Troseddau

10Gwahardd gweithgareddau heb gydsyniad

1

Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n gwneud, heb gydsyniad, weithgaredd trawsblannu yng Nghymru.

2

Ond nid yw person yn cyflawni trosedd o dan is-adran (1)—

a

os yw’r person yn credu yn rhesymol—

i

ei fod yn gwneud y gweithgaredd â chydsyniad, neu

ii

nad yw’r hyn y mae’n ei wneud yn weithgaredd trawsblannu;

b

os yw adran 3(3) (deunydd sydd wedi’i fewnforio) yn gymwys;

c

os yw adran 13(1) (preserfio deunydd at ei drawsblannu) yn gymwys.

3

Mae person yn cyflawni trosedd os yw, yng Nghymru—

a

yn ymhonni’n dwyllodrus wrth berson y mae’n gwybod neu’n credu ei fod yn mynd i wneud gweithgaredd trawsblannu neu y gall ei wneud—

i

bod cydsyniad i wneud y gweithgaredd, neu

ii

nad yw’r gweithgaredd yn weithgaredd trawsblannu, a

b

yn gwybod bod yr ymhoniad yn anwir neu ddim yn credu ei fod yn wir.

4

Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored—

a

o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na’r uchafswm statudol;

b

o’i gollfarnu ar dditiad—

i

i garchariad am gyfnod heb fod yn hwy na 3 blynedd, neu

ii

i ddirwy, neu

iii

i’r ddau.

5

Yn yr adran hon ystyr “cydsyniad” yw’r cydsyniad sy’n ofynnol yn rhinwedd adran 3.

11Troseddau gan gyrff corfforaethol

1

Pan fo corff corfforaethol yn cyflawni trosedd o dan adran 10 ac os profir bod y trosedd hwnnw wedi ei gyflawni â chydsyniad neu gydgynllwyn unrhyw un o’r canlynol, neu y gellir ei briodoli i esgeulustod ar ran unrhyw un o’r canlynol—

a

unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd i’r corff corfforaethol, neu

b

unrhyw swyddog oedd yn honni gweithredu yn rhinwedd unrhyw un o’r swyddi hynny,

bydd yr unigolyn hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r trosedd ac yn agored i achos yn ei erbyn a chosb yn unol â hynny.

2

Mae’r cyfeiriad at gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd i’r corff corfforaethol yn cynnwys cyfeiriad at—

a

unrhyw swyddog tebyg sydd gan y corff;

b

pan fo’r corff yn gorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, unrhyw swyddog neu aelod o’r corff.

12Erlyn

Ni chaniateir cychwyn achos am drosedd o dan adran 10 ac eithrio drwy neu â chydsyniad y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus.