Search Legislation

Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

Cydsynio

4Cydsynio: oedolion

(1)Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cydsynio at ddibenion adran 3 mewn perthynas â gweithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â chorff, neu ddeunydd perthnasol o gorff, person nad yw—

(a)yn oedolyn a eithrir (gweler adran 5), neu

(b)yn blentyn (gweler adran 6).

(2)Ystyrir bod cydsyniad wedi ei roi i’r gweithgaredd oni bai—

(a)bod yr achos yn un a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn is-adran (3); ac os felly mae’n ofynnol cael cydsyniad datganedig, neu

(b)nad yw’r achos yn un a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn is-adran (3) ac mae is-adran (4) yn gymwys.

(3)Ar gyfer pob achos a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 1, mae ystyr cydsyniad datganedig mewn perthynas â gweithgaredd wedi ei ddarparu yn ail golofn y tabl—

TABL 1

Yr achosYstyr cydsyniad datganedig
1. Mae’r person yn fyw.Cydsyniad y person.
2. Mae’r person wedi marw ac yr oedd penderfyniad gan y person i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym yn union cyn iddo farw.Cydsyniad y person.
3. Mae’r person wedi marw, nid yw achos 2 yn gymwys, yr oedd y person wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd ac mae rhywun yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.Cydsyniad a roddir gan y person neu’r personau a benodir.
4. Mae’r person wedi marw, nid yw achos 2 yn gymwys ac yr oedd y person wedi penodi person neu bersonau i ymdrin a’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ond nid oes neb yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.Cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r person cyn iddo farw.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw perthynas neu gyfaill ers amser maith i’r ymadawedig yn gwrthwynebu ar sail barn yr ymadawedig, a

(b)pe byddai person rhesymol yn dod i’r casgliad bod y perthynas neu’r cyfaill yn gwybod mai barn ddiweddaraf yr ymadawedig cyn iddo farw ar gydsynio i weithgareddau trawsblannu oedd bod yr ymadawedig yn gwrthwynebu i gydsyniad gael ei roi.

(5)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at benodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio yn gyfeiriad at benodiad o dan adran 8.

(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys i gydsyniad i weithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â thynnu deunydd perthnasol a eithrir (gweler adran 7 am ddarpariaeth mewn perthynas â hyn).

5Cydsynio: oedolion a eithrir

(1)Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cydsynio at ddibenion adran 3 mewn perthynas â gweithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â chorff, neu ddeunydd perthnasol o gorff, oedolyn a eithrir.

(2)Yn achos oedolyn a eithrir mae angen cydsyniad datganedig.

(3)Ystyr “oedolyn a eithrir” yw—

(a)oedolyn sydd wedi marw ac nad oedd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Nghymru am gyfnod o 12 mis o leiaf yn union cyn iddo farw, neu

(b)oedolyn sydd wedi marw ac nad oedd ganddo am gyfnod sylweddol cyn marw y galluedd i ddeall y cysyniad y gellir ystyried bod cydsyniad i weithgareddau trawsblannu wedi ei roi;

ac at y diben hwn mae cyfnod sylweddol yn golygu cyfnod sy’n ddigon hir i arwain person rhesymol i’r casgliad y byddai’n amhriodol ystyried bod cydsyniad wedi ei roi.

(4)Ar gyfer pob achos a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 2 mae ystyr cydsyniad datganedig mewn perthynas â gweithgaredd wedi ei ddarparu yn ail golofn y tabl—

TABL 2

Yr achosYstyr cydsyniad datganedig
1. Yr oedd penderfyniad gan yr oedolyn a eithrir i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym yn union cyn iddo farw.Cydsyniad yr oedolyn a eithrir.
2. Nid yw achos 1 yn gymwys, yr oedd yr oedolyn a eithrir wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ac mae rhywun yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.Cydsyniad a roddir gan y person neu’r personau a benodir.
3. Nid yw achos 1 yn gymwys ac yr oedd yr oedolyn a eithrir wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ond nid oes neb yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.Cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r oedolyn a eithrir yn union cyn iddo farw.
4. Nid yw achosion 1, 2 na 3 yn gymwys mewn perthynas â’r oedolyn a eithrir.Cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r oedolyn a eithrir yn union cyn iddo farw.

(5)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at benodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio yn gyfeiriad at benodiad o dan adran 8.

(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys i gydsyniad i weithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â thynnu deunydd perthnasol a eithrir (gweler adran 7 am ddarpariaeth mewn perthynas â hyn).

6Cydsynio: plant

(1)Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cydsyniad at ddibenion adran 3 mewn perthynas â gweithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â chorff, neu ddeunydd perthnasol o gorff, person sy’n blentyn neu sydd wedi marw’n blentyn.

(2)Yn achos person sy’n blentyn neu sydd wedi marw’n blentyn mae angen cydsyniad datganedig.

(3)Ar gyfer pob achos a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 3 mae ystyr cydsyniad datganedig wedi ei ddarparu yn ail golofn y tabl—

TABL 3

Yr achosYstyr cydsyniad datganedig
1. Mae’r plentyn yn fyw ac nid yw achos 2 yn gymwys.Cydsyniad y plentyn.
2. Mae’r plentyn yn fyw, nid oes unrhyw benderfyniad gan y plentyn i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym, a naill ai nid yw’r plentyn yn gymwys i ymdrin â’r mater o gydsynio neu mae’n gymwys i ymdrin â’r mater ond yn methu â gwneud hynny.Cydsyniad person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
3. Mae’r plentyn wedi marw ac yr oedd penderfyniad gan y plentyn i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym yn union cyn iddo farw.Cydsyniad y plentyn.
4. Mae’r plentyn wedi marw, nid yw achos 3 yn gymwys, yr oedd y plentyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r weithgaredd ac mae rhywun yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.Cydsyniad a roddir gan y person neu’r personau a benodir.
5. Mae’r plentyn wedi marw, nid yw achos 3 yn gymwys ac yr oedd y plentyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ond nid oes neb yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.Cydsyniad person a oedd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn union cyn i’r plentyn farw, neu pan nad oes unrhyw berson o’r fath yn bodoli, cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r plentyn yr adeg honno.
6. Mae’r plentyn wedi marw ac nid yw achosion 3, 4 na 5 yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.Cydsyniad person a oedd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn union cyn i’r plentyn farw, neu pan nad oes unrhyw berson o’r fath yn bodoli, cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r plentyn yr adeg honno.

(4)Yn yr adran hon, nid yw penderfyniad neu benodiad a wneir gan blentyn ond yn ddilys os oedd y plentyn yn gymwys i ymdrin â’r mater o gydsyniad wrth ei wneud.

(5)Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at benodiad person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsyniad yn gyfeiriad at benodiad o dan adran 8.

(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys i gydsyniad i weithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â thynnu deunydd perthnasol a eithrir (gweler adran 7 am ddarpariaeth mewn perthynas â hyn).

7Cydsynio: gweithgareddau trawsblannu sy’n ymwneud â deunydd a eithrir

(1)Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer cydsyniad i weithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â thynnu deunydd perthnasol a eithrir.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “deunydd perthnasol a eithrir” yw deunydd perthnasol o fath a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau.

(3)Enghreifftiau o’r mathau o ddeunydd perthnasol y caniateir ei bennu’n ddeunydd perthnasol a eithrir yw meinweoedd cyfansawdd a mathau eraill o ddeunydd yr ystyrir bod eu tynnu a’u defnyddio yn ddull newydd.

(4)Yn achos gweithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â thynnu deunydd perthnasol a eithrir mae cydsyniad datganedig yn ofynnol, ac mae rhaid i’r cydsyniad hwnnw fod yn benodol i dynnu deunydd perthnasol a eithrir.

(5)I oedolyn, ar gyfer pob achos a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 4, ystyr cydsyniad datganedig mewn perthynas â gweithgaredd yw’r ystyr a nodir yn ail golofn y tabl—

TABL 4

Yr achosYstyr cydsyniad datganedig
1. Mae’r oedolyn yn fyw.Cydsyniad yr oedolyn.
2. Mae’r oedolyn wedi marw ac yr oedd penderfyniad gan yr oedolyn i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym yn union cyn iddo farw.Cydsyniad yr oedolyn.
3. Mae’r oedolyn wedi marw, nid yw achos 2 yn gymwys, yr oedd yr oedolyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd ac mae rhywun yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.Cydsyniad a roddir gan y person neu’r personau a benodir.
4. Mae’r person wedi marw, nid yw achos 2 yn gymwys ac yr oedd yr oedolyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ond nid oes neb yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.Cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r oedolyn yn union cyn iddo farw.
5. Mae’r oedolyn wedi marw ac nid yw achosion 2, 3 na 4 yn gymwys mewn perthynas â’r oedolyn.Cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r oedolyn yn union cyn iddo farw.

(6)I blentyn, ar gyfer pob achos a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 5, ystyr cydsyniad datganedig mewn perthynas â gweithgaredd yw’r ystyr a nodir yn ail golofn y tabl—

TABL 5

Yr achosYstyr cydsyniad datganedig
1. Mae’r plentyn yn fyw ac nid yw achos 2 yn gymwys.Cydsyniad y plentyn.
2. Mae’r plentyn yn fyw, nid oes unrhyw benderfyniad gan y plentyn i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym, ac nid yw’r plentyn yn gymwys i ymdrin â’r mater o gydsynio, neu, mae’n gymwys i ymdrin â’r mater ond yn methu â gwneud hynny.Cydsyniad person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
3. Mae’r plentyn wedi marw ac yr oedd penderfyniad gan y plentyn i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym yn union cyn iddo farw.Cydsyniad y plentyn.
4. Mae’r plentyn wedi marw, nid yw achos 3 yn gymwys, yr oedd y plentyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd ac mae rhywun yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.Cydsyniad a roddir gan y person neu’r personau a benodir.
5. Mae’r plentyn wedi marw, nid yw achos 3 yn gymwys ac yr oedd yr oedolyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ond nid oes neb yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.Cydsyniad person a oedd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn union cyn i’r plentyn farw, neu pan nad oes unrhyw berson o’r fath yn bodoli, cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r plentyn yr adeg honno.
6. Mae’r plentyn wedi marw ac nid yw achosion 3, 4 na 5 yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.Cydsyniad person a oedd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn union cyn i’r plentyn farw, neu pan nad oes unrhyw berson o’r fath yn bodoli, cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r plentyn yr adeg honno.

(7)Yn yr adran hon, nid yw penderfyniad neu benodiad a wneir gan blentyn ond yn ddilys os oedd y plentyn yn gymwys i ymdrin â’r mater o gydsyniad wrth ei wneud.

(8)Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at benodiad person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsyniad yn gyfeiriad at benodiad o dan adran 8.

8Cynrychiolwyr penodedig

(1)Caiff person benodi un neu ragor o bersonau i gynrychioli’r person ar ôl ei farwolaeth mewn perthynas â chydsyniad datganedig at ddibenion adran 3.

(2)Caiff penodiad fod yn gyffredinol neu’n gyfyngedig i gydsyniad mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o weithgareddau trawsblannu a bennir yn y penodiad.

(3)Caniateir i benodiad gael ei wneud ar lafar neu’n ysgrifenedig.

(4)Dim ond os caiff ei wneud ym mhresenoldeb o leiaf ddau dyst sy’n bresennol yr un pryd y mae penodiad llafar yn ddilys.

(5)Dim ond os yw un o’r canlynol yn wir y mae penodiad ysgrifenedig yn ddilys—

(a)ei fod wedi ei lofnodi gan y person sy’n ei wneud ym mhresenoldeb o leiaf un tyst sy’n ardystio’r llofnod,

(b)ei fod wedi ei lofnodi yn ôl cyfarwyddyd y person sy’n ei wneud, yn ei bresenoldeb ac ym mhresenoldeb o leiaf un tyst sy’n ardystio’r llofnod, neu

(c)ei fod wedi ei gynnwys yn ewyllys y person sy’n ei wneud, a honno’n ewyllys sydd wedi ei gwneud yn unol â gofynion adran 9 o Ddeddf Ewyllysiau 1837.

(6)Pan fo person yn penodi dau berson neu ragor mewn perthynas â’r un gweithgaredd trawsblannu, maent i’w hystyried yn rhai sydd wedi eu penodi i weithredu ar y cyd ac yn unigol onid yw’r penodiad yn darparu eu bod wedi eu penodi i weithredu ar y cyd.

(7)Caniateir i benodiad gael ei ddirymu ar unrhyw bryd.

(8)Mae is-adrannau (3) i (5) yn gymwys i ddirymu penodiad yn yr un modd ag y maent yn gymwys i wneud penodiad o’r fath.

(9)Caiff person a benodir ildio’r penodiad ar unrhyw bryd.

(10)Ni chaiff person weithredu o dan benodiad—

(a)os nad yw’n oedolyn, neu

(b)os yw’r person o ddisgrifiad a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(11)Pan fo person wedi penodi person neu bersonau o dan adran 4 o Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004 i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â gweithgaredd a wneir at ddibenion trawsblannu, mae’r person i’w drin hefyd fel un sydd wedi gwneud penodiad o dan yr adran hon mewn perthynas â’r gweithgaredd.

(12)At ddiben adrannau 4(3), 5(4), 6(3) a 7 os nad yw’n rhesymol ymarferol cyfathrebu â pherson a benodir o dan yr adran hon o fewn yr amser sydd ar gael os yw’r cydsyniad i gael ei roi ar waith, mae’r person i gael ei drin fel pe na bai’n gallu rhoi cydsyniad i weithgaredd o dan y penodiad.

9Gweithgareddau sy’n ymwneud â deunydd o oedolion nad yw’r galluedd ganddynt i gydsynio

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo gweithgaredd trawsblannu o fewn adran 3(2)(c) neu (d) (storio neu ddefnyddio deunydd perthnasol sydd wedi dod o gorff dynol) sy’n cael ei wneud yng Nghymru yn ymwneud â deunydd perthnasol o gorff person (“P”)—

(i)sy’n oedolyn, a

(ii)nad yw’r galluedd ganddo i gydsynio â’r gweithgaredd, a

(b)pan na fo unrhyw benderfyniad gan P i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym.

(2)Ystyrir bod P wedi cydsynio i’r gweithgaredd os yw’r gweithgaredd wedi ei wneud mewn amgylchiadau o fath a bennir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources