Sefydliadau addysg bellach: llywodraethu

7Diddymu pŵer i reoleiddio cyrsiau addysg uwch yn y sector addysg bellach

Yn Neddf Addysg 2002, hepgorer adran 139 (pŵer i wneud rheoliadau sy’n gwahardd darparu cyrsiau addysg uwch gan sefydliadau o fewn y sector addysg bellach heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru a phenderfynu ar nifer y personau a gaiff ymgymryd â’r cyrsiau hynny yn y sefydliadau hynny).