RHAN 2TRWYDDEDU SAFLEOEDD CARTREFI SYMUDOL ETC.
Amodau trwyddedau safle
9Pŵer i osod amodau ar drwydded safle
1
Caniateir i drwydded safle a ddyroddir gan awdurdod lleol ar gyfer unrhyw dir gael ei dyroddi o dan unrhyw amodau y mae’r awdurdod lleol o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol eu gosod ar berchennog y tir er lles—
a
personau sy’n byw ar y tir mewn cartrefi symudol,
b
unrhyw ddosbarth arall o bersonau, neu
c
y cyhoedd yn gyffredinol.
2
Mae’r amodau y caniateir i drwydded safle gael ei dyroddi yn unol â hwy yn cynnwys amodau (ond heb fod yn gyfyngedig i amodau)—
a
i gyfyngu’r achlysuron pan osodir cartrefi symudol ar y tir er mwyn i bobl fyw ynddynt, neu gyfanswm y cartrefi symudol a osodir ar y tir at y diben hwnnw ar unrhyw un adeg,
b
i reoli (boed drwy gyfeirio at eu maint, at eu cyflwr neu, yn ddarostyngedig i is-adran (3), at unrhyw nodwedd arall) y mathau o gartref symudol a osodir ar y tir,
c
i reoleiddio ym mha safleoedd y gosodir cartrefi symudol ar y tir er mwyn i bobl fyw (yn enwedig er mwyn lleihau risg o lifogydd ac erydu arfordirol) ac i wahardd, cyfyngu neu reoleiddio fel arall ar osod neu godi ar y tir, ar unrhyw adeg pan fo cartrefi symudol wedi eu gosod ar y tir at y diben hwnnw, strwythurau a cherbydau o unrhyw ddisgrifiad a phebyll,
d
i sicrhau y cymerir unrhyw gamau i gadw neu i wella amwynder y tir, gan gynnwys plannu ac ailblannu’r tir â choed a llwyni,
e
i sicrhau, ar bob adeg y bydd cartrefi symudol wedi eu gosod ar y tir, fod mesurau priodol yn cael eu cymryd i atal a chanfod tanau a bod dulliau digonol i ymladd tân yn cael eu darparu a’u cynnal,
f
i sicrhau, ar bob adeg y bydd cartrefi symudol wedi eu gosod ar y tir, fod mesurau priodol yn cael eu cymryd i warchod rhag risg o lifogydd ac erydu arfordirol ac i gyfathrebu unrhyw risg hysbys i lifogydd neu erydu arfordirol i berson sy’n byw ar y tir mewn cartrefi symudol,
g
i sicrhau bod cyfleusterau iechydol digonol, ac unrhyw gyfleusterau, gwasanaethau neu offer eraill a bennir, yn cael eu darparu i’w defnyddio gan bersonau sy’n byw ar y tir mewn cartrefi symudol a bod unrhyw gyfleusterau ac offer a ddarperir i’w defnyddio ganddynt yn cael eu cynnal yn briodol, ar bob adeg pan fo cartrefi symudol wedi eu gosod ar y tir er mwyn i bobl fyw ynddynt, ac
h
i’w gwneud yn ofynnol i ddatganiad gael ei wneud, os bydd y person sy’n rheoli’r safle yn newid, gan ddeiliad y drwydded safle i’r awdurdod lleol fod y rheolwr newydd yn berson addas a phriodol i reoli’r safle.
3
Ni chaniateir gosod amod sy’n rheoli’r mathau o gartrefi symudol a osodir ar y tir drwy gyfeirio at y deunyddiau a ddefnyddiwyd i’w hadeiladu.
4
Pan fo Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys i dir, ni chaniateir gosod amod mewn trwydded safle sy’n ymwneud â’r tir i’r graddau y mae’n ymwneud ag unrhyw fater y gosodwyd neu y gellid gosod gofynion neu waharddiadau mewn perthynas ag ef gan neu o dan y Gorchymyn hwnnw.
5
Rhaid i drwydded safle a ddyroddir ar gyfer unrhyw dir, oni bai ei bod wedi ei dyroddi o dan amod sy’n cyfyngu cyfanswm y cartrefi symudol y caniateir eu gosod ar y tir ar unrhyw un adeg i 3 neu lai, gynnwys amod bod rhaid i gopi o’r drwydded safle sydd am y tro mewn grym, ynghyd â chopïau o’r biliau cyfleustodau mwyaf diweddar sy’n ymwneud â’r safle ac o unrhyw dystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus sy’n ymwneud â’r safle, gael ei ddangos ar y tir mewn man amlwg bob amser y bydd cartrefi symudol wedi eu gosod ar y tir er mwyn i bobl fyw ynddynt.
6
Yn is-adran (5) ystyr “biliau cyfleustodau” yw biliau am ddarparu gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau tebyg eraill.
7
Caiff amod yn y drwydded safle, os yw’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei wneud ar y tir y dyroddir y drwydded safle ar ei gyfer, wahardd neu gyfyngu ar ddod â chartrefi symudol i’r tir er mwyn i bobl fyw ynddynt hyd nes bod yr awdurdod lleol wedi ardystio mewn ysgrifen fod y gwaith wedi ei orffen i’w foddhad.
8
Pan fo’r tir y mae’r drwydded safle’n ymwneud ag ef yn cael ei ddefnyddio ar y pryd fel safle i gartrefi symudol, caiff amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei wneud ar y tir, p’un a yw’n cynnwys unrhyw waharddiad neu gyfyngiad a grybwyllir yn is-adran (7) neu beidio, ei gwneud yn ofynnol i’r gwaith gael ei gwblhau er boddhad yr awdurdod lleol o fewn cyfnod a nodir.
9
Mae amod mewn trwydded safle yn ddilys hyd yn oed os nad oes modd cydymffurfio ag ef ond drwy wneud gwaith nad oes gan ddeiliad y drwydded safle hawl i’w wneud fel mater o hawl.
10Safonau enghreifftiol
1
Caiff Gweinidogion Cymru bennu at ddibenion adran 9 safonau enghreifftiol o ran cynllun safleoedd rheoleiddiedig neu fathau penodol o safleoedd rheoleiddiedig, ac o ran darparu cyfleusterau, gwasanaethau ac offer iddynt.
2
Wrth benderfynu pa amodau i’w gosod (os gosodir unrhyw amodau o gwbl) mewn trwydded safle, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw safonau enghreifftiol sydd wedi eu pennu.
3
Ni chaniateir pennu safonau enghreifftiol o ran tir y mae Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys iddo i’r graddau y mae’r safonau’n ymwneud ag unrhyw fater arall y gosodwyd neu y gellid gosod gofynion neu waharddiadau mewn perthynas ag ef gan neu o dan y Gorchymyn hwnnw.
4
Mae dyletswydd awdurdod lleol i roi sylw i safonau a bennir o dan yr adran hon i’w dehongli, o ran safonau sy’n ymwneud â rhagofalon tân, fel dyletswydd i roi sylw iddynt yn ddarostyngedig i unrhyw gyngor a roddir gan yr awdurdod tân ac achub o dan adran 11.
5
Yn yr adran hon ac yn adran 11 ystyr “rhagofalon tân” yw rhagofalon sydd i’w cymryd at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a bennir yn adran 9(2)(e).
11Rhagofalon tân
1
Rhaid i’r awdurdod lleol, wrth ystyried pa amodau i’w gosod mewn trwydded safle sy’n ymwneud ag unrhyw dir, ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub ynghylch i ba raddau y mae unrhyw safonau enghreifftiol sy’n ymwneud â rhagofalon tân sydd wedi eu pennu o dan adran 10 yn briodol i’r tir.
2
Os—
a
nad oes safonau o’r fath wedi eu pennu, neu
b
ei bod yn ymddangos i’r awdurdod tân ac achub fod unrhyw safon a bennwyd yn amhriodol i’r tir,
rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub ynghylch pa amodau sy’n ymwneud â rhagofalon tân a ddylai gael eu gosod.
3
Nid yw’r adran hon yn gymwys pan fo Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys i’r tir.
12Apelio yn erbyn amodau trwydded safle
1
Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu dyroddi trwydded safle yn ddarostyngedig i amodau (heblaw’r amod sy’n ofynnol gan adran 9(5)), rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r ymgeisydd am y rhesymau dros wneud hynny ac am hawl yr ymgeisydd i apelio o dan is-adran (2).
2
Caiff yr ymgeisydd, o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y penderfyniad, apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn y penderfyniad.
3
Caiff y tribiwnlys amrywio neu ddileu’r amod os yw wedi ei fodloni (ar ôl rhoi sylw, ymhlith pethau eraill, i unrhyw safonau a all fod wedi eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 10) fod yr amod yn amhriodol o feichus.
4
Mewn achos pan fo tribiwnlys eiddo preswyl yn amrywio neu’n dileu amod o dan is-adran (3), caiff osod amod newydd ar y drwydded safle hefyd.
5
I’r graddau y mae effaith amod y dyroddir trwydded safle yn ddarostyngedig iddo ar gyfer unrhyw dir yn arwain at ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei wneud ar y tir, nid yw’r amod yn effeithiol—
a
yn ystod y cyfnod pan fo gan y person y dyroddwyd y drwydded safle iddo hawl i apelio yn erbyn yr amod, na
b
tra bo apêl yn erbyn yr amod yn yr arfaeth.
13Pŵer awdurdod lleol i amrywio amodau trwydded safle
1
Caniateir i amodau trwydded safle gael eu hamrywio unrhyw bryd (boed drwy amrywio neu ddileu amodau presennol, drwy ychwanegu amodau newydd, neu drwy gyfuniad o unrhyw ddulliau o’r fath) gan yr awdurdod lleol—
a
os bydd deiliad y drwydded safle’n gwneud cais i’r awdurdod lleol wneud hynny, neu
b
os bydd yr awdurdod lleol yn canfod gwybodaeth newydd neu os yw o’r farn bod amgylchiadau wedi newid.
2
Cyn amrywio amodau trwydded safle o dan is-adran (1)(b), rhaid i’r awdurdod lleol roi cyfle i ddeiliad y drwydded safle gyflwyno sylwadau.
3
Pan fo Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys i’r tir y mae’r drwydded safle yn ymwneud ag ef, ni chaniateir ychwanegu amod newydd i’r drwydded safle o dan is-adran (1) i’r graddau y mae’n ymwneud ag unrhyw fater y gosodwyd neu y gellid gosod gofynion neu waharddiadau mewn perthynas ag ef gan neu o dan y Gorchymyn hwnnw.
4
Caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i ffi a bennir gan yr awdurdod lleol (gweler adran 36 ynglŷn â hyn) gael ei hanfon ynghyd â chais am amrywio amodau’r drwydded safle.
5
Nid yw amrywiad ar amodau trwydded safle gan awdurdod lleol i fod yn effeithiol hyd nes bod deiliad y drwydded safle wedi cael hysbysiad ysgrifenedig yn ei gylch.
6
Wrth arfer y pwerau a roddir gan is-adran (1), rhaid i awdurdod lleol roi sylw (ymhlith pethau eraill) i unrhyw safonau a all fod wedi eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 10.
7
Rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub cyn arfer y pwerau a roddir gan is-adran (1) o ran amod mewn trwydded safle a osodir at y dibenion a nodir yn adran 9(2)(e).
8
Nid yw is-adran (7) yn gymwys pan fo Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys i’r tir.
14Apelio yn erbyn amrywio amodau trwydded safle
1
Pan fo deiliad trwydded safle wedi ei dramgwyddo gan unrhyw amrywiad ar amodau’r drwydded safle o dan adran 13(1)(b) neu gan benderfyniad yr awdurdod lleol i wrthod cais am amrywio’r amodau hynny, caiff y deiliad, o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau drannoeth y diwrnod y cafodd y deiliad hysbysiad o’r newid neu o’r penderfyniad i wrthod, apelio at dribiwnlys eiddo preswyl.
2
Caiff y tribiwnlys, os yw’n caniatáu’r apêl, roi unrhyw gyfarwyddiadau i’r awdurdod lleol sy’n angenrheidiol i roi ei effaith i benderfyniad y tribiwnlys.
3
I’r graddau y bydd amrywiad ar drwydded safle yn gosod gofyniad ar ddeiliad y drwydded safle i wneud unrhyw waith ar y tir y mae’r drwydded safle yn ymwneud ag ef na fyddai’n ofynnol fel arall i ddeiliad y drwydded safle ei wneud, nid yw’r amrywiad i fod yn effeithiol yn ystod y cyfnod pan fo gan y deiliaid hawl i apelio yn erbyn yr amrywiad na thra bydd apêl yn erbyn yr amrywiad yn yr arfaeth.
4
Wrth arfer y pwerau a roddir gan is-adran (2) rhaid i dribiwnlys eiddo preswyl roi sylw ymhlith pethau eraill i unrhyw safonau a all fod wedi eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 10.