RHAN 3AMDDIFFYN RHAG TROI ALLAN

I1I245Atodol

1

Mae pŵer y llys o dan adran 44 i atal gorfodi gorchymyn dros dro yn ymestyn i unrhyw orchymyn a wneir ond sydd heb ei weithredu cyn i’r Rhan hon gychwyn.

2

Nid oes dim yn y Rhan hon yn effeithio ar sut y mae adran 13 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 yn gweithredu.

3

Nid yw Deddf Amddiffyn rhag Troi Allan 1977 yn gymwys i unrhyw fangre sy’n gartref symudol a osodwyd ar safle gwarchodedig.