xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

PENNOD 4Y WEITHDREFN AR GYFER ADOLYGIADAU LLYWODRAETH LEOL

Y weithdrefn ar gyfer adolygiadau

34Y weithdrefn ragadolygu

(1)Cyn cynnal adolygiad o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor gymryd y camau hynny y mae o’r farn eu bod yn briodol er mwyn—

(a)dod â’r adolygiad i sylw ymgyngoreion gorfodol ac unrhyw berson arall y mae o’r farn ei bod yn debygol y bydd ganddynt fuddiant yn yr adolygiad, a

(b)gwneud yr ymgyngoreion gorfodol a’r personau eraill hynny y mae ganddynt fuddiant yn ymwybodol o unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru sy’n berthnasol i’r adolygiad.

(2)O ran adolygiad sydd i’w gynnal o dan adran 29, cyn cynnal yr adolygiad, rhaid i’r Comisiwn hefyd ymgynghori â’r ymgyngoreion gorfodol ynghylch y weithdrefn a’r fethodoleg a fwriedir ar gyfer yr adolygiad ac, yn benodol, sut y mae’n bwriadu penderfynu nifer priodol yr aelodau ar gyfer unrhyw brif gyngor yn y brif ardal neu’r ardaloedd sydd dan adolygiad.

(3)At ddibenion y Rhan hon, yr “ymgyngoreion gorfodol” yw—

(a)unrhyw awdurdod lleol y mae’r adolygiad yn effeithio arno,

(b)ac eithrio mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 28 (adolygu ffiniau tua’r môr), comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer unrhyw ardal heddlu y gall yr adolygiad effeithio arni,

(c)ac eithrio pan fo’r adolygiad yn cael ei gynnal (neu i’w gynnal) ganddo ef, y Comisiwn,

(d)unrhyw gorff sy’n cynrychioli’r staff a gyflogir gan awdurdodau lleol sydd wedi gofyn am ymgynghoriad â hwy, a

(e)unrhyw bersonau eraill a bennir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i adolygiad a gynhelir gan y Comisiwn yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 26(2)(b)(ii) neu (iii).

35Ymgynghori ac ymchwilio

(1)Wrth gynnal adolygiad o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor (“y corff adolygu”)—

(a)ymgynghori â’r ymgyngoreion gorfodol a’r personau eraill hynny y mae o’r farn eu bod yn briodol, a

(b)cynnal yr ymchwiliadau hynny y mae o’r farn eu bod yn briodol.

(2)Ar ôl cynnal yr ymgynghoriad a’r ymchwiliadau o dan is-adran (1), rhaid i’r corff adolygu lunio adroddiad sy’n cynnwys—

(a)unrhyw gynigion ar gyfer newid y mae o’r farn eu bod yn briodol neu, os yw o’r farn nad oes unrhyw newid yn briodol, cynnig i’r diben hwnnw,

(b)manylion o’r adolygiad y mae wedi ei gynnal.

(3)Rhaid i’r corff adolygu—

(a)cyhoeddi’r adroddiad yn electronig,

(b)sicrhau bod yr adroddiad ar gael i edrych arno (yn ddi-dâl) yn swyddfeydd unrhyw brif gyngor sydd â buddiant yn yr adolygiad ar hyd y cyfnod ar gyfer sylwadau,

(c)anfon copïau o’r adroddiad at Weinidogion Cymru a’r ymgyngoreion gorfodol,

(d)hysbysu unrhyw berson arall a gyflwynodd dystiolaeth i’r corff adolygu sut i gael copi o’r adroddiad, ac

(e)gwahodd sylwadau a hysbysu’r personau a grybwyllir yn (c) a (d) am y cyfnod ar gyfer sylwadau.

(4)At ddibenion is-adran (3), y “cyfnod ar gyfer sylwadau” yw cyfnod nad yw’n llai na 6 wythnos, nac yn hwy na 12 wythnos (fel a benderfynir gan y corff adolygu) yn dechrau dim cynt nag un wythnos ar ôl rhoi hysbysiad am y cyfnod.

(5)At ddibenion yr adran hon, mae gan brif gyngor fuddiant mewn adolygiad—

(a)os ef yw’r corff adolygu,

(b)os yw ei ardal dan adolygiad,

(c)os yw cymuned yn ei ardal (neu os yw’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned honno) dan adolygiad.

(6)Yn yr adran hon ac yn adran 36 mae cyfeiriad at gynnig newid yn gyfeiriad at unrhyw newid y caiff y corff adolygu ei argymell neu ei wneud (gan gynnwys newid canlyniadol) mewn perthynas â’r math o adolygiad sy’n cael ei gynnal.

36Adrodd ar yr adolygiad

(1)Rhaid i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor (“y corff adolygu”), ar ôl i’r cyfnod ar gyfer sylwadau o dan adran 35(3) ddod i ben, ystyried ei gynigion i newid gan roi sylw i unrhyw sylwadau a gafwyd ganddo yn ystod y cyfnod.

(2)Yna rhaid i’r corff adolygu lunio adroddiad pellach.

(3)Ac eithrio mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 31, rhaid i’r adroddiad gynnwys—

(a)unrhyw argymhelliad i newid y mae’r corff adolygu o’r farn ei fod yn briodol, neu os yw o’r farn nad oes unrhyw newid yn briodol, argymhelliad i’r diben hwnnw,

(b)manylion yr adolygiad a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn cysylltiad â’r cynigion, ac

(c)manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion a wnaed yng ngoleuni’r sylwadau a gafwyd ac esboniad paham y gwnaed y newidiadau hynny.

(4)Pan fo adolygiad o dan adran 31, rhaid i’r adroddiad gynnwys—

(a)y newidiadau y mae’r corff adolygu yn bwriadu eu gwneud i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned dan adolygiad, neu os yw o’r farn nad yw newid o’r fath yn briodol, ddatganiad i’r diben hwnnw,

(b)manylion yr adolygiad a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn cysylltiad â’r cynigion, ac

(c)manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion a wnaed yng ngoleuni’r sylwadau a gafodd ac esboniad paham y gwnaed y newidiadau hynny.

(5)Rhaid i’r corff adolygu—

(a)cyflwyno’r adroddiad a’i argymhellion i’r awdurdod gweithredu priodol (ac eithrio pan ef yw’r awdurdod gweithredu),

(b)cyhoeddi’r adroddiad yn electronig a sicrhau ei fod ar gael i edrych arno (yn ddi-dâl) yn swyddfeydd unrhyw brif gyngor sydd â buddiant am gyfnod sydd o leiaf yn 6 wythnos yn dechrau ar ddyddiad y cyhoeddi,

(c)anfon copi o’r adroddiad at yr ymgyngoreion gorfodol, yr Arolwg Ordnans ac (onid hwy yw’r awdurdod gweithredu) at Weinidogion Cymru,

(d)hysbysu unrhyw berson arall a gyflwynodd dystiolaeth neu a wnaeth sylwadau mewn perthynas â’r adroddiad a gyhoeddwyd o dan adran 35 sut i gael copi o’r adroddiad.

(6)At ddibenion is-adran (5), yr “awdurdod gweithredu priodol” yw—

(a)mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 23, Gweinidogion Cymru ac, mewn achos pan fo’r Comisiwn yn argymell newid i ardal heddlu, yr Ysgrifennydd Gwladol (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r newid hwnnw);

(b)mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 25, y Comisiwn;

(c)mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 26, 27, 28 neu 29, Gweinidogion Cymru;

(d)mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 32, prif gyngor y gymuned a fu’n destun yr adolygiad.

(7)Pan fo prif gyngor yn cyflwyno adroddiad i’r Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 25, nid yw’r Comisiwn i gael ei drin fel ymgynghorai gorfodol at ddibenion is-adran (5)(c).

(8)At ddibenion yr adran hon mae gan brif gyngor fuddiant mewn adolygiad—

(a)os ef yw’r corff adolygu;

(b)os yw ei ardal dan adolygiad;

(c)os yw cymuned yn ei ardal (neu os yw’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned honno) dan adolygiad.

(9)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at argymhelliad i newid yn gyfeiriad at unrhyw newid y caiff y corff adolygu ei argymell neu ei wneud (gan gynnwys newid canlyniadol) mewn perthynas â’r math o adolygiad sy’n cael ei gynnal.