Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013

25Adolygu ffiniau cymuned gan brif gyngor
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff prif gyngor gynnal adolygiad o un neu ragor o’r cymunedau yn ei ardal—

(a)o’i wirfodd, neu

(b)ar gais—

(i)cyngor cymuned yn ei ardal, neu

(ii)cyfarfod cymunedol yn ei ardal.

(2)Ond rhaid i brif gyngor beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (1) ar gais cyngor cymuned neu gyfarfod cymunedol os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.

(3)Y newidiadau y caiff prif gyngor eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—

(a)y newidiadau hynny i ffiniau cymuned y mae o’r farn eu bod yn briodol, a

(b)o ganlyniad i unrhyw newidiadau i ffiniau cymuned, y newidiadau hynny i gyngor cymuned a newidiadau cysylltiedig i drefniadau etholiadol—

(i)y gymuned neu’r cymunedau sydd o dan adolygiad,

(ii)y brif ardal,

y mae o’r farn eu bod yn briodol.

(4)At ddibenion is-adran (3)(b)(ii), mae adran 30 yn gymwys i brif gyngor fel y mae’n gymwys i’r Comisiwn.

(5)Caiff prif gyngor ymrwymo mewn cytundeb gyda’r Comisiwn er mwyn i’r Comisiwn (o dan adran 26) arfer swyddogaethau’r cyngor o dan yr adran hon.

(6)Caiff y cytundeb fod ar y telerau a’r amodau hynny y mae’r prif gyngor a’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol.