RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG

Dyletswyddau o ran gwybodaeth

38Cyfarwyddiadau i sicrhau cydymffurfedd â dyletswyddau o ran gwybodaeth

1

Mae’r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru o’r farn—

a

bod cyflogwr perthnasol wedi methu â chydymffurfio â dyletswydd sy’n codi o dan adran 36, neu’n debygol o fethu â chydymffurfio â’r ddyletswydd honno, neu

b

bod asiant wedi methu â chydymffurfio â dyletswydd sy’n codi o dan adran 37, neu’n debygol o fethu â chydymffurfio â’r ddyletswydd honno.

2

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r cyflogwr neu (yn ôl y digwydd) yr asiant i gydymffurfio â’r ddyletswydd.

3

Caniateir i gyfarwyddyd o dan adran (2), ar gais Gweinidogion Cymru, gael ei orfodi drwy waharddeb.

4

Yn yr adran hon—

  • mae “asiant” i’w ddehongli yn unol ag adran 37;

  • mae i “cyflogwr perthnasol” yr un ystyr ag yn adran 36 (4) .