’n cael gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned.

(5)Caiff dau neu ragor o awdurdodau tai lleol sicrhau ar y cyd y darperir gwasanaeth o dan yr adran hon ar gyfer eu hardaloedd; a phan fônt yn gwneud hynny—

(a)mae cyfeiriadau yn yr adran hon at awdurdod tai lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdodau yn gweithredu ar y cyd, a

(b)mae cyfeiriadau yn yr adran hon at ardal awdurdod tai lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr ardal gyfunol.

(6)Caniateir i’r gwasanaeth sy’n ofynnol o dan yr adran hon gael ei integreiddio â’r gwasanaeth sy’n ofynnol o dan adran 17 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Cymhwystra

61Cymhwystra am gymorth o dan y Bennod hon

Mae Atodlen 2 yn cael effaith at ddibenion penderfynu a yw ceisydd yn gymwys i gael cymorth o dan ddarpariaethau canlynol y Bennod hon.

Ceisiadau am gymorth ac asesiad

62Dyletswydd i asesu

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol gynnal asesiad o achos person—

(a)os yw’r person wedi gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety,

(b)os yw’n ymddangos i’r awdurdod y gallai’r person fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd, ac

(c)os nad yw is-adran (2) yn gymwys i’r person.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r person wedi ei asesu gan awdurdod tai lleol o dan yr adran hon ar achlysur blaenorol a bod yr awdurdod yn fodlon—

(a)nad yw amgylchiadau’r person wedi newid yn sylweddol ers i’r asesiad gael ei gynnal, a

(b)nad oes unrhyw wybodaeth newydd sy’n cael effaith sylweddol ar yr asesiad hwnnw.

(3)Yn y Bennod hon, ystyr “ceisydd” yw person y mae’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys iddo.

(4)Rhaid i’r awdurdod asesu pa un a yw’r ceisydd yn gymwys i gael cymorth o dan y Bennod hon ai peidio.

(5)Os yw’r ceisydd yn gymwys i gael cymorth o dan y Bennod hon, rhaid i’r asesiad gynnwys asesiad o’r canlynol—

(a)yr amgylchiadau sydd wedi achosi i’r ceisydd fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd;

(b)anghenion tai y ceisydd ynghyd ag unrhyw berson y mae’r ceisydd yn byw gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fyw gydag ef;

(c)y gefnogaeth y mae ei hangen ar y ceisydd ynghyd ag unrhyw berson y mae’r ceisydd yn byw gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fyw gydag ef i gadw llety sydd ar gael neu a allai ddod ar gael;

(d)pa un a oes unrhyw ddyletswydd ar yr awdurdod i’r ceisydd ai peidio o dan ddarpariaethau canlynol y Bennod hon.

(6)Wrth gynnal asesiad, rhaid i’r awdurdod tai lleol—

(a)ceisio canfod pa ganlyniad y mae’r ceisydd yn dymuno ei gyflawni drwy gymorth yr awdurdod, a

(b)asesu pa un a allai arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Bennod hon gyfrannu at gyflawni’r amcan hwnnw.

(7)Caiff awdurdod tai lleol gynnal ei asesiad o’r materion a grybwyllir yn is-adrannau (5) a (6) cyn iddo benderfynu bod y ceisydd yn gymwys i gael cymorth o dan y Bennod hon.

(8)Rhaid i awdurdod tai lleol adolygu ei asesiad yn ystod y cyfnod y mae’r awdurdod yn ystyried bod dyletswydd arno i’r ceisydd o dan ddarpariaethau canlynol y Bennod hon neu y gallai dyletswydd fod arno.

(9)Rhaid i awdurdod tai lleol adolygu ei asesiad yn y ddau achos a ganlyn—

(10)Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (5)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol asesu a fyddai dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 75 ai peidio oni bai a hyd nes y bo’n adolygu ei asesiad yn unol ag is-adran (9) o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn achos 2 o’r is-adran honno; ond caniateir iddo wneud felly cyn hynny.

(11)Nid yw is-adrannau (9) a (10) yn effeithio ar gyffredinolrwydd is-adran (8).

63Hysbysu am ganlyniad asesiad

(1)Rhaid i’r awdurdod tai lleol hysbysu’r ceisydd am ganlyniad ei asesiad (neu unrhyw adolygiad o’i asesiad) ac, i’r graddau y bo unrhyw fater yn cael ei benderfynu yn groes i fuddiannau’r ceisydd, roi gwybod i’r ceisydd am y rhesymau dros ei benderfyniad.

(2)Os yw’r awdurdod yn penderfynu bod dyletswydd arno mewn perthynas â’r ceisydd o dan adran 75, ond na fyddai wedi gwneud hynny heblaw ei fod wedi rhoi sylw i berson cyfyngedig, rhaid i’r hysbysiad o dan is-adran (1) hefyd—

(a)rhoi gwybod i’r ceisydd ei fod wedi gwneud y penderfyniad ar y sail honno,

(b)cynnwys enw’r person cyfyngedig,

(c)egluro pam fod y person yn berson cyfyngedig, a

(d)egluro effaith adran 76(5).

(3)Os yw’r awdurdod wedi hysbysu awdurdod tai lleol arall, neu’n bwriadu gwneud hynny, o dan adran 80 (atgyfeirio achosion), rhaid iddo hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad hwnnw ar yr un pryd a rhoi gwybod iddo am y rhesymau dros hynny.

(4)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1) neu (3) hefyd—

(a)rhoi gwybod i’r ceisydd am ei hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad a’r cyfnod amser y mae’n rhaid cyflwyno cais o’r fath ynddo (gweler adran 85), a

(b)cael ei roi ar ffurf ysgrifenedig ac, os nad yw’n dod i law, gael ei drin fel pe bai wedi ei roi os yw ar gael yn swyddfa’r awdurdod am gyfnod rhesymol i’w gasglu gan y ceisydd neu ar ran y ceisydd.

(5)Yn y Bennod hon, ystyr “person cyfyngedig” yw person—

(a)nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan y Bennod hon,

(b)sy’n destun rheolaeth fewnfudo o fewn ystyr Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, ac

(c)sydd naill ai—

(i)â dim hawl i ddod i’r Deyrnas Unedig neu i aros yno, neu

(ii)â’r hawl i ddod i’r Deyrnas Unedig neu i aros yno yn amodol ar y ffaith ei fod yn ei gynnal ac yn ei letya ei hun, ynghyd ag unrhyw ddibynyddion, heb ddefnyddio cronfeydd cyhoeddus.

Dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr

64Sut i sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety ar gael

(1)Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r modd y caiff awdurdod tai lleol sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i’r ceisydd ei feddiannu—

(a)drwy drefnu i berson ac eithrio’r awdurdod ddarparu rhywbeth;

(b)drwy ddarparu rhywbeth ei hun;

(c)drwy ddarparu rhywbeth, neu drefnu i rywbeth gael ei ddarparu, i berson ac eithrio’r ceisydd.

(2)Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r hyn y caniateir ei ddarparu neu ei drefnu er mwyn sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i’r ceisydd ei feddiannu—

(a)cyfryngu;

(b)taliadau ar ffurf grant neu fenthyciad;

(c)gwarantau y bydd taliadau yn cael eu gwneud;

(d)cefnogaeth i reoli dyled, ôl-ddyledion morgais neu ôl-ddyledion rhent;

(e)mesurau diogelwch i geiswyr sydd mewn perygl o wynebu camdriniaeth;

(f)eiriolaeth neu gynrychiolaeth arall;

(g)llety;

(h)gwybodaeth a chyngor;

(i)gwasanaethau, nwyddau neu gyfleusterau eraill.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau tai lleol mewn perthynas â sut y gallant hwy sicrhau neu helpu i sicrhau bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i geisydd ei feddiannu.

65Ystyr cynorthwyo i sicrhau

Pan fo’n ofynnol o dan y Bennod hon i awdurdod tai lleol gynorthwyo i sicrhau (yn hytrach na “sicrhau”) bod llety addas ar gael, neu nad yw’n peidio â bod ar gael, i’r ceisydd ei feddiannu—

(a)mae’n ofynnol i’r awdurdod gymryd camau rhesymol i gynorthwyo, gan roi sylw (ymysg pethau eraill) i’r angen i wneud y defnydd gorau o adnoddau’r awdurdod;

(b)nid yw’n ofynnol i’r awdurdod sicrhau cynnig o lety o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (dyrannu tai);

(c)nid yw’n ofynnol i’r awdurdod ddarparu llety fel arall.

66Dyletswydd i gynorthwyo i atal ceisydd rhag dod yn ddigartref

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol gynorthwyo i sicrhau nad yw llety addas yn peidio â bod ar gael i geisydd ei feddiannu os yw’r awdurdod yn fodlon bod y ceisydd—

(a)o dan fygythiad o ddigartrefedd, a

(b)yn gymwys i gael cymorth.

(2)Nid yw is-adran (1) yn effeithio ar unrhyw un neu ragor o hawliau’r awdurdod, pa un ai yn rhinwedd contract, deddfiad neu reolaeth cyfraith, i sicrhau meddiant gwag o unrhyw lety.

67Amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 66 yn dod i ben

(1)Mae’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 66 yn dod i ben o dan unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), (3) neu (4), os yw’r ceisydd wedi cael ei hysbysu yn unol ag adran 84.

(2)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi dod yn ddigartref.

(3)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon (pa un ai o ganlyniad i’r camau y mae wedi eu cymryd ai peidio)—

(a)nad yw’r ceisydd bellach o dan fygythiad o ddigartrefedd, a

(b)bod llety addas yn debygol o fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf.

(4)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod y ceisydd, ar ôl cael ei hysbysu yn ysgrifenedig am ganlyniadau posibl gwrthod neu dderbyn y cynnig, yn gwrthod cynnig o lety gan unrhyw berson y mae’r awdurdod yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer y ceisydd, a

(b)bod yr awdurdod yn fodlon bod y llety a gynigir yn debygol o fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf.

(5)Mae’r cyfnod o 6 mis a grybwyllir yn is-adrannau (3)(b) a (4)(b) yn dechrau ar y diwrnod yr anfonir yr hysbysiad o dan adran 84 neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.

(6)Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fo’r ddyletswydd yn adran 66 yn dod i ben.

68Dyletswydd interim i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref mewn angen blaenoriaethol

(1)Rhaid i’r awdurdod tai lleol sicrhau bod llety addas ar gael i’w feddiannu gan geisydd y mae is-adran (2) neu (3) yn gymwys iddo hyd nes y daw’r ddyletswydd i ben yn unol ag adran 69.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i geisydd y mae gan yr awdurdod reswm i gredu y gallai fod—

(a)yn ddigartref,

(b)yn gymwys i gael cymorth, a

(c)ag angen blaenoriaethau am lety,

o dan amgylchiadau pan nad yw’r awdurdod yn fodlon hyd yma bod y ceisydd yn ddigartref, yn gymwys i gael cymorth ac ag angen blaenoriaethol am lety.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys i geisydd—

(a)y mae’r awdurdod â rheswm i gredu neu yn fodlon bod ganddo angen blaenoriaethol neu y mae ei achos wedi cael ei atgyfeirio gan awdurdod tai lleol yn Lloegr o dan adran 198(1) o Ddeddf Tai 1996, a

(b)y mae’r ddyletswydd yn adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i ddod â digartrefedd i ben) yn gymwys iddo.

(4)Mae’r ddyletswydd o dan yr adran hon yn codi pa un a oes unrhyw bosibilrwydd o atgyfeirio achos y ceisydd at awdurdod arall ai peidio (gweler adrannau 80 i 82).

69Amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 68 yn dod i ben

(1)Mae’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 68 yn dod i ben o dan unrhyw un o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), (3) (yn ddarostyngedig i is-adran (4) a (5)), (7), (8) neu (9) os yw’r ceisydd wedi ei hysbysu yn unol ag adran 84.

(2)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol wedi penderfynu nad oes dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 73 a bod y ceisydd wedi ei hysbysu am y penderfyniad hwnnw.

(3)Yn achos ceisydd y mae adran 68(3) yn gymwys iddo, yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol—

(a)wedi penderfynu bod y ddyletswydd i’r ceisydd o dan adran 73 wedi dod i ben a bod dyletswydd yn ddyledus neu nad yw’n ddyledus i’r ceisydd o dan adran 75, a

(b)wedi hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad hwnnw;

ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) a (5).

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol wedi penderfynu nad oes dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 75 ar y sail bod yr awdurdod—

(a)yn fodlon y daeth y ceisydd yn ddigartref yn fwriadol o dan yr amgylchiadau a arweiniodd at y cais, neu

(b)wedi sicrhau cynnig o lety o’r math a ddisgrifir yn adran 75(3)(f) yn flaenorol.

(5)Nid yw’r ddyletswydd o dan adran 68 yn dod i ben o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (3) hyd nes y bo’r awdurdod yn fodlon hefyd bod y llety a sicrhawyd ganddo o dan adran 68 wedi bod ar gael i’r ceisydd am gyfnod digonol, gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysir ef nad yw adran 75 yn gymwys, er mwyn caniatáu cyfle rhesymol i’r ceisydd sicrhau llety iddo ei feddiannu.

(6)Nid yw’r cyfnod a grybwyllir yn is-adran (5) yn ddigonol at ddibenion yr is-adran honno os yw’n dod i ben ar ddiwrnod yn ystod y cyfnod o 56 o ddiwrnodau sy’n dechrau gyda’r diwrnod yr hysbyswyd y ceisydd bod y ddyletswydd yn adran 73 yn gymwys.

(7)Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd, ar ôl cael ei hysbysu am ganlyniadau posibl gwrthod, yn gwrthod cynnig o lety a sicrhawyd o dan adran 68 y mae’r awdurdod tai lleol yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer y ceisydd.

(8)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol o lety interim addas y sicrhawyd o dan adran 68 ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu.

(9)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi rhoi’r gorau yn wirfoddol i feddiannu, fel ei unig neu ei brif gartref llety interim addas y sicrhawyd o dan adran 68 ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu.

(10)Daw’r ddyletswydd i ben yn unol â’r adran hon hyd yn oed os yw’r ceisydd yn gofyn am adolygiad o unrhyw benderfyniad sydd wedi arwain at ddod â’r ddyletswydd i ben (gweler adran 85).

(11)Caiff yr awdurdod sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu hyd nes y gwneir penderfyniad ynghylch adolygiad.

(12)Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fo’r ddyletswydd yn adran 68 yn dod i ben.

70Angen blaenoriaethol am lety

(1)Mae gan y personau canlynol angen blaenoriaethol am lety at ddibenion y Bennod hon—

(a)menyw feichiog neu berson y mae’n preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddi breswylio gydag ef;

(b)person y mae plentyn dibynnol yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(c)person—

(i)sy’n hyglwyf o ganlyniad i reswm arbennig (er enghraifft: henaint, salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd corfforol neu feddyliol), neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(d)person—

(i)sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd o ganlyniad i argyfwng megis llifogydd, tân neu drychineb arall, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(e)person—

(i)sy’n ddigartref o ganlyniad i wynebu camdriniaeth ddomestig, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef (ac eithrio’r sawl sy’n cam-drin) neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(f)person—

(i)sy’n 16 neu’n 17 oed pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(g)person—

(i)sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, ond nid 21 oed, sy’n wynebu perygl arbennig o gamfanteisio rhywiol neu ariannol, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef (ac eithrio camfanteisiwr neu gamfanteisiwr posibl) neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(h)person—

(i)sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, ond nid 21 oed, a oedd yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu’n cael ei faethu ar unrhyw bryd pan oedd o dan 18 oed, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(i)person—

(i)sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Goron sydd wedi bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd hynny, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(j)person sydd â chysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod tai lleol ac sy’n hyglwyf o ganlyniad i un o’r rhesymau canlynol—

(i)bod wedi bwrw dedfryd o garchar o fewn ystyr adran 76 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000,

(ii)bod wedi ei remandio mewn carchar neu ei draddodi i garchar gan orchymyn llys, neu

(iii)bod wedi ei remandio i lety cadw ieuenctid o dan adran 91(4) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012,

neu berson y mae person o’r fath yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef.

(2)Yn y Bennod hon—

(3)Yn is-adran (2)—

71Ystyr hyglwyf yn adran 70

(1)Mae person yn hyglwyf o ganlyniad i reswm a grybwyllir ym mharagraff (c) neu (j) o adran 70(1) os, ar ôl rhoi sylw i holl amgylchiadau achos y person—

(a)y byddai’r person yn llai abl i ofalu amdano ei hun (o ganlyniad i’r rheswm hwnnw), pe bai’r person yn dod yn ddigartref ac ar y stryd, na pherson digartref arferol sy’n dod yn ddigartref ac ar y stryd, a

(b)y byddai’r person hwnnw, o ganlyniad, yn dioddef mwy o niwed nag y byddai person digartref arferol yn ei ddioddef;

mae’r is-adran hon yn gymwys pa un a yw’r person y mae ei gais o dan ystyriaeth yn ddigartref ac ar y stryd, neu’n debygol o ddod yn ddigartref ac ar y stryd, ai peidio.

(2)Yn is-adran (1), ystyr “digartref ac ar y stryd” (“street homeless”), mewn perthynas â pherson, yw nad oes llety ar gael i’r person ei feddiannu yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, y mae’r person—

(a)â’r hawl i’w feddiannu yn rhinwedd buddiant ynddo neu yn rhinwedd gorchymyn llys,

(b)â thrwydded ddatganedig neu oblygedig i’w feddiannu, neu

(c)yn ei feddiannu fel preswylfa yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol sy’n rhoi i’r person yr hawl i barhau i feddiannu neu’n cyfyngu ar hawl person arall i adennill meddiant;

ac nid yw adrannau 55 a 56 yn gymwys i’r diffiniad hwn.

72Pŵer i ddiwygio neu ddiddymu darpariaethau ynghylch angen blaenoriaethol am lety

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy orchymyn—

(a)gwneud darpariaeth ar gyfer cael gwared ar unrhyw amod bod yn rhaid i awdurdod tai lleol fod â rheswm i gredu neu fod yn fodlon bod gan geisydd angen blaenoriaethol am lety cyn i unrhyw bŵer neu ddyletswydd i sicrhau llety o dan y Bennod hon fod yn gymwys, ac mewn cysylltiad â hynny;

(b)diwygio neu hepgor y disgrifiadau o bersonau fel rhai sydd ag angen blaenoriaethol am lety at ddibenion y Bennod hon;

(c)pennu disgrifiadau pellach o bersonau fel rhai sydd ag angen blaenoriaethol am lety at ddibenion y Bennod hon.

(2)Caiff gorchymyn o dan is-adran (1) ddiwygio neu ddiddymu unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau y Rhan hon.

(3)Cyn gwneud gorchymyn o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyfryw gymdeithasau ag sy’n cynrychioli cynghorau siroedd a bwrdeistrefi sirol yng Nghymru, a’r cyfryw bersonau eraill, sy’n briodol yn eu barn hwy.

73Dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, os yw’r awdurdod yn fodlon bod y ceisydd—

(a)yn ddigartref, a

(b)yn gymwys i gael cymorth.

(2)Ond nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys os yw’r awdurdod yn atgyfeirio’r cais at awdurdod tai lleol arall (gweler adran 80).

74Amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben

(1)Mae’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 73 yn dod i ben o dan unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adrannau (2), (3), (4), neu (5), os yw’r ceisydd wedi cael ei hysbysu yn unol ag adran 84.

(2)Yr amgylchiadau yw diwedd cyfnod o 56 o ddiwrnodau.

(3)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol, cyn diwedd cyfnod o 56 o ddiwrnodau, yn fodlon bod camau rhesymol wedi eu cymryd i gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu.

(4)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon (pa un ai o ganlyniad i’r camau y mae wedi eu cymryd neu beidio)—

(a)bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, a

(b)bod y llety yn debygol o fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf.

(5)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod y ceisydd, ar ôl cael ei hysbysu am ganlyniad posibl gwrthod neu dderbyn y cynnig, yn gwrthod cynnig o lety gan unrhyw berson y mae’r awdurdod yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer y ceisydd, a

(b)bod yr awdurdod yn fodlon bod y llety a gynigir yn debygol o fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf.

(6)Mae’r cyfnod o 56 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-adrannau (2) a (3) yn dechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd o dan adran 63 ac at y diben hwn mae’r ceisydd i gael ei drin fel pe bai wedi ei hysbysu ar y diwrnod y mae’r hysbysiad yn cael ei anfon neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.

(7)Mae’r cyfnod o 6 mis a grybwyllir yn is-adran (4)(b) a (5)(b) yn dechrau ar y diwrnod y mae’r hysbysiad o dan adran 84 yn cael ei anfon neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.

(8)Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fydd y ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben.

75Dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben

(1)Pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref) yn dod i ben mewn perthynas â cheisydd o dan yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (2) neu (3) o adran 74, rhaid i’r awdurdod tai lleol sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu os yw is-adran (2) neu (3) (o’r adran hon) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r awdurdod tai lleol—

(a)yn fodlon—

(i)nad oes llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, neu

(ii)bod gan y ceisydd lety addas, ond nad yw’n debygol y bydd y llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd yn unol ag adran 84 nad yw adran 73 yn gymwys,

(b)yn fodlon bod y ceisydd yn gymwys i gael cymorth,

(c)yn fodlon bod gan y ceisydd angen blaenoriaethol am lety, ac

(d)os yw’r awdurdod yn rhoi sylw i ba un a yw ceisydd yn ddigartref yn fwriadol ai peidio (gweler adran 77), nad yw’n fodlon y daeth y ceisydd yn ddigartref yn fwriadol o dan yr amgylchiadau a arweiniodd at y cais;

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r awdurdod tai lleol yn rhoi sylw i ba un a yw’r ceisydd yn ddigartref yn fwriadol ai peidio ac yn fodlon—

(a)y daeth y ceisydd yn ddigartref yn fwriadol o dan yr amgylchiadau a arweiniodd at y cais,

(b)mewn perthynas â’r ceisydd—

(i)nad oes llety addas ar gael iddo i’w feddiannu, neu

(ii)bod llety addas gan geisydd, ond nad yw’n debygol y bydd y llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd yn unol ag adran 84 nad yw adran 73 yn gymwys,

(c)bod y ceisydd yn gymwys i gael cymorth,

(d)bod gan y ceisydd angen blaenoriaethol am lety,

(e)bod y ceisydd—

(i)yn fenyw feichiog neu’n berson y mae’n preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddi breswylio gydag ef,

(ii)yn berson y mae plentyn dibynnol yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef,

(iii)yn berson nad oedd wedi cyrraedd 21 oed pan wnaed y cais am gymorth neu’n berson y mae’r cyfryw berson yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef, neu

(iv)yn berson a oedd wedi cyrraedd 21 oed, ond nid 25 oed, pan wnaed y cais am gymorth ac a oedd yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu’n cael ei faethu ar unrhyw bryd pan oedd o dan 18 oed, neu’n berson y mae’r cyfryw berson yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef, a

(f)nad yw’r awdurdod wedi sicrhau cynnig o lety i’r ceisydd o dan yr adran hon yn flaenorol yn dilyn cais blaenorol am gymorth o dan y Bennod hon, pan wnaed y cynnig hwnnw—

(i)ar unrhyw bryd o fewn y cyfnod o 5 mlynedd cyn y diwrnod yr hysbyswyd y ceisydd o dan adran 63 bod dyletswydd iddo o dan yr adran hon, a

(ii)ar y sail bod y ceisydd yn dod o fewn yr is-adran hon.

(4)At ddibenion is-adrannau (2)(a)(ii) a (3)(b)(ii), mae’r ceisydd i’w drin fel pe bai wedi ei hysbysu ar y diwrnod y mae’r hysbysiad yn cael ei anfon neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.

76Amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 75 yn dod i ben

(1)Mae’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 75(1) yn dod i ben o dan unrhyw un o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adrannau (2), , (6) neu (7), os yw’r ceisydd wedi ei hysbysu yn unol ag adran 84.

(2)Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd yn derbyn—

(a)cynnig o lety addas o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (dyrannu tai), neu

(b)cynnig o lety addas o dan denantiaeth sicr (gan gynnwys tenantiaeth fyrddaliol sicr).

(3)Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd, ar ôl derbyn hysbysiad ysgrifenedig am ganlyniadau posibl gwrthod neu dderbyn y cynnig, yn gwrthod—

(a)cynnig o lety interim addas o dan adran 75,

(b)cynnig sector rhentu preifat, neu

(c)cynnig o lety o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996,

y mae’r awdurdod yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer y ceisydd.

(4)At ddibenion yr adran hon mae cynnig yn gynnig sector rhentu preifat—

(a)os yw’n gynnig o denantiaeth fyrddaliol sicr gan landlord preifat i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw lety sydd ar gael i’r ceisydd ei feddiannu,

(b)os yw’n cael ei wneud, gyda chymeradwyaeth yr awdurdod, yn unol â threfniadau a wneir rhwng yr awdurdod a’r landlord gyda’r nod o ddod â dyletswydd yr awdurdod o dan adran 75 i ben, ac

(c)mae’r denantiaeth sy’n cael ei chynnig yn denantiaeth cyfnod penodedig am gyfnod o 6 mis o leiaf.

(5)Mewn achos cyfyngedig, rhaid i’r awdurdod tai lleol, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, ddwyn ei ddyletswydd i ben drwy sicrhau cynnig sector rhentu preifat; at y diben hwn, ystyr “achos cyfyngedig” yw achos pan na fyddai awdurdod tai lleol yn fodlon fel a grybwyllir yn adran 75(1) heb roi sylw i berson cyfyngedig (gweler adran 63(5)).

(6)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol o lety interim addas y sicrhawyd ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu—

(a)o dan adran 68 ac y parheir i sicrhau ei fod ar gael o dan adran 75, neu

(b)o dan adran 75.

(7)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi rhoi’r gorau yn wirfoddol i feddiannu, fel ei brif neu ei unig gartref, llety interim addas y sicrhawyd ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu—

(a)o dan adran 68 ac y parheir i sicrhau ei fod ar gael o dan adran 75, neu

(b)o dan adran 75.

(8)Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fo’r ddyletswydd yn adran 75(1) yn dod i ben.

(9)Yn yr adran hon mae i “tenantiaeth tymor penodedig” yr ystyr a roddir gan Ran 1 o Ddeddf Tai 1988.

77Ystyr bod yn ddigartref yn fwriadol

(1)Mae person yn ddigartref yn fwriadol at ddibenion y Bennod hon os yw is-adran (2) neu (4) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r person yn gwneud unrhyw beth neu’n methu â gwneud unrhyw beth yn fwriadol ac o ganlyniad i hynny mae’r person yn rhoi’r gorau i feddiannu llety sydd ar gael i’r person ei feddiannu ac y byddai wedi bod yn rhesymol i’r person barhau i’w feddiannu.

(3)At ddibenion is-adran (2) ni chaniateir trin gweithred ddidwyll neu anwaith didwyll ar ran person nad oedd yn ymwybodol o unrhyw ffaith berthnasol fel gweithred fwriadol neu anwaith bwriadol.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r person yn ymrwymo i gytundeb sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person roi’r gorau i feddiannu llety y byddai wedi bod yn rhesymol i’r person barhau i’w feddiannu, a

(b)diben y cytundeb yw galluogi’r person i gymhwyso ar gyfer yr hawl i gymorth o dan y Bennod hon,

ac nad oes rheswm da arall pam y mae’r person yn ddigartref.

78Penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu categori neu gategorïau o geiswyr at ddibenion yr adran hon.

(2)Ni chaiff awdurdod tai lleol roi sylw i ba un a yw ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio at ddibenion adrannau 68 a 75 oni bai bod—

(a)y ceisydd yn dod o fewn categori a bennir o dan is-adran (1) y mae’r awdurdod wedi penderfynu, mewn perthynas â'r categori hwnnw, rhoi sylw i ba un a yw ceiswyr o fewn y categori hwnnw wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio, a

(b)yr awdurdod wedi cyhoeddi hysbysiad am ei benderfyniad o dan baragraff (a) sy’n pennu’r categori hwnnw.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol wedi cyhoeddi hysbysiad o dan is-adran (2) oni bai bod yr awdurdod wedi—

(a)penderfynu rhoi’r gorau i roi sylw i ba un a yw ceiswyr sy’n dod o fewn y categori a bennir yn yr hysbysiad wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio, a

(b)wedi cyhoeddi hysbysiad am ei benderfyniad sy’n pennu’r categori.

(4)At ddibenion adran 68 a 75, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i ba un a yw ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio os yw’r ceisydd yn dod o fewn categori a bennir yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd gan yr awdurdod o dan is-adran (2).

79Amgylchiadau pellach pan fo’r dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr yn dod i ben

(1)Mae’r dyletswyddau yn adrannau 66, 68, 73 a 75 yn dod i ben o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), (3), (4) neu (5), os yw’r ceisydd yn cael ei hysbysu yn unol ag adran 84.

(2)Yr amgylchiadau yw nad yw’r awdurdod tai lleol yn fodlon bellach bod y ceisydd yn gymwys i gael cymorth.

(3)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod camgymeriad ffeithiol wedi arwain at hysbysu’r ceisydd o dan adran 63 bod y ddyletswydd yn ddyledus i’r ceisydd.

(4)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi tynnu ei gais yn ôl.

(5)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd yn methu â chydweithredu â’r awdurdod mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon fel y maent yn gymwys i’r ceisydd, a hynny mewn modd afresymol.

Atgyfeirio at awdurdod tai lleol arall

80Atgyfeirio achos at awdurdod tai lleol arall

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—

(a)awdurdod tai lleol yn ystyried bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio at awdurdod tai lleol arall (pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) wedi eu bodloni (gweler is-adran (3)), ac

(b)y byddai’r awdurdod tai lleol, os nad yw’r achos yn cael ei atgyfeirio, yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn adran 73 mewn perthynas â cheisydd sydd mewn angen blaenoriaethol am lety ac yn ddigartref yn anfwriadol (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref).

(2)Caiff yr awdurdod tai lleol hysbysu’r awdurdod arall am ei farn bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio wedi eu bodloni mewn perthynas â’r ceisydd.

(3)Mae’r amodau ar gyfer atgyfeirio’r achos i awdurdod tai lleol arall (pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) wedi eu bodloni—

(a)os nad oes gan y ceisydd nac unrhyw berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd gysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod y gwneir y cais iddo,

(b)os oes gan y ceisydd neu berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd gysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod arall hwnnw,

(c)os na fydd y ceisydd nac unrhyw berson y gellid disgwyl yn resymol iddo breswylio gyda’r ceisydd yn wynebu’r perygl o camdriniaeth ddomestig yn yr ardal arall honno.

(4)Ond nid yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio a grybwyllir yn is-adran (3) yn cael eu bodloni —

(a)os yw’r ceisydd neu unrhyw berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd wedi dioddef camdriniaeth (ac eithrio camdriniaeth domestig) yn ardal yr awdurdod arall, a

(b)mae’n debygol y bydd dychweliad y dioddefwr i’r ardal honno yn arwain at ragor o gamdriniaeth o natur debyg yn ei erbyn.

(5)Mae’r cwestiwn o pa un a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio achos wedi eu bodloni i’w penderfynu—

(a)drwy gytundeb rhwng yr awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod sy’n cael ei hysbysu, neu

(b)yn niffyg cytundeb, yn unol â’r cyfryw drefniadau—

(i)ag y caiff Gweinidogion Cymru eu cyfarwyddo drwy orchymyn, pan fo’r ddau awdurdod yng Nghymru, neu

(ii)ag y caiff Gweinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol eu cyfarwyddo ar y cyd drwy orchymyn, pan fo’r awdurdod sy’n hysbysu yng Nhgymru a’r awdurdod sy’n cael ei hysbysu yn Lloegr.

(6)Caiff gorchymyn o dan is-adran (5) gyfarwyddo mai’r trefniadau fydd—

(a)y trefniadau hynny y cytunwyd arnynt gan unrhyw awdurdodau perthnasol neu gymdeithasau o awdurdodau perthnasol, neu

(b)yn niffyg cytundeb o’r fath, y cyfryw drefniadau ag yr ymddengys i Weinidogion Cymru neu, yn achos gorchymyn dan is-adran (5)(b)(ii), i Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol eu bod yn addas, ar ôl ymgynghori â’r cyfryw gymdeithasau sy’n cynrychioli awdurdodau perthnasol, a’r cyfryw bersonau eraill, sy’n briodol yn eu barn hwy.

(7)Yn is-adran (6), ystyr “awdurdod perthnasol” yw awdurdod tai lleol neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol; ac mae’n cynnwys, i’r graddau fod yr is-adran honno yn gymwys i drefniadau dan is-adran (5)(b)(ii), awdurdodau o’r fath yng Nghymru a Lloegr.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru bennu drwy orchymyn yr amgylchiadau eraill hynny pan fo’r amodau ar gyfer atgyfeirio’r achos at awdurdod lleol arall wedi eu bodloni a phan nad ydynt wedi eu bodloni.

81Cysylltiad lleol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Bennod hon.

(2)Mae gan berson gysylltiad lleol ag ardal awdurdod tai lleol yng Nghymru neu yn Lloegr os oes gan y person gysylltiad â hi—

(a)gan fod y person yn preswylio yno fel arfer, neu wedi gwneud hynny yn y gorffennol, a bod y preswyliad hwnnw o ddewis y person ei hun,

(b)gan fod y person yn cael ei gyflogi yno,

(c)o ganlyniad i gysylltiadau teuluol, neu

(d)o ganlyniad i amgylchiadau neilltuol.

(3)Nid yw preswyliad mewn ardal o ddewis person ei hun os yw’r person, neu berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r person hwnnw, yn dod yn breswyliwr yno gan fod y person yn cael ei gadw o dan awdurdod deddfiad.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru bennu drwy orchymyn yr amgylchiadau hynny—

(a)pan nad yw person i gael ei drin fel person a gyflogir mewn ardal, neu

(b)pan nad yw preswyliad mewn ardal i gael ei drin fel preswyliad o ddewis person ei hun.

(5)Mae gan berson gysylltiad lleol ag ardal awdurdod tai lleol yng Nghymru neu yn Lloegr os darparwyd llety i’r person yn yr ardal honno (ar unrhyw adeg) o dan adran 95 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (cefnogaeth i geiswyr lloches).

(6)Ond nid yw is-adran (5) yn gymwys—

(a)i ddarparu llety i berson yn ardal awdurdod tai lleol os darparwyd llety i’r person yn ardal awdurdod tai lleol arall wedi hynny o dan adran 95 o’r Ddeddf honno, neu

(b)i ddarparu llety mewn canolfan letya yn rhinwedd adran 22 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002 (defnyddio canolfannau lletya ar gyfer cefnogaeth adran 95).

82Dyletswyddau i geisydd y mae ei achos yn cael ei ystyried ar gyfer ei atgyfeirio neu’n cael ei atgyfeirio

(1)Pan fo awdurdod tai lleol yn hysbysu ceisydd yn unol ag adran 84 ei fod yn bwriadu hysbysu awdurdod tai lleol arall yng Nghymru neu Loegr ei fod o’r farn bod yr amodau wedi eu diwallu ar gyfer atgyfeirio achos y ceisydd at yr awdurdod arall hwnnw, neu ei fod wedi gwneud hynny—

(a)mae’n peidio â bod yn ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd o dan adran 68 (dyletswydd interim i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref mewn angen blaenoriaethol), aa

(b)nid yw’n ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd o dan adran 73 ( dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref),

ond rhaid iddo sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu hyd nes i’r ceisydd gael ei hysbysu am y penderfyniad ynghylch pa un a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio’r achos wedi eu bodloni.

(2)Pan fydd penderfyniad wedi ei wneud ynghylch pa un a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio wedi eu bodloni, rhaid i’r awdurdod sy’n hysbysu roi gwybod i’r ceisydd yn unol ag adran 84.

(3)Os penderfynir nad yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio yn cael eu bodloni, mae’r awdurdod sy’n hysbysu yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref).

(4)Os penderfynir bod yr amodau hynny wedi eu bodloni a bod yr awdurdod sy’n cael ei hysbysu yn awdurdod yng Nghymru, mae’r awdurdod sy’n cael ei hysbysu yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref); o ran y ddarpariaeth ar gyfer achosion pan benderfynir bod yr amodau hynny yn cael eu bodloni a bod yr awdurdod sy’n cael ei hysbysu yn awdurdod yn Lloegr, gweler adran 201A o Ddeddf Tai 1996 (achosion a atgyfeirir gan awdurdod tai lleol yng Nghymru).

(5)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn dod i ben fel y darperir ar ei gyfer yn yr is-adran honno hyd yn oed os yw’r ceisydd yn gofyn am adolygiad o benderfyniad yr awdurdod (gweler adran 85).

(6)Caiff yr awdurdod sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu tra bo’r penderfyniad ar adolygiad yn yr arfaeth.

(7)Os nad yw’r hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi i geisydd o dan yr adran hon yn dod i law’r ceisydd, mae i’w drin fel pe bai wedi ei roi os yw ar gael yn swyddfa’r awdurdod am gyfnod rhesymol i’w gasglu gan y ceisydd neu ar ran y ceisydd.

83Achosion a atgyfeirir gan awdurdod tai lleol yn Lloegr

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol yn Lloegr wedi atgyfeirio cais at awdurdod tai lleol yng Nghymru o dan adran 198(1) o Ddeddf Tai 1996 (atgyfeirio achos at awdurdod tai lleol arall).

(2)Os penderfynir bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio’r achos yn yr adran honno yn cael eu bodloni mae’r awdurdod sy’n cael ei hysbysu yn ddarostyngedig i’r dyletswyddau canlynol mewn perthynas â’r person y mae ei achos yn cael ei atgyfeirio—

(a)adran 68 ( dyletswydd interim i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref mewn angen blaenoriaethol);

(b)adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref);

ar gyfer darpariaeth ynghylch achosion pan benderfynir nad yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio yn cael eu bodloni, gweler adran 200 o Ddeddf Tai 1996 (dyletswyddau i geisydd y mae ei achos yn cael ei ystyried ar gyfer ei atgyfeirio neu’n cael ei atgyfeirio).

(3)O ganlyniad, mae’r cyfeiriadau yn y Bennod hon at geisydd yn cynnwys cyfeiriad at berson y mae’r dyletswyddau a grybwyllir yn is-adran (2) yn ddyledus iddo yn rhinwedd yr adran hon.

Hysbysiad

84Hysbysiad bod dyletswyddau wedi dod i ben

(1)Pan fo awdurdod tai lleol yn penderfynu bod ei ddyletswydd i geisydd o dan adran 66, 68, 73 neu 75 wedi dod i ben (gan gynnwys pan fo’r awdurdod wedi atgyfeirio achos y ceisydd at awdurdod arall neu wedi penderfynu bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio yn cael eu bodloni), rhaid iddo hysbysu’r ceisydd—

(a)nad yw bellach yn ystyried ei fod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd berthnasol,

(b)y rhesymau pam ei fod yn ystyried bod y ddyletswydd wedi dod i ben,

(c)am yr hawl i ofyn am adolygiad, a

(d)am y cyfnod amser y mae’n rhaid cyflwyno cais o’r fath ynddo.

(2)Pan fo hysbysiad o dan is-adran (1) yn ymwneud â’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 74(2) neu (3), rhaid iddo gynnwys hysbysiad am y camau a gymerwyd gan yr awdurdod tai lleol i gynorthwyo i sicrhau y byddai llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu.

(3)Rhaid i hysbysiad o dan yr adran hon fod ar ffurf ysgrifenedig.

(4)Pan nad yw ceisydd yn derbyn hysbysiad, caniateir trin ceisydd fel pe bai wedi ei hysbysu o dan yr adran hon os yw ar gael yn swyddfa’r awdurdod am gyfnod rhesymol i’w gasglu gan y ceisydd neu ar ran y ceisydd.

Hawl i adolygiad ac apêl

85Hawl i ofyn am adolygiad

(1)Mae gan geisydd yr hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniadau canlynol—

(a)penderfyniad awdurdod tai lleol ynghylch chymhwystra’r ceisydd ar gyfer cymorth;

(b)penderfyniad awdurdod tai lleol nad oes dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66, 68, 73, neu 75 (dyletswyddau i geiswyr sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd);

(c)penderfyniad awdurdod tai lleol bod dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66, 68, 73, neu 75 wedi dod i ben (gan gynnwys pan fo’r awdurdod wedi atgyfeirio achos y ceisydd at awdurdod arall neu wedi penderfynu bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio wedi eu bodloni).

(2)Pan fo’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 73 wedi dod i ben o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 74(2) neu (3), mae gan geisydd yr hawl i ofyn am adolygiad o pa un a gafodd camau rhesymol eu cymryd yn ystod y cyfnod yr oedd y ddyletswydd o dan adran 73 yn ddyledus i gynorthwyo i sicrhau y byddai llety addas ar gael iddo ei feddiannu ai peidio.

(3)Caiff ceisydd y cynigir llety iddo wrth gyflawni unrhyw ddyletswydd o dan y Bennod hon, neu mewn perthynas â hi, ofyn am adolygiad o addasrwydd y llety a gynigir i’r ceisydd (pa un a yw wedi derbyn y cynnig ai peidio).

(4)Nid oes hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad a wnaed mewn adolygiad cynharach.

(5)Rhaid gwneud cais am adolygiad cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau (neu’r cyfryw gyfnod hirach ag y caiff yr awdurdod ei ganiatáu yn ysgrifenedig) gan ddechrau gyda’r diwrnod yr hysbysir y ceisydd am benderfyniad yr awdurdod.

(6)Pan gyflwynir cais iddynt, rhaid i’r awdurdod neu’r awdurdodau o dan sylw adolygu eu penderfyniad.

86Gweithdrefn ar gyfer adolygiad

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ynghylch y weithdrefn i’w dilyn mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 85.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud y canlynol, er enghraifft,—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r penderfyniad ar adolygiad gael ei wneud gan berson ar y lefel briodol nad oedd yn ymwneud â’r penderfyniad gwreiddiol, a

(b)darparu ar gyfer yr amgylchiadau lle bydd y ceisydd â’r hawl i wrandawiad llafar, ac a ganiateir yr hawl i’r ceisydd gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad o’r fath, a chan bwy, a

(c)darparu ar gyfer y cyfnod y mae’n rhaid cynnal yr adolygiad a rhoi hysbysiad ynghylch y penderfyniad ynddo.

(3)Rhaid i’r awdurdod perthnasol, neu yn ôl y digwydd y naill neu’r llall o’r awdurdodau perthnasol, hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad ynghylch yr adolygiad.

(4)Rhaid i’r awdurdod hefyd hysbysu’r ceisydd am y rhesymau dros y penderfyniad, os yw’r penderfyniad—

(a)yn cadarnhau’r penderfyniad gwreiddiol ar unrhyw fater yn groes i fuddiannau’r ceisydd, neu

(b)yn cadarnhau y cafodd camau rhesymol eu cymryd.

(5)Pa fodd bynnag, rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd am ei hawl i apelio i’r llys sirol ar bwynt cyfreithiol, ac am y cyfnod y mae’n rhaid cyflwyno apêl o’r fath ynddo (gweler adran 88).

(6)Ni chaniateir trin hysbysiad am y penderfyniad fel un sydd wedi ei roi oni chydymffurfir ag is-adran (5), a phan fo hynny’n gymwys is-adran (4), a hyd nes y gwneir hynny.

(7)Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi i berson o dan yr adran hon gael ei roi yn ysgrifenedig ac, os nad yw’n dod i law’r person hwnnw, gael ei drin fel pe bai wedi ei roi os yw ar gael yn swyddfa’r awdurdod am gyfnod rhesymol i’w gasglu gan y person neu ar ran y person.

87Effaith penderfyniad mewn adolygiad neu apêl na chafodd camau rhesymol eu cymryd

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan benderfynir mewn adolygiad o dan adran 85(2) neu mewn apêl yn erbyn penderfyniad o dan yr adran honno na chafodd camau rhesymol eu cymryd.

(2)Mae’r ddyletswydd yn adran 73 yn gymwys i’r ceisydd eto, gyda’r addasiad bod y cyfnod o 56 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-adran (2) o adran 74 i’w ddehongli fel bod y cyfnod hwnnw’n dechrau ar y dyddiad y mae’r awdurdod yn hysbysu’r ceisydd am ei benderfyniad mewn adolygiad o dan adran 85(2) neu, mewn apêl, y cyfryw ddyddiad ag y caiff y llys ei orchymyn.

88Hawl i apelio i lys sirol ar bwynt cyfreithiol

(1)Caiff ceisydd sydd wedi gofyn am adolygiad o dan adran 85 apelio i’r llys sirol ar unrhyw bwynt cyfreithiol sy’n codi o’r penderfyniad neu, yn ôl y digwydd, y penderfyniad gwreiddiol neu gwestiwn ynghylch a gymerwyd pob cam rhesymol—

(a)os yw’r ceisydd yn anfodlon â’r penderfyniad yn yr adolygiad, neu

(b)os nad yw’r ceisydd yn cael ei hysbysu am y penderfyniad yn yr adolygiad o fewn y cyfnod a ragnodir o dan adran 86.

(2)Rhaid cyflwyno apêl o fewn 21 o ddiwrnodau i hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad neu, yn ôl y digwydd, i’r diwrnod y dylai’r ceisydd fod wedi cael ei hysbysu am benderfyniad mewn adolygiad.

(3)Caiff y llys ganiatáu cyflwyno apêl ar ôl diwedd y cyfnod a ganiateir gan is-adran (2), ond dim ond os yw’n fodlon—

(a)pan ofynnir am ganiatâd cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod rheswm da pam nad yw’r ceisydd yn gallu cyflwyno’r apêl mewn pryd, neu

(b)pan ofynnir am ganiatâd ar ôl y cyfnod hwnnw, bod rheswm da dros fethiant y ceisydd i gyflwyno’r apêl mewn pryd ac am unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd.

(4)Mewn apêl caiff y llys wneud y cyfryw orchymyn i gadarnhau, i ddiddymu neu i amrywio’r penderfyniad ag y gwêl yn dda.

(5)Pan oedd yr awdurdod o dan ddyletswydd o dan adran 68, 75 neu 82 i sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, caiff sicrhau bod llety addas ar gael yn y fath fodd—

(a)yn ystod y cyfnod ar gyfer apelio o dan yr adran hon yn erbyn penderfyniad yr awdurdod, a

(b)os cyflwynir apêl, hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr apêl (ac unrhyw apêl bellach).

89Apelau yn erbyn gwrthodiad i letya wrth aros am apêl

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gan geisydd yr hawl i apelio i’r llys sirol o dan adran 88.

(2)Caiff ceisydd apelio i’r llys sirol yn erbyn penderfyniad yr awdurdod—

(a)i beidio ag arfer ei bŵer o dan adran 88(5) (“y pŵer adran 88(5)”) yn achos y ceisydd,

(b)i arfer y pŵer hwnnw am gyfnod cyfyngedig sy’n dod i ben cyn penderfyniad terfynol y llys sirol ynghylch apêl y ceisydd o dan adran 88(1) (“y brif apêl”), neu

(c)i roi’r gorau i arfer y pŵer hwnnw cyn y penderfyniad terfynol.

(3)Ni chaniateir cyflwyno apêl o dan yr adran hon wedi i’r llys sirol wneud ei benderfyniad terfynol ar y brif apêl.

(4)Mewn apêl o dan yr adran hon—

(a)caiff y llys orchymyn yr awdurdod i sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu hyd nes y penderfynir ar yr apêl (neu hyd y cyfryw amser cynharach ag y caiff y llys ei bennu), a

(b)rhaid i’r llys gadarnhau neu ddiddymu’r penderfyniad y cyflwynwyd apêl yn ei erbyn.

(5)Wrth ystyried pa un ai i gadarnhau neu i ddiddymu’r penderfyniad rhaid i’r llys gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysa’r Uchel Lys mewn cais am adolygiad barnwrol.

(6)Os diddyma’r llys y penderfyniad caiff orchymyn yr awdurdod i arfer y pŵer adran 88(5) yn achos y ceisydd am y cyfryw gyfnod ag y ceir ei bennu yn y gorchymyn.

(7)Yn achos gorchymyn o dan is-adran (6)—

(a)caniateir gwneud gorchymyn dim ond os yw’r llys yn fodlon y byddai methu ag arfer y pŵer adran 88(5) yn unol â’r gorchymyn yn rhagfarnu yn sylweddol allu’r ceisydd i fwrw ymlaen â’r brif apêl;

(b)ni chaiff gorchymyn bennu unrhyw gyfnod sy’n dod i ben ar ôl i’r llys sirol wneud ei benderfyniad terfynol ar y brif apêl.

Darpariaethau atodol

90Ffioedd

Caiff awdurdod tai lleol ei gwneud yn ofynnol i berson y mae’n arfer ei swyddogaethau mewn perthynas ag ef o dan y Bennod hon—

(a)talu ffioedd rhesymol a benderfynir gan yr awdurdod mewn perthynas â llety y mae’n ei sicrhau i’r person ei feddiannu (naill ai drwy sicrhau ei fod ar gael ei hun neu fel arall), neu

(b)talu swm rhesymol a benderfynir gan yr awdurdod mewn perthynas â symiau sy’n daladwy ganddo ar gyfer llety y mae person arall yn sicrhau ei fod ar gael.

91Lleoli y tu allan i’r ardal

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu yn ei ardal, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol.

(2)Os yw’r awdurdod yn sicrhau bod llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu y tu allan i’w ardal yng Nghymru neu yn Lloegr, rhaid iddo roi hysbysiad i’r awdurdod tai lleol (pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) y mae’r llety wedi ei leoli yn ei ardal.

(3)Rhaid i’r hysbysiad nodi—

(a)enw’r ceisydd,

(b)nifer y personau eraill sy’n preswylio fel arfer gyda’r ceisydd fel aelod o’i deulu neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt breswylio gyda’r ceisydd, a disgrifiad o’r personau hynny,

(c)cyfeiriad y llety,

(d)y dyddiad y daeth y llety ar gael i’r ceisydd, ac

(e)pa swyddogaeth o dan y Bennod hon yr oedd yr awdurdod yn ei chyflawni wrth sicrhau bod y llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu.

(4)Rhaid i’r hysbysiad fod ar ffurf ysgrifenedig, a rhaid ei roi cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau gyda’r diwrnod y daeth y llety ar gael i’r ceisydd.

92Llety interim: trefniadau â landlord preifat

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol, wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan adran 68, 82 neu 88(5) (llety interim), yn gwneud trefniadau â landlord preifat i ddarparu llety.

(2)Ni all tenantiaeth a roddir i’r ceisydd o dan y trefniadau fod yn denantiaeth sicr cyn diwedd y cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar—

(a)y dyddiad yr hysbyswyd y ceisydd am benderfyniad yr awdurdod o dan adran 63(1) neu 80(5), neu

(b)os oes adolygiad o’r penderfyniad hwnnw o dan adran 85 neu apêl i’r llys o dan adran 88, y dyddiad yr hysbysir y ceisydd am y penderfyniad mewn adolygiad neu’r dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl,

oni bai bod y tenant, cyn neu yn ystod y cyfnod hwnnw, yn cael ei hysbysu gan y landlord (neu yn achos landlordiaid ar y cyd, gan o leiaf un ohonynt) bod y denantiaeth i gael ei hystyried yn denantiaeth fyrddaliol sicr neu’n denantiaeth sicr heblaw tenantiaeth fyrddaliol sicr.

93Gwarchod eiddo

(1)Pan fo awdurdod tai lleol wedi dod yn ddarostyngedig i ddyletswydd mewn perthynas â cheisydd fel a ddisgrifir yn is-adran (2), rhaid iddo gymryd camau rhesymol i atal colli eiddo personol y ceisydd neu i atal neu liniaru niwed iddo os oes gan yr awdurdod reswm i gredu—

(a)bod perygl y gallai’r eiddo gael ei golli neu ei niweidio o ganlyniad i anallu’r ceisydd i’w warchod neu i ymdrin ag ef, a

(b)nad oes unrhyw drefniadau addas eraill wedi eu gwneud neu’n cael eu gwneud.

(2)Y dyletswyddau mewn perthynas â cheisydd yw—

(3)Pan fo awdurdod tai lleol wedi dod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn is-adran (1), mae’n parhau i fod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd honno hyd yn oed os yw’r ddyletswydd mewn perthynas â’r ceisydd fel a ddisgrifir yn is-adran (2) yn dod i ben.

(4)Mae dyletswydd awdurdod tai lleol o dan is-adran (1) yn ddarostyngedig i’r cyfryw amodau ag y mae’n eu hystyried yn briodol yn yr achos neilltuol, a gaiff gynnwys amodau ynghylch—

(a)yr awdurdod yn codi ac yn adennill ffioedd rhesymol am y camau a gymerir, neu

(b)yr awdurdod yn gwaredu, o dan y cyfryw amgylchiadau y gellir eu pennu, eiddo y cymerir camau mewn perthynas ag ef.

(5)Caiff awdurdod tai lleol gymryd unrhyw gamau y mae’n eu hystyried yn rhesymol at ddiben gwarchod eiddo personol ceisydd sy’n gymwys i gael cymorth neu i atal neu liniaru niwed iddo os oes gan yr awdurdod reswm i gredu—

(a)bod perygl o golli’r eiddo, neu niwed i’r eiddo, o ganlyniad i anallu’r ceisydd i’w warchod neu i ymdrin ag ef, a

(b)nad oes unrhyw drefniadau addas eraill wedi eu gwneud neu’n cael eu gwneud.

(6)Mae’r cyfeiriadau yn yr adran hon at eiddo personol y ceisydd yn cynnwys eiddo personol unrhyw berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd.

94Gwarchod eiddo: darpariaethau atodol

(1)At ddibenion adran 93 caiff yr awdurdod—

(a)mynd, ar bob adeg resymol, i unrhyw fangre sy’n breswylfa arferol i’r ceisydd neu a oedd yn breswylfa arferol i’r ceisydd ddiwethaf, a

(b)ymdrin ag unrhyw eiddo personol gan y ceisydd mewn unrhyw fodd sy’n rhesymol angenrheidiol, yn arbennig drwy ei storio neu drefnu iddo gael ei storio.

(2)Pan fo awdurdod lleol yn bwriadu arfer y pŵer o dan is-adran (1)(a), rhaid i’r swyddog y mae’n ei awdurdodi i wneud hynny ddarparu, os gofynnir iddo wneud hynny, ddogfennaeth ddilys yn nodi’r awdurdodiad i wneud hynny.

(3)Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn rhwystro arfer y pŵer o dan is-adran (1)(a) yn cyflawni trosedd a yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(4)Pan fo’r ceisydd yn gofyn i’r awdurdod symud ei eiddo i leoliad penodol a enwebir gan y ceisydd—

(a)caiff yr awdurdod, os ymddengys iddo bod y cais yn un rhesymol, gyflawni ei gyfrifoldebau o dan adran 93 drwy wneud yr hyn y mae’r ceisydd yn gofyn amdano, a

(b)ar ôl gwneud hynny, nid oes ganddo unrhyw ddyletswydd bellach na phŵer pellach i gymryd camau o dan yr adran honno mewn perthynas â’r eiddo hwnnw.

(5)Os gwneir cais o’r fath, rhaid i’r awdurdod hysbysu’r ceisydd cyn cydymffurfio â’r cais am ganlyniadau gwneud hynny.

(6)Os na wneir unrhyw gais o’r fath (neu, os caiff ei wneud, nas gweithredir arno) mae unrhyw ddyletswydd neu bŵer ar ran yr awdurdod i gymryd camau o dan adran 93 yn dod i ben pan fydd o’r farn nad oes unrhyw reswm i gredu bellach bod yna berygl o golli neu niweidio eiddo personol person o ganlyniad i’w anallu i’w warchod neu i ymdrin ag ef.

(7)Ond caniateir cadw mewn storfa unrhyw eiddo sy’n cael ei storio yn rhinwedd y ffaith bod yr awdurdod wedi cymryd y cyfryw gamau ac mae unrhyw amodau y’i cymerwyd i storfa ar eu sail yn parhau i gael effaith, gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol.

(8)Pan fo’r awdurdod—

(a)yn peidio â bod yn ddarostyngedig i ddyletswydd i gymryd camau o dan adran 93 mewn perthynas ag eiddo ceisydd, neu

(b)yn peidio â bod â’r pwerau i gymryd y cyfryw gamau, ar ôl cymryd y cyfryw gamau yn flaenorol,

rhaid iddo hysbysu’r ceisydd am y ffaith honno a’r rheswm dros hynny.

(9)Rhaid rhoi’r hysbysiad i’r ceisydd—

(a)drwy ei drosglwyddo i’r ceisydd, neu

(b)ei adael yng nghyfeiriad hysbys diwethaf y ceisydd, neu ei anfon yno.

(10)Mae’r cyfeiriadau yn yr adran hon at eiddo personol y ceisydd yn cynnwys eiddo personol unrhyw berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd.

95Cydweithredu

(1)Rhaid i gyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru wneud trefniadau i hybu cydweithredu rhwng swyddogion yr awdurdod sy’n arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol a’r rhai hynny sy’n arfer ei swyddogaethau fel yr awdurdod tai lleol gyda’r nod o gyflawni’r amcanion canlynol yn ei ardal—

(a)atal digartrefedd,

(b)bod llety addas ar gael neu y bydd ar gael ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref,

(c)bod cefnogaeth foddhaol ar gael i bobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref, a

(d)arfer ei swyddogaethau yn effeithiol o dan y Rhan hon.

(2)Os yw awdurdod tai lleol yn gofyn am gydweithrediad person a grybwyllir yn is-adran (5) wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r person ei hun, neu

(b)yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau’r person.

(3)Os yw awdurdod tai lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (5) ddarparu gwybodaeth iddo sy’n ofynnol ganddo er mwyn arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r person ei hun, neu

(b)yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau’r person.

(4)Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (2) neu (3) roi rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r awdurdod tai lleol a wnaeth y cais.

(5)Y personau (pa un a ydynt yng Nghymru neu yn Lloegr) yw—

(a)awdurdod tai lleol;

(b)awdurdod gwasanaethau cymdeithasol;

(c)landlord cymdeithasol cofrestredig;

(d)corfforaeth tref newydd;

(e)darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig;

(f)ymddiriedolaeth gweithredu tai.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (5) drwy orchymyn er mwyn hepgor neu ychwanegu person, neu ddisgrifiad o berson.

(7)Ni chaiff gorchymyn o dan is-adran (6) ychwanegu un neu ragor o Weinidogion y Goron.

(8)Yn yr adran hon—

96Cydweithredu mewn achosion penodol yn ymwneud â phlant

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gan awdurdod tai lleol reswm i gredu y gallai ceisydd y mae person o dan 18 oed yn preswylio gydag ef fel arfer, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef—

(a)bod yn anghymwys i gael cymorth,

(b)bod yn ddigartref ac nad yw dyletswydd o dan adran 68, 73 neu 75 yn debygol o fod yn gymwys i’r ceisydd, neu

(c)bod o dan fygythiad o ddigartrefedd ac nad yw dyletswydd o dan adran 66 yn debygol o fod yn gymwys i’r ceisydd.

(2)Rhaid i awdurdod tai lleol wneud trefniadau i sicrhau—

(a)bod y ceisydd yn cael ei wahodd i gydsynio i atgyfeirio’r ffeithiau hanfodol am ei achos i’r adran gwasanaethau cymdeithasol, a

(b)os yw’r ceisydd wedi rhoi’r cydsyniad hwnnw, bod yr adran gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei hysbysu am y ffeithiau hynny ynghyd â phenderfyniad dilynol yr awdurdod mewn perthynas â’i gais.

(3)Nid oes unrhyw beth yn is-adran (2) yn effeithio ar unrhyw bŵer ar wahân i’r adran hon i ddatgelu gwybodaeth sy’n ymdrin ag achos y ceisydd i’r adran gwasanaethau cymdeithasol heb gydsyniad y ceisydd.

(4)Rhaid i gyngor sir neu fwrdeistref sirol wneud trefniadau i sicrhau, pan fo’n penderfynu fel awdurdod tai lleol bod ceisydd yn anghymwys i gael cymorth, wedi dod yn ddigartref yn fwriadol neu wedi dod o dan fygythiad o ddigartrefedd yn fwriadol, fod ei adran dai yn rhoi’r cyfryw gyngor a chynhorthwy i’r adran gwasanaethau cymdeithasol ag y caiff yr adran gwasanaethau cymdeithasol ofyn yn rhesymol amdanynt.

(5)Yn yr adran hon, mewn perthynas â chyngor sir neu fwrdeistref sirol—

Cyffredinol

97Datganiadau anwir, celu gwybodaeth a methiant i ddatgelu newid mewn amgylchiadau

(1)Mae’n drosedd i berson, gyda’r bwriad o gymell awdurdod tai lleol i gredu mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon bod y person neu berson arall â’r hawl i lety neu gynhorthwy yn unol â darpariaethau’r Bennod hon, neu â’r hawl i lety neu gynhorthwy o ddisgrifiad penodol—

(a)gwneud datganiad sy’n anwir mewn unrhyw fanylyn perthnasol, yn fwriadol neu’n ddi-hid, neu

(b)celu yn fwriadol wybodaeth y mae’r awdurdod wedi ei gwneud yn rhesymol ofynnol iddo ei rhoi mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau hynny.

(2)Os oes unrhyw newid yn y ffeithiau sy’n berthnasol i’r achos, a hynny cyn i geisydd dderbyn hysbysiad am benderfyniad yr awdurdod tai lleol am y cais, rhaid i’r ceisydd hysbysu’r awdurdod cyn gynted â phosibl.

(3)Rhaid i’r awdurdod egluro i bob ceisydd, mewn iaith arferol, y ddyletswydd a osodir gan is-adran (2) ac effaith is-adran (4).

(4)Mae person sy’n methu â chydymffurfio ag is-adran (2) ar ôl derbyn yr esboniad sy'n ofynnol gan is-adran (3) yn cyflawni trosedd.

(5)Mewn achos yn erbyn person am drosedd a gyflawnwyd o dan is-adran (4) mae’r ffaith bod gan y person esgus rhesymol am fethu â chydymffurfio yn amddiffyniad.

(6)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

98Canllawiau

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau yn ymwneud â digartrefedd rhaid i gyngor sir neu fwrdeistref sirol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae is-adran (1) yn gymwys mewn perthynas â swyddogaethau o dan y Rhan hon ac unrhyw ddeddfiad arall.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)rhoi canllawiau naill ai yn gyffredinol neu i awdurdodau o ddisgrifiadau penodedig;

(b)diwygio’r canllawiau drwy roi canllawiau pellach o dan y Rhan hon;

(c)tynnu’r canllawiau yn ôl drwy roi canllawiau pellach o dan y Rhan hon neu drwy hysbysiad.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau neu hysbysiad o dan y Rhan hon.

99Dehongli’r Bennod hon a mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio

Yn y Bennod hon—

100Diwygiadau canlyniadol

Mae Rhan 1 o Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau canlyniadol sy’n berthnasol i’r Rhan hon.

RHAN 3SIPSIWN A THEITHWYR

Cwrdd ag anghenion llety

101Asesu anghenion llety

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol, ym mhob cyfnod adolygu, gynnal asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn ei ardal neu sy’n cyrchu yno.

(2)Wrth gynnal asesiad o dan is-adran (1) rhaid i awdurdod tai lleol ymgynghori â’r cyfryw bobl sy’n briodol yn ei farn ef.

(3)Yn is-adran (1), ystyr “cyfnod adolygu” yw—

(a)y cyfnod hwnnw o flwyddyn sy’n dechrau pan ddaw’r adran hon i rym, a

(b)pob cyfnod dilynol o 5 mlynedd.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (3)(b) drwy orchymyn.

102Adroddiad yn dilyn asesiad

(1)Ar ôl cynnal asesiad rhaid i awdurdod tai lleol baratoi adroddiad sydd—

(a)yn rhoi manylion ynghylch y modd y cynhaliwyd yr asesiad;

(b)yn cynnwys crynodeb o—

(i)yr ymgynghoriad a gynhaliodd mewn cysylltiad â’r asesiad, a

(ii)yr ymatebion (os y’u cafwyd) i’r ymgynghoriad hwnnw;

(c)yn rhoi manylion ynghylch yr anghenion llety a nodwyd gan yr asesiad.

(2)Rhaid i awdurdod tai lleol gyflwyno’r adroddiad i Weinidogion Cymru er mwyn iddynt gymeradwyo asesiad yr awdurdod.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cymeradwyo’r asesiad fel y’i cyflwynwyd;

(b)cymeradwyo’r asesiad gydag addasiadau;

(c)gwrthod yr asesiad.

(4)Os bydd Gweinidogion Cymru yn gwrthod yr asesiad, rhaid i’r awdurdod tai lleol—

(a)diwygio ac ailgyflwyno ei asesiad i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (3); neu

(b)cynnal asesiad arall (yn yr achos hwn bydd adran 101(2) a’r adran hon yn gymwys eto, fel pe bai’r asesiad yn cael ei gynnal o dan adran 101(1)).

(5)Rhaid i awdurdod tai lleol gyhoeddi asesiad a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

103Dyletswydd i gwrdd ag anghenion asesedig

(1)Os yw asesiad cymeradwy awdurdod tai lleol yn nodi anghenion o fewn ardal yr awdurdod mewn perthynas â darparu safleoedd lle mae modd gosod cartrefi symudol, rhaid i’r awdurdod arfer ei bwerau o dan adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (y pŵer i ddarparu safleoedd ar gyfer cartrefi symudol) i’r graddau y bo’n angenrheidiol i gwrdd â’r anghenion hynny.

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol ddarparu mewn safleoedd ar gyfer gosod cartrefi symudol, neu mewn cysylltiad â hwy, fannau gweithio a chyfleusterau ar gyfer cynnal gweithgareddau a wneir fel arfer gan Sipsiwn a Theithwyr.

(3)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at asesiad cymeradwy awdurdod tai lleol yn gyfeiriad at asesiad mwyaf diweddar yr awdurdod o anghenion llety a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 102(3).

104Methiant i gydymffurfio â’r ddyletswydd o dan adran 103

(1)Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod awdurdod tai leol wedi methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd a osodir gan adran 103 caniateir iddynt gyfarwyddo’r awdurdod i arfer ei bwerau o dan adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i’r graddau y bo’n angenrheidiol er mwyn cwrdd â’r anghenion a nodwyd yn ei asesiad cymeradwy.

(2)Cyn rhoi cyfarwyddyd rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdod tai lleol y byddai’r cyfarwyddyd yn berthnasol iddo.

(3)Rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo.

(4)Mae’r canlynol yn berthnasol i gyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd pellach;

(c)gellir ei orfodi gan orchymyn gorfodi ar gais gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan.

105Darparu gwybodaeth ar gais

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol ddarparu i Weinidogion Cymru y gyfryw wybodaeth (ar y cyfryw adegau) ag y cânt ei gwneud yn ofynnol mewn cysylltiad ag arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru arfer eu pwerau o dan yr adran hon yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achos neilltuol.

106Canllawiau

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)rhoi canllawiau naill ai yn gyffredinol neu i awdurdodau o ddisgrifiadau penodedig;

(b)diwygio’r canllawiau drwy roi canllawiau pellach o dan yr adran hon;

(c)tynnu’r canllawiau yn ôl drwy roi canllawiau pellach neu drwy hysbysiad.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau neu hysbysiad o dan yr adran hon.

107Dyletswyddau mewn perthynas â strategaethau tai

(1)Mae’r adran hon yn gymwys lle bo’n ofynnol o dan adran 87 of Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i awdurdod tai lleol fod â strategaeth mewn perthynas â chwrdd ag anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn ei ardal neu sy’n cyrchu yno.

(2)Rhaid i’r awdurdod tai lleol—

(a)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru wrth baratoi ei strategaeth;

(b)ystyried y strategaeth wrth arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n arferadwy heblaw fel awdurdod tai lleol).

Cyffredinol

108Dehongli

Yn y Rhan hon—

109Pŵer i ddiwygio’r diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio’r diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr yn adran 108 drwy—

(a)ychwanegu disgrifiad o bersonau;

(b)addasu disgrifiad o bersonau;

(c)dileu disgrifiad o bersonau.

(2)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon hefyd wneud ba bynnag ddiwygiadau i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 ag y bydd Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn angenrheidiol neu’n briodol o ganlyniad i newid i’r diffiniad a grybwyllir yn is-adran (1).

110Diwygiadau canlyniadol

Mae Rhan 2 o Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â’r Rhan hon.

RHAN 4SAFONAU AR GYFER TAI CYMDEITHASOL

Safonau ar gyfer tai a ddarperir gan awdurdodau tai lleol

111Safonau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru osod safonau i’w bodloni gan awdurdodau tai lleol mewn cysylltiad ag—

(a)ansawdd y llety a ddarperir gan awdurdodau tai lleol ar gyfer tai;

(b)rhent ar gyfer y cyfryw lety;

(c)ffioedd gwasanaeth ar gyfer y cyfryw lety.

(2)Caiff safonau a osodir o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol gydymffurfio â rheolau a bennir yn y safonau.

(3)Caiff rheolau am rent neu ffioedd gwasanaeth gynnwys, ymhlith pethau eraill, ddarpariaeth ar gyfer lefelau isaf neu lefelau uchaf—

(a)rhent neu ffioedd gwasanaeth,

(b)cynnydd neu ostyngiad mewn rhent neu ffioedd gwasanaeth.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)adolygu’r safonau drwy ddyroddi safonau pellach o dan yr adran hon;

(b)tynnu’r safonau yn ôl drwy ddyroddi safonau pellach o dan yr adran hon neu drwy hysbysiad.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi safonau neu hysbysiadau o dan yr adran hon.

112Canllawiau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru rhoi canllawiau—

(a)sy’n berthnasol i fater yr eir i’r afael ag ef mewn safon o dan adran 111, a

(b)yn ymhelaethu ar y safon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi sylw i’r canllawiau wrth ystyried a yw safonau wedi cael eu bodloni.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)adolygu’r canllawiau drwy roi canllawiau pellach o dan yr adran hon;

(b)tynnu’r canllawiau’n ôl drwy roi canllawiau pellach o dan yr adran hon neu drwy hysbysiad.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau neu hysbysiad o dan yr adran hon.

113Ymgynghori ar safonau a chanllawiau

Cyn gosod, adolygu neu dynnu’n ôl safonau o dan adran 111 neu ddyroddi, adolygu neu dynnu’n ôl ganllawiau o dan adran 112, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)un neu ragor o gyrff yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau awdurdodau tai lleol,

(b)un neu ragor o gyrff yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau tenantiaid, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

114Gwybodaeth am gydymffurfiad â safonau

Rhaid i awdurdod tai lleol ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol ganddynt mewn perthynas â chydymffurfiad yr awdurdod â safonau a osodir o dan adran 111.

115Pwerau mynediad

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan ymddengys i Weinidogion Cymru y gallai awdurdod tai lleol fod yn methu â chynnal a chadw neu atgyweirio unrhyw fangre yn unol â safonau a osodir o dan adran 111 neu ganllawiau a ddyroddir o dan adran 112.

(2)Caiff person a awdurdodir gan Weinidogion Cymru ar unrhyw adeg resymol, gan roi dim llai na 28 o ddiwrnodau o rybudd o’i fwriad i’r awdurdod tai lleol dan sylw, fynd i unrhyw fangre o’r fath at ddiben arolygu ac archwilio.

(3)Pan roddir y cyfryw rybudd i awdurdod tai lleol, rhaid i’r awdurdod roi dim llai na saith niwrnod o rybudd o’r arolwg a’r archwiliad arfaethedig i feddiannwr neu feddianwyr y fangre.

(4)Rhaid i awdurdodiad at ddibenion yr adran hon fod yn ysgrifenedig gan ddatgan y diben neu’r dibenion penodol dros awdurdodi mynediad a rhaid, os yw hynny’n ofynnol, ei ddangos ar gyfer ei archwilio gan y meddiannwr neu unrhyw un sy’n gweithredu ar ei ran.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru roi copi o unrhyw arolwg a gynhelir wrth arfer y pwerau a roddir gan yr adran hon i’r awdurdod tai lleol dan sylw.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod tai lleol dan sylw dalu y cyfryw swm y bydd Gweinidogion Cymru yn ei benderfynu tuag at gostau cynnal unrhyw arolwg o dan yr adran hon.

116Arfer pwerau ymyrryd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu—

(a)pa un a i arfer pŵer ymyrryd,

(b)pa bŵer ymyrryd i’w arfer, neu

(c)sut i arfer pŵer ymyrryd.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ystyried—

(a)a yw methiant neu fethiant tebygol i fodloni’r safon yn ddigwyddiad rheolaidd neu’n ddigwyddiad unigol, neu’n debygol o fod yn ddigwyddiad rheolaidd neu’n ddigwyddiad unigol;

(b)pa mor gyflym y mae angen mynd i’r afael â’r methiant, neu’r methiant tebygol i fodloni’r safonau.

(3)Yn is-adran (1), ystyr “pŵer ymyrryd” yw pŵer sy’n arferadwy o dan adrannau 117 i 127.

117Sail ar gyfer ymyrryd

At ddibenion y Rhan hon, y sail ar gyfer ymyrryd yw bod awdurdod tai lleol wedi methu, neu’n debygol o fethu â bodloni safon a osodir o dan adran 111 sy’n ymwneud ag ansawdd llety.

118Hysbysiad rhybuddio

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad rhybuddio i awdurdod tai lleol os ydynt wedi eu bodloni bod y sail ar gyfer ymyrryd yn bodoli mewn perthynas â’r awdurdod.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu pob un o’r canlynol yn yr hysbysiad rhybuddio—

(a)y rhesymau pam eu bod wedi eu bodloni bod y sail yn bodoli;

(b)y camau sy’n ofynnol i’r awdurdod eu cymryd er mwyn ymdrin â’r sail ar gyfer ymyrryd;

(c)y cyfnod pan fo angen i’r awdurdod gymryd y camau (“y cyfnod cydymffurfio”);

(d)y camau y maent yn bwriadu eu cymryd os yw’r awdurdod yn methu â chymryd y camau gofynnol.

119Pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd

(1)Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd o dan y Rhan hon os yw—

(a)Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad rhybuddio, a

(b)bod yr awdurdod tai lleol wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfiaeth, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio.

(2)Pan fo gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd, rhaid iddynt adolygu’r amgylchiadau sy’n arwain at y pŵer.

(3)Os daw Gweinidogion Cymru i’r casgliad yr ymdriniwyd â’r sail ar gyfer ymyrryd er boddhad iddynt neu na fyddai arfer eu pwerau o dan y Rhan hon yn briodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddynt hysbysu’r awdurdod tai lleol am eu casgliad yn ysgrifenedig.

(4)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd yn parhau mewn effaith hyd nes iddynt roi hysbysiad o dan is-adran (3).

(5)Pan fo gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd, nid ydynt wedi eu cyfyngu i gymryd y camau y dywedasant eu bod yn bwriadu eu cymryd mewn hysbysiad rhybuddio.

120Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol gael gwasanaethau cynghori

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod tai lleol i ymrwymo i gontract neu drefniant eraill â pherson penodedig, neu berson sy’n dod o fewn dosbarth penodedig, ar gyfer darparu gwasanaethau penodedig o natur gynghorol i’r awdurdod.

(3)Caiff y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu drefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.

(4)Yn yr adran hon ac adran 121 ystyr “penodedig” yw penodedig mewn cyfarwyddyd.

121Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i bersonau eraill gyflawni swyddogaethau ar ran yr awdurdod

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi’r cyfryw gyfarwyddiadau i’r awdurdod tai lleol neu unrhyw un o’i swyddogion fel y credant sy’n briodol er mwyn sicrhau y caiff y swyddogaethau y mae’r sail ar gyfer ymyrryd yn berthnasol iddynt eu cyflawni ar ran yr awdurdod gan berson a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gontract neu drefniant arall a wneir gan yr awdurdod â’r person penodedig gynnwys telerau ac amodau a bennir yn y cyfarwyddyd.

122Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru neu enwebai gyflawni swyddogaethau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y swyddogaethau y mae’r sail ar gyfer ymyrryd yn berthnasol iddynt i’w harfer gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebir ganddynt.

(3)Os caiff cyfarwyddyd ei wneud o dan is-adran (2), rhaid i’r awdurdod tai lleol gydymffurfio ag arweiniad Gweinidogion Cymru neu eu henwebai mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau.

123Pŵer i gyfarwyddo arfer swyddogaethau eraill awdurdod tai lleol

(1)Os y cred Gweinidogion Cymru ei fod yn hwylus, caiff cyfarwyddyd o dan adran 121 neu 122 fod yn berthnasol i gyflawni swyddogaethau yr awdurdod tai lleol yn ogystal â’r swyddogaethau y mae’r sail ar gyfer ymyrryd yn berthnasol iddynt.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi sylw (ymhlith pethau eraill) i ystyriaethau ariannol wrth benderfynu a yw’n hwylus y dylai cyfarwyddyd fod yn berthnasol i swyddogaethau’r awdurdod tai lleol heblaw swyddogaethau sy’n ymwneud â’r sail ar gyfer ymyrryd.

124Pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau a chymryd camau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn briodol er mwyn ymdrin â’r sail ar gyfer ymyrryd, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)rhoi cyfarwyddiadau i’r awdurdod tai lleol neu unrhyw un o’i swyddogion, neu

(b)cymryd unrhyw gamau eraill.

125Cyfarwyddiadau

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol, neu swyddog awdurdod, sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd neu arweiniad o dan y Rhan hon gydymffurfio ag ef.

(2)Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd neu arweiniad i arfer pŵer neu ddyletswydd sy’n amodol ar farn yr awdurdod neu un neu ragor o swyddogion yr awdurdod.

(3)Mae’r canlynol yn berthnasol i gyfarwyddyd o dan y Rhan hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach;

(c)gellir ei orfodi gan orchymyn gorfodi ar gais gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan.

126Dyletswydd i gydweithredu

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol roi i Weinidogion Cymru ac unrhyw berson a grybwyllir yn is-adran (2) gymaint o gymorth mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Rhan hon ag y gallant yn rhesymol ei roi.

(2)Y personau yw—

(a)unrhyw berson a awdurdodir at ddibenion yr adran hon gan Weinidogion Cymru;

(b)unrhyw berson sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau o dan y Rhan hon;

(c)unrhyw berson sy’n cynorthwyo—

(i)Gweinidogion Cymru, neu

(ii)person a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).

127Pwerau mynediad ac archwilio

(1)Mae gan berson sy’n dod o fewn is-adran (2) ar bob adeg resymol—

(a)hawl mynediad i fangre yr awdurdod tai lleol (heblaw annedd) dan sylw;

(b)hawl i archwilio, a chymryd copïau o unrhyw gofnodion neu ddogfennau eraill a gedwir gan yr awdurdod, ac unrhyw ddogfennau eraill sy’n cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r awdurdod, y mae’r person yn eu ystyried yn berthnasol i arfer ei swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Rhan hon.

(2)Mae’r personau canlynol yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 120 neu, pan fo’r cyfarwyddyd yn pennu dosbarth o bersonau, y person y mae’r awdurdod tai lleol yn ymrwymo i gontract neu drefniant eraill ag ef sy’n ofynnol yn ôl y cyfarwyddyd;

(b)person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 121;

(c)Gweinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 122;

(d)person a enwebir gan gyfarwyddyd o dan adran 122.

(3)Wrth arfer yr hawl o dan is-adran (1)(b) i arolygu cofnodion neu ddogfennau eraill—

(a)mae hawl gan berson (“P”) i gael mynediad at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunydd cysylltiedig sy’n cael neu wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â’r cofnodion neu ddogfennau eraill dan sylw, ac arolygu a gwirio eu gweithrediad, a

(b)caiff P ei gwneud yn ofynnol i’r personau canlynol ddarparu unrhyw gymorth sy’n rhesymol ofynnol gan P (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, sicrhau bod gwybodaeth ar gael i edrych arno neu ei gopïo ar ffurf ddarllenadwy)—

(i)y person y mae’r cyfrifiadur yn cael neu wedi cael ei ddefnyddio ganddo neu ar ei ran;

(ii)unrhyw berson sy’n gyfrifol am weithredu’r cyfrifiadur, yr offer neu’r deunydd, neu’n ymwneud mewn modd arall â’u gweithredu.

(4)Mae unrhyw gyfeiriad yn yr adran hon at berson sy’n dod o fewn is-adran (2) yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw berson sy’n cynorthwyo’r person hwnnw.

(5)Yn yr adran hon mae “dogfen” a “chofnodion” ill dau yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf.

Ffioedd gwasanaeth ar gyfer tai cymdeithasol

128Esemptiad o droseddau yn ymwneud â ffioedd gwasanaeth ar gyfer tai cymdeithasol

Yn adran 25 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985, ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(3)Subsection (1) does not apply where the person is—

(a)a local authority for an area in Wales, or

(b)a registered social landlord.

129Cymhwyso dyletswyddau sy’n ymwneud â ffioedd gwasanaeth i denantiaethau awdurdod lleol

Yn adran 26(1) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985, ar ôl “a local authority” mewnosoder “for an area in England”.

Cyffredinol

130Diwygiadau canlyniadol

Mae Rhan 3 o Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â’r Rhan hon.

RHAN 5CYLLID TAI

Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai

131Diddymu cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai

(1)Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer diddymu’r cymhorthdal sy’n daladwy mewn perthynas â Chyfrifon Refeniw Tai awdurdodau tai lleol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

(2)Mae’r Deddf honno wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(3)Yn Rhan 6 (Cyllid Tai)—

(a)hepgorer adran 79 (cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai);

(b)hepgorer adran 80 (cyfrifo cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai);

(c)hepgorer adran 80ZA (symiau cymhorthdal negyddol a fo’n daladwy i berson priodol);

(d)hepgorer adran 80A (penderfyniad terfynol ynglŷn â’r swm o gymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai);

(e)hepgorer adran 80B (cytundebau i eithrio awdurdodau neu eiddo penodol);

(f)hepgorer adran 85 (y pŵer i gael gwybodaeth);

(g)hepgorer adran 86 (adennill cymhorthdal mewn rhai achosion).

(4)Yn Atodlen 4 (cadw’r Cyfrif Refeniw Tai)—

(a)yn Rhan 1 (credydau i’r Cyfrif), hepgorer Eitem 3 (cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai);

(b)yn Rhan 2 (debydau i’r Cyfrif), hepgorer Eitem 5 (symiau sy’n daladwy o dan adran 80ZA);

(c)yn Rhan 3 (achosion arbennig), hepgorer paragraff 2 (balans credyd pan nad yw cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai yn daladwy) a’r pennawd yn union cyn y paragraff hwnnw.

Taliadau mewn perthynas â Chyfrifon Refeniw Tai

132Taliadau setlo

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud dyfarniad sy’n darparu ar gyfer cyfrifo swm taliad mewn perthynas â phob awdurdod tai lleol sy’n cadw Cyfrif Refeniw Tai.

(2)Cyfeirir at daliad o’r math a grybwyllir yn is-adran (1) yn y Rhan hon fel “taliad setlo”.

(3)Caiff dyfarniad o dan yr adran hon ddarparu ar gyfer cyfrifo’r swm cyfan neu ran o’r swm yn unol â fformiwla neu fformiwlâu.

(4)Wrth benderfynu ar fformiwla at y diben hwn, caiff Gweinidogion Cymru gynnwys newidynnau sy’n cael eu ffurfio gan gyfeirio at y cyfryw faterion y maent yn eu hystyried yn briodol.

(5)Caiff dyfarniad o dan yr adran hon ddarparu bod effaith y cyfrifiad mewn perthynas ag awdurdod tai lleol fel a ganlyn—

(a)bod yn rhaid i Weinidogion Cymru wneud taliad setlo i’r awdurdod tai lleol,

(b)bod yn rhaid i’r awdurdod tai lleol wneud taliad setlo i Weinidogion Cymru, neu

(c)mai dim yw swm taliad setlo yng nghyswllt yr awdurdod hwnnw.

(6)Nid yw is-adrannau (3), (4) a (5) yn cyfyngu ar gyffredinolrwydd y pŵer a roddir gan is-adran (1).

133Taliadau pellach

(1)Os oes taliad setlo wedi ei wneud mewn perthynas ag awdurdod tai lleol, caiff Gweinidogion Cymru, o bryd i’w gilydd, ddyfarnu bod yn rhaid gwneud taliad pellach a gyfrifir yn unol â’r dyfarniad—

(a)gan Weinidogion Cymru i’r awdurdod tai lleol, neu

(b)gan yr awdurdod tai lleol i Weinidogion Cymru.

(2)Ond ni all Gweinidogion Cymru wneud dyfarniad o dan yr adran hon ond pan fo is-adran (3) neu (4) yn gymwys.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os bu newid mewn unrhyw fater a gymerwyd i ystyriaeth wrth wneud—

(a)y dyfarniad mewn perthynas â’r taliad setlo neu gyfrifiad o dan y dyfarniad hwnnw, neu

(b)dyfarniad blaenorol o dan yr adran hon mewn perthynas â’r awdurdod tai lleol neu gyfrifiad o dan y dyfarniad hwnnw.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y cafodd gwall ei ddwyn i ystyriaeth wrth wneud unrhyw benderfyniad neu gyfrifiad o’r math a grybwyllir yn is-adran (3).

(5)Caniateir amrywio neu ddirymu dyfarniad o dan yr adran hon gan ddyfarniad dilynol.

134Darpariaeth atodol ynghylch taliadau

(1)Rhaid gwneud taliad o dan y Rhan hon yn y cyfryw randaliadau, ar y cyfryw adegau ac yn unol â’r cyfryw drefniadau a benderfynir gan Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i awdurdod tai lleol ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani wrth wneud taliad o dan y Rhan hon.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru godi llog ar awdurdod tai lleol, ar y cyfryw gyfraddau ac am y cyfryw gyfnodau a benderfynir gan Weinidogion Cymru, ar unrhyw swm a fo’n daladwy gan yr awdurdod tai lleol o dan y Rhan hon nas talwyd erbyn yr adeg a benderfynwyd ar gyfer y taliad o dan yr adran hon.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru godi swm ar awdurdod tai lleol a fo’n gyfwerth ag unrhyw gostau ychwanegol yr aeth Gweinidogion Cymru iddynt o ganlyniad i unrhyw swm a fo’n daladwy gan yr awdurdod tai lleol o dan y Rhan hon nas talwyd erbyn yr adeg a benderfynwyd ar gyfer y taliad o dan yr adran hon.

(5)Rhaid i daliad o dan y Rhan hon ac eithrio taliad o dan is-adran (3) neu (4)—

(a)os y’i gwneir gan awdurdod tai lleol, gael ei drin gan yr awdurdod fel gwariant cyfalaf at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003;

(b)os y’i gwneir i awdurdod tai lleol, gael ei drin gan yr awdurdod fel derbyniad cyfalaf at ddibenion y Bennod honno.

(6)Caiff dyfarniad o dan y Rhan hon ei gwneud hi’n ofynnol i daliad i awdurdod tai lleol a wneir o dan y Rhan hon gael ei ddefnyddio gan yr awdurdod at ddiben a bennir yn y dyfarniad.

(7)Rhaid i awdurdod tai lleol y mae gofyniad o’r fath yn gymwys iddo gydymffurfio â’r gofyniad.

(8)Yn Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cadw’r Cyfrif Refeniw Tai), yn Rhan 2 (debydau i’r cyfrif) wedi Eitem 5A (symiau sy’n daladwy o dan adran 170 o Ddeddf Lleoliaeth 2011) mewnosoder—

Darpariaeth gyffredinol

135Darparu gwybodaeth ar gais

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol ddarparu i Weinidogion Cymru y gyfryw wybodaeth y caiff Gweinidogion Cymru ei phennu at ddibenion galluogi Gweinidogion Cymru i arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru arfer eu pwerau o dan yr adran hon yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achos neilltuol.

(3)Os bydd awdurdod tai lleol yn peidio â chydymffurfio â’r adran hon cyn pen unrhyw gyfnod y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu, caiff Gweinidogion Cymru arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ar sail unrhyw ragdybiaethau ac amcangyfrifon y mae Gweinidogion Cymru yn gweld yn dda.

136Dyfarniadau o dan y Rhan hon

(1)Caiff dyfarniad o dan y Rhan hon wneud gwahanol ddarpariaeth ar gyfer gwahanol achosion neu ddisgrifiadau o achos, gan gynnwys gwahanol ddarpariaeth—

(a)ar gyfer gwahanol ardaloedd;

(b)ar gyfer gwahanol awdurdodau tai lleol;

(c)ar gyfer gwahanol ddisgrifiadau o awdurdod tai lleol.

(2)Cyn gwneud dyfarniad o dan y Rhan hon sy’n ymwneud â phob awdurdod tai lleol neu ddisgrifiad o awdurdod tai leol, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw—

(a)gynrychiolwyr llywodraeth leol yng Nghymru, a

(b)personau eraill,

ag y bo’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(3)Cyn gwneud dyfarniad o dan y Rhan hon sy’n ymwneud ag awdurdod tai lleol neilltuol, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdod tai lleol hwnnw.

(4)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol wedi gwneud dyfarniad o dan y Rhan hon, rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r dyfarniad at yr awdurdod neu’r awdurdodau tai lleol y mae’n ymwneud â hwy.

(5)Mae is-adrannau (4) i (7) o adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (defnyddio dulliau cyfathrebu electronig i anfon copïau o ddyfarniadau) yn berthnasol i ddyfarniad o dan y Rhan hon fel ag y maent yn berthnasol i ddyfarniad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ran 6 o’r Ddeddf honno.

RHAN 6CANIATÁU I GYMDEITHASAU TAI CWBL GYDFUDDIANNOL ROI TENANTIAETHAU SICR

137Diwygio Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988

(1)Mae Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988 (tenantiaethau na allant fod yn denantiaethau sicr) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff 12(1)(h), ar ôl “association” mewnosoder “, unless the tenancy is one which is excluded from this sub-paragraph by sub-paragraph (3) below”.

(3)Ar ôl paragraff 12(2) mewnosoder—

(3)A tenancy is excluded from sub-paragraph (1) if all of the following requirements are met—

(a)the interest of the landlord belongs to a fully mutual housing association;

(b)the dwelling-house is in Wales;

(c)the tenancy is granted on or after the date on which this sub-paragraph comes into force;

(d)the tenancy is in writing;

(e)before the tenancy is granted, the landlord has served on the person who is to be the tenant a notice stating that the tenancy is to be excluded from sub-paragraph (1);

(f)the tenancy states that it is excluded from sub-paragraph (1).

138Diwygio Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988

Yn Rhan 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988 (sail lle mae’n rhaid i lys orchymyn meddiant o anhedd-dai sy'n cael eu gosod dan denantiaethau sicr), ar ôl Ground 2 mewnosoder—

Ground 2A

The dwelling-house is subject to a mortgage granted, at any time, by a fully mutual housing association and—

(a)

the dwelling-house is in Wales;

(b)

the tenancy was granted by a fully mutual housing association;

(c)

the mortgagee is entitled to exercise a power of sale conferred on the mortgagee by the mortgage or by section 101 of the Law of Property Act 1925;

(d)

the mortgagee requires possession of the dwelling-house for the purpose of disposing of it with vacant possession in exercise of that power;

(e)

not later than the beginning of the tenancy the landlord gave notice in writing to the tenant that possession might be recovered on this ground;

and for the purposes of this ground “mortgage” includes a charge and “mortgagee” is to be construed accordingly.

RHAN 7Y DRETH GYNGOR AR GYFER MATHAU PENODOL o Anheddau

139Swm y dreth sy’n daladwy ar gyfer mathau penodol o anheddau

(1)Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 12 (gostyngiadau: darpariaeth arbennig ar gyfer Cymru), mewnosoder—

12AHigher amount for long-term empty dwellings: Wales

(1)For any financial year, a billing authority in Wales may by determination provide in relation to its area that if on any day a dwelling is a long-term empty dwelling—

(a)the discount under section 11(2)(a) does not apply, and

(b)the amount of council tax payable in respect of that dwelling and that day is increased by such percentage of not more than 100 as it may specify in the determination.

(2)A billing authority may specify different percentages for different dwellings based on the length of time for which they have been long-term empty dwellings.

(3)In exercising its functions under this section a billing authority must have regard to any guidance issued by the Welsh Ministers.

(4)The Welsh Ministers may, by regulations, prescribe one or more classes of dwelling in relation to which a billing authority may not make a determination under this section.

(5)A class of dwellings may be prescribed under subsection (4) by reference to such factors as the Welsh Ministers think fit and may, amongst other factors, be prescribed by reference to—

(a)the physical characteristics of, or other matters relating to, dwellings;

(b)the circumstances of, or other matters relating to, any person who is liable to the amount of council tax concerned.

(6)Where a determination under this section has effect in relation to a class of dwellings—

(a)the billing authority may not make a determination under section 12(3) or (4) in relation to that class, and

(b)any determination that has been made under section 12(3) or (4) ceases to have effect in relation to that class.

(7)A billing authority may make a determination varying or revoking a determination under this section for a financial year, but only before the beginning of the year.

(8)Where a billing authority makes a determination under this section it must publish a notice of the determination in at least one newspaper circulating in its area.

(9)The notice must be published before the end of the period of 21 days beginning with the date of the determination.

(10)The validity of a determination is not affected by a failure to comply with subsection (8) or (9).

(11)For the purposes of this section, a dwelling is a “long-term empty dwelling” on any day if for a continuous period of at least 1 year ending with that day—

(a)it has been unoccupied, and

(b)it has been substantially unfurnished.

(12)In determining whether a dwelling is a long-term empty dwelling, no account is to be taken of—

(a)any period which pre-dates the coming into force of this section;

(b)any one or more periods of not more than 6 weeks during which one or both of the conditions in subsection (11) are not met.

(13)The Welsh Ministers may, by regulations,—

(a)substitute a different percentage limit for the limit which is for the time being specified in subsection (1)(b);

(b)substitute a different period, of not less than 1 year, for the period which is for the time being specified in subsection (11);

(c)substitute a different period, of not less than 6 weeks, for the period which is for the time being specified in subsection (12)(b).

(14)A statutory instrument containing regulations made under subsection (13)(a) or (b) may not be made unless a draft of the instrument has been laid before, and approved by resolution of, the National Assembly for Wales.

(15)Any other statutory instrument containing regulations made under this section is subject to annulment in pursuance of a resolution of the National Assembly for Wales.

12BHigher amount for dwellings occupied periodically: Wales

(1)For any financial year, a billing authority in Wales may by determination provide in relation to its area that if on any day the conditions mentioned in subsection (2) are satisfied in respect of a dwelling—

(a)the discount under section 11(2)(a) does not apply, and

(b)the amount of council tax payable in respect of that dwelling and that day is increased by such percentage of not more than 100 as it may specify in the determination.

(2)The conditions are—

(a)there is no resident of the dwelling, and

(b)the dwelling is substantially furnished.

(3)But a billing authority’s first determination under this section must be made at least one year before the beginning of the financial year to which it relates.

(4)In exercising its functions under this section a billing authority must have regard to any guidance issued by the Welsh Ministers.

(5)The Welsh Ministers may by regulations prescribe one or more classes of dwelling in relation to which a billing authority may not make a determination under this section.

(6)A class of dwellings may be prescribed under subsection (5) by reference to such factors as the Welsh Ministers think fit and may, amongst other factors, be prescribed by reference to—

(a)the physical characteristics of, or other matters relating to, dwellings;

(b)the circumstances of, or other matters relating to, any person who is liable to the amount of council tax concerned.

(7)Where a determination under this section has effect in relation to a class of dwellings—

(a)the billing authority may not make a determination under section 12(3) or (4) in relation to that class, and

(b)any determination that has been made under section 12(3) or (4) ceases to have effect in relation to that class.

(8)A billing authority may make a determination varying or revoking a determination under this section for a financial year, but only before the beginning of the year.

(9)Where a billing authority makes a determination under this section it must publish a notice of the determination in at least one newspaper circulating in its area.

(10)The notice must be published before the end of the period of 21 days beginning with the date of the determination.

(11)The validity of a determination is not affected by a failure to comply with subsection (9) or (10).

(12)The Welsh Ministers may by regulations specify a different percentage limit for the limit which is for the time being specified in subsection (1)(b).

(13)A statutory instrument containing regulations made under subsection (12) may not be made unless a draft of the instrument has been laid before, and approved by resolution of, the National Assembly for Wales.

(14)Any other statutory instrument containing regulations made under this section is subject to annulment in pursuance of a resolution of the National Assembly for Wales.

(3)Mae Rhan 4 o Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â’r Rhan hon.

RHAN 8DIWYGIO DEDDF DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD, TAI A DATBLYGU TREFOL 1993

140Diwygio Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993

(1)Yn adran 99(5) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (gofyniad i hysbysiadau o dan y Ddeddf gael eu llofnodi gan denantiaid neu denant yn bersonol), yn lle paragraffau (a) a (b), rhodder “be signed by or on behalf of each of the tenants, or (as the case may be) by or on behalf of the tenant, by whom it is given.”

(2)Yn unol â hynny, mae Deddf Diwygio Cyfraith Llesddaliad (Diwygio) 2014 wedi ei diddymu.

RHAN 9AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Amrywiol

141Mân ddiwygiadau i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

Mae Rhan 5 o Atodlen 3 yn gwneud mân ddiwygiadau i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.

Cyffredinol

142Gorchmynion a rheoliadau

(1)Mae pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion neu ddosbarthiadau o achosion, gwahanol ardaloedd neu at wahanol ddibenion;

(b)i wneud darpariaeth wahanol yn gyffredinol neu yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthiadau o achosion yn unig;

(c)i wneud y gyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, ddarfodol, drosiannol neu arbed ag y gwêl y person sy’n gwneud y gorchymyn neu’r rheoliadau yn dda.

(3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

(a)yn Rhan 1—

(i)gorchymyn a wneir o dan adran 2(1)(c), 3, 5(f), 6(3), 7(4), 8(f), 10(4)(d), 12(3)(d), 14(3), 20(7) neu 29(5);

(ii)rheoliadau a wneir o dan adran 19(2);

(b)yn Rhan 2—

(i)gorchymyn a wneir o dan adran 57(4), 59(3), 72, 80(5)(b)(i), 80(8) neu 81(4);

(ii)rheoliadau a wneir o dan adran 78(1) neu 86(1) a rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 1 o Atodlen 2;

(c)yn Rhan 3, gorchymyn a wneir o dan adran 101 neu 109;

(d)yn y Rhan hon, rheoliadau a wneir o dan adran 144 sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys gorchymyn neu reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon ac eithrio gorchymyn a wneir o dan adran 40(7) yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn a wneir o dan adran 80(5)(b)(ii) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron, a’i gymeradwyo drwy benderfyniad—

(a)dau Dŷ’r Senedd, a

(b)Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 1 o Atodlen 2 oni bai bod drafft o’r offeryn statudol wedi ei osod gerbron dau Dŷ’r Senedd, a’i gymeradwyo ganddynt drwy benderfyniad.

(7)Nid yw’r adran hon yn gymwys i orchymyn a wneir o dan adran 145 (cychwyn).

143Ystyr awdurdod tai lleol

Yn y Ddeddf hon ystyr “awdurdod tai lleol” yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru, ac mae ystyr estynedig iddo at ddibenion Rhan 2 (gweler adran 99).

144Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ei hystyried yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu o ganlyniad i roi effaith felly, cânt wneud y canlynol drwy reoliadau—

(a)unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig neu ganlyniadol, a

(b)unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, diddymu neu ddirymu (ymysg pethau eraill) unrhyw ddeddfiad.

(3)Yn yr adran hon ystyr “deddfiad” yw deddfiad (pa bryd bynnag y caiff ei ddeddfu neu ei wneud) a gynhwysir yn y canlynol, neu mewn offeryn a wneir o dan y canlynol—

(a)Deddf Seneddol,

(b)Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf hon).

145Cychwyn

(1)Daw’r darpariaethau canlynol i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn derbyn Cydsyniad Brenhinol—

(a)adran 142;

(b)adran 143;

(c)yr adran hon;

(d)adran 146.

(2)Bydd adrannau 132 i 136 yn Rhan 5 (Cyllid Tai) yn dod i rym ar ôl diwedd y cyfnod o 2 fis gan ddechrau gyda’r diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn derbyn Cydsyniad Brenhinol.

(3)Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(4)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—

(a)pennu gwahanol ddyddiau at wahanol ddibenion;

(b)cynnwys y gyfryw ddarpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.

146Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Tai (Cymru) 2014.

(cyflwynir gan adran 14)

ATODLEN 1COFRESTR O DAI RHENT PREIFAT

RHAN 1CYNNWYS COFRESTR

Landlordiaid

1Rhaid i gofnod mewn cofrestr sy’n ymwneud â landlord gofnodi’r canlynol—

(a)enw’r landlord;

(b)os yw’r landlord yn gorff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa y landlord;

(c)cyfeiriad pob eiddo ar rent yn ardal yr awdurdod trwyddedu y mae’r landlord yn landlord arno;

(d)enw a rhif trwydded unrhyw berson a benodir gan y landlord i ymgymryd â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo ar ran y landlord a chyfeiriad pob eiddo ar rent y mae’r penodiad yn ymwneud ag ef;

(e)rhif cofrestru’r landlord;

(f)y dyddiad pan gofrestrwyd y landlord;

(g)pan fo trwydded wedi cael ei rhoi i’r landlord—

(i)y dyddiad pan roddwyd y drwydded neu y cafodd y drwydded ei hadnewyddu;

(ii)rhif y drwydded;

(iii)a yw’r drwydded wedi ei diwygio o dan adran 24; ac os ydyw y dyddiad y cafodd y diwygiad effaith;

(iv)a yw’r drwydded wedi dod i ben heb gael ei hadnewyddu, neu wedi cael ei dirymu; ac os ydyw y dyddiad dod i ben neu ddirymu;

(h)pan fo cais gan y landlord am drwydded wedi cael ei wrthod gan yr awdurdod trwyddedu—

(i)dyddiad y gwrthodiad;

(ii)a gyflwynwyd apêl yn erbyn y gwrthodiad o dan adran 27;

(i)pan gyflwynwyd apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod trwyddedu i wrthod cais, os cadarnhaodd y tribiwnlys neu’r llys benderfyniad yr awdurdod, dyddiad y penderfyniad hwnnw.

(j)pan fo tribiwnlys eiddo preswyl wedi gwneud gorchymyn atal rhent (gweler adran 30) mewn cysylltiad ag eiddo preswyl y mae’r landlord yn landlord iddo—

(i)bod gorchymyn o’r fath wedi ei wneud;

(ii)y dyddiad y daeth y gorchymyn i effaith;

(iii)y dyddiad y peidiodd y gorchymyn gael effaith (gweler adran 31).

Asiantau

2Rhaid i gofnod yn y gofrestr ar gyfer person sydd wedi ei drwyddedu i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran landlord gofnodi’r canlynol—

(a)enw’r person;

(b)cyfeiriad y person ar gyfer gohebiaeth;

(c)os yw’r person yn gorff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r person;

(d)os yw’r person yn ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran landlord yn rhinwedd busnes, cyfeiriad unrhyw fangre yn ardal yr awdurdod trwyddedu a ddefnyddir at y diben hwnnw;

(e)pan fo trwydded wedi ei rhoi i’r person gan yr awdurdod trwyddedu—

(i)y dyddiad y rhoddwyd y drwydded;

(ii)rhif y drwydded;

(iii)a addaswyd y drwydded o dan adran 24; ac os felly y dyddiad y cafodd y diwygiad effaith;

(f)pan fo cais gan y person am drwydded wedi ei gwrthod gan yr awdurdod trwyddedu—

(i)dyddiad y gwrthodiad;

(ii)a gyflwynwyd apêl yn erbyn y gwrthodiad o dan adran 27;

(g)pan gyflwynwyd apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod trwyddedu i wrthod cais, os cadarnhaodd y tribiwnlys neu’r llys benderfyniad yr awdurdod, dyddiad y penderfyniad hwnnw.

RHAN 2MYNEDIAD I GOFRESTR

3(1)Rhaid i awdurdod trwyddedu hysbysu person am yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (2) os yw’r person hwnnw yn gwneud cais am yr wybodaeth ac yn darparu cyfeiriad eiddo ar rent sydd ar ei gofrestr i’r awdurdod.

(2)Yr wybodaeth honno yw—

(a)enw landlord yr eiddo ac enw unrhyw berson a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas â’r eiddo;

(b)a yw’r landlord neu’r person a benodwyd i wneud gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord (fel y bo’n gymwys) yn drwyddedig;

(c)os yw gorchymyn atal rhent o dan adran 30 yn cael effaith mewn perthynas â’r eiddo, bod y cyfryw orchymyn yn cael effaith.

4(1)Rhaid i awdurdod trwyddedu hysbysu person am yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (2) os yw’r person hwnnw yn gwneud cais am yr wybodaeth ac yn darparu’r canlynol i’r awdurdod—

(a)enw landlord eiddo ar rent mewn ardal y mae’r awdurdod yn awdurdod trwyddedu ar ei chyfer, neu

(b)enw person a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas ag unrhyw eiddo o’r fath.

(2)Yr wybodaeth honno yw—

(a)a yw’r landlord yn gofrestredig;

(b)a yw’r landlord neu’r person a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord (fel y bo’n gymwys) yn drwyddedig.

5(1)Rhaid i awdurdod trwyddedu hysbysu person am yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (2) os yw’r person hwnnw yn gwneud cais am yr wybodaeth ac yn darparu’r canlynol i’r awdurdod—

(a)rhif cofrestru neu rif trwydded landlord eiddo ar rent mewn ardal y mae’r awdurdod yn awdurdod trwyddedu ar ei chyfer, neu

(b)rhif trwydded person a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas ag unrhyw eiddo o’r fath.

(2)Yr wybodaeth honno yw—

(a)enw’r landlord ac unrhyw berson a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord(fel y bo’n gymwys);

(b)a yw’r landlord yn gofrestredig;

(c)a yw’r landlord neu unrhyw berson a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord (fel y bo’n gymwys) yn drwyddedig.

(cyflwynir gan adran 61)

ATODLEN 2CYMHWYSTRA I DDERBYN CYMORTH O DAN BENNOD 2 O RAN 2

Personau nad ydynt yn gymwys i dderbyn cymorth

1(1)Nid yw person yn gymwys i dderbyn cymorth o dan adran 66, 68, 73 neu 75 os yw’n berson o dramor sydd yn anghymwys am gynhorthwy tai.

(2)Nid yw person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo o fewn ystyr Deddf Lloches a Mewnfudo 1996 yn gymwys am gynhorthwy tai oni bai bod y person hwnnw yn dod o fewn dosbarth a ragnodir gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru neu gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

(3)Ni chaiff unrhyw berson a eithrir rhag hawlogaeth i gredyd cynhwysol neu fudd-dal tai gan adran 115 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (eithrio rhag budd-daliadau) ei gynnwys mewn unrhyw ddosbarth a ragnodir o dan is-baragraff (2).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol ddarparu, drwy reoliadau, ar gyfer disgrifiadau eraill o bersonau sydd i’w trin fel personau o dramor sydd yn anghymwys i dderbyn cynhorthwy tai at ddiben Pennod 2 o Ran 2.

(5)Caiff person sy’n anghymwys i dderbyn cynhorthwy tai ei ddiystyru wrth benderfynu at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 a yw person sy’n dod o dan is-baragraff (6)—

(a)yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd, neu

(b)ag angen blaenoriaethol am lety.

(6)Mae person yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw’r person yn dod o fewn dosbarth a ragnodir gan reoliadau a wneir o dan is-baragraff (2), a

(b)os nad yw’r person yn wladolyn un o wladwriaethau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir.

Ceiswyr lloches a’u dibynyddion: darpariaeth drosiannol

2(1)Hyd gychwyn diddymiad adran 186 o Ddeddf Tai 1996 (ceiswyr lloches a’u dibynyddion), mae’r adran honno yn gymwys i Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf hon fel y bo’n gymwys i Ran 7 o’r Ddeddf honno.

(2)At y diben hwn, yn adran 186 o Ddeddf Tai 1996—

(a)dehonglir y cyfeiriad at adran 185 o’r Ddeddf honno fel cyfeiriad at baragraff 1, a

(b)dehonglir y cyfeiriad at “this Part” fel cyfeiriad at Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf hon ac nid Rhan 7 o’r Deddf honno.

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn darparu gwybodaeth

3(1)Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol, ar gais awdurdod tai lleol, ddarparu’r gyfryw wybodaeth ag sy’n ofynnol gan yr awdurdod—

(a)o ran a yw person yn berson y mae adran 115 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (eithrio rhag budd-daliadau) yn gymwys iddo, a

(b)i alluogi’r awdurdod i benderfynu a yw’r cyfryw berson yn gymwys i dderbyn cymorth o dan Bennod 2 o Ran 2.

(2)Pan roddir yr wybodaeth honno ar unrhyw ffurf ac eithrio ffurf ysgrifenedig, mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol gadarnhau’r wybodaeth honno yn ysgrifenedig os gwneir cais ysgrifenedig i’r Ysgrifennydd Gwladol gan yr awdurdod.

(3)Os yr ymddengys i’r Ysgrifennydd Gwladol bod unrhyw gais, penderfyniad neu newid arall mewn amgylchiadau wedi effeithio ar statws person y rhoddwyd gwybodaeth amdano yn flaenorol i awdurdod tai lleol o dan y paragraff hwn, rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol hysbysu’r awdurdod yn ysgrifenedig am y ffaith honno, y rheswm dros y ffaith a’r dyddiad y daeth yr wybodaeth flaenorol yn anghywir.

(fel y’i cyflwynir gan adrannau 100, 110, 130, 139 a 141)

ATODLEN 3MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

RHAN 1DIGARTREFEDD

Deddf Tai 1985

1Ym mharagraff 4 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1985 (tenantiaethau na allant fod yn denantiaethau sicr), ar ôl “(homelessness)” mewnosoder “or Part 2 of the Housing (Wales) Act 2014 (homelessness)”.

Deddf Tai 1996

2Mae Deddf Tai 1996 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

3Yn adran 167 (dyrannu llety tai yn unol â chynllun dyrannu: Cymru)—

(a)yn is-adran (2)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “(within the meaning of Part 7)” mewnosoder “(within the meaning of Part 2 of the Housing (Wales) Act 2014)”;

(ii)yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)people who are owed any duty by a local housing authority under section 66, 73 or 75 of the Housing (Wales) Act 2014;

(b)yn is-adran (2ZA), yn lle “Part 7” rhodder “Part 2 of the Housing (Wales) Act 2014”;

(c)yn is-adran (2A)(c), yn lle “section 199” rhodder “section 81 of the Housing (Wales) Act 2014”.

4Yn enw Rhan 7 (digartrefedd), ar ôl “Homelessness” mewnosoder “: England”.

5Yn is-adran (1) o adran 179 (dyletswydd awdurdod tai lleol i ddarparu gwasanaethau cynghorol), ar ôl “local housing authority” mewnosoder “in England”.

6Yn is-adran (1) o adran 180 (cynhorthwy ar gyfer sefydliadau gwirfoddol), ar ôl “local housing authority” mewnosoder “in England”.

7Yn is-adran (1) o adran 182 (canllawiau gan yr Ysgrifennydd Gwladol), ar ôl “social services authority” mewnosoder “in England”.

8Yn is-adran (1) o adran 183 (cais am gynhorthwy), ar ôl “local housing authority” mewnosoder “in England”.

9Yn is-adran (1) o adran 187 (darparu gwybodaeth gan Ysgrifennydd Gwladol), ar ôl “local housing authority” mewnosoder “in England”.

10Yn adran 193 (dyletswydd i bersonau ag angen blaenoriaethol nad ydynt yn ddigartref yn fwriadol)—

(a)yn is-adran (10), yn lle “appropriate authority” rhodder “Secretary of State”;

(b)hepgorer is-adran (12).

11Yn adran 198 (atgyfeirio achos at awdurdod tai arall)—

(a)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A)Subsection (4) is to be construed, in a case where the other authority is an authority in Wales, as if the reference to “this Part” were a reference to Part 2 of the Housing (Wales) Act 2014

(b)yn is-adran (5), ar ôl “case” mewnosoder “which does not involve a referral to a local housing authority in Wales”;

(c)ar ôl yr is-adran honno, mewnosoder—

(5A)The question whether the conditions for referral of a case involving a referral to a local housing authority in Wales shall be decided by agreement between the notifying authority and the notified authority or, in default of agreement, in accordance with such arrangements as the Secretary of State and the Welsh Ministers may jointly direct by order.”;

(d)yn is-adran (6)(b), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or, in the case of an order under subsection (5A), to the Secretary of State and the Welsh Ministers”;

(e)yn is-adran (7)—

(i)yn lle “No such order shall” rhodder “An order under this section shall not”; a

(ii)ar y diwedd, mewnosoder “and, in the case of a joint order, a resolution of the National Assembly for Wales”.

12Yn is-adran (4) o adran 200 (dyletswyddau i geisydd y mae ei gais yn cael ei ystyried ar gyfer ei atgyfeirio neu’n cael ei atgyfeirio)—

(a)ar ôl “met” mewnosoder “ and the notified authority is not an authority in Wales”, a

(b)ar y diwedd, mewnosoder “; for provision about cases where it is decided that those conditions are met and the notified authority is an authority in Wales, see section 83 of the Housing (Wales) Act 2014 (cases referred from a local housing authority in England)”.

13Ar ôl adran 201 (cymhwyso darpariaethau atgyfeirio at achosion sy’n codi yn yr Alban) mewnosoder—

201ACases referred from a local housing authority in Wales

(1)This section applies where an application has been referred by a local housing authority in Wales to a local housing authority in England under section 80 of the Housing (Wales) Act 2014 (referral of case to another local housing authority).

(2)If it is decided that the conditions in that section for referral of the case are met, the notified authority are subject to the duty under section 193 of this Act in respect of the person whose case is referred (the main housing duty); for provision about cases where it is decided that the conditions for referral are not met, see section 82 of the Housing (Wales) Act 2014 (duties to applicant whose case is considered for referral or referred).

(3)References in this Part to an applicant include a reference to a person to whom a duty is owed by virtue of subsection (2).

14Yn is-adran (1) o adran 213 (cydweithredu rhwng cyrff ac awdurdodau tai perthnasol), ar ôl “local housing authority” mewnosoder “in England”.

Deddf Digartrefedd 2002

15Mae Deddf Digartrefedd 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

16Yn y croesbennawd uwchben adran 1, ar ôl “strategies” mewnosoder “: England”.

17Yn adran 1 (dyletswydd awdurdod tai lleol i lunio strategaeth ddigartrefedd)—

(a)yn is-adrannau (1) a (5), ar ôl “local housing authority” mewnosoder “in England”;

(b)yn y pennawd, ar ôl “local housing authority” mewnosoder “in England”.

18Yn is-adran (7A) o adran 3 (strategaethau digartrefedd), hepgorer “in England”.

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

19Yn is-adran (1)(a) o adran 50 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (ystyr gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant), yn lle “Ran 7 o’r Ddeddf honno” rhodder “Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014”.

Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012

20(1)Mae Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff 34 o Ran 1 o Atodlen 1 (digartrefedd)—

(a)yn is-baragraff (1), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)Part 2 of the Housing (Wales) Act 2014 (homelessness).;

(b)yn is-baragraff (3) yn lle ”as in section 175 of the Housing Act 1996” rhodder

(a)as in section 175 of the Housing Act 1996 in cases where sub-paragraph (1) applies in relation to the provision of accommodation and assistance under—

(i)Part 6 of that Act as it relates to England;

(ii)Part 7 of that Act;

(b)as in section 55 of the Housing (Wales) Act 2014 in cases where sub-paragraph (1) applies in relation to the provision of accommodation and assistance under—

(i)Part 6 of the Housing Act 1996 as it relates to Wales;

(ii)Part 2 of the Housing (Wales) Act 2014.

Deddf Rhwystro Twyll Tai Cymdeithasol 2013

21Yn is-adran (7)(d) o adran 7 o Ddeddf Rhwystro Twyll Tai Cymdeithasol 2013 (rheoliadau ynghylch pwerau i’w gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth), ar ôl “Housing Act 1996” mewnosoder “or under Part 2 of the Housing (Wales) Act 2014”.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

22(1)Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff (a) o adran 48 (eithriad ar gyfer darparu tai etc), yn lle “Deddf Tai 1996” rhodder “Deddf Tai (Cymru) 2014”.

(3)Yn y tabl yn Atodlen 2 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol)—

(a)hepgorer yr eitem ar gyfer Deddf Tai 1996;

(b)ar ôl yr eitem ar gyfer Deddf Gofal 2014 mewnosoder—

Deddf Tai (Cymru) 2014

Adran 95(2),(3) a (4); ond dim ond pan fo’r swyddogaethau hynny’n gymwys yn rhinwedd is-adran (5)(b) o’r adran honno.

Cydweithredu a rhannu gwybodaeth mewn perthynas â phersonau digartref a phersonau sydd o dan fygythiad o gael eu gwneud yn ddigartref.

RHAN 2SIPSIWN A THEITHWYR

Deddf Llywodraeth Leol 2003

23(1)Mae’r diffiniad o “housing” yn is-adran (4) o adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (datganiadau a strategaethau tai) wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(a)hepgorer y geiriau “section 225 of the Housing Act 2004”, a

(b)ar ôl “of” lle mae’n digwydd gyntaf mewnosoder—

(a)section 225 of the Housing Act 2004, in the case of a local housing authority in England;

(b)Part of the Housing (Wales) Act 2014, in the case of a local housing authority in Wales.

Deddf Tai 2004

24(1)Mae Deddf Tai 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 225 (dyletswyddau awdurdodau tai lleol: anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “local housing authority” mewnosoder “in England”,

(b)yn is-adran (2), ar ôl “local housing authority” mewnosoder “in England”,

(c)yn y diffiniad o “gypsies and travellers” yn is-adran (5), yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”, a

(d)yn y pennawd, ar ôl “local housing authorities” mewnosoder “in England”.

(3)Yn is-adran (1) o adran 226 (canllawiau mewn perthynas ag adran 225)—

(a)yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”, a

(b)ar ôl “local housing authorities” lle mae’n digwydd gyntaf mewnosoder “in England”.

Rheoliadau Tai (Asesiad o Anghenion Llety) (Ystyr Sipsiwn a Theithwyr) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3235)

25Mae Rheoliadau Tai (Asesiad o Anghenion Llety) (Ystyr Sipsiwn a Theithwyr) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3235) wedi eu dirymu.

Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

26(1)Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn y diffiniad o “Sipsiwn a Theithwyr” yn adran 62 (dehongli arall), yn lle’r geiriau o “personau” lle mae’n digwydd gyntaf hyd at y diwedd rhodder

(a)

personau sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys—

(i)

personau sydd, ar sail eu hanghenion addysg neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol , a

(ii)

aelodau o grŵp trefnedig o siwemyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio); a

(b)

unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol;.

(3)yn is-baragraff (1) o baragraff 10 o Atodlen 1 (siewmyn teithiol), hepgorer “safle’n” a mewnosoder “safle nad yw awdurdod lleol yn berchen arno yn”.

RHAN 3SAFONAU AR GYFER TAI CYMDEITHASOL

Deddf Tai 1985

27Yn adran 24 (rhent ar gyfer meddiannu tai awdurdodau tai lleol) o Ddeddf Tai 1985—

(a)hepgorer is-adrannau (3) a (4);

(b)ar ôl is-adran (5), mewnosoder—

(6)In exercising its functions under this section, a local housing authority in Wales must—

(a)comply with any standards relating to rent or service charges which are set for it under section 111 of the Housing (Wales) Act 2014, and

(b)have regard to any guidance relating to rent or service charges which is issued under section 112 of that Act.

Deddf Tai 1996

28(1)Mae Deddf Tai 1996 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 33A (safonau perfformiad i landlordiaid cymdeithasol gwrdd â hwy) ar ôl is-adran (2), mewnosoder—

(2A)Standards set under subsection (1) may require registered social landlords to comply with rules specified in the standards.

(2B)The Welsh Ministers may—

(a)revise the standards by issuing further standards under this section;

(b)withdraw the standards by issuing further standards under this section or by notice.

(2C)The Welsh Ministers must publish any standards or notice under this section.

(3)Yn adran 33B (canllawiau gan Weinidogion Cymru safonau ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestrefig)—

(a)yn lle is-adran (3) rhodder—

(3)The Welsh Ministers may—

(a)revise the guidance by issuing further guidance under this section;

(b)withdraw the guidance by issuing further guidance under this section or by notice.

(b)yn lle is-adran (4) rhodder—

(4)The Welsh Ministers must publish any guidance or notice under this section.

(4)Yn adran 33C (ymgynghori cyn gosod safonau ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig neu dyroddi canllawiau ar safonau), ar ôl “setting” mewnosoder “, revising or withdrawing”.

RHAN 4Y DRETH GYNGOR AR GYFER MATHAU PENODOL O ANHEDDAU

Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992

29(1)Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 11(2) (gostyngiadau), yn lle “and 12” rhodder “, 12, 12A and 12B”.

(3)Yn adran 12 (gostyngiadau: darpariaeth arbennig ar gyfer Cymru), ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A)Subsections (3) and (4) are subject to section 12A(6) and 12B(7).

(4)Yn adran 13(3) (symiau gostyngol), yn lle “or 12” rhodder “, 12, 12A or 12B”.

(5)Yn adran 66(2)(b) (adolygiad barnwrol), yn lle “or 12” rhodder “, 12, 12A or 12B”.

(6)Yn adran 67(2)(a) (swyddogaethau i’w cyflawni gan awdurdod yn unig), yn lle “or 12” rhodder “, 12, 12A or 12B”.

(7)Yn Atodlen 2 (gweinyddu),ym mharagraff 4(7) yn lle “(higher amount of tax for empty dwellings)” rhodder “(higher amount of tax for empty dwellings: England), 12A(1)(b) (higher amount of tax for empty dwellings: Wales) or 12B(1)(b) (higher amount of tax for dwellings occupied periodically: Wales)”.

RHAN 5DIWYGIADAU I DDEDDF CARTREFI SYMUDOL (CYMRU) 2013

30(1)Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 29(3) (penderfynu a yw person yn berson addas a phriodol i reoli safle), yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)wedi aflonyddu ar rywun neu wahaniaethu’n anghyfreithlon yn ei erbyn ar sail unrhyw nodwedd sy’n nodwedd warchodedig o dan adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, neu wedi erlid person arall yn groes i’r Ddeddf honno, wrth gynnal unrhyw fusnes neu mewn cysylltiad â hynny, neu.

(3)Yn adran 33 (gorchmynion ad-dalu)—

(a)hepgorer is-adran (7);

(b)yn is-adran (8) yn lle “(11)” rhodder “(10)”;

(c)yn is-adran (9)(c) yn lle “ar unrhyw adeg wedi ei gollfarnu” rhodder “wedi ei gollfarnu yn flaenorol”.

(4)Yn adran 39(1) (dehongli Rhan 2) hepgorer y diffiniad o “awdurdod tân ac achub” a mewnosoder ef yn adran 62 (dehongli arall) yn y man priodol.

(5)Yn adran 49(4) (manylion cytundebau cartrefi symudol) yn lle “Ddeddf” rhodder “Rhan”.

(6)Yn adran 53(4) (olynwyr mewn teitl) yn lle “Ddeddf” rhodder “Rhan”.

(7)Yn adran 61(7) (ystyr “cymdeithas trigolion gymwys”) hepgorer y diffiniad o “cytundeb cymrodeddu” a “tribiwnlys”.