RHAN 2TRWYDDEDU SAFLEOEDD CARTREFI SYMUDOL ETC.

Cyflwyniad

4Trosolwg o’r Rhan

1

Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ynghylch trwyddedu safleoedd rheoleiddiedig a materion perthynol.

2

Yn y Rhan hon—

a

mae adrannau 5 i 8 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trwyddedau safle,

b

mae adrannau 9 i 25 yn gwneud darpariaeth ynghylch amodau trwyddedau safle,

c

mae adrannau 26 a 27 yn gwneud darpariaeth ynghylch dirymu ac ildio trwyddedau safle,

d

mae adrannau 28 a 29 yn ei gwneud yn ofynnol i reolwyr safleoedd fod yn bersonau addas a phriodol,

e

mae adrannau 30 a 31 yn gwneud darpariaeth ar gyfer penodi rheolwyr interim,

f

mae adrannau 32 a 33 yn cynnwys darpariaethau eraill ynglŷn â gorfodi, ac

g

mae adrannau 34 i 39 yn cynnwys darpariaethau amrywiol ac atodol.

Trwyddedau safle

5Gwahardd defnyddio tir fel safle rheoleiddiedig heb drwydded safle

1

Rhaid i berchennog safle rheoleiddiedig beidio ag achosi na chaniatáu i’r safle gael ei ddefnyddio fel safle rheoleiddiedig oni bai bod gan y perchennog drwydded o dan y Rhan hon ar gyfer y tir (“trwydded safle”).

2

Mae person sy’n mynd yn groes i is-adran (1) yn cyflawni trosedd.

3

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (2) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy.

6Gwneud cais am drwydded safle

1

Mae cais am ddyroddi trwydded safle ar gyfer unrhyw dir i’w wneud gan berchennog y tir i’r awdurdod lleol y mae’r tir wedi ei leoli yn ei ardal.

2

O ran cais o dan yr adran hon—

a

rhaid iddo bennu’r tir y gwneir y cais ar ei gyfer,

b

rhaid iddo enwi’r ymgeisydd,

c

os nad yr ymgeisydd fydd rheolwr y safle, rhaid iddo enwi’r person sydd am fod yn rheolwr ar y safle, a

d

rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw ofynion eraill a bennir gan yr awdurdod lleol.

3

Rhaid i ymgeisydd, naill ai ar adeg gwneud y cais neu wedyn, roi i’r awdurdod lleol unrhyw wybodaeth arall y mae’n rhesymol i’r awdurdod lleol ofyn amdani.

4

I gyd-fynd â’r cais rhaid cael datganiad gan yr ymgeisydd—

a

mewn achos lle nad yw’r ymgeisydd am fod yn rheolwr ar y safle, fod y person a enwir yn unol ag is-adran (2)(c), neu

b

mewn unrhyw achos arall, fod yr ymgeisydd,

yn berson addas a phriodol i reoli’r safle.

5

Caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i ffi a bennir gan yr awdurdod lleol gael ei hanfon ynghyd â’r cais am drwydded safle (gweler adran 36 ynglŷn â hyn).

7Dyroddi trwydded safle

1

Caiff awdurdod lleol ddyroddi trwydded safle ar gyfer tir os oes gan yr ymgeisydd, pan ddyroddir y drwydded safle, hawl i fanteisio ar ganiatâd cynllunio i ddefnyddio’r tir fel safle i gartrefi symudol heblaw drwy orchymyn datblygu.

2

Os oes gan yr ymgeisydd hawl i fanteisio ar ganiatâd cynllunio o’r fath ar y dyddiad y mae’r ymgeisydd yn rhoi’r wybodaeth y gofynnir amdani yn rhinwedd adran 6, caiff yr awdurdod lleol ddyroddi trwydded safle ar gyfer y tir o fewn 2 fis ar ôl y dyddiad hwnnw neu, os bydd yr ymgeisydd a’r awdurdod lleol yn cytuno mewn ysgrifen y caniateir cyfnod hirach i’r awdurdod lleol ddyroddi trwydded safle, o fewn y cyfnod y cytunir arno.

3

Os caiff yr ymgeisydd hawl i fanteisio ar ganiatâd cynllunio rywbryd ar ôl rhoi’r wybodaeth y gofynnir amdani yn rhinwedd adran 6, caiff yr awdurdod lleol ddyroddi trwydded safle ar gyfer y tir o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad y mae’r ymgeisydd yn cael yr hawl i fanteisio ar ganiatâd cynllunio neu, os bydd yr ymgeisydd a’r awdurdod lleol yn cytuno mewn ysgrifen y caniateir cyfnod hirach i’r awdurdod lleol ddyroddi trwydded safle, o fewn y cyfnod y cytunir arno.

4

Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu peidio â dyroddi trwydded safle o dan is-adran (2) neu (3)—

a

rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r ymgeisydd am y rhesymau dros y penderfyniad ac am hawl yr ymgeisydd i apelio o dan baragraff (b),

b

caiff yr ymgeisydd, o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y penderfyniad, apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn y penderfyniad, ac

c

ni chaniateir hawlio digollediad am golled a ddioddefir yn sgil y penderfyniad hyd nes y ceir canlyniad yr apêl.

5

Rhaid i awdurdod lleol beidio ar unrhyw adeg â dyroddi trwydded safle i berson y gŵyr yr awdurdod lleol ei fod wedi dal trwydded safle a ddirymwyd o dan adran 18 neu 28 lai na 3 blynedd cyn yr adeg honno.

6

Pan fo awdurdod lleol yn methu penderfynu ar gais am drwydded safle o fewn y cyfnod y mae’n ofynnol iddo wneud hynny, nid oes trosedd o dan adran 5 wedi ei gyflawni o ran y tir gan y person a wnaeth y cais am y drwydded safle ar unrhyw adeg ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw hyd nes bod penderfyniad ar y cais wedi ei wneud.

8Parhad trwydded safle

1

Daw trwydded safle’n weithredol ar yr adeg a bennir yn y drwydded safle neu odani ac, oni chaiff ei therfynu drwy gael ei dirymu, mae’n parhau mewn grym am y cyfnod a bennir yn y drwydded safle neu odani.

2

Rhaid i’r cyfnod hwnnw ddod i ben heb fod yn fwy na 5 mlynedd ar ôl y diwrnod y daw’r drwydded safle yn weithredol.

Amodau trwyddedau safle

9Pŵer i osod amodau ar drwydded safle

1

Caniateir i drwydded safle a ddyroddir gan awdurdod lleol ar gyfer unrhyw dir gael ei dyroddi o dan unrhyw amodau y mae’r awdurdod lleol o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol eu gosod ar berchennog y tir er lles—

a

personau sy’n byw ar y tir mewn cartrefi symudol,

b

unrhyw ddosbarth arall o bersonau, neu

c

y cyhoedd yn gyffredinol.

2

Mae’r amodau y caniateir i drwydded safle gael ei dyroddi yn unol â hwy yn cynnwys amodau (ond heb fod yn gyfyngedig i amodau)—

a

i gyfyngu’r achlysuron pan osodir cartrefi symudol ar y tir er mwyn i bobl fyw ynddynt, neu gyfanswm y cartrefi symudol a osodir ar y tir at y diben hwnnw ar unrhyw un adeg,

b

i reoli (boed drwy gyfeirio at eu maint, at eu cyflwr neu, yn ddarostyngedig i is-adran (3), at unrhyw nodwedd arall) y mathau o gartref symudol a osodir ar y tir,

c

i reoleiddio ym mha safleoedd y gosodir cartrefi symudol ar y tir er mwyn i bobl fyw (yn enwedig er mwyn lleihau risg o lifogydd ac erydu arfordirol) ac i wahardd, cyfyngu neu reoleiddio fel arall ar osod neu godi ar y tir, ar unrhyw adeg pan fo cartrefi symudol wedi eu gosod ar y tir at y diben hwnnw, strwythurau a cherbydau o unrhyw ddisgrifiad a phebyll,

d

i sicrhau y cymerir unrhyw gamau i gadw neu i wella amwynder y tir, gan gynnwys plannu ac ailblannu’r tir â choed a llwyni,

e

i sicrhau, ar bob adeg y bydd cartrefi symudol wedi eu gosod ar y tir, fod mesurau priodol yn cael eu cymryd i atal a chanfod tanau a bod dulliau digonol i ymladd tân yn cael eu darparu a’u cynnal,

f

i sicrhau, ar bob adeg y bydd cartrefi symudol wedi eu gosod ar y tir, fod mesurau priodol yn cael eu cymryd i warchod rhag risg o lifogydd ac erydu arfordirol ac i gyfathrebu unrhyw risg hysbys i lifogydd neu erydu arfordirol i berson sy’n byw ar y tir mewn cartrefi symudol,

g

i sicrhau bod cyfleusterau iechydol digonol, ac unrhyw gyfleusterau, gwasanaethau neu offer eraill a bennir, yn cael eu darparu i’w defnyddio gan bersonau sy’n byw ar y tir mewn cartrefi symudol a bod unrhyw gyfleusterau ac offer a ddarperir i’w defnyddio ganddynt yn cael eu cynnal yn briodol, ar bob adeg pan fo cartrefi symudol wedi eu gosod ar y tir er mwyn i bobl fyw ynddynt, ac

h

i’w gwneud yn ofynnol i ddatganiad gael ei wneud, os bydd y person sy’n rheoli’r safle yn newid, gan ddeiliad y drwydded safle i’r awdurdod lleol fod y rheolwr newydd yn berson addas a phriodol i reoli’r safle.

3

Ni chaniateir gosod amod sy’n rheoli’r mathau o gartrefi symudol a osodir ar y tir drwy gyfeirio at y deunyddiau a ddefnyddiwyd i’w hadeiladu.

4

Pan fo Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys i dir, ni chaniateir gosod amod mewn trwydded safle sy’n ymwneud â’r tir i’r graddau y mae’n ymwneud ag unrhyw fater y gosodwyd neu y gellid gosod gofynion neu waharddiadau mewn perthynas ag ef gan neu o dan y Gorchymyn hwnnw.

5

Rhaid i drwydded safle a ddyroddir ar gyfer unrhyw dir, oni bai ei bod wedi ei dyroddi o dan amod sy’n cyfyngu cyfanswm y cartrefi symudol y caniateir eu gosod ar y tir ar unrhyw un adeg i 3 neu lai, gynnwys amod bod rhaid i gopi o’r drwydded safle sydd am y tro mewn grym, ynghyd â chopïau o’r biliau cyfleustodau mwyaf diweddar sy’n ymwneud â’r safle ac o unrhyw dystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus sy’n ymwneud â’r safle, gael ei ddangos ar y tir mewn man amlwg bob amser y bydd cartrefi symudol wedi eu gosod ar y tir er mwyn i bobl fyw ynddynt.

6

Yn is-adran (5) ystyr “biliau cyfleustodau” yw biliau am ddarparu gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau tebyg eraill.

7

Caiff amod yn y drwydded safle, os yw’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei wneud ar y tir y dyroddir y drwydded safle ar ei gyfer, wahardd neu gyfyngu ar ddod â chartrefi symudol i’r tir er mwyn i bobl fyw ynddynt hyd nes bod yr awdurdod lleol wedi ardystio mewn ysgrifen fod y gwaith wedi ei orffen i’w foddhad.

8

Pan fo’r tir y mae’r drwydded safle’n ymwneud ag ef yn cael ei ddefnyddio ar y pryd fel safle i gartrefi symudol, caiff amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei wneud ar y tir, p’un a yw’n cynnwys unrhyw waharddiad neu gyfyngiad a grybwyllir yn is-adran (7) neu beidio, ei gwneud yn ofynnol i’r gwaith gael ei gwblhau er boddhad yr awdurdod lleol o fewn cyfnod a nodir.

9

Mae amod mewn trwydded safle yn ddilys hyd yn oed os nad oes modd cydymffurfio ag ef ond drwy wneud gwaith nad oes gan ddeiliad y drwydded safle hawl i’w wneud fel mater o hawl.

10Safonau enghreifftiol

1

Caiff Gweinidogion Cymru bennu at ddibenion adran 9 safonau enghreifftiol o ran cynllun safleoedd rheoleiddiedig neu fathau penodol o safleoedd rheoleiddiedig, ac o ran darparu cyfleusterau, gwasanaethau ac offer iddynt.

2

Wrth benderfynu pa amodau i’w gosod (os gosodir unrhyw amodau o gwbl) mewn trwydded safle, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw safonau enghreifftiol sydd wedi eu pennu.

3

Ni chaniateir pennu safonau enghreifftiol o ran tir y mae Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys iddo i’r graddau y mae’r safonau’n ymwneud ag unrhyw fater arall y gosodwyd neu y gellid gosod gofynion neu waharddiadau mewn perthynas ag ef gan neu o dan y Gorchymyn hwnnw.

4

Mae dyletswydd awdurdod lleol i roi sylw i safonau a bennir o dan yr adran hon i’w dehongli, o ran safonau sy’n ymwneud â rhagofalon tân, fel dyletswydd i roi sylw iddynt yn ddarostyngedig i unrhyw gyngor a roddir gan yr awdurdod tân ac achub o dan adran 11.

5

Yn yr adran hon ac yn adran 11 ystyr “rhagofalon tân” yw rhagofalon sydd i’w cymryd at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a bennir yn adran 9(2)(e).

11Rhagofalon tân

1

Rhaid i’r awdurdod lleol, wrth ystyried pa amodau i’w gosod mewn trwydded safle sy’n ymwneud ag unrhyw dir, ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub ynghylch i ba raddau y mae unrhyw safonau enghreifftiol sy’n ymwneud â rhagofalon tân sydd wedi eu pennu o dan adran 10 yn briodol i’r tir.

2

Os—

a

nad oes safonau o’r fath wedi eu pennu, neu

b

ei bod yn ymddangos i’r awdurdod tân ac achub fod unrhyw safon a bennwyd yn amhriodol i’r tir,

rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub ynghylch pa amodau sy’n ymwneud â rhagofalon tân a ddylai gael eu gosod.

3

Nid yw’r adran hon yn gymwys pan fo Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys i’r tir.

12Apelio yn erbyn amodau trwydded safle

1

Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu dyroddi trwydded safle yn ddarostyngedig i amodau (heblaw’r amod sy’n ofynnol gan adran 9(5)), rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r ymgeisydd am y rhesymau dros wneud hynny ac am hawl yr ymgeisydd i apelio o dan is-adran (2).

2

Caiff yr ymgeisydd, o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y penderfyniad, apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn y penderfyniad.

3

Caiff y tribiwnlys amrywio neu ddileu’r amod os yw wedi ei fodloni (ar ôl rhoi sylw, ymhlith pethau eraill, i unrhyw safonau a all fod wedi eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 10) fod yr amod yn amhriodol o feichus.

4

Mewn achos pan fo tribiwnlys eiddo preswyl yn amrywio neu’n dileu amod o dan is-adran (3), caiff osod amod newydd ar y drwydded safle hefyd.

5

I’r graddau y mae effaith amod y dyroddir trwydded safle yn ddarostyngedig iddo ar gyfer unrhyw dir yn arwain at ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei wneud ar y tir, nid yw’r amod yn effeithiol—

a

yn ystod y cyfnod pan fo gan y person y dyroddwyd y drwydded safle iddo hawl i apelio yn erbyn yr amod, na

b

tra bo apêl yn erbyn yr amod yn yr arfaeth.

13Pŵer awdurdod lleol i amrywio amodau trwydded safle

1

Caniateir i amodau trwydded safle gael eu hamrywio unrhyw bryd (boed drwy amrywio neu ddileu amodau presennol, drwy ychwanegu amodau newydd, neu drwy gyfuniad o unrhyw ddulliau o’r fath) gan yr awdurdod lleol—

a

os bydd deiliad y drwydded safle’n gwneud cais i’r awdurdod lleol wneud hynny, neu

b

os bydd yr awdurdod lleol yn canfod gwybodaeth newydd neu os yw o’r farn bod amgylchiadau wedi newid.

2

Cyn amrywio amodau trwydded safle o dan is-adran (1)(b), rhaid i’r awdurdod lleol roi cyfle i ddeiliad y drwydded safle gyflwyno sylwadau.

3

Pan fo Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys i’r tir y mae’r drwydded safle yn ymwneud ag ef, ni chaniateir ychwanegu amod newydd i’r drwydded safle o dan is-adran (1) i’r graddau y mae’n ymwneud ag unrhyw fater y gosodwyd neu y gellid gosod gofynion neu waharddiadau mewn perthynas ag ef gan neu o dan y Gorchymyn hwnnw.

4

Caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i ffi a bennir gan yr awdurdod lleol (gweler adran 36 ynglŷn â hyn) gael ei hanfon ynghyd â chais am amrywio amodau’r drwydded safle.

5

Nid yw amrywiad ar amodau trwydded safle gan awdurdod lleol i fod yn effeithiol hyd nes bod deiliad y drwydded safle wedi cael hysbysiad ysgrifenedig yn ei gylch.

6

Wrth arfer y pwerau a roddir gan is-adran (1), rhaid i awdurdod lleol roi sylw (ymhlith pethau eraill) i unrhyw safonau a all fod wedi eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 10.

7

Rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub cyn arfer y pwerau a roddir gan is-adran (1) o ran amod mewn trwydded safle a osodir at y dibenion a nodir yn adran 9(2)(e).

8

Nid yw is-adran (7) yn gymwys pan fo Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys i’r tir.

14Apelio yn erbyn amrywio amodau trwydded safle

1

Pan fo deiliad trwydded safle wedi ei dramgwyddo gan unrhyw amrywiad ar amodau’r drwydded safle o dan adran 13(1)(b) neu gan benderfyniad yr awdurdod lleol i wrthod cais am amrywio’r amodau hynny, caiff y deiliad, o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau drannoeth y diwrnod y cafodd y deiliad hysbysiad o’r newid neu o’r penderfyniad i wrthod, apelio at dribiwnlys eiddo preswyl.

2

Caiff y tribiwnlys, os yw’n caniatáu’r apêl, roi unrhyw gyfarwyddiadau i’r awdurdod lleol sy’n angenrheidiol i roi ei effaith i benderfyniad y tribiwnlys.

3

I’r graddau y bydd amrywiad ar drwydded safle yn gosod gofyniad ar ddeiliad y drwydded safle i wneud unrhyw waith ar y tir y mae’r drwydded safle yn ymwneud ag ef na fyddai’n ofynnol fel arall i ddeiliad y drwydded safle ei wneud, nid yw’r amrywiad i fod yn effeithiol yn ystod y cyfnod pan fo gan y deiliaid hawl i apelio yn erbyn yr amrywiad na thra bydd apêl yn erbyn yr amrywiad yn yr arfaeth.

4

Wrth arfer y pwerau a roddir gan is-adran (2) rhaid i dribiwnlys eiddo preswyl roi sylw ymhlith pethau eraill i unrhyw safonau a all fod wedi eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 10.

Torri amod

15Torri amod

1

Os yw’n ymddangos i awdurdod lleol sydd wedi dyroddi trwydded safle bod perchennog y tir yn methu neu wedi methu cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r drwydded safle, caiff yr awdurdod lleol roi i’r perchennog—

a

hysbysiad cosb benodedig, neu

b

hysbysiad cydymffurfio.

2

Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r awdurdodau lleol ynghylch yr ystyriaethau y dylent eu hystyried wrth benderfynu a ddylid ymdrin â methiant i gydymffurfio ag amod mewn trwydded safle drwy roi hysbysiad cosb benodedig ynteu hysbysiad cydymffurfio.

3

Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau o’r fath wrth wneud penderfyniad o’r fath.

4

Pan fo hysbysiad cosb benodedig yn cael ei roi i berson mewn perthynas â methiant ond nad yw’r swm a bennir ynddo yn cael ei dalu yn unol â’r hysbysiad, caiff yr awdurdod lleol dynnu’r hysbysiad cosb benodedig yn ôl a rhoi hysbysiad cydymffurfio i’r person mewn perthynas â’r methiant.

16Hysbysiad cosb benodedig

1

Mae hysbysiad cosb benodedig yn hysbysiad sydd—

a

yn nodi’r amodau o dan sylw a manylion y methiant i gydymffurfio ag ef,

b

yn ei gwneud yn ofynnol i berchennog y tir dalu swm penodedig i’r awdurdod lleol mewn cyfeiriad a bennir yn yr hysbysiad, ac

c

yn pennu ym mha gyfnod y mae’n rhaid i’r swm penodedig gael ei dalu.

2

Rhaid i’r swm a bennir mewn hysbysiad cosb benodedig a roddi ar unrhyw adeg beidio â bod yn fwy na’r swm a bennir ar yr adeg honno fel lefel 1 ar raddfa safonol troseddau diannod.

3

Heb ragfarnu taliad drwy unrhyw ddull arall, caniateir talu’r gosb benodedig drwy ei ragdalu a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) at yr awdurdod lleol yn y cyfeiriad a ddarperir yn yr hysbysiad; ac os felly ystyrir bod y taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw yn cael ei ddosbarthu yng nghwrs arferol y post.

17Hysbysiadau cydymffurfio

1

Mae hysbysiad cydymffurfio yn hysbysiad sydd—

a

yn nodi’r amod o dan sylw a manylion y methiant i gydymffurfio ag ef,

b

yn ei gwneud yn ofynnol i berchennog y tir gymryd unrhyw gamau sydd ym marn yr awdurdod lleol yn briodol ac a bennir yn yr hysbysiad er mwyn sicrhau y cydymffurfir â’r amod,

c

yn pennu ym mha gyfnod y mae’n rhaid i’r camau hynny gael eu cymryd, a

d

yn esbonio’r hawl i apelio a roddir gan is-adran (2).

2

Caiff perchennog tir y cyflwynwyd hysbysiad cydymffurfio iddo apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn yr hysbysiad hwnnw (gweler adran 23).

3

Caiff awdurdod lleol—

a

dirymu hysbysiad cydymffurfio, neu

b

amrywio hysbysiad cydymffurfio drwy estyn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad o dan is-adran (1)(c).

4

Mae’r pŵer i ddirymu neu i amrywio hysbysiad cydymffurfio yn arferadwy gan yr awdurdod lleol—

a

ar gais a wneir gan berchennog y tir y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo, neu

b

ar symbyliad yr awdurdod lleol ei hun.

5

Pan fo awdurdod lleol yn dirymu neu’n amrywio hysbysiad cydymffurfio, rhaid iddo hysbysu perchennog y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef am y penderfyniad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

6

Pan fo hysbysiad cydymffurfio’n cael ei ddirymu, mae’r dirymiad yn dod i rym ar yr adeg y caiff ei wneud.

7

Pan fo hysbysiad cydymffurfio’n cael ei amrywio—

a

os nad yw’r hysbysiad wedi dod yn weithredol pan wneir yr amrywiad, daw’r amrywiad i rym ar unrhyw adeg (os oes un) y daw’r hysbysiad yn weithredol yn unol ag adran 24, a

b

os yw’r hysbysiad wedi dod yn weithredol pan wneir yr amrywiad, daw’r amrywiad i rym ar yr adeg y mae’n cael ei wneud.

18Hysbysiad cydymffurfio: trosedd a chollfarnau lluosog

1

Mae perchennog tir y cyflwynwyd hysbysiad cydymffurfio iddo sydd wedi dod yn weithredol yn cyflawni trosedd os bydd y perchennog yn methu cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 17(1)(b) o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 17(1)(c).

2

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy.

3

Mewn achos yn erbyn perchennog tir am drosedd o dan is-adran (1), mae’n amddiffyniad bod gan y perchennog esgus rhesymol dros fethu cymryd y camau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn yr is-adran honno.

4

Mae is-adran (5) yn gymwys—

a

pan gollfernir perchennog tir am drosedd o dan is-adran (1), a

b

pan fo’r perchennog wedi ei gollfarnu ar ddau neu fwy o achlysuron blaenorol am drosedd o dan is-adran (1) mewn perthynas â’r drwydded safle y mae’r gollfarn a grybwyllir ym mharagraff (a) yn ymwneud â hi.

5

Ar gais gan yr awdurdod lleol a gyflwynodd yr hysbysiad cydymffurfio, caiff y llys y collfarnwyd perchennog y tir ger ei bron wneud gorchymyn yn dirymu’r drwydded safle ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn.

6

Rhaid i orchymyn o dan is-adran (5) beidio â phennu dyddiad sydd cyn diwedd y cyfnod pryd y caniateir i hysbysiad o apêl (boed yn ôl yr achos datganedig ynteu fel arall) gael ei roi yn erbyn y gollfarn a grybwyllir yn is-adran (4)(a).

7

Pan wneir apêl yn erbyn y gollfarn a grybwyllir yn is-adran (4)(a) gan berchennog y tir cyn y dyddiad a bennir mewn gorchymyn o dan is-adran (5), nid yw’r gorchymyn yn effeithiol—

a

hyd nes i’r apêl gael ei phenderfynu’n derfynol, neu

b

hyd nes i’r apêl gael ei thynnu’n ôl.

8

Ar gais gan berchennog y tir neu gan yr awdurdod lleol a ddyroddodd y drwydded safle, caiff y llys a wnaeth y gorchymyn o dan is-adran (5) wneud gorchymyn yn pennu dyddiad pryd y mae dirymiad y drwydded safle i ddod yn effeithiol sy’n hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y gorchymyn o dan is-adran (5).

9

Ond rhaid i’r llys beidio â gwneud gorchymyn o dan is-adran (8) oni bai ei fod wedi ei fodloni bod hysbysiad digonol o’r cais wedi ei roi i’r perchennog (os yr awdurdod lleol yw’r ymgeisydd) neu i’r awdurdod lleol (os y perchennog yw’r ymgeisydd).

19Hysbysiad cydymffurfio: pŵer i hawlio treuliau

1

Wrth gyflwyno hysbysiad cydymffurfio i berchennog tir, caiff awdurdod lleol godi tâl ar y perchennog fel modd i adennill treuliau yr eir iddynt gan yr awdurdod lleol—

a

wrth benderfynu a ddylai gyflwyno’r hysbysiad, a

b

wrth baratoi a chyflwyno’r hysbysiad neu hawliad o dan is-adran (3).

2

Mae’r treuliau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yn cynnwys treuliau sicrhau cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol) (ond heb fod yn gyfyngedig i’r costau hyn).

3

Mae’r pŵer o dan is-adran (1) yn arferadwy drwy gyflwyno’r hysbysiad cydymffurfio ynghyd â hawliad sy’n nodi—

a

cyfanswm y treuliau y mae’r awdurdod lleol yn ceisio eu hadennill o dan is-adran (1) (“treuliau perthnasol”),

b

dadansoddiad manwl o’r treuliau perthnasol, ac

c

pan fo’r awdurdod lleol yn bwriadu codi llog o dan adran 25, y gyfradd log ar y treuliau perthnasol.

4

Pan fo tribiwnlys yn caniatáu apêl o dan adran 17 yn erbyn yr hysbysiad cydymffurfio y cyflwynwyd hawliad gydag ef, caiff y tribiwnlys wneud unrhyw orchymyn y mae’n barnu ei fod yn briodol—

a

yn cadarnhau, yn lleihau neu’n dileu unrhyw dâl o dan yr adran hon a wnaed mewn perthynas â’r hysbysiad, a

b

yn amrywio’r hawliad fel y bo’n briodol o ganlyniad i hyn.

20Pŵer i gymryd camau ar ôl collfarnu’r perchennog

1

Pan gollfernir perchennog tir am drosedd o dan adran 18(1), caiff yr awdurdod lleol a ddyroddodd yr hysbysiad cydymffurfio—

a

cymryd unrhyw gamau y mae’n ofynnol o dan yr hysbysiad cydymffurfio i’r perchennog eu cymryd ond sydd heb eu cymryd, a

b

cymryd unrhyw gamau eraill sy’n briodol ym marn yr awdurdod i sicrhau y cydymffurfir â’r amod a bennir yn yr hysbysiad cydymffurfio.

2

Pan fo awdurdod lleol yn bwriadu cymryd camau o dan is-adran (1), rhaid iddo gyflwyno i berchennog y tir hysbysiad—

a

sy’n nodi’r tir a’r hysbysiad cydymffurfio y mae’n ymwneud â hwy,

b

sy’n nodi bod yr awdurdod lleol yn bwriadu mynd i’r tir,

c

sy’n disgrifio’r camau y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu cymryd ar y tir,

d

os nad un o swyddogion yr awdurdod lleol yw’r person y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu ei awdurdodi i gymryd y camau ar ei ran, sy’n nodi enw’r person hwnnw, ac

e

sy’n nodi’r dyddiadau a’r amserau pryd y bwriedir i’r camau gael eu cymryd (gan gynnwys pryd y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu dechrau cymryd y camau a phryd y mae’n disgwyl i’r camau gael eu cwblhau).

3

Rhaid i’r hysbysiad gael ei gyflwyno’n ddigon cynnar cyn bod yr awdurdod lleol yn bwriadu mynd i’r tir er mwyn rhoi hysbysiad rhesymol i berchennog y tir am y bwriad i fynd iddo.

4

Mewn achos pan fo’r awdurdod lleol yn awdurdodi person heblaw un o swyddogion yr awdurdod lleol i gymryd y camau ar ei ran, mae’r cyfeiriad yn adran 32(1) at swyddog awdurdodedig i’r awdurdod lleol yn cynnwys y person hwnnw.

5

Nid yw’r gofyniad yn adran 32(2) bod rhaid rhoi 24 awr o hysbysiad o’r bwriad i fynd i’r tir, o’i gymhwyso at achos yn yr adran hon, yn gymwys ond ar gyfer y diwrnod y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu dechrau cymryd y camau ar y tir.

21Pŵer i gymryd camau brys

1

Caiff awdurdod lleol sydd wedi dyroddi trwydded safle gymryd camau mewn perthynas ag unrhyw dir sy’n ffurfio’r safle os yw’n ymddangos i’r awdurdod lleol—

a

bod perchennog y tir yn methu neu wedi methu cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r drwydded safle, a

b

bod risg ar fin digwydd o niwed difrifol i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson sydd ar y tir neu a all fod ar y tir o ganlyniad i’r methiant hwnnw.

2

Y camau y caiff awdurdod lleol eu cymryd o dan yr adran hon (y cyfeirir atynt yn yr adran hon fel “camau brys”) yw unrhyw gamau y mae’n ymddangos i’r awdurdod lleol eu bod yn angenrheidiol er mwyn dileu’r risg sydd ar fin digwydd o niwed difrifol a grybwyllir yn is-adran (1)(b).

3

Pan fo awdurdod lleol yn bwriadu cymryd camau brys, rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno i berchennog y tir hysbysiad—

a

sy’n nodi’r tir y mae’n ymwneud ag ef,

b

y’n nodi bod yr awdurdod lleol yn bwriadu mynd i’r tir,

c

sy’n disgrifio’r camau brys y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu cymryd ar y tir,

d

os nad un o swyddogion yr awdurdod lleol yw’r person y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu ei awdurdodi i gymryd y camau ar ei ran, sy’n nodi enw’r person hwnnw, ac

e

sy’n pennu’r pwerau o dan yr adran hon ac o dan adran 32 fel y pwerau y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu mynd i’r tir odanynt.

4

Caiff hysbysiad o dan is-adran (3) nodi y byddai’r awdurdod lleol yn bwriadu gwneud cais am warant o dan adran 32(3) pe bai mynediad i’r tir yn cael ei wrthod.

5

Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (3) gael ei gyflwyno yn ddigon cynnar cyn bod yr awdurdod lleol yn bwriadu mynd i’r tir er mwyn rhoi hysbysiad rhesymol i berchennog y tir am y bwriad i fynd iddo.

6

Mewn achos pan fo’r awdurdod lleol yn awdurdodi person heblaw un o swyddogion yr awdurdod lleol i gymryd y camau brys ar ei ran, mae’r cyfeiriad yn adran 32(1) at swyddog awdurdodedig i’r awdurdod lleol yn cynnwys y person hwnnw.

7

Mae adran 32, o’i chymhwyso at achos yn yr adran hon, yn effeithiol fel pe bai—

a

y geiriau “ar bob adeg resymol” yn is-adran (1), a

b

is-adran (2),

wedi eu hepgor.

8

O fewn y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r awdurdod lleol yn dechrau cymryd y camau brys, rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno i berchennog y tir hysbysiad—

a

sy’n disgrifio’r risg sydd ar fin digwydd o niwed difrifol i iechyd neu ddiogelwch personau sydd ar y tir neu a all fod ar y tir,

b

sy’n disgrifio’r camau brys sydd wedi eu cymryd gan yr awdurdod lleol ar y tir, ac unrhyw gamau brys sydd i’w cymryd gan yr awdurdod lleol ar y tir,

c

sy’n nodi pryd y dechreuodd yr awdurdod lleol gymryd y camau brys a phryd y mae’r awdurdod lleol yn disgwyl iddynt gael eu cwblhau,

d

os nad un o swyddogion yr awdurdod lleol yw’r person y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu ei awdurdodi i gymryd y camau ar ei ran, sy’n nodi enw’r person hwnnw, ac

e

sy’n esbonio’r hawl i apelio a roddir gan is-adran (9).

9

Caiff perchennog tir y mae awdurdod lleol wedi cymryd neu yn cymryd camau brys mewn perthynas ag ef apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn cymryd y camau gan yr awdurdod lleol (gweler adran 23).

10

Caniateir apelio ar y seiliau canlynol—

a

nad oedd risg ar fin digwydd o niwed difrifol fel y’i crybwyllir yn is-adran (1)(b) (neu, os yw’r camau’n dal i gael eu cymryd, nad oes risg o’r fath), neu

b

nad oedd angen y camau y mae’r awdurdod wedi eu cymryd er mwyn dileu’r risg a oedd ar fin digwydd o niwed difrifol a grybwyllir yn is-adran (1)(b) (neu, os yw’r camau’n dal i gael eu cymryd, nad oes eu hangen er mwyn dileu’r risg).

11

Mae’r dulliau a ganiateir ar gyfer cyflwyno hysbysiad o dan yr adran hon yn cynnwys ei osod ar fan amlwg ym mhrif fynedfa’r tir neu yn agos ati.

22Camau o dan adran 20 neu 21: pŵer i hawlio treuliau

1

Pan fo awdurdod lleol yn cymryd camau o dan adran 20 neu gamau brys o dan adran 21, caiff yr awdurdod lleol godi tâl ar berchennog y tir fel modd i adennill treuliau yr aed iddynt gan yr awdurdod lleol—

a

wrth benderfynu a ddylai gymryd y camau,

b

wrth baratoi a chyflwyno unrhyw hysbysiad o dan adran 20 neu 21 neu hawliad o dan is-adran (6), ac

c

wrth gymryd y camau.

2

Mae’r treuliau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yn cynnwys treuliau sicrhau cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol) (ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain).

3

Yn achos camau brys o dan adran 21, ni chaniateir codi tâl o dan is-adran (1) tan unrhyw adeg (os oes un) a bennir yn unol ag is-adran (4).

4

At ddibenion is-adran (3), yr adeg pan ganiateir i dâl gael ei godi am gamau brys yw—

a

os na ddygir apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol i gymryd y camau brys o dan adran 21(9) o fewn y cyfnod apelio o dan adran 23, diwedd y cyfnod hwnnw, a

b

os dygir apêl o’r fath ac os yw’r penderfyniad ar yr apêl yn cadarnhau penderfyniad yr awdurdod lleol—

i

os yw’r cyfnod pryd y caniateir dwyn apêl i’r Tribiwnlys Uwch yn dod i ben heb i apêl o’r fath gael ei dwyn, diwedd y cyfnod hwnnw, a

ii

os dygir apêl i’r Tribiwnlys Uwch, pan roddir penderfyniad ar yr apêl sy’n cadarnhau penderfyniad yr awdurdod lleol.

5

At ddibenion is-adran (4)—

a

mae tynnu apêl yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod lleol yn ôl yn creu’r un effaith â phenderfyniad ar yr apêl sy’n cadarnhau penderfyniad yr awdurdod lleol, a

b

mae cyfeiriadau at benderfyniad ar yr apêl sy’n cadarnhau penderfyniad yr awdurdod lleol yn gyfeiriadau at benderfyniad sy’n cadarnhau’r penderfyniad hwnnw ag amrywiadau neu heb amrywiadau.

6

Mae’r pŵer o dan is-adran (1) yn arferadwy drwy gyflwyno i berchennog y tir hawliad am y treuliau—

a

sy’n nodi cyfanswm y treuliau y mae’r awdurdod lleol yn ceisio eu hadennill o dan is-adran (1) (“treuliau perthnasol”),

b

yn nodi dadansoddiad manwl o’r treuliauperthnasol,

c

os yw’r awdurdod lleol yn bwriadu codi llog o dan adran 25, yn nodi’r gyfradd log ar y treuliau perthnasol, a

d

yn esbonio’r hawl i apelio a roddir gan is-adran (7).

7

Caiff perchennog tir y cyflwynir hawliad iddo o dan yr adran hon apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn yr hawliad (gweler adran 23).

8

Rhaid i hawliad o dan yr adran hon gael ei gyflwyno—

a

yn achos camau o dan adran 20, cyn diwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r dyddiad y cafodd y camau eu cwblhau, a

b

yn achos camau brys o dan adran 21—

i

cyn diwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r dyddiad cynharaf (os oes un) y caniateir i dâl gael ei godi yn unol ag is-adran (4), neu

ii

os nad yw’r camau wedi eu cwblhau erbyn diwedd y cyfnod hwnnw, cyn diwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r dyddiad y cwblheir y camau.

23Apelio o dan adran 17, 21 neu 22

1

Rhaid i apêl o dan adran 17, 21 neu 22 gael ei gwneud cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynwyd y ddogfen berthnasol (y cyfeirir ato yn yr adran hon ac adran 24 fel “y cyfnod apelio”).

2

Yn is-adran (1) ystyr “dogfen berthnasol” yw—

a

yn achos apêl o dan adran 17, yr hysbysiad cydymffurfio,

b

yn achos apêl o dan adran 21, yr hysbysiad o dan is-adran (8) o’r adran honno, ac

c

yn achos apêl o dan adran 22, yr hawliad o dan yr adran honno.

3

Caiff tribiwnlys eiddo preswyl ganiatáu i apêl o dan adran 17, 21 neu 22 gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod apelio os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw ohirio wedyn cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio allan o amser).

4

O ran apêl o dan adran 17, 21 neu 22—

a

mae i gael ei chynnal ar ffurf ail-wrandawiad, ond

b

caniateir iddi gael ei phenderfynu gan roi sylw i faterion na wyddai’r awdurdod lleol a wnaeth y penderfyniad amdanynt.

5

Caiff y tribiwnlys drwy orchymyn—

a

ar apêl o dan adran 17, gadarnhau, amrywio neu ddileu’r hysbysiad cydymffurfio,

b

ar apêl o dan adran 21, cadarnhau, amrywio neu wrth-droi penderfyniad yr awdurdod lleol, neu

c

ar apêl o dan adran 22, cadarnhau, amrywio neu ddileu’r hawliad.

24Pryd y daw hysbysiad cydymffurfio neu hawliad treuliau yn weithredol

1

Mae’r adeg pryd y daw hysbysiad cydymffurfio o dan adran 17 neu hawliad o dan adran 19 neu 22 yn weithredol (os yw’n weithredol o gwbl) i’w phenderfynu yn unol â’r adran hon.

2

Os na ddygir apêl o dan adran 17 o fewn y cyfnod apelio yn erbyn yr hysbysiad cydymffurfio, daw’r hysbysiad ac unrhyw hawliad o dan adran 19 a gyflwynwyd gydag ef yn weithredol ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

3

Os na ddygir apêl o dan adran 22 o fewn y cyfnod apelio, daw’r hawliad o dan yr adran honno yn weithredol ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

4

Os dygir apêl o dan adran 17, a bod penderfyniad ar yr apêl yn cadarnhau’r hysbysiad cydymffurfio, daw’r hysbysiad ac unrhyw hawliad o dan adran 19 a gyflwynwyd gydag ef yn weithredol—

a

os daw’r cyfnod pryd y caniateir dwyn apêl i’r Tribiwnlys Uwch i ben heb apêl o’r fath, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, neu

b

os dygir apêl i’r Tribiwnlys Uwch a bod penderfyniad ar yr apêl yn cael ei roi sy’n cadarnhau’r hysbysiad, adeg y penderfyniad.

5

Pan ddygir apêl o dan adran 22, a bod penderfyniad ar yr apêl yn cadarnhau’r hawliad o dan yr adran honno, daw’r hawliad yn weithredol—

a

os daw’r cyfnod pryd y caniateir dod ag apêl i’r Tribiwnlys Uwch i ben heb apêl o’r fath, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, neu

b

os ceir apêl i’r Tribiwnlys Uwch a bod penderfyniad ar yr apêl yn cael ei roi sy’n cadarnhau’r hysbysiad, adeg y penderfyniad.

6

At ddibenion is-adrannau (4) a (5)—

a

mae tynnu apêl yn erbyn hysbysiad neu hawliad yn ôl yn creu’r un effaith â phenderfyniad ar yr apêl sy’n cadarnhau’r hysbysiad neu’r hawliad, a

b

mae cyfeiriadau at benderfyniad sy’n cadarnhau’r hysbysiad neu’r hawliad yn gyfeiriadau at benderfyniad sy’n cadarnhau’r hysbysiad neu’r hawliad ag amrywiadau neu heb amrywiadau.

25Adennill treuliau a hawlir o dan adran 19 neu 22

1

O’r adeg y daw hawliad o dan adran 19 neu 22 yn weithredol, mae’r treuliau perthnasol a nodir yn yr hawliad yn cario llog ar unrhyw gyfradd a bennir gan yr awdurdod lleol hyd nes i’r holl symiau sy’n ddyledus o dan yr hawliad gael eu hadennill; ac mae’r treuliau ac unrhyw gyfradd log yn adenilladwy ganddynt fel dyled.

2

O’r adeg honno ymlaen, mae’r treuliau ac unrhyw log, hyd nes y cânt eu hadennill, yn arwystl ar y tir y mae’r hysbysiad cydymffurfio neu’r camau brys yn ymwneud ag ef.

3

Mae’r arwystl yn dod yn effeithiol ar yr adeg honno fel arwystl cyfreithiol sy’n bridiant tir lleol.

4

Er mwyn gorfodi’r arwystl mae gan yr awdurdod lleol yr un pwerau a rhwymedïau o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 ac fel arall â phe bai yn forgeisiai drwy weithred sydd â phwerau i werthu ac i brydlesu, pwerau i dderbyn ildiad prydles ac i benodi derbynnydd.

5

Mae’r pŵer i benodi derbynnydd yn arferadwy unrhyw bryd ar ôl diwedd y cyfnod o 1 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y daw’r arwystl yn effeithiol.

6

Yn yr adran hon mae i “treuliau perthnasol”—

a

yn achos hawliad o dan adran 19, yr ystyr a roddir gan is-adran (3) o’r adran honno, a

b

yn achos hawliad o dan adran 22, yr ystyr a roddir gan is-adran (6) o’r adran honno.

Dirymu ac ildio trwyddedau safle

26Dirymu yn sgil marwolaeth, newid perchnogaeth neu roi’r gorau i ddefnyddio safle

1

Pan fo deiliad trwydded safle ar gyfer unrhyw dir yn marw neu’n peidio â bod yn berchennog y tir, dirymir y drwydded safle.

2

Pan fo tir y mae trwydded safle mewn grym ar ei gyfer yn peidio â chael ei ddefnyddio fel safle rheoleiddiedig, dirymir y drwydded safle.

27Dyletswydd deiliad trwydded safle i ganiatáu i drwydded gael ei newid

1

Caiff awdurdod lleol sydd wedi dyroddi trwydded safle ei gwneud yn ofynnol ar unrhyw adeg i’r deiliad wneud beth bynnag y mae’r awdurdod lleol yn credu ei bod yn angenrheidiol i alluogi’r awdurdod lleol i gynnwys ynddi unrhyw amrywiad ar amodau’r drwydded a wneir yn unol â’r Rhan hon.

2

Os bydd deiliad trwydded safle yn methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â gofyniad o dan yr adran hon, mae deiliad y drwydded yn cyflawni trosedd.

3

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (2) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol.

Rheolwyr safle i fod yn bersonau addas a phriodol

28Gofyniad bod rhaid i reolwr safle fod yn berson addas a phriodol

1

Ni chaiff perchennog tir achosi na chaniatáu i unrhyw ran o’r tir gael ei defnyddio fel safle rheoleiddiedig oni bai (yn ychwanegol at yr angen i’r perchennog ddal trwydded safle) bod yr awdurdod lleol y mae’r tir wedi ei leoli yn ei ardal—

a

wedi ei fodloni bod y perchennog yn berson addas a phriodol i reoli’r safle neu (os nad y perchennog sy’n rheoli’r safle) fod person a benodwyd i wneud hynny gan y perchennog yn berson addas a phriodol i wneud hynny, neu

b

gyda chydsyniad y perchennog, wedi penodi person ei hun i reoli’r safle.

2

Os bydd perchennog tir sy’n dal trwydded safle ar gyfer y tir yn torri is-adran (1), caiff yr awdurdod lleol y mae’r tir wedi ei leoli yn ei ardal wneud cais i’r tribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn yn dirymu’r drwydded safle.

3

Mae person sy’n mynd yn groes i’r gofyniad a osodir gan is-adran (1) yn cyflawni trosedd.

4

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (3) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy.

5

Os collfernir y perchennog tir sy’n dal trwydded safle ar gyfer tir am drosedd o dan is-adran (3) mewn perthynas â’r tir ac os yw’r person wedi ei gollfarnu o’r trosedd mewn perthynas â’r tir ar 2 neu ragor o achlysuron blaenorol, caiff y llys ynadon y collfernir y perchennog ger ei fron, ar gais gan yr awdurdod lleol y mae’r tir wedi ei leoli yn ei ardal, wneud gorchymyn sy’n dirymu trwydded safle’r perchennog ar y diwrnod a bennir yn y gorchymyn.

29Penderfynu a yw person yn addas a phriodol

1

Wrth benderfynu a yw person yn berson addas a phriodol i reoli safle rheoleiddiedig rhaid i awdurdod lleol roi sylw i bob mater y mae o’r farn eu bod yn briodol.

2

Mae’r materion y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw iddynt yn cynnwys unrhyw dystiolaeth o fewn is-adran (3) neu (4).

3

Mae tystiolaeth yn dod o fewn yr is-adran hon os yw’n dangos bod y person—

a

wedi cyflawni unrhyw drosedd sy’n ymwneud â thwyll neu anonestrwydd arall, trais, arfau tanio neu gyffuriau neu unrhyw drosedd sydd wedi ei restru yn Atodlen 3 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (troseddau mae gofynion ynglŷn â hysbysu yn gymwys iddynt),

b

wedi gwahaniaethu’n anghyfreithlon ar sail unrhyw nodwedd sy’n nodwedd warchodedig o dan adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 wrth gynnal unrhyw fusnes, neu mewn cysylltiad â’i gynnal, neu

c

wedi torri unrhyw ddarpariaeth yn y gyfraith sy’n ymwneud â thai (gan gynnwys cartrefi symudol) neu landlord a thenant.

4

Mae tystiolaeth yn dod o fewn yr is-adran hon—

a

os yw’n dangos bod unrhyw berson sydd neu a fu gynt yn gysylltiedig â’r person (ar sail bersonol, ar sail gwaith neu ar sail arall) wedi gwneud unrhyw un neu ragor o’r pethau a nodir yn is-adran (3), a

b

os yw’n ymddangos i’r awdurdod lleol fod y dystiolaeth yn berthnasol i’r cwestiwn a yw’r person yn berson addas a phriodol i reoli safle rheoleiddiedig.

5

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon i amrywio’r dystiolaeth y mae’n rhaid i awdurdod lleol roi sylw iddi wrth benderfynu a yw person yn berson addas a phriodol i reoli safle rheoleiddiedig.

6

Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu nad yw person yn berson addas a phriodol i reoli safle—

a

rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r person am y rhesymau dros y penderfyniad ac o hawl y person i apelio o dan baragraff (b), a

b

caiff y person, cyn pen y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y penderfyniad, apelio yn erbyn y penderfyniad i dribiwnlys eiddo preswyl.

Rheolwyr interim

30Penodi rheolwr interim

1

Os bydd unrhyw un neu ragor o’r amodau a bennir yn is-adran (2) wedi eu bodloni o ran safle rheoleiddiedig, caiff awdurdod lleol y trwyddedwyd y safle ganddo benodi rheolwr interim i’r safle.

2

Dyma’r amodau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)—

a

bod yr awdurdod lleol o’r farn bod deiliad y drwydded safle yn methu neu wedi methu, naill ai mewn modd difrifol neu fwy nag unwaith, â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r drwydded safle,

b

bod yr awdurdod lleol o’r farn nad yw’r safle’n cael ei reoli gan berson sy’n berson addas a phriodol i reoli’r safle, ac

c

bod yr awdurdod lleol o’r farn nad oes neb yn rheoli’r safle.

3

Rhaid i awdurdod lleol, os gofynnir iddo gan gymdeithas sy’n gymdeithas trigolion gymwys ar gyfer safle, ystyried a ddylai arfer ei bŵer o dan yr adran hon.

4

Nid yw is-adran (3) yn effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol i arfer ei bŵer o dan yr adran hon ar ei symbyliad ei hun.

5

Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad i benodi rheolwr interim, o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y penderfyniad, apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn y penderfyniad.

6

Daw penodiad rheolwr interim i ben ar y cynharaf o’r canlynol—

a

pan ddaw’r drwydded safle i ben,

b

pan ddirymir y drwydded safle, ac

c

dyddiad a bennir yn y penodiad.

7

Os bydd person yn peidio â bod yn rheolwr interim cyn i’r penodiad ddod i ben, caiff yr awdurdod benodi rheolwr interim newydd yn lle’r person hwnnw.

31Telerau penodi a phwerau rheolwr interim

1

Rhaid i benodiad rheolwr interim gael ei wneud ar delerau ac amodau (gan gynnwys o ran tâl a threuliau) a bennir yn y penodiad, neu y penderfynir arnynt yn unol â’r penodiad.

2

Mae gan y rheolwr interim—

a

unrhyw bŵer a bennir yn y penodiad, a

b

unrhyw bŵer arall o ran rheoli’r safle y mae ar y rheolwr interim ei angen at y dibenion a bennir yn y penodiad (gan gynnwys y pŵer i wneud cytundebau ac i gymryd camau ar ran deiliad y drwydded safle).

3

Caiff yr awdurdod lleol roi cyfarwyddiadau cyffredinol neu benodol i’r rheolwr interim.

4

Caiff yr awdurdod lleol dynnu unrhyw gyfarwyddiadau a roddir yn ôl neu eu diwygio.

5

Caniateir i dâl a threuliau rheolwr interim gael eu tynnu gan y rheolwr interim o unrhyw incwm y mae gan ddeiliad y drwydded hawl i’w gael o ran y safle, ond os nad yw’r incwm hwnnw’n ddigonol rhaid i unrhyw falans gael ei dalu gan yr awdurdod lleol.

6

Caniateir i unrhyw symiau a delir gan yr awdurdod lleol o dan is-adran (5) gael eu hadennill gan yr awdurdod oddi ar ddeiliad y drwydded safle.

Darpariaethau gorfodi eraill

32Pŵer mynediad swyddogion awdurdodau lleol

1

Mae gan swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol, wedi iddo ddangos (os gofynnir iddo wneud hynny), dogfen awdurdod a ddilyswyd yn briodol, hawl ar bob adeg resymol i fynd i unrhyw dir sy’n safle rheoleiddiedig neu y mae cais am drwydded safle wedi ei wneud ar ei gyfer er mwyn—

a

galluogi’r awdurdod lleol i benderfynu pa amodau y dylid eu gosod ar y drwydded safle neu a ddylid amrywio amodau’r trwydded safle,

b

canfod a oes unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Rhan hon yn cael, neu wedi cael, eu torri ar y tir neu mewn cysylltiad ag ef,

c

darganfod a oes amgylchiadau’n bodoli a fyddai’n awdurdodi’r awdurdod lleol i gymryd unrhyw gamau, neu i wneud unrhyw waith, o dan y Rhan hon, neu

d

cymryd unrhyw gamau, neu wneud unrhyw waith, yr awdurdodir eu cymryd neu ei wneud gan yr awdurdod lleol gan y Rhan hon.

2

Ond rhaid peidio â mynnu mynediad i unrhyw dir fel mater o hawl oni bai bod 24 awr o hysbysiad o’r bwriad i fynd iddo wedi ei roi i’r perchennog.

3

Os dangosir er boddhad ynad heddwch—

a

bod unrhyw un o’r is-baragraffau canlynol yn gymwys—

i

mae mynediad i unrhyw dir wedi ei wrthod,

ii

deellir y bydd mynediad yn cael ei wrthod,

iii

mae perchennog y tir yn absennol dros dro ac mae’r achos yn achos brys,

iv

byddai cais am fynediad yn mynd yn groes i amcan mynd i’r tir, a

b

bod sail resymol dros fynd i’r tir at unrhyw ddiben a grybwyllir yn is-adran (1),

caiff yr ynad hedwch drwy warant awdurdodi’r awdurdod lleol drwy gyfrwng unrhyw swyddog awdurdodedig i fynd i’r tir, gan ddefnyddio grym os bydd ei angen.

4

Ond rhaid peidio â rhoi gwarant oni bai bod yr ynad heddwch wedi ei fodloni—

a

bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am y warant wedi ei roi i’r perchennog,

b

bod y perchennog yn absennol dros dro a bod yr achos yn achos brys, neu

c

y byddai rhoi hysbysiad yn mynd yn groes i amcan mynd i’r tir.

5

Caiff swyddog awdurdodedig sy’n mynd i unrhyw dir yn rhinwedd yr adran hon, neu yn rhinwedd gwarant a roddwyd odani, fynd ag unrhyw bersonau y mae eu hangen gydag ef.

6

Mae pob gwarant a roddir o dan yr adran hon yn parhau mewn grym hyd nes bod y diben y mae angen y mynediad ar ei gyfer wedi ei fodloni.

7

Mae person sydd yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy’n gweithredu’r adran hon, neu sy’n gweithredu gwarant o dan yr adran hon, yn cyflawni trosedd.

8

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (7) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

33Gorchmynion ad-dalu

1

At ddibenion yr adran hon mae tir yn “safle heb ei drwyddedu” os yw’n safle rheoleiddiedig nad oes trwydded safle mewn grym ar ei gyfer.

2

Nid yw’r un rheol gyfreithiol sy’n ymwneud â dilysrwydd neu orfodadwyedd contractau o dan amgylchiadau sy’n cynnwys anghyfreithlondeb i effeithio ar ddilysrwydd neu orfodadwyedd y canlynol—

a

unrhyw ddarpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i ffi am lain neu unrhyw daliad cyfnodol arall gael eu talu mewn cysylltiad ag unrhyw gytundeb y mae Rhan 4 yn gymwys iddo sy’n ymwneud â safle heb ei drwyddedu, neu

b

unrhyw ddarpariaeth arall mewn cytundeb o’r fath.

3

Ond caniateir i symiau a delir o ran taliadau penodol o dan gytundeb o’r fath ac mewn cysylltiad ag ef gael eu hadennill yn unol ag is-adran (4).

4

Os bydd—

a

cais ynglŷn â safle heb ei drwyddedu yn cael ei wneud i dribiwnlys eiddo preswyl gan feddiannydd cartref symudol a osodir ar y safle, a

b

bod y tribiwnlys wedi ei fodloni o ran y materion a grybwyllir yn is-adran (6),

caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn (“gorchymyn ad-dalu”).

5

Mae gorchymyn ad-dalu yn orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i berchennog neu reolwr y safle dalu i feddiannydd y cartref symudol unrhyw symiau a bennir yn y gorchymyn o ran—

a

unrhyw daliad a wnaed gan feddiannydd y cartref symudol (neu unrhyw berson y mae meddiannydd y cartref symudol wedi sicrhau perchnogaeth ar y cartref symudol drwyddo) i berchennog neu reolwr y safle ynglŷn â phrynu cartref symudol a osodwyd ar y safle,

b

unrhyw gomisiwn a dalwyd i berchennog neu reolwr y safle gan unrhyw berson ynglŷn â gwerthu cartref symudol a osodwyd ar y safle,

c

y ffi am y llain a dalwyd ynglŷn â chartref symudol o’r fath, a

d

unrhyw daliadau cyfnodol a dalwyd ynglŷn â chartref symudol o’r fath.

6

Rhaid i’r tribiwnlys fod wedi ei fodloni ynglŷn â’r materion a ganlyn—

a

bod perchennog y safle wedi ei gollfarnu am drosedd o dan adran 5 o ran y safle,

b

bod meddiannydd y cartref symudol (neu, yn achos taliadau y cyfeirir atynt yn is-adran (5)(a) neu (b), y person y mae’r meddiannydd wedi sicrhau perchnogaeth ar y cartref symudol drwyddo) wedi talu i berchennog neu reolwr y safle yn ystod unrhyw gyfnod y mae’n ymddangos bod trosedd o’r fath yn cael ei gyflawni ynddo o ran y safle, ac

c

bod y cais wedi ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis yn dechrau â dyddiad y gollfarn.

7

Ni chaniateir i orchymyn ad-dalu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw swm gael ei dalu y mae’r tribiwnlys wedi ei fodloni y byddai’n afresymol ei gwneud yn ofynnol i berchennog neu reolwr y safle ei dalu oherwydd unrhyw amgylchiadau eithriadol.

8

Y swm y mae’n ofynnol ei dalu yn rhinwedd gorchymyn ad-dalu o dan is-adran (5) yw unrhyw swm sydd (yn ddarostyngedig i is-adrannau (9) i (11)) ym marn y tribiwnlys yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

9

Mae’r materion y mae’n rhaid i’r tribiwnlys eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar y swm y mae’n ofynnol ei dalu yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol)—

a

cyfanswm y taliadau perthnasol a dalwyd mewn cysylltiad â bod yn berchen ar y safle yn ystod unrhyw gyfnod y mae’n ymddangos i’r tribiwnlys fod trosedd yn cael ei gyflawni ynddo gan y perchennog ynglŷn â’r safle o dan adran 5,

b

i ba raddau y cafodd perchennog neu reolwr y safle y cyfanswm hwnnw mewn gwirionedd,

c

a yw perchennog y safle ar unrhyw adeg wedi ei gollfarnu am drosedd o dan adran 5 ynglŷn â’r safle,

d

ymddygiad ac amgylchiadau ariannol perchennog neu reolwr y safle, ac

e

ymddygiad meddiannydd y cartref symudol;

ac yn yr is-adran hon ystyr “taliadau perthnasol” yw’r taliadau hynny y cyfeirir atynt yn is-adran (5).

10

Ni chaiff gorchymyn ad-dalu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw swm gael ei dalu sy’n ymwneud ag unrhyw amser y tu allan i’r cyfnod o 12 mis sy’n diweddu ar ddyddiad cais y meddiannydd, ac mae’r cyfnod sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-adran (9)(a) i’w gyfyngu yn unol â hyn.

11

Mae unrhyw swm sy’n daladwy i feddiannydd cartref symudol yn rhinwedd gorchymyn ad-dalu yn adenilladwy gan y meddiannydd fel dyled sy’n ddyledus i’r meddiannydd gan berchennog neu reolwr y safle.

12

Yn yr adran hon ystyr “meddiannydd”, o ran cartref symudol a safle rheoleiddiedig, yw person sydd â hawl—

a

i osod cartref symudol ar y safle, a

b

i feddiannu’r cartref symudol fel unig breswylfa neu brif breswylfa’r person.

Amrywiol ac atodol

34Datganiadau neu wybodaeth anwir neu gamarweiniol

1

Mae person—

a

sy’n gwneud datganiad neu osodiad arall o dan y Rhan hon sy’n anwir neu’n gamarweiniol gan wybod neu gredu ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol, neu

b

sy’n rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol o dan y Rhan hon gan wybod neu gredu ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol,

yn cyflawni trosedd.

2

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy.

35Canllawiau gan Weinidogion Cymru

1

Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau lleol o ran cyflawni eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.

2

Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan is-adran (1).

36Pwerau i godi taliadau: atodol

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn bwriadu codi tâl o dan adran 6 neu 13.

2

Cyn codi’r ffi, rhaid i’r awdurdod lleol lunio a chyhoeddi polisi ar ffioedd.

3

Wrth bennu ffi at ddibenion adran 6 neu 13 mae’r awdurdod lleol—

a

yn gorfod gweithredu yn unol â’i bolisi ar ffioedd,

b

yn cael pennu ffioedd gwahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o achos, ac

c

yn cael penderfynu nad oes angen talu ffi mewn achosion penodol neu ddisgrifiadau penodol o achos.

4

Wrth bennu ffi at unrhyw un neu ragor o’r dibenion hyn, ni chaiff yr awdurdod lleol gymryd i ystyriaeth unrhyw gostau y mae’n mynd iddynt wrth arfer—

a

ei swyddogaethau o dan unrhyw un neu ragor o adrannau 15 i 25, neu

b

unrhyw swyddogaethau o dan unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf hon o ran safle nad yw’n safle rheoleiddiedig.

5

Caiff yr awdurdod lleol ddiwygio’i bolisi ar ffioedd ac, os yw’n gwneud hynny, rhaid iddo gyhoeddi’r polisi fel y’i diwygiwyd.

37Cofrestrau trwyddedau safle

1

Rhaid i bob awdurdod lleol gadw cofrestr o drwyddedau safle a ddyroddwyd ar gyfer tir a leolir yn ardal yr awdurdod lleol.

2

Mae’r gofrestr i fod yn agored i’r cyhoedd gael edrych arni ar bob adeg resymol.

3

Os yw awdurdod lleol o dan adran 27 yn cofnodi amrywiad ar unrhyw un o amodau y drwydded safle, rhaid i’r awdurdod lleol gofnodi’r ffaith honno yn y gofrestr trwyddedau safle.

38Tir y Goron

Mae’r Rhan hon yn gymwys i dir nad y Goron yw ei berchennog hyd yn oed os oes buddiant yn y tir yn perthyn i’w Mawrhydi yn hawl y Goron neu yn hawl Dugaeth Caerhirfryn, neu i Ddugaeth Cernyw, neu yn perthyn i adran o’r llywodraeth neu’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar ran Ei Mawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth.

39Dehongli

1

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “awdurdod tân ac achub” (“fire and rescue authority”), o ran unrhyw dir, yw’r awdurdod tân ac achub o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 i’r ardal y lleolir y tir ynddi;

  • ystyr “gorchymyn datblygu” (“development order”) yw gorchymyn a wneir o dan adran 59 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

2

Pan fo tir nad yw’n fwy na chyfanswm o 400 o fetrau sgwâr o ran ei arwynebedd yn cael ei osod o dan denantiaeth a wnaed gyda golwg ar ddefnyddio’r tir fel safle rheoleiddiedig, at ddibenion y Rhan hon ystyr “perchennog”, o ran y tir, yw’r person y byddai ganddo hawl i feddiant ar y tir heblaw am hawliau unrhyw berson o dan y denantiaeth honno.

3

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at wneud gwaith yn cynnwys cyfeiriad at blannu coed a llwyni a gwneud gwaith arall i gadw neu i wella amwynder tir.

4

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at ganiatâd cynllunio i’w gymryd fel cyfeiriad at ganiatâd cynllunio p’un a yw wedi ei gyfyngu mewn unrhyw ffordd ai peidio neu’n ddarostyngedig i unrhyw amod neu gyfyngiad, ac mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon o’r Ddeddf hon at ganiatâd cynllunio yn cynnwys cyfeiriad at ganiatâd cynllunio y bernir ei fod wedi ei roi neu a roddwyd ar ddynodi parth menter o dan Atodlen 32 i Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980.