RHAN 6LL+CPLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Plant sy’n cael eu lletya mewn sefydliadau penodolLL+C

120Asesu plant y mae llety’n cael ei ddarparu iddynt gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysgLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo llety’n cael ei ddarparu i blentyn yng Nghymru gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu awdurdod lleol wrth arfer swyddogaethau addysg (“yr awdurdod lletya”)—

(a)am gyfnod olynol o 3 mis o leiaf, neu

(b)gyda’r bwriad, ar ran yr awdurdod, o letya’r plentyn am y cyfnod hwnnw.

(2)Rhaid i’r awdurdod lletya hysbysu swyddog priodol yr awdurdod cyfrifol—

(a)ei fod yn lletya’r plentyn, a

(b)pan fo’n rhoi’r gorau i letya’r plentyn.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “yr awdurdod cyfrifol” ac “yr awdurdod sy’n gyfrifol” yw—

(a)yr awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr y mae’n ymddangos i’r awdurdod lletya mai’r awdurdod hwnnw yw’r un lle yr oedd y plentyn yn preswylio fel arfer yn union cyn iddo gael ei letya, neu

(b)pan fo’n ymddangos i’r awdurdod lletya nad oedd plentyn yn preswylio fel arfer o fewn ardal unrhyw awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi.

(4)Yn yr adran hon ac yn adrannau 121 a 122 ystyr “swyddog priodol” yw—

(a)mewn perthynas ag awdurdod lleol, ei gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, a

(b)mewn perthynas ag awdurdod lleol yn Lloegr, ei gyfarwyddwr gwasanaethau plant.

(5)Pan fo swyddog priodol awdurdod lleol wedi ei hysbysu o dan yr adran hon [F1, neu o dan adran 85 o Ddeddf Plant 1989 (asesu plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg)], rhaid i’r awdurdod—

(a)asesu’r plentyn o dan adran 21, a

(b)ystyried i ba raddau (os o gwbl) y dylai arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf hon, neu unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau o dan Ddeddf Plant 1989, mewn cysylltiad â’r plentyn.

(6)Nid yw’r ddyletswydd o dan is-adran (5)(a) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal gan—

(a)awdurdod lleol,

(b)awdurdod lleol yn Lloegr,

(c)awdurdod lleol yn yr Alban, neu

(d)ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 120 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 120 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

121Asesu plant sy’n cael eu lletya mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnolLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo llety’n cael ei ddarparu i blentyn yng Nghymru mewn unrhyw gartref gofal neu ysbyty annibynnol—

(a)am gyfnod olynol o dri mis o leiaf, neu

(b)gyda’r bwriad, ar ran y person sy’n gwneud y penderfyniad i letya’r plentyn, o letya’r plentyn am y cyfnod hwnnw.

(2)Rhaid i’r person sy’n rhedeg y sefydliad o dan sylw hysbysu swyddog priodol yr awdurdod lleol y mae’r sefydliad yn cael ei redeg yn ei ardal—

(a)ei fod yn lletya’r plentyn, a

(b)pan fo’n rhoi’r gorau i letya’r plentyn.

(3)Pan fo swyddog priodol awdurdod lleol wedi ei hysbysu o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod—

(a)asesu’r plentyn o dan adran 21, a

(b)ystyried i ba raddau (os o gwbl) y dylai arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf hon, neu unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau o dan Ddeddf Plant 1989, mewn cysylltiad â’r plentyn.

(4)Nid yw’r ddyletswydd o dan is-adran (3)(a) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal gan—

(a)awdurdod lleol,

(b)awdurdod lleol yn Lloegr,

(c)awdurdod lleol yn yr Alban, neu

(d)ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

(5)Os yw person sy’n rhedeg cartref gofal neu ysbyty annibynnol yn methu, heb reswm resymol, â chydymffurfio â’r adran hon, bydd yn euog o drosedd.

(6)Caiff person sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod lleol gael mynediad i gartref gofal neu ysbyty annibynnol o fewn ardal yr awdurdod at ddiben pennu a ydynt wedi cydymffurfio â gofynion yr adran hon.

(7)Rhaid i berson sy’n arfer pŵer mynediad, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen wedi ei dilysu’n briodol sy’n dangos bod ganddo awdurdodiad i wneud hynny.

(8)Mae unrhyw berson sy’n fwriadol yn rhwystro person sy’n arfer pŵer mynediad yn euog o drosedd.

(9)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan yr adran hon yn atebol ar gollfarn diannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

122Ymwelwyr â phlant yr hysbysir awdurdod lleol amdanynt F2...LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw swyddog priodol i awdurdod lleol—

(a)wedi ei hysbysu mewn cysylltiad â phlentyn o dan adran 120(2)(a) neu 121(2)(a), [F3neu o dan adran 85(1) o Ddeddf Plant 1989 (plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg lleol),] a

(b)heb ei hysbysu mewn cysylltiad â’r plentyn hwnnw o dan adran 120(2)(b) neu adran 121(2)(b) [F4, neu o dan adran 85(2) o Ddeddf Plant 1989].

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau a wneir o dan yr adran hon, wneud trefniadau er mwyn i gynrychiolydd yr awdurdod (“cynrychiolydd”) fynd i ymweld â’r plentyn.

(3)Dyletswydd cynrychiolydd yw rhoi cyngor a chymorth i’r awdurdod lleol ynghylch y modd y mae’r awdurdod yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â’r plentyn.

(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch—

(a)amlder yr ymweliadau o dan drefniadau ymweld;

(b)amgylchiadau y mae’n rhaid i drefniadau ymweld odanynt ei gwneud yn ofynnol bod rhywun yn ymweld â’r plentyn;

(c)swyddogaethau ychwanegol cynrychiolydd.

(5)Wrth ddewis cynrychiolydd, rhaid i awdurdod lleol fodloni ei hun fod gan y person dewisol y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i gyflawni swyddogaethau cynrychiolydd.

(6)Yn yr adran hon ystyr “trefniadau ymweld” yw’r trefniadau a wneir o dan is-adran (2).

123Gwasanaethau i blant yr hysbysir awdurdod lleol amdanynt F5...LL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu unrhyw wasanaethau y mae’n barnu eu bod yn briodol i blant y mae’n cael hysbysiad amdanynt o dan adran 120 neu 121 [F6, neu o dan adran 85 o Ddeddf Plant 1989 (plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg lleol)].

(2)Rhaid i’r gwasanaethau a ddarperir o dan yr adran hon gael eu darparu gyda golwg ar hyrwyddo cyswllt rhwng pob plentyn y mae’r awdurdod lleol yn cael hysbysiad amdano a theulu’r plentyn.

(3)Caiff y gwasanaethau gynnwys unrhyw beth y gall yr awdurdod ei ddarparu neu ei drefnu o dan Ran 4.

(4)Nid oes dim yn yr adran hon sy’n effeithio ar y ddyletswydd a osodwyd gan adran 39.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 123 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I8A. 123 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)