RHAN 2SWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL
Trefniadau lleol
I2I116Hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector
1
Rhaid i awdurdod lleol hyrwyddo—
a
datblygiad mentrau cymdeithasol yn ei ardal i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol;
b
datblygiad sefydliadau cydweithredol neu drefniadau cydweithredol yn ei ardal i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol;
c
ymglymiad personau y mae gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol i’w darparu ar eu cyfer yn y broses o ddylunio a gweithredu’r ddarpariaeth honno;
d
argaeledd gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol yn ei ardal gan sefydliadau trydydd sector (p’un a yw’r sefydliadau yn fentrau cymdeithasol neu’n sefydliadau cydweithredol ai peidio).
2
Yn yr adran hon—
mae “gofal a chymorth” (“care and support”) yn cynnwys cymorth i ofalwyr;
ystyr “gwasanaethau ataliol” (“preventative services”) yw gwasanaethau y mae’r awdurdod lleol o’r farn y byddent yn sicrhau unrhyw un neu rai o’r dibenion yn adran 15(2);
mae “y gymdeithas” (“society”) yn cynnwys adran o’r gymdeithas;
ystyr “menter gymdeithasol” (“social enterprise”) yw sefydliad y mae ei weithgareddau yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn rhai y gallai person farnu’n rhesymol eu bod yn weithgareddau a gyflawnir er budd y gymdeithas (“ei amcanion cymdeithasol”), ac sydd—
- a
yn creu’r rhan fwyaf o’i incwm drwy fusnes neu fasnach,
- b
yn ailfuddsoddi’r rhan fwyaf o’i elw yn ei amcanion cymdeithasol,
- c
yn annibynnol ar unrhyw awdurdod cyhoeddus, a
- d
yn cael ei berchenogi, ei lywio a’i reoli mewn ffordd sy’n gyson â’i amcanion cymdeithasol;
- a
ystyr “sefydliad trydydd sector” (“third sector organisation”) yw sefydliad y gallai person farnu’n rhesymol ei fod yn sefydliad sy’n bodoli’n gyfan gwbl neu’n bennaf i ddarparu buddion i’r gymdeithas.
3
At ddibenion yr adran hon, caiff rheoliadau ddarparu—
a
bod gweithgareddau o ddisgrifiad penodedig i’w trin neu ddim i’w trin fel gweithgareddau y gallai person farnu’n rhesymol eu bod yn weithgareddau sy’n cael eu cyflawni er budd y gymdeithas;
b
bod sefydliadau neu drefniadau o ddisgrifiad penodedig i’w trin neu ddim i’w trin fel—
i
mentrau cymdeithasol,
ii
sefydliadau cydweithredol neu drefniadau cydweithredol, neu
iii
sefydliadau trydydd sector;
c
ar gyfer yr hyn sydd, neu’r hyn nad yw, neu a gaiff fod, yn gyfystyr ag adran o’r gymdeithas.