RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL
PENNOD 6DARPARIAETH ARALL SY’N BERTHNASOL I FFINIAU AWDURDODAU LLEOL
I145Newid ardal heddlu
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r Comisiwn yn cynnal adolygiad o un neu ragor o brif ardaloedd o dan adran 23.
2
Yn ogystal â’r newidiadau y caniateir eu hargymell o dan adran 23(3) caiff y Comisiwn, mewn cysylltiad ag unrhyw newid i ffin prif ardal, argymell unrhyw newidiadau i ardal neu ardaloedd heddlu (gan gynnwys newidiadau sy’n arwain at leihad neu gynnydd yn nifer ardaloedd heddlu) sy’n briodol yn ei farn ef.
3
Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol, ar ôl cael adroddiad sy’n cynnwys argymhellion gan y Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad a gynhelir o dan adran 23—
a
drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol, weithredu unrhyw argymhellion i newid ardal heddlu, gydag addasiadau neu hebddynt,
b
os yw’n bwriadu gweithredu’r argymhellion gydag addasiadau, gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal adolygiad pellach o dan adran 23 o’r prif ardaloedd hynny y mae’r argymhellion yn effeithio arnynt a bennir yn y cyfarwyddyd, neu
c
penderfynu peidio â gweithredu mewn cysylltiad â’r argymhellion.
4
Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â chyfarwyddyd o dan is-adran (3)(b).
5
Caniateir i orchymyn a wneir o dan yr adran hon gynnwys—
a
darpariaeth i gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu y mae’r gorchymyn yn effeithio arni ddod yn gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu sy’n deillio o’r gorchymyn,
b
darpariaeth i gynnal etholiad am gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer unrhyw ardal heddlu sy’n deillio o’r gorchymyn,
c
unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol neu drosiannol sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol.
6
Caiff gorchymyn sy’n cynnwys darpariaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (5)(b) ei gwneud yn ofynnol i’r etholiad dan sylw gael ei gynnal cyn i’r newid i ardaloedd heddlu gael effaith.
7
Caiff gorchymyn o dan yr adran hon gymhwyso neu addasu unrhyw ddeddfiad neu siarter.
8
Ni chaiff gorchymyn a wneir o dan yr adran hon ddarparu i brif ardal gael ei rhannu rhwng 2 neu ragor o ardaloedd heddlu.
9
Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan y adran hon nes bod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cafodd yr Ysgrifennydd Gwladol yr argymhellion wedi dod i ben.