Cydsynio
5Cydsynio: oedolion a eithrir
1
Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cydsynio at ddibenion adran 3 mewn perthynas â gweithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â chorff, neu ddeunydd perthnasol o gorff, oedolyn a eithrir.
2
Yn achos oedolyn a eithrir mae angen cydsyniad datganedig.
3
Ystyr “oedolyn a eithrir” yw—
a
oedolyn sydd wedi marw ac nad oedd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Nghymru am gyfnod o 12 mis o leiaf yn union cyn iddo farw, neu
b
oedolyn sydd wedi marw ac nad oedd ganddo am gyfnod sylweddol cyn marw y galluedd i ddeall y cysyniad y gellir ystyried bod cydsyniad i weithgareddau trawsblannu wedi ei roi;
ac at y diben hwn mae cyfnod sylweddol yn golygu cyfnod sy’n ddigon hir i arwain person rhesymol i’r casgliad y byddai’n amhriodol ystyried bod cydsyniad wedi ei roi.
4
Ar gyfer pob achos a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 2 mae ystyr cydsyniad datganedig mewn perthynas â gweithgaredd wedi ei ddarparu yn ail golofn y tabl—
Yr achos | Ystyr cydsyniad datganedig |
---|---|
1. Yr oedd penderfyniad gan yr oedolyn a eithrir i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym yn union cyn iddo farw. | Cydsyniad yr oedolyn a eithrir. |
2. Nid yw achos 1 yn gymwys, yr oedd yr oedolyn a eithrir wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ac mae rhywun yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad. | Cydsyniad a roddir gan y person neu’r personau a benodir. |
3. Nid yw achos 1 yn gymwys ac yr oedd yr oedolyn a eithrir wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ond nid oes neb yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad. | Cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r oedolyn a eithrir yn union cyn iddo farw. |
4. Nid yw achosion 1, 2 na 3 yn gymwys mewn perthynas â’r oedolyn a eithrir. | Cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r oedolyn a eithrir yn union cyn iddo farw. |
5
Yn yr adran hon mae cyfeiriad at benodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio yn gyfeiriad at benodiad o dan adran 8.
6
Nid yw’r adran hon yn gymwys i gydsyniad i weithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â thynnu deunydd perthnasol a eithrir (gweler adran 7 am ddarpariaeth mewn perthynas â hyn).