RHAN 2SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU A’I PHERTHYNAS Â’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL
PENNOD 2Y BERTHYNAS RHWNG YR ARCHWILYDD CYFFREDINOL A SAC
Ffioedd
23Darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â ffioedd
1
Rhaid talu ffioedd a symiau eraill y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn eu cael, i SAC.
2
Caiff SAC godi ffi mewn perthynas ag archwilio cyfrifon neu ddatganiad o gyfrifon person gan yr Archwilydd Cyffredinol.
3
Caiff SAC godi ffi mewn perthynas â’r canlynol—
a
ymchwiliad, ardystiad neu adroddiad o dan baragraff 18(3) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (ymchwiliadau penodol i ddarbodaeth etc person wrth ddefnyddio adnoddau);
b
ymchwiliad a gynhelir ar gais person o dan adran 145 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (ymchwiliadau i ddefnydd o adnoddau) neu astudiaeth a wneir ar gais person o dan adran 145A o’r Ddeddf honno (astudiaethau ar gyfer gwella darbodaeth etc mewn gwasanaethau);
c
ymchwiliad neu astudiaeth a gynhelir neu a wneir gan yr Archwilydd Cyffredinol ar gais person o dan adran 46(4) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995;
d
unrhyw wasanaeth sy’n cael ei ddarparu neu swyddogaethau sy’n cael eu harfer o dan adran 19.
4
Rhaid i SAC godi ffi mewn perthynas â’r canlynol—
a
darparu gwasanaethau i gorff o dan baragraff 20 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (ardystio hawliadau, ffurflenni etc ar gais corff);
b
astudiaeth ar gais corff addysgol o dan adran 145B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
5
O ran ffioedd a godir o dan yr adran hon—
a
ni chaniateir iddynt gael eu codi ond yn unol â chynllun a baratoir gan SAC o dan adran 24;
b
ni chaiff y ffi fod yn fwy na chost lawn arfer y swyddogaeth y mae’r ffi’n ymwneud â hi;
c
maent yn daladwy i SAC gan y person y mae’r swyddogaeth a arferir yn ymwneud ag ef.