RHAN 8SWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Ymyriadau gan y llywodraeth ganolog

I1I2153Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gael gwasanaethau cynghori

1

Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

2

Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r awdurdod lleol i ymrwymo i gontract neu drefniant arall gyda pherson penodedig, neu berson sy’n dod o fewn dosbarth penodedig, ar gyfer darparu i’r awdurdod wasanaethau penodedig cynghorol eu natur.

3

Caiff y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu drefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.

4

Yn yr adran hon ac adran 154 ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn cyfarwyddyd.