Cyflwyniad

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 25 Medi 2013 ac y rhoddwyd y Cydsyniad Brenhinol iddi ar 4 Tachwedd 2013. Paratowyd hwy gan Adran Tai ac Adfywio Llywodraeth Cymru ar ran Peter Black AC, yr Aelod sy’n gyfrifol am y Ddeddf, er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y nodiadau hyn ar y cyd â’r Ddeddf, ond nid ydynt yn ffurfio rhan ohoni. Ni fwriedir i’r Nodiadau hyn fod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o’r Ddeddf, a phan nad oes angen disgrifiad neu sylw ar unrhyw adran neu ran o adran, ni roddir un.

Crynodeb a Chefndir

2.Mae cartrefi symudol yn cael eu defnyddio gan eu perchnogion drwy gydol y flwyddyn fel eu prif breswylfa, a chyfeirir atynt yn gyffredin fel “cartrefi mewn parciau”.

3.Mae’r gyfraith ynglŷn â thrwyddedu safleoedd carafannau a rheoleiddio meddiannaeth cartrefi symudol i’w chael mewn nifer o Ddeddfau Seneddol sydd wedi eu diwygio’n helaeth dros y 50 mlynedd diwethaf, yn enwedig Deddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960, Deddf Safleoedd Carafannau 1968 a Deddf Cartrefi Symudol 1983.

4.Diwygiwyd y Deddfau hyn mewn perthynas â Lloegr gan Ddeddf Cartrefi Symudol 2013, ac ailddatgenir hwy mewn perthynas â Chymru yn y Ddeddf hon (sef Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013), ond maent yn parhau’n gymwys i safleoedd carafannau gwyliau.

5.Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn ailddatgan ac yn cydgrynhoi’r ddeddfwriaeth ar safleoedd cartrefi symudol yng Nghymru, ac yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r modd y rheolir ac y cynhelir safleoedd cartrefi symudol preswyl yng Nghymru.

6.Yn ogystal â chydgrynhoi’r ddeddfwriaeth, mae’r Ddeddf hon yn galluogi awdurdod lleol i benodi rheolwr interim os bodlonir amodau penodol. Yn achos safle sydd heb drwydded, ceir gwneud cais i Dribiwnlys Eiddo Preswyl, sydd â’r pŵer i wneud gorchymyn (a elwir yn “orchymyn ad-dalu”) sy’n gwneud yn ofynnol bod perchennog neu reolwr y safle yn talu i feddiannydd cartref symudol ba bynnag symiau a bennir yn y gorchymyn. Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth newydd i’r perwyl bod rhaid i reolwyr safleoedd cartrefi symudol fod yn bersonau “addas a phriodol”. Mae’r Ddeddf yn diddymu’r gofyniad bod prynwr cartref symudol (neu berson y trosglwyddwyd y cartref symudol iddo fel rhodd) yn cael ei gymeradwyo gan berchennog y safle ac yn gwneud darpariaethau newydd ynglŷn â gwerthiannau, rhoddion ac aseiniadau. Mae’r Ddeddf yn estyn cwmpas troseddau mewn cysylltiad ag amddiffyn meddianwyr rhag eu troi allan neu aflonyddu arnynt, cyfleu gwybodaeth ffug, etc. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno gofynion newydd ynghylch rheolau safle ac yn darparu fframwaith ar gyfer tryloywder ynghylch adolygiadau o’r ffioedd am y lleiniau. Mae’r Ddeddf hefyd yn estyn diogelwch i breswylwyr ar safleoedd awdurdod lleol i gynnwys Sipsiwn a Theithwyr.

7.Y rhesymeg polisi sy’n sail i’r Ddeddf yw ailddatgan a diweddaru’r ddeddfwriaeth mewn perthynas â chartrefi symudol a gwneud y system ar gyfer trwyddedu safleoedd yn fwy cyson â systemau trwyddedu eraill yr awdurdodau lleol. Achoswyd problemau yn y sector gan yr arfer o “flocio gwerthiant”, ac mae’r Ddeddf yn diddymu’r cyfle i weithredwyr safleoedd rwystro perchnogion rhag gwerthu eu cartrefi symudol. Nod y Ddeddf yw gwella safonau yn y sector, sicrhau y diddymir y cyfle i rwystro gwerthu ac y cymerir camau gorfodi effeithiol yn erbyn y gweithredwyr hynny nad ydynt yn cydymffurfio â’u rhwymedigaethau trwydded.

Sylwadau Ar Adrannau

Rhan 1 – Cyflwyniad

Adran 1- Trosolwg o’r Ddeddf

8.Mae’r adran hon yn crynhoi prif ddarpariaethau’r Ddeddf. Bwriedir i hon weithredu fel adran gyfeirio a chyflwyno 6 Rhan allweddol y Ddeddf.

Adran 2 - Safleoedd cartrefi symudol sy’n ddarostyngedig i’r Ddeddf ac Adran 3 – Perchnogion safleoedd

9.Mae’r adrannau hyn yn esbonio termau allweddol megis “safle rheoleiddiedig”, “safle gwarchodedig” a “safle awdurdod lleol i Sipsiwn a Theithwyr”.

10.“Safle rheoleiddiedig” yw safle yng Nghymru sydd ag o leiaf un cartref symudol wedi ei osod arno er mwyn i bobl fyw ynddo ac eithrio safle gwyliau (neu safle y darperir yn Atodlen 1 nad yw’n safle rheoleiddiedig).

11.Ystyr “safle gwarchodedig” yw tir sydd:

a.

yn safle rheoleiddiedig, neu

b.

unrhyw safle a fyddai’n safle rheoleiddiedig pe na bai awdurdod lleol yn ei feddiannu.

12.Er bod safleoedd gwyliau wedi eu heithrio o’r diffiniad o safle rheoleiddiedig yn y Ddeddf hon (ac felly nid yw’r system drwyddedu’n gymwys iddynt; nac ychwaith i gartref symudol a feddiennir gan berchennog safle, ei deulu neu ei asiantwyr / cyflogeion) mae’r adran hon yn ailddatgan y diffiniad o safle cartrefi gwyliau fel y’i pennwyd mewn Deddfau blaenorol. Diffinnir ystyr “perchennog” yn adran 3.

Rhan 2 – Trwyddedu Safleoedd Cartrefi Symudol etc

Adran 5 - Gwahardd defnyddio tir fel safle rheoleiddiedig heb drwydded safle

13.Mae adran 5 yn ailddatgan adran 1(1) a (2) o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 (“Deddf 1960”). Mae’n darparu bod defnyddio tir fel safle rheoleiddiedig heb drwydded safle yn drosedd, ond yn cynyddu’r ddirwy o lefel 4 i lefel 5 ar y raddfa safonol. Pan ddaw adran 85 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 i rym, bydd dirwy lefel 5 (sy’n £5000 ar hyn o bryd, sef Tachwedd 2013) yn dod yn ddirwy ddigyfyngiad.

Adran 6 - Gwneud cais am drwydded safle

14.Mae’r adran hon yn efelychiad o adran 3 o Ddeddf 1960 gyda rhai ychwanegiadau. Mae’n pennu gofynion ar gyfer ceisiadau i awdurdodau lleol am drwyddedau safle. Mae is-adran (2) yn rhoi manylion o’r hyn y mae’n rhaid i gais ei gynnwys, ac is-adran (3) yn gwneud yn ofynnol bod ceiswyr yn darparu gwybodaeth y gofynnir amdani gan yr awdurdod lleol. O dan is-adran (4) rhaid i gais gael ei gyflwyno ynghyd â datganiad gan y ceisydd i’r perwyl bod y rheolwr (neu’r ceisydd) yn berson “addas a phriodol” i reoli’r safle. O dan is-adran (5), caiff awdurdod lleol wneud yn ofynnol cyflwyno cais ynghyd â ffi a bennir gan yr awdurdod lleol, ar yr amod bod yr awdurdod wedi cyhoeddi ei bolisi ar ffioedd (gweler y sylwadau ar adran 36).

Adran 7 – Dyroddi trwydded safle

15.Mae adran 7 yn ailddatgan adran 3(3) i (6) ac adran 6 o Ddeddf 1960 Act, gyda rhai darpariaethau newydd. Mae’n pennu’r terfynau amser ar gyfer dyroddi trwydded. O dan is-adran (4), os yw awdurdod lleol yn penderfynu peidio â dyroddi trwydded, rhaid iddo hysbysu’r ymgeisydd o’r rhesymau dros y penderfyniad ac o hawl yr ymgeisydd i apelio at Dribiwnlys Eiddo Preswyl.

Adran 8 – Parhad trwydded safle

16.Mae adran 8 yn cymryd lle adran 4 o Ddeddf 1960. Mae adran 8 yn darparu y ceir dyroddi trwydded am gyfnod o hyd at bum mlynedd o’r dyddiad y daw’r drwydded yn weithredol, oni chaiff y drwydded ei dirymu.

Adran 9 - Pŵer i osod amodau ar drwydded safle

17.Mae adran 9 yn ailddatgan adran 5 o Ddeddf 1960 gyda rhai newidiadau. Mae’n caniatáu i awdurdod lleol osod rhai mathau o amodau ar drwydded safle pan ddyroddir hi. Mae is-adran (2)(c) ac (f) yn gwneud darpariaethau ar gyfer amodau sy’n ymwneud â lleihau’r risg oherwydd llifogydd ac erydu’r arfordir, ac ar gyfer rhoi gwybod i breswylwyr tai symudol ar y safle am unrhyw risg o lifogydd neu erydu arfordirol sy’n hysbys.

18.Mae is-adran (5) yn gwneud yn ofynnol bod trwydded safle’n cynnwys amod i’r perwyl bod rhaid arddangos copïau o’r biliau cyfleustod diweddaraf y safle mewn man amlwg ar y safle, ynghyd ag unrhyw dystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gyfredol.

19.O dan yr adran hon caiff awdurdodau lleol wneud yn ofynnol cyflawni unrhyw waith ar safle cartrefi symudol er boddhad yr awdurdod lleol. Tra bo gwaith o’r fath yn mynd yn ei flaen, caiff yr awdurdod lleol wahardd neu gyfyngu ar symud cartrefi symudol i’r safle. Caiff yr awdurdod osod amod ynghlwm wrth y drwydded, i wneud yn ofynnol cwblhau’r gwaith angenrheidiol o fewn terfyn amser penodol.

Adran 10 – Safonau enghreifftiol

20.Mae adran 10 yn ailddatgan adran 5(6), (6A), (7) ac (8) o Ddeddf 1960. Mae Adran 10 yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu, at ddibenion adran 9, safonau enghreifftiol mewn perthynas â chynllun y safle a’r ddarpariaeth o gyfleusterau, gwasanaethau ac offer ar safleoedd rheoleiddiedig.

21.Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i’r safonau enghreifftiol hyn wrth ystyried gosod amodau ar drwydded safle o dan adran 9 o’r Ddeddf.

Adran 11 – Rhagofalon tân

22.Mae’r adran hon yn ailddatgan adran 5(3A) i (3C) o Ddeddf 1960. Mae’n sicrhau bod rhaid i awdurdodau lleol ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub wrth ystyried pa amodau i’w gosod ar drwydded safle.

Adran 12 - Apelio yn erbyn amodau trwydded safle

23.Mae’r adran hon, i raddau helaeth, yn ailddatgan adran 7 o Ddeddf 1960. Mae’n pennu bod hawl gan y ceisydd i apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn unrhyw amod a osodir ar drwydded safle (ac eithrio’r amod o dan adran 9(5)). Os bydd y Tribiwnlys Eiddo Preswyl o’r farn bod yr amod yn rhy feichus, caiff amrywio neu ddiddymu’r amod, a chaiff osod amod newydd ar y drwydded safle.

Adran 13 - Pŵer awdurdod lleol i amrywio amodau trwydded safle

24.Mae’r adran hon yn pennu y caiff aiff awdurdod lleol amrywio’r amodau a osodwyd ar drwydded safle unrhyw bryd, ond cyn arfer y pŵer hwn rhaid i’r awdurdod lleol roi cyfle i ddeiliad y drwydded safle gyflwyno sylwadau. Mae modd amrywio hefyd os yw’r awdurdod lleol yn canfod gwybodaeth newydd neu o’r farn bod amgylchiadau wedi newid.

25.Mae is-adran (4) yn darparu y caiff awdurdod lleol, pan fo deiliad trwydded yn gwneud cais i amrywio’r amodau sydd ynghlwm wrth drwydded safle, wneud yn ofynnol anfon y cais ynghyd â ffi,, sydd i’w phennu gan yr awdurdod lleol, ar yr amod bod yr awdurdod lleol wedi cyhoeddi ei bolisi ar ffioedd (gweler adran 36).

Adran 14 - Apelio yn erbyn amrywio amodau trwydded safle

26.Mae’r adran hon yn ailddatgan adran 8(2) i (4) o Ddeddf 1960. Caiff deiliad trwydded apelio at Dribiwnlys Eiddo Preswyl (llys ynadon gynt), yn erbyn unrhyw newid yn amodau’r drwydded neu unrhyw wrthodiad i amrywio’r amodau, o fewn 28 diwrnod ar ôl cael yr hysbysiad o’r penderfyniad. Os yw’r amrywiad yn yr amodau yn ymwneud â chwblhau gwaith ar y safle, ni fydd yr amod amrywiedig yn cael effaith hyd nes bo’r amser a ganiateir ar gyfer gwneud apêl wedi dod i ben, neu unrhyw apêl yn erbyn yr amod wedi ei phenderfynu neu ei thynnu’n ôl.

27.Wrth arfer ei bwerau o dan is-adran (1), rhaid i’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl roi sylw i unrhyw safonau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 10.

Adran 15 – Torri amod

28.Mae’r adran hon yn darparu y caiff awdurdod lleol, pan fo perchennog tir yn methu neu wedi methu â chydymffurfio ag amod mewn trwydded safle, gyflwyno naill ai hysbysiad cosb benodedig neu hysbysiad cydymffurfio i berchennog y safle.

29.Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r awdurdodau lleol ynghylch y materion y dylent eu hystyried wrth benderfynu a ddylid ymdrin a methiant i gydymffurfio ag amod mewn trwydded safle drwy roi hysbysiad cosb benodedig ynteu hysbysiad cydymffurfio. Rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir. Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei roi, ond heb ei dalu, caiff awdurdod lleol dynnu’n ôl yr hysbysiad cosb benodedig a dyroddi yn ei le hysbysiad cydymffurfio mewn perthynas â’r un methiant. Caiff perchennog tir y cyflwynwyd hysbysiad cydymffurfio iddo apelio at Dribiwnlys Eiddo Preswyl yn erbyn yr hysbysiad hwnnw o dan adran 17(2) (gweler adran 23).

Adran 16 – Hysbysiad cosb benodedig

30.Mae’r adran hon yn nodi’r wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn hysbysiad cosb benodedig. Mae is-adran (2) yn darparu na chaiff y swm a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig fod yn uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol ar gyfer troseddau diannod (uchafswm o £200 yn Nhachwedd 2013), ac mae is-adran (3) yn pennu’r dull o dalu.

Adran 17 – Hysbysiadau cydymffurfio

31.Mae’r adran hon yn ymdrin â thorri amod trwydded safle. Mae’n darparu y caiff awdurdod lleol, os yw’n ymddangos i’r awdurdod lleol fod perchennog tir yn methu â chydymffurfio ag amod trwydded, gyflwyno hysbysiad cydymffurfio i’r perchennog hwnnw, sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir yn is-adran (1), gan gynnwys y camau y mae’n rhaid i’r perchennog eu cymryd i sicrhau y cydymffurfir â’r amod trwydded.

32.Mae’r darpariaethau’n rhoi hawl i’r perchennog apelio yn erbyn yr hysbysiad cydymffurfio at Dribiwnlys Eiddo Preswyl. Maent hefyd yn rhoi pŵer i’r awdurdod lleol ddirymu hysbysiad cydymffurfio neu ei amrywio drwy estyn y cyfnod o amser a bennir ar gyfer cydymffurfio â’r hysbysiad. Gellir rhoi’r cyfryw estyniad fel ymateb i gais gan berchennog y tir y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo, neu ar ysgogiad yr awdurdod lleol ei hunan.

Adran 18 - Hysbysiad cydymffurfio: trosedd a chollfarnau lluosog

33.Mae adran 18 yn pennu bod perchennog tir, y cyflwynwyd iddo hysbysiad cydymffurfio a ddaeth yn weithredol o dan adran 24, yn cyflawni trosedd os yw’n methu â chymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad o fewn y cyfnod penodedig.

34.Mae is-adran (2) yn pennu, pan fo person yn euog o’r drosedd, mai’r gosb yw dirwy (sef uchafswm o £5000 yn Nhachwedd 2013). Mae is-adran (3) yn caniatáu amddiffyniad os oedd gan y perchennog esgus rhesymol dros beidio â chymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad o fewn y cyfnod penodedig.

35.Mae’r is-adrannau (4) a (5) yn darparu, os oes gan berchennog safle ddwy neu ragor o gollfarnau am dorri hysbysiad cydymffurfio, y caiff awdurdod lleol wneud cais i’r llys (a gollfarnodd y perchennog) am ddirymu trwydded y safle.

Adran 19 - Hysbysiad cydymffurfio: pŵer i hawlio treuliau

36.Mae adran 19 yn darparu pŵer i adennill treuliau pan fo hysbysiad cydymffurfio wedi ei gyflwyno o dan adran 17.

37.Pan fo awdurdod lleol yn cyflwyno hysbysiad cydymffurfio i berchennog tir, caiff yr awdurdod lleol godi tâl ar y perchennog fel modd i adennill treuliau a dynnwyd gan yr awdurdod lleol iddynt wrth benderfynu a ddylid cyflwyno’r hysbysiad ac wrth baratoi a chyflwyno’r hysbysiad neu’r hawliad am dreuliau. Gallai’r tâl ymwneud, er enghraifft, â’r gost o sicrhau cyngor cyfreithiol er mwyn penderfynu a ddylid cyflwyno hysbysiad cydymffurfio ai peidio. Mae is-adran (2) yn egluro nad yw’r treuliau’n gyfyngedig i gyngor arbenigol. Caiff y tâl a godir gynnwys llog yn ogystal (gweler adran 25).

38.Caiff yr awdurdod lleol arfer ei bŵer i adennill treuliau drwy ddyroddi hawliad, sy’n nodi gwybodaeth am y treuliau fel a bennir yn adran 19(3) (a) i (c), yr un pryd ag y cyflwynir yr hysbysiad cydymffurfio.

39.Pan fo tribiwnlys yn caniatáu apêl yn erbyn y r hysbysiad cydymffurfio gwreiddiol (o dan adran 17) caiff wneud gorchymyn yr un pryd ynglŷn â’r hawliad am dreuliau a anfonwyd gyda’r hysbysiad; er enghraifft, gan gadarnhau neu ddileu’r tâl.

Adran 20 - Pŵer i gymryd camau ar ôl collfarnu’r perchennog

40.Mae adran 20 yn darparu, pan fo perchennog safle wedi ei gollfarnu am y drosedd o beidio â chydymffurfio â’r camau a bennir mewn hysbysiad cydymffurfio, y caiff yr awdurdod lleol a ddyroddodd yr hysbysiad gymryd y camau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad cydymffurfio ac unrhyw gamau pellach a ystyria’n briodol er mwyn sicrhau y cydymffurfir â’r amod perthnasol.

41.Pan fo awdurdod lleol yn bwriadu cymryd camau o dan yr adran hon, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad i berchennog y tir, sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir yn adran 20(2) (a) i (e).

42.Mae is-adran (3) yn darparu bod rhaid cyflwyno’r hysbysiad yn ddigon cynnar cyn yr adeg y bwriedir mynd i mewn i’r safle er mwyn rhoi cyfnod rhesymol o rybudd i’r perchennog. Gan fod adran 32(2) yn gwneud yn ofynnol rhoi 24 awr o rybudd i’r perchennog cyn mynnu cael mynediad, 24 awr yw’r cyfnod byrraf o rybudd y caniateir ei roi.

43.Mae is-adran (4) yn darparu, pan fo awdurdod lleol yn awdurdodi person ac eithrio un o swyddogion yr awdurdod lleol i weithredu ar ei ran, y trinnir y person hwnnw fel pe bai’n swyddog awdurdodedig o dan adran 32(1). Caiff person o’r fath arfer hawl mynediad i’r tir.

44.Nid yw’r gofyniad i roi 24 o rybudd yn adran 32(2) yn gymwys ac eithrio mewn perthynas â’r diwrnod pan fo’r awdurdod lleol yn bwriadu dechrau cymryd y camau ar y tir. Mae hyn yn golygu, os yw’r awdurdod yn bwriadu gwneud gwaith ar y tir a fydd yn cymryd mwy nag un diwrnod i’w gwblhau, na fydd angen rhoi 24 o rybudd cyn pob diwrnod y bwriadir mynd i mewn i’r safle.

Adran 21 - Pŵer i gymryd camau brys

45.Mae adran 21 yn darparu pŵer i awdurdod lleol gymryd camau brys mewn rhai amgylchiadau.

46.Mae is-adran (2) yn pennu y caiff awdurdod lleol gymryd pa bynnag gamau sy’n angenrheidiol i ddileu risg sydd ar fin digwydd, o niwed difrifol i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson sydd, neu a all fod, ar y tir. O dan is-adrannau (3) i (5), pan fo awdurdod lleol yn bwriadu cymryd camau brys o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod gyflwyno hysbysiad sy’n cynnwys gwybodaeth benodedig i’r perchennog. Caiff yr hysbysiad hwnnw ddatgan hefyd y byddai’r awdurdod lleol yn gwneud cais am warant o dan adran 32(3) pe gwrthodid mynediad i’r tir. Rhaid cyflwyno’r hysbysiad yn ddigon cynnar cyn yr adeg y bwriedir mynd i mewn, er mwyn rhoi rhybudd digonol i berchennog y tir.

47.Mae is-adran (6) yn darparu, pan fo awdurdod lleol yn awdurdodi person ac eithrio swyddog yr awdurdod lleol i weithredu ar ei ran, y trinnir y person hwnnw fel person awdurdodedig o dan adran 32(1) o’r Ddeddf.

48.Mae is-adran (7) yn pennu nad yw’r gofyniad yn adran 32(1) i arfer yr hawl mynediad “ar bob adeg resymol” yn gymwys, oherwydd gallai hynny fod yn amhriodol mewn sefyllfa o argyfwng. Nid yw’r gofyniad i roi 24 awr o rybudd o’r bwriad i fynd i mewn yn gymwys yma ychwaith. Mae is-adran (8) yn pennu bod rhaid i’r awdurdod lleol, o fewn 7 diwrnod ar ôl dechrau cymryd camau brys, gyflwyno hysbysiad pellach i’r perchennog, a fydd yn cynnwys gwybodaeth benodedig, gan gynnwys y rhesymau dros gymryd y camau ac esboniad o’r hawl i apelio.

49.Darperir i’r perchennog yr hawl i apelio at Dribiwnlys Eiddo Preswyl yn erbyn y camau brys, naill ai ar y sail nad oedd risg ar fin digwydd o niwed difrifol i iechyd neu ddiogelwch person a oedd, neu a allai fod, ar y tir, neu nad oedd (neu nad yw) y camau gan yr awdurdod lleol yn angenrheidiol er mwyn dileu risg o’r fath.

Adran 22 - Camau o dan adran 20 neu 21: pŵer i hawlio

50.Mae adran 22 yn rhoi i awdurdod lleol y pŵer i hawlio treuliau os cymerwyd camau o dan adran 20 neu 21.

51.Mae adran 22(1) yn darparu, pan fo awdurdod lleol wedi cymryd camau o dan adran 20 neu 21, y caiff yr awdurdod lleol godi tâl ar y perchennog fel modd i adennill treuliau a dynnwyd ganddo wrth gymryd y camau a bennir ym mharagraffau (a) to (c).

52.Yn is-adrannau (4) a (5) pennir o fewn pa gyfnod o amser y ceir codi tâl am y costau a dynnwyd wrth gymryd camau brys, sy’n dibynnu ar pa un a ddygir apêl ai peidio.

53.Mae is-adran (6) yn pennu bod y pŵer i godi tâl yn arferadwy drwy gyflwyno i’r perchennog hawliad am y treuliau y mae’r awdurdod lleol yn ceisio’u hadennill, o fewn y cyfnod o amser a bennir yn is-adran (8).

54.Mae is-adran (7) yn darparu y caiff perchennog tir, y cyflwynir hawliad iddo o dan yr adran hon, apelio at Dribiwnlys Eiddo Preswyl yn erbyn yr hawliad hwnnw.

Adran 23 - Apelio o dan adran 17, 21 neu 22

55.Mae adran 23 yn ymdrin ag apelau a ddygir o dan adrannau 17, 21 neu 22.

56.Mae is-adran (1) yn darparu bod rhaid gwneud unrhyw apêl a ddygir o dan yr adrannau hyn cyn diwedd cyfnod o 21 ddiwrnodau, sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cyflwynwyd y ddogfen berthnasol (gweler adran 23(2)).

57.Mae is-adran (3) yn darparu y caiff Tribiwnlys Eiddo Preswyl ganiatáu gwneud apêl ar ôl diwedd y cyfnod apelio, os bodlonwyd y Tribiwnlys fod rheswm da dros yr oedi

58.Bydd apêl a ddygir o dan yr adrannau hyn yn cael ei gynnal ar ffurf ail wrandawiad gan y tribiwnlys. Caiff ystyried materion na wyddai’r awdurdod lleol a wnaeth y penderfyniad ddim amdanynt. Mae is-adran (5) yn pennu’r pwerau sydd gan y tribiwnlys i wneud gorchmynion yn cadarnhau, amrywio neu ddiddymu’r mater sydd dan ystyriaeth.

Adran 24 - Pryd y daw hysbysiad cydymffurfio neu hawliad treuliau yn weithredol

59.Mae’r adran hon yn pennu’r adeg y daw hysbysiad cydymffurfio neu hawliad treuliau yn weithredol.

60.O dan is-adran (2) os na ddygir apêl yn erbyn hysbysiad cydymffurfio o fewn y cyfnod apelio a bennir yn adran 17, bydd yr hysbysiad ac unrhyw hawliad treuliau o dan adran 19 a anfonwyd gyda’r hysbysiad ill dau’n dod yn weithredol ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

61.Mae hawliad am dreuliau o dan adran 22 yn dod yn weithredol ar ddiwedd y cyfnod a ganiateir ar gyfer apêl, os na wneir apêl yn erbyn yr hawliad (gweler adran 24(3)).

62.Mae is-adrannau (4) i (6) yn ymdrin ag achosion pan ddygir apêl, ac yn pennu bod hysbysiad cydymffurfio (ac unrhyw hawliad o dan adran 19 a anfonir gydag ef) neu hawliad o dan adran 22 yn dod yn weithredol pan roddir penderfyniad ar yr apêl sy’n cadarnhau’r hysbysiad neu’r hawliad.

Adran 25 - Adennill treuliau a hawlir o dan adran 19 neu 22

63.Mae’r adran hon yn ymdrin ag adennill treuliau a hawlir o dan adran 19 neu 22.

64.Mae is-adran (1) yn darparu, o’r adeg y daw hawliad o dan adran 19 neu 22 yn weithredol, y codir llog ar y treuliau a bennir yn yr hawliad, ar gyfradd a bennir gan yr awdurdod lleol, hyd nes bo’r holl symiau sy’n ddyladwy o dan yr hawliad wedi eu hadennill.

65.Mae is-adran (2) yn darparu, o’r adeg y daw’r hawliad yn weithredol, y bydd y treuliau a’r llog yn arwystl ar y tir y mae’r hysbysiad cydymffurfio yn ymwneud ag ef hyd nes bo’r treuliau a’r llog wedi eu hadennill.

66.Mae is-adran (3) yn pennu bod yr arwystl yn cael effaith fel arwystl cyfreithiol sydd yn bridiant tir lleol.

67.Mae is-adran (4) yn pennu y caiff yr awdurdod lleol ddibynnu ar bwerau a rhwymedïau penodol a bennir yn Neddf Cyfraith Eiddo 1925 i orfodi’r arwystl, gan gynnwys penodi derbynnydd. Mae is-adran (5) yn pennu pa bryd y ceir arfer y pŵer i benodi derbynnydd.

Adran 26 - Dirymu yn sgil marwolaeth, newid perchnogaeth neu roi’r gorau i ddefnyddio safle

68.Mae adran 26 yn darparu y dirymir trwydded safle ar farwolaeth y deiliad trwydded, pan fo’r deiliad trwydded yn peidio â bod yn berchennog y tir neu pan fo’r tir a gwmpesir mewn trwydded yn peidio â chael ei ddefnyddio fel safle rheoleiddiedig.

Adran 27 - Dyletswydd deiliad trwydded safle i ganiatáu i drwydded gael ei newid

69.62. Mae adran 27, i raddau helaeth, yn ailddatganiad o adran 11 o Ddeddf 1960 Act sy’n cynnwys dyletswydd ar y deiliad trwydded i ildio’r drwydded er mwyn cynnwys newid ynddi, pan ofynnir iddo wneud hynny gan yr awdurdod lleol a ddyroddodd y drwydded. Os methir â chydymffurfio â chais o dan yr adran hon heb esgus rhesymol, bydd deiliad y drwydded yn cyflawni trosedd a allai ysgogi na fydd yn uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol (uchafswm o £200 yn Nhachwedd 2013).

Adran 28 - Gofyniad bod rhaid i reolwr safle fod yn berson addas a phriodol

70.Mae adran 28 yn cyflwyno gofyniad newydd o fod yn “berson addas a phriodol”, sy’n gymwys i berson sy’n rheoli safle rheoleiddiedig. Mae is-adran (1) yn pennu na chaiff perchennog tir ganiatáu i unrhyw ran o’r tir gael ei ddefnyddio fel safle rheoleiddiedig oni fodlonir yr awdurdod lleol fod naill ai’r perchennog neu berson a benodir gan y perchennog, neu gan yr awdurdod lleol (gyda chydsyniad y perchennog), yn berson addas a phriodol i reoli’r safle.

71.Mae isadran (2) yn darparu, pan fo perchennog tir yn caniatáu defnyddio safle yn groes i is-adran (1) heb berson addas a phriodol yn rheoli’r safle, y caiff yr awdurdod lleol wneud cais i Dribiwnlys Eiddo Preswyl am orchymyn yn dirymu trwydded y safle. Mae is-adrannau (3) a (4) yn darparu bod tramgwydd o’r fath yn drosedd a allai, yn dilyn collfarn ddiannod, ysgogi dirwy (sef hyd at uchafswm o £5,000 yn Nhachwedd 2013).

72.O dan is-adran (5), pan fo perchennog wedi ei gael yn euog o drosedd o dan is-adran (3) gan lys ynadon mewn perthynas â’r tir ar ddau neu ragor o achlysuron blaenorol, caiff yr awdurdod lleol wneud cais i’r llys ynadon am orchymyn yn dirymu trwydded y safle.

Adran 29 - Penderfynu a yw person yn addas a phriodol

73.Mae adran 29(1) yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol, wrth benderfynu a person yn “addas a phriodol” i reoli safle rheoleiddiedig, roi sylw i’r holl faterion a ystyria’n briodol, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth o’r mathau a restrir yn is-adran (3) neu (4). Er enghraifft, o dan is-adran (3), dylai awdurdod lleol ystyried a yw ‘r person wedi torri unrhyw ddarpariaeth o’r gyfraith mewn perthynas â thai (gan gynnwys cartrefi symudol ) neu landlord a thenant.

74.O dan is-adran (4) haid i awdurdod lleol ystyried tystiolaeth bod unrhyw berson arall, sydd neu a fu gynt yn gysylltiedig a’r person, wedi gwneud unrhyw un o’r pethau a bennir yn is-adran (3), ac a yw’r dystiolaeth honno’n berthnasol i’r cwestiwn pa un a yw’r person ei hunan yn addas a phriodol i reoli’r safle rheoleiddiedig.

75.Mae is-adran (5) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddiwygio adran 29 er mwyn amrywio’r dystiolaeth y mae’n rhaid i awdurdod lleol roi sylw iddi wrth wneud penderfyniad o dan yr adran hon.

76.Os wy awdurdod lleol yn penderfynu nad yw person yn berson addas a phriodol, rhaid iddo hysbysu’r person o’r rhesymau am y penderfyniad hwnnw ac o hawl y person i apelio at Dribiwnlys Eiddo Preswyl o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad y penderfyniad.

Adran 30 - Penodi rheolwr interim

77.Mae adran 30 yn caniatáu i awdurdod lleol benodi n rheolwr interim ar gyfer safle rheoleiddiedig os bodlonir yr amodau yn is-adran (2). Yr amodau yw fod yr awdurdod lleol o’r farn bod deiliad trwydded y safle yn methu neu wedi methu, yn ddifrifol neu nifer o weithiau, i gydymffurfio ag amod sydd ynghlwm wrth drwydded y safle; nad yw’r safle’n cael ei reoli gan berson addas a phriodol; neu nad oes neb yn rheoli’r safle.

78.O dan is-adran (3) caiff cymdeithas trigolion gymwys (gweler adran 61) ofyn i’r awdurdod lleol ystyried arfer ei bwerau i benodi rheolwr interim. Gallai hyn ddigwydd, er enghraifft, mewn amgylchiadau pan nad yw’r gymdeithas trigolion o’r farn bod rheolwr y safle yn berson addas a phriodol.

79.O dan is-adran (5) os tramgwyddir person gan benderfyniad i benodi rheolwr interim, mae hawl i apelio at Dribiwnlys Eiddo Preswyl yn erbyn y penderfyniad o fewn 28 diwrnod.

80.Ni phenodir rheolwr interim am gyfnod amhenodol. Fel y pennir yn adran 30(6) daw’r penodiad i ben ar ddyddiad penodedig neu pan fo trwydded y safle yn dod i ben neu’n cael ei dirymu. Mae is-adran (7) yn caniatáu penodi rheolwr interim newydd pe bai rhywun yn gadael y swydd cyn y dyddiad penodedig.

Adran 31 – Telerau penodi a phwerau rheolwr interim

81.Mae adran 31 yn pennu telerau penodi rheolwr interim, ynghyd â phwerau’r rheolwr interim, a restrir o dan is-adran (2)(a) a (b). O dan is-adrannau (3) a (4) caiff awdurdod lleol roi cyfarwyddiadau cyffredinol neu benodol i’r rheolwr interim, a chaiff dynnu’n ôl neu ddiwygio’r cyfarwyddiadau a roddir. O dan is-adran (5), ceir didynnu tâl a threuliau rheolwr interim allan o unrhyw incwm y mae hawl gan ddeiliad trwydded y safle i’w gael; ac os yw’r incwm hwnnw’n annigonol, rhaid i unrhyw falans gael ei dalu gan yr awdurdod lleol. Os telir unrhyw swm gan yr awdurdod lleol o dan is-adran (5), caiff yr awdurdod lleol adennill y swm hwnnw oddi ar ddeiliad trwydded y safle.

Adran 32 - Pŵer mynediad swyddogion awdurdodau lleol

82.Mae adran 32 yn ailddatgan adran 26 o Ddeddf 1960, gan gynyddu’r gosb am rwystro’n fwriadol unrhyw berson sy’n arfer y pŵer mynediad neu a awdurdodir i fynd ar y tir yn rhinwedd gwarant, o ddirwy lefel 1 i lefel 4 ar y raddfa safonol (sef uchafswm o £2,500 yn Nhachwedd 2013).

83.Mae’r adran hon yn darparu pwerau i swyddog neu asiant awdurdodedig yr awdurdod lleol i fynd i mewn ar safle rheoleiddiedig ar bob adeg resymol, os oes sail resymol dros fynd i mewn. Rhaid iddo ddangos dogfen awdurdod a ddilyswyd yn briodol (os gofynnir iddo wneud hynny) a mynnu cael mynediad at y dibenion a amlinellir yn is-adran (1) (a) i (d).

84.Ni chaniateir mynediad i’r safle oni fydd y perchennog wedi cael 24 awr o rybudd, ac eithrio o dan adran 21(7) mewn perthynas â chamau brys.

85.Caiff ynad heddwch ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi mynediad i’r tir gan yr awdurdod lleol, gan ddefnyddio grym pe bai angen. Bydd hyn yn digwydd os daw ynad i’r casgliad, ymhlith rhesymau eraill, fod mynediad i’r tir wedi ei wrthod, neu fod y perchennog yn absennol dros dro a bod achos dros fynd i mewn ar frys.

Adran 33 – Gorchmynion ad-dalu

86.Mae adran 33 yn cyflwyno darpariaeth, yn achos safle sydd heb ei drwyddedu, y caiff meddiannydd cartref symudol wneud cais i Dribiwnlys Eiddo Preswyl am orchymyn ad-dalu.

87.Yn is-adran (5) diffinnir gorchymyn ad-dalu fel gorchymyn sy’n gwneud yn ofynnol bod perchennog neu reolwr y safle di-drwydded yn talu i feddiannydd y cartref symudol y symiau a bennir yn y gorchymyn, mewn perthynas â’r taliadau a nodir o dan baragraffau (a) i (d). Caiff y gorchymyn ad-dalu gynnwys unrhyw daliad a wnaed gan y meddiannydd i’r perchennog neu’r rheolwr mewn perthynas â phrynu’r cartref symudol, unrhyw gomisiwn a dalwyd mewn perthynas â gwerthu’r cartref symudol, y ffi am y llain ac unrhyw daliadau cyfnodol mewn perthynas â’r cartref symudol.

88.O dan is-adran (6)(a) i (c) rhaid i dribiwnlys fodloni ei hunan ynglŷn â rhai materion, megis bod perchennog y safle wedi ei gollfarnu am drosedd o dan adran 5 mewn perthynas â’r safle, bod meddiannydd wedi gwneud taliad i’r perchennog yn ystod yr amser y cyflawnwyd y drosedd a bod y cais wedi ei wneud o fewn 12 mis ar ôl dyddiad y gollfarn.

89.O dan is-adran (8), y swm y mae’n ofynnol ei dalu o dan is-adran (5) yw’r cyfryw swm a ystyrir yn rhesymol gan y tribiwnlys yn yr amgylchiadau. Mae is-adran (9) yn pennu’r materion y mae’n rhaid i’r tribiwnlys eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu’r swm sydd i’w dalu. Mae is-adran (10) yn darparu na chaiff gorchymyn ad-dalu gynnwys unrhyw swm sy’n ymwneud â chyfnod y tu allan i’r 12 mis sy’n diweddu gyda dyddiad cais y meddiannydd.

90.O dan is-adran (11), mae symiau sy’n daladwy i feddiannydd cartref symudol o dan orchymyn ad-dalu yn adenilladwy fel dyled sy’n ddyladwy i’r meddiannydd gan berchennog neu reolwr y safle.

Adran 34 - Datganiadau neu wybodaeth anwir neu gamarweiniol

91.Mae adran 34 yn peri y cyflawnir trosedd os gwneir datganiad neu osodiad arall sy’n gamarweiniol, neu os darperir gwybodaeth anwir neu gamarweiniol o dan Ran 2 o’r Ddeddf, gan wybod neu gredu bod yr wybodaeth honno’n anwir neu’n gamarweiniol. Y gosb, yn dilyn collfarn ddiannod, yw dirwy (sef uchafswm o £5,000 yn Nhachwedd 2013).

Adran 35 – Canllawiau gan Weinidogion

92.Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau lleol ar gyflawni eu swyddogaethau o dan Ran 2 o’r Ddeddf hon. Rhaid i’r awdurdodau lleol roi sylw i ganllawiau o’r fath.

Adran 36 - Pwerau i godi taliadau: atodol

93.Mae’r adran hon yn caniatáu i awdurdodau lleol godi ffioedd o dan adran 6 (gwneud cais am drwydded safle) neu adran 13 amrywio amodau trwydded safle). Mae is-adran (2) yn gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn paratoi a chyhoeddi polisi cyn codi ffi. Mae is-adrannau (3) a (4) yn nodi’r hyn y mae angen i awdurdod lleol ei wneud wrth bennu ffioedd, a pha gostau na chânt eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu ffi.

Adran 37 - Cofrestrau trwyddedau safle

94.Mae adran 37 yn gwneud yn ofynnol bod pob awdurdod lleol yn cadw cofrestr o drwyddedau safle ac yn ei rhoi ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd.

Adran 38 - Tir y Goron

95.Mae adran 38 yn datgan nad yw Rhan 2 o’r Ddeddf yn gymwys i dir y Goron.

Rhan 3: Amddiffyn rhag troi allan

96.Mae’r Rhan hon yn deillio o Ddeddf Safleoedd Carafannau 1968 (“Deddf 1968”) ac wedi ei diwygio i ddarparu eglurder a chysondeb ychwanegol.

Adran 40 – Cymhwyso’r Rhan

97.Mae’r adran hon yn deillio o adran 1(1) o Ddeddf 1968 Act ac yn sicrhau y cymhwysir y diogelwch yn Rhan 3 i unrhyw un sydd â thrwydded neu gontract sy’n rhoi hawl i berson :

a.

osod cartref symudol ar safle gwarchodedig er mwyn ei feddiannu fel preswylfa’r person hwnnw, neu,

b.

symud i mewn i gartref symudol a oedd eisoes ar y safle.

Adran 41 – Parhad lleiaf hysbysiad

98.Mae’r adran hon yn darparu, pan fo contract preswyl yn gwneud yn ofynnol rhoi hysbysiad terfynu, bod rhaid rhoi dim llai na phedair wythnos o rybudd o’r dyddiad y bydd yr hysbysiad terfynu’n cael effaith.

Adran 42 - Amddiffyn meddianwyr yn erbyn eu troi allan ac aflonyddu arnynt, gwybodaeth anwir etc.

99.Mae adran 42 yn ailddatgan adran 3 o Ddeddf 1968 Act gyda rhai diwygiadau. Yn is-adran (4), hepgorwyd y gair “persistently” ac felly cyflawnir trosedd o dan yr adran honno os yw person yn cadw’n ôl neu’n tynnu’n ôl wasanaethau neu gyfleusterau sy’n rhesymol angenrheidiol er mwyn meddiannu’r cartref symudol. Adlewyrchir yr un diwygiad yn is-adran (5), ac felly cyflawnir trosedd os yw perchennog safle gwarchodedig neu ei asiant yn cadw’n ôl neu’n tynnu’n ôl wasanaethau neu gyfleusterau sy’n rhesymol angenrheidiol er mwyn meddiannu’r cartref symudol fel preswylfa ar y safle.

100.Mae is-adran (6) yn creu trosedd newydd. Mae perchennog safle gwarchodedig neu ei asiant yn cyflawni trosedd os ydyw, yn ystod oes contract preswyl, yn darparu gwybodaeth neu’n gwneud sylw sy’n anwir neu’n gamarweiniol gan wybod hynny neu’n ddi-hid. Rhaid i’r perchennog neu’r asiant, yn ychwanegol, fod yn gwybod, neu fod â rheswm da dros gredu, bod gweithredu felly yn debygol o beri—

Adran 43 – Troseddau o dan adran 42: atodol

101.O dan is-adran (1), mewn achos ynglŷn â thorri adran 42(2) neu (3), mae’n amddiffyniad os profir bod y cyhuddedig yn credu, a bod ganddo achos rhesymol dros gredu, bod meddiannydd y cartref symudol wedi rhoi’r gorau i fyw ar y safle. Yn is-adran (2), mewn achos ynglŷn â thorri adran 42(5) mae’n amddiffyniad os profir bod gan y cyhuddedig sail resymol dros wneud y gweithredoedd neu dynnu’n ôl neu gadw’n ôl y gwasanaethau neu’r cyfleusterau.

102.O dan is-adran (3), y gosb am drosedd o dan adran 42 yn dilyn collfarn ddiannod (mewn llys ynadon) yw dirwy neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na 12 mis, neu’r ddau, ac yn dilyn collfarn ar dditiad (yn llys y Goron), dirwy neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

Adran 44 – Darpariaeth ar gyfer atal gorchmynion troi allan dros dro

103.Mae adran 44 yn pennu’r amgylchiadau pan gaiff llys atal gorfodi gorchymyn a wnaed gan y llys i droi allan y meddiannydd oddi ar safle, am gyfnod na fydd yn hwy na 12 mis.

Rhan 4 -  Cytundebau cartrefi symudol

Adran 48 – Cytundebau y mae’r Rhan yn gymwys iddynt

104.Mae adran 48 yn ailddatgan adran 1(1) o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 ("Deddf 1983") ac yn datgan bod Rhan 4 yn ymwneud â chytundebau y mae gan berson hawl odanynt i osod cartref symudol ar safle gwarchodedig ac i feddiannu’r cartref symudol fel unig neu brif breswylfa’r person hwnnw. Mae’n diffinio pwy sydd yn “feddiannydd” yn Rhan 4.

Adrannau 49 – Manylion cytundebau

105.Mae adran 49 yn pennu gofynion ar gyfer cytundebau. Mae is-adran (1) yn darparu bod rhaid i berchennog safle gwarchodedig, cyn gwneud cytundeb, roi datganiad ysgrifenedig i’r darpar feddiannydd o dan y cytundeb, sy’n nodi’r materion hynny a restrir ym mharagraffau (a) i (e), megis telerau datganedig ac ymhlyg y cytundeb. Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau a fydd yn pennu gwybodaeth bellach y bydd yn rhaid ei chynnwys yn y datganiad hwnnw.

106.Mae is-adran (2) yn pennu pa bryd y mae’n rhaid rhoi’r datganiad ysgrifenedig.

107.Mae is-adran (4) yn datgan, os yw cytundeb yn cynnwys teler datganedig, ac eithrio rheol safle, nad oedd wedi ei nodi yn y datganiad ysgrifenedig, nad yw’r teler hwnnw’n orfodadwy gan y perchennog (gweler hefyd adran 50(3)). Telerau datganedig yw’r telerau cytundeb y mae perchennog safle wedi eu cynnwys mewn cytundeb gyda meddiannydd. Telerau ymhlyg yw’r telerau hynny o dan Ran 1 o Atodlen 2, sy’n oblygedig ym mhob cytundeb rhwng meddiannydd a pherchennog safle.

108.Mae is-adran (5) yn pennu’r hyn fydd yn digwydd os yw’r perchennog yn peidio â rhoi datganiad ysgrifenedig i’r meddiannydd.

109.Nid yw is-adrannau (2), (3) a (5) yn gymwys i berson sy’n meddiannu neu’n bwriadu meddiannu llain dramwy ar safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol.

Adran 50 – Telerau cytundebau

110.Mae adran 50 yn cyflwyno Atodlen 2 (Telerau Cytundebau Cartrefi Symudol) sy’n pennu’r telerau sy’n ymhlyg mewn unrhyw gytundeb y mae Rhan 4 yn gymwys iddo. Mae’n pennu hefyd, yn is-adrannau (2) i (4), y caiff tribiwnlys neu lys (gweler adran 54) wneud gorchymyn i ddiwygio neu ddileu unrhyw deler datganedig ac eithrio rheol safle (gweler adran 52).

111.Nid yw is-adrannau (2) i (4) yn gymwys i berson sy’n meddiannu neu’n bwriadu meddiannu llain dramwy ar safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol.

Adran 51 – Pŵer i ddiwygio telerau ymhlyg

112.Mae adran 51 yn datgan y caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio Atodlen 2 – ac eithrio paragraff 11 – fel yr ystyriant yn briodol.

Adran 52 – Rheolau safle

113.Mae adran 52 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â “rheolau safle” (fel y’u diffinnir yn is-adran (2)). O dan y darpariaethau (nad ydynt yn gymwys i safleoedd Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol) bydd pob rheol safle’n deler datganedig o’r cytundeb llain rhwng perchennog y safle a meddiannydd y cartref symudol, ac felly’n creu sicrwydd i’r ddau barti. Bydd y darpariaethau hyn yn gymwys i gytundebau llain sy’n bodoli eisoes yn ogystal â’r cytundebau a wneir wedi i’r darpariaethau ddod i rym.

114.Mae’r darpariaethau’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynglŷn â’r weithdrefn sydd i’w dilyn gan berchennog safle sy’n dymuno gwneud rheolau safle newydd neu amrywio neu ddileu rheolau presennol; gwneir yn ofynnol, er enghraifft, ymgynghori â’r meddianwyr. Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sydd hefyd yn—

Adran 53 – Olynwyr mewn teitl

115.Mae adran 53 yn ailddatgan adran 3 o Ddeddf 1983 Act gyda rhai diwygiadau, ac yn darparu ar gyfer trosglwyddo cytundeb cartref symudol i rywun arall ar farwolaeth un o’r partïon i’r cytundeb. Mae is-adran (3)(a) yn diffinio’r personau sydd â hawl i olynu mewn perthynas â chytundeb y mae Rhan 4 yn gymwys iddo. O dan is-adran (3)(b), yn absenoldeb person o’r fath, penderfynir pwy fydd â hawl i gael y cartref symudol yn unol ag ewyllys yr ymadawedig neu o dan y gyfraith ar ddiewyllysedd (yn ddarostyngedig i is-adran(4)).

Rhan 5 – Pwerau’r awdurdodau lleol

Adran 56 – Pŵer i ddarparu safleoedd i gartrefi symudol

116.Mae adran 56 yn pennu bod pŵer gan awdurdod lleol i ddarparu safleoedd cartrefi symudol ar dir o fewn ei ardal.

117.Mae is-adran (2) yn cynnwys pŵer i wneud unrhyw beth sy’n ddymunol mewn cysylltiad â darparu safle o dan is-adran (1) megis caffael tir.

Adran 57 – Pŵer i wahardd cartrefi symudol ar dir comin

118.Mae adran 57 yn gymwys i unrhyw dir yng Nghymru sy’n ffurfio rhan o dir comin ac nad yw’n dir y mae adran 193 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 yn gymwys iddo, tir sy’n destun cynllun o dan Ran 1 o Ddeddf Tiroedd Comin 1889, nac yn dir y mae trwydded safle mewn grym mewn perthynas ag ef. O dan is-adran (11) mae “tir comin” yn cynnwys unrhyw dir sy’n ddarostyngedig i’w amgáu o dan Ddeddfau Amgáu Tir 1845 i 1882 ac unrhyw lawnt tref neu lawnt pentref.

119.O dan is-adrannau (2) i (4), caiff awdurdod lleol wneud gorchymyn sy’n gwahardd gosod cartref symudol ar dir y mae’r adran hon yn gymwys iddo. Mae unrhyw berson sy’n torri gorchymyn o’r fath yn euog o drosedd, ac yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 1 ar y raddfa safonol (uchafswm o £200 yn Nhachwedd 2013).

120.Rhaid i awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod copïau o orchymyn o’r fath yn cael eu harddangos ar y tir i ddarparu rhybuddion priodol (is-adran (5)). Caiff yr awdurdod lleol ddirymu gorchymyn ar unrhyw adeg, neu ei amrywio i er mwyn hepgor unrhyw dir ohono neu gyflwyno eithriad (is-adran (7)).

Rhan 6 – atodol a chyffredinol

121.Mae Rhan 6 yn ymdrin â materion technegol, megis y pŵer i wneud darpariaethau canlyniadol, trosiannol, darfodol ac arbedion.

Adran 59 – Rhwymedigaeth swyddogion cyrff corfforaethol

122.Mae adran 59 yn gymwys i unrhyw drosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnir mewn perthynas â thir yng Nghymru. Mae’n efelychu’r ddarpariaeth a gynhwysir yn adran 14 o Ddeddf 1968. Yn adran 59 darperir, pan fo corff corfforaethol yn cyflawni trosedd, a phrofir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu drwy gydgynllwyn swyddog y corff corfforaethol, neu fod y drosedd i’w phriodoli i esgeulustod ar ran y person hwnnw, yna bydd y person hwnnw yn ogystal â’r corff corfforaethol yn euog o’r drosedd. Gellir dwyn achos yn erbyn y person hwnnw yn ogystal â’r corff corfforaethol a gellir cosbi’r ddau yn unol â hynny. Mae is-adran (2) yn diffinio ystyr swyddog corff corfforaethol

Adran 60 – Ystyr “cartref symudol”

123.Mae adran hyn yn diffinio ‘cartref symudol’. Mae is-adran (1) yn deillio o adran 29(1) o Ddeddf 1960 Act. Mae is-adrannau (2) i (4) yn deillio o adran 13(1) i(3) o Ddeddf 1968.

Adran 61 – Ystyr “cymdeithas trigolion gymwys”

124.Mae adran 61 yn darparu diffiniad o gymdeithas trigolion gymwys ac yn deillio o baragraff 28 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 gyda rhai diwygiadau. Er enghraifft, o dan is-adran (1)(b) rhaid i gymdeithas fod â meddianwyr 50%, o leiaf, o’r cartrefi symudol yn aelodau ohoni; o dan baragraff (e) mae ei rheolau a’i chyfansoddiad yn agored i’w harchwilio gan y cyhoedd; a rhaid i’r gymdeithas trigolion gymwys gynnal rhestr o’i haelodau. O dan is-adran (1)(g), gwneir penderfyniadau drwy bleidleisio a chaniateir un bleidlais yn unig i bob cartref symudol.

125.O dan is-adran (2), un meddiannydd yn unig o bob cartref symudol gaiff fod yn aelod o’r gymdeithas. Os oes mwy nag un meddiannydd, cânt gytuno ar bwy fydd yn aelod o’r gymdeithas neu, yn niffyg cytundeb, yr aelod fydd yr un y mae ei enw yn ymddangos gyntaf ar y cytundeb.

126.O dan is-adran (3), nid yw cymdeithas yn gymdeithas trigolion gymwys oni fydd rhestr gyfoes o’i haelodau wedi ei hadneuo gyda’r awdurdod lleol.

127.O dan is-adran (4), pan fo copi o’r rhestr o aelodau wedi ei hadneuo gyda’r awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i ganfod a yw meddianwyr 50% o leiaf o’r cartrefi symudol yn aelodau o’r gymdeithas, a rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r gymdeithas a’r perchennog sy’n datgan a fodlonwyd yr awdurdod lleol ai peidio fod 50% o leiaf o’r cartrefi symudol ar y safle yn aelodau o’r gymdeithas. O dan is-adran (5), os bodlonir awdurdod lleol fod 50% o leiaf o’r cartrefi ar y safle yn aelodau, mae dyletswydd ar gymdeithas i gyflwyno rhestr ddiweddaredig o’i haelodau cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl unrhyw newidiadau yn ei haelodaeth. O dan is-adran (6), os yw’n ymddangos i’r awdurdod lleol nad yw aelodaeth cymdeithas bellach yn cynnwys meddianwyr 50% o leiaf o’r cartrefi ar y safle, rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r gymdeithas a pherchennog y safle nad yw’r gymdeithas bellach yn gymdeithas trigolion gymwys.

128.O dan adran 41(1) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, trinnir unrhyw ddatgeliad i’r cyhoedd o’r rhestr a adneuwyd gyda’r awdurdod lleol o aelodau cymdeithas trigolion gymwys fel toriad cyfrinachedd y gall aelodau o’r gymdeithas ddwyn achos yn ei gylch (ac eithrio datgelu manylion y cadeirydd, yr ysgrifennydd neu’r trysorydd)

Adran 63 – Gorchmynion a Rheoliadau

129.Mae adran 63 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ar gyfer gorchmynion a rheoliadau o dan y Ddeddf. Yn benodol, mae’n darparu ar gyfer gwneud gorchmynion a rheoliadau drwy offeryn statudol, ac eithrio pan bennir yn wahanol.

130.Mae adran 63(3) a (4) yn gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn ymgynghori cyn arfer eu pŵer o dan adran 51 (pŵer i ddiwygio telerau ymhlyg) ac adran 60(4) (gorchymyn yn diwygio’r ffigurau ynglŷn â dimensiynau cartref symudol a grybwyllir yn adran 60(3)).

131.Mae is-adrannau (5) i (7) yn pennu gweithdrefn y Cynulliad sydd i’w chymhwyso mewn perthynas â gwahanol offerynnau statudol.

Atodlen 1 - Safleoedd nad ydynt yn safleoedd rheoleiddiedig

132.Mae Atodlen 1 yn ailddatgan Atodlen 1 i Ddeddf 1960 sy’n pennu pa safleoedd sy’n esempt rhag cael trwydded safle, er enghraifft safle ar gyfer gweithwyr amaethyddiaeth neu goedwigaeth (paragraffau 7 ac 8), adeiladu pheiriannu (paragraff 9) a siewmyn teithiol (paragraff 10).

133.Mae paragraff 12 yn darparu esemptiad dros dro ar ôl marwolaeth y perchennog neu newid perchnogaeth. Mewn achosion o’r fath darperir “cyfnod esempt cychwynnol” o 3 mis o’r gofyniad i gael trwydded safle, a chaiff yr awdurdod lleol estyn y cyfnod hwnnw os gwneir cais.

Atodlen 2 – Telerau cytundebau cartrefi symudol

134.Mae Atodlen 2 yn cynnwys dwy Ran, y gyntaf yn ymdrin â thelerau a ymhlygir gan y Ddeddf, a’r ail yn ymdrin â materion y caiff y corff barnwrol priodol eu hymhlygu.

135.Rhennir Rhan 1 yn bedair Pennod. Ym Mhennod 1 pennir i ba gytundebau y mae’r telerau ymhlyg ym mhob Pennod yn gymwys a darperir diffiniadau o’r termau sy’n gyffredin i bob Pennod. Mae Pennod 2 yn gymwys i bob cytundeb ac eithrio cytundebau ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol. Mae Pennod 3 yn pennu’r telerau ymhlyg sy’n gymwys i leiniau tramwy ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol a Phennod 4 yn pennu’r telerau ymhlyg sy’n gymwys i leiniau parhaol ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol.

Rhan 1 – Telerau A Ymhlygir Gan Y Ddeddf

Pennod 2 – Cytundebau sy’n ymwneud a lleiniau ac eithrio’r rhai hynny sydd ar safleoedd awdurdodau lleol i sipsiwn a theithwyr

136.Mae paragraffau 2 i 8 yn ailddatgan paragraffau 1, 2, 3, 4, 5, 5A a 7 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 Act yn ymwneud â pharhad cytundebau ynglŷn â lleiniau (ac eithrio ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol), terfynu gan y meddiannydd ac adennill gordaliadau gan y meddiannydd.

137.Mae paragraff 9 o Atodlen 2 yn disodli paragraff 8 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 Act ac yn ymwneud â "chytundebau newydd," h.y. rhai a wneir neu a aseinir wedi i’r darpariaethau hyn ddod i rym. Mae’n rhoi hawl i feddiannydd y cartref symudol werthu’r cartref symudol ac aseinio’r cytundeb yn ogystal â rhoi hawl i berchennog safle gael comisiwn ar werthiant. Mae’n dileu’r gofyniad bod perchennog y safle’n cymeradwyo’r the person y gwerthir y cartref symudol iddo. Mae’n gwneud yn ofynnol bod prynwr cartref symudol yn hysbysu perchennog y safle ynghylch cwblhau’r gwerthiant ac aseinio’r cytundeb. Mae’n rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer i wneud rheoliadau sy’n pennu gofynion o ran y gweithdrefnau sydd i’w dilyn gan y partïon sy’n gysylltiedig â’r gwerthu.

138.Mae paragraff 10 yn pennu’r trefniadau ar gyfer gwerthu’r cartref symudol ac aseinio’r cytundeb pan nad yw’r cytundeb yn gytundeb newydd. Rhaid i’r meddiannydd roi hysbysiad ysgrifenedig i’r perchennog, i’r perwyl ei fod yn bwriadu gwerthu’r cartref symudol. Rhaid i’r hysbysiad gynnwys enw’r person y mae’n bwriadu gwerthu’r cartref symudol iddo a pha bynnag wybodaeth arall a fydd yn ofynnol gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. O fewn 21 diwrnod, caiff perchennog y safle wneud cais i dribiwnlys am “orchymyn gwrthod” sy’n rhwystro’r meddiannydd rhag gwerthu’r cartref symudol. Os nad yw’r meddiannydd yn cael hysbysiad o gais y perchennog i dribiwnlys am orchymyn gwrthod, neu os yw’r tribiwnlys yn gwrthod dyroddi gorchymyn gwrthod, caiff y gwerthiant ac aseinio’r cytundeb fynd ymlaen. Pan fo gwerthiant yn mynd ymlaen o dan baragraff 10, mae hawl gan berchennog y safle i gael comisiwn ar y gwerthiant

139.Mae paragraff 10 hefyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n pennu ar ba sail y caiff perchennog wneud cais i dribiwnlys am orchymyn gwrthod (paragraff 10(7)) ac yn pennu’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn gan y partïon ynglŷn â’r gwerthiant (paragraff 10(10)). Gallai’r seiliau y caniateir i berchennog wneud cais arnynt am orchymyn gwrthod gynnwys, er enghraifft, oedran y prynwr neu gadw anifeiliaid anwes, os oes rheolau gan y safle mewn perthynas â materion o’r fath.

140.Mae paragraff 11 yn gymwys pan fo’r meddiannydd yn bwriadu gwerthu’r cartref symudol ac aseinio’r cytundeb (o dan naill ai baragraff 9 neu 10), ac yn nodi’r wybodaeth y mae’n rhaid i werthwr ei darparu i ddarpar brynwr, ac erbyn pa bryd y mae’n rhaid darparu’r wybodaeth honno. Mae’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru bennu, mewn rheoliadau, y dogfennau /gwybodaeth arall y mae’n rhaid eu darparu. Os yw meddiannydd y methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd i ddarparu’r dogfennau neu’r wybodaeth dan sylw o fewn yr amser gofynnol, caiff y darpar brynwr ddwyn achos sifil. Bydd y darpariaethau hyn yn sicrhau bod y darpar brynwr yn meddu’r holl wybodaeth berthnasol (er enghraifft, unrhyw gyfyngiadau yn rheolau’r safle ar bwy gaiff breswylio ar y safle) ac felly mewn sefyllfa i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch mynd ymlaen â’r pryniant ai peidio.

141.Mae paragraff 12 yn gymwys pan fo’r cytundeb yn gytundeb newydd, ac yn debyg i baragraff 9 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983. Mae’n rhoi hawl i berchennog cartref symudol roi’r cartref symudol yn anrheg i aelod o’i deulu ac aseinio’r cytundeb i’r aelod hwnnw. Fodd bynnag, mae’n dileu’r gofyniad bod perchennog y safle’n cymeradwyo’r person y rhoddir y cartref iddo’n anrheg, ar yr amod bod y meddiannydd wedi darparu tystiolaeth i’r perchennog, fod y person dan sylw yn aelod o deulu’r meddiannydd. Mae’n gwneud yn ofynnol bod y person y rhoddir y cartref symudol iddo yn hysbysu perchennog y safle o’r rhodd ac o aseinio’r cytundeb. Mae’n rhoi pŵer hefyd i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth mewn rheoliadau sy’n pennu’r math o dystiolaeth o gysylltiad teuluol y mae’n rhaid ei chyflenwi ac yn pennu’r gweithdrefnau y mae’n rhaid eu dilyn gan y partïon sy’n ymwneud â rhoi cartref symudol ac aseinio’r cytundeb.

142.Mae paragraff 13 yn gymwys pan nad yw’r cytundeb yn gytundeb newydd ac y mae’n pennu’r broses pan fo meddiannydd yn dymuno rhoi’r cartref symudol i aelod o’i deulu. Rhaid i’r meddiannydd gyflwyno hysbysiad i berchennog y safle i’r perwyl ei fod yn bwriadu rhoi’r cartref symudol yn anrheg. Rhaid i’r hysbysiad gynnwys enw’r person y mae’n bwriadu rhoi’r cartref symudol iddo a pha bynnag wybodaeth arall a fydd yn ofynnol gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Rhaid i’r hysbysiad gynnwys yn ogystal dystiolaeth fel y’i diffinnir ym mharagraff 12(2). O fewn 21 diwrnod, caiff perchennog y safle wneud cais i dribiwnlys am orchymyn sy’n rhwystro’r meddiannydd rhag rhoi’r cartref symudol yn anrheg (“gorchymyn rhwystro”). Os nad yw’n gwneud hynny, neu os yw’r tribiwnlys yn gwrthod y cais, caiff yr anrhegu fynd ymlaen.

143.Mae paragraff 13 hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n rhagnodi ar ba sail y caiff perchennog wneud cais i dribiwnlys am orchymyn gwrthod (paragraff 13(7)) ac yn pennu’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn gan y partïon ynglŷn â’r anrhegu (paragraff 13(9)). Gallai’r seiliau y caniateir i berchennog wneud cais arnynt am orchymyn gwrthod gynnwys, er enghraifft, oedran y prynwr neu gadw anifeiliaid anwes, os oes rheolau gan y safle mewn perthynas â materion o’r fath.

144.Mae paragraff 14 yn ailddatgan ac yn diwygio paragraff 10 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 mewn perthynas ag ail leoli cartref symudol ar lain arall. Gall hyn ddigwydd pan fo Tribiwnlys wedi cytuno bod y llain amnewidiol yn gymaradwy a bod y symudiad yn rhesymol. Os oes angen i berchennog y safle wneud gwaith atgyweirio hanfodol neu waith brys, na ellir ei gyflawni heb symud y cartref symudol i lain arall dros gyfnod y gwaith, ac oherwydd y brys nad yw’n ymarferol gwneud cais i dribiwnlys cyn ail leoli’r cartref, rhaid i’r perchennog safle wneud cais i dribiwnlys ar unwaith. Os na fodlonir y tribiwnlys fod angen ail leoli, rhaid i berchennog y safle ddychwelyd y cartref symudol i’r llain gwreiddiol ar unwaith.

145.Mae paragraff 15 yn ailddatgan paragraff 11 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 Act ac yn gwneud y e is-adran glur fod hawl gan y meddiannydd i fwynhau’r cartref symudol a’r llain yn ddidramgwydd.

146.Mae paragraff 16 yn ailddatgan paragraffau 12 i 15 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 Act ac yn gwneud yn ofynnol bod perchennog y safle yn rhoi o leiaf 14 diwrnod o rybudd o’i fwriad i fynd i mewn i lain (ond nid i gartref symudol), ac eithrio ar gyfer danfon gohebiaeth neu ddarllen mesuryddion, pan nad oes angen rhoi rhybudd, neu ar gyfer gwaith cynnal hanfodol neu atgyweiriadau brys, pan ddylid rhoi cymaint o rybudd ag y bo’n ymarferol.

147.Mae paragraff 17 yn ailddatgan ac yn diwygio paragraffau 16 a 17 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 ac yn pennu’r prosesau ar gyfer adolygu a newid y ffi am y llain. Effaith is-baragraffau (4), (9), (15) ac (16) o paragraff 17 ynghyd â pharagraff 23 (gweler isod) yw gwneud yn ofynnol bod perchennog safle, wrth gyflwyno hysbysiad o adolygiad i feddiannydd cartref symudol sy’n cynnig cynyddu’r ffi am y llain, yn cyflwyno dogfen i’r meddiannydd yr un pryd sy’n bodloni’r gofynion a bennir ym mharagraff 23.

148.Mae is-baragraffau (6)(a) ac (11)(a) o baragraff 17 yn galluogi meddiannydd nad yw’n cytuno â chynnig ynglŷn â’r ffi am y llain i wneud cais i dribiwnlys am orchymyn sy’n penderfynu swm y ffi newydd am y llain. Yn flaenorol, os nad oedd meddiannydd yn cytuno â’r ffi arfaethedig, perchennog y safle yn unig oedd â hawl i wneud cais i’r tribiwnlys am orchymyn yn penderfynu swm y ffi newydd. Mewn rhai amgylchiadau, gall meddiannydd sydd wedi gwrthod cytuno â’r ffi a gynigir fod yn awyddus i ofyn am orchymyn gan y tribiwnlys i benderfynu’r ffi, hyd yn oed os nad yw perchennog y safle wedi gwrthwynebu gwrthodiad y meddiannydd; er enghraifft, os yw’r meddiannydd o’r farn y dylid gostwng y ffi bresennol am y llain.

149.Mae paragraff 18 yn ailddatgan paragraff 18 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 Act ond gyda diwygiadau, ac yn pennu’r materion y mae’n rhaid i berchnogion safle roi sylw penodol iddynt wrth benderfynu swm y ffi newydd am y llain. Mae’r rhain yn cynnwys cost gwelliannau i ‘r safle neu gost dirywiad yr amwynderau. Mae paragraff 18(1)(d) yn pennu y caiff perchnogion safle gymryd i ystyriaeth, yn unig, yr effaith uniongyrchol ar y costau sy’n daladwy gan y perchennog o ran cynnal a chadw neu reoli’r safle, o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad a ddaeth i rym ers dyddiad yr adolygiad blaenorol. Mae paragraff 18(2) yn gwneud yn eglur na chaiff perchnogion safle gymryd i ystyriaeth unrhyw gostau a dynnwyd wrth gydymffurfio â’r gofynion, wrth benderfynu’r ffioedd am y lleiniau.

150.Mae paragraff 19 yn ailddatgan ac yn diwygio paragraff 19(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i ddeddf 1983 Act ac yn pennu materion y mae’n rhaid i berchnogion safle eu diystyru wrth benderfynu swm y ffi newydd am y llain. Mae is-baragraff (2) yn gwneud yn eglur na chaiff perchnogion safle gymryd i ystyriaeth unrhyw gostau a dynnir neu ffioedd sy’n daladwy wrth gydymffurfio â’r gofynion a restrir o dan baragraffau (a) to (c) wrth benderfynu’r ffioedd am y lleiniau, gan gynnwys y costau trwyddedu neu gost camau gorfodi a gymerir gan awdurdodau lleol.

151.Mae paragraff 20 yn cynnwys y broses sydd i’w dilyn wrth ystyried newid yn y ffi am y llain, boed yn gynnydd neu’n ostyngiad ac yn pennu bod rhaid defnyddio’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr.

152.Mae paragraff 21 yn pennu rhwymedigaethau perchennog y safle a rhwymedigaethau cyfatebol y meddianwyr, gan gynnwys talu’r ffioedd gofynnol ac am gyfleustodau fel a gytunwyd gyda’r perchennog, a sicrhau bod y cartref symudol a’r llain o’i amgylch mewn cyflwr da a thrwsiadus. Mae’n gosod rhwymedigaethau ar y perchennog hefyd i beidio â gwneud unrhyw beth, neu beri i unrhyw beth gael ei wneud, a allai effeithio’n anffafriol ar allu’r meddiannydd i gyflawni ei rwymedigaethau o dan baragraff 21(1)(c) neu (1)(d), a allai atal y meddiannydd rhag gwneud gwelliannau mewnol neu allanoli’r cartref symudol, neu ymyrryd â gallu’r meddiannydd i wneud hynny. Nid yw’n awdurdodi’r meddiannydd i wneud unrhyw waith ar y cartref symudol a waherddir gan delerau’r cytundeb neu o dan unrhyw ddeddfiad. Os yw’r cytundeb yn caniatáu gwneud gwaith ar y cartref symudol gyda chaniatâd perchennog y safle rhaid peidio â gwrthod y caniatâd hwnnw yn afresymol.

153.Mae paragraffau 22 yn gosod rhwymedigaethau pellach ar berchennog y safle mewn perthynas â’r llain, darparu gwybodaeth megis y sail ar gyfer codi tâl am gyfleustodau ac am gynnal y cyfleustodau, a gyflenwir i’r lleiniau ac i’r mannau cymunol ar y safle. Rhaid i’r perchennog ymgynghori hefyd gyda’r meddianwyr a’r gymdeithas trigolion ar bob mater ynglŷn â gweithredu a rheoli’r safle, gan gynnwys unrhyw gynnig i newid y defnydd o’r safle.

154.Mae paragraff 23 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, mewn rheoliadau, ragnodi ffurf y ddogfen ffioedd llain. Os yw perchennog y safle’n methu â darparu’r ddogfen honno, ni fydd yr hysbysiad sy’n cynnig cynyddu’r ffi am y llain yn cael effaith; ac mewn achosion pan fo meddiannydd, er gwaethaf hynny, wedi dechrau talu ffi uwch i’r perchennog am y llain, caiff y tribiwnlys (sef Tribiwnlys Eiddo Preswyl neu, os oes un, y cyflafareddwr mewn perthynas â’r cytundeb) orchymyn (ar gais y meddiannydd) bod y perchennog yn ad-dalu’r gordaliad.

155.Mae paragraffau 24 a 25 yn pennu bod dyletswyddau ar y perchennog i hysbysu’r preswylwyr a’r gymdeithas trigolion gymwys o’r cyfeiriad lle y gellir cyflwyno hysbysiadau i’r perchennog at y diben o ymdrin â ffioedd llain a thaliadau.

156.Mae Penodau 3 a 4 o Ran 1 o Atodlen 2 yn adlewyrchu newidiadau diwedd a wnaed yng Nghymru yn Atodlen 1 i Ddeddf 1983, gan Orchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013 a ddaeth i rym ar 10 Gorffennaf 2013 (“Gorchymyn 2013”). Roedd Gorchymyn 2013 yn cyflwyno gwahanol delerau ymhlyg o dan Atodlen 1 i Ddeddf 1983 Act ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yr awdurdodau lleol. Diwygiadau eraill a wnaed oedd cyfyngu ar yr hawl i aseinio lleiniau rhag creu marchnad yn y lleiniau, rheoleiddio adolygiadau o’r ffioedd llain, a gwella’r eglurder ynglŷn â chyfrifoldebau’r awdurdodau lleol sy’n berchnogion ar safleoedd o’r fath. Gyda chychwyn adran 318 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) ar 10 Gorffennaf 2013, diddymwyd yr eithriad a oedd yn allgáu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yr awdurdodau lleol o ddarpariaethau Deddf 1983. O ganlyniad daethant yn “safleoedd gwarchodedig” at ddibenion adran 5(1) o’r Ddeddf honno, gan roi gwell sicrwydd daliadaeth i’r meddianwyr ynghyd â hawliau eraill mewn perthynas â meddiannu safleoedd o’r fath. Adlewyrchir y diwygiadau hyn ym Mhenodau 3 a 4 o Ran 1 o Atodlen 2 i’r Ddeddf.

Pennod 3 – Cytundebau sy’n ymwneud a lleiniau tramwy ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr awdurdodau lleol

157.Mae paragraffau 27 i 30 yn pennu’r telerau mewn perthynas â pharhad cytundebau a therfynu cytundebau ynghylch lleiniau tramwy ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yr awdurdodau lleol. Caiff perchennog y safle derfynu cytundebau ar y lleiniau hyn drwy roi 4 wythnos o rybudd ysgrifenedig. Pan derfynir cytundeb, caiff y meddiannydd hawlio ad-daliad o unrhyw ffioedd a ordalwyd.

158.Mae paragraffau 31 a 32 yn pennu bod hawl gan feddianwyr lleiniau tramwy i fwynhau’r llain yn ddidramgwydd, ac yn sefydlu rheolau ynglŷn â pha bryd y caiff perchnogion safle fynd i mewn i’r llain, ond nid y cartref symudol, gan roi rhybudd neu hebddo.

159.Mae paragraffau 33 a 34 yn pennu bod dyletswyddau ar y perchennog i hysbysu’r preswylwyr o’r cyfeiriad lle y gellir cyflwyno hysbysiadau i’r perchennog at y diben o ymdrin â ffioedd llain a thaliadau.

Pennod 4 – Cytundebau sy’n ymwneud a lleiniau parhaol ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

160.Mae paragraffau 36 i 40 yn pennu’r telerau mewn perthynas â pharhad cytundebau a therfynu cytundebau ynghylch lleiniau parhaol ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yr awdurdodau lleol. Caiff y meddiannydd derfynu cytundebau ynghylch y lleiniau hyn drwy roi 4 wythnos o rybudd ysgrifenedig. Caiff y perchennog derfynu’r cytundeb mewn rhai amgylchiadau drwy wneud cais i’r corff barnwrol priodol.

161.Mae paragraffau 41 a 42 yn pennu’r hawl aseinio cyfyngedig a fydd yn gymwys i feddianwyr lleiniau ar y safleoedd hyn. Caiff meddianwyr aseinio’u cytundeb i aelod o’r teulu, neu gyfnewid gyda meddianwyr eraill ar y safle gyda chymeradwyaeth perchennog y safle. Os yw perchennog y safle’n gwrthod cymeradwyo’r aseiniad, caiff meddiannydd apelio at dribiwnlys am orchymyn yn caniatáu’r aseiniad.

162.Mae paragraff 44 yn pennu, pan fo angen i berchennog y safle ail leoli llain parhaol, fod rhaid i unrhyw lain amgen a gynigir fod yn lled gymaradwy â’r llain gwreiddiol. Os bydd angen i berchennog y safle wneud gwaith hanfodol na ellir ei gyflawni heb symud y cartref symudol, perchennog y safle fydd yn atebol am dalu’r holl gostau a threuliau a fydd yn codi o ganlyniad i symud y cartref ar gyfer gwneud y gwaith.

163.Mae paragraffau 45 a 46 yn pennu bod hawl gan feddianwyr lleiniau hyn i’w mwynhau’r llain yn ddidramgwydd, ac yn pennu pa bryd y caiff perchennog safle fynd i mewn i’r llain heb roi rhybudd. Nid yw hyn yn ymestyn i’r cartref symudol ei hunan.

164.Mae paragraffau 47 i 50 yn pennu’r weithdrefn ar gyfer cyfrifo a newid y ffi am y llain. Mae hyn yn cynnwys yr adegau yr adolygir y ffioedd llain, y dull o ymgynghori, a’r broses ar gyfer apêl gan y perchennog neu’r meddiannydd at y Tribiwnlys Eiddo Preswyl, os digwydd iddynt anghytuno â’r ffi llain a gynigir. Mae’r adolygiad o’r ffi llain, a’r rhagdybiaeth y gellir cynyddu neu ostwng ffioedd llain yn flynyddol, yn seiliedig ar y Mynegai Prisiau Defnyddwyr.

165.Mae paragraff 51 yn pennu rhwymedigaethau’r meddiannydd, sy’n cynnwys talu’r ffi llain a chadw’r cartref symudol mewn cyflwr da a thrwsiadus.

166.Mae paragraff 52 yn pennu rhwymedigaethau’r perchennog, sy’n cynnwys cyflawni atgyweiriadau a gwaith cynnal, ymgynghori â phreswylwyr y safle a darparu gwybodaeth

167.Mae paragraffau 53 a 54 yn pennu bod dyletswyddau ar y perchennog i hysbysu’r preswylwyr o’r cyfeiriad lle y gellir cyflwyno hysbysiadau i’r perchennog at y diben o ymdrin â ffioedd llain a thaliadau.

Rhan 2 – Materion y caniateir i delerau gael eu hymhlygu yn eu cylch gan y corff barnwrol priodol

168.Mae paragraffau 55 i 58 yn ailddatgan Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 ac yn pennu’r telerau y caniateir eu hymhlygu “y corff barnwrol priodol ”. Diffinnir “y corff barnwrol priodol” o dan adran 55(1) o Ddeddf Tai Symudol (Cymru) 2013.

Atodlen 3 – Darpariaethau pellach ynghylch gorchmynion sy’n ymwneud â thir comin

169.Cyflwynir Atodlen 3 gan adran 57, ac mae’n ailddatgan Atodlen 2 i Ddeddf 1960. Mae’n gwneud darpariaethau pellach ynglŷn â gorchmynion mewn perthynas â thiroedd comin.

Atodlen 4 – Diwygiadau canlyniadol

170.Mae Atodlen 4 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol.

Atodlen 5 – Darpariaethau trosiannol a darfodol ac arbedion

171.Mae Atodlen 5 yn cynnwys darpariaethau trosiannol a darfodol ac arbedion. Mae Paragraff 2 yn pennu y bydd y trwyddedau safle presennol a ddyroddwyd o dan Ddeddf 1960 ac a fydd mewn grym pan daw Rhan 2 o’r Ddeddf i rym yn parhau tan ddiwedd “y cyfnod cychwynnol”, sef y cyfnod o 6 mis sy’n cychwyn gyda’r diwrnod y daw Rhan 2 i rym.

Cofnod Y Trafodion Yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

172.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

CyfnodDyddiad
Cyflwynwyd24 Hydref 2012
Cyfnod 1 - Dadl13 Mawrth 2013
Cyfnod 2 – Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau13 Mehefin 2013
Cyfnod 3 – Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau10 Gorffennaf 2013
Cyfnod Adrodd25 Medi 2013
Cyfnod 4 – Cymeradwywyd gan y Cynulliad25 Medi 2013
Y Cydsyniad Brenhinol4 Tachwedd 2013