Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

5Cyflogaeth etc cyn-Archwilydd Cyffredinol

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i berson a oedd wedi ei benodi yn Archwilydd Cyffredinol o dan y Rhan hon, ond nad yw bellach yn y swydd honno.

(2)Cyn gwneud y canlynol—

(a)cymryd swydd o ddisgrifiad a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu

(b)ymrwymo i gytundeb neu drefniant arall o ddisgrifiad a bennir felly,

rhaid i’r person ymgynghori ag unrhyw berson a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(3)Rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi rhestr o’r canlynol—

(a)y swyddi a bennir at ddibenion is-adran (2)(a);

(b)y cytundebau a’r trefniadau eraill a bennir at ddibenion is-adran (2)(b).

(4)Mae is-adrannau (5) a (6) yn gymwys am gyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r person yn peidio â bod yn Archwilydd Cyffredinol.

(5)Rhaid i’r person beidio â gwneud y canlynol—

(a)dal swydd y caniateir i berson gael ei benodi iddi, ei argymell ar ei chyfer neu ei enwebu ar ei chyfer gan neu ar ran—

(i)y Goron,

(ii)y Cynulliad Cenedlaethol, neu

(iii)Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol; neu

(b)bod yn aelod, cyfarwyddwr, swyddog neu gyflogai i berson a restrir yn is-adran (7).

(6)Rhaid i’r person beidio â darparu gwasanaethau, yn rhinwedd unrhyw swydd, i’r canlynol—

(a)y Goron, neu unrhyw gorff neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y Goron,

(b)y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw gorff neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y Cynulliad,

(c)Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw gorff neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y Comisiwn, neu

(d)person a restrir yn is-adran (7).

(7)Dyma’r personau—

(a)person y mae ei gyfrifon neu ei ddatganiad o gyfrifon yn agored i’r Archwilydd Cyffredinol ymchwilio iddynt neu iddo yn unol â darpariaeth a wneir drwy ddeddfiad neu yn rhinwedd deddfiad;

(b)person y mae astudiaeth neu ymchwiliad gwerth am arian a wneir neu a gynhelir gan yr Archwilydd Cyffredinol yn unol â darpariaeth a wneir drwy ddeddfiad neu yn rhinwedd deddfiad yn ymwneud ag ef;

(c)person y mae astudiaeth a wneir gan yr Archwilydd Cyffredinol yn unol ag adran 145A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (astudiaethau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau gan gorff neu gyrff perthnasol) yn ymwneud ag ef;

(d)landlord cymdeithasol cofrestredig y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn darparu cyngor neu gymorth iddo o dan adran 145D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998;

(e)person y mae gan yr Archwilydd Cyffredinol swyddogaethau mewn perthynas ag ef, neu y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn arfer swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag ef, yn rhinwedd adran 146A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (trosglwyddo swyddogaethau Gweinidogion Cymru);

(f)person y mae cyfrifon a ddarperir gan Weinidogion Cymru o dan adran 131 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ymwneud â’i faterion ariannol a’i gyfrifon yn rhinwedd is-adran (3) o’r adran honno;

(g)person y mae cyfrifon a ddarperir gan Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ymwneud â’i faterion ariannol a’i gyfrifon yn rhinwedd is-adran (2) o’r adran honno.

(8)Ond nid yw is-adrannau (5) a (6) yn atal person rhag dal unrhyw un o’r swyddi canlynol—

(a)Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol;

(b)Archwilydd Cyffredinol yr Alban;

(c)Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol Gogledd Iwerddon.

(9)Yn yr adran hon, ystyr “astudiaeth neu ymchwiliad gwerth am arian” yw astudiaeth neu ymchwiliad i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd person o ran y ffordd y mae wedi cyflawni ei swyddogaethau neu wedi defnyddio adnoddau i gyflawni’r swyddogaethau hynny.