Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013

55Gwefannau cynghorau cymuned

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i gyngor cymuned sicrhau bod y canlynol ar gael yn electronig—

(a)gwybodaeth ynglŷn â sut i gysylltu ag ef ac, os yw hynny’n wahanol, ei glerc, gan gynnwys—

(i)rhif ffôn;

(ii)cyfeiriad post;

(iii)cyfeiriad e-bost;

(b)gwybodaeth ynglŷn â phob un o’i aelodau, gan gynnwys—

(i)enw’r aelod;

(ii)sut y gellir cysylltu â’r aelod;

(iii)ymlyniad gwleidyddol yr aelod (os oes un);

(iv)y ward y mae’r aelod yn ei chynrychioli (pan fo hynny’n berthnasol);

(v)unrhyw swydd y mae’r aelod yn ei dal gyda’r cyngor;

(vi)unrhyw bwyllgor o’r cyngor y mae’r aelod yn perthyn iddo;

(c)cofnodion trafodion cyfarfodydd y cyngor ac (i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol) unrhyw ddogfennau y cyfeiria’r cofnodion atynt;

(d)unrhyw ddatganiad archwiliedig o gyfrifon y cyngor.

(2)Nid oes dim yn yr adran hon sy’n awdurdodi cyngor cymuned nac yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddarparu unrhyw wybodaeth y mae wedi ei hatal rhag ei datgelu dan unrhyw ddeddfiad.

(3)Wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan is-adran (1), rhaid i gyngor cymuned roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(4)Nid yw’r gofyniad i sicrhau bod yr wybodaeth a restrir yn is-adran (1)(c) a (d) ar gael ond yn ymwneud â gwybodaeth a gynhyrchir pan ddaw’r adran hon i rym neu wedi hynny.