RHAN 6LL+CPLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Dyletswyddau lletyaLL+C

75Dyletswydd gyffredinol awdurdod lleol i sicrhau digon o lety i blant sy’n derbyn gofalLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol gymryd camau sy’n sicrhau, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, ei fod yn gallu darparu i’r plant a grybwyllir yn is-adran (2) lety sydd—

(a)o fewn ardal yr awdurdod, a

(b)yn diwallu anghenion y plant hynny.

(2)Y plant y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yw’r rhai—

(a)y mae’r awdurdod lleol yn gofalu amdanynt,

(b)nad yw’r awdurdod yn gallu gwneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy o dan adran 81(2), ac

(c)y mae natur eu hamgylchiadau yn golygu y byddai’n gyson â llesiant y plant i lety sydd yn ardal yr awdurdod gael ei ddarparu iddynt.

(3)Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1), rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i fantais cael—

(a)nifer o ddarparwyr llety yn ei ardal sydd, ym marn yr awdurdod, yn ddigon iddo gyflawni ei ddyletswydd, a

(b)ystod o lety yn ei ardal a allai ddiwallu anghenion gwahanol ac sydd, ym marn yr awdurdod, yn ddigon iddo gyflawni ei ddyletswydd.

(4)Yn yr adran hon ystyr “darparwyr llety” yw—

(a)rhieni maeth awdurdod lleol, a

(b)cartrefi plant.

76Llety i blant sydd heb rieni, neu blant sydd ar goll neu sydd wedi eu gadael etcLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety i unrhyw blentyn yn ei ardal yr ymddengys i’r awdurdod bod angen llety arno oherwydd—

(a)nad oes unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,

(b)bod y plentyn ar goll neu wedi cael ei adael, neu

(c)bod y person sydd wedi bod yn gofalu am y plentyn yn cael ei atal (p’un ai yn barhaol ai peidio, ac am ba reswm bynnag) rhag darparu llety neu ofal addas i’r plentyn.

(2)Pan fo awdurdod lleol yn darparu llety o dan is-adran (1) i blentyn sy’n preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol arall, caiff yr awdurdod lleol arall hwnnw gymryd drosodd y gwaith o ddarparu llety i’r plentyn o fewn—

(a)tri mis o gael ei hysbysu’n ysgrifenedig bod llety’n cael ei ddarparu i’r plentyn, neu

(b)unrhyw gyfnod hirach arall a bennir.

[F1(2A)Pan fo awdurdod lleol yn Lloegr yn darparu llety o dan adran 20(1) o Ddeddf Plant 1989 (darparu llety i blant: cyffredinol) i blentyn sy’n preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol yng Nghymru, caiff yr awdurdod lleol hwnnw yng Nghymru gymryd drosodd y gwaith o ddarparu llety i’r plentyn o fewn—

(a)tri mis o gael ei hysbysu’n ysgrifenedig fod llety’n cael ei ddarparu i’r plentyn, neu

(b)unrhyw gyfnod hirach arall a bennir.]

(3)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety i unrhyw blentyn yn ei ardal sydd wedi cyrraedd 16 oed ac y byddai llesiant y plentyn hwnnw, ym marn yr awdurdod, yn debygol o gael ei andwyo’n ddifrifol os na fyddai’r awdurdod yn darparu llety iddo.

(4)Ni chaniateir i awdurdod lleol ddarparu llety o dan yr adran hon i unrhyw blentyn os bydd unrhyw berson yn gwrthwynebu a hwnnw—

(a)yn berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, a

(b)yn fodlon ac yn gallu—

(i)darparu llety i’r plentyn, neu

(ii)trefnu bod llety yn cael ei ddarparu i’r plentyn.

(5)Caiff unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn symud y plentyn ar unrhyw adeg o lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol o dan yr adran hon.

(6)Nid yw is-adrannau (4) a (5) yn gymwys tra bo unrhyw berson—

(a)y mae [F2gorchymyn trefniadau plentyn] o’i blaid ef mewn grym mewn cysylltiad â’r plentyn,

(b)sy’n warcheidwad arbennig i’r plentyn, neu

(c)sydd â gofal am y plentyn yn rhinwedd gorchymyn a wnaed wrth arfer awdurdodaeth gynhenid yr Uchel Lys mewn cysylltiad â phlant,

yn cytuno bod y plentyn yn derbyn gofal mewn llety a ddarperir gan, neu ar ran, yr awdurdod lleol.

(7)Pan fo mwy nag un person o’r math a grybwyllwyd yn is-adran (6), rhaid i bob un ohonynt fod yn gytûn.

(8)Nid yw is-adrannau (4) a (5) yn gymwys pan fo plentyn sydd wedi cyrraedd 16 oed yn cytuno bod llety’n cael ei ddarparu iddo o dan yr adran hon.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 76 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I4A. 76 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

77Llety i blant sy’n cael eu hamddiffyn gan yr heddlu, neu sydd o dan gadwad neu ar remánd etcLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud darpariaeth ar gyfer derbyn a rhoi llety i blant sy’n cael eu symud o’u cartrefi neu sy’n cael eu cadw oddi yno o dan Ran 5 o Ddeddf Plant 1989.

(2)Rhaid i awdurdod lleol dderbyn plant, a darparu llety i blant—

(a)sy’n cael eu hamddiffyn gan yr heddlu ac y gofynnir iddo eu derbyn o dan adran 46(3)(f) o Ddeddf Plant 1989;

(b)y gofynnir iddo eu derbyn o dan adran 38(6) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984;

(c)os yr awdurdod lleol yw’r awdurdod dynodedig mewn cysylltiad â hwy a bod y plant hynny—

(i)wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd [F3paragraff 5 o Atodlen 4 neu baragraff 7 o Atodlen 5 i'r Cod Dedfrydu] (torri etc gorchmynion atgyfeirio a gorchmynion gwneud iawn);

(ii)wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd [F4paragraff 25 o Atodlen 7 i'r Cod hwnnw] (torri etc gorchmynion adsefydlu ieuenctid);

(iii)wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff 10 o’r Atodlen i Ddeddf Troseddau Stryd 1959 (torri gorchmynion o dan adran 1(2A) o’r Ddeddf honno);

(iv)yn destun gorchymyn adsefydlu ieuenctid sy’n gosod gofyniad preswylio awdurdod lleol neu yn destun gorchymyn adsefydlu ieuenctid â maethu.

[F5(3)Yn is-adran (2)—

  • mae i “gofyniad preswylio awdurdod lleol” (“local authority residence requirement”) yr ystyr a roddir gan baragraff 24 o Atodlen 6 i'r Cod Dedfrydu;

  • mae i “gorchymyn adsefydlu ieuenctid” (“youth rehabilitation order”) yr ystyr a roddir gan adran 173 o'r Cod hwnnw;

  • mae i “gorchymyn adsefydlu ieuenctid â maethu” (“youth rehabilitation order with fostering”) yr ystyr a roddir gan adran 176 o'r Cod hwnnw.”]

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys—

(a) pan fo plentyn—

(i)wedi ei symud o dan Ran 5 o Ddeddf Plant 1989, neu

(ii)wedi ei gadw’n gaeth o dan adran 38 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, a

(b)pan nad yw’r plentyn yn cael llety a ddarperir—

(i)gan awdurdod lleol [F6neu awdurdod lleol yn Lloegr], neu

(ii)mewn ysbyty a freiniwyd yng Ngweinidogion Cymru, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu’r Ysgrifennydd Gwladol, neu sydd fel arall wedi ei roi ar gael yn unol â threfniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, Gweinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, [F7GIG Lloegr] neu [F8fwrdd gofal integredig] .

(5)Gellir adennill unrhyw gostau rhesymol a dynnwyd wrth roi llety i’r plentyn oddi wrth yr awdurdod lleol [F9neu’r awdurdod lleol yn Lloegr] y mae’r plentyn yn preswylio fel arfer yn ei ardal.