4Mapiau rhwydwaith integredig
(1)Rhaid i bob awdurdod lleol—
(a)llunio map rhwydwaith integredig, a
(b)ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.
(2)At ddibenion y Ddeddf hon, ystyr “map rhwydwaith integredig”, mewn perthynas ag awdurdod lleol, yw map sy’n dangos—
(a)y llwybrau teithio llesol newydd a’r cyfleusterau cysylltiedig, a
(b)y gwelliannau i’r llwybrau teithio llesol presennol a’r cyfleusterau cysylltiedig,
y mae eu hangen ym marn yr awdurdod lleol i ddatblygu neu wella rhwydwaith integredig o lwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig mewn mannau dynodedig yn ei ardal.
(3)Wrth i awdurdod lleol baratoi ei fap rhwydwaith integredig rhaid iddo ymgynghori â’r canlynol—
(a)pob person sydd wedi gwneud cais i’r awdurdod lleol ymgynghori ag ef am ei fap llwybrau presennol, a
(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol.
(4)Wrth baratoi ei fap rhwydwaith integredig rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ddymunoldeb—
(a)hyrwyddo teithiau teithio llesol, a
(b)sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a’r cyfleusterau cysylltiedig a gwelliannau i’r llwybrau teithio llesol presennol a’r cyfleusterau cysylltiedig.
(5)Wrth i awdurdod lleol lunio ei fap rhwydwaith integredig rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o ran—
(a)yr ymgynghoriad a’r camau eraill sydd i’w cymryd wrth ei lunio,
(b)y cyfnod y mae i ymwneud ag ef,
(c)y materion sydd i’w dangos arno, a
(d)ei ffurf.
(6)Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ei fap rhwydwaith integredig i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo—
(a)cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y daw’r adran hon i rym, neu
(b)os yw Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd a roddir i’r awdurdod lleol yn pennu dyddiad ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw fel y dyddiad y mae rhaid ei gyflwyno iddynt, heb fod yn hwyrach na’r dyddiad hwnnw.
(7)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo map rhwydwaith integredig a gyflwynir iddynt gan awdurdod lleol o dan yr adran hon, cânt drwy gyfarwyddyd a roddir i’r awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol—
(a)ei ddiwygio (neu ei ddiwygio ymhellach), a
(b)ei gyflwyno iddynt i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.
(8)Wrth i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylent gymeradwyo map rhwydwaith integredig a gyflwynir iddynt gan awdurdod lleol o dan yr adran hon rhaid iddynt ystyried a yw’r awdurdod lleol wedi cydymffurfio ag is-adrannau (3) a (5) wrth ei lunio.
(9)Unwaith y bydd map rhwydwaith integredig a lunnir gan awdurdod lleol wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru—
(a)rhaid i’r awdurdod lleol ei adolygu’n barhaus,
(b)caiff yr awdurdod lleol ei ddiwygio, ac
(c)rhaid i’r awdurdod lleol ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo cyn diwedd pob cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y’i cymeradwywyd ganddynt ddiwethaf.
(10)Caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd a roddir i awdurdod lleol bennu cyfnod sy’n wahanol i’r cyfnod yn is-adran (9)(c) fel y cyfnod y mae rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno map rhwydwaith integredig i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo cyn ei ddiwedd.