Cydsynio

4Cydsynio: oedolion

1

Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cydsynio at ddibenion adran 3 mewn perthynas â gweithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â chorff, neu ddeunydd perthnasol o gorff, person nad yw—

a

yn oedolyn a eithrir (gweler adran 5), neu

b

yn blentyn (gweler adran 6).

2

Ystyrir bod cydsyniad wedi ei roi i’r gweithgaredd oni bai—

a

bod yr achos yn un a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn is-adran (3); ac os felly mae’n ofynnol cael cydsyniad datganedig, neu

b

nad yw’r achos yn un a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn is-adran (3) ac mae is-adran (4) yn gymwys.

3

Ar gyfer pob achos a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 1, mae ystyr cydsyniad datganedig mewn perthynas â gweithgaredd wedi ei ddarparu yn ail golofn y tabl—

TABL 1

Yr achos

Ystyr cydsyniad datganedig

1. Mae’r person yn fyw.

Cydsyniad y person.

2. Mae’r person wedi marw ac yr oedd penderfyniad gan y person i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym yn union cyn iddo farw.

Cydsyniad y person.

3. Mae’r person wedi marw, nid yw achos 2 yn gymwys, yr oedd y person wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd ac mae rhywun yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.

Cydsyniad a roddir gan y person neu’r personau a benodir.

4. Mae’r person wedi marw, nid yw achos 2 yn gymwys ac yr oedd y person wedi penodi person neu bersonau i ymdrin a’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ond nid oes neb yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.

Cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r person cyn iddo farw.

4

Mae’r is-adran hon yn gymwys—

a

os yw perthynas neu gyfaill ers amser maith i’r ymadawedig yn gwrthwynebu ar sail barn yr ymadawedig, a

b

pe byddai person rhesymol yn dod i’r casgliad bod y perthynas neu’r cyfaill yn gwybod mai barn ddiweddaraf yr ymadawedig cyn iddo farw ar gydsynio i weithgareddau trawsblannu oedd bod yr ymadawedig yn gwrthwynebu i gydsyniad gael ei roi.

5

Yn yr adran hon mae cyfeiriad at benodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio yn gyfeiriad at benodiad o dan adran 8.

6

Nid yw’r adran hon yn gymwys i gydsyniad i weithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â thynnu deunydd perthnasol a eithrir (gweler adran 7 am ddarpariaeth mewn perthynas â hyn).