Search Legislation

Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

Status:

This is the original version (as it was originally enacted).

Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

2013 dccc 6

Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddiwygio ac ailddatgan y gyfraith ynglŷn â safleoedd cartrefi symudol yng Nghymru.

[4 Tachwedd 2013]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:-

RHAN 1CYFLWYNIAD

1Trosolwg o’r Ddeddf

(1)Mae’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth ynghylch safleoedd cartrefi symudol yng Nghymru.

(2)Yn y Ddeddf hon—

(a)mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trwyddedu safleoedd rheoleiddiedig etc. ac mewn cysylltiad â hynny,

(b)mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth i amddiffyn rhag troi allan o safleoedd gwarchodedig,

(c)mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch telerau cytundebau i osod cartrefi symudol ar safleoedd gwarchodedig,

(d)mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth y caiff awdurdodau lleol ddarparu safleoedd i gartrefi symudol a gwahardd gosod cartrefi symudol ar dir comin odani, ac

(e)mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth atodol a chyffredinol.

2Safleoedd cartrefi symudol sy’n ddarostyngedig i’r Ddeddf

(1)Yn y Ddeddf hon ystyr “safle rheoleiddiedig” yw unrhyw dir yng Nghymru y gosodir cartref symudol arno er mwyn i bobl fyw ynddo (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â thir o’r fath) heblaw—

(a)safle y mae Atodlen 1 yn darparu nad yw i fod yn safle rheoleiddiedig, neu

(b)safle gwyliau.

(2)Yn y Ddeddf hon ystyr “safle gwarchodedig” yw tir sydd—

(a)yn safle rheoleiddiedig, neu

(b)yn safle a fyddai’n safle rheoleiddiedig heblaw am baragraff 11 o Atodlen 1.

(3)Yn is-adran (1) ystyr “safle gwyliau” yw safle y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar ei gyfer o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960—

(a)yn mynegi ei fod wedi ei roi neu ei bod wedi ei rhoi at ddibenion gwyliau yn unig, neu

(b)yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod cartref symudol ar y safle i bobl fyw ynddo.

(4)Er mwyn penderfynu a yw safle’n safle gwyliau neu beidio, mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn nhrwydded y safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w anwybyddu os awdurdodwyd y cartref symudol i’w feddiannu—

(a)gan y person sy’n berchennog y safle, neu

(b)gan berson a gyflogir gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 yn gymwys iddo.

(5)Yn y Ddeddf hon ystyr “safle awdurdod lleol i Sipsiwn a Theithwyr” yw tir y mae awdurdod lleol yn berchen arno i osod cartrefi symudol arno sy’n rhoi llety i Sipsiwn a Theithwyr.

3Perchnogion safleoedd

Yn y Ddeddf hon ystyr “perchennog”, o ran unrhyw dir, yw’r person—

(a)y mae ganddo hawl i feddiannu’r tir, neu

(b)y byddai ganddo hawl i feddiannu’r tir heblaw am hawliau unrhyw berson arall o dan unrhyw drwydded neu gontract a roddwyd ar gyfer y tir (gan gynnwys trwydded neu gontract i osod neu i feddiannu cartref symudol yno),

yn rhinwedd ystâd neu fuddiant yn y tir, ond gweler hefyd adrannau 39(2), 42(7) a 55(2)(a).

RHAN 2TRWYDDEDU SAFLEOEDD CARTREFI SYMUDOL ETC.

Cyflwyniad

4Trosolwg o’r Rhan

(1)Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ynghylch trwyddedu safleoedd rheoleiddiedig a materion perthynol.

(2)Yn y Rhan hon—

(a)mae adrannau 5 i 8 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trwyddedau safle,

(b)mae adrannau 9 i 25 yn gwneud darpariaeth ynghylch amodau trwyddedau safle,

(c)mae adrannau 26 a 27 yn gwneud darpariaeth ynghylch dirymu ac ildio trwyddedau safle,

(d)mae adrannau 28 a 29 yn ei gwneud yn ofynnol i reolwyr safleoedd fod yn bersonau addas a phriodol,

(e) mae adrannau 30 a 31 yn gwneud darpariaeth ar gyfer penodi rheolwyr interim,

(f)mae adrannau 32 a 33 yn cynnwys darpariaethau eraill ynglŷn â gorfodi, ac

(g)mae adrannau 34 i 39 yn cynnwys darpariaethau amrywiol ac atodol.

Trwyddedau safle

5Gwahardd defnyddio tir fel safle rheoleiddiedig heb drwydded safle

(1)Rhaid i berchennog safle rheoleiddiedig beidio ag achosi na chaniatáu i’r safle gael ei ddefnyddio fel safle rheoleiddiedig oni bai bod gan y perchennog drwydded o dan y Rhan hon ar gyfer y tir (“trwydded safle”).

(2)Mae person sy’n mynd yn groes i is-adran (1) yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (2) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy.

6Gwneud cais am drwydded safle

(1)Mae cais am ddyroddi trwydded safle ar gyfer unrhyw dir i’w wneud gan berchennog y tir i’r awdurdod lleol y mae’r tir wedi ei leoli yn ei ardal.

(2)O ran cais o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo bennu’r tir y gwneir y cais ar ei gyfer,

(b)rhaid iddo enwi’r ymgeisydd,

(c)os nad yr ymgeisydd fydd rheolwr y safle, rhaid iddo enwi’r person sydd am fod yn rheolwr ar y safle, a

(d)rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw ofynion eraill a bennir gan yr awdurdod lleol.

(3)Rhaid i ymgeisydd, naill ai ar adeg gwneud y cais neu wedyn, roi i’r awdurdod lleol unrhyw wybodaeth arall y mae’n rhesymol i’r awdurdod lleol ofyn amdani.

(4)I gyd-fynd â’r cais rhaid cael datganiad gan yr ymgeisydd—

(a)mewn achos lle nad yw’r ymgeisydd am fod yn rheolwr ar y safle, fod y person a enwir yn unol ag is-adran (2)(c), neu

(b)mewn unrhyw achos arall, fod yr ymgeisydd,

yn berson addas a phriodol i reoli’r safle.

(5)Caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i ffi a bennir gan yr awdurdod lleol gael ei hanfon ynghyd â’r cais am drwydded safle (gweler adran 36 ynglŷn â hyn).

7Dyroddi trwydded safle

(1)Caiff awdurdod lleol ddyroddi trwydded safle ar gyfer tir os oes gan yr ymgeisydd, pan ddyroddir y drwydded safle, hawl i fanteisio ar ganiatâd cynllunio i ddefnyddio’r tir fel safle i gartrefi symudol heblaw drwy orchymyn datblygu.

(2)Os oes gan yr ymgeisydd hawl i fanteisio ar ganiatâd cynllunio o’r fath ar y dyddiad y mae’r ymgeisydd yn rhoi’r wybodaeth y gofynnir amdani yn rhinwedd adran 6, caiff yr awdurdod lleol ddyroddi trwydded safle ar gyfer y tir o fewn 2 fis ar ôl y dyddiad hwnnw neu, os bydd yr ymgeisydd a’r awdurdod lleol yn cytuno mewn ysgrifen y caniateir cyfnod hirach i’r awdurdod lleol ddyroddi trwydded safle, o fewn y cyfnod y cytunir arno.

(3)Os caiff yr ymgeisydd hawl i fanteisio ar ganiatâd cynllunio rywbryd ar ôl rhoi’r wybodaeth y gofynnir amdani yn rhinwedd adran 6, caiff yr awdurdod lleol ddyroddi trwydded safle ar gyfer y tir o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad y mae’r ymgeisydd yn cael yr hawl i fanteisio ar ganiatâd cynllunio neu, os bydd yr ymgeisydd a’r awdurdod lleol yn cytuno mewn ysgrifen y caniateir cyfnod hirach i’r awdurdod lleol ddyroddi trwydded safle, o fewn y cyfnod y cytunir arno.

(4)Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu peidio â dyroddi trwydded safle o dan is-adran (2) neu (3)—

(a)rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r ymgeisydd am y rhesymau dros y penderfyniad ac am hawl yr ymgeisydd i apelio o dan baragraff (b),

(b)caiff yr ymgeisydd, o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y penderfyniad, apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn y penderfyniad, ac

(c)ni chaniateir hawlio digollediad am golled a ddioddefir yn sgil y penderfyniad hyd nes y ceir canlyniad yr apêl.

(5)Rhaid i awdurdod lleol beidio ar unrhyw adeg â dyroddi trwydded safle i berson y gŵyr yr awdurdod lleol ei fod wedi dal trwydded safle a ddirymwyd o dan adran 18 neu 28 lai na 3 blynedd cyn yr adeg honno.

(6)Pan fo awdurdod lleol yn methu penderfynu ar gais am drwydded safle o fewn y cyfnod y mae’n ofynnol iddo wneud hynny, nid oes trosedd o dan adran 5 wedi ei gyflawni o ran y tir gan y person a wnaeth y cais am y drwydded safle ar unrhyw adeg ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw hyd nes bod penderfyniad ar y cais wedi ei wneud.

8Parhad trwydded safle

(1)Daw trwydded safle’n weithredol ar yr adeg a bennir yn y drwydded safle neu odani ac, oni chaiff ei therfynu drwy gael ei dirymu, mae’n parhau mewn grym am y cyfnod a bennir yn y drwydded safle neu odani.

(2)Rhaid i’r cyfnod hwnnw ddod i ben heb fod yn fwy na 5 mlynedd ar ôl y diwrnod y daw’r drwydded safle yn weithredol.

Amodau trwyddedau safle

9Pŵer i osod amodau ar drwydded safle

(1)Caniateir i drwydded safle a ddyroddir gan awdurdod lleol ar gyfer unrhyw dir gael ei dyroddi o dan unrhyw amodau y mae’r awdurdod lleol o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol eu gosod ar berchennog y tir er lles—

(a)personau sy’n byw ar y tir mewn cartrefi symudol,

(b)unrhyw ddosbarth arall o bersonau, neu

(c)y cyhoedd yn gyffredinol.

(2)Mae’r amodau y caniateir i drwydded safle gael ei dyroddi yn unol â hwy yn cynnwys amodau (ond heb fod yn gyfyngedig i amodau)—

(a)i gyfyngu’r achlysuron pan osodir cartrefi symudol ar y tir er mwyn i bobl fyw ynddynt, neu gyfanswm y cartrefi symudol a osodir ar y tir at y diben hwnnw ar unrhyw un adeg,

(b)i reoli (boed drwy gyfeirio at eu maint, at eu cyflwr neu, yn ddarostyngedig i is-adran (3), at unrhyw nodwedd arall) y mathau o gartref symudol a osodir ar y tir,

(c)i reoleiddio ym mha safleoedd y gosodir cartrefi symudol ar y tir er mwyn i bobl fyw (yn enwedig er mwyn lleihau risg o lifogydd ac erydu arfordirol) ac i wahardd, cyfyngu neu reoleiddio fel arall ar osod neu godi ar y tir, ar unrhyw adeg pan fo cartrefi symudol wedi eu gosod ar y tir at y diben hwnnw, strwythurau a cherbydau o unrhyw ddisgrifiad a phebyll,

(d)i sicrhau y cymerir unrhyw gamau i gadw neu i wella amwynder y tir, gan gynnwys plannu ac ailblannu’r tir â choed a llwyni,

(e)i sicrhau, ar bob adeg y bydd cartrefi symudol wedi eu gosod ar y tir, fod mesurau priodol yn cael eu cymryd i atal a chanfod tanau a bod dulliau digonol i ymladd tân yn cael eu darparu a’u cynnal,

(f)i sicrhau, ar bob adeg y bydd cartrefi symudol wedi eu gosod ar y tir, fod mesurau priodol yn cael eu cymryd i warchod rhag risg o lifogydd ac erydu arfordirol ac i gyfathrebu unrhyw risg hysbys i lifogydd neu erydu arfordirol i berson sy’n byw ar y tir mewn cartrefi symudol,

(g)i sicrhau bod cyfleusterau iechydol digonol, ac unrhyw gyfleusterau, gwasanaethau neu offer eraill a bennir, yn cael eu darparu i’w defnyddio gan bersonau sy’n byw ar y tir mewn cartrefi symudol a bod unrhyw gyfleusterau ac offer a ddarperir i’w defnyddio ganddynt yn cael eu cynnal yn briodol, ar bob adeg pan fo cartrefi symudol wedi eu gosod ar y tir er mwyn i bobl fyw ynddynt, ac

(h)i’w gwneud yn ofynnol i ddatganiad gael ei wneud, os bydd y person sy’n rheoli’r safle yn newid, gan ddeiliad y drwydded safle i’r awdurdod lleol fod y rheolwr newydd yn berson addas a phriodol i reoli’r safle.

(3)Ni chaniateir gosod amod sy’n rheoli’r mathau o gartrefi symudol a osodir ar y tir drwy gyfeirio at y deunyddiau a ddefnyddiwyd i’w hadeiladu.

(4)Pan fo Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys i dir, ni chaniateir gosod amod mewn trwydded safle sy’n ymwneud â’r tir i’r graddau y mae’n ymwneud ag unrhyw fater y gosodwyd neu y gellid gosod gofynion neu waharddiadau mewn perthynas ag ef gan neu o dan y Gorchymyn hwnnw.

(5)Rhaid i drwydded safle a ddyroddir ar gyfer unrhyw dir, oni bai ei bod wedi ei dyroddi o dan amod sy’n cyfyngu cyfanswm y cartrefi symudol y caniateir eu gosod ar y tir ar unrhyw un adeg i 3 neu lai, gynnwys amod bod rhaid i gopi o’r drwydded safle sydd am y tro mewn grym, ynghyd â chopïau o’r biliau cyfleustodau mwyaf diweddar sy’n ymwneud â’r safle ac o unrhyw dystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus sy’n ymwneud â’r safle, gael ei ddangos ar y tir mewn man amlwg bob amser y bydd cartrefi symudol wedi eu gosod ar y tir er mwyn i bobl fyw ynddynt.

(6)Yn is-adran (5) ystyr “biliau cyfleustodau” yw biliau am ddarparu gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau tebyg eraill.

(7)Caiff amod yn y drwydded safle, os yw’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei wneud ar y tir y dyroddir y drwydded safle ar ei gyfer, wahardd neu gyfyngu ar ddod â chartrefi symudol i’r tir er mwyn i bobl fyw ynddynt hyd nes bod yr awdurdod lleol wedi ardystio mewn ysgrifen fod y gwaith wedi ei orffen i’w foddhad.

(8)Pan fo’r tir y mae’r drwydded safle’n ymwneud ag ef yn cael ei ddefnyddio ar y pryd fel safle i gartrefi symudol, caiff amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei wneud ar y tir, p’un a yw’n cynnwys unrhyw waharddiad neu gyfyngiad a grybwyllir yn is-adran (7) neu beidio, ei gwneud yn ofynnol i’r gwaith gael ei gwblhau er boddhad yr awdurdod lleol o fewn cyfnod a nodir.

(9)Mae amod mewn trwydded safle yn ddilys hyd yn oed os nad oes modd cydymffurfio ag ef ond drwy wneud gwaith nad oes gan ddeiliad y drwydded safle hawl i’w wneud fel mater o hawl.

10Safonau enghreifftiol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru bennu at ddibenion adran 9 safonau enghreifftiol o ran cynllun safleoedd rheoleiddiedig neu fathau penodol o safleoedd rheoleiddiedig, ac o ran darparu cyfleusterau, gwasanaethau ac offer iddynt.

(2)Wrth benderfynu pa amodau i’w gosod (os gosodir unrhyw amodau o gwbl) mewn trwydded safle, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw safonau enghreifftiol sydd wedi eu pennu.

(3)Ni chaniateir pennu safonau enghreifftiol o ran tir y mae Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys iddo i’r graddau y mae’r safonau’n ymwneud ag unrhyw fater arall y gosodwyd neu y gellid gosod gofynion neu waharddiadau mewn perthynas ag ef gan neu o dan y Gorchymyn hwnnw.

(4)Mae dyletswydd awdurdod lleol i roi sylw i safonau a bennir o dan yr adran hon i’w dehongli, o ran safonau sy’n ymwneud â rhagofalon tân, fel dyletswydd i roi sylw iddynt yn ddarostyngedig i unrhyw gyngor a roddir gan yr awdurdod tân ac achub o dan adran 11.

(5)Yn yr adran hon ac yn adran 11 ystyr “rhagofalon tân” yw rhagofalon sydd i’w cymryd at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a bennir yn adran 9(2)(e).

11Rhagofalon tân

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol, wrth ystyried pa amodau i’w gosod mewn trwydded safle sy’n ymwneud ag unrhyw dir, ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub ynghylch i ba raddau y mae unrhyw safonau enghreifftiol sy’n ymwneud â rhagofalon tân sydd wedi eu pennu o dan adran 10 yn briodol i’r tir.

(2)Os—

(a)nad oes safonau o’r fath wedi eu pennu, neu

(b)ei bod yn ymddangos i’r awdurdod tân ac achub fod unrhyw safon a bennwyd yn amhriodol i’r tir,

rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub ynghylch pa amodau sy’n ymwneud â rhagofalon tân a ddylai gael eu gosod.

(3)Nid yw’r adran hon yn gymwys pan fo Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys i’r tir.

12Apelio yn erbyn amodau trwydded safle

(1)Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu dyroddi trwydded safle yn ddarostyngedig i amodau (heblaw’r amod sy’n ofynnol gan adran 9(5)), rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r ymgeisydd am y rhesymau dros wneud hynny ac am hawl yr ymgeisydd i apelio o dan is-adran (2).

(2)Caiff yr ymgeisydd, o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y penderfyniad, apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn y penderfyniad.

(3)Caiff y tribiwnlys amrywio neu ddileu’r amod os yw wedi ei fodloni (ar ôl rhoi sylw, ymhlith pethau eraill, i unrhyw safonau a all fod wedi eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 10) fod yr amod yn amhriodol o feichus.

(4)Mewn achos pan fo tribiwnlys eiddo preswyl yn amrywio neu’n dileu amod o dan is-adran (3), caiff osod amod newydd ar y drwydded safle hefyd.

(5)I’r graddau y mae effaith amod y dyroddir trwydded safle yn ddarostyngedig iddo ar gyfer unrhyw dir yn arwain at ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei wneud ar y tir, nid yw’r amod yn effeithiol—

(a)yn ystod y cyfnod pan fo gan y person y dyroddwyd y drwydded safle iddo hawl i apelio yn erbyn yr amod, na

(b)tra bo apêl yn erbyn yr amod yn yr arfaeth.

13Pŵer awdurdod lleol i amrywio amodau trwydded safle

(1)Caniateir i amodau trwydded safle gael eu hamrywio unrhyw bryd (boed drwy amrywio neu ddileu amodau presennol, drwy ychwanegu amodau newydd, neu drwy gyfuniad o unrhyw ddulliau o’r fath) gan yr awdurdod lleol—

(a)os bydd deiliad y drwydded safle’n gwneud cais i’r awdurdod lleol wneud hynny, neu

(b)os bydd yr awdurdod lleol yn canfod gwybodaeth newydd neu os yw o’r farn bod amgylchiadau wedi newid.

(2)Cyn amrywio amodau trwydded safle o dan is-adran (1)(b), rhaid i’r awdurdod lleol roi cyfle i ddeiliad y drwydded safle gyflwyno sylwadau.

(3)Pan fo Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys i’r tir y mae’r drwydded safle yn ymwneud ag ef, ni chaniateir ychwanegu amod newydd i’r drwydded safle o dan is-adran (1) i’r graddau y mae’n ymwneud ag unrhyw fater y gosodwyd neu y gellid gosod gofynion neu waharddiadau mewn perthynas ag ef gan neu o dan y Gorchymyn hwnnw.

(4)Caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i ffi a bennir gan yr awdurdod lleol (gweler adran 36 ynglŷn â hyn) gael ei hanfon ynghyd â chais am amrywio amodau’r drwydded safle.

(5)Nid yw amrywiad ar amodau trwydded safle gan awdurdod lleol i fod yn effeithiol hyd nes bod deiliad y drwydded safle wedi cael hysbysiad ysgrifenedig yn ei gylch.

(6)Wrth arfer y pwerau a roddir gan is-adran (1), rhaid i awdurdod lleol roi sylw (ymhlith pethau eraill) i unrhyw safonau a all fod wedi eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 10.

(7)Rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub cyn arfer y pwerau a roddir gan is-adran (1) o ran amod mewn trwydded safle a osodir at y dibenion a nodir yn adran 9(2)(e).

(8)Nid yw is-adran (7) yn gymwys pan fo Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys i’r tir.

14Apelio yn erbyn amrywio amodau trwydded safle

(1)Pan fo deiliad trwydded safle wedi ei dramgwyddo gan unrhyw amrywiad ar amodau’r drwydded safle o dan adran 13(1)(b) neu gan benderfyniad yr awdurdod lleol i wrthod cais am amrywio’r amodau hynny, caiff y deiliad, o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau drannoeth y diwrnod y cafodd y deiliad hysbysiad o’r newid neu o’r penderfyniad i wrthod, apelio at dribiwnlys eiddo preswyl.

(2)Caiff y tribiwnlys, os yw’n caniatáu’r apêl, roi unrhyw gyfarwyddiadau i’r awdurdod lleol sy’n angenrheidiol i roi ei effaith i benderfyniad y tribiwnlys.

(3)I’r graddau y bydd amrywiad ar drwydded safle yn gosod gofyniad ar ddeiliad y drwydded safle i wneud unrhyw waith ar y tir y mae’r drwydded safle yn ymwneud ag ef na fyddai’n ofynnol fel arall i ddeiliad y drwydded safle ei wneud, nid yw’r amrywiad i fod yn effeithiol yn ystod y cyfnod pan fo gan y deiliaid hawl i apelio yn erbyn yr amrywiad na thra bydd apêl yn erbyn yr amrywiad yn yr arfaeth.

(4)Wrth arfer y pwerau a roddir gan is-adran (2) rhaid i dribiwnlys eiddo preswyl roi sylw ymhlith pethau eraill i unrhyw safonau a all fod wedi eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 10.

Torri amod

15Torri amod

(1)Os yw’n ymddangos i awdurdod lleol sydd wedi dyroddi trwydded safle bod perchennog y tir yn methu neu wedi methu cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r drwydded safle, caiff yr awdurdod lleol roi i’r perchennog—

(a)hysbysiad cosb benodedig, neu

(b)hysbysiad cydymffurfio.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r awdurdodau lleol ynghylch yr ystyriaethau y dylent eu hystyried wrth benderfynu a ddylid ymdrin â methiant i gydymffurfio ag amod mewn trwydded safle drwy roi hysbysiad cosb benodedig ynteu hysbysiad cydymffurfio.

(3)Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau o’r fath wrth wneud penderfyniad o’r fath.

(4)Pan fo hysbysiad cosb benodedig yn cael ei roi i berson mewn perthynas â methiant ond nad yw’r swm a bennir ynddo yn cael ei dalu yn unol â’r hysbysiad, caiff yr awdurdod lleol dynnu’r hysbysiad cosb benodedig yn ôl a rhoi hysbysiad cydymffurfio i’r person mewn perthynas â’r methiant.

16Hysbysiad cosb benodedig

(1)Mae hysbysiad cosb benodedig yn hysbysiad sydd—

(a)yn nodi’r amodau o dan sylw a manylion y methiant i gydymffurfio ag ef,

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i berchennog y tir dalu swm penodedig i’r awdurdod lleol mewn cyfeiriad a bennir yn yr hysbysiad, ac

(c)yn pennu ym mha gyfnod y mae’n rhaid i’r swm penodedig gael ei dalu.

(2)Rhaid i’r swm a bennir mewn hysbysiad cosb benodedig a roddi ar unrhyw adeg beidio â bod yn fwy na’r swm a bennir ar yr adeg honno fel lefel 1 ar raddfa safonol troseddau diannod.

(3)Heb ragfarnu taliad drwy unrhyw ddull arall, caniateir talu’r gosb benodedig drwy ei ragdalu a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) at yr awdurdod lleol yn y cyfeiriad a ddarperir yn yr hysbysiad; ac os felly ystyrir bod y taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw yn cael ei ddosbarthu yng nghwrs arferol y post.

17Hysbysiadau cydymffurfio

(1)Mae hysbysiad cydymffurfio yn hysbysiad sydd—

(a)yn nodi’r amod o dan sylw a manylion y methiant i gydymffurfio ag ef,

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i berchennog y tir gymryd unrhyw gamau sydd ym marn yr awdurdod lleol yn briodol ac a bennir yn yr hysbysiad er mwyn sicrhau y cydymffurfir â’r amod,

(c)yn pennu ym mha gyfnod y mae’n rhaid i’r camau hynny gael eu cymryd, a

(d)yn esbonio’r hawl i apelio a roddir gan is-adran (2).

(2)Caiff perchennog tir y cyflwynwyd hysbysiad cydymffurfio iddo apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn yr hysbysiad hwnnw (gweler adran 23).

(3)Caiff awdurdod lleol—

(a)dirymu hysbysiad cydymffurfio, neu

(b)amrywio hysbysiad cydymffurfio drwy estyn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad o dan is-adran (1)(c).

(4)Mae’r pŵer i ddirymu neu i amrywio hysbysiad cydymffurfio yn arferadwy gan yr awdurdod lleol—

(a)ar gais a wneir gan berchennog y tir y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo, neu

(b)ar symbyliad yr awdurdod lleol ei hun.

(5)Pan fo awdurdod lleol yn dirymu neu’n amrywio hysbysiad cydymffurfio, rhaid iddo hysbysu perchennog y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef am y penderfyniad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(6)Pan fo hysbysiad cydymffurfio’n cael ei ddirymu, mae’r dirymiad yn dod i rym ar yr adeg y caiff ei wneud.

(7)Pan fo hysbysiad cydymffurfio’n cael ei amrywio—

(a)os nad yw’r hysbysiad wedi dod yn weithredol pan wneir yr amrywiad, daw’r amrywiad i rym ar unrhyw adeg (os oes un) y daw’r hysbysiad yn weithredol yn unol ag adran 24, a

(b)os yw’r hysbysiad wedi dod yn weithredol pan wneir yr amrywiad, daw’r amrywiad i rym ar yr adeg y mae’n cael ei wneud.

18Hysbysiad cydymffurfio: trosedd a chollfarnau lluosog

(1)Mae perchennog tir y cyflwynwyd hysbysiad cydymffurfio iddo sydd wedi dod yn weithredol yn cyflawni trosedd os bydd y perchennog yn methu cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 17(1)(b) o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 17(1)(c).

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy.

(3)Mewn achos yn erbyn perchennog tir am drosedd o dan is-adran (1), mae’n amddiffyniad bod gan y perchennog esgus rhesymol dros fethu cymryd y camau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn yr is-adran honno.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys—

(a)pan gollfernir perchennog tir am drosedd o dan is-adran (1), a

(b)pan fo’r perchennog wedi ei gollfarnu ar ddau neu fwy o achlysuron blaenorol am drosedd o dan is-adran (1) mewn perthynas â’r drwydded safle y mae’r gollfarn a grybwyllir ym mharagraff (a) yn ymwneud â hi.

(5)Ar gais gan yr awdurdod lleol a gyflwynodd yr hysbysiad cydymffurfio, caiff y llys y collfarnwyd perchennog y tir ger ei bron wneud gorchymyn yn dirymu’r drwydded safle ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn.

(6)Rhaid i orchymyn o dan is-adran (5) beidio â phennu dyddiad sydd cyn diwedd y cyfnod pryd y caniateir i hysbysiad o apêl (boed yn ôl yr achos datganedig ynteu fel arall) gael ei roi yn erbyn y gollfarn a grybwyllir yn is-adran (4)(a).

(7)Pan wneir apêl yn erbyn y gollfarn a grybwyllir yn is-adran (4)(a) gan berchennog y tir cyn y dyddiad a bennir mewn gorchymyn o dan is-adran (5), nid yw’r gorchymyn yn effeithiol—

(a)hyd nes i’r apêl gael ei phenderfynu’n derfynol, neu

(b)hyd nes i’r apêl gael ei thynnu’n ôl.

(8)Ar gais gan berchennog y tir neu gan yr awdurdod lleol a ddyroddodd y drwydded safle, caiff y llys a wnaeth y gorchymyn o dan is-adran (5) wneud gorchymyn yn pennu dyddiad pryd y mae dirymiad y drwydded safle i ddod yn effeithiol sy’n hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y gorchymyn o dan is-adran (5).

(9)Ond rhaid i’r llys beidio â gwneud gorchymyn o dan is-adran (8) oni bai ei fod wedi ei fodloni bod hysbysiad digonol o’r cais wedi ei roi i’r perchennog (os yr awdurdod lleol yw’r ymgeisydd) neu i’r awdurdod lleol (os y perchennog yw’r ymgeisydd).

19Hysbysiad cydymffurfio: pŵer i hawlio treuliau

(1)Wrth gyflwyno hysbysiad cydymffurfio i berchennog tir, caiff awdurdod lleol godi tâl ar y perchennog fel modd i adennill treuliau yr eir iddynt gan yr awdurdod lleol—

(a)wrth benderfynu a ddylai gyflwyno’r hysbysiad, a

(b)wrth baratoi a chyflwyno’r hysbysiad neu hawliad o dan is-adran (3).

(2)Mae’r treuliau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yn cynnwys treuliau sicrhau cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol) (ond heb fod yn gyfyngedig i’r costau hyn).

(3)Mae’r pŵer o dan is-adran (1) yn arferadwy drwy gyflwyno’r hysbysiad cydymffurfio ynghyd â hawliad sy’n nodi—

(a)cyfanswm y treuliau y mae’r awdurdod lleol yn ceisio eu hadennill o dan is-adran (1) (“treuliau perthnasol”),

(b)dadansoddiad manwl o’r treuliau perthnasol, ac

(c)pan fo’r awdurdod lleol yn bwriadu codi llog o dan adran 25, y gyfradd log ar y treuliau perthnasol.

(4)Pan fo tribiwnlys yn caniatáu apêl o dan adran 17 yn erbyn yr hysbysiad cydymffurfio y cyflwynwyd hawliad gydag ef, caiff y tribiwnlys wneud unrhyw orchymyn y mae’n barnu ei fod yn briodol—

(a)yn cadarnhau, yn lleihau neu’n dileu unrhyw dâl o dan yr adran hon a wnaed mewn perthynas â’r hysbysiad, a

(b)yn amrywio’r hawliad fel y bo’n briodol o ganlyniad i hyn.

20Pŵer i gymryd camau ar ôl collfarnu’r perchennog

(1)Pan gollfernir perchennog tir am drosedd o dan adran 18(1), caiff yr awdurdod lleol a ddyroddodd yr hysbysiad cydymffurfio—

(a)cymryd unrhyw gamau y mae’n ofynnol o dan yr hysbysiad cydymffurfio i’r perchennog eu cymryd ond sydd heb eu cymryd, a

(b)cymryd unrhyw gamau eraill sy’n briodol ym marn yr awdurdod i sicrhau y cydymffurfir â’r amod a bennir yn yr hysbysiad cydymffurfio.

(2)Pan fo awdurdod lleol yn bwriadu cymryd camau o dan is-adran (1), rhaid iddo gyflwyno i berchennog y tir hysbysiad—

(a)sy’n nodi’r tir a’r hysbysiad cydymffurfio y mae’n ymwneud â hwy,

(b)sy’n nodi bod yr awdurdod lleol yn bwriadu mynd i’r tir,

(c)sy’n disgrifio’r camau y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu cymryd ar y tir,

(d)os nad un o swyddogion yr awdurdod lleol yw’r person y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu ei awdurdodi i gymryd y camau ar ei ran, sy’n nodi enw’r person hwnnw, ac

(e)sy’n nodi’r dyddiadau a’r amserau pryd y bwriedir i’r camau gael eu cymryd (gan gynnwys pryd y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu dechrau cymryd y camau a phryd y mae’n disgwyl i’r camau gael eu cwblhau).

(3)Rhaid i’r hysbysiad gael ei gyflwyno’n ddigon cynnar cyn bod yr awdurdod lleol yn bwriadu mynd i’r tir er mwyn rhoi hysbysiad rhesymol i berchennog y tir am y bwriad i fynd iddo.

(4)Mewn achos pan fo’r awdurdod lleol yn awdurdodi person heblaw un o swyddogion yr awdurdod lleol i gymryd y camau ar ei ran, mae’r cyfeiriad yn adran 32(1) at swyddog awdurdodedig i’r awdurdod lleol yn cynnwys y person hwnnw.

(5)Nid yw’r gofyniad yn adran 32(2) bod rhaid rhoi 24 awr o hysbysiad o’r bwriad i fynd i’r tir, o’i gymhwyso at achos yn yr adran hon, yn gymwys ond ar gyfer y diwrnod y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu dechrau cymryd y camau ar y tir.

21Pŵer i gymryd camau brys

(1)Caiff awdurdod lleol sydd wedi dyroddi trwydded safle gymryd camau mewn perthynas ag unrhyw dir sy’n ffurfio’r safle os yw’n ymddangos i’r awdurdod lleol—

(a)bod perchennog y tir yn methu neu wedi methu cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r drwydded safle, a

(b)bod risg ar fin digwydd o niwed difrifol i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson sydd ar y tir neu a all fod ar y tir o ganlyniad i’r methiant hwnnw.

(2)Y camau y caiff awdurdod lleol eu cymryd o dan yr adran hon (y cyfeirir atynt yn yr adran hon fel “camau brys”) yw unrhyw gamau y mae’n ymddangos i’r awdurdod lleol eu bod yn angenrheidiol er mwyn dileu’r risg sydd ar fin digwydd o niwed difrifol a grybwyllir yn is-adran (1)(b).

(3)Pan fo awdurdod lleol yn bwriadu cymryd camau brys, rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno i berchennog y tir hysbysiad—

(a)sy’n nodi’r tir y mae’n ymwneud ag ef,

(b)y’n nodi bod yr awdurdod lleol yn bwriadu mynd i’r tir,

(c)sy’n disgrifio’r camau brys y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu cymryd ar y tir,

(d)os nad un o swyddogion yr awdurdod lleol yw’r person y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu ei awdurdodi i gymryd y camau ar ei ran, sy’n nodi enw’r person hwnnw, ac

(e)sy’n pennu’r pwerau o dan yr adran hon ac o dan adran 32 fel y pwerau y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu mynd i’r tir odanynt.

(4)Caiff hysbysiad o dan is-adran (3) nodi y byddai’r awdurdod lleol yn bwriadu gwneud cais am warant o dan adran 32(3) pe bai mynediad i’r tir yn cael ei wrthod.

(5)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (3) gael ei gyflwyno yn ddigon cynnar cyn bod yr awdurdod lleol yn bwriadu mynd i’r tir er mwyn rhoi hysbysiad rhesymol i berchennog y tir am y bwriad i fynd iddo.

(6)Mewn achos pan fo’r awdurdod lleol yn awdurdodi person heblaw un o swyddogion yr awdurdod lleol i gymryd y camau brys ar ei ran, mae’r cyfeiriad yn adran 32(1) at swyddog awdurdodedig i’r awdurdod lleol yn cynnwys y person hwnnw.

(7)Mae adran 32, o’i chymhwyso at achos yn yr adran hon, yn effeithiol fel pe bai—

(a)y geiriau “ar bob adeg resymol” yn is-adran (1), a

(b)is-adran (2),

wedi eu hepgor.

(8)O fewn y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r awdurdod lleol yn dechrau cymryd y camau brys, rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno i berchennog y tir hysbysiad—

(a)sy’n disgrifio’r risg sydd ar fin digwydd o niwed difrifol i iechyd neu ddiogelwch personau sydd ar y tir neu a all fod ar y tir,

(b)sy’n disgrifio’r camau brys sydd wedi eu cymryd gan yr awdurdod lleol ar y tir, ac unrhyw gamau brys sydd i’w cymryd gan yr awdurdod lleol ar y tir,

(c)sy’n nodi pryd y dechreuodd yr awdurdod lleol gymryd y camau brys a phryd y mae’r awdurdod lleol yn disgwyl iddynt gael eu cwblhau,

(d)os nad un o swyddogion yr awdurdod lleol yw’r person y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu ei awdurdodi i gymryd y camau ar ei ran, sy’n nodi enw’r person hwnnw, ac

(e)sy’n esbonio’r hawl i apelio a roddir gan is-adran (9).

(9)Caiff perchennog tir y mae awdurdod lleol wedi cymryd neu yn cymryd camau brys mewn perthynas ag ef apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn cymryd y camau gan yr awdurdod lleol (gweler adran 23).

(10)Caniateir apelio ar y seiliau canlynol—

(a)nad oedd risg ar fin digwydd o niwed difrifol fel y’i crybwyllir yn is-adran (1)(b) (neu, os yw’r camau’n dal i gael eu cymryd, nad oes risg o’r fath), neu

(b)nad oedd angen y camau y mae’r awdurdod wedi eu cymryd er mwyn dileu’r risg a oedd ar fin digwydd o niwed difrifol a grybwyllir yn is-adran (1)(b) (neu, os yw’r camau’n dal i gael eu cymryd, nad oes eu hangen er mwyn dileu’r risg).

(11)Mae’r dulliau a ganiateir ar gyfer cyflwyno hysbysiad o dan yr adran hon yn cynnwys ei osod ar fan amlwg ym mhrif fynedfa’r tir neu yn agos ati.

22Camau o dan adran 20 neu 21: pŵer i hawlio treuliau

(1)Pan fo awdurdod lleol yn cymryd camau o dan adran 20 neu gamau brys o dan adran 21, caiff yr awdurdod lleol godi tâl ar berchennog y tir fel modd i adennill treuliau yr aed iddynt gan yr awdurdod lleol—

(a)wrth benderfynu a ddylai gymryd y camau,

(b)wrth baratoi a chyflwyno unrhyw hysbysiad o dan adran 20 neu 21 neu hawliad o dan is-adran (6), ac

(c)wrth gymryd y camau.

(2)Mae’r treuliau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yn cynnwys treuliau sicrhau cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol) (ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain).

(3)Yn achos camau brys o dan adran 21, ni chaniateir codi tâl o dan is-adran (1) tan unrhyw adeg (os oes un) a bennir yn unol ag is-adran (4).

(4)At ddibenion is-adran (3), yr adeg pan ganiateir i dâl gael ei godi am gamau brys yw—

(a)os na ddygir apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol i gymryd y camau brys o dan adran 21(9) o fewn y cyfnod apelio o dan adran 23, diwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)os dygir apêl o’r fath ac os yw’r penderfyniad ar yr apêl yn cadarnhau penderfyniad yr awdurdod lleol—

(i)os yw’r cyfnod pryd y caniateir dwyn apêl i’r Tribiwnlys Uwch yn dod i ben heb i apêl o’r fath gael ei dwyn, diwedd y cyfnod hwnnw, a

(ii)os dygir apêl i’r Tribiwnlys Uwch, pan roddir penderfyniad ar yr apêl sy’n cadarnhau penderfyniad yr awdurdod lleol.

(5)At ddibenion is-adran (4)—

(a)mae tynnu apêl yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod lleol yn ôl yn creu’r un effaith â phenderfyniad ar yr apêl sy’n cadarnhau penderfyniad yr awdurdod lleol, a

(b)mae cyfeiriadau at benderfyniad ar yr apêl sy’n cadarnhau penderfyniad yr awdurdod lleol yn gyfeiriadau at benderfyniad sy’n cadarnhau’r penderfyniad hwnnw ag amrywiadau neu heb amrywiadau.

(6)Mae’r pŵer o dan is-adran (1) yn arferadwy drwy gyflwyno i berchennog y tir hawliad am y treuliau—

(a)sy’n nodi cyfanswm y treuliau y mae’r awdurdod lleol yn ceisio eu hadennill o dan is-adran (1) (“treuliau perthnasol”),

(b)yn nodi dadansoddiad manwl o’r treuliauperthnasol,

(c)os yw’r awdurdod lleol yn bwriadu codi llog o dan adran 25, yn nodi’r gyfradd log ar y treuliau perthnasol, a

(d)yn esbonio’r hawl i apelio a roddir gan is-adran (7).

(7)Caiff perchennog tir y cyflwynir hawliad iddo o dan yr adran hon apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn yr hawliad (gweler adran 23).

(8)Rhaid i hawliad o dan yr adran hon gael ei gyflwyno—

(a)yn achos camau o dan adran 20, cyn diwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r dyddiad y cafodd y camau eu cwblhau, a

(b)yn achos camau brys o dan adran 21—

(i)cyn diwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r dyddiad cynharaf (os oes un) y caniateir i dâl gael ei godi yn unol ag is-adran (4), neu

(ii)os nad yw’r camau wedi eu cwblhau erbyn diwedd y cyfnod hwnnw, cyn diwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r dyddiad y cwblheir y camau.

23Apelio o dan adran 17, 21 neu 22

(1)Rhaid i apêl o dan adran 17, 21 neu 22 gael ei gwneud cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynwyd y ddogfen berthnasol (y cyfeirir ato yn yr adran hon ac adran 24 fel “y cyfnod apelio”).

(2)Yn is-adran (1) ystyr “dogfen berthnasol” yw—

(a)yn achos apêl o dan adran 17, yr hysbysiad cydymffurfio,

(b)yn achos apêl o dan adran 21, yr hysbysiad o dan is-adran (8) o’r adran honno, ac

(c)yn achos apêl o dan adran 22, yr hawliad o dan yr adran honno.

(3)Caiff tribiwnlys eiddo preswyl ganiatáu i apêl o dan adran 17, 21 neu 22 gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod apelio os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw ohirio wedyn cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio allan o amser).

(4)O ran apêl o dan adran 17, 21 neu 22—

(a)mae i gael ei chynnal ar ffurf ail-wrandawiad, ond

(b)caniateir iddi gael ei phenderfynu gan roi sylw i faterion na wyddai’r awdurdod lleol a wnaeth y penderfyniad amdanynt.

(5)Caiff y tribiwnlys drwy orchymyn—

(a)ar apêl o dan adran 17, gadarnhau, amrywio neu ddileu’r hysbysiad cydymffurfio,

(b)ar apêl o dan adran 21, cadarnhau, amrywio neu wrth-droi penderfyniad yr awdurdod lleol, neu

(c)ar apêl o dan adran 22, cadarnhau, amrywio neu ddileu’r hawliad.

24Pryd y daw hysbysiad cydymffurfio neu hawliad treuliau yn weithredol

(1)Mae’r adeg pryd y daw hysbysiad cydymffurfio o dan adran 17 neu hawliad o dan adran 19 neu 22 yn weithredol (os yw’n weithredol o gwbl) i’w phenderfynu yn unol â’r adran hon.

(2)Os na ddygir apêl o dan adran 17 o fewn y cyfnod apelio yn erbyn yr hysbysiad cydymffurfio, daw’r hysbysiad ac unrhyw hawliad o dan adran 19 a gyflwynwyd gydag ef yn weithredol ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(3)Os na ddygir apêl o dan adran 22 o fewn y cyfnod apelio, daw’r hawliad o dan yr adran honno yn weithredol ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(4)Os dygir apêl o dan adran 17, a bod penderfyniad ar yr apêl yn cadarnhau’r hysbysiad cydymffurfio, daw’r hysbysiad ac unrhyw hawliad o dan adran 19 a gyflwynwyd gydag ef yn weithredol—

(a)os daw’r cyfnod pryd y caniateir dwyn apêl i’r Tribiwnlys Uwch i ben heb apêl o’r fath, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, neu

(b)os dygir apêl i’r Tribiwnlys Uwch a bod penderfyniad ar yr apêl yn cael ei roi sy’n cadarnhau’r hysbysiad, adeg y penderfyniad.

(5)Pan ddygir apêl o dan adran 22, a bod penderfyniad ar yr apêl yn cadarnhau’r hawliad o dan yr adran honno, daw’r hawliad yn weithredol—

(a)os daw’r cyfnod pryd y caniateir dod ag apêl i’r Tribiwnlys Uwch i ben heb apêl o’r fath, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, neu

(b)os ceir apêl i’r Tribiwnlys Uwch a bod penderfyniad ar yr apêl yn cael ei roi sy’n cadarnhau’r hysbysiad, adeg y penderfyniad.

(6)At ddibenion is-adrannau (4) a (5)—

(a)mae tynnu apêl yn erbyn hysbysiad neu hawliad yn ôl yn creu’r un effaith â phenderfyniad ar yr apêl sy’n cadarnhau’r hysbysiad neu’r hawliad, a

(b)mae cyfeiriadau at benderfyniad sy’n cadarnhau’r hysbysiad neu’r hawliad yn gyfeiriadau at benderfyniad sy’n cadarnhau’r hysbysiad neu’r hawliad ag amrywiadau neu heb amrywiadau.

25Adennill treuliau a hawlir o dan adran 19 neu 22

(1)O’r adeg y daw hawliad o dan adran 19 neu 22 yn weithredol, mae’r treuliau perthnasol a nodir yn yr hawliad yn cario llog ar unrhyw gyfradd a bennir gan yr awdurdod lleol hyd nes i’r holl symiau sy’n ddyledus o dan yr hawliad gael eu hadennill; ac mae’r treuliau ac unrhyw gyfradd log yn adenilladwy ganddynt fel dyled.

(2)O’r adeg honno ymlaen, mae’r treuliau ac unrhyw log, hyd nes y cânt eu hadennill, yn arwystl ar y tir y mae’r hysbysiad cydymffurfio neu’r camau brys yn ymwneud ag ef.

(3)Mae’r arwystl yn dod yn effeithiol ar yr adeg honno fel arwystl cyfreithiol sy’n bridiant tir lleol.

(4)Er mwyn gorfodi’r arwystl mae gan yr awdurdod lleol yr un pwerau a rhwymedïau o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 ac fel arall â phe bai yn forgeisiai drwy weithred sydd â phwerau i werthu ac i brydlesu, pwerau i dderbyn ildiad prydles ac i benodi derbynnydd.

(5)Mae’r pŵer i benodi derbynnydd yn arferadwy unrhyw bryd ar ôl diwedd y cyfnod o 1 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y daw’r arwystl yn effeithiol.

(6)Yn yr adran hon mae i “treuliau perthnasol”—

(a)yn achos hawliad o dan adran 19, yr ystyr a roddir gan is-adran (3) o’r adran honno, a

(b)yn achos hawliad o dan adran 22, yr ystyr a roddir gan is-adran (6) o’r adran honno.

Dirymu ac ildio trwyddedau safle

26Dirymu yn sgil marwolaeth, newid perchnogaeth neu roi’r gorau i ddefnyddio safle

(1)Pan fo deiliad trwydded safle ar gyfer unrhyw dir yn marw neu’n peidio â bod yn berchennog y tir, dirymir y drwydded safle.

(2)Pan fo tir y mae trwydded safle mewn grym ar ei gyfer yn peidio â chael ei ddefnyddio fel safle rheoleiddiedig, dirymir y drwydded safle.

27Dyletswydd deiliad trwydded safle i ganiatáu i drwydded gael ei newid

(1)Caiff awdurdod lleol sydd wedi dyroddi trwydded safle ei gwneud yn ofynnol ar unrhyw adeg i’r deiliad wneud beth bynnag y mae’r awdurdod lleol yn credu ei bod yn angenrheidiol i alluogi’r awdurdod lleol i gynnwys ynddi unrhyw amrywiad ar amodau’r drwydded a wneir yn unol â’r Rhan hon.

(2)Os bydd deiliad trwydded safle yn methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â gofyniad o dan yr adran hon, mae deiliad y drwydded yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (2) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol.

Rheolwyr safle i fod yn bersonau addas a phriodol

28Gofyniad bod rhaid i reolwr safle fod yn berson addas a phriodol

(1)Ni chaiff perchennog tir achosi na chaniatáu i unrhyw ran o’r tir gael ei defnyddio fel safle rheoleiddiedig oni bai (yn ychwanegol at yr angen i’r perchennog ddal trwydded safle) bod yr awdurdod lleol y mae’r tir wedi ei leoli yn ei ardal—

(a)wedi ei fodloni bod y perchennog yn berson addas a phriodol i reoli’r safle neu (os nad y perchennog sy’n rheoli’r safle) fod person a benodwyd i wneud hynny gan y perchennog yn berson addas a phriodol i wneud hynny, neu

(b)gyda chydsyniad y perchennog, wedi penodi person ei hun i reoli’r safle.

(2)Os bydd perchennog tir sy’n dal trwydded safle ar gyfer y tir yn torri is-adran (1), caiff yr awdurdod lleol y mae’r tir wedi ei leoli yn ei ardal wneud cais i’r tribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn yn dirymu’r drwydded safle.

(3)Mae person sy’n mynd yn groes i’r gofyniad a osodir gan is-adran (1) yn cyflawni trosedd.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (3) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy.

(5)Os collfernir y perchennog tir sy’n dal trwydded safle ar gyfer tir am drosedd o dan is-adran (3) mewn perthynas â’r tir ac os yw’r person wedi ei gollfarnu o’r trosedd mewn perthynas â’r tir ar 2 neu ragor o achlysuron blaenorol, caiff y llys ynadon y collfernir y perchennog ger ei fron, ar gais gan yr awdurdod lleol y mae’r tir wedi ei leoli yn ei ardal, wneud gorchymyn sy’n dirymu trwydded safle’r perchennog ar y diwrnod a bennir yn y gorchymyn.

29Penderfynu a yw person yn addas a phriodol

(1)Wrth benderfynu a yw person yn berson addas a phriodol i reoli safle rheoleiddiedig rhaid i awdurdod lleol roi sylw i bob mater y mae o’r farn eu bod yn briodol.

(2)Mae’r materion y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw iddynt yn cynnwys unrhyw dystiolaeth o fewn is-adran (3) neu (4).

(3)Mae tystiolaeth yn dod o fewn yr is-adran hon os yw’n dangos bod y person—

(a)wedi cyflawni unrhyw drosedd sy’n ymwneud â thwyll neu anonestrwydd arall, trais, arfau tanio neu gyffuriau neu unrhyw drosedd sydd wedi ei restru yn Atodlen 3 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (troseddau mae gofynion ynglŷn â hysbysu yn gymwys iddynt),

(b)wedi gwahaniaethu’n anghyfreithlon ar sail unrhyw nodwedd sy’n nodwedd warchodedig o dan adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 wrth gynnal unrhyw fusnes, neu mewn cysylltiad â’i gynnal, neu

(c)wedi torri unrhyw ddarpariaeth yn y gyfraith sy’n ymwneud â thai (gan gynnwys cartrefi symudol) neu landlord a thenant.

(4)Mae tystiolaeth yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw’n dangos bod unrhyw berson sydd neu a fu gynt yn gysylltiedig â’r person (ar sail bersonol, ar sail gwaith neu ar sail arall) wedi gwneud unrhyw un neu ragor o’r pethau a nodir yn is-adran (3), a

(b)os yw’n ymddangos i’r awdurdod lleol fod y dystiolaeth yn berthnasol i’r cwestiwn a yw’r person yn berson addas a phriodol i reoli safle rheoleiddiedig.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon i amrywio’r dystiolaeth y mae’n rhaid i awdurdod lleol roi sylw iddi wrth benderfynu a yw person yn berson addas a phriodol i reoli safle rheoleiddiedig.

(6)Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu nad yw person yn berson addas a phriodol i reoli safle—

(a)rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r person am y rhesymau dros y penderfyniad ac o hawl y person i apelio o dan baragraff (b), a

(b)caiff y person, cyn pen y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y penderfyniad, apelio yn erbyn y penderfyniad i dribiwnlys eiddo preswyl.

Rheolwyr interim

30Penodi rheolwr interim

(1)Os bydd unrhyw un neu ragor o’r amodau a bennir yn is-adran (2) wedi eu bodloni o ran safle rheoleiddiedig, caiff awdurdod lleol y trwyddedwyd y safle ganddo benodi rheolwr interim i’r safle.

(2)Dyma’r amodau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)—

(a)bod yr awdurdod lleol o’r farn bod deiliad y drwydded safle yn methu neu wedi methu, naill ai mewn modd difrifol neu fwy nag unwaith, â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r drwydded safle,

(b)bod yr awdurdod lleol o’r farn nad yw’r safle’n cael ei reoli gan berson sy’n berson addas a phriodol i reoli’r safle, ac

(c)bod yr awdurdod lleol o’r farn nad oes neb yn rheoli’r safle.

(3)Rhaid i awdurdod lleol, os gofynnir iddo gan gymdeithas sy’n gymdeithas trigolion gymwys ar gyfer safle, ystyried a ddylai arfer ei bŵer o dan yr adran hon.

(4)Nid yw is-adran (3) yn effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol i arfer ei bŵer o dan yr adran hon ar ei symbyliad ei hun.

(5)Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad i benodi rheolwr interim, o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y penderfyniad, apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn y penderfyniad.

(6)Daw penodiad rheolwr interim i ben ar y cynharaf o’r canlynol—

(a)pan ddaw’r drwydded safle i ben,

(b)pan ddirymir y drwydded safle, ac

(c)dyddiad a bennir yn y penodiad.

(7)Os bydd person yn peidio â bod yn rheolwr interim cyn i’r penodiad ddod i ben, caiff yr awdurdod benodi rheolwr interim newydd yn lle’r person hwnnw.

31Telerau penodi a phwerau rheolwr interim

(1)Rhaid i benodiad rheolwr interim gael ei wneud ar delerau ac amodau (gan gynnwys o ran tâl a threuliau) a bennir yn y penodiad, neu y penderfynir arnynt yn unol â’r penodiad.

(2)Mae gan y rheolwr interim—

(a)unrhyw bŵer a bennir yn y penodiad, a

(b)unrhyw bŵer arall o ran rheoli’r safle y mae ar y rheolwr interim ei angen at y dibenion a bennir yn y penodiad (gan gynnwys y pŵer i wneud cytundebau ac i gymryd camau ar ran deiliad y drwydded safle).

(3)Caiff yr awdurdod lleol roi cyfarwyddiadau cyffredinol neu benodol i’r rheolwr interim.

(4)Caiff yr awdurdod lleol dynnu unrhyw gyfarwyddiadau a roddir yn ôl neu eu diwygio.

(5)Caniateir i dâl a threuliau rheolwr interim gael eu tynnu gan y rheolwr interim o unrhyw incwm y mae gan ddeiliad y drwydded hawl i’w gael o ran y safle, ond os nad yw’r incwm hwnnw’n ddigonol rhaid i unrhyw falans gael ei dalu gan yr awdurdod lleol.

(6)Caniateir i unrhyw symiau a delir gan yr awdurdod lleol o dan is-adran (5) gael eu hadennill gan yr awdurdod oddi ar ddeiliad y drwydded safle.

Darpariaethau gorfodi eraill

32Pŵer mynediad swyddogion awdurdodau lleol

(1)Mae gan swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol, wedi iddo ddangos (os gofynnir iddo wneud hynny), dogfen awdurdod a ddilyswyd yn briodol, hawl ar bob adeg resymol i fynd i unrhyw dir sy’n safle rheoleiddiedig neu y mae cais am drwydded safle wedi ei wneud ar ei gyfer er mwyn—

(a)galluogi’r awdurdod lleol i benderfynu pa amodau y dylid eu gosod ar y drwydded safle neu a ddylid amrywio amodau’r trwydded safle,

(b)canfod a oes unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Rhan hon yn cael, neu wedi cael, eu torri ar y tir neu mewn cysylltiad ag ef,

(c)darganfod a oes amgylchiadau’n bodoli a fyddai’n awdurdodi’r awdurdod lleol i gymryd unrhyw gamau, neu i wneud unrhyw waith, o dan y Rhan hon, neu

(d)cymryd unrhyw gamau, neu wneud unrhyw waith, yr awdurdodir eu cymryd neu ei wneud gan yr awdurdod lleol gan y Rhan hon.

(2)Ond rhaid peidio â mynnu mynediad i unrhyw dir fel mater o hawl oni bai bod 24 awr o hysbysiad o’r bwriad i fynd iddo wedi ei roi i’r perchennog.

(3)Os dangosir er boddhad ynad heddwch—

(a)bod unrhyw un o’r is-baragraffau canlynol yn gymwys—

(i)mae mynediad i unrhyw dir wedi ei wrthod,

(ii)deellir y bydd mynediad yn cael ei wrthod,

(iii)mae perchennog y tir yn absennol dros dro ac mae’r achos yn achos brys,

(iv)byddai cais am fynediad yn mynd yn groes i amcan mynd i’r tir, a

(b)bod sail resymol dros fynd i’r tir at unrhyw ddiben a grybwyllir yn is-adran (1),

caiff yr ynad hedwch drwy warant awdurdodi’r awdurdod lleol drwy gyfrwng unrhyw swyddog awdurdodedig i fynd i’r tir, gan ddefnyddio grym os bydd ei angen.

(4)Ond rhaid peidio â rhoi gwarant oni bai bod yr ynad heddwch wedi ei fodloni—

(a)bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am y warant wedi ei roi i’r perchennog,

(b)bod y perchennog yn absennol dros dro a bod yr achos yn achos brys, neu

(c)y byddai rhoi hysbysiad yn mynd yn groes i amcan mynd i’r tir.

(5)Caiff swyddog awdurdodedig sy’n mynd i unrhyw dir yn rhinwedd yr adran hon, neu yn rhinwedd gwarant a roddwyd odani, fynd ag unrhyw bersonau y mae eu hangen gydag ef.

(6)Mae pob gwarant a roddir o dan yr adran hon yn parhau mewn grym hyd nes bod y diben y mae angen y mynediad ar ei gyfer wedi ei fodloni.

(7)Mae person sydd yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy’n gweithredu’r adran hon, neu sy’n gweithredu gwarant o dan yr adran hon, yn cyflawni trosedd.

(8)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (7) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

33Gorchmynion ad-dalu

(1)At ddibenion yr adran hon mae tir yn “safle heb ei drwyddedu” os yw’n safle rheoleiddiedig nad oes trwydded safle mewn grym ar ei gyfer.

(2)Nid yw’r un rheol gyfreithiol sy’n ymwneud â dilysrwydd neu orfodadwyedd contractau o dan amgylchiadau sy’n cynnwys anghyfreithlondeb i effeithio ar ddilysrwydd neu orfodadwyedd y canlynol—

(a)unrhyw ddarpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i ffi am lain neu unrhyw daliad cyfnodol arall gael eu talu mewn cysylltiad ag unrhyw gytundeb y mae Rhan 4 yn gymwys iddo sy’n ymwneud â safle heb ei drwyddedu, neu

(b)unrhyw ddarpariaeth arall mewn cytundeb o’r fath.

(3)Ond caniateir i symiau a delir o ran taliadau penodol o dan gytundeb o’r fath ac mewn cysylltiad ag ef gael eu hadennill yn unol ag is-adran (4).

(4)Os bydd—

(a)cais ynglŷn â safle heb ei drwyddedu yn cael ei wneud i dribiwnlys eiddo preswyl gan feddiannydd cartref symudol a osodir ar y safle, a

(b)bod y tribiwnlys wedi ei fodloni o ran y materion a grybwyllir yn is-adran (6),

caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn (“gorchymyn ad-dalu”).

(5)Mae gorchymyn ad-dalu yn orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i berchennog neu reolwr y safle dalu i feddiannydd y cartref symudol unrhyw symiau a bennir yn y gorchymyn o ran—

(a)unrhyw daliad a wnaed gan feddiannydd y cartref symudol (neu unrhyw berson y mae meddiannydd y cartref symudol wedi sicrhau perchnogaeth ar y cartref symudol drwyddo) i berchennog neu reolwr y safle ynglŷn â phrynu cartref symudol a osodwyd ar y safle,

(b)unrhyw gomisiwn a dalwyd i berchennog neu reolwr y safle gan unrhyw berson ynglŷn â gwerthu cartref symudol a osodwyd ar y safle,

(c)y ffi am y llain a dalwyd ynglŷn â chartref symudol o’r fath, a

(d)unrhyw daliadau cyfnodol a dalwyd ynglŷn â chartref symudol o’r fath.

(6)Rhaid i’r tribiwnlys fod wedi ei fodloni ynglŷn â’r materion a ganlyn—

(a)bod perchennog y safle wedi ei gollfarnu am drosedd o dan adran 5 o ran y safle,

(b)bod meddiannydd y cartref symudol (neu, yn achos taliadau y cyfeirir atynt yn is-adran (5)(a) neu (b), y person y mae’r meddiannydd wedi sicrhau perchnogaeth ar y cartref symudol drwyddo) wedi talu i berchennog neu reolwr y safle yn ystod unrhyw gyfnod y mae’n ymddangos bod trosedd o’r fath yn cael ei gyflawni ynddo o ran y safle, ac

(c)bod y cais wedi ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis yn dechrau â dyddiad y gollfarn.

(7)Ni chaniateir i orchymyn ad-dalu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw swm gael ei dalu y mae’r tribiwnlys wedi ei fodloni y byddai’n afresymol ei gwneud yn ofynnol i berchennog neu reolwr y safle ei dalu oherwydd unrhyw amgylchiadau eithriadol.

(8)Y swm y mae’n ofynnol ei dalu yn rhinwedd gorchymyn ad-dalu o dan is-adran (5) yw unrhyw swm sydd (yn ddarostyngedig i is-adrannau (9) i (11)) ym marn y tribiwnlys yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

(9)Mae’r materion y mae’n rhaid i’r tribiwnlys eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar y swm y mae’n ofynnol ei dalu yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol)—

(a)cyfanswm y taliadau perthnasol a dalwyd mewn cysylltiad â bod yn berchen ar y safle yn ystod unrhyw gyfnod y mae’n ymddangos i’r tribiwnlys fod trosedd yn cael ei gyflawni ynddo gan y perchennog ynglŷn â’r safle o dan adran 5,

(b)i ba raddau y cafodd perchennog neu reolwr y safle y cyfanswm hwnnw mewn gwirionedd,

(c)a yw perchennog y safle ar unrhyw adeg wedi ei gollfarnu am drosedd o dan adran 5 ynglŷn â’r safle,

(d)ymddygiad ac amgylchiadau ariannol perchennog neu reolwr y safle, ac

(e)ymddygiad meddiannydd y cartref symudol;

ac yn yr is-adran hon ystyr “taliadau perthnasol” yw’r taliadau hynny y cyfeirir atynt yn is-adran (5).

(10)Ni chaiff gorchymyn ad-dalu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw swm gael ei dalu sy’n ymwneud ag unrhyw amser y tu allan i’r cyfnod o 12 mis sy’n diweddu ar ddyddiad cais y meddiannydd, ac mae’r cyfnod sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-adran (9)(a) i’w gyfyngu yn unol â hyn.

(11)Mae unrhyw swm sy’n daladwy i feddiannydd cartref symudol yn rhinwedd gorchymyn ad-dalu yn adenilladwy gan y meddiannydd fel dyled sy’n ddyledus i’r meddiannydd gan berchennog neu reolwr y safle.

(12)Yn yr adran hon ystyr “meddiannydd”, o ran cartref symudol a safle rheoleiddiedig, yw person sydd â hawl—

(a)i osod cartref symudol ar y safle, a

(b)i feddiannu’r cartref symudol fel unig breswylfa neu brif breswylfa’r person.

Amrywiol ac atodol

34Datganiadau neu wybodaeth anwir neu gamarweiniol

(1)Mae person—

(a)sy’n gwneud datganiad neu osodiad arall o dan y Rhan hon sy’n anwir neu’n gamarweiniol gan wybod neu gredu ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol, neu

(b)sy’n rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol o dan y Rhan hon gan wybod neu gredu ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol,

yn cyflawni trosedd.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy.

35Canllawiau gan Weinidogion Cymru

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau lleol o ran cyflawni eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan is-adran (1).

36Pwerau i godi taliadau: atodol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn bwriadu codi tâl o dan adran 6 neu 13.

(2)Cyn codi’r ffi, rhaid i’r awdurdod lleol lunio a chyhoeddi polisi ar ffioedd.

(3)Wrth bennu ffi at ddibenion adran 6 neu 13 mae’r awdurdod lleol—

(a)yn gorfod gweithredu yn unol â’i bolisi ar ffioedd,

(b)yn cael pennu ffioedd gwahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o achos, ac

(c)yn cael penderfynu nad oes angen talu ffi mewn achosion penodol neu ddisgrifiadau penodol o achos.

(4)Wrth bennu ffi at unrhyw un neu ragor o’r dibenion hyn, ni chaiff yr awdurdod lleol gymryd i ystyriaeth unrhyw gostau y mae’n mynd iddynt wrth arfer—

(a)ei swyddogaethau o dan unrhyw un neu ragor o adrannau 15 i 25, neu

(b)unrhyw swyddogaethau o dan unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf hon o ran safle nad yw’n safle rheoleiddiedig.

(5)Caiff yr awdurdod lleol ddiwygio’i bolisi ar ffioedd ac, os yw’n gwneud hynny, rhaid iddo gyhoeddi’r polisi fel y’i diwygiwyd.

37Cofrestrau trwyddedau safle

(1)Rhaid i bob awdurdod lleol gadw cofrestr o drwyddedau safle a ddyroddwyd ar gyfer tir a leolir yn ardal yr awdurdod lleol.

(2)Mae’r gofrestr i fod yn agored i’r cyhoedd gael edrych arni ar bob adeg resymol.

(3)Os yw awdurdod lleol o dan adran 27 yn cofnodi amrywiad ar unrhyw un o amodau y drwydded safle, rhaid i’r awdurdod lleol gofnodi’r ffaith honno yn y gofrestr trwyddedau safle.

38Tir y Goron

Mae’r Rhan hon yn gymwys i dir nad y Goron yw ei berchennog hyd yn oed os oes buddiant yn y tir yn perthyn i’w Mawrhydi yn hawl y Goron neu yn hawl Dugaeth Caerhirfryn, neu i Ddugaeth Cernyw, neu yn perthyn i adran o’r llywodraeth neu’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar ran Ei Mawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth.

39Dehongli

(1)Yn y Rhan hon—

  • ystyr “awdurdod tân ac achub” (“fire and rescue authority”), o ran unrhyw dir, yw’r awdurdod tân ac achub o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 i’r ardal y lleolir y tir ynddi;

  • ystyr “gorchymyn datblygu” (“development order”) yw gorchymyn a wneir o dan adran 59 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

(2)Pan fo tir nad yw’n fwy na chyfanswm o 400 o fetrau sgwâr o ran ei arwynebedd yn cael ei osod o dan denantiaeth a wnaed gyda golwg ar ddefnyddio’r tir fel safle rheoleiddiedig, at ddibenion y Rhan hon ystyr “perchennog”, o ran y tir, yw’r person y byddai ganddo hawl i feddiant ar y tir heblaw am hawliau unrhyw berson o dan y denantiaeth honno.

(3)Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at wneud gwaith yn cynnwys cyfeiriad at blannu coed a llwyni a gwneud gwaith arall i gadw neu i wella amwynder tir.

(4)Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at ganiatâd cynllunio i’w gymryd fel cyfeiriad at ganiatâd cynllunio p’un a yw wedi ei gyfyngu mewn unrhyw ffordd ai peidio neu’n ddarostyngedig i unrhyw amod neu gyfyngiad, ac mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon o’r Ddeddf hon at ganiatâd cynllunio yn cynnwys cyfeiriad at ganiatâd cynllunio y bernir ei fod wedi ei roi neu a roddwyd ar ddynodi parth menter o dan Atodlen 32 i Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980.

RHAN 3AMDDIFFYN RHAG TROI ALLAN

40Cymhwyso’r Rhan

Mae’r Rhan hon yn gymwys o ran unrhyw drwydded neu gontract (pryd bynnag y’u gwneir) y mae gan berson hawl odano—

(a)i osod cartref symudol ar safle gwarchodedig a’i feddiannu fel preswylfa’r person, neu

(b)os yw’r cartref symudol wedi ei osod ar y safle gwarchodedig gan rywun arall, i’w feddiannu fel preswylfa’r person.

41Parhad lleiaf hysbysiad

Mewn unrhyw achos pan fo contract preswyl yn gallu cael ei derfynu drwy hysbysiad a roddir gan y naill barti i’r llall, nid yw’r hysbysiad yn effeithiol oni bai ei fod yn cael ei roi nid llai na 4 wythnos cyn y dyddiad pryd y mae i ddod yn effeithiol.

42Amddiffyn meddianwyr yn erbyn eu troi allan ac aflonyddu arnynt, gwybodaeth anwir etc.

(1)Mae person y mae unrhyw un neu ragor o is-adrannau (2) i (6) yn gymwys iddo yn cyflawni trosedd.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i berson os yw’r person, yn ystod cyfnod contract preswyl, yn anghyfreithlon yn amddifadu meddiannydd y cartref symudol o feddiannaeth ar y safle gwarchodedig unrhyw gartref symudol y mae gan y meddiannydd hawl o dan y contract i’w osod a’i feddiannu, neu i’w feddiannu, fel preswylfa’r meddiannydd ar y safle gwarchodedig.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys i berson os yw’r person, ar ôl i gontract preswyl ddod i ben neu gael ei derfynu, yn gorfodi unrhyw hawl i gau meddiannydd y cartref symudol allan o’r safle gwarchodedig neu o unrhyw gartref symudol o’r fath, neu i symud ymaith neu gadw unrhyw gartref symudol o’r fath allan o’r safle gwarchodedig heblaw drwy achos yn y llys.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys i berson os yw’r person (boed yn ystod cyfnod contract preswyl ynteu ar ôl i gontract preswyl ddod i ben neu gael ei derfynu) yn cyflawni gweithredoedd sy’n debyg o ymyrryd â llonyddwch neu gysur y meddiannydd neu bersonau sy’n preswylio gyda’r meddiannydd, neu’n tynnu’n ôl neu’n cadw’n ôl wasanaethau neu gyfleusterau sy’n rhesymol angenrheidiol er mwyn meddiannu’r cartref symudol fel preswylfa ar y safle, gan fwriadu peri bod meddiannydd y cartref symudol—

(a)yn rhoi’r gorau i feddiannu’r cartref symudol neu ei symud ymaith o’r safle, neu

(b)yn ymatal rhag arfer unrhyw hawl neu rhag mynd ar drywydd unrhyw rwymedi mewn perthynas â hynny.

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys i berson os yw’r person yn berchennog y safle gwarchodedig, neu’n asiant iddo, a bod y person hwnnw (boed yn ystod cyfnod contract preswyl ynteu ar ôl i gontract preswyl ddod i ben neu gael ei derfynu)—

(a)yn cyflawni gweithredoedd sy’n debyg o ymyrryd â llonyddwch neu gysur meddiannydd y cartref symudol neu bersonau sy’n preswylio gyda’r meddiannydd, neu

(b)yn tynnu’n ôl neu’n cadw’n ôl wasanaethau neu gyfleusterau sy’n rhesymol angenrheidiol er mwyn meddiannu’r cartref symudol fel preswylfa ar y safle,

a bod y person (yn y naill achos neu’r llall) yn gwybod, neu fod ganddo achos rhesymol dros gredu, bod yr ymddygiad yn debyg o beri i’r meddiannydd wneud unrhyw un neu ragor o’r pethau a grybwyllir yn is-adran (4)(a) neu (b).

(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys i berson os yw’r person yn berchennog y safle gwarchodedig, neu’n asiant iddo a bod y person hwnnw, yn ystod cyfnod contract preswyl—

(a)yn fwriadol neu’n ddi-hid yn rhoi gwybodaeth neu’n cyflwyno sylwadau sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn ystyr berthnasol i unrhyw berson, a

(b)yn gwybod, neu fod ganddo achos rhesymol dros gredu, bod gwneud hynny yn debyg o beri—

(i)i’r meddiannydd wneud unrhyw un neu ragor o’r pethau a grybwyllir yn is-adran (4)(a) neu (b), neu

(ii)i berson sy’n ystyried a ddylai brynu neu feddiannu’r cartref symudol y mae’r contract preswyl yn ymwneud ag ef benderfynu peidio â gwneud.

(7)Yn is-adrannau (5) a (6) mae cyfeiriadau at berchennog safle gwarchodedig yn cynnwys cyfeiriadau at berson sydd ag ystâd neu fuddiant yn y safle sy’n drech nag ystâd neu fuddiant y perchennog.

(8)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at feddiannydd y cartref symudol yn cynnwys cyfeiriadau at y person a oedd yn feddiannydd y cartref symudol o dan gontract preswyl sydd wedi dod i ben neu sydd wedi ei derfynu ac, yn achos marwolaeth y meddiannydd (boed yn ystod cyfnod contract preswyl ynteu ar ôl i gontract preswyl ddod i ben neu gael ei derfynu), at unrhyw berson a oedd y pryd hwnnw yn preswylio gyda’r meddiannydd.

(9)Nid oes dim yn adran hon yn gymwys i arfer hawl gan berchennog cartref symudol i gymryd meddiant ar y cartref symudol, heblaw hawl a roddir wrth i gontract preswyl ddod i ben neu gael ei derfynu neu yn sgil hynny, nac i ddim byd a wneir yn unol â gorchymyn gan unrhyw lys.

43Troseddau o dan adran 42: atodol

(1)Mewn achos ynglŷn â throsedd o dorri adran 42(2) neu (3) mae’n amddiffyniad profi bod y cyhuddedig yn credu, a bod ganddo achos rhesymol dros gredu, bod meddiannydd y cartref symudol wedi rhoi’r gorau i fyw ar y safle.

(2)Mewn achos ynglŷn â throsedd o dorri adran 42(5) mae’n amddiffyniad profi bod gan y cyhuddedig sail resymol dros wneud y gweithredoedd neu dynnu’n ôl neu gadw’n ôl y gwasanaethau neu’r cyfleusterau o dan sylw.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan adran 42 yn agored—

(a)o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy neu i garchar am gyfnod heb fod yn fwy na 12 mis, neu i’r ddau, neu

(b)o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchar am gyfnod heb fod yn fwy na 2 flynedd, neu i’r ddau.

44Darpariaeth ar gyfer atal gorchmynion troi allan dros dro

(1)Os bydd y llys mewn achos gan berchennog safle gwarchodedig yn gwneud gorchymyn i orfodi unrhyw hawl ynglŷn â’r safle a grybwyllir yn adran 42(3), caiff y llys (heb ragfarnu unrhyw bŵer heblaw’r adran hon i ohirio rhoi’r gorchymyn ar waith neu i’w atal dros dro rhag cael ei weithredu) atal gorfodi’r gorchymyn dros dro am unrhyw gyfnod heb fod yn fwy na 12 mis ar ôl dyddiad y gorchymyn sy’n rhesymol ym marn y llys.

(2)Os bydd y llys yn rhinwedd yr adran hon yn atal gorfodi gorchymyn dros dro, caiff osod unrhyw delerau ac amodau, gan gynnwys amodau ynghylch talu rhent neu unrhyw daliadau cyfnodol eraill neu ôl-ddyledion y rhent neu’r taliadau hynny, sy’n rhesymol ym marn y llys.

(3)Caiff y llys o dro i dro, ar gais y naill barti neu’r llall, estyn, lleihau neu derfynu’r cyfnod atal dros dro a orchmynnwyd, neu amrywio unrhyw delerau neu amodau a osodwyd, ond ni chaiff estyn y cyfnod dros dro am fwy na 12 mis ar y tro.

(4)Wrth ystyried a ddylai neu sut y dylai arfer ei bwerau o dan yr adran hon, rhaid i’r llys roi sylw i’r holl amgylchiadau sy’n cynnwys y cwestiynau (ond nad ydynt yn gyfyngedig i’r cwestiynau)—

(a)a yw meddiannydd y cartref symudol wedi methu, boed cyn neu ar ôl i’r contract preswyl perthnasol ddod i ben neu gael ei derfynu, â chadw unrhyw delerau neu amodau yn y contract hwnnw, unrhyw amodau yn y drwydded safle, neu unrhyw reolau rhesymol a wnaed gan berchennog y safle gwarchodedig ynghylch rheoli a chynnal y safle neu gynnal a chadw’r cartrefi symudol arno,

(b)a yw meddiannydd y cartref symudol wedi gwrthod mewn modd afresymol gynnig gan y perchennog i adnewyddu’r contract preswyl neu i wneud contract preswyl arall am gyfnod rhesymol ac ar delerau rhesymol, ac

(c)a yw meddiannydd y cartref symudol wedi methu gwneud ymdrech resymol i sicrhau lle addas arall mewn man arall i’r cartref symudol neu gartref symudol addas arall a lle iddo.

(5)Os bydd y llys yn gwneud gorchymyn fel y’i crybwyllir yn is-adran (1) ond ei fod yn atal gorfodi’r gorchymyn dros dro, ni chaiff y llys wneud unrhyw orchymyn ynghylch costau oni bai ei bod yn ymddangos i’r llys, o roi sylw i ymddygiad perchennog y safle gwarchodedig neu ymddygiad meddiannydd y cartref symudol, fod amgylchiadau’r achos yn eithriadol.

(6)Ni chaiff y llys atal gorfodi gorchymyn dros dro yn rhinwedd yr adran hon—

(a)os nad oes trwydded safle mewn grym ar gyfer y safle, a

(b)os nad yw awdurdod lleol yn berchen ar y safle;

ac os yw trwydded safle ar gyfer y safle yn mynegi ei fod yn dod i ben ar ddiwedd cyfnod penodedig, nid yw’r cyfnod pryd y caniateir atal y gorfodi dros dro yn rhinwedd yr adran hon yn ymestyn y tu hwnt i ddiwedd y drwydded safle.

45Atodol

(1)Mae pŵer y llys o dan adran 44 i atal gorfodi gorchymyn dros dro yn ymestyn i unrhyw orchymyn a wneir ond sydd heb ei weithredu cyn i’r Rhan hon gychwyn.

(2)Nid oes dim yn y Rhan hon yn effeithio ar sut y mae adran 13 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 yn gweithredu.

(3)Nid yw Deddf Amddiffyn rhag Troi Allan 1977 yn gymwys i unrhyw fangre sy’n gartref symudol a osodwyd ar safle gwarchodedig.

46Troseddau

Caniateir i achos ynglŷn â throsedd o dan y Rhan hon gael ei ddwyn gan unrhyw awdurdod lleol.

47Dehongli

(1)Yn y Rhan hon—

  • ystyr “contract preswyl” (“residential contract”) yw trwydded neu gontract o fewn yr adran honno;

  • ystyr “meddiannydd” (“occupier”) o ran cartref symudol a safle gwarchodedig, yw’r person sydd â hawl fel y’i crybwyllir yn adran 40 o ran cartref symudol a’r safle gwarchodedig.

(2)Yn y Rhan hon ystyr “y llys” (“the court”) yw’r llys sirol.

RHAN 4CYTUNDEBAU CARTREFI SYMUDOL

48Cytundebau y mae’r Rhan yn gymwys iddynt

(1)Mae’r Rhan hon yn gymwys i unrhyw gytundeb y mae gan berson hawl odano—

(a)i osod cartref symudol ar safle gwarchodedig, a

(b)i feddiannu’r cartref symudol fel unig breswylfa neu brif breswylfa’r person.

(2)Yn y Rhan hon ystyr “meddiannydd”, o ran cartref symudol a safle gwarchodedig, yw’r person sydd â hawl fel y’i crybwyllir yn is-adran (1) o ran cartref symudol a’r safle gwarchodedig (ond gweler hefyd adran 55(2)(b)).

49Manylion cytundebau

(1)Cyn gwneud cytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo, rhaid i berchennog y safle gwarchodedig roi datganiad ysgrifenedig i’r meddiannydd arfaethedig o dan y cytundeb sydd—

(a)yn pennu enwau a chyfeiriadau’r partïon,

(b)yn cynnwys manylion y tir y bydd gan y meddiannydd arfaethedig hawl i osod y cartref symudol arno a’r rheini’n ddigon i adnabod y tir hwnnw,

(c)yn nodi’r telerau datganedig sydd i’w cynnwys yn y cytundeb (gan gynnwys unrhyw reolau i’r safle),

(d)yn nodi’r telerau sydd i’w hymhlygu gan adran 50(1), ac

(e)yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion eraill a bennir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i’r datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan is-adran (1) gael ei roi—

(a)heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau cyn dyddiad gwneud unrhyw gytundeb ynglŷn â gwerthu’r cartref symudol i’r meddiannydd arfaethedig, neu

(b)(os na wneir cytundeb o’r fath cyn gwneud y cytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo) heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau cyn dyddiad gwneud y cytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo.

(3)Ond os bydd y meddiannydd arfaethedig yn cydsynio mewn ysgrifen i’r datganiad hwnnw gael ei roi erbyn dyddiad (“y dyddiad a ddewiswyd”) sy’n llai nag 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad a grybwyllir yn is-adran (2)(a) neu (b), rhaid i’r datganiad gael ei roi i’r meddiannydd arfaethedig heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a ddewiswyd.

(4)O ran unrhyw deler datganedig heblaw rheol safle—

(a)os yw wedi ei gynnwys mewn cytundeb y mae’r Ddeddf hon yn gymwys iddo, ond

(b)na chafodd ei nodi mewn datganiad ysgrifenedig a roddwyd i’r meddiannydd arfaethedig yn unol ag is-adrannau (1) i (3),

mae’r teler yn anorfodadwy gan y perchennog neu gan unrhyw berson o fewn adran 53(1); ond mae hyn yn darostyngedig i unrhyw orchymyn a wneir gan y corff barnwrol priodol o dan adran 50(3).

(5)Os yw’r perchennog wedi methu rhoi datganiad ysgrifenedig i’r meddiannydd yn unol ag is-adrannau (1) i (3), caiff y meddiannydd, ar unrhyw adeg ar ôl i’r cytundeb gael ei wneud, wneud cais i’r corff barnwrol priodol am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog—

(a)rhoi datganiad ysgrifenedig i’r meddiannydd sy’n cydymffurfio â pharagraffau (a) i (e) o is-adran (1) (a ddarllenir ag unrhyw addasiadau y mae eu hangen i adlewyrchu’r ffaith bod y cytundeb wedi ei wneud), a

(b)gwneud hynny erbyn unrhyw ddyddiad a bennir yn y gorchymyn.

(6)Caniateir i ddatganiad y mae’n ofynnol ei roi i berson o dan yr adran hon gael ei roi i’r person yn bersonol neu ei anfon at y person drwy’r post.

(7)Mae unrhyw gyfeiriad yn yr adran hon at wneud cytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw amrywiad ar gytundeb y mae’r cytundeb yn dod yn gytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo yn ei rinwedd.

(8)Nid yw is-adrannau (2), (3) a (5) yn gymwys mewn perthynas â pherson sy’n meddiannau neu’n bwriadu meddiannu llain dramwy ar safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol; ac yn yr achos hwnnw mae’r cyfeiriad yn is-adran (4) at is-adrannau (1) i (3) i’w drin yn gyfeiriad at is-adran (1).

50Telerau cytundebau

(1)Mae’r telerau cymwys a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2 yn ymhlyg mewn unrhyw gytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo; ac mae’r is-adran hon yn effeithiol er gwaethaf unrhyw deler datganedig yn y cytundeb.

(2)Caiff y corff barnwrol priodol, ar gais gan y naill barti neu’r llall, a’r cais hwnnw wedi ei wneud o fewn y cyfnod perthnasol, orchymyn bod telerau ynglŷn â’r materion a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 2 i’w hymhlygu yn y cytundeb.

(3)Caiff y corff barnwrol priodol, ar gais gan y naill barti neu’r llall, a’r cais hwnnw wedi ei wneud o fewn y cyfnod perthnasol, wneud gorchymyn—

(a)yn amrywio neu’n dileu unrhyw deler datganedig yn y cytundeb heblaw am reol safle,

(b)yn achos unrhyw deler datganedig y mae adran 49(4) yn gymwys iddo heblaw am reol safle, yn darparu i’r teler gael effaith lawn neu gael unrhyw effaith yn ddarostyngedig i unrhyw amrywiad a bennir yn y gorchymyn.

(4)Yn is-adrannau (2) a (3) ystyr “y cyfnod perthnasol” yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r dyddiad y gwneir y cytundeb ac sy’n dod i ben—

(a)6 mis ar ôl y dyddiad hwnnw, neu

(b)os rhoddir datganiad ysgrifenedig sy’n ymwneud â’r cytundeb i’r meddiannydd ar ôl y dyddiad hwnnw (boed i gydymffurfio â gorchymyn o dan adran 49(5) neu beidio), 6 mis ar ôl dyddiad rhoi’r datganiad;

ac mae is-adran (7) o adran 49 yn gymwys at ddibenion yr is-adran hon fel y mae’n gymwys at ddibenion yr adran honno.

(5)Ar gais o dan yr adran hon, rhaid i’r corff barnwrol priodol wneud unrhyw ddarpariaeth y mae o’r farn ei bod yn gyfiawn ac yn deg o dan yr amgylchiadau.

(6)Nid yw is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â pherson sy’n meddiannu neu’n bwriadu meddiannu llain dramwy ar safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol.

51Pŵer i ddiwygio telerau ymhlyg

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud unrhyw ddiwygiadau i Atodlen 2, heblaw paragraff 11, sydd yn eu barn hwy yn briodol.

(2)Heb ragfarnu cyffredinolrwydd is-adran (1), caiff gorchymyn o dan yr adran hon—

(a)gwneud darpariaeth ynglŷn â phenderfynu ar unrhyw gwestiynau gan y llys neu gan dribiwnlys, neu mewn cysylltiad â hynny, neu ynglŷn â gwneud unrhyw orchmynion gan y llys neu gan dribiwnlys, a bennir yn y gorchymyn, neu

(b)gwneud unrhyw ddiwygiadau i unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn briodol o ganlyniad i unrhyw ddiwygiad a wneir yn Atodlen 2 drwy’r gorchymyn.

52Rheolau safle

(1)Yn achos safle gwarchodedig, ac eithrio safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol, y ceir rheolau safle iddo, mae pob un o’r rheolau i fod yn deler datganedig ym mhob cytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo sy’n ymwneud â llain ar y safle (gan gynnwys cytundeb a wneir cyn cychwyn neu un a wnaed cyn i’r rheolau gael eu gwneud).

(2)Mae “rheolau safle” yn achos safle gwarchodedig yn rheolau a wneir gan y perchennog, un unol ag unrhyw weithdrefn a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, sy’n ymwneud—

(a)â rheoli a chynnal y safle, neu

(b)ag unrhyw faterion eraill a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Mae unrhyw reolau a wneir gan y perchennog cyn i’r adran hon ddod i rym ac sy’n ymwneud â mater a grybwyllir yn is-adran (2) yn peidio â bod yn effeithiol ar ddiwedd unrhyw gyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r adran hon i rym a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Daw rheolau safle i rym ar ddiwedd unrhyw gyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ymgynghori cyntaf a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, os oes copi o’r rheolau wedi ei adneuo cyn diwedd y cyfnod hwnnw gyda’r awdurdod lleol y mae’r safle gwarchodedig wedi ei leoli yn ei ardal.

(5)Pan fo rheol safle’n cael ei amrywio, daw’r rheol fel y’i hamrywiwyd i rym ar ddiwedd unrhyw gyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ymgynghori cyntaf a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru—

(a)os yw’r rheol yn cael ei hamrywio yn unol â’r weithdrefn a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, a

(b)os oes copi o’r rheol sy’n cael ei hamrywio wedi ei adneuo cyn diwedd y cyfnod hwnnw gyda’r awdurdod lleol y mae’r safle gwarchodedig wedi ei leoli yn ei ardal.

(6)Pan fo rheol safle’n cael ei dileu, daw’r dilead i rym ar ddiwedd unrhyw gyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ymgynghori cyntaf a ragnodir gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru—

(a)os yw’r rheol yn cael ei dileu yn unol ag unrhyw weithdrefn a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, a

(b)os oes hysbysiad o’r dilead wedi ei adneuo cyn diwedd y cyfnod hwnnw gyda’r awdurdod lleol y mae’r safle gwarchodedig wedi ei leoli yn ei ardal.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu na chaniateir i reol safle gael ei gwneud, ei hamrywio na’i dileu oni bai bod cynnig i wneud y rheol, ei hamrywio neu ei dileu yn cael ei hysbysu i feddianwyr cartrefi symudol ar y safle o dan sylw yn unol â’r rheoliadau.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu nad yw rheolau safle, neu unrhyw reolau a grybwyllir yn is-adran (3), yn effeithiol i’r graddau y maent yn gwneud darpariaeth o ran materion a ragnodir gan y rheoliadau.

(9)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth o ran datrys anghydfodau—

(a)ynghylch cynnig i wneud rheol safle, ei hamrywio neu ei dileu,

(b)ynghylch a gafodd rheol safle ei gwneud, ei hamrywio neu ei dileu yn unol â’r weithdrefn gymwys a ragnodwyd gan y rheoliadau,

(c)ynghylch a gafodd unrhyw beth y mae’n ofynnol ei adneuo yn rhinwedd is-adran (4), (5) neu (6) ei adneuo cyn diwedd y cyfnod perthnasol.

(10)Caiff darpariaeth o dan is-adran (9) roi swyddogaethau i dribiwnlys.

(11)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sefydlu cofrestr o reolau safle mewn perthynas â safleoedd gwarchodedig yn ei ardal a chadw’r gofrestr yn gyfoes,

(b)ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyhoeddi’r gofrestr gyfoes,

(c)darparu bod rhaid i unrhyw beth y mae’n rhaid ei adneuo yn rhinwedd is-adran (4), (5) neu (6) gael ei adneuo ynghyd â ffi o unrhyw swm a bennir gan yr awdurdod lleol.

(12)Yn yr adran hon ystyr “diwrnod ymgynghori cyntaf” yw’r diwrnod yr hysbysir cynnig a wneir o dan reoliadau o dan is-adran (7) i feddianwyr cartrefi symudol ar y safle yn unol â’r rheoliadau.

53Olynwyr mewn teitl

(1)Mae cytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo yn rhwymo unrhyw olynydd mewn teitl i’r perchennog ac unrhyw berson sy’n hawlio drwy’r perchennog neu unrhyw olynydd o’r fath neu odanynt, ac yn effeithiol er eu lles.

(2)Pan fo cytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo’n cael ei aseinio’n gyfreithlon i unrhyw berson, mae’r cytundeb yn effeithiol er lles y person hwnnw ac yn ei rwymo.

(3)Pan fo person sydd â hawl i fanteisio ar gytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo ac sydd wedi ei rwymo ganddo yn marw, mae’r cytundeb yn effeithiol er lles y canlynol ac yn eu rhwymo—

(a)unrhyw berson sy’n byw yn y cartref symudol fel unig neu brif breswylfa’r person hwnnw ar y pryd, ac sydd—

(i)yn wraig weddw, yn ŵr gweddw, neu’n bartner sifil sy’n goroesi’r ymadawedig neu’n bartner sy’n goroesi a oedd mewn perthynas deuluol barhaus â’r ymadawedig, neu

(ii)os nad oes person o fewn is-baragraff (i) yn preswylio yn y cartref symudol fel unig neu brif breswylfa’r person hwnnw y pryd hwnnw, unrhyw aelod o deulu’r ymadawedig, neu

(b)os nad oes person o’r fath yn byw yn y cartref symudol fel unig neu brif breswylfa’r person hwnnw y pryd hwnnw, y person sydd â hawl i’r cartref symudol yn rhinwedd ewyllys yr ymadawedig neu o dan y gyfraith sy’n ymwneud â diffyg ewyllys, ond yn ddarostyngedig i is-adran (4).

(4)Nid yw cytundeb y mae’r Ddeddf hon yn gymwys iddo’n effeithiol er lles person nac yn ei rwymo, yn rhinwedd is-adran (3)(b) i’r graddau—

(a)y byddai, heblaw am yr is-adran hon, yn galluogi’r person hwnnw i feddiannu’r cartref symudol neu’n ei gwneud yn ofynnol iddo ei feddiannu, neu

(b)y mae’n cynnwys telerau a ymhlygir yn rhinwedd paragraff 6, 12, 13, 39 neu 41 o Atodlen 2.

54Awdurdodaeth tribiwnlys neu’r llys

(1)Mae gan dribiwnlys awdurdodaeth—

(a)i benderfynu ar unrhyw gwestiwn sy’n codi o dan y Rhan hon neu unrhyw gytundeb y mae’n gymwys iddo, a

(b)i ystyried unrhyw achos a ddygir o dan y Rhan hon neu unrhyw gytundeb o’r fath,

yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) i (6).

(2)Mae is-adran (1) yn gymwys o ran cwestiwn ni waeth am unrhyw beth a gynhwyswyd mewn cytundeb cymrodeddu a wnaed cyn i’r cwestiwn hwnnw godi.

(3)Mae gan y llys awdurdodaeth—

(a)i benderfynu ar unrhyw gwestiwn sy’n codi yn rhinwedd paragraff 5, 6, 7(1)(b), 38, 39 neu 40(1)(b) o Atodlen 2 o dan y Rhan hon neu unrhyw gytundeb y mae’n gymwys iddo, a

(b)i ystyried unrhyw achos sy’n codi yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ddygir o dan y Rhan hon neu unrhyw gytundeb o’r fath,

yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) i (6).

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys os yw’r perchennog a’r meddiannydd wedi gwneud cytundeb cymrodeddu cyn i’r cwestiwn a grybwyllir yn is-adran (3)(a) godi a bod y cytundeb yn gymwys i’r cwestiwn hwnnw.

(5)Mae gan dribiwnlys awdurdodaeth i benderfynu ar y cwestiwn ac i ystyried unrhyw achos sy’n codi yn lle’r llys.

(6)Mae is-adran (5) yn gymwys ni waeth am unrhyw beth a gynhwyswyd yn y cytundeb cymrodeddu a grybwyllir yn is-adran (4).

55Dehongli

(1)Yn y Rhan hon—

  • ystyr “y corff barnwrol priodol” (“the appropriate judicial body”) yw p’un bynnag ai’r llys ynteu tribiwnlys sydd ag awdurdodaeth o dan adran 54;

  • ystyr “cytundeb cymrodeddu” (“arbitration agreement”) yw cytundeb mewn ysgrifen i gyflwyno at gymrodeddu unrhyw gwestiwn sy’n codi o dan y Rhan hon neu unrhyw gytundeb y mae’n gymwys iddo;

  • ystyr “llain” (“pitch”) yw’r tir, sy’n ffurfio rhan o safle gwarchodedig ac sy’n cynnwys unrhyw ardal ardd, y mae gan feddiannydd hawl i osod cartref symudol arno o dan delerau’r cytundeb;

  • ystyr “llain barhaol” (“permanent pitch”) yw llain nad yw’n llain dramwy;

  • ystyr “llain dramwy” (“transit pitch”) yw llain y mae gan berson hawl i osod cartref symudol arni o dan delerau cytundeb am gyfnod gosodedig o hyd at 3 mis;

  • ystyr “y llys” (“the court”) yw llys sirol yr ardal y mae’r safle gwarchodedig wedi ei leoli ynddi neu, os yw’r partïon wedi gwneud cytundeb cymrodeddu sy’n gymwys i’r cwestiwn sydd i’w benderfynu, y cymrodeddwr;

  • mae i “meddiannydd” (“occupier”) yr ystyr a roddir gan adran 48(2) (ond gweler is-adran (2)(b) hefyd);

  • mae i “rheolau safle” (“site rules”) yr ystyr a roddir gan adran 52(2);

  • ystyr “tribiwnlys” (“tribunal”) yw tribiwnlys eiddo preswyl neu, os yw’r partïon wedi gwneud cytundeb cymrodeddu sy’n gymwys i’r cwestiwn sydd i’w benderfynu a bod y cwestiwn hwnnw wedi codi cyn i’r cytundeb gael ei wneud, y cymrodeddwr.

(2)O ran cytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo—

(a)mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at y perchennog yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw berson sydd wedi ei rwymo gan y cytundeb ac sydd â hawl i fanteisio arno yn rhinwedd is-adran (1) o adran 53, a

(b)yn ddarostyngedig i is-adran (4) o’r adran honno, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at y meddiannydd yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw berson sydd â hawl i fanteisio ar y cytundeb ac sydd wedi ei rwymo ganddo yn rhinwedd is-adran (2) neu (3) o’r adran honno.

(3)At ddibenion y Rhan hon mae’r canlynol yn aelodau o deulu person—

(a)priod neu bartner sifil y person neu unrhyw berson sy’n byw gyda’r person fel partner mewn perthynas deuluol barhaus,

(b)rhieni, tad-cuoedd/teidiau a mam-guoedd/neiniau, plant ac wyrion ac wyresau (gan gynnwys unrhyw berson sydd yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus) ac unrhyw berson arall sy’n cael ei drin fel plentyn i deulu’r person, ac

(c)brodyr, chwiorydd, ewythrod, modrybedd, neiaint a nithoedd y person (gan gynnwys unrhyw berson sydd yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus).

RHAN 5PWERAU’R AWDURDODAU LLEOL

56Pŵer i ddarparu safleoedd i gartrefi symudol

(1)Caiff awdurdod lleol o fewn ei ardal ddarparu safleoedd lle y gellir dod â chartrefi symudol, boed at wyliau neu at ddibenion dros dro eraill neu i’w defnyddio’n breswylfeydd parhaol, a chânt reoli’r safleoedd neu eu lesio i berson arall.

(2)Mae gan awdurdod lleol bŵer i wneud unrhyw beth y mae’n ymddangos iddo ei fod yn ddymunol mewn cysylltiad â darparu safleoedd o’r fath ac mae’r pethau y mae ganddo bŵer i’w gwneud yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt)—

(a)caffael tir sy’n cael ei ddefnyddio fel safle i gartrefi symudol neu sydd wedi ei osod allan fel safle i gartrefi symudol,

(b)darparu unrhyw wasanaethau er eu hiechyd neu er eu cyfleuster i’w defnyddio gan y rhai sy’n meddiannu safleoedd cartrefi symudol, ac

(c)darparu lle gweithio a chyfleusterau i gynnal gweithgareddau y maent yn arfer eu cynnal, mewn safleoedd ar gyfer llety Sipsiwn a Theithwyr neu mewn cysylltiad â’r safleoedd hynny.

(3)Wrth arfer ei bwerau o dan yr adran hon rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw safonau a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 10.

(4)Cyn arfer y pŵer o dan is-adran (1) i ddarparu safle rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub—

(a)o ran mesurau sydd i’w cymryd i atal a chanfod tân ar y safle, a

(b)o ran darparu a chynnal a chadw dulliau ymladd tân arno.

(5)Rhaid i awdurdod lleol godi unrhyw daliadau rhesymol y bydd yn penderfynu arnynt mewn perthynas â safleoedd a reolir ganddo, ac ag unrhyw wasanaethau neu gyfleusterau a ddarperir neu y trefnir eu bod ar gael o dan yr adran hon.

(6)Caiff awdurdod lleol drefnu bod gwasanaethau a chyfleusterau a ddarperir o dan yr adran hon ar gael i bersonau p’un a ydynt yn byw fel arfer yn ei ardal neu beidio.

(7)Caiff awdurdod lleol, os yw’n ymddangos iddo—

(a)bod angen safle i gartrefi symudol neu safle ychwanegol i gartrefi symudol yn ei ardal, neu

(b)y dylai’r awdurdod lleol gymryd drosodd tir sy’n cael ei ddefnyddio fel safle i gartrefi symudol er lles defnyddwyr cartrefi symudol lleol,

gaffael tir, neu unrhyw fuddiant mewn tir, yn orfodol.

(8)Nid yw’r pŵer a roddir gan is-adran (7) yn arferadwy mewn unrhyw achos penodol ond os yw’r awdurdod lleol wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru i’w arfer.

(9)Mae Deddf Caffael Tir 1981 yn effeithiol o ran caffael tir, neu fuddiant mewn tir, o dan is-adran (7).

(10)Nid oes gan awdurdod lleol bŵer o dan yr adran hon i ddarparu cartrefi symudol.

57Pŵer i wahardd cartrefi symudol ar dir comin

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw dir yng Nghymru sy’n dir comin neu sy’n ffurfio rhan o dir comin ac nad yw—

(a)yn dir y mae adran 193 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (hawliau’r cyhoedd dros diroedd comin penodol a thiroedd diffaith) yn gymwys iddo,

(b)yn dir sy’n ddarostyngedig i gynllun o dan Ran 1 o Ddeddf Tiroedd Comin 1899 (cynlluniau i reoleiddio a rheoli tiroedd comin penodol), neu

(c)yn dir y mae trwydded safle mewn grym ar ei gyfer am y tro.

(2)Caiff awdurdod lleol wneud gorchymyn o ran tir y mae’r adran hon yn gymwys iddo ac sydd yn ei ardal sy’n gwahardd gosod cartrefi symudol ar y tir er mwyn i bobl fyw ynddynt, naill ai’n llwyr neu ac eithrio amgylchiadau a bennir yn y gorchymyn.

(3)Mae person sy’n gosod cartref symudol ar unrhyw dir yn groes i orchymyn o dan is-adran (2) sydd am y tro mewn grym o ran y tir yn cyflawni trosedd.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (3) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol.

(5)Rhaid i awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod copïau o unrhyw orchymyn o dan is-adran (2) sydd am y tro mewn grym o ran unrhyw dir yn ei ardal yn cael eu dangos ar y tir er mwyn rhoi rhybudd i bersonau sy’n mynd i’r tir fod y gorchymyn yn bodoli.

(6)Mae gan awdurdod lleol hawl i osod ar y tir yr hysbysiadau y mae o’r farn eu bod yn angenrheidiol i gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (5).

(7)Caniateir i orchymyn a wneir gan awdurdod lleol o dan is-adran (2) gael ei ddirymu ar unrhyw adeg gan orchymyn dilynol a wneir o dan yr is-adran honno gan yr awdurdod lleol neu ei amrywio er mwyn hepgor unrhyw dir o’r modd y mae’r gorchymyn yn gweithredu neu er mwyn cyflwyno unrhyw eithriad, neu eithriad ychwanegol, o’r gwaharddiad a osodir gan y gorchymyn.

(8)Os bydd y cyfan neu ran o unrhyw dir y mae gorchymyn o dan is-adran (2) mewn grym ar ei gyfer yn peidio â bod yn dir y mae’r adran hon yn gymwys iddo, mae’r gorchymyn yn peidio â bod yn effeithiol o ran y tir neu’r rhan honno ohono.

(9)Os bydd gorchymyn yn peidio â bod yn effeithiol o ran rhan yn unig o unrhyw dir, rhaid i’r awdurdod lleol beri bod unrhyw gopi o’r gorchymyn sydd wedi ei ddangos ar y rhan honno o’r tir y mae’r gorchymyn yn parhau mewn grym ar ei gyfer yn cael ei ddiwygio yn unol â hynny.

(10)Mae Atodlen 3 yn gwneud darpariaethau pellach o ran gorchmynion o dan is-adran (2).

(11)Yn yr adran hon mae “tir comin” yn cynnwys unrhyw dir sydd i’w amgáu o dan Ddeddfau Amgáu Tir 1845 i 1882 ac unrhyw lawnt tref neu lawnt pentref.

RHAN 6ATODOL A CHYFFREDINOL

58Diwygiadau canlyniadol ac atodol etc.

(1)Mae Atodlen 4 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol.

(2)Mae Atodlen 5 yn cynnwys darpariaethau trosiannol, darpariaethau darfodol ac arbedion.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn—

(a)gwneud unrhyw ddiwygiadau eraill (gan gynnwys diddymu neu ddirymu) i unrhyw ddeddfiad neu offeryn sy’n ganlyniadol i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon, a

(b)gwneud unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarfodol arall, neu arbedion eraill, sy’n ymddangos yn briodol mewn cysylltiad â dod ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Ddeddf hon i rym.

59Rhwymedigaeth swyddogion cyrff corfforaethol

(1)Os bydd corff corfforaethol yn cyflawni trosedd o dan y Ddeddf hon ac y profir—

(a)bod y trosedd wedi ei gyflawni â chydsyniad neu drwy gydgynllwyn swyddog i’r corff corfforaethol, neu

(b)bod y trosedd i’w briodoli i esgeulustod ar ran swyddog i’r corff corfforaethol,

mae’r swyddog, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd ac yn agored i achos yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(2)Yn is-adran (1) ystyr “swyddog” yw—

(a)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg i’r corff corfforaethol,

(b)yn achos corff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, aelod o’r corff corfforaethol, neu

(c)person sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).

60Ystyr “cartref symudol”

(1)Yn y Ddeddf hon ystyr “cartref symudol” yw unrhyw strwythur a ddyluniwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddo ac sy’n gallu cael ei symud o’r naill le i’r llall (boed drwy ei dynnu neu drwy ei gludo ar gefn cerbyd modur neu ôl-gerbyd) ac unrhyw gerbyd modur a ddyluniwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddo, ond nid yw’n cynnwys—

(a)unrhyw gerbydau rheilffyrdd sydd am y tro ar gledrau sy’n ffurfio rhan o system reilffyrdd, neu

(b)unrhyw babell.

(2)Nid yw strwythur a ddyluniwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddo ac sydd—

(a)wedi ei gyfansoddi o heb fod yn fwy na 2 adran sydd wedi eu hadeiladu ar wahân ac sydd wedi eu dylunio i gael eu cydosod ar safle drwy gyfrwng bolltau, clampiau neu ddyfeisiau eraill, a

(b)sydd, o’i gydosod, yn ffisegol yn gallu cael ei symud ar y ffordd o’r naill le i’r llall (boed drwy ei dynnu neu drwy ei gludo ar gefn cerbyd modur neu ôl-gerbyd),

i’w drin fel pe na bai’n gartref symudol (neu fel pe na bai wedi bod yn gartref symudol) at ddibenion y Ddeddf hon dim ond am y rheswm nad oes modd cyfreithlon ei symud ar briffordd ar ôl ei gydosod.

(3)At ddibenion y Ddeddf hon nid yw “cartref symudol” yn cynnwys strwythur a ddyluniwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddo sy’n syrthio o fewn is-adran (2)(a) a (b) os yw ei ddimensiynau ar ôl ei gydosod yn fwy nag unrhyw un neu ragor o’r terfynau a ganlyn, sef—

(a)hyd (heb gynnwys unrhyw far tynnu): 20 o fetrau,

(b)lled: 6.8 metr, ac

(c)taldra cyffredinol y lle byw (o’i fesur ar y tu mewn o’r llawr ar ei lefel isaf hyd at y nenfwd yn ei lefel uchaf): 3.05 metr.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn osod yn lle unrhyw ffigur a grybwyllir yn is-adran (3) unrhyw ffigur arall a bennir yn y gorchymyn.

61Ystyr “cymdeithas trigolion gymwys”

(1)At ddibenion y Ddeddf hon mae cymdeithas yn “gymdeithas trigolion gymwys”, o ran safle—

(a)os yw’n gymdeithas sy’n cynrychioli meddianwyr cartrefi symudol ar y safle,

(b)os yw meddianwyr o leiaf 50 y cant o’r cartrefi symudol hynny’n aelodau o’r gymdeithas,

(c)os yw’n annibynnol ar berchennog y safle, sydd ynghyd ag unrhyw asiant neu gyflogai i’r perchennog, wedi ei wahardd rhag bod yn aelod,

(d)os yw aelodaeth, yn ddarostyngedig i baragraff (c), yn agored i feddianwyr pob cartref symudol ar y safle,

(e)os yw ei rheolau a’i chyfansoddiad yn agored i’r cyhoedd gael edrych arnynt ac os yw’n cynnal rhestr o aelodau,

(f)os oes ganddi gadeirydd, ysgrifennydd a thrysorydd sy’n cael eu hethol gan ac o blith yr aelodau, ac

(g)ac eithrio penderfyniadau gweinyddol a gymerir gan y cadeirydd, yr ysgrifennydd a’r trysorydd gan weithredu yn eu swyddogaethau swyddogol, os yw’r penderfyniadau’n cael eu cymryd drwy bleidleisio a bod 1 bleidlais yn unig i bob cartref symudol.

(2)Dim ond 1 meddiannydd o bob cartref symudol a gaiff fod yn aelod o’r gymdeithas; ac, os oes mwy nag 1 meddiannydd mewn cartref symudol, yr un sydd am fod yn aelod o’r gymdeithas yw p’un bynnag ohonynt y mae’r meddianwyr yn cytuno arno neu, yn niffyg cytundeb, yr un sydd a’i enw yn gyntaf ar y cytundeb i osod y cartref symudol ar y safle.

(3)Nid yw cymdeithas yn gymdeithas trigolion gymwys o ran safle oni bai bod rhestr gyfoes o’r aelodau wedi ei chyflwyno i’r awdurdod lleol y mae’r safle wedi ei leoli yn ei ardal.

(4)Pan fo copi o’r rhestr o aelodau cymdeithas wedi ei gyflwyno i awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)cymryd camau rhesymol i ganfod a yw meddianwyr o leiaf 50 y cant o’r cartrefi symudol ar y safle yn aelodau o’r gymdeithas, a

(b)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r gymdeithas ac i’r perchennog yn datgan a yw wedi ei fodloni neu beidio fod meddianwyr o leiaf 50 y cant o’r cartrefi symudol ar y safle yn aelodau o’r gymdeithas.

(5)Pan roddir hysbysiad i gymdeithas fod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod meddianwyr o leiaf 50 y cant o’r cartrefi symudol ar y safle yn aelodau o’r gymdeithas, mae’r ddyletswydd i gyflwyno rhestr gyfoes o’i haelodau yn ei gwneud yn ofynnol iddi wneud hynny cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl unrhyw newidiadau yn ei haelodaeth.

(6)Os yw’n ymddangos i’r awdurdod lleol ar unrhyw adeg nad yw aelodau cymdeithas trigolion gymwys mwyach yn cynnwys meddianwyr o leiaf 50 y cant o’r cartrefi symudol ar y safle, rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i’r gymdeithas ac i berchennog y safle nad yw y gymdeithas yn gymdeithas trigolion gymwys mwyach.

(7)Yn yr adran hon—

  • ystyr “cytundeb cymrodeddu” (“arbitration agreement”) yw cytundeb ysgrifenedig i gyflwyno at gymrodeddu gwestiwn ynghylch a yw cymdeithas yn gymdeithas trigolion gymwys;

  • ystyr “meddiannydd” (“occupier”), o ran cartref symudol a safle yw person sydd â hawl—

    (a)

    i osod y cartref symudol ar y safle, a

    (b)

    i feddiannu’r cartref symudol fel unig neu brif breswylfa’r person; ac

  • ystyr “tribiwnlys” (“tribunal”), o ran perchennog y safle a chymdeithas sy’n cynrychioli meddianwyr cartrefi symudol ar y safle, yw tribiwnlys eiddo preswyl neu, os yw’r perchennog a’r gymdeithas wedi gwneud cytundeb cymrodeddu sy’n gymwys i unrhyw gwestiwn a yw’r gymdeithas yn gymdeithas trigolion gymwys sy’n codi cyn i’r cytundeb cymrodeddu gael ei wneud, y cymrodeddwr.

(8)Mae datgelu rhestr o aelodau cymdeithas trigolion gymwys i’r cyhoedd gan awdurdod lleol, sef rhestr a gyflwynwyd i’r awdurdod hwnnw i’w drin at ddibenion adran 41(1) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 fel pe bai’n torri cyfrinach y caiff aelodau’r gymdeithas ddwyn achos yn ei erbyn; ond nid oes dim yn yr is-adran hon yn gymwys i ddatgelu manylion y cadeirydd, yr ysgrifennydd neu’r trysorydd.

62Dehongli arall

Yn y Ddeddf hon, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “caniatâd cynllunio” (“planning permission”) yw caniatâd o dan Ran 3 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

  • ystyr “ffi am y llain” (“pitch fee”) yw’r swm y mae’n ofynnol i feddiannydd cartref symudol ei dalu o dan gytundeb i dalu am yr hawl i osod y cartref symudol ar y llain ac i ddefnyddio mannau cyffredin y safle gwarchodedig a’u cynnal a’u cadw, ond nid yw’n cynnwys symiau sy’n ddyledus mewn perthynas â gwasanaethau nwy, trydan, dŵr a charthffosiaeth neu wasanaethau eraill, oni bai bod y cytundeb yn darparu’n ddatganedig bod y ffi am y llain yn cynnwys symiau o’r fath;

  • mae “perchennog” (“owner”) i’w ddehongli yn unol ag adran 3 (ond gweler hefyd adrannau 39(2), 42 a 55(2)) ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny;

  • mae i “safle gwarchodedig” (“protected site”) yr ystyr a roddir gan adran 2(2);

  • mae i “safle rheoleiddiedig” (“regulated site”) yr ystyr a rodir gan adran 2(1);

  • mae i “safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol” (“local authority Gypsy and Traveller site”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 2(5);

  • ystyr “Sipsiwn a Theithwyr” (“Gypsies and Travellers”) yw personau sydd ag arferion byw nomadig, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, ond nid yw’n cynnwys aelodau o grŵp trefnedig o siewmyn teithiol, na phersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol, sy’n teithio gyda’i gilydd fel y cyfryw;

  • mae i “trwydded safle” (“site licence”) yr ystyr a roddir gan adran 5(1).

63Gorchmynion a rheoliadau etc.

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i’r pŵer ym mharagraff 14 o Atodlen 1.

(3)Ni chaniateir i orchymyn gael ei wneud o dan adran 51 oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r canlynol—

(a)unrhyw sefydliadau y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae’r gorchymyn hwn yn effeithio’n sylweddol arnynt, a

(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn eu barn hwy.

(4)Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan adran 60(4) oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phersonau neu gyrff y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn ymwneud â hyn.

(5)Ni chaniateir gwneud yr un o’r canlynol oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo—

(a)rheoliadau o dan adran 29(5),

(b)gorchymyn o dan adran 51, neu

(c)unrhyw orchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon, ac eithrio gorchymyn o dan adran 60(4), sy’n cynnwys diwygiad i ddeddfiad.

(6)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys—

(a)rheoliadau o dan adran 49 neu 52 neu baragraff 9, 10, 12 neu 13 o Atodlen 2,

(b)y rheoliadau cyntaf i gael eu gwneud o dan baragraff 11 neu 23 o’r Atodlen honno,

(c)gorchymyn o dan adran 58(3)(a), neu

(d)gorchymyn o dan adran 60(4),

yn ddarostyngedig i ddiddymiad yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru oni bai bod drafft o’r offeryn statudol wedi cael ei gymeradwyo yn unol ag is-adran (5).

(7)Caiff offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf hon heblaw paragraff 11 neu 23 o Atodlen 2 sy’n ddarostyngedig i ddiddymiad yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd gynnwys rheoliadau a wneir o dan baragraff 11 neu 23 o Atodlen 2.

(8)Caiff unrhyw orchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon wneud darpariaeth wahanol o ran achosion gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o achos, gan gynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer ardaloedd gwahanol neu (yn achos rheoliadau o dan baragraff 9 neu 10 o Atodlen 2) gwerthiannau am brisiau gwahanol.

(9)Caiff unrhyw orchymyn neu reoliad o dan y Ddeddf hon gynnwys unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, atodol, canlyniadol, trosiannol neu ddarpariaethau arbed a wêl Gweinidogion Cymru yn dda.

(10)Caiff Weinidogion Cymru amrywio neu dynnu’n ôl unrhyw ganllawiau a ddyroddir ganddynt o dan y Ddeddf hon.

64Cychwyn

(1)Daw’r Rhan hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2) benodi diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

65Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.

(a gyflwynir gan adran 2)

ATODLEN 1SAFLEOEDD NAD YDYNT YN SAFLEOEDD RHEOLEIDDIEDIG

Eu defnyddio o fewn cwrtil tŷ annedd

1Nid yw safle’n safle rheoleiddiedig yn rhinwedd cael ei ddefnyddio mewn modd sy’n gysylltiedig â mwynhau tŷ annedd y mae’r tir wedi ei leoli yn ei gwrtil.

Eu defnyddio gan berson sy’n teithio â chartref symudol am 1 neu 2 o nosweithiau

2Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig yn rhinwedd cael ei ddefnyddio gan berson sy’n teithio â chartref symudol sy’n dod â’r cartref symudol i’r tir am gyfnod nad yw’n cynnwys mwy na 2 noson—

(a)os nad oes cartref symudol arall wedi ei osod yn ystod y cyfnod hwnnw er mwyn i bobl fyw ynddo ar y tir hwnnw neu unrhyw dir cyfagos o dan yr un berchnogaeth, a

(b)os nad oedd nifer y diwrnodau pryd y gosodid cartref symudol unrhyw le ar y tir hwnnw neu’r tir cyfagos hwnnw er mwyn i bobl fyw ynddo yn fwy nag 28 yn ystod y cyfnod o 12 mis yn diweddu â’r diwrnod y deuir â’r cartref symudol i’r tir.

Defnyddio daliadau o 20,000 m² neu fwy o dan amgylchiadau penodol

3(1)Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig ar unrhyw ddiwrnod os yw’n ffurfio, ynghyd ag unrhyw dir cyfagos sydd o dan yr un berchnogaeth ac nad adeiladwyd arno, nid llai nag 20,000 o fetrau sgwâr ac o fewn y cyfnod o 12 mis cyn y diwrnod hwnnw—

(a)nad oedd nifer y diwrnodau pryd y gosodid cartref symudol unrhyw le ar y tir hwnnw neu ar y tir cyfagos hwnnw er mwyn i bobl fyw ynddo yn fwy nag 28, a

(b)nad oedd mwy na 3 chartref symudol wedi eu gosod unrhyw le ar y tir hwnnw neu ar y tir cyfagos hwnnw er mwyn i bobl fyw ynddynt ar unrhyw un adeg.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddarparu bod y paragraff hwn i fod yn effeithiol mewn unrhyw ardal a bennir yn y gorchymyn fel pe bai—

(a)y cyfeiriad yn is-baragraff (1) at 20,000 o fetrau sgwâr wedi ei ddisodli gan gyfeiriad at unrhyw arwynebedd lai a bennir yn y gorchymyn, neu

(b)yr amod a bennir ym mharagraff (a) o’r is-baragraff hwnnw wedi ei ddisodli gan amod bod y defnyddio o dan sylw yn syrthio rhwng unrhyw ddyddiadau mewn unrhyw flwyddyn a bennir yn y gorchymyn.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru wneud gorchmynion gwahanol o dan is-baragraff (2) o ran ardaloedd gwahanol.

(4)Mae gorchymyn o dan is-baragraff (2) i ddod i rym ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn, sef dyddiad nad yw’n llai na 3 mis ar ôl i’r gorchymyn gael ei wneud.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi hysbysiad ynglŷn â gorchymyn o dan is-baragraff (2) mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal yr effeithir arni gan y gorchymyn ac mewn unrhyw ffyrdd eraill y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol er mwyn tynnu sylw’r cyhoedd at y gorchymyn.

Safleoedd a berchennir ac a oruchwylir gan sefydliadau esempt

4Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw sefydliad yn berchen arno sydd â thystysgrif o esemptiad a roddir o dan baragraff 13 (“sefydliad esempt”) a’i fod yn cael ei ddefnyddio at ddibenion hamdden o dan oruchwyliaeth y sefydliad esempt.

Safleoedd a gymeradwyir gan sefydliadau esempt

5(1)Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os oes tystysgrif mewn grym ar ei gyfer a ddyroddwyd o dan y paragraff hwn gan sefydliad esempt ac nad oes mwy na 5 o gartrefi symudol wedi eu gosod ar y pryd er mwyn i bobl fyw ynddynt ar y tir y mae’r dystysgrif yn cyfeirio ato.

(2)At ddibenion y paragraff hwn caiff sefydliad esempt ddyroddi ar gyfer unrhyw dir dystysgrif sy’n datgan bod y tir wedi ei gymeradwyo gan y sefydliad esempt i’w ddefnyddio gan ei aelodau at ddibenion hamdden.

(3)Rhaid i’r dystysgrif gael ei dyroddi at berchennog y tir y mae’n cyfeirio ato, a rhaid i’r sefydliad esempt anfon manylion at Weinidogion Cymru am bob tystysgrif a ddyroddir gan y sefydliad esempt o dan y paragraff hwn.

(4)Rhaid i dystysgrif a ddyroddir gan sefydliad esempt o dan y paragraff hwn bennu’r dyddiad y daw i rym ac am ba gyfnod y mae i barhau mewn grym, sef cyfnod nad yw’n fwy na blwyddyn.

Cyfarfodydd a drefnir gan sefydliadau esempt

6Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw’r safle’n cael ei ddefnyddio o dan oruchwyliaeth sefydliad esempt a hynny yn unol â threfniadau a wnaed gan y sefydliad hwnnw ar gyfer cyfarfod i’w aelodau nad yw’n para mwy na 5 niwrnod.

Gweithwyr amaethyddiaeth a choedwigaeth

7Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw’n dir amaethyddol sy’n cael ei ddefnyddio i roi llety yn ystod tymor penodol i berson neu bersonau a gyflogir mewn gweithredoedd ffermio ar dir sydd o dan yr un berchnogaeth.

8Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw’n cael ei ddefnyddio i roi llety yn ystod tymor penodol i berson a gyflogir ar dir o dan yr un berchnogaeth, sef tir sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion coedwigaeth (gan gynnwys fforestu).

Safleoedd adeiladu a pheiriannu

9Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw’n ffurfio rhan o dir, neu os yw’n gyfagos i dir, y mae gweithredoedd adeiladu neu beiriannu yn cael eu gwneud arno (sef gweithredoedd y mae caniatâd cynllunio wedi ei roi ar eu cyfer, os oes ei angen) ac sy’n cael ei ddefnyddio i roi llety i berson neu bersonau a gyflogir mewn cysylltiad â’r gweithredoedd.

Siewmyn teithiol

10(1)Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig yn rhinwedd cael ei ddefnyddio gan siewmon teithiol sy’n aelod o sefydliad i siewmyn teithiol sydd â thystysgrif a roddwyd o dan y paragraff hwn ac sydd, ar y pryd, yn teithio at ddibenion busnes neu sydd wedi gosod annedd gaeaf ar y tir gyda chyfarpar am ryw gyfnod sy’n syrthio rhwng dechrau mis Hydref mewn unrhyw flwyddyn a diwedd mis Mawrth yn y flwyddyn wedyn.

(2)At ddibenion y paragraff hwn caiff Gweinidogion Cymru roi tystysgrif i unrhyw sefydliad a gydnabyddir ganddynt fel un sy’n cyfyngu ei haelodaeth i siewmyn teithiol bona fide; a chaniateir i dystysgrif gael ei thynnu’n ôl gan Weinidogion Cymru unrhyw bryd.

Safleoedd a berchennir gan awdurdod lleol

11Nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw’r awdurdod lleol yn berchen arno.

Esemptiad dros dro ar ôl marwolaeth perchennog, neu newid arall yn y perchennog

12(1)Os bydd deiliad trwydded safle ar gyfer safle rheoleiddiedig yn marw, neu os ceir newid o ran pwy yw perchennog safle y mae trwydded safle mewn grym ar ei gyfer am unrhyw reswm arall, nid yw’r safle’n safle rheoleiddiedig yn ystod y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau â diwrnod marwolaeth neu newid y perchennog (y “cyfnod esempt cychwynnol”).

(2)Ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod esempt cychwynnol, neu unrhyw gyfnod wedyn a bennir o dan yr is-baragraff hwn, os bydd cynrychiolydd personol y perchennog marw neu’r perchennog newydd yn gwneud cais i’r awdurdod lleol y mae’r safle o fewn ei ardal, caiff yr awdurdod lleol drwy hysbysiad a ddyroddir i’r ymgeisydd ddarparu nad yw’r safle i fod yn safle rheoleiddiedig yn ystod y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Os bydd awdurdod lleol yn penderfynu gwrthod cais o dan is-baragraff (2) rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad i’r ymgeisydd am y penderfyniad a’r rhesymau drosto.

Ardystio sefydliadau esempt

13(1)At ddibenion paragraffau 4, 5 a 6 caiff Gweinidogion Cymru roi tystysgrif esemptiad i unrhyw sefydliad y maent yn fodlon bod ei amcanion yn cynnwys hybu neu hyrwyddo gweithgareddau hamdden.

(2)Caniateir i dystysgrif a roddir o dan y paragraff hwn gael ei thynnu’n ôl gan Weinidogion Cymru unrhyw bryd.

Pŵer i dynnu eithriadau yn ôl

14(1)Caiff Gweinidogion Cymru, ar gais awdurdod lleol, drwy orchymyn ddarparu bod yr Atodlen hon, o ran unrhyw dir a leolir yn ei ardal a bennir yn y gorchymyn, i fod yn effeithiol fel pe bai paragraffau 2 i 10, neu unrhyw un neu ragor o’r paragraffau hyn a bennir yn y gorchymyn, wedi eu hepgor o’r Atodlen hon.

(2)O ran gorchymyn o dan y paragraff hwn—

(a)daw i rym ar y dyddiad a bennir ynddo, a

(b)ni chaniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan orchymyn dilynol ond ar gais yr awdurdod lleol y cafodd ei wneud ar ei gais.

(3)Heb fod yn llai na 3 mis cyn i orchymyn o dan y paragraff hwn ddod i rym, rhaid i’r awdurdod lleol y cafodd ei wneud ar ei gais beri bod hysbysiad sy’n nodi effaith y gorchymyn a’r dyddiad y daw i rym gael ei gyhoeddi mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r tir y mae’r gorchymyn yn cyfeirio ato wedi ei leoli ynddo.

(4)Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys yn achos gorchymyn ei unig effaith yw dirymu gorchymyn blaenorol yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

(a gyflwynir gan adran 50)

ATODLEN 2TELERAU CYTUNDEBAU CARTREFI SYMUDOL

RHAN 1TELERAU A YMHLYGIR GAN Y DDEDDF

PENNOD 1CYMHWYSO

1(1)Mae’r telerau ymhlyg a nodir ym Mhennod 2 yn gymwys i bob cytundeb ac eithrio cytundeb sy’n ymwneud â llain ar safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol.

(2)Mae’r telerau ymhlyg a nodir ym Mhennod 3 yn gymwys i gytundeb sy’n ymwneud â llain dramwy ar safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol.

(3)Mae’r telerau ymhlyg a nodir ym Mhennod 4 yn gymwys i gytundeb sy’n ymwneud â llain barhaol ar safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol.

(4)Yn y Rhan hon—

  • ystyr “datganiad ysgrifenedig” (“written statement”) yw’r datganiad ysgrifenedig y mae’n ofynnol i berchennog y safle gwarchodedig ei roi i feddiannydd y cartref symudol gan adran 49(1);

  • ystyr “dyddiad yr adolygiad” (“review date”), mewn perthynas â chytundeb, yw’r dyddiad a bennir yn y datganiad ysgrifenedig fel y dyddiad y caiff y ffi am y llain ei hadolygu bob blwyddyn, neu os nad oes dyddiad o’r fath wedi ei bennu, pen blwydd dyddiad cychwyn y cytundeb;

  • ystyr “mynegai prisiau defnyddwyr” (“consumer price index”) yw’r mynegai cyffredinol o eitemau defnyddwyr (o bob eitem) a gyhoeddir gan y Bwrdd Ystadegau neu, os na chyhoeddir y mynegai hwnnw am fis perthnasol, unrhyw fynegai neu ffigurau o fynegai amgen a gyhoeddir gan y Bwrdd.

PENNOD 2CYTUNDEBAU SY’N YMWNEUD Â LLEINIAU AC EITHRIO’R RHAI HYNNY SYDD AR SAFLEOEDD AWDURDODAU LLEOL I SIPSIWN A THEITHWYR

Parhad y cytundeb

2Yn ddarostyngedig i baragraff 3, mae’r hawl i osod y cartref symudol ar dir sy’n ffurfio rhan o’r safle gwarchodedig yn bodoli hyd nes i’r cytundeb gael ei derfynu o dan baragraff 4, 5, 6 neu 7.

3(1)Os nad yw ystâd neu fuddiant y perchennog yn ddigon i alluogi’r perchennog i roi’r hawl am gyfnod amhenodol, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad pan fydd ystâd neu fuddiant y perchennog yn terfynu.

(2)Os oes caniatâd cynllunio i ddefnyddio’r safle gwarchodedig fel safle i gartrefi symudol wedi ei roi mewn termau sy’n golygu y daw i ben ar ddiwedd cyfnod penodedig, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad y daw’r caniatâd cynllunio i ben.

(3)Os ceir newid amgylchiadau cyn diwedd cyfnod a bennir gan y paragraff hwn a hwnnw’n caniatáu cyfnod hirach, mae ystyriaeth i gael ei rhoi i’r newid hwnnw.

Terfynu

4Mae gan y meddiannydd hawl i derfynu’r cytundeb drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i’r perchennog nid llai na 4 wythnos cyn y dyddiad y mae i fod i ddod yn effeithiol.

5Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb ar unwaith os bydd y corff barnwrol priodol ar gais gan y perchennog—

(a)wedi ei fodloni bod y meddiannydd wedi torri unrhyw un neu ragor o delerau’r cytundeb ac os nad yw, ar ôl i hysbysiad gael ei gyflwyno i gywiro’r toriad, wedi cydymffurfio â’r hysbysiad o fewn amser rhesymol, a

(b)o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

6Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb ar unwaith os bydd y corff barnwrol priodol, ar gais y perchennog—

(a)wedi ei fodloni nad yw’r meddiannydd yn meddiannu’r cartref symudol fel unig neu brif breswylfa’r meddiannydd, a

(b)o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

7(1)Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb ar unwaith—

(a)os bydd tribiwnlys, ar gais y perchennog, wedi penderfynu bod y cartref symudol, o roi sylw i’w gyflwr, yn creu effaith andwyol ar amwynder y safle, a

(b)wedyn, ar gais y perchennog, os bydd y corff barnwrol priodol, o roi sylw i benderfyniad y tribiwnlys ac i unrhyw amgylchiadau eraill, o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

(2)Mae is-baragraffau (3) a (4) yn gymwys, ar gais i’r tribiwnlys o dan is-baragraff (1)(a)—

(a)os bydd y tribiwnlys o’r farn, o roi sylw i gyflwr presennol y cartref symudol, ei fod yn creu effaith andwyol ar amwynder y safle, ond

(b)ei fod o’r farn hefyd y byddai’n rhesymol ymarferol i waith trwsio penodol gael ei wneud ar y cartref symudol a fyddai’n golygu na châi’r cartref symudol yr effaith andwyol honno, ac

(c)os bydd y meddiannydd yn mynegi i’r tribiwnlys fod y meddiannydd yn bwriadu gwneud y gwaith trwsio hwnnw.

(3)Mewn achos o’r fath, caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn interim—

(a)sy’n pennu’r gwaith trwsio y mae’n rhaid ei wneud ac o fewn pa amser y mae’n rhaid ei wneud, a

(b)sy’n gohirio’r achos ar y cais am unrhyw gyfnod a bennir yn y gorchymyn interim sy’n rhesymol ym marn y tribiwnlys i alluogi i’r gwaith trwsio gael ei wneud.

(4)Os bydd y tribiwnlys yn gwneud gorchymyn interim o dan is-baragraff (3), rhaid iddo beidio â gwneud penderfyniad o dan is-baragraff (1)(a) oni bai ei fod wedi ei fodloni bod y cyfnod penodedig wedi dod i ben heb i’r gwaith trwsio gael ei wneud.

Adennill gordaliadau gan y meddiannydd

8Os terfynir y cytundeb fel y crybwyllir ym mharagraff 4, 5, 6 neu 7, mae gan y meddiannydd hawl i adennill oddi ar y perchennog gymaint o unrhyw daliad a wnaed gan y meddiannydd yn unol â’r cytundeb ag sydd i’w briodoli i gyfnod sy’n dechrau ar ôl y terfynu.

Gwerthu cartref symudol

9(1)Os yw’r cytundeb yn gytundeb newydd, mae gan y meddiannydd hawl i werthu’r cartref symudol ac i aseinio’r cytundeb i’r person y gwerthir y cartref symudol iddo (y “meddiannydd newydd”) heb gymeradwyaeth y perchennog.

(2)Yn y paragraff hwn a pharagraffau 10, 12 a 13, ystyr “cytundeb newydd” yw cytundeb—

(a)a wnaed ar ôl i’r paragraff hwn gychwyn, neu

(b)a wnaed cyn iddo gychwyn, ond sydd wedi ei aseinio ar ôl iddo gychwyn.

(3)Rhaid i’r meddiannydd newydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu’r perchennog fod y gwerthiant wedi ei gwblhau a bod y cytundeb wedi ei aseinio.

(4)Mae’n ofynnol i’r meddiannydd newydd dalu comisiwn i’r perchennog ar werthiant y cartref symudol ar raddfa nad yw’n fwy nag unrhyw raddfa a bennir gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(5)Ac eithrio i’r graddau a grybwyllir yn is-baragraff (4), ni chaiff y perchennog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw daliad gael ei wneud (boed i’r perchennog neu fel arall) mewn cysylltiad â gwerthu’r cartref symudol ac aseinio’r cytundeb i’r meddiannydd newydd.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi gofynion ynglŷn â gweithdrefnau y mae’n rhaid i’r perchennog, y meddiannydd neu’r meddiannydd newydd gydymffurfio â hwy mewn cysylltiad—

(a)â gwerthu’r cartref symudol ac aseinio’r cytundeb, neu

(b)â thalu comisiwn yn rhinwedd is-baragraff (4).

10(1)Os nad yw’r cytundeb yn gytundeb newydd, mae gan y meddiannydd hawl i werthu’r cartref symudol ac aseinio’r cytundeb heb gymeradwyaeth y perchennog—

(a)os bydd y meddiannydd yn cyflwyno i’r perchennog hysbysiad (“hysbysiad o’r bwriad i werthu”) fod y meddiannydd yn bwriadu gwerthu’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, i’r person a enwir yn yr hysbysiad (y “meddiannydd arfaethedig”), a

(b)os bodlonir yr amod cyntaf neu’r ail amod.

(2)Yr amod cyntaf yw nad yw’r meddiannydd, o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cafodd y perchennog yr hysbysiad o’r bwriad i werthu (“y cyfnod o 21 o ddiwrnodau”), yn cael hysbysiad gan y perchennog fod y perchennog wedi gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn yn atal y meddiannydd rhag gwerthu’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, i’r meddiannydd arfaethedig (“gorchymyn gwrthod”).

(3)Yr ail amod yw hyn—

(a)o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau—

(i)bod y perchennog yn gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn gwrthod, a

(ii)bod y meddiannydd yn cael hysbysiad o’r cais gan y perchennog, a

(b)bod y tribiwnlys yn gwrthod y cais.

(4)Os bydd y perchennog yn gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn gwrthod o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau ond nad yw’r meddiannydd yn cael hysbysiad o’r cais gan y perchennog o fewn y cyfnod hwnnw—

(a)mae’r cais i’w drin fel pe bai heb ei wneud, a

(b)gan hynny mae’r amod cyntaf i’w drin fel pe bai wedi ei fodloni.

(5)Rhaid i hysbysiad o’r bwriad i werthu gynnwys unrhyw wybodaeth a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(6)O ran hysbysiad o’r bwriad i werthu neu hysbysiad o gais am orchymyn gwrthod—

(a)rhaid iddo fod mewn ysgrifen, a

(b)caniateir ei gyflwyno drwy’r post.

(7)Dim ond ar un neu ragor o’r seiliau a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru y caniateir gwneud cais am orchymyn gwrthod; a rhaid i hysbysiad o gais am orchymyn gwrthod bennu ar ba sail neu seiliau y gwneir y cais.

(8)Mae’n ofynnol i’r person y gwerthir y cartref symudol iddo (“y meddiannydd newydd”) dalu comisiwn i’r perchennog ar werthiant y cartref symudol ar raddfa nad yw’n fwy nag unrhyw raddfa a bennir gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(9)Ac eithrio i’r graddau a grybwyllir yn is-baragraff (8), ni chaiff y perchennog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw daliad gael ei wneud (boed i’r perchennog neu fel arall) mewn cysylltiad â gwerthu’r cartref symudol ac aseinio’r cytundeb.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi gofynion ynglŷn â gweithdrefnau y mae’n rhaid i’r perchennog, y meddiannydd, meddiannydd arfaethedig neu’r meddiannydd newydd gydymffurfio â hwy mewn cysylltiad—

(a)â gwerthu’r cartref symudol ac aseinio’r cytundeb, ac

(b)â thalu comisiwn yn rhinwedd is-baragraff (8).

11(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r meddiannydd yn bwriadu gwerthu’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, yn unol â pharagraff 9 neu 10.

(2)Rhaid i’r meddiannydd, heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau cyn cwblhau gwerthu’r cartref symudol ac aseinio’r cytundeb, roi’r canlynol i’r meddiannydd arfaethedig—

(a)unrhyw ddogfennau, neu ddogfennau o unrhyw ddisgrifiad, a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, a

(b)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir yn y rheoliadau, yn y ffurf a ragnodir ynddynt.

(3)Ond os bydd y meddiannydd arfaethedig yn cydsynio mewn ysgrifen i’r dogfennau a’r wybodaeth arall gael eu rhoi erbyn dyddiad (“y dyddiad a ddewiswyd”) sy’n llai nag 28 o ddiwrnodau cyn cwblhau’r gwerthiant ac aseinio’r cytundeb, rhaid i’r meddiannydd roi’r dogfennau a’r wybodaeth arall i’r meddiannydd arfaethedig heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a ddewiswyd.

(4)Mae’r dogfennau a’r wybodaeth arall y caniateir eu rhagnodi mewn rheoliadau o dan is-baragraff (2) yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain)—

(a)copi o’r cytundeb,

(b)copi o reolau’r safle (os oes rhai) ar gyfer y safle gwarchodedig y gosodwyd y cartref symudol arno,

(c)manylion y ffi am y llain sy’n daladwy o dan y cytundeb,

(d)cyfeiriad anfon ymlaen y meddiannydd,

(e)mewn achos o fewn paragraff 9, gwybodaeth am y gofyniad a osodir yn rhinwedd is-baragraff (3) o’r paragraff hwnnw,

(f)manylion y comisiwn a fyddai’n daladwy gan y meddiannydd arfaethedig yn rhinwedd paragraff 9(4) neu 10(8),

(g)gwybodaeth am unrhyw ofynion a ragnodir mewn rheoliadau o dan baragraff 9(6) neu 10(10).

(5)Caniateir i ddogfennau neu wybodaeth arall y mae’n ofynnol eu rhoi o dan y paragraff hwn gael eu rhoi i’r prynwr arfaethedig yn bersonol neu eu hanfon drwy’r post.

(6)Caniateir i hawliad bod person wedi torri’r ddyletswydd o dan is-baragraff (2) neu (3) fod yn destun achos sifil yn yr un modd ag unrhyw hawliad arall mewn camwedd am dorri dyletswydd statudol.

Rhoi cartref symudol yn anrheg

12(1)Os yw cytundeb yn gytundeb newydd, ar yr amod bod y meddiannydd wedi rhoi’r dystiolaeth berthnasol i’r perchennog, mae gan y meddiannydd hawl i roi’r cartref symudol, ac i aseinio’r cytundeb, i aelod o deulu’r meddiannydd (y “meddiannydd newydd”) heb gymeradwyaeth y perchennog.

(2)Dyma’r dystiolaeth berthnasol—

(a)tystiolaeth, neu dystiolaeth o ddisgrifiad, a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru fod y person y mae’r meddiannydd yn bwriadu rhoi’r cartref symudol iddo, ac aseinio’r cytundeb iddo, yn aelod o deulu’r meddiannydd, neu

(b)unrhyw dystiolaeth foddhaol arall fod y person o dan sylw yn aelod o deulu’r meddiannydd.

(3)Rhaid i’r meddiannydd newydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu’r perchennog ei fod wedi cael y cartref symudol a bod y cytundeb wedi ei aseinio iddo.

(4)Ni chaiff y perchennog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw daliad gael ei wneud (boed i’r perchennog neu fel arall) mewn cysylltiad â rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, a grybwyllir yn is-baragraff (1).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi gofynion ynglŷn â gweithdrefnau y mae’n rhaid i’r perchennog, y meddiannydd neu’r meddiannydd newydd gydymffurfio â hwy mewn cysylltiad â rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, a grybwyllir yn is-baragraff (1).

13(1)Os nad yw’r cytundeb yn gytundeb newydd, mae gan y meddiannydd hawl i roi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, i aelod o deulu’r meddiannydd (y “meddiannydd arfaethedig”) heb gymeradwyaeth y perchennog—

(a)os bydd y meddiannydd yn cyflwyno hysbysiad i’r perchennog (“hysbysiad o’r bwriad i roi’r cartref”) fod y meddiannydd yn bwriadu rhoi’r cartref symudol i’r meddiannydd arfaethedig, a

(b)os bodlonir yr amod cyntaf neu’r ail amod.

(2)Yr amod cyntaf yw nad yw’r meddiannydd, o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cafodd y perchennog yr hysbysiad o’r bwriad i roi’r cartref (“y cyfnod o 21 o ddiwrnodau”), yn cael hysbysiad gan y perchennog fod y perchennog wedi gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn yn atal y meddiannydd rhag rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, i’r meddiannydd arfaethedig (“gorchymyn gwrthod”).

(3)Yr ail amod yw hyn—

(a)o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau—

(i)bod y perchennog yn gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn gwrthod, a

(ii)bod y meddiannydd yn cael hysbysiad o’r cais gan y perchennog, a

(b)bod y tribiwnlys yn gwrthod y cais.

(4)Os bydd y perchennog yn gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn gwrthod o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau ond nad yw’r meddiannydd yn cael hysbysiad o’r cais gan y perchennog o fewn y cyfnod hwnnw—

(a)mae’r cais i’w drin fel pe bai heb ei wneud, a

(b)gan hynny mae’r amod cyntaf i’w drin fel pe bai wedi ei fodloni.

(5)Rhaid i hysbysiad o’r bwriad i roi’r cartref gynnwys—

(a)y dystiolaeth berthnasol o dan baragraff 12(2), a

(b)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(6)O ran hysbysiad o’r bwriad i roi cartref neu hysbysiad o gais am orchymyn gwrthod—

(a)rhaid iddo fod mewn ysgrifen, a

(b)caniateir ei gyflwyno drwy’r post.

(7)Dim ond ar un neu ragor o’r seiliau a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru y caniateir gwneud cais am orchymyn gwrthod; a rhaid i hysbysiad o gais am orchymyn gwrthod bennu ar ba sail neu seiliau y gwneir y cais.

(8)Ni chaiff y perchennog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw daliad gael ei wneud (boed i’r perchennog neu fel arall) mewn cysylltiad â rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, fel y crybwyllir yn is-baragraff (1).

(9)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi gofynion ynglŷn â gweithdrefnau y mae’n rhaid i’r perchennog, y meddiannydd a’r meddiannydd arfaethedig neu’r person y rhoddir y cartref iddo gydymffurfio â hwy mewn cysylltiad â rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, fel y crybwyllir yn is-baragraff (1).

Ail-leoli cartref symudol

14(1)Mae gan y perchennog hawl i’w gwneud yn ofynnol bod hawl y meddiannydd i osod y cartref symudol yn arferadwy am unrhyw gyfnod o ran llain arall sy’n ffurfio rhan o’r safle gwarchodedig (“y llain arall”)—

(a)os bydd tribiwnlys, ar gais y perchennog, wedi ei fodloni bod y llain arall yn debyg yn fras i lain wreiddiol y meddiannydd a’i bod yn rhesymol gosod y cartref symudol ar y llain arall am y cyfnod hwnnw, neu

(b)os bydd angen i’r perchennog wneud gwaith trwsio hanfodol neu waith brys nad oes modd ei wneud ond os caiff y cartref symudol ei symud i’r llain arall am y cyfnod hwnnw, a naill ai—

(i)bod tribiwnlys, ar gais gan y perchennog, wedi ei fodloni ynglŷn â’r angen hwnnw ac wedi ei fodloni bod y llain arall yn debyg yn fras i lain wreiddiol y meddiannydd, neu

(ii)os yw’r brys ynglŷn â’r angen yn golygu ei bod yn anymarferol gwneud cais cyn i’r cartref symudol gael ei ail-leoli.

(2)Mewn achos pan fo is-baragraff (ii) o baragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid i’r perchennog wneud cais ar unwaith i dribiwnlys ac os nad yw tribiwnlys wedi ei fodloni fel y crybwyllir yn is-baragraff (i) o’r paragraff hwnnw rhaid i’r perchennog sicrhau ar unwaith fod y cartref symudol yn dychwelyd i’r llain wreiddiol.

(3)Os bydd y perchennog yn ei gwneud yn ofynnol i’r meddiannydd osod y cartref symudol ar y llain arall er mwyn i’r perchennog amnewid neu drwsio’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni, rhaid i’r perchennog sicrhau bod y cartref symudol yn dychwelyd i’r llain wreiddiol pan gwblheir y gwaith amnewid neu’r gwaith trwsio, os bydd y meddiannydd yn gofyn i’r perchennog wneud hynny neu os bydd tribiwnlys ar gais y meddiannydd yn gorchymyn i’r perchennog wneud hynny.

(4)Rhaid i’r perchennog dalu’r holl gostau a threuliau yr eir iddynt gan y meddiannydd mewn cysylltiad â symud y cartref symudol yn ôl ac ymlaen i’r llain arall.

(5)Yn y paragraff hwn a pharagraff 16 ystyr “gwaith trwsio hanfodol neu waith brys” yw—

(a)trwsio’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni,

(b)gwaith neu waith trwsio y mae ei angen i gydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol, neu

(c)gwaith neu waith trwsio mewn cysylltiad ag adfer ar ôl llifogydd, tirlithriad neu drychineb naturiol arall.

Mwynhau’r cartref symudol yn ddidramgwydd

15Mae gan y meddiannydd hawl i fwynhau’r cartref symudol ynghyd â’r llain yn ddidramgwydd yn ystod cyfnod y cytundeb, yn ddarostyngedig i baragraffau 14 a 16.

Hawl y perchennog i fynd i’r llain

16(1)Caiff y perchennog fynd i’r llain heb hysbysiad ymlaen llaw rhwng 9 am a 6 pm—

(a)i roi gohebiaeth ysgrifenedig, gan gynnwys post a hysbysiadau, i’r meddiannydd, a

(b)i ddarllen unrhyw fesurydd gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog.

(2)Caiff y perchennog fynd i’r llain i wneud gwaith trwsio hanfodol neu waith brys ar ôl rhoi cymaint o hysbysiad i’r meddiannydd (boed mewn ysgrifen neu fel arall) ag sy’n rhesymol ymarferol o dan yr amgylchiadau.

(3)Dim ond os yw’r perchennog wedi rhoi o leiaf 14 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig o ddyddiad ac amser yr ymweliad a’r rheswm drosto y caiff y perchennog fynd i’r llain am reswm heblaw’r un a bennir yn is-baragraff (1) neu (2) oni bai bod y meddiannydd wedi cytuno fel arall.

(4)Nid yw’r hawliau a roddir gan y paragraff hwn yn ymestyn i’r cartref symudol.

Y ffi am y llain

17(1)Dim ond yn unol â’r paragraff hwn y caniateir newid y ffi am y llain, naill ai—

(a)gyda chytundeb y meddiannydd, neu

(b)os bydd tribiwnlys, ar gais y perchennog neu’r meddiannydd, o’r farn ei bod yn rhesymol i’r ffi am y llain gael ei newid a’i fod yn gwneud gorchymyn sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain.

(2)Rhaid i’r ffi am y llain gael ei hadolygu’n flynyddol ar ddyddiad yr adolygiad.

(3)O leiaf 28 o ddiwrnodau clir cyn dyddiad yr adolygiad rhaid i’r perchennog roi hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd sy’n nodi cynigion o ran y ffi newydd am y llain.

(4)Nid yw hysbysiad o dan is-baragraff (3) sy’n cynnig cynnydd yn y ffi am y llain yn effeithiol oni bai bod dogfen yn cyd-fynd ag ef sy’n cydymffurfio â pharagraff 23.

(5)Os bydd y meddiannydd yn cytuno i’r ffi newydd arfaethedig am y llain, mae’n daladwy o ddyddiad yr adolygiad ymlaen.

(6)Os na fydd y meddiannydd yn cytuno i’r ffi newydd arfaethedig am y llain—

(a)caiff y perchennog neu’r meddiannydd wneud cais i dribiwnlys am orchymyn o dan is-baragraff (1)(b) sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain,

(b)rhaid i’r meddiannydd barhau i dalu’r ffi gyfredol am y llain i’r perchennog hyd nes y cytunir ar y ffi newydd am y llain gan y meddiannydd neu y gwneir gorchymyn sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain gan y tribiwnlys o dan is-baragraff (1)(b), ac

(c)mae’r ffi newydd am y llain yn daladwy o ddyddiad yr adolygiad ymlaen ond rhaid peidio â barnu bod y meddiannydd mewn ôl-ddyledion tan yr 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y cytunwyd ar y ffi newydd am y llain neu, yn ôl y digwydd, yr 28ain diwrnod ar ôl dyddiad gorchymyn y tribiwnlys sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain.

(7)Caniateir i gais o dan is-baragraff (6)(a) gael ei wneud unrhyw bryd ar ôl diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr adolygiad ond heb fod yn fwy na 3 mis ar ôl dyddiad yr adolygiad.

(8)Mae is-baragraffau (9) i (12) yn gymwys os bydd y perchennog—

(a)heb gyflwyno’r hysbysiad y gofynnir amdani o dan is-baragraff (3) erbyn yr amser yr oedd yn ofynnol ei gyflwyno, ond

(b)ar unrhyw adeg wedyn yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd sy’n nodi cynigion o ran ffi newydd am y llain.

(9)Nid yw hysbysiad o dan is-baragraff (8)(b) sy’n cynnig cynnydd yn y ffi am y llain yn effeithiol oni bai bod dogfen yn cyd-fynd ag ef sy’n cydymffurfio â pharagraff 23.

(10)Os bydd y meddiannydd (unrhyw bryd) yn cytuno i’r ffi arfaethedig am y llain, mae’n daladwy o’r 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad o dan is-baragraff (8)(b).

(11)Os na fydd y meddiannydd wedi cytuno i’r ffi arfaethedig am y llain—

(a)caiff y perchennog neu’r meddiannydd wneud cais i dribiwnlys am orchymyn o dan is-baragraff (1)(b) sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain,

(b)rhaid i’r meddiannydd barhau i dalu’r ffi gyfredol am y llain i’r perchennog hyd nes y cytunir ar y ffi newydd am y llain gan y meddiannydd neu y gwneir gorchymyn sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain gan tribiwnlys o dan is-baragraff (1)(b), ac

(c)os bydd y tribiwnlys yn gwneud gorchymyn o’r fath, mae’r ffi newydd am y llain yn daladwy o’r 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad o dan is-baragraff (8)(b).

(12)Caniateir i gais o dan is-baragraff (11) gael ei wneud unrhyw bryd ar ôl diwedd y cyfnod o 56 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad o dan is-baragraff (8)(b) ond heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl y dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad hwnnw.

(13)Caiff tribiwnlys ganiatáu i gais o dan is-baragraff (6)(a) neu (11)(a) gael ei wneud iddo y tu allan i’r terfyn amser a bennir yn is-baragraff (7) (yn achos cais o dan is-baragraff (6)(a)) neu yn is-baragraff (12) (yn achos cais o dan is-baragraff (11)(a)) os bydd wedi ei fodloni, o dan yr holl amgylchiadau, fod rhesymau da dros fethu â gwneud cais o fewn y terfyn amser cymwys a thros unrhyw ohirio ers hynny wrth wneud cais am ganiatâd i wneud y cais y tu allan i’r amser.

(14)Rhaid peidio â thrin y meddiannydd fel pe bai mewn ôl-ddyledion—

(a)pan fo is-baragraff (10) yn gymwys, tan yr 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y cytunir ar y ffi newydd am y llain, neu

(b)pan fo is-baragraff (11)(b) yn gymwys, tan yr 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y cytunir ar y ffi newydd am y llain neu, yn ôl y digwydd, yr 28ain diwrnod ar ôl dyddiad gorchymyn y tribiwnlys sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain.

(15)Mae is-baragraff (16) yn gymwys os bydd tribiwnlys, ar gais y meddiannydd, wedi ei fodloni—

(a)nad oedd hysbysiad o dan is-baragraff (3) neu (8)(b) yn effeithiol o ganlyniad i is-baragraff (4) neu (9), ond

(b)bod y meddiannydd er hynny wedi talu’r ffi am y llain a gynigwyd yn yr hysbysiad i’r perchennog.

(16)Caiff y tribiwnlys orchymyn i’r perchennog dalu i’r meddiannydd, o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad y gorchymyn, y gwahaniaeth rhwng—

(a)y swm yr oedd yn ofynnol i’r meddiannydd ei dalu i’r perchennog am y cyfnod o dan sylw, a

(b)y swm y mae’r meddiannydd wedi ei dalu i’r perchennog am y cyfnod hwnnw.

18(1)Wrth bennu swm y ffi newydd am y llain rhaid rhoi sylw yn benodol i’r canlynol—

(a)unrhyw symiau a wariwyd gan y perchennog ers dyddiad yr adolygiad diwethaf ar welliannau—

(i)sydd er lles meddianwyr cartrefi symudol ar y safle gwarchodedig,

(ii)a fu’n destun ymgynghori yn unol â pharagraff 22(1)(e) ac (f), a

(iii)nad yw mwyafrif o’r meddianwyr wedi anghytuno â hwy mewn ysgrifen neu, yn achos anghytuno o’r fath, y tribiwnlys, ar gais y perchennog, wedi gorchymyn y dylid eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu swm y ffi newydd am y llain,

(b)unrhyw ddirywiad yng nghyflwr, ac unrhyw ostyngiad yn amwynder, y safle neu unrhyw dir cyfagos a feddiennir neu a reolir gan y perchennog ers y dyddiad y daeth yr is-baragraff hwn i rym (i’r graddau nad oes sylw wedi ei roi o’r blaen i’r dirywiad neu’r gostyngiad hwnnw at ddibenion yr is-baragraff hwn),

(c)unrhyw ostyngiad yn y gwasanaethau y mae’r perchennog yn eu darparu i’r safle, y llain neu’r cartref symudol, ac unrhyw ddirywiad yn ansawdd y gwasanaethau hynny, ers y dyddiad y daeth yr is-baragraff hwn i rym (i’r graddau nad oes sylw wedi ei roi o’r blaen i’r dirywiad neu’r gostyngiad hwnnw at ddibenion yr is-baragraff hwn), a

(d)unrhyw effaith uniongyrchol ar y costau sy’n daladwy gan y perchennog o ran cynnal a chadw neu reoli’r safle yn sgil deddfiad sydd wedi dod i rym ers dyddiad yr adolygiad diwethaf.

(2)Ond rhaid peidio â rhoi sylw, wrth bennu swm y ffi newydd am y llain, i unrhyw gostau yr aed iddynt gan y perchennog ers dyddiad yr adolygiad diwethaf er mwyn cydymffurfio â’r darpariaethau a geir yn y Rhan hon nas cynhwyswyd yn Neddf Cartrefi Symudol 1983 fel yr oedd yn gymwys o ran Cymru cyn i’r Rhan hon ddod i rym.

(3)Wrth gyfrifo faint yw mwyafrif o’r meddianwyr at ddibenion is-baragraff (1)(a)(iii) rhaid cymryd mai 1 meddiannydd yn unig sydd gan bob cartref symudol ac os oes mwy nag 1 meddiannydd cartref symudol, cymerir mai’r meddiannydd yw p’un bynnag ohonynt y mae’r meddianwyr yn cytuno arno neu, yn niffyg cytundeb, yr un y mae ei enw’n ymddangos gyntaf ar y cytundeb.

(4)Mewn achos lle nad yw’r ffi am y llain wedi ei hadolygu o’r blaen, mae cyfeiriadau yn y paragraff hwn at ddyddiad yr adolygiad diwethaf i’w darllen fel cyfeiriadau at y dyddiad y cychwynnodd y cytundeb.

19(1)Wrth bennu swm y ffi newydd am y llain, nid oes unrhyw gostau yr aed iddynt gan y perchennog mewn cysylltiad ag ehangu’r safle gwarchodedig i’w cymryd i ystyriaeth.

(2)Wrth bennu swm y ffi newydd am y llain, ni chaniateir rhoi sylw—

(a)i unrhyw gostau yr aed iddynt gan y perchennog o ran cynnal achos o dan y Rhan hon neu’r cytundeb,

(b)i unrhyw ffi y mae’n ofynnol i’r perchennog ei thalu yn rhinwedd adran 6 neu 13, nac

(c)i unrhyw gostau yr aed iddynt gan y perchennog mewn cysylltiad â’r canlynol—

(i)unrhyw gamau a gymerwyd gan awdurdod lleol o dan adrannau 15 i 25, neu

(ii)collfarnu’r perchennog am drosedd o dan adran 18.

20(1)Oni bai y byddai hynny’n afresymol, o roi sylw i baragraff 18(1), rhagdybir bod y ffi am y llain i gynyddu neu i ostwng yn ôl canran nad yw’n fwy na chanran unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn y mynegai prisiau defnyddwyr a gyfrifir drwy gyfeirio at y canlynol—

(a)y mynegai diweddaraf, a

(b)y mynegai a gyhoeddwyd am y mis a syrthiodd 12 mis cyn y mis y mae’r mynegai diweddaraf yn cyfeirio ato.

(2)Yn is-baragraff (1) ystyr “y mynegai diweddaraf”—

(a)mewn achos pan fo’r perchennog yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 17(3), yw’r mynegai diwethaf a gyhoeddwyd cyn y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad hwnnw, a

(b)mewn achos pan fo’r perchennog yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 17(8)(b), yw’r mynegai diwethaf a gyhoeddwyd cyn y diwrnod yr oedd yn ofynnol i’r perchennog gyflwyno hysbysiad o dan baragraff 17(3).

Rhwymedigaethau’r meddiannydd a rhwymedigaethau cyfatebol y perchennog

21(1)Rhaid i’r meddiannydd—

(a)talu’r ffi am y llain i’r perchennog,

(b)talu i’r perchennog yr holl symiau sy’n ddyledus o dan y cytundeb o ran gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog,

(c)cadw’r cartref symudol mewn cyflwr cadarn,

(d)cadw—

(i)y tu allan i’r cartref symudol, a

(ii)y llain, gan gynnwys pob ffens ac adeilad allanol sy’n perthyn iddi ac i’r cartref symudol, neu a fwynheir gyda hwy,

mewn cyflwr glân a chymen, ac

(e)os bydd y perchennog yn gofyn, rhoi tystiolaeth ddogfennol i’r perchennog o unrhyw gostau neu dreuliau y bydd y meddiannydd yn gofyn am ad-daliad yn eu cylch.

(2)Rhaid i’r perchennog beidio â gwneud unrhyw beth na pheri i unrhyw beth gael ei wneud—

(a)a allai effeithio’n andwyol ar allu’r meddiannydd i gyflawni’r rhwymedigaeth o dan is-baragraff (1)(c) neu a allai atal y meddiannydd rhag gwneud gwelliannau mewnol i’r cartref symudol nac ymyrryd â gallu’r meddiannydd i wneud hynny, na

(b)a allai effeithio’n andwyol ar allu’r meddiannydd i gyflawni’r rhwymedigaethau o dan is-baragraff (1)(d) neu a allai atal y meddiannydd rhag gwneud gwelliannau allanol i’r cartref symudol nac ymyrryd â gallu’r meddiannydd i wneud hynny.

(3)Nid yw is-baragraff (2) yn awdurdodi’r meddiannydd i wneud gwaith ar y cartref symudol a waharddwyd gan delerau’r cytundeb neu gan neu o dan unrhyw ddeddfiad.

(4)Os yw telerau’r cytundeb yn caniatáu i waith ar y cartref symudol gael ei wneud â chaniatâd y perchennog yn unig, rhaid peidio â dal y caniatâd hwnnw yn ôl yn afresymol.

Rhwymedigaethau eraill y perchennog

22(1)Rhaid i’r perchennog—

(a)os bydd y meddiannydd yn gofyn, ac os bydd y meddiannydd yn talu tâl nad yw’n fwy na £30, roi manylion ysgrifenedig cywir am y canlynol—

(i)maint y llain a’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni, a

(ii)lleoliad y llain a’r sylfaen o fewn y safle gwarchodedig,

a rhaid i’r manylion gynnwys mesuriadau rhwng pwyntiau gosod y gellir eu hadnabod ar y safle gwarchodedig a’r llain a’r sylfaen,

(b)os bydd y meddiannydd yn gofyn, rhoi tystiolaeth ddogfennol (yn ddi-dâl) i ategu ac i esbonio—

(i)unrhyw ffi newydd am y llain,

(ii)unrhyw daliadau am wasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill sy’n daladwy gan y meddiannydd i’r perchennog o dan y cytundeb, a

(iii)unrhyw daliadau, costau neu dreuliau eraill sy’n daladwy gan y meddiannydd i’r perchennog o dan y cytundeb,

(c)bod yn gyfrifol am drwsio’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni ac am gynnal unrhyw wasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog i’r llain neu i’r cartref symudol,

(d)cadw’r rhannau hynny o’r safle gwarchodedig, gan gynnwys ffyrdd mynediad, ffensys terfyn y safle a choed, nad ydynt yn gyfrifoldeb i feddiannydd unrhyw gartref symudol a osodwyd ar y safle gwarchodedig, mewn cyflwr glân a chymen,

(e)ymgynghori â’r meddiannydd ynghylch gwelliannau i’r safle gwarchodedig yn gyffredinol, ac yn arbennig ynghylch y rhai y mae’r perchennog yn dymuno iddynt gael eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu swm unrhyw ffi newydd am y llain, ac

(f)ymgynghori â chymdeithas trigolion gymwys (os oes un) neu (fel arall) â meddianwyr cartrefi symudol a osodwyd ar y safle gwarchodedig, ynghylch pob mater sy’n ymwneud â gweithredu a rheoli’r safle gwarchodedig, gwelliannau iddo, neu unrhyw newid arfaethedig yn ei ddefnydd ac a allai effeithio ar y meddianwyr naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

(2)At ddibenion is-baragraff (1)(e), ystyr “ymgynghori” â’r meddiannydd yw—

(a)rhoi o leiaf 28 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd am y gwelliannau arfaethedig sydd—

(i)yn disgrifio’r gwelliannau arfaethedig a sut y byddant o les i’r meddiannydd yn y tymor hir a’r tymor byr,

(ii)yn manylu ar sut y gellid effeithio ar y ffi am y llain y tro nesaf y caiff ei hadolygu, a

(iii)yn datgan pryd a ble y caiff y meddiannydd gyflwyno sylwadau am y gwelliannau arfaethedig, a

(b)cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y meddiannydd ynghylch y gwelliannau arfaethedig, yn unol â pharagraff (a)(iii), cyn ymgymryd â hwy.

(3)At ddibenion is-baragraff (1)(f), ystyr “ymgynghori” â chymdeithas trigolion gymwys yw—

(a)rhoi o leiaf 28 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig i’r gymdeithas neu’r meddianwyr am y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(f) sydd—

(i)yn disgrifio’r materion a sut y gallent effeithio ar y meddianwyr naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn y tymor hir a’r tymor byr, a

(ii)yn datgan pryd a ble y caiff y gymdeithas neu’r meddianwyr gyflwyno sylwadau am y materion, a

(b)cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y gymdeithas neu’r meddianwyr, yn unol â pharagraff (a)(ii), cyn bwrw ymlaen â’r materion.

23Rhaid i’r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff 17(4) a (9)—

(a)bod ar unrhyw ffurf a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau,

(b)pennu canran unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn y mynegai prisiau defnyddwyr a gyfrifwyd yn unol â pharagraff 20,

(c)esbonio effaith paragraff 17,

(d)pennu’r materion y mae’r swm a gynigir ar gyfer y ffi newydd am y llain i’w priodoli iddynt,

(e)cyfeirio at rwymedigaethau’r meddiannydd ym mharagraff 21(1)(c) i (e) ac at rwymedigaethau’r perchennog ym mharagraff 22(1)(c) a (d), ac

(f)cyfeirio at rwymedigaethau’r perchennog ym mharagraff 22(1)(e) ac (f) (fel y maent wedi eu glosio gan baragraff 22(2) a (3)).

Enw a chyfeiriad y perchennog

24(1)Rhaid i’r perchennog roi gwybod i’r meddiannydd ac unrhyw gymdeithas trigolion gymwys, drwy hysbysiad, am y cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr lle caniateir i hysbysiadau (gan gynnwys hysbysiadau achosion) gael eu cyflwyno i’r perchennog gan y meddiannydd neu gan gymdeithas trigolion gymwys.

(2)Os bydd y perchennog yn methu cydymffurfio ag is-baragraff (1), yna (yn ddarostyngedig i is-baragraff (5)) mae unrhyw swm sy’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog o ran y ffi am y llain i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog gydymffurfio ag is-baragraff (1).

(3)Os bydd y perchennog yn unol â’r cytundeb yn rhoi unrhyw hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd neu i gymdeithas trigolion gymwys, rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)enw a chyfeiriad y perchennog, a

(b)os nad yw’r cyfeiriad hwnnw yng Nghymru nac yn Lloegr, cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr lle y caniateir i hysbysiadau (gan gynnwys hysbysiadau achosion) gael eu cyflwyno i’r perchennog.

(4)Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5)—

(a)pan fo’r meddiannydd neu gymdeithas trigolion gymwys yn cael hysbysiad o’r fath, ond

(b)nid yw’r hysbysiad hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (3),

mae’r hysbysiad i’w drin fel pe na bai wedi ei roi hyd nes y bydd y perchennog yn rhoi’r wybodaeth i’r meddiannydd neu’r gymdeithas trigolion gymwys o ran yr hysbysiad.

(5)Nid yw swm na hysbysiad o fewn is-baragraff (2) neu (4) i’w trin fel pe baent wedi eu crybwyll o ran unrhyw amser pan fo penodiad mewn grym, yn rhinwedd gorchymyn gan unrhyw lys neu dribiwnlys, ar gyfer derbynnydd neu reolwr y mae ei swyddogaethau’n cynnwys derbyn oddi wrth y meddiannydd y ffi am y llain, taliadau am wasanaethau a ddarparwyd neu daliadau eraill.

(6)Nid oes dim yn is-baragraffau (3) i (5) yn gymwys i unrhyw hysbysiad sy’n cynnwys hawliad y mae paragraff 25(1) yn gymwys iddo.

25(1)Os bydd y perchennog yn gwneud unrhyw hawliad i’r meddiannydd dalu’r ffi am y llain, neu o ran gwasanaethau a ddarparwyd neu daliadau eraill, rhaid i’r hawliad gynnwys—

(a)enw a chyfeiriad y perchennog, a

(b)os nad yw’r cyfeiriad hwnnw yng Nghymru nac yn Lloegr, cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr lle y caniateir i hysbysiadau (gan gynnwys hysbysiadau achosion) gael eu cyflwyno i’r perchennog.

(2)Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3)—

(a)pan fo’r meddiannydd yn cael hawliad o’r fath, ond

(b)nid yw’r hawliad hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (1),

mae’r swm a hawlir i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog roi’r wybodaeth honno i’r meddiannydd o ran yr hawliad.

(3)Nid yw’r swm a hawlir i’w drin fel pe bai’n ddyledus o ran unrhyw amser pan fo penodiad mewn grym, yn rhinwedd gorchymyn gan unrhyw lys neu dribiwnlys, ar gyfer derbynnydd neu reolwr y mae ei swyddogaethau’n cynnwys derbyn oddi wrth y meddiannydd y ffi am y llain, taliadau am wasanaethau a ddarparwyd neu daliadau eraill.

PENNOD 3CYTUNDEBAU SY’N YMWNEUD Â LLEINIAU TRAMWY AR SAFLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR AWDURDODAU LLEOL

Parhad y cytundeb

26Yn ddarostyngedig i baragraff 27 mae’r hawl i osod y cartref symudol ar y llain dramwy yn bodoli hyd nes—

(a)y daw’r cyfnod gosodedig a nodir yn y cytundeb i ben, neu

(b)y terfynir y cytundeb o dan baragraff 28 neu 29,

p’un bynnag yw’r cynharaf.

27(1)Os nad yw ystâd neu fuddiant y perchennog yn ddigon i alluogi’r perchennog i roi’r hawl am y cyfnod gosodedig a nodir yn y cytundeb, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad pan fydd ystâd neu fuddiant y perchennog yn terfynu.

(2)Os oes caniatâd cynllunio i ddefnyddio’r safle gwarchodedig fel safle i gartrefi symudol wedi ei roi mewn termau sy’n golygu y daw i ben ar ddiwedd cyfnod penodedig, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad y daw’r caniatâd cynllunio i ben.

(3)Os oes caniatâd cynllunio i ddefnyddio’r safle gwarchodedig fel safle i gartrefi symudol wedi ei roi mewn termau sy’n golygu ei bod yn ofynnol i’r perchennog gyfyngu ar gyfnod aros cartrefi symudol ar y safle, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r cyfnod hwnnw.

Terfynu

28Mae gan y meddiannydd hawl i derfynu’r cytundeb cyn i’r cyfnod gosodedig a nodir yn y cytundeb ddod i ben drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r perchennog.

29Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb cyn i’r cyfnod gosodedig a nodir yn y cytundeb ddod i ben—

(a)heb fod yn ofynnol iddo ddangos unrhyw reswm, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig nid llai na 4 wythnos cyn y dyddiad y mae i fod i ddod yn effeithiol, neu

(b)ar unwaith, pan fo—

(i)y meddiannydd wedi torri un neu ragor o delerau’r cytundeb, ac os nad yw, ar ôl i hysbysiad gael ei gyflwyno i gywiro’r toriad, wedi cydymffurfio a’r hysbysiad o fewn amser rhesymol, a

(ii)y perchennog o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

Adennill gordaliadau gan y meddiannydd

30Os terfynir y cytundeb fel y crybwyllir ym mharagraff 28 neu 29, mae gan y meddiannydd hawl i adennill oddi ar y perchennog gymaint o unrhyw daliad a wnaed gan y meddiannydd yn unol â’r cytundeb ag sydd i’w briodoli i gyfnod sy’n dechrau ar ôl y terfynu.

Mwynhau’r cartref symudol yn ddidramgwydd

31Mae gan y meddiannydd hawl i fwynhau’r cartref symudol ynghyd â’r llain yn ddidramgwydd yn ystod cyfnod y cytundeb, yn ddarostyngedig i baragraff 32.

Hawl y perchennog i fynd i’r llain

32(1)Caiff y perchennog fynd i’r llain heb hysbysiad ymlaen llaw rhwng 9 am a 6 pm—

(a)i roi gohebiaeth ysgrifenedig, gan gynnwys post a hysbysiadau, i’r meddiannydd, a

(b)i ddarllen unrhyw fesurydd gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog.

(2)Caiff y perchennog fynd i’r llain i wneud gwaith trwsio hanfodol neu waith brys ar ôl rhoi cymaint o hysbysiad i’r meddiannydd (boed mewn ysgrifen neu fel arall) ag sy’n rhesymol ymarferol o dan yr amgylchiadau.

(3)Yn y paragraff hwn ystyr “gwaith trwsio hanfodol neu waith brys” yw—

(a)gwaith trwsio i’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni,

(b)gwaith trwsio i unrhyw adeiladau allanol a chyfleusterau a ddarperir gan y perchennog ar y llain ac i unrhyw wasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill neu amwynderau eraill a ddarperir gan y perchennog yn yr adeiladau allanol hynny,

(c)gwaith neu waith trwsio y mae ei angen i gydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol, neu

(d)gwaith neu waith trwsio mewn cysylltiad ag adfer ar ôl llifogydd, tirlithriad neu drychineb naturiol arall.

(4)Oni bai bod y meddiannydd wedi cytuno fel arall, caiff y perchennog fynd i’r llain am reswm heblaw’r un a bennir yn is-baragraff (1) neu (2) dim ond os yw’r perchennog wedi rhoi o leiaf 14 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig o ddyddiad ac amser yr ymweliad a’r rheswm drosto.

(5)Nid yw’r hawliau a roddir gan y paragraff hwn yn ymestyn i’r cartref symudol.

Enw a chyfeiriad y perchennog

33(1)Rhaid i’r perchennog roi gwybod i’r meddiannydd drwy hysbysiad am y cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr lle y caniateir i hysbysiadau (gan gynnwys hysbysiadau achosion) gael eu cyflwyno i’r perchennog gan y meddiannydd.

(2)Os bydd y perchennog yn methu cydymffurfio ag is-baragraff (1), yna mae unrhyw swm sy’n ddyledus fel arall gan y meddiannydd i’r perchennog o ran y ffi am y llain i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog gydymffurfio ag is-baragraff (1).

(3)Pan fo’r perchennog, yn unol â’r cytundeb, yn rhoi unrhyw hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd rhaid i’r hysbysiad gynnwys enw a chyfeiriad y perchennog.

(4)Pan fo—

(a)y meddiannydd yn cael hysbysiad o’r fath, ond

(b)nid yw’r hysbysiad hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (3),

mae’r hysbysiad i’w drin fel pe na bai wedi ei roi hyd nes y bydd y perchennog yn rhoi’r wybodaeth i’r meddiannydd o ran yr hysbysiad.

(5)Nid oes dim yn is-baragraffau (3) a (4) sy’n gymwys i unrhyw hysbysiad sy’n cynnwys hawliad y mae paragraff 34(1) yn gymwys iddo.

34(1)Pan fo’r perchennog yn gwneud unrhyw hawliad i’r meddiannydd dalu’r ffi am y llain, neu o ran gwasanaethau a ddarparwyd neu daliadau eraill, rhaid i’r hawliad gynnwys enw a chyfeiriad y perchennog.

(2)Pan fo—

(a)y meddiannydd yn cael hawliad o’r fath, ond

(b)nid yw’r hawliad hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (1),

mae’r swm a hawlir i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog roi’r wybodaeth honno i’r meddiannydd o ran yr hawliad.

PENNOD 4CYTUNDEBAU SY’N YMWNEUD Â LLEINIAU PARHAOL AR SAFLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR

Parhad y cytundeb

35Yn ddarostyngedig i baragraff 36, mae’r hawl i osod y cartref symudol ar dir sy’n ffurfio rhan o’r safle gwarchodedig yn bodoli hyd nes i’r cytundeb gael ei derfynu o dan baragraff 37, 38, 39 neu 40.

36(1)Os nad yw ystâd neu fuddiant y perchennog yn ddigon i alluogi’r perchennog i roi’r hawl am gyfnod amhenodol, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad pan fydd ystâd neu fuddiant y perchennog yn terfynu.

(2)Os oes caniatâd cynllunio i ddefnyddio’r safle gwarchodedig fel safle i gartrefi symudol wedi ei roi mewn termau sy’n golygu y daw i ben ar ddiwedd cyfnod penodedig, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad y daw’r caniatâd cynllunio i ben.

(3)Os ceir newid amgylchiadau cyn diwedd cyfnod a bennir gan y paragraff hwn a hwnnw’n caniatáu cyfnod hirach, mae ystyriaeth i gael ei rhoi i’r newid hwnnw.

Terfynu

37Mae gan y meddiannydd hawl i derfynu’r cytundeb drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i’r perchennog nid llai na 4 wythnos cyn y dyddiad y mae i fod i ddod yn effeithiol.

38Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb ar unwaith os bydd y corff barnwrol priodol ar gais gan y perchennog—

(a)wedi ei fodloni bod y meddiannydd wedi torri unrhyw un neu ragor o delerau’r cytundeb ac os nad yw, ar ôl i hysbysiad gael ei gyflwyno i gywiro’r toriad, wedi cydymffurfio â’r hysbysiad o fewn amser rhesymol, a

(b)o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

39Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb ar unwaith os bydd y corff barnwrol priodol, ar gais y perchennog—

(a)wedi ei fodloni nad yw’r meddiannydd yn meddiannu’r cartref symudol fel unig neu brif breswylfa’r meddiannydd, a

(b)o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

40(1)Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb ar unwaith—

(a)os bydd tribiwnlys, ar gais y perchennog, wedi penderfynu bod y cartref symudol, o roi sylw i’w gyflwr, yn creu effaith andwyol ar amwynder y safle, a

(b)wedyn, ar gais y perchennog, os bydd y corff barnwrol priodol, o roi sylw i benderfyniad y tribiwnlys ac i unrhyw amgylchiadau eraill, o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

(2)Mae is-baragraffau (3) a (4) yn gymwys, ar gais i’r tribiwnlys o dan is-baragraff (1)(a)—

(a)os bydd y tribiwnlys o’r farn, o roi sylw i gyflwr presennol y cartref symudol, ei fod yn creu effaith andwyol ar amwynder y safle, ond

(b)ei fod o’r farn hefyd y byddai’n rhesymol ymarferol i waith trwsio penodol gael ei wneud ar y cartref symudol a fyddai’n golygu na châi’r cartref symudol yr effaith andwyol honno, ac

(c)os bydd y meddiannydd yn mynegi i’r tribiwnlys fod y meddiannydd yn bwriadu gwneud y gwaith trwsio hwnnw.

(3)Mewn achos o’r fath, caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn interim—

(a)sy’n pennu’r gwaith trwsio y mae’n rhaid ei wneud ac o fewn pa amser y mae’n rhaid ei wneud, a

(b)sy’n gohirio’r achos ar y cais am unrhyw gyfnod a bennir yn y gorchymyn interim sy’n rhesymol ym marn y tribiwnlys i alluogi i’r gwaith trwsio gael ei wneud.

(4)Os bydd y tribiwnlys yn gwneud gorchymyn interim o dan is-baragraff (3), rhaid iddo beidio â gwneud penderfyniad o dan is-baragraff (1)(a) oni bai ei fod wedi ei fodloni bod y cyfnod penodedig wedi dod i ben heb i’r gwaith trwsio gael ei wneud.

Aseinio cytundeb

41(1)Caiff y meddiannydd (“A”) aseinio’r cytundeb—

(a)i berson sy’n aelod o deulu A, neu

(b)i berson arall (“B”) os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2).

(2)Dyma’r amodau—

(a)rhaid i A gael cymeradwyaeth y perchennog, a

(b)rhaid i B—

(i)feddiannu llain barhaol ar safle perthnasol, a

(ii)gael cymeradwyaeth y perchennog i B aseinio ei gytundeb i A neu i berson arall sy’n meddiannu llain barhaol ar safle perthnasol.

(3)Safle perthnasol at ddibenion is-baragraff (2) yw safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol yn ardal yr awdurdod lleol lle y mae’r safle y mae’r llain arno y mae cytundeb A yn ymwneud â hi.

(4)Ni chaiff y meddiannydd na’r perchennog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw daliad gael ei wneud (boed i’r meddiannydd neu i’r perchennog neu fel arall) mewn cysylltiad ag aseinio’r cytundeb o dan y paragraff hwn.

42(1)Caiff y meddiannydd gyflwyno cais i’r perchennog i gymeradwyo, at ddibenion paragraff 41, aseiniad i berson a enwir yn y cais (“y meddiannydd arfaethedig”).

(2)Pan fo’r cais yn ymwneud ag aseiniad o dan baragraff 41(1)(a) rhaid i’r cais gynnwys tystiolaeth foddhaol bod y meddiannydd arfaethedig yn aelod o deulu’r meddiannydd.

(3)Pan fo’r perchennog yn cael cais o dan is-baragraff (1), rhaid i’r perchennog, cyn pen 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y daw y cais i law—

(a)cymeradwyo’r aseiniad, oni bai ei bod yn rhesymol i’r perchennog beidio â gwneud hynny, a

(b)cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y perchennog (“hysbysiad penderfynu”) i’r meddiannydd.

(4)Os yw person (“P”) yn cael cais o dan is-baragraff (1) ac mae P—

(a)er nad ef yw’r perchennog, ag ystâd neu fuddiant yn y tir, a

(b)yn credu mai person arall yw’r perchennog,

ac nid yw’r person arall wedi cael cais o’r fath, mae ar P ddyletswydd i’r meddiannydd (y gellir ei gorfodi drwy hawliad mewn camwedd am dorri dyletswydd statudol, yn ogystal â thrwy achos am dorri term ymhlyg) i gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y person arall yn cael y cais cyn pen y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad pryd y caiff P ef.

(5)Os gwrthodir y gymeradwyaeth, rhaid i’r hysbysiad penderfynu bennu’r rhesymau dros ei gwrthod.

(6)Pan fo ffi sy’n ddyledus yn gyfreithlon oddi wrth y meddiannydd heb gael ei thalu neu pan fo unrhyw un neu ragor o delerau’r cytundeb wedi cael ei dorri neu heb ei berfformio, caniateir rhoi’r gymeradwyaeth sy’n ofynnol at ddibenion paragraff 41 yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r meddiannydd dalu’r ffi sy’n aros heb ei thalu, cywiro’r toriad neu berfformio’r rhwymedigaeth.

(7)Ac eithrio fel y’i darperir gan is-baragraff (6), ni ellir rhoi’r gymeradwyaeth at ddibenion paragraff 41 yn ddarostyngedig i amod ac mae amod a osodir yn wahanol i’r hyn a ddarperir felly i’w ddiystyru.

(8)Os yw’r perchennog yn methu â chyflwyno’r hysbysiad neu’n gwrthod cymeradwyo’r aseiniad caiff y meddiannydd wneud cais i’r tribiwnlys am orchymyn sy’n datgan bod yr aseiniad wedi ei gymeradwyo at ddibenion paragraff 41 a chaiff y tribiwnlys wneud gorchymyn o’r fath os yw’n barnu bod hynny’n addas.

(9)Os cyfyd cwestiwn ynghylch a gyflwynwyd yr hysbysiad sy’n ofynnol gan is-baragraff (3)(b) cyn pen y cyfnod gofynnol o 28 o ddiwrnodau, y perchennog sydd i ddangos bod yr hysbysiad wedi ei gyflwyno felly.

(10)Os na chymeradwyodd y perchennog yr aseiniad a chyfyd cwestiwn ynghylch a oedd yn rhesymol i’r perchennog beidio â gwneud hynny, y perchennog sydd i ddangos bod hynny’n rhesymol.

(11)O ran cais neu hysbysiad o dan y paragraff hwn—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig, a

(b)caniateir ei gyflwyno drwy’r post.

(12)Yn ddarostyngedig i is-baragraff (13), rhaid i gais gan feddiannydd i’r tribiwnlys o dan is-baragraff (8) gael ei wneud—

(a)cyn pen y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau drannoeth y dyddiad y caiff y meddiannydd yr hysbysiad penderfynu, neu

(b)pan na fo’r meddiannydd yn cael hysbysiad penderfynu, cyn pen y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau â’r dyddiad sy’n 29 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyflwynodd y meddiannydd y cais o dan is-baragraff (1).

(13)Caiff tribiwnlys ganiatáu i gais o dan is-baragraff (8) gael ei wneud i’r tribiwnlys ar ôl y cyfnod cymwys a bennir yn is-baragraff (12) os yw wedi ei fodloni bod, o dan yr holl amgylchiadau, resymau da dros y methiant i wneud cais cyn diwedd y cyfnod hwnnw a thros unrhyw oedi ers hynny wrth wneud cais am ganiatâd i wneud y cais allan o amser.

Adennill gordaliadau gan feddiannydd

43Os terfynir y cytundeb fel y crybwyllir ym mharagraffau 37, 38, 39 neu 40, mae gan y meddiannydd hawl i adennill oddi ar y perchennog gymaint o unrhyw daliad a wnaed gan y meddiannydd yn unol â’r cytundeb ag sydd i’w briodoli i gyfnod sy’n dechrau ar ôl y terfynu.

Ail-leoli cartref symudol

44(1)Mae gan y perchennog hawl i’w gwneud yn ofynnol bod hawl y meddiannydd i osod y cartref symudol yn arferadwy am unrhyw gyfnod o ran llain arall sy’n ffurfio rhan o’r safle gwarchodedig neu lain sy’n ffurfio rhan o safle gwarchodedig arall (“y llain arall”)—

(a)os bydd tribiwnlys, ar gais y perchennog, wedi ei fodloni bod y llain arall yn debyg yn fras i lain wreiddiol y meddiannydd a’i bod yn rhesymol gosod y cartref symudol ar y llain arall am y cyfnod hwnnw, neu

(b)os bydd angen i’r perchennog wneud gwaith trwsio hanfodol neu waith brys nad oes modd ei wneud ond os caiff y cartref symudol ei symud i’r llain arall am y cyfnod hwnnw, a bod y llain arall yn debyg yn fras i lain wreiddiol y meddiannydd.

(2)Nid yw llain sy’n ffurfio rhan o safle gwarchodedig arall, at ddibenion is-baragraff (1)(a), yn debyg yn fras i lain wreiddiol y meddiannydd, ond os yw’n rhoi mynediad i wasanaethau iechyd ac addysg sy’n ofynnol gan y meddiannydd sydd, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, yn debyg yn fras i’r mynediad a roddwyd gan lain wreiddiol y meddiannydd.

(3)Os yw’r perchennog yn ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd osod y cartref symudol ar y llain arall er mwyn i’r perchennog gallu rhoi sylfaen newydd i’r cartref symudol gael ei osod arni neu i wneud gwaith trwsio i’r sylfaen honno, rhaid i’r perchennog, os yw’r meddiannydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog wneud hynny, sicrhau bod y cartref symudol yn cael ei ddychwelyd i’r llain wreiddiol ar ôl i’r gwaith o roi sylfaen newydd neu’r gwaith trwsio gael ei gwblhau.

(4)Rhaid i’r perchennog dalu’r holl gostau a threuliau y mae’r meddiannydd yn mynd iddynt mewn cysylltiad â symud y cartref symudol i’r llain arall ac yn ôl.

(5)Yn y paragraff hwn ac ym mharagraff 46 ystyr “gwaith trwsio hanfodol neu waith brys” yw—

(a)gwaith trwsio i’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni,

(b)gwaith trwsio i unrhyw adeiladau allanol a chyfleusterau a ddarperir gan y perchennog ar y llain ac i unrhyw wasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill neu amwynderau eraill a ddarperir gan y perchennog yn yr adeiladau allanol hynny,

(c)gwaith neu waith trwsio y mae ei angen i gydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol, neu

(d)gwaith neu waith trwsio mewn cysylltiad ag adfer ar ôl llifogydd, tirlithriad neu drychineb naturiol arall.

Mwynhau’r cartref symudol yn ddidramgwydd

45Mae gan y meddiannydd hawl i fwynhau’r cartref symudol ynghyd â’r llain yn ddidramgwydd yn ystod cyfnod y cytundeb, yn ddarostyngedig i baragraffau 44 a 46.

Hawl y perchennog i fynd i’r llain

46(1)Caiff y perchennog fynd i’r llain heb hysbysiad ymlaen llaw rhwng 9 am a 6 pm—

(a)i roi gohebiaeth ysgrifenedig, gan gynnwys post a hysbysiadau, i’r meddiannydd, a

(b)i ddarllen unrhyw fesurydd gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog.

(2)Caiff y perchennog fynd i’r llain i wneud gwaith trwsio hanfodol neu waith brys ar ôl rhoi cymaint o hysbysiad i’r meddiannydd (boed mewn ysgrifen neu fel arall) ag sy’n rhesymol ymarferol o dan yr amgylchiadau.

(3)Oni bai bod y meddiannydd wedi cytuno fel arall, caiff y perchennog fynd i’r llain am reswm heblaw’r un a bennir yn is-baragraff (1) neu (2) neu dim ond os yw’r perchennog wedi rhoi o leiaf 14 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig o ddyddiad ac amser yr ymweliad a’r rheswm drosto.

(4)Nid yw’r hawliau a roddir gan y paragraff hwn yn ymestyn i’r cartref symudol.

Y ffi am y llain

47(1)Dim ond yn unol â’r paragraff hwn y caniateir newid y ffi am y llain, naill ai—

(a)gyda chytundeb y meddiannydd, neu

(b)os bydd tribiwnlys, ar gais y perchennog neu’r meddiannydd, o’r farn ei bod yn rhesymol i’r ffi am y llain gael ei newid a’i fod yn gwneud gorchymyn sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain.

(2)Rhaid i’r ffi am y llain gael ei hadolygu’n flynyddol ar ddyddiad yr adolygiad.

(3)O leiaf 28 o ddiwrnodau clir cyn dyddiad yr adolygiad rhaid i’r perchennog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd sy’n nodi cynigion y perchennog o ran y ffi newydd am y llain.

(4)Os bydd y meddiannydd yn cytuno i’r ffi newydd arfaethedig am y llain, mae’n daladwy o ddyddiad yr adolygiad ymlaen.

(5)Os na fydd y meddiannydd yn cytuno i’r ffi newydd arfaethedig am y llain—

(a)caiff y perchennog wneud cais i dribiwnlys am orchymyn o dan is-baragraff (1)(b) sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain,

(b)rhaid i’r meddiannydd barhau i dalu’r ffi gyfredol am y llain i’r perchennog hyd nes y cytunir ar y ffi newydd am y llain gan y meddiannydd neu y gwneir gorchymyn sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain gan dribiwnlys o dan is-baragraff (1)(b), ac

(c)mae’r ffi newydd am y llain yn daladwy o ddyddiad yr adolygiad ymlaen ond rhaid peidio â barnu bod y meddiannydd mewn ôl-ddyledion tan yr 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y cytunwyd ar y ffi newydd am y llain neu, yn ôl y digwydd, yr 28ain diwrnod ar ôl dyddiad gorchymyn y tribiwnlys sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain.

(6)Caniateir i gais o dan is-baragraff (5)(a) gael ei wneud unrhyw bryd ar ôl diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr adolygiad ond heb fod yn fwy na 3 mis ar ôl dyddiad yr adolygiad.

(7)Mae is-baragraffau (8) i (12) yn gymwys os bydd y perchennog—

(a)heb gyflwyno’r hysbysiad y gofynnir amdani o dan is-baragraff (3) erbyn yr amser yr oedd yn ofynnol ei gyflwyno, ond

(b)ar unrhyw adeg wedyn yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd sy’n nodi cynigion y perchennog o ran ffi newydd am y llain.

(8)Os bydd y meddiannydd (unrhyw bryd) yn cytuno i’r ffi arfaethedig am y llain, mae’n daladwy o’r 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad o dan is-baragraff (7)(b).

(9)Os na fydd y meddiannydd wedi cytuno i’r ffi arfaethedig am y llain—

(a)caiff y perchennog wneud cais i dribiwnlys am orchymyn o dan is-baragraff (1)(b) sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain,

(b)rhaid i’r meddiannydd barhau i dalu’r ffi gyfredol am y llain i’r perchennog hyd nes y cytunir ar y ffi newydd am y llain gan y meddiannydd neu y gwneir gorchymyn sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain gan dribiwnlys o dan is-baragraff (1)(b), ac

(c)os bydd tribiwnlys yn gwneud gorchymyn o’r fath, mae’r ffi newydd am y llain yn daladwy o’r 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad o dan is-baragraff (7)(b).

(10)Caniateir i gais o dan is-baragraff (9) gael ei wneud unrhyw bryd ar ôl diwedd y cyfnod o 56 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad o dan is-baragraff (7)(b) ond heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl y dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad hwnnw.

(11)Caiff tribiwnlys ganiatáu i gais o dan is-baragraff (5)(a) neu (9)(a) gael ei wneud iddo y tu allan i’r terfyn amser a bennir yn is-baragraff (6) (yn achos cais o dan is-baragraff (5)(a)) neu yn is-baragraff (10) (yn achos cais o dan is-baragraff (9)(a)) os bydd wedi ei fodloni, o dan yr holl amgylchiadau, fod rhesymau da dros fethu â gwneud cais o fewn y terfyn amser cymwys a thros unrhyw ohirio ers hynny wrth wneud cais am ganiatâd i wneud y cais y tu allan i’r amser.

(12)Rhaid peidio â thrin y meddiannydd fel pe bai mewn ôl-ddyledion—

(a)pan fo is-baragraff (8) yn gymwys, tan yr 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y cytunir ar y ffi newydd am y llain, neu

(b)pan fo is-baragraff (9)(b) yn gymwys, tan yr 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y cytunir ar y ffi newydd am y llain neu, yn ôl y digwydd, yr 28ain diwrnod ar ôl dyddiad gorchymyn tribiwnlys sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain.

48(1)Wrth bennu swm y ffi newydd am y llain rhaid rhoi sylw yn benodol i’r canlynol—

(a)unrhyw symiau a wariwyd gan y perchennog ers dyddiad yr adolygiad diwethaf ar welliannau—

(i)sydd er lles meddianwyr cartrefi symudol ar y safle gwarchodedig,

(ii)a fu’n destun ymgynghori yn unol â pharagraff 52(1)(f) ac (g), a

(iii)nad yw mwyafrif o’r meddianwyr wedi anghytuno â hwy mewn ysgrifen neu, yn achos anghytuno o’r fath, y mae tribiwnlys, ar gais y perchennog, wedi gorchymyn y dylid eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu swm y ffi newydd am y llain,

(b)unrhyw ostyngiad yn amwynder y safle gwarchodedig ers dyddiad yr adolygiad diwethaf, ac

(c)effaith unrhyw ddeddfiad sydd wedi dod i rym ers dyddiad yr adolygiad diwethaf.

(2)Wrth gyfrifo faint yw mwyafrif o’r meddianwyr at ddibenion is-baragraff (1)(a)(iii) rhaid cymryd mai 1 meddiannydd yn unig sydd gan bob cartref symudol ac os oes mwy nag 1 meddiannydd cartref symudol, cymerir mai’r meddiannydd yw p’un bynnag ohonynt y mae’r meddianwyr yn cytuno arno neu, yn niffyg cytundeb, yr un y mae ei enw’n ymddangos gyntaf ar y cytundeb.

(3)Mewn achos lle nad yw’r ffi am y llain wedi ei hadolygu o’r blaen, mae cyfeiriadau yn y paragraff hwn at ddyddiad yr adolygiad diwethaf i’w darllen fel cyfeiriadau at y dyddiad y cychwynnodd y cytundeb.

49Wrth bennu swm y ffi newydd am y llain, ni chaniateir rhoi sylw—

(a)i unrhyw gostau yr aed iddynt gan y perchennog mewn cysylltiad ag ehangu’r safle gwarchodedig, neu

(b)i unrhyw gostau yr aed iddynt gan y perchennog mewn cysylltiad â chynnal achos o dan y Rhan hon neu’r cytundeb.

50(1)Oni bai y byddai hynny’n afresymol, o roi sylw i baragraff 48(1), rhagdybir bod y ffi am y llain i gynyddu neu i ostwng yn ôl canran nad yw’n fwy na chanran unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn y mynegai prisiau defnyddwyr a gyfrifir drwy gyfeirio’n unig at y canlynol—

(a)y mynegai diweddaraf, a

(b)y mynegai a gyhoeddwyd am y mis a syrthiodd 12 mis cyn y mis y mae’r mynegai diweddaraf yn cyfeirio ato.

(2)Yn is-baragraff (1) ystyr “y mynegai diweddaraf”—

(a)mewn achos pan fo’r perchennog yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 47(3), yw’r mynegai diwethaf a gyhoeddwyd cyn y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad hwnnw, a

(b)mewn achos pan fo’r perchennog yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 47(7)(b), yw’r mynegai diwethaf a gyhoeddwyd cyn y diwrnod yr oedd yn ofynnol i’r perchennog gyflwyno hysbysiad o dan baragraff 47(3).

Rhwymedigaethau’r meddiannydd a rhwymedigaethau cyfatebol y perchennog

51(1)Rhaid i’r meddiannydd—

(a)talu’r ffi am y llain i’r perchennog,

(b)talu i’r perchennog yr holl symiau sy’n ddyledus o dan y cytundeb o ran gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog,

(c)cadw’r cartref symudol mewn cyflwr cadarn,

(d)cadw—

(i)y tu allan i’r cartref symudol, a

(ii)y llain, gan gynnwys pob ffens ac adeilad allanol sy’n perthyn iddi ac i’r cartref symudol, neu a fwynheir gyda hwy,

mewn cyflwr glân a chymen, ac

(e)os bydd y perchennog yn gofyn, rhoi tystiolaeth ddogfennol i’r perchennog o unrhyw gostau neu dreuliau y bydd y meddiannydd yn gofyn am ad-daliad yn eu cylch.

(2)Rhaid i’r perchennog beidio â gwneud unrhyw beth na pheri i unrhyw beth gael ei wneud a allai effeithio’n andwyol ar allu’r meddiannydd i gyflawni rhwymedigaethau’r meddiannydd o dan is-baragraff (1)(c) a (d).

Rhwymedigaethau eraill y perchennog

52(1)Rhaid i’r perchennog—

(a)os bydd y meddiannydd yn gofyn, ac os bydd y meddiannydd yn talu tâl nad yw’n fwy na £30, roi manylion ysgrifenedig cywir am y canlynol—

(i)maint y llain a’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni, a

(ii)lleoliad y llain a’r sylfaen o fewn y safle gwarchodedig,

a rhaid i’r manylion gynnwys mesuriadau rhwng pwyntiau gosod y gellir eu hadnabod ar y safle gwarchodedig a’r llain a’r sylfaen,

(b)os bydd y meddiannydd yn gofyn, rhoi tystiolaeth ddogfennol (yn ddi-dâl) i ategu ac i esbonio—

(i)unrhyw ffi newydd am y llain,

(ii)unrhyw daliadau am wasanaethau nwy, trydan, dŵr carthffosiaeth neu wasanaethau eraill sy’n daladwy gan y meddiannydd i’r perchennog o dan y cytundeb, a

(iii)unrhyw daliadau, costau neu dreuliau eraill sy’n daladwy gan y meddiannydd i’r perchennog o dan y cytundeb,

(c)bod yn gyfrifol am drwsio’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni ac am gynnal unrhyw wasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog i’r llain neu i’r cartref symudol,

(d)bod yn gyfrifol am atgyweirio amwynderau eraill a ddarperir gan y perchennog ar y llain gan gynnwys unrhyw adeiladau allanol a chyfleusterau a ddarperir.

(e)cadw’r rhannau hynny o’r safle gwarchodedig, gan gynnwys ffyrdd mynediad, ffensys terfyn y safle a choed, nad ydynt yn gyfrifoldeb i feddiannydd unrhyw gartref symudol a osodwyd ar y safle gwarchodedig, mewn cyflwr glân a chymen,

(f)ymgynghori â’r meddiannydd ynghylch gwelliannau i’r safle gwarchodedig yn gyffredinol, ac yn arbennig ynghylch y rhai y mae’r perchennog yn dymuno iddynt gael eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu swm unrhyw ffi newydd am y llain, ac

(g)ymgynghori â chymdeithas trigolion gymwys (os oes un) ynghylch pob mater sy’n ymwneud â gweithredu a rheoli’r safle gwarchodedig, gwelliannau iddo ac a allai effeithio ar y meddianwyr naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

(2)At ddibenion is-baragraff (1)(f), ystyr “ymgynghori” â’r meddiannydd yw—

(a)rhoi o leiaf 28 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd am y gwelliannau arfaethedig sydd—

(i)yn disgrifio’r gwelliannau arfaethedig a sut y byddant o les i’r meddiannydd yn y tymor hir a’r tymor byr,

(ii)yn manylu ar sut y gellid effeithio ar y ffi am y llain y tro nesaf y caiff ei hadolygu, a

(iii)yn datgan pryd a ble y caiff y meddiannydd gyflwyno sylwadau am y gwelliannau arfaethedig, a

(b)cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y meddiannydd ynghylch y gwelliannau arfaethedig, yn unol â pharagraff (a)(iii), cyn ymgymryd â hwy.

(3)At ddibenion is-baragraff (1)(g), ystyr “ymgynghori” â chymdeithas trigolion gymwys yw—

(a)rhoi o leiaf 28 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig i’r gymdeithas neu’r meddianwyr am y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(g) sydd—

(i)yn disgrifio’r materion a sut y gallent effeithio ar y meddianwyr naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn y tymor hir a’r tymor byr, a

(ii)yn datgan pryd a ble y caiff y gymdeithas neu’r meddianwyr gyflwyno sylwadau am y materion, a

(b)cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y gymdeithas neu’r meddianwyr, yn unol â pharagraff (a)(ii), cyn bwrw ymlaen â’r materion.

Enw a chyfeiriad y perchennog

53(1)Rhaid i’r perchennog roi gwybod i’r meddiannydd ac unrhyw gymdeithas trigolion gymwys, drwy hysbysiad, am y cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr lle y caniateir i hysbysiadau (gan gynnwys hysbysiadau achosion) gael eu cyflwyno i’r perchennog gan y meddiannydd neu gan gymdeithas trigolion gymwys.

(2)Os bydd y perchennog yn methu cydymffurfio ag is-baragraff (1), yna mae unrhyw swm sy’n ddyledus fel arall gan y meddiannydd i’r perchennog o ran y ffi am y llain i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog gydymffurfio â’r is-baragraff hwnnw.

(3)Os bydd y perchennog yn unol â’r cytundeb yn rhoi unrhyw hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd neu (yn ôl y digwydd) i gymdeithas trigolion gymwys, rhaid i’r hysbysiad gynnwys enw a chyfeiriad y perchennog.

(4)Pan fo—

(a)y meddiannydd neu gymdeithas trigolion gymwys yn cael hysbysiad o’r fath, ond

(b)nid yw’r cais hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (3),

mae’r hysbysiad i’w drin fel pe na bai wedi ei roi hyd nes y bydd y perchennog yn rhoi’r wybodaeth i’r meddiannydd neu (yn ôl y digwydd) y gymdeithas o ran yr hysbysiad.

(5)Nid oes dim yn is-baragraffau (3) a (4) yn gymwys i unrhyw hysbysiad sy’n cynnwys hawliad y mae paragraff 54(1) yn gymwys iddo.

54(1)Os bydd y perchennog yn gwneud unrhyw hawliad i’r meddiannydd dalu’r ffi am y llain, neu o ran gwasanaethau a ddarparwyd neu daliadau eraill, rhaid i’r hawliad gynnwys enw a chyfeiriad y perchennog.

(2)Pan fo—

(a)y meddiannydd yn cael hawliad o’r fath, ond

(b)nid yw’r cais hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (1), mae’r swm a hawlir i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog roi’r wybodaeth honno i’r meddiannydd o ran yr hawliad.

RHAN 2MATERION Y CANIATEIR I DELERAU GAEL EU YMHLYGU YN EU CYLCH GAN Y CORFF BARNWROL PRIODOL

55Y symiau sy’n daladwy gan y meddiannydd yn unol â’r cytundeb a’r amserau y maent i gael eu talu.

56Adolygiad blynyddol o’r symiau sy’n daladwy gan y meddiannydd yn unol â’r cytundeb.

57Darparu neu wella gwasanaethau sydd ar gael ar y safle gwarchodedig, a defnyddio gwasanaethau o’r fath gan y meddiannydd.

58Cadw amwynder y safle gwarchodedig.

(a gyflwynir gan adran 57)

ATODLEN 3DARPARIAETHAU PELLACH YNGHYLCH GORCHMYNION SY’N YMWNEUD Â THIR COMIN

Dyletswydd i ymgynghori â gwarchodwyr

1Cyn gwneud gorchymyn o dan adran 57(2) o ran tir sy’n dir comin neu sy’n ffurfio rhan o dir comin y mae gwarchodwyr wedi eu penodi iddo o dan unrhyw Ddeddf leol, neu o dan unrhyw orchymyn a wnaed o dan Ddeddf Seneddol, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r gwarchodwyr.

Y weithdrefn ynglŷn â gwneud gorchmynion sy’n gosod gwaharddiadau

2Cyn gwneud unrhyw orchymyn o dan adran 57(2), heblaw gorchymyn ei unig effaith yw dirymu neu amrywio gorchymyn blaenorol, rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi mewn 1 neu ragor o bapurau newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r tir wedi ei leoli ynddi hysbysiad—

(a)sy’n datgan effaith gyffredinol y gorchymyn,

(b)sy’n pennu lle yn yr ardal honno lle y gall unrhyw berson edrych ar gopi o’r gorchymyn drafft yn rhad ac am ddim ar bob adeg resymol yn ystod cyfnod o 28 o ddiwrnodau o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad am y tro cyntaf, ac

(c)sy’n datgan y caiff unrhyw berson wrthwynebu gwneud y gorchymyn, o fewn y cyfnod hwnnw, drwy hysbysiad i’r awdurdod lleol.

3(1)Heb fod yn hwyrach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad o dan baragraff 2 am y tro cyntaf, rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno copi ohono i bob person sydd â hawl fel arglwydd y maenor neu fel arall i bridd y tir oni bai bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y personau sydd â hawl i bridd y tir yn niferus neu ei fod ar ôl ymholi’n ddiwyd yn methu eu canfod.

(2)Caniateir i hysbysiad o dan is-baragraff (1) gael ei gyflwyno i unrhyw berson drwy ei anfon mewn llythyr cofrestredig wedi ei gyfeirio at y person yng nghyfeiriad arferol neu gyfeiriad hysbys diweddaraf y person.

4(1)Os bydd gwrthwynebiad i wneud y gorchymyn y mae’r hysbysiad yn cyfeirio ato wedi ei wneud yn y modd priodol i’r awdurdod lleol gan unrhyw beron sydd â hawl i bridd y tir cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y cyhoeddir hysbysiad o dan baragraff 2 am y tro cyntaf, ac nad yw’r hysbysiad yn cael ei dynnu’n ôl wedyn, rhaid i’r awdurdod lleol beidio â bwrw ymlaen i wneud y gorchymyn.

(2)Yn ddarostyngedig i hynny, caiff yr awdurdod lleol, ar unrhyw adeg o fewn 1 flwyddyn ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, wneud gorchymyn yn nhelerau’r gorchymyn drafft.

(3)Ond os cafodd unrhyw wrthwynebiad i wneud y gorchymyn ei wneud yn y modd priodol o fewn y cyfnod hwnnw gan person a oedd heb hawl i bridd y tir, ac nad yw’r gwrthwynebiad wedi ei dynnu’n ôl ar y dyddiad y gwneir y gorchymyn, nid yw’r gorchymyn yn effeithiol hyd nes ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru.

(4)Os bydd yr awdurdod lleol yn cyflwyno gorchymyn i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau, rhaid iddo anfon copi at Weinidogion Cymru o bob gwrthwynebiad o’r fath y cyfeirir ato yn is-baragraff (3).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried pob gwrthwynebiad o’r fath ac (os ydynt yn gweld yn dda) ar ôl peri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal, gadarnhau neu wrthod cadarnhau’r gorchymyn ac, os byddant yn ei gadarnhau, cânt wneud hynny yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau y maent yn credu eu bod yn ddymunol (os oes addasiadau o gwbl).

Hysbysu gorchmynion eraill i arglwyddi maenorau

5Os unig effaith gorchymyn o dan adran 57(2) yw dirymu neu amrywio gorchymyn blaenorol (fel nad yw paragraffau 2 i 4 yn gymwys o ran gwneud y gorchymyn) rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno unrhyw hysbysiadau, a chymryd unrhyw gamau eraill, y mae’n ymddangos iddo eu bod yn briodol i roi gwybod i’r personau sydd â hawl i bridd y tir am effaith y gorchymyn.

Tir y Goron

6(1)Pan fwriedir gwneud gorchymyn o’r math a ddisgrifir ym mharagraff 2 o ran tir y mae buddiant ynddo gan y Goron neu Ddugaeth, a bod natur y buddiant yn golygu y byddai gan y person y mae’r buddiant yn perthyn iddo, heblaw am y paragraff hwn, hawl o dan baragraff 3 i gael copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw—

(a)mae paragraff 3 yn effeithiol fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i’r copi gael ei gyflwyno yn hytrach i’r awdurdod priodol, a

(b)nid yw paragraff 4(1) yn gymwys o ran y gorchymyn ond rhaid i’r awdurdod lleol beidio â gwneud y gorchymyn hyd nes ac oni bai ei fod wedi sicrhau cydsyniad ysgrifenedig yr awdurdod priodol.

(2)Yn y paragraff hwn ystyr “buddiant gan y Goron neu Ddugaeth” yw buddiant sy’n perthyn i’w Mawrhydi yn rhinwedd hawl y Goron neu hawl Dugaeth Caerhirfryn, neu sy’n perthyn i Ddugaeth Cernyw, neu sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth, neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth i’w Mawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth.

(3)Yn y paragraff hwn ystyr “yr awdurdod priodol”—

(a)o ran tir sy’n perthyn i’w Mawrhydi yn rhinwedd hawl y Goron ac sy’n ffurfio rhan o Ystâd y Goron, yw Comisiynwyr Ystâd y Goron, ac, o ran unrhyw dir arall sy’n perthyn i’w Mawrhydi yn rhinwedd hawl y Goron, yw’r adran o’r llywodraeth sy’n rheoli’r tir hwnnw,

(b)o ran tir sy’n perthyn i’w Mawrhydi yn rhinwedd hawl Dugaeth Caerhirfryn, yw Canghellor y Ddugaeth,

(c)o ran tir sy’n perthyn i Ddugaeth Cernyw, yw unrhyw berson y mae Dug Cernyw, neu berchennog Dugaeth Cernyw am y tro, yn ei benodi, a

(d)o ran tir sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth i’w Mawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth, yw’r adran honno.

(4)Os bydd unrhyw gwestiwn yn codi o ran pa awdurdod yw’r awdurdod priodol o ran unrhyw dir, mae’r cwestiwn hwnnw i’w gyfeirio at y Trysorlys, sydd biau’r penderfyniad terfynol.

(a gyflwynir gan adran 58)

ATODLEN 4DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Deddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 (p. 62)

1(1)Mae Deddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 1, ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Subsection (1) does not apply in relation to a regulated site within the meaning of the Mobile Homes (Wales) Act 2013.

(3)Yn adran 23—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “any land” mewnosoder “in England”, a

(b)hepgorer is-adran (9).

(4)Yn adran 24—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “local authority” mewnosoder “in England”, a

(b)yn is-adran (8), hepgorer “in England”.

Deddf Safleoedd Carafannau 1968 (p. 52)

2(1)Mae Deddf Safleoedd Carafannau 1968 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 1(2), ar ôl “any land” mewnosoder “in England”.

(3)Yn adran 3—

(a)yn is-adrannau (1)(c) ac (1A)(b), hepgorer “or, if the site concerned is in Wales, persistently withdraws or withholds”,

(b)yn is-adran (1AA), hepgorer “in England”.

(4)Yn adran 13(3), yn lle “Minister” rhodder “Secretary of State”.

(5)Yn adran 16, hepgorer y diffiniad o “the Minister”.

Deddf Ardrethu (Safleoedd Carafannau) 1976 (p. 15)

3Yn adran 6 o Ddeddf Ardrethu (Safleoedd Carafannau) 1976—

(a)ym mharagraff (b)—

(i)yn lle “that Act” rhodder “the Caravan Sites and Control of Development Act 1960 or Part 2 of the Mobile Homes (Wales) Act 2013”, a

(ii)yn lle “the Act” rhodder “the Caravan Sites and Control of Development Act 1960 or paragraph 4 and paragraph 11 of Schedule 1 to the Mobile Homes (Wales) Act 2013”, a

(b)ym mharagraff (d)—

(i)yn lle “that Act” rhodder “the Caravan Sites and Control of Development Act 1960”, a

(ii)mewnosoder ar y diwedd “or is for purposes of the Mobile Homes (Wales) Act 2013 the owner of the caravan site”.

Deddf Cartrefi Symudol 1983 (p. 34)

4(1)Mae Deddf Cartrefi Symudol 1983 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 1—

(a)yn is-adran (2)(e), yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”,

(b)yn is-adran (8A), hepgorer “in England and Wales”, ac

(c)yn is-adran (9)(b), hepgorer “if made by the Secretary of State,”.

(3)Yn adran 2(6), hepgorer “in England and Wales”.

(4)Yn adran 2A—

(a)yn is-adran (1), yn lle—

(i)“appropriate national authority” a

(ii)“authority” (yn yr ail le),

rhodder “Secretary of State”,

(b)yn is-adran (5)—

(i)hepgorer “by the appropriate national authority”, a

(ii)yn lle “the authority” ac yn lle “it” (yn y ddau le) rhodder “the Secretary of State”, a

(c)yn is-adran (6), hepgorer “by the Secretary of State”.

(5)Yn adran 2C(1), yn lle “in England (other than a gypsy and traveller site)” rhodder “, other than a gypsy and traveller site,”.

(6)Yn adran 3(4)—

(a)ym mharagraff (b), hepgorer “in relation to a protected site in England; or”, a

(b)hepgorer paragraff (c).

(7)Yn adran 4—

(a)yn y pennawd hepgorer “: England and Wales”, a

(b)yn is-adrannau (1) a (3), hepgorer “in England or in Wales”.

(8)Yn adran 5—

(a)hepgorer y diffiniad o “the appropriate national authority”, a

(b)yn y diffiniad o “the court”, hepgorer “and Wales”.

(9)Yn Rhan 1 o Atodlen 1—

(a)ym Mhennod 1, ym mharagraff 1(1), (2) a (3), hepgorer “in England and Wales”,

(b)ym mhennawd Pennod 2 hepgorer “IN ENGLAND AND WALES”,

(c)ym Mhennod 2, ym mharagraff 7A, hepgorer is-baragraff (1),

(d)ym Mhennod 2, hepgorer paragraff 8,

(e)ym Mhennod 2, ym mharagraff 8A, hepgorer is-baragraff (1),

(f)ym Mhennod 2, hepgorer paragraff 9,

(g)ym Mhennod 2, ym mharagraff 17—

(i)yn is-baragraff (2A), yn lle “In the case of a protected site in England, a” rhodder “A”,

(ii)yn is-baragraff (4)(a), hepgorer “or (in the case of a protected site in England)”,

(iii)yn is-baragraff (6A), hepgorer yn lle “In the case of a protected site in England, a” rhodder “A”,

(iv)yn is-baragraff (8)(a), hepgorer “(in the case of a protected site in England)”, a

(v)yn is-baragraff (11), hepgorer “in England”,

(h)ym Mhennod 2, ym mharagraff 18—

(i)ym mharagraffau (aa) a (ab) o is-baragraff (1), hepgorer “in the case of a protected site in England,”,

(ii)hepgorer paragraff (b) o’r is-baragraff hwnnw,

(iii)yn is-baragraff (ba) o’r is-baragraff hwnnw, hepgorer “in the case of a protected site in England,”,

(iv)hepgorer paragraff (c) o’r is-baragraff hwnnw,

(v)yn is-baragraff (1A), hepgorer “, in the case of a pitch in England,”,

(i)ym Mhennod 2, ym mharagraff 19(3) a (4), yn lle “In the case of a protected site in England, when” rhodder “When”,

(j)ym Mhennod 2, ym mharagraff 20—

(i)yn is-baragraff (A1), yn lle “In the case of a protected site in England, unless” rhodder “Unless”, a

(ii)hepgorer is-baragraffau (1) a (2),

(k)ym mhenawdau Penodau 3 a 4, hepgorer “IN ENGLAND AND WALES”,

(l)ym Mhennod 4 hepgorer paragraffau 6A a 6B,

(m)ym Mhennod 4, ym mharagraff 8, hepgorer is baragraff (1A),

(n)ym Mhennod 4, ym mharagraff 16—

(i)yn is-baragraff (2), yn lle “In the case of a protected site in England, when ” rhodder “When”, a

(ii)hepgorer is-baragraff (2A),

(o)ym Mhennod 4, ym mharagraff 18—

(i)yn is-baragraff (2), yn lle “In the case of protected site in England, there” rhodder “There”, a

(ii)hepgorer is-baragraffau (1A) a (1B),

(p)ym Mhennod 4, ym mharagraff 26—

(i)yn is-baragraff (2), yn lle “In the case of a protected site in England, when” rhodder “When”, a

(ii)hepgorer is-baragraff (2A), a

(q)ym Mhennod 4, paragraff 27, hepgorer y diffiniad o “consumer prices index”

(10)Hepgorer Rhan 3 o Atodlen 1.

Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p. 41)

5Ym mharagraff 2B(5) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn y diffiniad o “caravan site”—

(a)yn lle “that Act” rhodder “the Caravan Sites and Control of Development Act 1960 or Part 2 of the Mobile Homes (Wales) Act 2013”, a

(b)yn lle “the Act” rhodder “the Caravan Sites and Control of Development Act 1960 or paragraph 4 and paragraph 11 of Schedule 1 to the Mobile Homes (Wales) Act 2013”.

Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8)

6(1)Mae Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 71(4), ar ôl “caravan site” mewnosoder “or under Part 2 of the Mobile Homes (Wales) Act 2013 authorising the use of the land as a site for mobile homes (within the meaning of that Act)”.

(3)Yn adran 191(7)(a), ar ôl “1960” mewnosoder “or section 7(1) of the Mobile Homes (Wales) Act 2013;”.

Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19)

7Yn Atodlen 16 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, hepgorer paragraff 16(1) a (2).

Deddf yr Amgylchedd 1995 (p.25)

8(1)Mae Atodlen 9 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff 1(2)(c), ar ôl “commons)” mewnosoder “or section 57 of and Schedule 3 to the Mobile Homes (Wales) Act 2013 (power of local authority in Wales to prohibit caravans on commons)”.

(3)Ar ôl paragraff 4 mewnosoder—

4AIn the Mobile Homes (Wales) Act 2013—

(a)section 56 (power of local authority to provide mobile home sites), and

(b)paragraph 11 of Schedule 1 (no site licence required by land owned by local authority),

shall have effect as if a National Park Authority were a local authority for the purposes of that Act and as if the relevant Park were that Authority’s area.

Deddf Tai 2004 (p. 34)

9(1)Mae Deddf Tai Act 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 230—

(a)yn is-adran (5ZA), ar ôl “the Caravan Sites and Control of Development Act 1960” mewnosoder “or Part 2 of the Mobile Homes (Wales) Act 2013”,

(b)yn is-adran (5A), ar ôl “1983” mewnosoder “or Part 4 of the Mobile Homes (Wales) Act 2013”, ac

(c)yn is-adran (5B)—

(i)yn y diffiniad o “mobile home” a “protected site”, ar ôl “Act)” mewnosoder “or the Mobile Homes (Wales) Act 2013 (see sections 2 and 60 of that Act)”,

(ii)yn y diffiniad o “pitch”, yn lle “that Act” rhodder “the Mobile Homes Act 1983 or section 55 of the Mobile Homes (Wales) Act 2013”, a

(iii)yn y diffiniad o “pitch fee”, yn lle “that Act, as the case may be” rhodder “the Mobile Homes Act 1983 (as the case may be) or section 60 of the Mobile Homes (Wales) Act 2013”.

(3)Yn Atodlen 13—

(a)ym mharagraff 3(6), yn lle “or the Mobile Homes Act 1983” rhodder “, the Mobile Homes Act 1983 or the Mobile Homes (Wales) Act 2013”, a

(b)ym mharagraff 8(2), yn lle “or of the Mobile Homes Act 1983” rhodder “, any provision of the Mobile Homes Act 1983 or any provision of the Mobile Homes (Wales) Act 2013”.

Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (p. 13)

10Yn Atodlen 3 i Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008, ar ôl yr eitem yn ymwneud â Deddf Mwynfeydd a Chwareli (Tomenni) 1969 mewnosoder—

  • Mobile Homes (Wales) Act 2013.

Deddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15)

11Ym mharagraff 30D(5) o Atodlen 3 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010—

(a)yn y diffiniad o “mobile home agreement”, ar ôl “1983” mewnosoder “or Part 4 of the Mobile Homes (Wales) Act 2013”, a

(b)yn y diffiniad o “owner”, “protected site” a “mobile home”, ar ôl “Act” mewnosoder “or that Part of that Act”.

(a gyflwynir gan adran 58)

ATODLEN 5DARPARIAETHAU TROSIANNOL A DARFODOL AC ARBEDION

Ceisiadau am drwyddedau safle sydd yn yr arfaeth

1Mae cais am drwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 o ran safle rheoleiddiedig sydd wedi ei wneud i awdurdod lleol, ond sydd heb ei benderfynu ganddo, cyn i Ran 2 ddod i rym i’w drin ar ôl i’r Rhan honno ddod i rym fel cais i awdurdod lleol am drwydded safle o dan y Rhan honno o ran y safle rheoleiddiedig.

Parhau trwyddedau safle presennol am y tro

2(1)Nid yw dod â Rhan 2 a pharagraff 1(2) o Atodlen 4 i rym yn effeithio ar barhad gweithredu darpariaethau Deddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 o ran trwyddedau safle sy’n parhau mewn grym o dan y paragraff hwn.

(2)Mae trwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 sydd mewn grym pan ddaw Rhan 2 i rym o ran safle rheoleiddiedig yn parhau mewn rym tan ddiwedd y cyfnod cychwynnol oni bai—

(a)ei bod yn cael ei dirymu yn ystod y cyfnod cychwynnol, neu

(b)bod cais am drwydded safle o ran y safle rheoleiddiedig o dan Ran 2 wedi ei wneud yn ystod y cyfnod cychwynnol.

(3)Os dirymir y drwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 yn ystod y cyfnod cychwynnol mae’n parhau mewn grym hyd nes iddi gael ei dirymu.

(4)Os gwneir cais am drwydded safle o ran y safle rheoleiddiedig o dan Ran 2 yn ystod y cyfnod cychwynnol, mae’r drwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 yn parhau mewn grym hyd nes iddi gael ei therfynu (boed yn ystod y cyfnod cychwynnol ynteu ar ôl diwedd y cyfnod cychwynnol).

(5)Yn y paragraff hwn a pharagraff 3, ystyr “y cyfnod cychwynnol” yw’ cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daw Rhan 2 i rym.

Amser i benderfynu ar drwydded safle

3Pan wneir cais am drwydded safle o ran safle rheoleiddiedig o dan Ran 2 cyn diwedd y cyfnod cychwynnol ac ar adeg pan fo trwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 mewn grym o ran y safle rheoleiddiedig, mae adran 7(2) yn effeithiol o ran y cais fel pe bai “2 fis” wedi ei ddisodli gan “6 mis”.

Parhau’r safonau enghreifftiol presennol

4Mae unrhyw safonau enghreifftiol a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 5(6) o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 sydd mewn grym yn union cyn i Ran 2 ddod i rym yn effeithiol ar ôl yr amser hwnnw (hyd nes eu disodli) fel pe baent wedi eu gwneud o dan adran 10.

Dirymu cyn cychwyn

5Mae’r cyfeiriad yn adran 7(5) at ddirymu trwydded safle o dan adran 18 neu 28 yn cynnwys dirymu trwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 o dan adran 9 o’r Ddeddf honno.

Troseddau cyn cychwyn i gyfrif at ddibenion penodol

6Mae’r cyfeiriad yn is-adran (4)(b) o adran 18 at y trosedd o dan is-adran (1) o’r adran honno yn cynnwys trosedd o dan adran 9 o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 o ran trwydded safle o dan y Ddeddf honno o ran yr un tir.

Erlyn troseddau cyn cychwyn

7Nid oes dim mewn unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon yn effeithio ar weithredu unrhyw ddeddfiad o ran troseddau a gyflawnwyd cyn i’r ddarpariaeth honno ddod i rym.

Hen ddarpariaethau trosiannol ac arbedion

8Mae i unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed sy’n ymwneud â dod ag unrhyw ddarpariaeth a ailddeddfir yn y Ddeddf hon i rym a all fod yn effeithiol o ran y ddarpariaeth fel y’i hailddeddfir yr un effaith o ran y ddarpariaeth fel y’i hailddeddfir ag a oedd iddi o ran y ddarpariaeth y mae’n ei hailddeddfu.

Lleihad dros dro yn y gosb uchaf am drosedd neillog a brofir yn ddiannod

9Yn achos trosedd a gyflawnwyd cyn i adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 ddod i rym, mae adran 43(3)(a) yn effeithiol fel pe bai “12 mis” wedi ei ddisodli gan “6 mis”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources