RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL
PENNOD 4Y WEITHDREFN AR GYFER ADOLYGIADAU LLYWODRAETH LEOL
Y weithdrefn ar gyfer adolygiadau
I134Y weithdrefn ragadolygu
1
Cyn cynnal adolygiad o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor gymryd y camau hynny y mae o’r farn eu bod yn briodol er mwyn—
a
dod â’r adolygiad i sylw ymgyngoreion gorfodol ac unrhyw berson arall y mae o’r farn ei bod yn debygol y bydd ganddynt fuddiant yn yr adolygiad, a
b
gwneud yr ymgyngoreion gorfodol a’r personau eraill hynny y mae ganddynt fuddiant yn ymwybodol o unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru sy’n berthnasol i’r adolygiad.
2
O ran adolygiad sydd i’w gynnal o dan adran 29, cyn cynnal yr adolygiad, rhaid i’r Comisiwn hefyd ymgynghori â’r ymgyngoreion gorfodol ynghylch y weithdrefn a’r fethodoleg a fwriedir ar gyfer yr adolygiad ac, yn benodol, sut y mae’n bwriadu penderfynu nifer priodol yr aelodau ar gyfer unrhyw brif gyngor yn y brif ardal neu’r ardaloedd sydd dan adolygiad.
3
At ddibenion y Rhan hon, yr “ymgyngoreion gorfodol” yw—
a
unrhyw awdurdod lleol y mae’r adolygiad yn effeithio arno,
b
ac eithrio mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 28 (adolygu ffiniau tua’r môr), comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer unrhyw ardal heddlu y gall yr adolygiad effeithio arni,
F1ba
unrhyw awdurdod tân ac achub (a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo) ar gyfer ardal yng Nghymru y gallai’r adolygiad effeithio arni,
c
ac eithrio pan fo’r adolygiad yn cael ei gynnal (neu i’w gynnal) ganddo ef, y Comisiwn,
d
unrhyw gorff sy’n cynrychioli’r staff a gyflogir gan awdurdodau lleol sydd wedi gofyn am ymgynghoriad â hwy, a
e
unrhyw bersonau eraill a bennir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.
4
Nid yw is-adran (1) yn gymwys i adolygiad a gynhelir gan y Comisiwn yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 26(2)(b)(ii) neu (iii).
I235Ymgynghori ac ymchwilio
1
Wrth gynnal adolygiad o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor (“y corff adolygu”)—
a
ymgynghori â’r ymgyngoreion gorfodol a’r personau eraill hynny y mae o’r farn eu bod yn briodol, a
b
cynnal yr ymchwiliadau hynny y mae o’r farn eu bod yn briodol.
2
Ar ôl cynnal yr ymgynghoriad a’r ymchwiliadau o dan is-adran (1), rhaid i’r corff adolygu lunio adroddiad sy’n cynnwys—
a
unrhyw gynigion ar gyfer newid y mae o’r farn eu bod yn briodol neu, os yw o’r farn nad oes unrhyw newid yn briodol, cynnig i’r diben hwnnw,
b
manylion o’r adolygiad y mae wedi ei gynnal.
3
Rhaid i’r corff adolygu—
a
cyhoeddi’r adroddiad yn electronig,
b
sicrhau bod yr adroddiad ar gael i edrych arno (yn ddi-dâl) yn swyddfeydd unrhyw brif gyngor sydd â buddiant yn yr adolygiad ar hyd y cyfnod ar gyfer sylwadau,
c
anfon copïau o’r adroddiad at Weinidogion Cymru a’r ymgyngoreion gorfodol,
d
hysbysu unrhyw berson arall a gyflwynodd dystiolaeth i’r corff adolygu sut i gael copi o’r adroddiad, ac
e
gwahodd sylwadau a hysbysu’r personau a grybwyllir yn (c) a (d) am y cyfnod ar gyfer sylwadau.
4
At ddibenion is-adran (3), y “cyfnod ar gyfer sylwadau” yw cyfnod nad yw’n llai na 6 wythnos, nac yn hwy na 12 wythnos (fel a benderfynir gan y corff adolygu) yn dechrau dim cynt nag un wythnos ar ôl rhoi hysbysiad am y cyfnod.
5
At ddibenion yr adran hon, mae gan brif gyngor fuddiant mewn adolygiad—
a
os ef yw’r corff adolygu,
b
os yw ei ardal dan adolygiad,
c
os yw cymuned yn ei ardal (neu os yw’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned honno) dan adolygiad.
6
Yn yr adran hon ac yn adran 36 mae cyfeiriad at gynnig newid yn gyfeiriad at unrhyw newid y caiff y corff adolygu ei argymell neu ei wneud (gan gynnwys newid canlyniadol) mewn perthynas â’r math o adolygiad sy’n cael ei gynnal.
I336Adrodd ar yr adolygiad
1
Rhaid i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor (“y corff adolygu”), ar ôl i’r cyfnod ar gyfer sylwadau o dan adran 35(3) ddod i ben, ystyried ei gynigion i newid gan roi sylw i unrhyw sylwadau a gafwyd ganddo yn ystod y cyfnod.
2
Yna rhaid i’r corff adolygu lunio adroddiad pellach.
3
Ac eithrio mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 31, rhaid i’r adroddiad gynnwys—
a
unrhyw argymhelliad i newid y mae’r corff adolygu o’r farn ei fod yn briodol, neu os yw o’r farn nad oes unrhyw newid yn briodol, argymhelliad i’r diben hwnnw,
b
manylion yr adolygiad a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn cysylltiad â’r cynigion, ac
c
manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion a wnaed yng ngoleuni’r sylwadau a gafwyd ac esboniad paham y gwnaed y newidiadau hynny.
4
Pan fo adolygiad o dan adran 31, rhaid i’r adroddiad gynnwys—
a
y newidiadau y mae’r corff adolygu yn bwriadu eu gwneud i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned dan adolygiad, neu os yw o’r farn nad yw newid o’r fath yn briodol, ddatganiad i’r diben hwnnw,
b
manylion yr adolygiad a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn cysylltiad â’r cynigion, ac
c
manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion a wnaed yng ngoleuni’r sylwadau a gafodd ac esboniad paham y gwnaed y newidiadau hynny.
5
Rhaid i’r corff adolygu—
a
cyflwyno’r adroddiad a’i argymhellion i’r awdurdod gweithredu priodol (ac eithrio pan ef yw’r awdurdod gweithredu),
b
cyhoeddi’r adroddiad yn electronig a sicrhau ei fod ar gael i edrych arno (yn ddi-dâl) yn swyddfeydd unrhyw brif gyngor sydd â buddiant am gyfnod sydd o leiaf yn 6 wythnos yn dechrau ar ddyddiad y cyhoeddi,
c
anfon copi o’r adroddiad at yr ymgyngoreion gorfodol, yr Arolwg Ordnans ac (onid hwy yw’r awdurdod gweithredu) at Weinidogion Cymru,
d
hysbysu unrhyw berson arall a gyflwynodd dystiolaeth neu a wnaeth sylwadau mewn perthynas â’r adroddiad a gyhoeddwyd o dan adran 35 sut i gael copi o’r adroddiad.
6
At ddibenion is-adran (5), yr “awdurdod gweithredu priodol” yw—
a
mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 23, Gweinidogion Cymru ac, mewn achos pan fo’r Comisiwn yn argymell newid i ardal heddlu, yr Ysgrifennydd Gwladol (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r newid hwnnw);
b
mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 25, y Comisiwn;
c
mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 26, 27, 28 neu 29, Gweinidogion Cymru;
d
mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 32, prif gyngor y gymuned a fu’n destun yr adolygiad.
7
Pan fo prif gyngor yn cyflwyno adroddiad i’r Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 25, nid yw’r Comisiwn i gael ei drin fel ymgynghorai gorfodol at ddibenion is-adran (5)(c).
8
At ddibenion yr adran hon mae gan brif gyngor fuddiant mewn adolygiad—
a
os ef yw’r corff adolygu;
b
os yw ei ardal dan adolygiad;
c
os yw cymuned yn ei ardal (neu os yw’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned honno) dan adolygiad.
9
Yn yr adran hon mae cyfeiriad at argymhelliad i newid yn gyfeiriad at unrhyw newid y caiff y corff adolygu ei argymell neu ei wneud (gan gynnwys newid canlyniadol) mewn perthynas â’r math o adolygiad sy’n cael ei gynnal.