RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG
Sefydlu a gwerthuso personau cofrestredig
18Safonau ar gyfer asesu’r cyfnod sefydlu
1
Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar y safonau y mae person i’w asesu yn unol â hwy at y diben o benderfynu p’un a yw’r person hwnnw wedi cwblhau cyfnod sefydlu o dan adran 17 yn foddhaol ai peidio.
2
Caniateir i safonau gwahanol gael eu penderfynu ar gyfer categorïau cofrestru gwahanol.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Cyngor cyn gwneud penderfyniad o dan yr adran hon.