Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

(a gyflwynwyd gan adran 85)

ATODLEN 1CYFRANIADAU TUAG AT GYNHALIAETH PLANT SY’N DERBYN GOFAL

This schedule has no associated Explanatory Notes

Atebolrwydd am gyfrannu

1(1)Pan fo awdurdod lleol yn gofalu am blentyn (mewn achosion ar wahân i’r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (8)) rhaid iddo ystyried a ddylai adennill cyfraniadau tuag at gynhaliaeth y plentyn gan unrhyw berson sy’n atebol am gyfrannu (“cyfrannwr”).

(2)Dim ond pan fo awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn rhesymol y caniateir iddo adennill cyfraniadau gan gyfrannwr.

(3)Mae person yn atebol am gyfrannu os yw’n oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

(4)Nid yw person yn atebol am gyfrannu yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’n cael budd-dal sy’n dod o fewn categori a bennir mewn rheoliadau.

(5)Yn is-baragraff (4) mae “budd-dal” yn cynnwys unrhyw lwfans, taliad, credyd neu fenthyciad.

(6)Nid yw person yn atebol am gyfrannu tuag at gynhaliaeth plentyn y mae awdurdod lleol yn gofalu amdano mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod y mae’r plentyn yn byw gydag un o rieni’r plentyn o dan drefniadau a wneir gan yr awdurdod yn unol ag adran 81.

(7)Nid oes rhaid i gyfrannwr wneud unrhyw gyfraniad tuag at gynhaliaeth plentyn ac eithrio fel a gytunir neu a ddyfernir yn unol â’r Atodlen hon.

(8)Yr achosion yw’r rhai lle y mae awdurdod lleol yn gofalu am blentyn o dan—

(a)adran 76;

(b)gorchymyn gofal interim o dan Ddeddf Plant 1989;

(c)adran 92 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000.

Cyfraniadau y cytunwyd arnynt

2(1)Ni chaniateir i gyfraniadau tuag at gynhaliaeth plentyn gael eu hadennill ond os yw’r awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad (“hysbysiad cyfrannu”) i’r cyfrannwr yn pennu—

(a)y swm wythnosol y mae’n barnu y dylid ei gyfrannu, a

(b)trefniadau ar gyfer talu.

(2)Rhaid i’r hysbysiad cyfrannu fod yn ysgrifenedig ac wedi ei ddyddio.

(3)Rhaid i’r trefniadau ar gyfer talu gynnwys, yn benodol—

(a)y dyddiad y mae atebolrwydd am gyfrannu’n dechrau (y mae’n rhaid i’r dyddiad beidio â bod yn gynharach na dyddiad yr hysbysiad),

(b)y dyddiad y bydd atebolrwydd o dan yr hysbysiad yn dod i ben (os nad yw’r plentyn, cyn y dyddiad hwnnw, wedi peidio â bod yn un sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod), ac

(c)y dyddiad pryd y mae’r taliad cyntaf i’w wneud.

(4)Caiff yr awdurdod bennu, mewn hysbysiad cyfrannu, swm wythnosol sy’n gyfraniad safonol a ddyfernir gan yr awdurdod ar gyfer yr holl blant y mae’n gofalu amdanynt.

(5)Ni chaiff awdurdod bennu, mewn hysbysiad cyfrannu, swm wythnosol sy’n uwch na’r hyn y mae’n barnu—

(a)y byddai fel arfer yn barod i’w dalu pe bai wedi lleoli plentyn tebyg gyda rhieni maeth awdurdod lleol, a

(b)ei bod yn rhesymol ymarferol i’r cyfrannwr dalu (gan roi sylw i’w foddion byw).

(6)Caiff awdurdod dynnu hysbysiad cyfrannu yn ôl ar unrhyw bryd (heb effeithio ar ei bŵer i gyflwyno un arall).

(7)Pan fo’r awdurdod a’r cyfrannwr yn cytuno ar—

(a)y swm y mae’r cyfrannwr i’w gyfrannu, a

(b)trefniadau ar gyfer talu,

(p’un ai fel a bennir yn yr hysbysiad cyfrannu neu fel arall) a bod y cyfrannwr yn hysbysu’r awdurdod yn ysgrifenedig ei fod yn cytuno â hynny, caiff yr awdurdod adennill yn ddiannod, fel dyled sifil, unrhyw gyfraniad sy’n orddyledus a heb ei dalu.

(8)Nid yw is-baragraff (7) yn effeithio ar unrhyw ddull arall o adennill costau.

(9)Caiff cyfrannwr, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod, dynnu ei gytundeb yn ôl mewn perthynas ag unrhyw gyfnod atebolrwydd sy’n dod ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad.

Gorchmynion cyfraniadau

3(1)Pan fo hysbysiad cyfrannu wedi ei gyflwyno i gyfrannwr a bod—

(a)y cyfrannwr wedi methu â dod i unrhyw gytundeb gyda’r awdurdod lleol fel a grybwyllwyd ym mharagraff 2(7) o fewn cyfnod o fis sy’n dechrau ar y diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad am gyfraniadau, neu

(b)y cyfrannwr wedi cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 2(9) yn tynnu ei gytundeb yn ôl,

caiff yr awdurdod wneud cais i’r llys am orchymyn o dan y paragraff hwn.

(2)Wrth gael cais o’r fath caiff y llys wneud gorchymyn (“gorchymyn cyfrannu”) yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyfrannwr gyfrannu swm wythnosol tuag at gynhaliaeth y plentyn yn unol â threfniadau ar gyfer talu a bennir gan y llys.

(3)O ran gorchymyn cyfrannu—

(a)ni chaiff bennu swm wythnosol sy’n uwch na’r hyn a bennir yn yr hysbysiad cyfrannu, a

(b)rhaid ei wneud gan roi sylw i foddion byw y cyfrannwr.

(4)Ni chaiff gorchymyn cyfrannu—

(a)dod yn effeithiol cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad cyfrannu,

(b)cael effaith tra na bo’r cyfrannwr yn atebol am gyfrannu (yn rhinwedd paragraff 1), nac

(c)aros mewn grym ar ôl i’r plentyn beidio mwyach â bod yn un sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod a sicrhaodd y gorchymyn.

(5)Ni chaiff awdurdod wneud cais i’r llys o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â hysbysiad cyfrannu y mae wedi ei dynnu yn ôl.

(6)Pan fo—

(a)gorchymyn cyfrannu mewn grym,

(b)yr awdurdod yn cyflwyno hysbysiad cyfrannu arall, ac

(c)y cyfrannwr a’r awdurdod yn dod i gytundeb o dan baragraff 2(7) mewn perthynas â’r hysbysiad cyfrannu arall hwnnw,

effaith y cytundeb yw disodli’r gorchymyn o’r dyddiad y cytunir bod y cytundeb i ddod yn effeithiol.

(7)Pan ddeuir i gytundeb yn yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (6) rhaid i’r awdurdod hysbysu’r llys—

(a)am y cytundeb, a

(b)am y dyddiad y daeth yn effeithiol.

(8)Caniateir i orchymyn cyfrannu gael ei amrywio neu ei ddirymu ar gais y cyfrannwr neu’r awdurdod.

(9)Mewn achos cyfreithiol ar gyfer amrywio gorchymyn cyfrannu, rhaid i’r awdurdod bennu—

(a)y swm wythnosol, gan roi sylw i baragraff 2, y mae’n bwriadu y dylai’r cyfrannwr ei gyfrannu o dan y gorchymyn fel y bydd yn cael ei amrywio, a

(b)y trefniadau arfaethedig ar gyfer talu.

(10)Pan fo gorchymyn cyfrannu wedi ei amrywio—

(a)ni chaiff y gorchymyn bennu swm wythnosol sy’n uwch na’r un a bennwyd gan yr awdurdod yn yr achos cyfreithiol ar gyfer ei amrywio, a

(b)rhaid i’r gorchymyn gael ei wneud gan roi sylw i foddion byw y cyfrannwr.

(11)Ceir gwneud apêl yn unol â rheolau’r llys yn erbyn unrhyw orchymyn a wneir o dan y paragraff hwn.

Gorfodi gorchmynion cyfraniadau etc

4(1)Mae gorchymyn cyfrannu a wneir gan lys ynadon yn orfodadwy fel gorchymyn cynhaliaeth llys ynadon (o fewn ystyr “magistrates’ court maintenance order” yn adran 150(1) o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980).

(2)Mae is-baragraff (1) yn peidio â chael effaith ar y diwrnod y daw paragraff 120 o Atodlen 11 i Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 i rym.

(3)Pan fo cyfrannwr wedi cytuno, neu wedi cael ei orchymyn, i wneud cyfraniadau i awdurdod lleol, caiff unrhyw awdurdod lleol arall y mae’r cyfrannwr yn byw yn ei ardal am y tro—

(a)ar gais yr awdurdod lleol a gyflwynodd yr hysbysiad cyfrannu, a

(b)yn ddarostyngedig i gytundeb ynghylch unrhyw swm sydd i’w ddidynnu mewn cysylltiad â’r gwasanaethau a ddarparwyd,

gasglu oddi wrth y cyfrannwr unrhyw gyfraniadau sy’n ddyledus ar ran yr awdurdod a gyflwynodd yr hysbysiad.

(4)Mae’r pŵer i gasglu symiau o dan is-baragraff (3) yn cynnwys pŵer i—

(a)cael unrhyw gyfraniadau sy’n ddyledus a rhoi rhyddhad rhag eu talu, a

(b)(os yw’n angenrheidiol) gorfodi unrhyw gyfraniadau i gael eu talu,

er ei bod yn bosibl bod y cyfraniadau hynny wedi dod yn ddyledus ar adeg pan roedd y cyfrannwr yn byw yn rhywle arall.

(5)Mae unrhyw gyfraniad a gesglir o dan is-baragraff (3) i’w dalu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddidyniad y cytunwyd arno) i’r awdurdod lleol a gyflwynodd yr hysbysiad cyfraniadau.

(6)Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y paragraff hwn, mae dogfen—

(a)sy’n honni ei bod yn gopi o orchymyn a wnaed gan lys o dan neu yn rhinwedd paragraff 3, a

(b)sy’n honni ei bod wedi ei hardystio’n wir gopi gan y swyddog dynodedig i’r llys,

i’w derbyn fel tystiolaeth o’r gorchymyn.

(7)Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y paragraff hwn, mae tystysgrif—

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan y clerc neu gan ryw swyddog arall a awdurdodwyd yn briodol a hwnnw’n swyddog i’r awdurdod lleol a sicrhaodd y gorchymyn cyfrannu, a

(c)sy’n nodi bod unrhyw swm sy’n ddyledus i’r awdurdod o dan y gorchymyn yn orddyledus a heb ei dalu,

i’w derbyn fel tystiolaeth bod y swm yn orddyledus a heb ei dalu.

Rheoliadau

5Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer—

(a)yr ystyriaethau y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu hystyried wrth benderfynu—

(i)a yw’n rhesymol adennill cyfraniadau, a

(ii)yr hyn y dylai’r trefniadau ar gyfer talu fod;

(b)y gweithdrefnau y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu dilyn wrth ddod i gytundeb â’r canlynol—

(i)cyfranwyr (o dan baragraffau 2 a 3), a

(ii)unrhyw awdurdod lleol arall (o dan baragraff 4).

Cyflwyno hysbysiad cyfrannu

6(1)Caniateir i hysbysiad cyfrannu y mae’n ofynnol ei gyflwyno i gyfrannwr o dan yr Atodlen hon gael ei gyflwyno i’r cyfrannwr—

(a)drwy ei ddosbarthu’n bersonol i’r cyfrannwr, neu

(b)drwy ei anfon at y cyfrannwr—

(i)drwy wasanaeth post cofrestredig (fel y diffinnir “registered post service” gan adran 125(1) o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000), neu

(ii)drwy wasanaeth post sy’n darparu i ddosbarthiad y ddogfen gael ei gofnodi.

(2)At ddibenion adran 7 o Ddeddf Ddehongli 1978 o ran ei chymhwyso i’r paragraff hwn, cyfeiriad priodol cyfrannwr yw cyfeiriad hysbys diwethaf y cyfrannwr.