ATODLEN 1CYFRANIADAU TUAG AT GYNHALIAETH PLANT SY’N DERBYN GOFAL

(a gyflwynwyd gan adran 85)

1Atebolrwydd am gyfrannu

1

Pan fo awdurdod lleol yn gofalu am blentyn (mewn achosion ar wahân i’r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (8)) rhaid iddo ystyried a ddylai adennill cyfraniadau tuag at gynhaliaeth y plentyn gan unrhyw berson sy’n atebol am gyfrannu (“cyfrannwr”).

2

Dim ond pan fo awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn rhesymol y caniateir iddo adennill cyfraniadau gan gyfrannwr.

3

Mae person yn atebol am gyfrannu os yw’n oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

4

Nid yw person yn atebol am gyfrannu yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’n cael budd-dal sy’n dod o fewn categori a bennir mewn rheoliadau.

5

Yn is-baragraff (4) mae “budd-dal” yn cynnwys unrhyw lwfans, taliad, credyd neu fenthyciad.

6

Nid yw person yn atebol am gyfrannu tuag at gynhaliaeth plentyn y mae awdurdod lleol yn gofalu amdano mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod y mae’r plentyn yn byw gydag un o rieni’r plentyn o dan drefniadau a wneir gan yr awdurdod yn unol ag adran 81.

7

Nid oes rhaid i gyfrannwr wneud unrhyw gyfraniad tuag at gynhaliaeth plentyn ac eithrio fel a gytunir neu a ddyfernir yn unol â’r Atodlen hon.

8

Yr achosion yw’r rhai lle y mae awdurdod lleol yn gofalu am blentyn o dan—

a

adran 76;

b

gorchymyn gofal interim o dan Ddeddf Plant 1989;

c

adran 92 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000.

2Cyfraniadau y cytunwyd arnynt

1

Ni chaniateir i gyfraniadau tuag at gynhaliaeth plentyn gael eu hadennill ond os yw’r awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad (“hysbysiad cyfrannu”) i’r cyfrannwr yn pennu—

a

y swm wythnosol y mae’n barnu y dylid ei gyfrannu, a

b

trefniadau ar gyfer talu.

2

Rhaid i’r hysbysiad cyfrannu fod yn ysgrifenedig ac wedi ei ddyddio.

3

Rhaid i’r trefniadau ar gyfer talu gynnwys, yn benodol—

a

y dyddiad y mae atebolrwydd am gyfrannu’n dechrau (y mae’n rhaid i’r dyddiad beidio â bod yn gynharach na dyddiad yr hysbysiad),

b

y dyddiad y bydd atebolrwydd o dan yr hysbysiad yn dod i ben (os nad yw’r plentyn, cyn y dyddiad hwnnw, wedi peidio â bod yn un sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod), ac

c

y dyddiad pryd y mae’r taliad cyntaf i’w wneud.

4

Caiff yr awdurdod bennu, mewn hysbysiad cyfrannu, swm wythnosol sy’n gyfraniad safonol a ddyfernir gan yr awdurdod ar gyfer yr holl blant y mae’n gofalu amdanynt.

5

Ni chaiff awdurdod bennu, mewn hysbysiad cyfrannu, swm wythnosol sy’n uwch na’r hyn y mae’n barnu—

a

y byddai fel arfer yn barod i’w dalu pe bai wedi lleoli plentyn tebyg gyda rhieni maeth awdurdod lleol, a

b

ei bod yn rhesymol ymarferol i’r cyfrannwr dalu (gan roi sylw i’w foddion byw).

6

Caiff awdurdod dynnu hysbysiad cyfrannu yn ôl ar unrhyw bryd (heb effeithio ar ei bŵer i gyflwyno un arall).

7

Pan fo’r awdurdod a’r cyfrannwr yn cytuno ar—

a

y swm y mae’r cyfrannwr i’w gyfrannu, a

b

trefniadau ar gyfer talu,

(p’un ai fel a bennir yn yr hysbysiad cyfrannu neu fel arall) a bod y cyfrannwr yn hysbysu’r awdurdod yn ysgrifenedig ei fod yn cytuno â hynny, caiff yr awdurdod adennill yn ddiannod, fel dyled sifil, unrhyw gyfraniad sy’n orddyledus a heb ei dalu.

8

Nid yw is-baragraff (7) yn effeithio ar unrhyw ddull arall o adennill costau.

9

Caiff cyfrannwr, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod, dynnu ei gytundeb yn ôl mewn perthynas ag unrhyw gyfnod atebolrwydd sy’n dod ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad.

3Gorchmynion cyfraniadau

1

Pan fo hysbysiad cyfrannu wedi ei gyflwyno i gyfrannwr a bod—

a

y cyfrannwr wedi methu â dod i unrhyw gytundeb gyda’r awdurdod lleol fel a grybwyllwyd ym mharagraff 2(7) o fewn cyfnod o fis sy’n dechrau ar y diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad am gyfraniadau, neu

b

y cyfrannwr wedi cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 2(9) yn tynnu ei gytundeb yn ôl,

caiff yr awdurdod wneud cais i’r llys am orchymyn o dan y paragraff hwn.

2

Wrth gael cais o’r fath caiff y llys wneud gorchymyn (“gorchymyn cyfrannu”) yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyfrannwr gyfrannu swm wythnosol tuag at gynhaliaeth y plentyn yn unol â threfniadau ar gyfer talu a bennir gan y llys.

3

O ran gorchymyn cyfrannu—

a

ni chaiff bennu swm wythnosol sy’n uwch na’r hyn a bennir yn yr hysbysiad cyfrannu, a

b

rhaid ei wneud gan roi sylw i foddion byw y cyfrannwr.

4

Ni chaiff gorchymyn cyfrannu—

a

dod yn effeithiol cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad cyfrannu,

b

cael effaith tra na bo’r cyfrannwr yn atebol am gyfrannu (yn rhinwedd paragraff 1), nac

c

aros mewn grym ar ôl i’r plentyn beidio mwyach â bod yn un sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod a sicrhaodd y gorchymyn.

5

Ni chaiff awdurdod wneud cais i’r llys o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â hysbysiad cyfrannu y mae wedi ei dynnu yn ôl.

6

Pan fo—

a

gorchymyn cyfrannu mewn grym,

b

yr awdurdod yn cyflwyno hysbysiad cyfrannu arall, ac

c

y cyfrannwr a’r awdurdod yn dod i gytundeb o dan baragraff 2(7) mewn perthynas â’r hysbysiad cyfrannu arall hwnnw,

effaith y cytundeb yw disodli’r gorchymyn o’r dyddiad y cytunir bod y cytundeb i ddod yn effeithiol.

7

Pan ddeuir i gytundeb yn yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (6) rhaid i’r awdurdod hysbysu’r llys—

a

am y cytundeb, a

b

am y dyddiad y daeth yn effeithiol.

8

Caniateir i orchymyn cyfrannu gael ei amrywio neu ei ddirymu ar gais y cyfrannwr neu’r awdurdod.

9

Mewn achos cyfreithiol ar gyfer amrywio gorchymyn cyfrannu, rhaid i’r awdurdod bennu—

a

y swm wythnosol, gan roi sylw i baragraff 2, y mae’n bwriadu y dylai’r cyfrannwr ei gyfrannu o dan y gorchymyn fel y bydd yn cael ei amrywio, a

b

y trefniadau arfaethedig ar gyfer talu.

10

Pan fo gorchymyn cyfrannu wedi ei amrywio—

a

ni chaiff y gorchymyn bennu swm wythnosol sy’n uwch na’r un a bennwyd gan yr awdurdod yn yr achos cyfreithiol ar gyfer ei amrywio, a

b

rhaid i’r gorchymyn gael ei wneud gan roi sylw i foddion byw y cyfrannwr.

11

Ceir gwneud apêl yn unol â rheolau’r llys yn erbyn unrhyw orchymyn a wneir o dan y paragraff hwn.

4Gorfodi gorchmynion cyfraniadau etc

1

Mae gorchymyn cyfrannu a wneir gan lys ynadon yn orfodadwy fel gorchymyn cynhaliaeth llys ynadon (o fewn ystyr “magistrates’ court maintenance order” yn adran 150(1) o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980).

2

Mae is-baragraff (1) yn peidio â chael effaith ar y diwrnod y daw paragraff 120 o Atodlen 11 i Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 i rym.

3

Pan fo cyfrannwr wedi cytuno, neu wedi cael ei orchymyn, i wneud cyfraniadau i awdurdod lleol, caiff unrhyw awdurdod lleol arall y mae’r cyfrannwr yn byw yn ei ardal am y tro—

a

ar gais yr awdurdod lleol a gyflwynodd yr hysbysiad cyfrannu, a

b

yn ddarostyngedig i gytundeb ynghylch unrhyw swm sydd i’w ddidynnu mewn cysylltiad â’r gwasanaethau a ddarparwyd,

gasglu oddi wrth y cyfrannwr unrhyw gyfraniadau sy’n ddyledus ar ran yr awdurdod a gyflwynodd yr hysbysiad.

4

Mae’r pŵer i gasglu symiau o dan is-baragraff (3) yn cynnwys pŵer i—

a

cael unrhyw gyfraniadau sy’n ddyledus a rhoi rhyddhad rhag eu talu, a

b

(os yw’n angenrheidiol) gorfodi unrhyw gyfraniadau i gael eu talu,

er ei bod yn bosibl bod y cyfraniadau hynny wedi dod yn ddyledus ar adeg pan roedd y cyfrannwr yn byw yn rhywle arall.

5

Mae unrhyw gyfraniad a gesglir o dan is-baragraff (3) i’w dalu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddidyniad y cytunwyd arno) i’r awdurdod lleol a gyflwynodd yr hysbysiad cyfraniadau.

6

Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y paragraff hwn, mae dogfen—

a

sy’n honni ei bod yn gopi o orchymyn a wnaed gan lys o dan neu yn rhinwedd paragraff 3, a

b

sy’n honni ei bod wedi ei hardystio’n wir gopi gan y swyddog dynodedig i’r llys,

i’w derbyn fel tystiolaeth o’r gorchymyn.

7

Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y paragraff hwn, mae tystysgrif—

a

sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan y clerc neu gan ryw swyddog arall a awdurdodwyd yn briodol a hwnnw’n swyddog i’r awdurdod lleol a sicrhaodd y gorchymyn cyfrannu, a

c

sy’n nodi bod unrhyw swm sy’n ddyledus i’r awdurdod o dan y gorchymyn yn orddyledus a heb ei dalu,

i’w derbyn fel tystiolaeth bod y swm yn orddyledus a heb ei dalu.

5Rheoliadau

Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer—

a

yr ystyriaethau y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu hystyried wrth benderfynu—

i

a yw’n rhesymol adennill cyfraniadau, a

ii

yr hyn y dylai’r trefniadau ar gyfer talu fod;

b

y gweithdrefnau y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu dilyn wrth ddod i gytundeb â’r canlynol—

i

cyfranwyr (o dan baragraffau 2 a 3), a

ii

unrhyw awdurdod lleol arall (o dan baragraff 4).

6Cyflwyno hysbysiad cyfrannu

1

Caniateir i hysbysiad cyfrannu y mae’n ofynnol ei gyflwyno i gyfrannwr o dan yr Atodlen hon gael ei gyflwyno i’r cyfrannwr—

a

drwy ei ddosbarthu’n bersonol i’r cyfrannwr, neu

b

drwy ei anfon at y cyfrannwr—

i

drwy wasanaeth post cofrestredig (fel y diffinnir “registered post service” gan adran 125(1) o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000), neu

ii

drwy wasanaeth post sy’n darparu i ddosbarthiad y ddogfen gael ei gofnodi.

2

At ddibenion adran 7 o Ddeddf Ddehongli 1978 o ran ei chymhwyso i’r paragraff hwn, cyfeiriad priodol cyfrannwr yw cyfeiriad hysbys diwethaf y cyfrannwr.