Atebolrwydd am gyfrannu
1(1)Pan fo awdurdod lleol yn gofalu am blentyn (mewn achosion ar wahân i’r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (8)) rhaid iddo ystyried a ddylai adennill cyfraniadau tuag at gynhaliaeth y plentyn gan unrhyw berson sy’n atebol am gyfrannu (“cyfrannwr”).
(2)Dim ond pan fo awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn rhesymol y caniateir iddo adennill cyfraniadau gan gyfrannwr.
(3)Mae person yn atebol am gyfrannu os yw’n oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
(4)Nid yw person yn atebol am gyfrannu yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’n cael budd-dal sy’n dod o fewn categori a bennir mewn rheoliadau.
(5)Yn is-baragraff (4) mae “budd-dal” yn cynnwys unrhyw lwfans, taliad, credyd neu fenthyciad.
(6)Nid yw person yn atebol am gyfrannu tuag at gynhaliaeth plentyn y mae awdurdod lleol yn gofalu amdano mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod y mae’r plentyn yn byw gydag un o rieni’r plentyn o dan drefniadau a wneir gan yr awdurdod yn unol ag adran 81.
(7)Nid oes rhaid i gyfrannwr wneud unrhyw gyfraniad tuag at gynhaliaeth plentyn ac eithrio fel a gytunir neu a ddyfernir yn unol â’r Atodlen hon.
(8)Yr achosion yw’r rhai lle y mae awdurdod lleol yn gofalu am blentyn o dan—
(a)adran 76;
(b)gorchymyn gofal interim o dan Ddeddf Plant 1989;
(c)adran 92 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000.