RHAN 5NEWIDIADAU ERAILL I LYWODRAETH LEOL
Pwyllgorau gwasanaethau democrataidd
I160Pwyllgorau gwasanaethau democrataidd
1
Ar ôl adran 11 o Fesur 2011 (awdurdodau lleol i benodi pwyllgorau gwasanaethau democrataidd) mewnosoder—
11AAdolygiadau ar gais awdurdod lleol
1
Caiff pwyllgor gwasanaethau democrataidd awdurdod lleol, ar gais yr awdurdod, adolygu unrhyw fater sy’n berthnasol i—
a
y cymorth a’r cyngor sydd ar gael i aelodau’r awdurdod hwnnw, a
b
telerau ac amodau swydd yr aelodau hynny.
2
Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd lunio adroddiadau ac argymhellion i’r awdurdod yn dilyn adolygiad.
3
Mater i bwyllgor gwasanaethau democrataidd yw penderfynu sut i arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.
2
Yn adran 19 (adroddiadau ac argymhellion gan bwyllgorau gwasanaethau democrataidd), ar ôl “11(1)(c)” mewnosoder “neu 11A(2)”.