RHAN 4DIWALLU ANGHENION
Penderfynu beth i’w wneud ar ôl asesiad o anghenion
I2I132Dyfarnu cymhwystra ac ystyried beth i’w wneud i ddiwallu anghenion
1
Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni, ar sail asesiad o anghenion, bod ar berson anghenion am ofal a chymorth neu, os gofalwr yw’r person, bod arno anghenion am gymorth, rhaid i’r awdurdod—
a
dyfarnu a oes unrhyw un neu rai o’r anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra;
b
os nad yw’r anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra, ddyfarnu a yw’n angenrheidiol diwallu’r anghenion, serch hynny, i amddiffyn y person—
i
rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu rhag risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso (os oedolyn yw’r person);
ii
rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu rhag risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu rhag cael, neu rhag risg o gael, ei niweidio mewn modd arall (os plentyn yw’r person);
c
dyfarnu a yw’r anghenion yn galw am arfer unrhyw swyddogaeth sydd ganddo o dan y Ddeddf hon neu Rannau 4 neu 5 o Ddeddf Plant 1989, i’r graddau y mae’r swyddogaeth yn berthnasol i’r person hwnnw;
d
ystyried a fyddai darparu unrhyw beth y gellir ei ddarparu yn rhinwedd adran 15 (gwasanaethau ataliol) neu 17 (gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy) neu unrhyw beth arall a all fod ar gael yn y gymuned o fudd i’r person.
2
Os yw awdurdod lleol yn dyfarnu bod rhaid i unrhyw anghenion gael eu diwallu, neu eu bod i’w diwallu, o dan adrannau 35 i 45, rhaid i’r awdurdod—
a
ystyried yr hyn y gellid ei wneud i ddiwallu’r anghenion hynny;
b
ystyried a fyddai’n gosod ffi am wneud y pethau hynny, ac os felly, dyfarnu swm y ffi honno (gweler Rhan 5).
3
Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch cyflawni’r ddyletswydd o dan is-adran (1)(a).
4
Mae anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra os ydynt—
a
o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau, neu
b
yn rhan o gyfuniad o anghenion o ddisgrifiad a bennir felly.
5
Caiff y rheoliadau, er enghraifft, ddisgrifio anghenion drwy gyfeirio at—
a
yr effaith y mae’r anghenion yn ei chael ar y person o dan sylw;
b
amgylchiadau’r person.