xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013

2013 dccc 4

Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad a swyddogaethau Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru; i wneud darpariaethau amrywiol sy’n ymwneud â llywodraeth leol; ac at ddibenion cysylltiedig.

[30 Gorffennaf 2013]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chael cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:-

RHAN 1CYFLWYNIAD

1Trosolwg

(1)Mae’r Rhan hon yn rhoi trosolwg o ddarpariaethau’r Ddeddf hon.

(2)Mae Rhan 2 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ac yn diwygio ei gyfansoddiad a’i swyddogaethau.

(3)Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch—

(a)dyletswyddau’r Comisiwn i fonitro’r trefniadau ar gyfer llywodraeth leol a, lle y bo’n briodol, i gynnal adolygiadau, a dyletswyddau prif gynghorau i fonitro’r trefniadau ar gyfer y cymunedau yn eu hardal a, lle y bo’n briodol, i gynnal adolygiadau (gweler adrannau 21 a 22),

(b)y mathau o adolygiadau y gellir eu cynnal, yr ystyriaethau i’r corff adolygu eu hystyried a’r newidiadau y gellir eu hargymell mewn perthynas â phob math o adolygiad (gweler adrannau 23 i 33),

(c)y weithdrefn ar gyfer cynnal adolygiadau (gweler adrannau 34 i 36),

(d)gweithredu argymhellion yn dilyn adolygiad a materion cysylltiedig (megis trosglwyddo staff neu eiddo rhwng prif gynghorau a chyrff cyhoeddus eraill) (gweler adrannau 37 i 44).

(4)Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch adolygu aelodaeth cyrff cyhoeddus penodol.

(5)Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth—

(a)ynghylch penodi aelod llywyddol prif gyngor;

(b)sy’n ailddatgan ac yn ymestyn pwerau awdurdodau lleol mewn perthynas â hyrwyddo a gwrthwynebu Biliau preifat;

(c)sy’n ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth cynghorau cymuned fod ar gael ar ffurf electronig;

(d)ynghylch cyhoeddi cofrestrau o fuddiannau aelodau cyrff cyhoeddus penodol (gan gynnwys awdurdodau lleol) yn electronig;

(e)yn ymwneud â mynychu cyfarfodydd prif gynghorau o bell;

(f)yn ymwneud â rôl pwyllgorau gwasanaethau democrataidd;

(g)sy’n cymhwyso gofynion o ran cydbwysedd gwleidyddol i bwyllgorau archwilio prif bwyllgorau;

(h)yn ymwneud â swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a sut y mae’n paratoi adroddiadau;

(i)ynghylch sefydlu cyd-bwyllgorau safonau;

(j)sy’n galluogi’r pwyllgor safonau neu swyddog monitro awdurdod perthnasol i gyfeirio achosion sy’n ymwneud ag ymddygiad at bwyllgor safonau neu swyddog monitro awdurdod perthnasol arall.

(6)Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch y Ddeddf hon.

RHAN 2COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Parhad ac enw

2Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

(1)Mae’r corff corfforaethol a enwir yn Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (a sefydlwyd o dan adran 53 o Ddeddf 1972) i barhau mewn bodolaeth.

(2)Ond mae wedi ei ailenwi, ac mae i’w alw’n Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “y Comisiwn”).

Statws

3Statws

(1)Nid yw’r Comisiwn i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac yn un sy’n mwynhau unrhyw statws, imiwnedd neu fraint sydd gan y Goron.

(2)Nid yw eiddo’r Comisiwn i’w ystyried yn eiddo’r Goron nac yn eiddo sy’n cael ei ddal ar ran y Goron.

Aelodau

4Aelodaeth

(1)Yr aelodau a ganlyn fydd aelodau’r Comisiwn—

(a)aelod i gadeirio’r Comisiwn (yr “aelod cadeirio”),

(b)aelod i weithredu fel dirprwy i’r aelod cadeirio, ac

(c)dim mwy na 3 aelod arall.

(2)Mae’r aelodau i’w penodi gan Weinidogion Cymru ar delerau ac amodau a benderfynir gan Weinidogion Cymru (gan gynnwys amodau o ran tâl, lwfansau a threuliau).

(3)Ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person sydd yn—

(a)aelod Seneddol;

(b)aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)aelod o awdurdod lleol yng Nghymru;

(d)swyddog i awdurdod lleol yng Nghymru;

(e)aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(f)comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru; neu

(g)aelod o staff y Comisiwn.

5Deiliadaeth

Mae aelodau’r Comisiwn yn dal ac yn gadael swydd yn unol â thelerau ac amodau eu penodiad.

Trafodion

6Trafodion

(1)3 yw’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd o’r Comisiwn.

(2)Fel arall, caiff y Comisiwn reoleiddio ei weithdrefn ei hun.

(3)Nid yw unrhyw ddiffyg ym mhenodiad aelod yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan y Comisiwn.

7Y sêl a dilysrwydd dogfennau

(1)Caniateir i’r Comisiwn gael sêl.

(2)Dilysir y weithred o osod y sêl drwy lofnod aelod o’r Comisiwn neu lofnod person arall sydd wedi ei awdurdodi gan y Comisiwn at y diben hwnnw.

(3)Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei chyflawni’n briodol o dan sêl y Comisiwn, neu ei bod wedi ei llofnodi ar ei ran gan y prif weithredwr neu aelod arall o staff sydd wedi ei awdurdodi i wneud hynny, i gael ei derbyn yn dystiolaeth a rhaid cymryd ei bod wedi ei chyflawni neu wedi ei llofnodi felly oni phrofir i’r gwrthwyneb.

Staff, arbenigwyr a chomisiynwyr cynorthwyol

8Prif weithredwr

(1)Rhaid i’r Comisiwn gyflogi prif weithredwr.

(2)Mae’r prif weithredwr i’w benodi gan Weinidogion Cymru ar delerau ac amodau a benderfynir ganddynt (gan gynnwys amodau o ran tâl, pensiwn, lwfansau a threuliau).

(3)Cyn penodi prif weithredwr, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.

9Staff eraill

(1)Caiff y Comisiwn gyflogi staff.

(2)Mae’r staff i’w cyflogi ar delerau ac amodau a benderfynir gan y Comisiwn (gan gynnwys amodau o ran tâl, pensiwn, lwfansau a threuliau).

(3)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y symiau sy’n daladwy i’w staff mewn cysylltiad â thâl, pensiynau, lwfansau a threuliau.

10Arbenigwyr

(1)Caiff y Comisiwn benodi person (“arbenigwr”) i’w gynorthwyo i arfer ei swyddogaethau.

(2)Cyn penodi arbenigwr rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

(3)Ni chaniateir i benodiad o dan is-adran (1) gael ei wneud oni bai bod y Comisiwn wedi ei fodloni bod gan yr arbenigwr wybodaeth, profiad neu arbenigedd sy’n berthnasol i’r broses o arfer ei swyddogaethau.

(4)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i’r arbenigwr.

(5)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i arbenigwr.

11Comisiynwyr cynorthwyol

(1)Caiff y Comisiwn benodi person (“comisiynydd cynorthwyol”) y caiff, at ddibenion adran 13, ddirprwyo swyddogaethau iddo.

(2)Ond ni chaiff y Comisiwn benodi person sydd yn—

(a)aelod Seneddol;

(b)aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)aelod o awdurdod lleol yng Nghymru;

(d)swyddog i awdurdod lleol yng Nghymru;

(e)aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(f)comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru; neu

(g)aelod o staff y Comisiwn.

(3)Cyn penodi comisiynydd cynorthwyol rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

(4)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i gomisiynydd cynorthwyol.

(5)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i gomisiynydd cynorthwyol.

Pwerau cyffredinol a chyfarwyddiadau

12Pwerau

(1)Caiff y Comisiwn wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso’r arferiad o’i swyddogaethau neu sy’n ffafriol i’r arferiad o’i swyddogaethau neu’n gysylltiedig â hynny.

(2)Ond ni chaiff y Comisiwn—

(a)benthyca arian;

(b)caffael tir neu eiddo arall heb gydsyniad Gweinidogion Cymru; neu

(c)ffurfio a hyrwyddo cwmnïau.

13Dirprwyo

(1)Caiff y Comisiwn ddirprwyo i un neu fwy o’i aelodau neu gomisiynydd cynorthwyol y swyddogaethau hynny o dan Benodau 2 i 4, 6 neu 7 o Ran 3 (swyddogaethau ynghylch cynnal adolygiadau o lywodraeth leol neu ymchwiliadau lleol) a benderfynir ganddo i’r graddau y mae wedi eu dirprwyo felly.

(2)Nid yw is-adran (1) yn effeithio ar—

(a)cyfrifoldeb y Comisiwn dros arfer swyddogaethau dirprwyedig, na

(b)gallu’r Comisiwn i arfer swyddogaethau dirprwyedig.

14Cyfarwyddiadau

(1)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd (boed yn gyffredinol neu’n benodol) a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.

(2)Caniateir i gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd dilynol.

Materion ariannol

15Cyllido

(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau i’r Comisiwn o symiau a benderfynir ganddynt.

(2)Gwneir grant yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir gan Weinidogion Cymru (gan gynnwys amodau ynghylch ad-dalu).

16Swyddog cyfrifyddu

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddynodi person i weithredu’n swyddog cyfrifyddu i’r Comisiwn.

(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid y Comisiwn, y cyfrifoldebau a bennir mewn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.

(3)Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae—

(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;

(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Comisiwn;

(c)cyfrifoldebau am ddarbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth i’r Comisiwn ddefnyddio ei adnoddau;

(d)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;

(e)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Dŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.

17Pwyllgor archwilio

(1)Rhaid i’r Comisiwn sefydlu pwyllgor (“pwyllgor archwilio”) i—

(a)adolygu materion ariannol y Comisiwn a chraffu arnynt,

(b)adolygu ac asesu trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol y Comisiwn,

(c)adolygu ac asesu darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd defnydd y Comisiwn o’i adnoddau wrth gyflawni ei swyddogaethau, a

(d)llunio adroddiadau a gwneud argymhellion i’r Comisiwn mewn perthynas ag adolygiadau a gynhelir o dan baragraffau (a), (b) neu (c).

(2)Rhaid i’r pwyllgor archwilio anfon copïau o’i adroddiadau a’i argymhellion at Weinidogion Cymru.

(3)Y pwyllgor archwilio sydd i benderfynu sut i arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.

18Pwyllgor archwilio: aelodaeth

(1)Mae aelodau’r pwyllgor archwilio i fod fel a ganlyn—

(a)o leiaf ddau aelod o’r Comisiwn, a

(b)o leiaf un aelod lleyg.

(2)Ni chaiff aelod cadeirio’r Comisiwn fod yn aelod o’r pwyllgor archwilio.

(3)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau a threuliau a benderfynir ganddo i aelod lleyg.

(4)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i aelod lleyg.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “aelod lleyg” yw unrhyw berson ar wahân i—

(a)un o aelodau neu gyflogeion y Comisiwn, neu

(b)arbenigwr sydd wedi ei benodi o dan adran 10(1) neu gomisiynydd cynorthwyol sydd wedi ei benodi o dan adran 11(1).

19Cyfrifon ac archwilio allanol

(1)Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a

(b)llunio datganiad o gyfrifon.

(2)Rhaid i bob datganiad o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—

(a)yr wybodaeth i’w chynnwys ynddo,

(b)y modd y mae’r wybodaeth i gael ei chyflwyno,

(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i’w lunio yn unol â hwy.

(3)Heb fod yn hwyrach nag 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i—

(a)Gweinidogion Cymru, a

(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru.

(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)archwilio ac ardystio’r datganiad o gyfrifon ac adrodd arno, a

(b)heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i’r datganiad gael ei gyflwyno, gosod copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.

20Adroddiadau blynyddol

(1)Heb fod yn hwyrach na 30 Tachwedd ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar y broses o gyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad a gosod copi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Yn yr adran hon, mae i “blwyddyn ariannol” yr un ystyr ag yn adran 19.

RHAN 3TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

PENNOD 1DYLETSWYDDAU I FONITRO TREFNIADAU LLYWODRAETH LEOL

Dyletswydd y Comisiwn

21Dyletswydd y Comisiwn i fonitro trefniadau ar gyfer llywodraeth leol

(1)Rhaid i’r Comisiwn, at ddibenion ystyried a yw’n briodol i wneud neu argymell newidiadau o dan y Rhan hon, fonitro’r ardaloedd a’r trefniadau etholiadol sy’n berthnasol i lywodraeth leol yng Nghymru.

(2)Yn unol â’r ddyletswydd honno, rhaid i’r Comisiwn gynnal y cyfryw adolygiadau o dan y Rhan hon ag a fo’n ofynnol o dan y deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall, y caiff Gweinidogion Cymru eu cyfarwyddo, neu fel y mae fel arall yn ystyried sy’n briodol.

(3)Wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Rhan hon (ac wrth gynnal unrhyw adolygiad), rhaid i’r Comisiwn geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Dyletswyddau prif gyngor

22Dyletswyddau prif gynghorau mewn perthynas ag ardal

(1)Rhaid i brif gyngor, at ddibenion ystyried a yw’n briodol i wneud neu argymell newidiadau o dan y Rhan hon, fonitro—

(a)y cymunedau yn ei ardal, a

(b)trefniadau etholiadol y cymunedau hynny.

(2)Yn unol â’r ddyletswydd honno, rhaid i brif gyngor—

(a)rhoi sylw i amserlen y Comisiwn ar gyfer cynnal yr adolygiadau o drefniadau etholiadol prif ardaloedd sy’n ofynnol gan adran 29(1), a

(b)cynnal y cyfryw adolygiadau o dan y Rhan hon ag a fo’n ofynnol o dan y deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall, y caiff Gweinidogion Cymru eu cyfarwyddo, neu fel y mae fel arall yn ystyried sy’n briodol.

(3)Wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Rhan hon (ac wrth gynnal unrhyw adolygiad), rhaid i brif gyngor geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

(4)Rhaid i brif gyngor ddarparu i’r Comisiwn yr wybodaeth y gallai yn rhesymol ofyn amdani mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(5)Rhaid i brif gyngor, mewn cysylltiad â phob cyfnod adrodd, gyhoeddi adroddiad sy’n disgrifio sut y cyflawnodd ei ddyletswydd o dan is-adran (1) ac anfon copi o’r adroddiad at y Comisiwn.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “cyfnod adrodd” yw—

(a)y cyfnod o 10 mlynedd sy’n dechrau gyda—

(i)y dyddiad pryd y cyhoeddwyd ddiwethaf adroddiad gan y prif gyngor o dan adran 55(2A) neu, os yw’n gynharach, adran 57(4A) o Ddeddf 1972, neu

(ii)yn achos prif gyngor nad yw wedi cyhoeddi adroddiad o’r fath cyn y daw’r adran hon i rym, y dyddiad pryd y daw’r adran hon i rym, a

(b)pob cyfnod dilynol o 10 mlynedd.

PENNOD 2ADOLYGIADAU ARDAL

Prif ardaloedd

23Adolygu ffiniau prif ardaloedd

(1)Caiff y Comisiwn, o’i wirfodd neu ar gais gan awdurdod lleol, gynnal adolygiad o un neu ragor o brif ardaloedd.

(2)Ond rhaid i’r Comisiwn beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (1) ar gais awdurdod lleol os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.

(3)Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—

(a)y newidiadau hynny i ffin prif ardal y mae o’r farn eu bod yn briodol, a

(b)o ganlyniad i unrhyw newidiadau i ffin prif ardal, y newidiadau hynny i ffin cymuned, newidiadau i sir wedi ei chadw, newidiadau i gyngor cymuned neu drefniadau etholiadol y mae o’r farn eu bod yn briodol.

(4)At ddibenion y Rhan hon—

(a)mae cyfeiriad at “newid i ffin cymuned” yn gyfeiriad at—

(i)newid y ffin i gymuned;

(ii)dileu cymuned;

(iii)cyfansoddi cymuned newydd;

(b)mae cyfeiriad at “newid i gyngor cymuned” yn gyfeiriad at—

(i)cyfansoddi cyngor ar gyfer cymuned neu gyngor cyffredin ar gyfer grŵp o gymunedau;

(ii)diddymu cyngor cymuned (un ar wahân neu un cyffredin);

(iii)gwahanu cymuned o grŵp o gymunedau sydd â chyngor cymuned cyffredin;

(iv)ychwanegu cymuned at grŵp o gymunedau sydd â chyngor cymuned cyffredin;

(c)mae cyfeiriad at “newid i drefniadau etholiadol” yn gyfeiriad at newid i’r trefniadau etholiadol ar gyfer unrhyw ardal llywodraeth leol;

(d)mae cyfeiriad at “newid i sir wedi ei chadw” yn gyfeiriad at newid i ardal sir wedi ei chadw;

(e)mae cyfeiriad at “newid i ffin prif ardal” yn gyfeiriad at—

(i)newid y ffin i brif ardal;

(ii)diddymu prif ardal;

(iii)cyfansoddi prif ardal newydd.

24Adolygu prif ardaloedd yn dilyn gorchymyn tref newydd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud gorchymyn o dan adran 1 o Ddeddf Trefi Newydd 1981 (p. 64) (dynodi ardaloedd o dir ar gyfer trefi newydd) sy’n dynodi unrhyw ardal o dir yn safle i dref newydd, a

(b)pan na fo’r ardal a ddynodwyd felly ar gyfer y dref newydd yn cael ei chynnwys yn ei chyfanrwydd o fewn prif ardal.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y mae’n rhesymol ymarferol ar ôl dyddiad gweithredu’r gorchymyn, hysbysu’r Comisiwn gan bennu’r prif ardaloedd y mae’r gorchymyn yn effeithio arnynt.

(3)Rhaid i’r Comisiwn, pan ddaw hysbysiad i law o dan is-adran (2), gynnal adolygiad o dan adran 23 o unrhyw brif ardaloedd a bennir yn yr hysbysiad.

Cymunedau

25Adolygu ffiniau cymuned gan brif gyngor

(1)Caiff prif gyngor gynnal adolygiad o un neu ragor o’r cymunedau yn ei ardal—

(a)o’i wirfodd, neu

(b)ar gais—

(i)cyngor cymuned yn ei ardal, neu

(ii)cyfarfod cymunedol yn ei ardal.

(2)Ond rhaid i brif gyngor beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (1) ar gais cyngor cymuned neu gyfarfod cymunedol os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.

(3)Y newidiadau y caiff prif gyngor eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—

(a)y newidiadau hynny i ffiniau cymuned y mae o’r farn eu bod yn briodol, a

(b)o ganlyniad i unrhyw newidiadau i ffiniau cymuned, y newidiadau hynny i gyngor cymuned a newidiadau cysylltiedig i drefniadau etholiadol—

(i)y gymuned neu’r cymunedau sydd o dan adolygiad,

(ii)y brif ardal,

y mae o’r farn eu bod yn briodol.

(4)At ddibenion is-adran (3)(b)(ii), mae adran 30 yn gymwys i brif gyngor fel y mae’n gymwys i’r Comisiwn.

(5)Caiff prif gyngor ymrwymo mewn cytundeb gyda’r Comisiwn er mwyn i’r Comisiwn (o dan adran 26) arfer swyddogaethau’r cyngor o dan yr adran hon.

(6)Caiff y cytundeb fod ar y telerau a’r amodau hynny y mae’r prif gyngor a’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol.

26Adolygu ffiniau cymuned gan y Comisiwn

(1)Caiff y Comisiwn, yn unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), gynnal adolygiad o un neu ragor o gymunedau mewn prif ardal.

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r Comisiwn wedi cytuno i arfer swyddogaethau prif gyngor o dan adran 25(5),

(b)pan fo prif gyngor wedi cyflwyno argymhellion i’r Comisiwn o dan adran 36(5) ac —

(i)argymhelliad y cyngor yw na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i ffiniau cymuned,

(ii)nad yw’r cyngor a’r Comisiwn yn gallu cytuno ar yr addasiadau hynny i’r argymhellion y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn angenrheidiol iddo eu gweithredu,

(iii)nad yw’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol i weithredu unrhyw un neu ragor o argymhellion y cyngor, neu

(iv)bod y Comisiwn o’r farn na chafodd yr adolygiad ei gynnal gan y cyngor yn unol â’r Rhan hon neu fel arall ei fod yn ddiffygiol mewn modd sylweddol,

(c)pan na fo prif gyngor wedi cydymffurfio â chyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru i gynnal adolygiad o un neu ragor o’i gymunedau.

(3)Y newidiadau y caiff Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—

(a)y newidiadau hynny i ffiniau cymuned y mae o’r farn eu bod yn briodol, a

(b)o ganlyniad i unrhyw newidiadau i ffiniau cymuned, y newidiadau hynny i gyngor cymuned a newidiadau cysylltiedig i drefniadau etholiadol—

(i)y gymuned neu’r cymunedau sydd dan adolygiad,

(ii)y brif ardal,

y mae o’r farn eu bod yn briodol.

(4)Pan fo’r Comisiwn yn cynnal adolygiad yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2)(b)(iv) neu (c), caiff adennill y gost o wneud hynny oddi wrth y prif gyngor.

(5)Os bydd anghytundeb rhwng y Comisiwn a’r prif gyngor ynghylch y swm sy’n daladwy i’r Comisiwn o dan is-adran (4), caiff Gweinidogion Cymru benderfynu’r swm hwnnw.

(6)O ran unrhyw swm sy’n daladwy i’r Comisiwn o dan yr adran hon, mae modd ei adennill fel dyled sy’n ddyledus i’r Comisiwn.

Siroedd wedi eu cadw

27Adolygu siroedd wedi eu cadw

(1)Caiff y Comisiwn gynnal adolygiad o un neu ragor o siroedd wedi eu cadw.

(2)Caiff y Comisiwn argymell y newidiadau hynny i ardal sir wedi ei chadw y mae o’r farn eu bod yn briodol.

(3)Wrth ystyried a yw newidiadau i ardal y sir sydd wedi ei chadw yn rhai priodol (p’un ai mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon neu fel rhan o unrhyw adolygiad arall) rhaid i’r Comisiwn roi sylw, yn benodol, i’r dibenion dros gadw’r siroedd sydd wedi eu cadw.

(4)At ddibenion y Rhan hon, ystyr “sir wedi ei chadw” yw unrhyw sir a grëwyd gan Ddeddf 1972 yn sir yng Nghymru fel yr oedd hi yn union cyn pasio Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 ond yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf honno neu unrhyw ddarpariaeth a wnaed o dan Ddeddf 1972 neu’r Ddeddf hon a bod y ddarpariaeth honno’n ail-lunio ei ffiniau.

Ffiniau tua’r môr

28Adolygu ffiniau tua’r môr

(1)Caiff y Comisiwn gynnal adolygiad o gymaint o ffin ardal llywodraeth leol (sy’n cynnwys, at ddibenion yr adran hon, sir wedi ei chadw)—

(a)sy’n gorwedd o dan farc penllanw pan fo’r llanw’n ganolig, a

(b)nad yw’n ffurfio ffin gyffredin ag ardal llywodraeth leol arall.

(2)Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—

(a)cynnwys o fewn yr ardal llywodraeth leol unrhyw ardal o’r môr nad yw, ar adeg yr adolygiad, yn ffurfio rhan o ardal llywodraeth leol arall, a

(b)allgáu unrhyw ardal o’r môr sydd, ar adeg yr adolygiad, yn ffurfio rhan o’r ardal llywodraeth leol.

PENNOD 3ADOLYGIADAU O DREFNIADAU ETHOLIADOL

Prif ardaloedd

29Adolygu trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal

(1)Rhaid i’r Comisiwn gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob prif ardal o leiaf unwaith ym mhob cyfnod adolygu.

(2)Rhaid i’r Comisiwn, mewn perthynas â phob cyfnod adolygu—

(a)paratoi a chyhoeddi rhaglen sy’n nodi ei amserlen arfaethedig ar gyfer cynnal yr holl adolygiadau sy’n ofynnol o dan is-adran (1) yn ystod y cyfnod, a

(b)anfon copi o’r rhaglen at Weinidogion Cymru.

(3)At ddibenion is-adrannau (1) a (2) ystyr “cyfnod adolygu” yw—

(a)y cyfnod o 10 mlynedd sy’n dechrau gyda’r diwrnod pryd y daw’r adran hon i rym, a

(b)pob cyfnod dilynol o 10 mlynedd.

(4)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â’i ddyletswyddau yn is-adran (2)—

(a)mewn perthynas â’r cyfnod adolygu cyntaf, cyn gynted ag y bo modd wedi iddo ddechrau, a

(b)mewn perthynas â phob cyfnod adolygu dilynol, cyn i’r cyfnod ddechrau.

(5)Caiff y Comisiwn hefyd, o’i wirfodd neu ar gais prif gyngor, gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal.

(6)Ond rhaid i’r Comisiwn beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (5) ar gais prif gyngor os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.

(7)Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—

(a)y newidiadau hynny i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal sydd dan adolygiad y mae o’r farn eu bod yn briodol, a

(b)o ganlyniad i newid o’r fath—

(i)y newidiadau hynny i ffiniau cymuned y mae o’r farn eu bod yn briodol mewn perthynas ag unrhyw gymuned yn y brif ardal,

(ii)y newidiadau hynny i gyngor cymuned a newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned o’r fath y mae o’r farn eu bod yn briodol,

(iii)y newidiadau hynny i sir wedi ei chadw y mae o’r farn eu bod yn briodol.

(8)Rhaid i’r Comisiwn beidio â gwneud neu gyhoeddi, yn unrhyw gyfnod o 9 mis cyn diwrnod etholiad arferol cyngor o dan adran 26 o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr), unrhyw argymhellion sy’n ymwneud â threfniadau etholiadol prif ardal.

(9)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at drefniadau etholiadol prif ardal yn gyfeiriad at y canlynol—

(a)nifer aelodau’r cyngor ar gyfer y brif ardal,

(b)nifer, math a ffiniau’r wardiau etholiadol y rhennir y brif ardal iddynt am y tro at ddibenion ethol aelodau,

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward etholiadol yn y brif ardal honno, a

(d)enw unrhyw ward etholiadol.

(10)At ddibenion is-adran (9)(b), mae cyfeiriad at y math o ward etholiadol yn gyfeiriad at a yw’r ward yn ward un aelod neu’n ward amlaelod.

(11)Yn y Rhan hon—

30Ystyriaethau ar gyfer adolygiad o drefniadau etholiadol prif ardal

(1)Rhaid i’r Comisiwn, wrth ystyried a fydd yn gwneud argymhellion ynghylch newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal—

(a)ceisio sicrhau bod yr un gymhareb o etholwyr llywodraeth leol i nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal, neu’n agos at fod felly,

(b)rhoi sylw i’r canlynol—

(i)dymunoldeb pennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol sydd yn hawdd eu hadnabod ac a fyddant yn parhau felly,

(ii)dymunoldeb peidio â thorri’r cwlwm lleol wrth bennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol.

(2)At ddibenion is-adran (1)(a), rhaid rhoi sylw i’r canlynol—

(a)unrhyw anghysondeb rhwng nifer etholwyr llywodraeth leol a nifer y personau sydd yn gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel a welir mewn ystadegau swyddogol perthnasol), a

(b)unrhyw newid yn nifer neu yn nosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl gwneud unrhyw argymhelliad.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “ystadegau swyddogol perthnasol” yw’r ystadegau swyddogol hynny o fewn yr ystyr a roddir i “official statistics” yn adran 6 o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 (p. 18) y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol.

(4)Yn y Rhan hon, ystyr “etholwr llywodraeth leol” yw person sydd wedi ei gofrestru’n etholwr llywodraeth leol yn y gofrestr etholwyr yn unol â darpariaethau Deddfau Cynrychiolaeth y Bobl.

Cymunedau

31Adolygu trefniadau etholiadol i gymuned gan brif gyngor

(1)Caiff prif gyngor gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned yn ei ardal —

(a)o’i wirfodd, neu

(b)ar gais—

(i)y cyngor cymuned ar gyfer y gymuned, neu

(ii)dim llai na 30 o etholwyr llywodraeth leol sydd wedi eu cofrestru yn y gymuned.

(2)Ond rhaid i brif gyngor beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (1) ar gais y cyngor cymuned neu etholwyr llywodraeth leol os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.

(3)Y newidiadau y caiff prif gyngor eu cynnig a’u gwneud mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon—

(a)yw’r newidiadau hynny i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned y mae’r prif gyngor o’r farn eu bod yn briodol, a

(b)o ganlyniad i unrhyw newid i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned, y newidiadau hynny i drefniadau etholiadol y brif ardal y mae o’r farn eu bod yn briodol.

(4)At ddibenion is-adran (3)(b), mae adran 30 yn gymwys i brif gyngor fel y mae’n gymwys i’r Comisiwn.

(5)Caiff prif gyngor ymrwymo mewn cytundeb gyda’r Comisiwn er mwyn i’r Comisiwn (o dan adran 32) arfer swyddogaeth y cyngor o gynnal adolygiadau o dan yr adran hon.

(6)Caiff y cytundeb fod ar y telerau a’r amodau hynny y mae’r prif gyngor a’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol.

(7)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at drefniadau etholiadol cymuned yn gyfeiriad at y canlynol—

(a)nifer aelodau’r cyngor ar gyfer y gymuned;

(b)ei rhaniad yn wardiau (os yw’n briodol) at ddibenion ethol cynghorwyr;

(c)nifer a ffiniau unrhyw wardiau;

(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward;

(e)enw unrhyw ward.

32Adolygu trefniadau etholiadol cymuned gan y Comisiwn

(1)Caiff y Comisiwn, yn unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned.

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r Comisiwn wedi cytuno i arfer swyddogaeth prif gyngor o gynnal adolygiadau o dan adran 31(5);

(b)pan ofynnwyd i’r Comisiwn gynnal adolygiad o gymuned gan—

(i)y cyngor cymuned, neu

(ii)dim llai na 30 o etholwyr llywodraeth leol o’r gymuned;

(c)pan na fo prif gyngor wedi cydymffurfio â chyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru i gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer un neu ragor o’i gymunedau.

(3)Ond rhaid i’r Comisiwn beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (1) yn dilyn cais gan gyngor cymuned neu etholwyr llywodraeth leol os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.

(4)Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag unrhyw adolygiad o dan yr adran hon—

(a)yw’r newidiadau hynny i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol, a

(b)o ganlyniad i unrhyw newid i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned, y newidiadau hynny i drefniadau etholiadol y brif ardal y mae o’r farn eu bod yn briodol.

(5)Pan fo’r Comisiwn yn cynnal adolygiad yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2)(c), caiff adennill y gost am wneud hynny oddi wrth y prif gyngor.

(6)Os bydd anghytundeb rhwng y Comisiwn a’r prif gyngor ynghylch y swm sy’n daladwy i’r Comisiwn o dan is-adran (5), caiff Gweinidogion Cymru benderfynu’r swm hwnnw.

(7)O ran unrhyw swm sy’n daladwy i’r Comisiwn o dan yr adran hon, mae modd ei adennill fel dyled sy’n ddyledus i’r Comisiwn.

33Ystyriaethau ar gyfer adolygiad o drefniadau etholiadol cymuned

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo prif gyngor yn ystyried gwneud neu, yn ôl y digwydd, pan fo’r Comisiwn yn ystyried argymell, newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned.

(2)Wrth ystyried a ddylid rhannu cymuned yn wardiau cymuned, rhaid rhoi sylw i’r canlynol—

(a)a yw nifer neu ddosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer y gymuned yn y fath fodd sy’n gwneud un etholiad o gynghorwyr cyngor cymuned yn anymarferol neu’n anghyfleus, a

(b)a yw’n ddymunol y dylai unrhyw ardal o’r gymuned gael cynrychiolaeth ar wahân ar y cyngor cymuned.

(3)Pan benderfynir rhannu cymuned yn wardiau cymuned, wrth ystyried maint a ffiniau’r wardiau ac wrth bennu nifer y cynghorwyr cymuned sydd i’w hethol ar gyfer pob ward, dylid rhoi sylw i’r canlynol—

(a)unrhyw newid yn nifer neu yn nosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y gymuned sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl unrhyw argymhelliad,

(b)dymunoldeb pennu ffiniau sydd yn hawdd eu hadnabod ac a fyddant yn parhau felly, ac

(c)unrhyw gwlwm lleol a fydd yn cael ei dorri wrth bennu ffiniau penodol.

(4)Pan benderfynir peidio â rhannu cymuned yn wardiau cymuned, wrth bennu nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer pob cymuned, dylid rhoi sylw i’r canlynol—

(a)nifer a dosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol yn y gymuned, a

(b)unrhyw newid yn y nifer neu’r dosbarthiad hwnnw sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl pennu nifer y cynghorwyr cymuned.

(5)At ddibenion yr adran hon, rhaid rhoi sylw i unrhyw anghysondeb rhwng nifer etholwyr llywodraeth leol a nifer y personau sydd yn gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel a welir mewn ystadegau swyddogol perthnasol).

(6)Yn yr adran hon, ystyr “ystadegau swyddogol perthnasol” yw’r ystadegau swyddogol hynny (o fewn yr ystyr a roddir i “official statistics” yn adran 6 o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 (p. 18)) y mae’r Comisiwn, neu yn ôl y digwydd, y prif gyngor o’r farn eu bod yn briodol.

PENNOD 4Y WEITHDREFN AR GYFER ADOLYGIADAU LLYWODRAETH LEOL

Y weithdrefn ar gyfer adolygiadau

34Y weithdrefn ragadolygu

(1)Cyn cynnal adolygiad o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor gymryd y camau hynny y mae o’r farn eu bod yn briodol er mwyn—

(a)dod â’r adolygiad i sylw ymgyngoreion gorfodol ac unrhyw berson arall y mae o’r farn ei bod yn debygol y bydd ganddynt fuddiant yn yr adolygiad, a

(b)gwneud yr ymgyngoreion gorfodol a’r personau eraill hynny y mae ganddynt fuddiant yn ymwybodol o unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru sy’n berthnasol i’r adolygiad.

(2)O ran adolygiad sydd i’w gynnal o dan adran 29, cyn cynnal yr adolygiad, rhaid i’r Comisiwn hefyd ymgynghori â’r ymgyngoreion gorfodol ynghylch y weithdrefn a’r fethodoleg a fwriedir ar gyfer yr adolygiad ac, yn benodol, sut y mae’n bwriadu penderfynu nifer priodol yr aelodau ar gyfer unrhyw brif gyngor yn y brif ardal neu’r ardaloedd sydd dan adolygiad.

(3)At ddibenion y Rhan hon, yr “ymgyngoreion gorfodol” yw—

(a)unrhyw awdurdod lleol y mae’r adolygiad yn effeithio arno,

(b)ac eithrio mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 28 (adolygu ffiniau tua’r môr), comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer unrhyw ardal heddlu y gall yr adolygiad effeithio arni,

(c)ac eithrio pan fo’r adolygiad yn cael ei gynnal (neu i’w gynnal) ganddo ef, y Comisiwn,

(d)unrhyw gorff sy’n cynrychioli’r staff a gyflogir gan awdurdodau lleol sydd wedi gofyn am ymgynghoriad â hwy, a

(e)unrhyw bersonau eraill a bennir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i adolygiad a gynhelir gan y Comisiwn yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 26(2)(b)(ii) neu (iii).

35Ymgynghori ac ymchwilio

(1)Wrth gynnal adolygiad o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor (“y corff adolygu”)—

(a)ymgynghori â’r ymgyngoreion gorfodol a’r personau eraill hynny y mae o’r farn eu bod yn briodol, a

(b)cynnal yr ymchwiliadau hynny y mae o’r farn eu bod yn briodol.

(2)Ar ôl cynnal yr ymgynghoriad a’r ymchwiliadau o dan is-adran (1), rhaid i’r corff adolygu lunio adroddiad sy’n cynnwys—

(a)unrhyw gynigion ar gyfer newid y mae o’r farn eu bod yn briodol neu, os yw o’r farn nad oes unrhyw newid yn briodol, cynnig i’r diben hwnnw,

(b)manylion o’r adolygiad y mae wedi ei gynnal.

(3)Rhaid i’r corff adolygu—

(a)cyhoeddi’r adroddiad yn electronig,

(b)sicrhau bod yr adroddiad ar gael i edrych arno (yn ddi-dâl) yn swyddfeydd unrhyw brif gyngor sydd â buddiant yn yr adolygiad ar hyd y cyfnod ar gyfer sylwadau,

(c)anfon copïau o’r adroddiad at Weinidogion Cymru a’r ymgyngoreion gorfodol,

(d)hysbysu unrhyw berson arall a gyflwynodd dystiolaeth i’r corff adolygu sut i gael copi o’r adroddiad, ac

(e)gwahodd sylwadau a hysbysu’r personau a grybwyllir yn (c) a (d) am y cyfnod ar gyfer sylwadau.

(4)At ddibenion is-adran (3), y “cyfnod ar gyfer sylwadau” yw cyfnod nad yw’n llai na 6 wythnos, nac yn hwy na 12 wythnos (fel a benderfynir gan y corff adolygu) yn dechrau dim cynt nag un wythnos ar ôl rhoi hysbysiad am y cyfnod.

(5)At ddibenion yr adran hon, mae gan brif gyngor fuddiant mewn adolygiad—

(a)os ef yw’r corff adolygu,

(b)os yw ei ardal dan adolygiad,

(c)os yw cymuned yn ei ardal (neu os yw’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned honno) dan adolygiad.

(6)Yn yr adran hon ac yn adran 36 mae cyfeiriad at gynnig newid yn gyfeiriad at unrhyw newid y caiff y corff adolygu ei argymell neu ei wneud (gan gynnwys newid canlyniadol) mewn perthynas â’r math o adolygiad sy’n cael ei gynnal.

36Adrodd ar yr adolygiad

(1)Rhaid i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor (“y corff adolygu”), ar ôl i’r cyfnod ar gyfer sylwadau o dan adran 35(3) ddod i ben, ystyried ei gynigion i newid gan roi sylw i unrhyw sylwadau a gafwyd ganddo yn ystod y cyfnod.

(2)Yna rhaid i’r corff adolygu lunio adroddiad pellach.

(3)Ac eithrio mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 31, rhaid i’r adroddiad gynnwys—

(a)unrhyw argymhelliad i newid y mae’r corff adolygu o’r farn ei fod yn briodol, neu os yw o’r farn nad oes unrhyw newid yn briodol, argymhelliad i’r diben hwnnw,

(b)manylion yr adolygiad a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn cysylltiad â’r cynigion, ac

(c)manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion a wnaed yng ngoleuni’r sylwadau a gafwyd ac esboniad paham y gwnaed y newidiadau hynny.

(4)Pan fo adolygiad o dan adran 31, rhaid i’r adroddiad gynnwys—

(a)y newidiadau y mae’r corff adolygu yn bwriadu eu gwneud i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned dan adolygiad, neu os yw o’r farn nad yw newid o’r fath yn briodol, ddatganiad i’r diben hwnnw,

(b)manylion yr adolygiad a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn cysylltiad â’r cynigion, ac

(c)manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion a wnaed yng ngoleuni’r sylwadau a gafodd ac esboniad paham y gwnaed y newidiadau hynny.

(5)Rhaid i’r corff adolygu—

(a)cyflwyno’r adroddiad a’i argymhellion i’r awdurdod gweithredu priodol (ac eithrio pan ef yw’r awdurdod gweithredu),

(b)cyhoeddi’r adroddiad yn electronig a sicrhau ei fod ar gael i edrych arno (yn ddi-dâl) yn swyddfeydd unrhyw brif gyngor sydd â buddiant am gyfnod sydd o leiaf yn 6 wythnos yn dechrau ar ddyddiad y cyhoeddi,

(c)anfon copi o’r adroddiad at yr ymgyngoreion gorfodol, yr Arolwg Ordnans ac (onid hwy yw’r awdurdod gweithredu) at Weinidogion Cymru,

(d)hysbysu unrhyw berson arall a gyflwynodd dystiolaeth neu a wnaeth sylwadau mewn perthynas â’r adroddiad a gyhoeddwyd o dan adran 35 sut i gael copi o’r adroddiad.

(6)At ddibenion is-adran (5), yr “awdurdod gweithredu priodol” yw—

(a)mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 23, Gweinidogion Cymru ac, mewn achos pan fo’r Comisiwn yn argymell newid i ardal heddlu, yr Ysgrifennydd Gwladol (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r newid hwnnw);

(b)mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 25, y Comisiwn;

(c)mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 26, 27, 28 neu 29, Gweinidogion Cymru;

(d)mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 32, prif gyngor y gymuned a fu’n destun yr adolygiad.

(7)Pan fo prif gyngor yn cyflwyno adroddiad i’r Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 25, nid yw’r Comisiwn i gael ei drin fel ymgynghorai gorfodol at ddibenion is-adran (5)(c).

(8)At ddibenion yr adran hon mae gan brif gyngor fuddiant mewn adolygiad—

(a)os ef yw’r corff adolygu;

(b)os yw ei ardal dan adolygiad;

(c)os yw cymuned yn ei ardal (neu os yw’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned honno) dan adolygiad.

(9)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at argymhelliad i newid yn gyfeiriad at unrhyw newid y caiff y corff adolygu ei argymell neu ei wneud (gan gynnwys newid canlyniadol) mewn perthynas â’r math o adolygiad sy’n cael ei gynnal.

PENNOD 5GWEITHREDU YN DILYN ADOLYGIAD

Gweithredu gan Weinidogion Cymru

37Gweithredu gan Weinidogion Cymru

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt gael adroddiad sy’n cynnwys argymhellion oddi wrth y Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad a gynhaliwyd o dan adran 23, 26, 27, 28 neu 29, neu gais am weithredu ei argymhellion o dan adran 39(7)—

(a)drwy orchymyn weithredu unrhyw argymhelliad, gydag addasiadau neu hebddynt, neu

(b)penderfynu peidio â gweithredu.

(2)Er hynny, ni chaiff Gweinidogion Cymru weithredu argymhelliad gydag addasiadau oni bai ei fod—

(a)mewn achos sy’n ymwneud ag argymhellion i newid trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal, os ydynt wedi ystyried y materion a ddisgrifir yn adran 30 ac wedi eu bodloni ei bod yn briodol i wneud yr addasiad,

(b)mewn achos sy’n ymwneud ag argymhellion i newid trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned, os ydynt wedi ystyried y materion a ddisgrifir yn adran 33 ac wedi eu bodloni ei bod yn briodol i wneud yr addasiad, ac

(c)mewn unrhyw achos, os ydynt wedi eu bodloni bod yr addasiad er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

(3)Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan is-adran (1)(a) nes bod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cafodd Gweinidogion Cymru yr argymhellion wedi dod i ben.

(4)Rhaid i’r Comisiwn roi’r wybodaeth bellach honno i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’i argymhellion fel y bo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn rhesymol ofynnol.

Gweithredu anweinidogol

38Gweithredu newid i ffin cymuned

(1)Caiff y Comisiwn, ar ôl iddo gael adroddiad yn cynnwys argymhellion i newid oddi wrth brif gyngor mewn perthynas ag adolygiad a gynhaliwyd o dan adran 25—

(a)drwy orchymyn weithredu’r argymhellion heb addasiadau,

(b)drwy orchymyn weithredu’r argymhellion gyda’r addasiadau hynny y mae’r prif gyngor yn cytuno arnynt, neu

(c)yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 26(2)(b)(ii) neu (iii), gynnal ei adolygiad ei hun.

(2)Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan is-adran (1) nes bod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cafodd y Comisiwn argymhellion y prif gyngor wedi dod i ben.

(3)Dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru y caniateir gwneud gorchymyn o dan is-adran (1) sy’n cynnwys newidiadau i drefniadau etholiadol prif ardal.

(4)Rhaid i’r prif gyngor a wnaeth yr argymhellion roi i’r Comisiwn yr wybodaeth bellach honno mewn perthynas â’r argymhellion neu’r weithdrefn a ddilynwyd fel y bo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn rhesymol ofynnol.

39Gweithredu newid i drefniadau etholiadol cymuned

(1)Caiff prif gyngor, drwy orchymyn, weithredu’r newidiadau a ddisgrifir mewn adroddiad a luniwyd gan y cyngor o dan adran 36(4).

(2)Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan is-adran (1) tan ddiwedd cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddodd y prif gyngor ei adroddiad.

(3)Caiff prif gyngor, ar ôl cael adroddiad sy’n cynnwys yr argymhellion ar gyfer newid oddi wrth y Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 32—

(a)drwy orchymyn weithredu’r argymhellion heb addasiadau,

(b)drwy orchymyn weithredu’r argymhellion gyda’r addasiadau hynny y cytunir arnynt â’r Comisiwn,

(c)penderfynu peidio â gweithredu a hysbysu’r Comisiwn yn unol â hynny.

(4)Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan is-adran (3) tan ddiwedd cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r cyngor yn cael yr adroddiad.

(5)Dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru y caniateir gwneud gorchymyn o dan is-adran (1) neu (3) sy’n cynnwys newidiadau i drefniadau etholiadol prif ardal.

(6)Mae is-adran (7) yn gymwys—

(a)pan fo’r prif gyngor wedi hysbysu’r Comisiwn nad yw’n bwriadu gweithredu mewn cysylltiad â’r argymhellion, neu

(b)pan na fo’r prif gyngor wedi gwneud gorchymyn (gydag addasiadau neu hebddynt) o fewn y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau ar y dyddiad y cafodd y cyngor argymhellion y Comisiwn.

(7)Caiff y Comisiwn ofyn i Weinidogion Cymru weithredu’r argymhellion o dan adran 37.

Darpariaeth bellach ynghylch gweithredu a gorchmynion gweithredu

40Gorchmynion gweithredu: darpariaeth ganlyniadol

(1)Caniateir i orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu brif gyngor o dan adran 37, 38, 39 neu 43 wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol neu drosiannol sy’n angenrheidiol neu’n hwylus yn eu barn hwy neu ei farn ef.

(2)Caniateir i’r gorchmynion hynny, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)enw unrhyw ardal neu ward etholiadol sydd wedi ei newid;

(b)cyfanswm nifer y cynghorwyr, dosraniad cynghorwyr ymhlith wardiau etholiadol, neilltuo cynghorwyr presennol i wardiau etholiadol newydd neu wardiau etholiadol sydd wedi eu newid ac etholiad cyntaf cynghorwyr i unrhyw ward etholiadol newydd neu unrhyw ward etholiadol sydd wedi ei newid;

(c)cynnal etholiad newydd i gynghorwyr ar gyfer pob ward etholiadol yn yr ardal llywodraeth leol dan sylw;

(d)y drefn ar gyfer ymddeoliad cynghorwyr ar gyfer ward etholiadol;

(e)cyfansoddiad unrhyw gorff cyhoeddus mewn unrhyw ardal neu ward etholiadol y mae’r gorchymyn yn effeithio arni, etholiad iddo ac aelodaeth ohono;

(f)unrhyw un neu ragor o’r materion a ddisgrifir yn adran 41(2).

(3)Dim ond o ganlyniad i newid i’r trefniadau etholiadol ar gyfer ardal a wnaed yn dilyn adolygiad o dan Bennod 3 y caniateir gwneud darpariaeth o’r math a ddisgrifir yn is-adran (2)(c).

(4)Caiff gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 37 neu 43 gymhwyso neu addasu unrhyw ddeddfiad neu siarter.

(5)Nid oes dim yn yr adran hon yn rhagfarnu cyffredinolrwydd adran 71 (gorchmynion a rheoliadau).

(6)Yn yr adran hon—

41Darpariaeth ganlyniadol a throsiannol gyffredinol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol neu drosiannol sy’n angenrheidiol neu’n hwylus yn eu barn hwy at ddibenion rhoi effaith lawn i orchmynion a wneir o dan adran 37, 38, 39 neu 43 neu mewn cysylltiad â hynny.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)swyddogaethau, ardal neu awdurdodaeth mewn neu dros ardal (neu ran o ardal) unrhyw gorff cyhoeddus neu swydd gyhoeddus o fewn ardal (neu ward etholiadol) y mae gorchymyn a wneir o dan y Rhan hon yn effeithio arni;

(b)costau a threuliau corff cyhoeddus neu swydd gyhoeddus y mae’r cyfryw orchymyn yn effeithio arnynt;

(c)trosglwyddo staff cyrff cyhoeddus neu swyddi cyhoeddus yr effeithir arnynt;

(d)trosglwyddo, rheoli neu warchod eiddo (boed yn eiddo tirol neu’n eiddo personol) a throsglwyddo hawliau a rhwymedigaethau;

(e)trosglwyddo achosion cyfreithiol.

(3)Caniateir i’r rheoliadau o dan yr adran hon gymhwyso neu addasu unrhyw ddeddfiad neu siarter.

(4)Nid oes dim yn yr adran hon yn rhagfarnu cyffredinolrwydd adran 71 (gorchmynion a rheoliadau).

(5)Yn yr adran hon, mae i “corff cyhoeddus” yr un ystyr ag yn adran 40(6).

42Trosglwyddo staff

Rhaid i orchymyn o dan adran 37, 38, 39 neu 43 neu, yn ôl y digwydd, reoliadau o dan adran 41 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch trosglwyddo staff gynnwys darpariaeth i sicrhau—

(a)bod person a drosglwyddir i gyflogwr newydd yn aros ar delerau ac amodau nad ydynt yn llai ffafriol na’r rhai yr oedd y person yn ddarostyngedig iddynt cyn iddo drosglwyddo hyd nes bod y person—

(i)yn gadael cyflogaeth y cyflogwr newydd, neu

(ii)yn cael datganiad ysgrifenedig sy’n cyfeirio at y gorchymyn neu’r rheoliadau ac sy’n pennu telerau ac amodau cyflogaeth newydd, a

(b)ar yr amod bod y person yn cyflawni dyletswyddau sy’n rhesymol debyg i’r rhai yr oedd yn eu cyflawni yn union cyn y trosglwyddo, nad yw unrhyw delerau ac amodau newydd a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (a)(ii) yn llai ffafriol na’r rhai a oedd gan y person cyn y trosglwyddo.

43Amrywio a dirymu gorchmynion

(1)Ac eithrio fel y mae’r adran hon yn darparu ar ei gyfer, ni chaniateir amrywio na dirymu gorchmynion a wneir o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor drwy orchymyn amrywio neu ddirymu—

(a)unrhyw ddarpariaeth mewn gorchymyn a wneir o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39 y disgrifir ei math yn adran 40(2);

(b)unrhyw ddarpariaeth debyg mewn gorchymyn a wneir o dan adran 67 (trefniadau canlyniadol a throsiannol) neu a wneir yn rhinwedd adran 255 (trosglwyddo swyddogion) yn Neddf 1972.

(3)Ac eithrio fel y darperir yn is-adrannau (4) a (5), dim ond y personau neu’r corff a wnaeth y gorchymyn sy’n cynnwys y ddarpariaeth sydd i’w hamrywio neu i’w dirymu (“y gorchymyn gwreiddiol”) a gaiff wneud gorchymyn i amrywio neu ddirymu darpariaeth o’r math a ddisgrifir yn is-adran (2).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan yr adran hon pan fo’r gorchymyn gwreiddiol—

(a)wedi ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac y bo’n ymwneud â Chymru, neu

(b)wedi ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y’i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).

(5)Caiff prif gyngor wneud gorchymyn o dan yr adran hon pan fo’r gorchymyn gwreiddiol wedi ei wneud gan gyngor a’i rhagflaenodd ac nad yw’n bodoli mwyach.

(6)Ond dim ond i’r graddau y mae’n ymwneud ag ardal y prif gyngor y caiff gorchymyn a wneir yn unol ag is-adran (5) amrywio neu ddirymu darpariaeth yn y gorchymyn gwreiddiol.

(7)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, y prif gyngor gydymffurfio ag is-adrannau (8) a (9).

(8)Rhaid i Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, y prif gyngor—

(a)anfon copi o’r drafft o’r gorchymyn i unrhyw awdurdod lleol neu gorff cyhoeddus y mae’r gorchymyn yn debygol o effeithio arno yn eu barn hwy neu yn ei farn ef,

(b)cyhoeddi’r gorchymyn drafft mewn modd sy’n debygol, yn eu barn hwy neu yn ei farn ef, o’i ddwyn i sylw personau a chanddynt fuddiant yn y gorchymyn o bosibl,

(c)sicrhau bod copi o’r gorchymyn drafft ar gael i bersonau a chanddynt fuddiant edrych arno yn y mannau hynny sy’n briodol yn eu barn hwy neu yn ei farn ef, a

(d)gwahodd sylwadau mewn perthynas â’r gorchymyn drafft o fewn y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau ar y dyddiad cyhoeddi o dan baragraff (b).

(9)Rhaid i Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, y prif gyngor ystyried unrhyw sylwadau sy’n dod i law o fewn y cyfnod o 2 fis a chânt addasu’r gorchymyn yng ngoleuni’r sylwadau hynny.

(10)Pan fo Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor yn fodlon bod camgymeriad wedi digwydd wrth lunio gorchymyn o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39 caiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu’r prif gyngor, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth y maent hwy neu y mae ef o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn cywiro’r camgymeriad hwnnw.

(11)Yn is-adran (10) mae “camgymeriad”, mewn perthynas â gorchymyn, yn cynnwys darpariaeth a gynhwysir yn y gorchymyn neu a hepgorir ohono gan ddibynnu ar wybodaeth anghywir neu anghyflawn a roddir gan unrhyw gorff cyhoeddus.

(12)Ni chaiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor arfer y pŵer yn is-adran (10) mewn perthynas â gorchymyn a wneir gan rywun arall.

(13)Yn yr adran hon, mae i “corff cyhoeddus” yr un ystyr ag yn adran 40(6).

Cytundebau rhwng cyrff cyhoeddus i ymdrin â newid

44Cytundebau trosiannol o ran eiddo a chyllid

(1)Caniateir i unrhyw gorff cyhoeddus y mae newid ardal, diddymu neu gyfansoddi ardal neu ward etholiadol drwy orchymyn o dan adran 37, 38, 39 neu 43 neu drwy orchymyn o dan adran 162 o Fesur 2011 (pŵer i wneud gorchymyn cyfuno) yn effeithio arno, ymrwymo mewn cytundeb â chorff cyhoeddus arall yr effeithir arno ynghylch—

(a)unrhyw eiddo, incwm, hawliau neu rwymedigaethau y mae’r newid yn effeithio arnynt;

(b)unrhyw berthynas ariannol rhwng y partïon i’r cytundeb;

(c)unrhyw dreuliau y mae’r partïon yn mynd iddynt sy’n codi o ganlyniad i’r newid.

(2)Caiff cytundeb o dan yr adran hon ddarparu—

(a)ar gyfer trosglwyddo neu gadw unrhyw eiddo, hawliau a rhwymedigaethau, gydag amodau neu hebddynt, ac ar gyfer defnyddio unrhyw eiddo ar y cyd;

(b)ar gyfer gwneud taliadau mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddir neu a gedwir, neu ar gyfer y defnydd hwnnw ar y cyd, ac mewn cysylltiad â’r tâl neu’r digollediad sy’n daladwy i unrhyw berson;

(c)ar gyfer gwneud unrhyw daliad o’r fath drwy swm cyfalaf neu flwydd-dal terfynadwy.

(3)Pan na fo partïon yn gallu dod i gytundeb ar unrhyw fater, rhaid cyfeirio’r mater i gael ei gymrodeddu gan un cymrodeddwr y cytunir arno gan y partïon neu, os na cheir y cyfryw gytundeb, a benodir gan Weinidogion Cymru.

(4)Caiff dyfarniad y cymrodeddwr ddarparu ar gyfer unrhyw fater y caiff cytundeb o dan yr adran hon ddarparu ar ei gyfer.

(5)Caniateir i unrhyw swm y mae’n ofynnol i gorff cyhoeddus ei dalu gael ei dalu—

(a)o’r gronfa neu’r ardreth y telir treuliau cyffredinol y corff cyhoeddus ohoni, neu

(b)o unrhyw gronfa neu ardreth arall y caiff y corff cyhoeddus benderfynu arni.

(6)Yn yr adran hon, mae i “corff cyhoeddus” yr un ystyr ag yn adran 40(6).

PENNOD 6DARPARIAETH ARALL SY’N BERTHNASOL I FFINIAU AWDURDODAU LLEOL

45Newid ardal heddlu

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r Comisiwn yn cynnal adolygiad o un neu ragor o brif ardaloedd o dan adran 23.

(2)Yn ogystal â’r newidiadau y caniateir eu hargymell o dan adran 23(3) caiff y Comisiwn, mewn cysylltiad ag unrhyw newid i ffin prif ardal, argymell unrhyw newidiadau i ardal neu ardaloedd heddlu (gan gynnwys newidiadau sy’n arwain at leihad neu gynnydd yn nifer ardaloedd heddlu) sy’n briodol yn ei farn ef.

(3)Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol, ar ôl cael adroddiad sy’n cynnwys argymhellion gan y Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad a gynhelir o dan adran 23—

(a)drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol, weithredu unrhyw argymhellion i newid ardal heddlu, gydag addasiadau neu hebddynt,

(b)os yw’n bwriadu gweithredu’r argymhellion gydag addasiadau, gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal adolygiad pellach o dan adran 23 o’r prif ardaloedd hynny y mae’r argymhellion yn effeithio arnynt a bennir yn y cyfarwyddyd, neu

(c)penderfynu peidio â gweithredu mewn cysylltiad â’r argymhellion.

(4)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â chyfarwyddyd o dan is-adran (3)(b).

(5)Caniateir i orchymyn a wneir o dan yr adran hon gynnwys—

(a)darpariaeth i gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu y mae’r gorchymyn yn effeithio arni ddod yn gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu sy’n deillio o’r gorchymyn,

(b)darpariaeth i gynnal etholiad am gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer unrhyw ardal heddlu sy’n deillio o’r gorchymyn,

(c)unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol neu drosiannol sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol.

(6)Caiff gorchymyn sy’n cynnwys darpariaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (5)(b) ei gwneud yn ofynnol i’r etholiad dan sylw gael ei gynnal cyn i’r newid i ardaloedd heddlu gael effaith.

(7)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon gymhwyso neu addasu unrhyw ddeddfiad neu siarter.

(8)Ni chaiff gorchymyn a wneir o dan yr adran hon ddarparu i brif ardal gael ei rhannu rhwng 2 neu ragor o ardaloedd heddlu.

(9)Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan y adran hon nes bod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cafodd yr Ysgrifennydd Gwladol yr argymhellion wedi dod i ben.

46Rhychwant ffiniau tua’r môr

(1)Mae unrhyw ran o lannau’r môr i farc y distyll yn ffurfio rhan o’r gymuned neu’r cymunedau y mae’n cydffinio â hi neu â hwy gan gyfateb i gyfran rhychwant y ffin gyffredin.

(2)Mae pob croniant o’r môr (boed yn naturiol neu’n artiffisial) yn ffurfio rhan o’r gymuned neu’r cymunedau y mae’n cydffinio â hi neu â hwy gan gyfateb i gyfran rhychwant y ffin gyffredin.

(3)Mae pob croniant neu ran o lannau’r môr sy’n ffurfio rhan o gymuned o dan yr adran hon hefyd yn ffurfio rhan o’r brif ardal a’r sir wedi ei chadw lle y mae’r gymuned.

47Newid ffin yn dilyn newid cwrs dŵr

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cwrs dŵr yn ffurfio llinell ffin rhwng dwy neu ragor o ardaloedd llywodraeth leol.

(2)Os newidir y cwrs dŵr, drwy arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (p. 57), Deddf Draenio Tir 1991 (p. 59) neu unrhyw ddeddfiad arall, mewn unrhyw ffordd sy’n effeithio ar ei gymeriad fel llinell ffin, rhaid i’r person y gwneir y newid o dan ei awdurdod hysbysu Gweinidogion Cymru am y newid cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, amrywio llinell ffin y mae hysbysiad a roddir o dan is-adran (2) yn ymwneud â hi drwy roi llinell ffin newydd (boed a yw’n cynnwys yn gyfan gwbl neu’n rhannol linell y cwrs dŵr fel y’i newidiwyd) yn lle cymaint o linell y ffin honno ag a oedd ar linell y cwrs dŵr cyn y newid.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (3).

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn y modd sy’n briodol yn eu barn hwy, gyhoeddi hysbysiad o unrhyw orchymyn a wneir o dan yr adran hon.

(6)At ddibenion yr adran hon, mae cyfeiriad at ardal lywodraeth leol yn cynnwys cyfeiriad at sir wedi ei chadw.

PENNOD 7DARPARIAETH AMRYWIOL

48Cyfarwyddiadau a chanllawiau ynghylch Rhan 3

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i’r Comisiwn sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r Comisiwn—

(a)i gynnal adolygiad o dan y Rhan hon (gan gynnwys, pan fo’r Comisiwn wedi gwneud argymhellion neu gynigion iddynt, adolygiadau pellach),

(b)i beidio â chynnal adolygiad o dan adran 28 yn ystod cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd,

(c)i gynnal adolygiad o dan adran 29 ar gyfer ardal llywodraeth leol newydd (o fewn ystyr adran 171 o Fesur 2011) fel pe bai’n ardal llywodraeth leol,

(d)i gynnal yr adolygiadau sy’n ofynnol o dan adran 29(1) mewn trefn wahanol i’r hyn a gynigir gan y Comisiwn mewn unrhyw raglen gyfredol ar gyfer adolygiadau o drefniadau etholiadol a lunnir yn unol â’r adran honno,

(e)i roi sylw i unrhyw faterion penodol a bennir yn y cyfarwyddyd wrth gynnal adolygiad.

(3)Nid yw is-adran (1) yn cyfyngu ar y pŵer cyfarwyddo cyffredinol o dan adran 14.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i brif gyngor sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(5)Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor—

(a)i gynnal adolygiad o dan adran 25 neu 31,

(b)i roi sylw i unrhyw faterion penodol a bennir yn y cyfarwyddyd wrth gynnal adolygiad.

(6)Rhaid i brif gyngor gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (4).

(7)Caniateir i gyfarwyddiadau o dan yr adran hon ymwneud ag adolygiad penodol, math o adolygiad neu bob adolygiad.

(8)Ond cyn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon mewn perthynas ag adolygiad o brif ardal neu ei threfniadau etholiadol (neu adolygiadau o brif ardaloedd neu eu trefniadau etholiadol yn gyffredinol), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn ac unrhyw gymdeithas yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli awdurdodau lleol.

(9)Wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu brif gyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

49Ymchwiliadau lleol

(1)Caiff y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor, beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal mewn cysylltiad ag unrhyw adolygiad a gynhelir ganddo o dan y Rhan hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal mewn cysylltiad â gorchymyn drafft a lunnir o dan adran 43.

(3)Caiff person a benodir i gynnal ymchwiliad drwy wŷs ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol ar adeg ac mewn man a bennir yn y wŷs—

(a)i roi tystiolaeth, neu

(b)i gyflwyno unrhyw wybodaeth yn ymwneud ag unrhyw fater dan sylw a ddelir gan y person neu sydd o dan reolaeth y person.

(4)Caiff person a benodir i gynnal ymchwiliad gymryd tystiolaeth ar lw ac at y diben hwnnw caiff weinyddu llwon.

(5)Rhaid talu unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn rhesymol i berson y mae’n ofynnol iddo fod yn bresennol o dan is-adran (3).

(6)Er gwaethaf is-adran (3)(b), ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno teitl (neu unrhyw offeryn sy’n ymwneud â theitl) unrhyw dir nad yw’n perthyn i awdurdod lleol.

(7)Mae person yn cyflawni trosedd os bydd y person—

(a)yn gwrthod cydymffurfio â gofyniad gwŷs a gyflwynir i’r person o dan is-adran (3) neu’n methu’n fwriadol â chydymffurfio â gofyniad o’r fath,

(b)yn newid, atal, cuddio neu ddinistrio’n fwriadol unrhyw wybodaeth y mae’n ofynnol i’r person ei chyflwyno o dan yr adran hon.

(8)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (7) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol neu’r carchar am dymor nad yw’n hwy na 6 mis, neu’r ddau.

(9)Caiff y person neu’r corff sy’n peri i ymchwiliad gael ei gynnal o dan yr adran hon wneud gorchmynion o ran—

(a)costau’r partïon yn yr ymchwiliad, a

(b)y partïon y mae’r costau i’w talu ganddynt.

(10)Caniateir i orchymyn o dan is-adran (9) gael ei wneud yn un o reolau’r Uchel Lys ar gais parti a enwir yn y gorchymyn.

RHAN 4ADOLYGIADAU O AELODAETH CYRFF CYHOEDDUS

50Adolygiadau o gyrff cyhoeddus cymwys

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal adolygiad o aelodaeth un neu ragor o gyrff cyhoeddus cymwys penodedig.

(2)Pan fo’r Comisiwn wedi cynnal adolygiad o dan yr adran hon rhaid iddo gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru sy’n nodi a yw’n argymell y dylid newid aelodaeth y corff cyhoeddus.

(3)Caniateir, yn benodol, i gyfarwyddyd o dan yr adran hon ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn—

(a)ystyried nifer aelodau’r corff (neu’r cyrff),

(b)ystyried unrhyw gategorïau aelodaeth (gan gynnwys aelodaeth leyg) a nifer yr aelodau ym mhob categori,

(c)ystyried y priodoleddau, y profiadau, y sgiliau neu’r cymwysterau y dylai’r aelodau feddu arnynt,

(d)ystyried unrhyw faterion eraill a bennir sy’n berthnasol i’r aelodaeth,

(e)dilyn unrhyw brosesau a bennir wrth gynnal adolygiad,

(f)llunio ei adroddiad ar ffurf ac mewn modd a bennir,

(g)rhoi sylw i unrhyw ffactorau neu faterion a bennir.

(4)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(5)At ddibenion yr adran hon mae corff yn “corff cyhoeddus cymwys”—

(a)os nad yw’n awdurdod lleol,

(b)os yw’n ofynnol o dan unrhyw ddeddfiad i’w aelodaeth gynnwys—

(i)aelod o awdurdod lleol, neu

(ii)person a benodir gan awdurdod lleol, ac

(c)os yw’n arfer swyddogaethau—

(i)sydd wedi eu rhoi gan Ddeddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu

(ii)a allai gael eu rhoi gan Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Nid yw’r adran hon yn cyfyngu ar y pŵer cyfarwyddo cyffredinol o dan adran 14.

RHAN 5NEWIDIADAU ERAILL I LYWODRAETH LEOL

Aelodau llywyddol

51Aelod llywyddol prif gyngor

(1)Mae Deddf 1972 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 24 (is-gadeirydd) mewnosoder—

24APresiding member

(1)A principal council may determine to have a presiding member.

(2)A presiding member is elected by the principal council from among the councillors.

(3)The principal council may determine—

(a)the functions of the presiding member, and

(b)the term of office of the member (subject to the limits in subsection (6)).

(4)The functions of the presiding member may, in particular, include any function of the chairman of the principal council in relation to its meetings and proceedings.

(5)A member of the executive of a principal council may not be elected as its presiding member.

(6)A presiding member is to continue in office until the occurrence of—

(a)the presiding member’s resignation or disqualification,

(b)a successor becoming entitled to act as presiding member,

(c)the principal council determining not to have an office of presiding member, or

(d)an ordinary council election under section 26.

24BDeputy presiding member

(1)The section applies where a principal council have determined to have a presiding member.

(2)The principal council must a appoint a member of the council to act as deputy to the presiding member (“the deputy presiding member”).

(3)A member of the executive of a principal council may not be appointed as the deputy presiding member.

(4)A deputy presiding member is to continue in office until the occurrence of—

(a)the deputy presiding member’s resignation or disqualification,

(b)a successor becoming entitled to act as deputy presiding member,

(c)the council determining not to have an office of presiding member, or

(d)an ordinary council election under section 26.

(5)A deputy presiding member may do anything authorised or required to be done by the presiding member..

(3)Ar ôl adran 25A mewnosoder—

25BTitle of civic chair

(1)This section applies where—

(a)a principal council have determined to have a presiding member under section 24A, and

(b)the chairman of the council is not entitled to the style of “mayor” or “maer”.

(2)The chairman of the council is entitled to the style of “civic chair” or “cadeirydd dinesig”.

(3)The vice-chairman of the council is entitled to the style of “civic vice-chair” or “dirprwy gadeirydd dinesig”..

(4)Yn adran 80(1) (anghymhwyso rhag etholiad a dal swydd fel aelod o awdurdod lleol), ym mharagraff (a), yn lle “or deputy chairman” rhodder “, deputy chairman, presiding member or deputy presiding member”.

(5)Yn adran 83(1) (datgan derbyn swydd) ar ôl “vice-chairman,” mewnosoder “presiding member, deputy presiding member,”.

Biliau preifat

52Hyrwyddo Biliau preifat

(1)Caiff prif gyngor, yn unol â’r adran hon, hyrwyddo Bil preifat—

(a)yn Senedd y Deyrnas Unedig;

(b)yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)Dim ond os yw wedi ei fodloni ei bod yn hwylus gwneud hynny y caiff prif gyngor hyrwyddo Bil.

(3)Ond ni chaiff prif gyngor hyrwyddo Bil (p’un ai o dan yr adran hon neu fel arall) ar gyfer —

(a)ffurfio, newid neu ddileu unrhyw ardal llywodraeth leol,

(b)newid statws unrhyw ardal llywodraeth leol,

(c)newid y trefniadau etholiadol ar gyfer unrhyw ardal llywodraeth leol,

(d)ffurfio, newid neu ddileu trefniadau gweithrediaeth, neu

(e)newid y trefniadau ar gyfer ethol maer etholedig.

(4)Rhaid i benderfyniad prif gyngor i hyrwyddo Bil o dan yr adran hon—

(a)cael ei basio mewn cyfarfod o’r prif gyngor gan fwyafrif o gyfanswm ei aelodau, a

(b)cael ei gadarnhau gan fwyafrif cyffelyb mewn cyfarfod pellach o’r fath a gynhelir cyn gynted ag y bo ar ôl 14 diwrnod wedi i’r Bil gael ei adneuo yn Senedd y Deyrnas Unedig neu, yn ôl y digwydd, ei gyflwyno yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Rhaid i brif gyngor beidio â chynnal cyfarfod o dan is-adran (4) oni bai fod yr amodau yn is-adran (6) wedi eu bodloni mewn perthynas â’r cyfarfod hwnnw.

(6)Yr amodau yw—

(a)bod y prif gyngor wedi rhoi hysbysiad ynghylch y cyfarfod a’i ddiben mewn un papur newydd o leiaf sy’n cylchredeg yn ei ardal, a

(b)bod cyfnod o 30 o ddiwrnodau, sy’n dechrau gyda’r diwrnod wedi i’r hysbysiad gael ei roi, wedi dod i ben.

(7)Mae’r amod a grybwyllir yn is-adran (6)(a) yn ychwanegol at y gofynion o ran hysbysiadau sydd fel arfer yn gymwys i gyfarfodydd prif gyngor.

(8)Pan na fo penderfyniad wedi ei gadarnhau o dan is-adran (4)(b), rhaid i’r prif gyngor gymryd pob cam angenrheidiol i dynnu’r Bil yn ôl.

(9)Yn yr adran hon, mae i “trefniadau gweithrediaeth” yr un ystyr ag “executive arrangements” yn Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22).

53Gwrthwynebu Biliau preifat

(1)Caiff awdurdod lleol, yn unol â’r adran hon, wrthwynebu Bil preifat—

(a)yn Senedd y Deyrnas Unedig;

(b)yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)Ond dim ond os yw’n hwylus gwneud hynny y caiff awdurdod lleol wrthwynebu Bil.

(3)Rhaid i benderfyniad awdurdod lleol i wrthwynebu Bil o dan yr adran hon gael ei basio mewn cyfarfod o’r awdurdod gan fwyafrif o gyfanswm aelodau’r awdurdod.

(4)Rhaid i awdurdod lleol beidio â chynnal cyfarfod o dan is-adran (3) oni bai fod yr amodau yn is-adran (5) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r cyfarfod hwnnw.

(5)Yr amodau yw—

(a)bod yr awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad ynghylch y cyfarfod a’i ddiben mewn un papur newydd o leiaf sy’n cylchredeg yn ei ardal, a

(b)bod cyfnod o 10 niwrnod, sy’n dechrau gyda’r diwrnod wedi i’r hysbysiad gael ei roi, wedi dod i ben.

(6)Mae’r amod a grybwyllir yn is-adran (5)(a) yn ychwanegol at y gofynion o ran hysbysiadau sydd fel arfer yn gymwys i gyfarfodydd awdurdod lleol.

54Cyfyngu ar daliadau mewn perthynas â hyrwyddo neu wrthwynebu Biliau

Ni chaiff awdurdod lleol wneud taliad i unrhyw un neu ragor o’i aelodau am weithredu fel cwnsler neu asiant i hyrwyddo neu wrthwynebu Bil o dan adran 52 neu 53.

Mynediad i wybodaeth

55Gwefannau cynghorau cymuned

(1)Rhaid i gyngor cymuned sicrhau bod y canlynol ar gael yn electronig—

(a)gwybodaeth ynglŷn â sut i gysylltu ag ef ac, os yw hynny’n wahanol, ei glerc, gan gynnwys—

(i)rhif ffôn;

(ii)cyfeiriad post;

(iii)cyfeiriad e-bost;

(b)gwybodaeth ynglŷn â phob un o’i aelodau, gan gynnwys—

(i)enw’r aelod;

(ii)sut y gellir cysylltu â’r aelod;

(iii)ymlyniad gwleidyddol yr aelod (os oes un);

(iv)y ward y mae’r aelod yn ei chynrychioli (pan fo hynny’n berthnasol);

(v)unrhyw swydd y mae’r aelod yn ei dal gyda’r cyngor;

(vi)unrhyw bwyllgor o’r cyngor y mae’r aelod yn perthyn iddo;

(c)cofnodion trafodion cyfarfodydd y cyngor ac (i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol) unrhyw ddogfennau y cyfeiria’r cofnodion atynt;

(d)unrhyw ddatganiad archwiliedig o gyfrifon y cyngor.

(2)Nid oes dim yn yr adran hon sy’n awdurdodi cyngor cymuned nac yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddarparu unrhyw wybodaeth y mae wedi ei hatal rhag ei datgelu dan unrhyw ddeddfiad.

(3)Wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan is-adran (1), rhaid i gyngor cymuned roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(4)Nid yw’r gofyniad i sicrhau bod yr wybodaeth a restrir yn is-adran (1)(c) a (d) ar gael ond yn ymwneud â gwybodaeth a gynhyrchir pan ddaw’r adran hon i rym neu wedi hynny.

56Gofyniad i roi hysbysiadau cyhoeddus yn electronig

Yn adran 232 o Ddeddf 1972 (hysbysiadau cyhoeddus), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1ZA)A public notice given by a community council must, in addition to the requirements imposed by subsection (1), be published electronically..

57Cyfarfodydd a thrafodion cymunedau

Yn Atodlen 12 i Ddeddf 1972 (cyfarfodydd a thrafodion awdurdodau lleol)—

(a)ym mharagraff 26(2)—

(i)ym mharagraff (a), ar ôl “be” lle y mae’n ymddangos am y tro cyntaf mewnosoder “published electronically and”,

(ii)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)any documents relating to the business to be transacted at the meeting must be published electronically (in so far as reasonably practicable),,

(b)ar ôl paragraff 26(2) mewnosoder—

(2A)The duty of a community council under sub-paragraph (2)(aa) to publish documents relating to the meeting does not apply where—

(a)the documents relate to business which in the opinion of the council is likely to be transacted in private, or

(b)the disclosure of such documents would be contrary to any enactment.,

(c)ym mharagraff 30B—

(i)yn lle is-baragraff (3) rhodder—

(3)The notice must be given—

(a)in writing (but not in an electronic form), or

(b)in an electronic form which meets the technical requirements set by the principal council under paragraph 30C.,

(ii)yn is-baragraff (7), ar ôl “principal council” mewnosoder ”or community council”,

(iii)a hefyd yn is-baragraff (7), yn lle “council” lle y mae’n ymddangos am yr ail dro rhodder “principal council”,

(d)ym mharagraff 30C—

(i)yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1)For the purposes of paragraph 30B(1), each community council and principal council must provide a facility for notices to be given in electronic form (“electronic notices”).,

(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “The council must set” mewnosoder “A principal council must set for its area”,

(e)ym mharagraff 30E(7), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)by publishing the notice electronically, and.

58Cofrestrau buddiannau aelodau

(1)Mae adran 81 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22) (datgelu a chofrestru buddiannau aelodau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (6)—

(a)daw’r geiriau o “copies” hyd at y diwedd yn baragraff (a), a

(b)ar ôl y paragraff hwnnw, mewnosoder—

(b)the register mentioned in paragraph (a) is published electronically..

(3)Yn is-adran (7), ar ôl paragraff (a)(ii), mewnosoder—

(iii)states that the register is available to be viewed electronically, and

(iv)specifies how to access the electronic version,.

(4)Ar ôl is-adran (7), mewnosoder—

(7A)For the purposes of this section—

(a)section 83(13) does not apply, and

(b)in relation to a relevant authority which is a community council, the references in this section to a monitoring officer are to be read as references to the proper officer of that council (within the meaning of section 270(3) of the Local Government Act 1972)..

Mynychu cyfarfodydd o bell

59Mynychu cyfarfodydd prif gynghorau o bell

(1)Mae adran 4 o Fesur 2011 (mynychu cyfarfodydd o bell) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (4), yn lle’r geiriau “o bell” hyd at y diwedd, rhodder “mangre’r cyfarfod yn llai na 30% o gyfanswm nifer yr aelodau sy’n bresennol yn y cyfarfod.”.

(3)Ar ôl is-adran (4), mewnosoder—

(4A)Nid yw is-adran (4) yn atal awdurdod lleol rhag creu rheolau sefydlog sy’n ei gwneud yn ofynnol fod mwy na 30% o gyfanswm yr aelodau sy’n bresennol mewn cyfarfod yn mynychu mangre’r cyfarfod i sicrhau cworwm..

Pwyllgorau gwasanaethau democrataidd

60Pwyllgorau gwasanaethau democrataidd

(1)Ar ôl adran 11 o Fesur 2011 (awdurdodau lleol i benodi pwyllgorau gwasanaethau democrataidd) mewnosoder—

11AAdolygiadau ar gais awdurdod lleol

(1)Caiff pwyllgor gwasanaethau democrataidd awdurdod lleol, ar gais yr awdurdod, adolygu unrhyw fater sy’n berthnasol i—

(a)y cymorth a’r cyngor sydd ar gael i aelodau’r awdurdod hwnnw, a

(b)telerau ac amodau swydd yr aelodau hynny.

(2)Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd lunio adroddiadau ac argymhellion i’r awdurdod yn dilyn adolygiad.

(3)Mater i bwyllgor gwasanaethau democrataidd yw penderfynu sut i arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.

(2)Yn adran 19 (adroddiadau ac argymhellion gan bwyllgorau gwasanaethau democrataidd), ar ôl “11(1)(c)” mewnosoder “neu 11A(2)”.

Pwyllgorau archwilio

61Pwyllgorau archwilio

Yn adran 82 o Fesur 2011 (aelodaeth), ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(7)Mae pwyllgor archwilio i’w drin fel corff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dyletswydd i ddyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol) yn gymwys iddo..

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

62Swyddogaethau sy’n ymwneud â thaliadau i aelodau

Yn adran 142 o Fesur 2011 (swyddogaethau sy’n ymwneud â thaliadau i aelodau)—

(a)yn is-adran (4), ar ôl “cyfran benodedig”mewnosoder “neu nifer penodedig”,

(b)ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A)Ni chaiff y nifer a bennir gan y Panel yn unol ag is-adran (4), a fynegir fel cyfran o gyfanswm aelodau awdurdod, fod yn uwch na phum deg y cant oni chafwyd cydsyniad Gweinidogion Cymru..

63Swyddogaethau sy’n ymwneud â chyflogau penaethiaid gwasanaethau cyflogedig

(1)Ar ôl adran 143 o Fesur 2011 mewnosoder—

143ASwyddogaethau sy’n ymwneud â chyflogau penaethiaid gwasanaethau cyflogedig

(1)Caiff y Panel wneud argymhellion i awdurdod perthnasol cymwys am—

(a)unrhyw bolisi yn natganiad yr awdurdod ar bolisïau tâl sy’n ymwneud â chyflog pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod;

(b)unrhyw newid arfaethedig i gyflog pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod.

(2)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys roi sylw i unrhyw argymhelliad a gaiff oddi wrth y Panel wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 38 neu 39 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20).

(3)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys, cyn iddo newid cyflog pennaeth ei wasanaeth cyflogedig mewn modd nad yw’n gymesur â newid i gyflogau staff arall yr awdurdod—

(a)ymgynghori â’r Panel am y newid arfaethedig, a

(b)rhoi sylw i unrhyw argymhelliad a gaiff oddi wrth y Panel wrth iddo benderfynu p’un ai i fynd rhagddo i wneud y newid ai peidio.

(4)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys roi unrhyw wybodaeth i’r Panel y mae’n rhesymol i’r Panel ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei rhoi iddo mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.

(5)Caiff y Panel gyhoeddi unrhyw argymhellion y mae yn eu gwneud o dan yr adran hon.

(6)Rhaid i’r Panel roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.

(7)Yn yr adran hon—

(2)Yn mhennawd Rhan 8 o Fesur 2011, hepgorer “AELODAU:”.

(3)Yn adran 112 o Ddeddf 1972 (penodi staff), yn is-adran (2A), ar ôl “statement)” mewnosoder “and in relation to a local authority in Wales, section 143A of the Local Government (Wales) Measure 2011 (functions of the Independent Remuneration Panel in relation to salaries of heads of paid service).”.

64Awdurdodau perthnasol

Yn adran 144 o Fesur 2011 (awdurdodau perthnasol, aelodau etc.)—

(a)yn is-adran (2), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(e)corff a bennir yn awdurdod perthnasol mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.,

(b)ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(6)Ni chaniateir i gorff gael ei bennu yn awdurdod perthnasol oni bai—

(a)bod Gweinidogion Cymru yn arfer swyddogaethau mewn cysylltiad ag ef,

(b)ei fod yn arfer swyddogaethau perthnasol, ac

(c)bod ei aelodaeth yn cynnwys o leiaf un aelod o awdurdod a ddisgrifir yn is-adran (2)(a) i (d).

(7)“Swyddogaeth berthnasol” yw—

(a)swyddogaeth a roddir gan un o Ddeddfau neu Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu

(b)swyddogaeth y gellid ei rhoi gan un o Ddeddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(8)Nid yw adrannau 142(4), 143, 147(3)(b) a 155 yn gymwys mewn perthynas â’r awdurdod perthnasol a ddisgrifir yn is-adran (2)(e)..

65Adroddiadau blynyddol dilynol

Yn adran 147 o Fesur 2011 (adroddiadau blynyddol dilynol)—

(a)yn is-adran (2)(a), yn lle “31 Rhagfyr” rhodder “28 Chwefror”,

(b)yn is-adran (4), ar ôl “(e)” mewnosoder “(gan gynnwys drwy bennu nifer o dan adran 142(4))”,

(c)yn lle is-adran (9) rhodder—

(9)Mae darpariaethau adroddiad blynyddol neu atodol o dan yr adran hon yn dod i rym ar y dyddiad a bennir at y diben hwnnw yn yr adroddiad.

(10)Pan fo is-adran (11) yn gymwys, caiff yr adroddiad bennu bod darpariaeth gymwys i gael ei thrin fel petai wedi dod i rym hyd at 3 mis yn gynharach na dyddiad cyhoeddi’r adroddiad.

(11)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo adroddiad atodol yn cynnwys darpariaeth gymwys.

(12)“Darpariaeth gymwys” yw darpariaeth sy’n gwneud amrywiad at ddibenion is-adran (3)(a), (b) neu (c) yn adran 146..

66Ymgynghori ar adroddiadau drafft

Yn adran 148 o Fesur 2011 (ymgynghori ar adroddiadau drafft)—

(a)yn is-adran (1), mae “neu adroddiad atodol” wedi ei ddiddymu, a

(b)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—

(1A)Rhaid i’r Panel beidio â chyhoeddi adroddiad atodol—

(a)cyn diwedd y cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’n anfon drafft o’r adroddiad yn unol ag adran 147, neu

(b)yn hwyrach na diwedd y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’n anfon drafft o’r adroddiad yn unol ag adran 147..

67Gofynion cyhoeddusrwydd mewn adroddiadau

Yn adran 151 o Fesur 2011 (gofynion cyhoeddusrwydd mewn adroddiadau)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)ynghylch taliadau eraill a wneir i aelodau awdurdodau perthnasol gan gyrff cyhoeddus eraill..

(b)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(3)At ddibenion is-adran (1)(c), “corff cyhoeddus” yw—

(a)bwrdd iechyd lleol,

(b)panel heddlu a throsedd,

(c)awdurdod perthnasol,

(d)corff wedi ei ddynodi yn gorff cyhoeddus mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru..

Cyd-bwyllgorau safonau

68Cyd-bwyllgorau safonau

(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 53 (pwyllgorau safonau)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “(referred to in this Part as a standards committee)” rhodder “or, with one or more other relevant authorities, a joint committee”,

(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)In this Part, a reference to a “standards committee” is a reference to a committee or a joint committee established under subsection (1).,

(c)yn is-adran (11)—

(i)yn y geiriau agoriadol, yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”,

(ii)ym mharagraff (a), ar ôl “authority” mewnosoder “or authorities”,

(iii)ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(da)about establishing a standards committee which is a joint commitee (including, in particular, provision about any restrictions on the number or types of relevant authority that may establish a joint committee),,

(iv)ym mharagraff (e), yn lle “such” rhodder “standards”,

(d)ar ôl is-adran (12) mewnosoder—

(13)A relevant authority which is considering establishing a joint committee must have regard to any guidance issued by the Welsh Ministers about establishing joint committees and the circumstances in which it is appropriate to do so..

(3)Yn adran 54 (swyddogaethau pwyllgorau safonau)—

(a)yn is-adran (5), yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”,

(b)ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A)Regulations made under subsection (5) may modify any provision of this Part, or any other enactment relating to a standards committee or to any functions of a standards committee, in relation to cases where a function of a standards committee is exercisable by a joint committee.

(5B)In subsection (5A) “enactment” includes an enactment comprised in subordinate legislation (within the meaning of the Interpretation Act 1978 (c. 30)), whenever passed or made.,

(c)yn lle is-adran (7) mewnosoder—

(7)A standards committee must, in exercising any of its functions, have regard to any relevant guidance issued by the Welsh Ministers..

(4)Yn adran 106 (Cymru)—

(a)yn is-adran (5), ar ôl “section 21G” ychwaneger “or regulations under section 53(11) or 54(5)”,

(b)yn is-adran (6), ar ôl “section 21A(13)(b)” mewnosoder “or regulations made under section 53(11) or (subject to subsection (6A)) section 54(5)”,

(c)ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(6A)Where a statutory instrument contains regulations made under section 54(5) which include provision adding to, replacing or omitting any part of the text of an Act of Parliament or a Measure or Act of the National Assembly for Wales, the instrument may not be made unless a draft of it has been laid before, and approved by a resolution of, the National Assembly for Wales..

69Atgyfeirio achosion yn ymwneud ag ymddygiad

(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 73 (materion a atgyfeiriwyd at swyddogion monitro)—

(a)yn is-adran (2)—

(i)ym mharagraff (b), ar ôl “authority” lle y mae’n ymddangos am yr ail dro mewnosoder “, or to the standards committee of another relevant authority,”,

(ii)ar ôl paragraff (b), mewnosoder—

(ba)enabling a standards committee of a relevant authority to refer a report or recommendations made by its monitoring officer to the standards committee of another relevant authority,,

(b)yn lle paragraff (c) rhodder—

(c)enabling a standards committee of a relevant authority to consider any report or recommendations made or, as the case may be, referred to it by—

(i)a monitoring officer of a relevant authority, or

(ii)the standards committee of another relevant authority.

(ca)the procedure to be followed by a standards committee as respects a report or recommendation made or referred to it,,

(c)ym mharagraff (d), yn lle “the authority” rhodder “a relevant authority”,

(d)yn is-adran (4)—

(i)ym mharagraff (a), hepgorer “of the authority,”, a

(ii)ym mharagraff (b), ar ôl “the authority” mewnosoder “of which they are a member”.

(3)Yn adran 81 (datgelu a chofrestru buddiannau aelodau)—

(a)yn is-adran (4), ar ôl “standards committee” mewnosoder “, or by the standards committee of another relevant authority,”,

(b)yn is-adran (5)—

(i)mae’r geiriau o “circumstances” hyd at y diwedd yn troi yn baragraff (a), a

(ii)ar ôl y paragraff hwnnw, mewnosoder—

(b)procedure to be followed for the granting of dispensations..

RHAN 6DARPARIAETH AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

70Darpariaeth atodol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbedol y maent o’r farn ei bod yn briodol at ddibenion rhoi effaith lwyr i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon neu mewn cysylltiad â rhoi effaith lwyr i ddarpariaeth o’r fath.

(2)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon addasu’r deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall.

71Gorchmynion a rheoliadau

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon (ac eithrio gorchymyn o dan adran 47) yn arferadwy gan offeryn statudol, ac mae’n cynnwys pŵer i—

(a)gwneud darpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbedol y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion y Ddeddf hon neu mewn cysylltiad â hi,

(b)addasu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon), ac

(c)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol ac ardaloedd gwahanol.

(2)Bydd offeryn statudol sy’n cynnwys—

(a)gorchymyn o dan adran 34(3)(e) neu 70(1),

(b)gorchymyn o dan adran 37(1) sy’n cynnwys darpariaeth i newid ardal prif gyngor neu sir wedi ei chadw neu sy’n diddymu prif ardal, neu

(c)rheoliadau o dan adran 41(1),

yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Er gwaethaf is-adran (2), ni fydd unrhyw offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf hon sy’n cynnwys darpariaeth yn disodli, hepgor neu’n ychwanegu at unrhyw ran o destun Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei wneud hyd oni fydd drafft o’r gorchymyn wedi ei roi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo trwy benderfyniad ganddo.

(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys i orchymyn a wneir o dan adran 45 neu 75.

72Dehongli

(1)Yn y Ddeddf hon, oni bai fod y cyd-destun yn gofyn yn wahanol—

(2)Mae Atodlen 3 (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio) yn cael effaith.

73Diddymiadau, mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

(1)Mae Atodlen 1 (sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) yn cael effaith.

(2)Mae Atodlen 2 (sy’n cynnwys diddymiadau i deddfwriaeth) yn cael effaith.

74Adolygiadau sy’n mynd rhagddynt ac arbedion eraill

(1)Bydd unrhyw adolygiad sy’n cael ei gynnal o dan Ran 4 o Ddeddf 1972 ar yr adeg pryd y daw Rhan 3 o’r Ddeddf hon i rym yn cael ei gwblhau o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

(2)Bydd effaith Rhan 4 o Ddeddf 1972 (ac unrhyw orchmynion neu reoliadau a wnaed o dan y Rhan honno) yn parhau at ddibenion adolygiadau o’r fath.

(3)Bydd unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 67 o Ddeddf 1972 (rheoliadau mewn cysylltiad â gweithredu argymhellion a chynigion o dan Ran 4 o’r Ddeddf honno) sydd mewn grym ar ddyddiad cychwyn yr adran hon yn cael effaith mewn perthynas â gorchmynion o dan Ran 3 o’r Ddeddf hon (gorchmynion sy’n gweithredu newidiadau yn dilyn adolygiadau) fel petai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

(4)Nid yw is-adran (3) yn cael effaith ond i’r graddau nad yw unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 41 o’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth i’r gwrthwyneb.

75Cychwyn

(1)Daw’r darpariaethau canlynol i rym ar y diwrnod y bydd y Ddeddf hon yn derbyn Cydsyniad Brenhinol—

(a)adran 1;

(b)adran 70;

(c)adran 71;

(d)adran 72 (ac Atodlen 3);

(e)yr adran hon;

(f)adran 76.

(2)Daw’r darpariaethau canlynol i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau gyda’r diwrnod pryd y mae’r Ddeddf hon yn derbyn Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 2;

(b)Rhan 3;

(c)Rhan 4;

(d)Adrannau 51 i 54, 59 i 62, 64 i 67, 73 (ac Atodlenni 1 a 2) ac adran 74.

(3)Mae gweddill y darpariaethau yn y Ddeddf hon yn dod i rym ar ddiwrnod a bennir gan orchymyn a wneir gan offeryn statudol a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol, a

(b)cynnwys unrhyw ddarpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbedol y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus.

76Teitl byr

Teitl byr y Ddeddf hon yw Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.

(fel y’i cyflwynwyd gan adran 73(1))

ATODLEN 1MÂn ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)

1(1)Mae Deddf 1972 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 25(2) (tymor swydd ac ymddeoliad cynghorwyr), ar ôl “Part IV of this Act” mewnosoder “or Part 3 of the Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013 (anaw 4)”.

(3)Yn adran 30 (cyfyngu ar geisiadau cymunedau yn ystod ac ar ôl adolygiadau)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)during the period of two years beginning with the coming into force of an order relating to the community under Part 3 of the Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013 consequent on recommendations made under that Part by the Local Democracy and Boundary Commission for Wales,

(b)yn is-adran (3)—

(i)yn lle “Welsh Commission” rhodder “Local Democracy and Boundary Commission for Wales”,

(ii)ar ôl “Act” mewnosoder “or Part 3 of the Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013”.

(4)Yn adran 31(2) (darpariaeth atodol ynghylch gorchmynion cynghorau cymuned), yn lle’r geiriau o “68” i’r diwedd rhodder “44 of the Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013 is to apply as if the order were made under Part 3 of that Act.”.

(5)Yn adran 70 (cyfyngu ar hyrwyddo Biliau ar gyfer newid ardaloedd llywodraeth leol, etc.)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “local authority” mewnosoder “in England”,

(b)yn is-adran (3), ar ôl “local authority” mewnosoder “in England”.

(6)Yn adran 73(1) (newid ffiniau lleol o ganlyniad i newid cwrs dŵr), ar ôl “local government” mewnosoder “in England”.

(7)Yn adran 74 (newid enw sir, dosbarth neu un o fwrdeistrefi Llundain)—

(a)yn is-adran (3)(a), yn lle “the Secretary of State” mewnosoder “the relevant Minister”,

(b)yn is-adran (3)(b), yn lle “the Secretary of State” mewnosoder “the relevant Minister”,

(c)ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A)Where any change of name under this section relates to a Welsh principal area, notice must also be sent to the Local Democracy and Boundary Commission for Wales..

(d)ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

(8)In this section the “relevant Minister” is—

(a)in relation to the change of name of a Welsh principal area, the Welsh Ministers, and

(b)in relation to any other change of name, the Secretary of State..

(8)Yn adran 76(2)(a) (newid enw cymuned), yn lle “Secretary of State,” rhodder “Welsh Ministers, to the Local Democracy and Boundary Commission for Wales,”.

(9)Yn adran 246(9) (cadw pwerau, breintiau a hawliau dinasoedd neu fwrdeistrefi presennol), yn lle “Part IV of this Act” rhodder “Part 3 of the Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013”.

(10)Yn adran 239(1) (pŵer i hyrwyddo neu wrthwynebu Biliau lleol neu bersonol)—

(a)yn lle “local authority, other than a parish or community council” rhodder “local authority in England, other than a parish council”, a

(b)ar ôl “local authority” lle y mae’n ymddangos am yr ail dro, mewnosoder “in England”.

Deddf yr Heddlu 1996 (p. 16)

2Yn adran 1(2)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1996 (ardaloedd heddlu) yn lle “section 58 of the Local Government Act 1972,” rhodder “section 45 of the Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013,”.

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p. 10)

3Yn Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (awdurdodau rhestredig), ar ôl y cofnod ar gyfer “Comisiynydd y Gymraeg (the Welsh Language Commissioner)” mewnosoder—

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1)

4Yn Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (cyrff cyhoeddus etc: safonau), yng ngholofn 1, yn lle’r cofnod ar gyfer “Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (“The Local Government and Boundary Commission for Wales”)” rhodder “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“The Local Democracy and Boundary Commission for Wales”)”.

Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13)

5Yn adran 72(3) o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (diwygio ardaloedd heddlu: tymor swydd comisiynydd), yn lle paragraff (c) rhodder—

(c)an order under section 45 of the Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013 (anaw 4) (recommendations for changes to police areas) which alters the boundary of any police area in Wales;.

Deddf Is-Ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (dccc 2)

6Ym mharagraff 9 o Atodlen 2 i Ddeddf Is-Ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), yn is-baragraff (4), yn lle “236A (alternative procedure for certain byelaws)” mewnosoder “236B (revocation of byelaws)”.

(fel y’i cyflwynwyd gan adran 73(2))

ATODLEN 2Diddymiadau

Mae’r deddfiadau a grybwyllir yn y golofn gyntaf wedi eu diddymu i’r graddau a nodir yn yr ail golofn.

TABL 1

DeddfiadGraddau’r Diddymiad
Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)Adran 22(5).
Adran 24(4).
Adran 30(1)(b).
Yn adran 30(3), y geiriau “under Part IV of this Act”.
Adran 34(5).
Adran 53.
Adran 54.
Adran 55.
Adran 56.
Adran 57.
Adran 57A.
Adran 58.
Adran 59.
Adran 60.
Adran 61.
Adran 65.
Adran 67.
Adran 68.
Adran 69.
Adran 71.
Adran 72(1)(b) a (2A).
Yn adran 73(2), y geiriau “or the Welsh Commission, as the case may require,”.
Yn adran 78(1), y diffiniadau o “electoral arrangements” a “substantive change”.
Adran 78(2).
Yn adran 270(1), y diffiniad o “Welsh Commission”.
Atodlen 8.
Atodlen 11.
Gorchymyn Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (Cyfrifon, Archwilio ac Adroddiadau) 2003 (O.S. 2003/749)Yr holl offeryn.
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4)Adran 4(8).
Yn adran 4(10), y diffiniad o “aelod cyfetholedig”.
Adran 167.

(cyflwynwyd gan adran 72(2))

ATODLEN 3Mynegai o ymadroddion wedi eU diffinio

Mae’r ymadroddion a restrir yn y golofn gyntaf wedi eu diffinio yn eu trefn gan y darpariaethau hynny neu (yn ôl y digwydd) i’w dehongli yn unol â’r darpariaethau hynny yn y Ddeddf hon a restrir yn yr ail golofn mewn perthynas â’r ymadroddion hynny.

TABL 2

YmadroddDarpariaeth perthnasol
Addasu (Modify)Adran 72(1)
Aelod cadeirio (Chairing member)Adran 4(1)(a)
Arbenigwr (Expert)Adran 10(1)
Ardal amlaelod (Multiple member area)Adran 29(11)
Ardal llywodraeth leol (Local government area)Adran 72(1)
Ardal un aelod (Single member area)Adran 29(11)
Awdurdod gweithredu priodol (Appropriate implementing authority)Adran 36(6)
Awdurdod lleol (Local authority)Adran 72(1)
Comisiynydd Cynorthwyol (Assistant Commissioner)Adran 11(1)
Corff cyhoeddus (Public body)Adran 40(6)
Corff cyhoeddus cymwys (Qualifying public body)Adran 50(5)
Cyfarfod cymunedol (Community meeting)Adran 72(1)
Deddf 1972 (1972 Act)Adran 72(1)
Deddfiad (Enactment)Adran 72(1)
Etholwr llywodraeth leol (Local government elector)Adran 30
Mesur 2011 (2011 Measure)Adran 72(1)
Newid i drefniadau etholiadol (Electoral arrangements change)Adran 23(4)(c)
Newid i ffin cymuned (Community boundary change)Adran 23(4)(a)
Newid i ffin prif ardal (Principal area boundary change)Adran 23(4)(e)
Newid i gyngor cymuned (Community council change)Adran 23(4)(b)
Newid i sir wedi ei chadw (Preserved county change)Adran 23(4)(d)
Prif ardal (Principal area)Adran 72(1)
Prif gyngor (Principal council)Adran 72(1)
Sir wedi ei chadw (Preserved county)Adran 27(4)
Trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned (Electoral arrangements for community)Adran 31(7)
Trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal (Electoral arrangements for principal area)Adran 29(9)
Trefniadau gweithrediaeth (Executive arrangements)Adran 52(9)
Ward etholiadol (Electoral ward)Adran 29(11)
Y Comisiwn (The Commission)Adran 2
Ymgyngoreion gorfodol (Mandatory consultees)Adran 34(3)