ATODLEN 3Darpariaethau trosiannol, atodol ac arbed
RHAN 2SAC
4Rheolau gweithdrefnol SAC cyn i reolau gael eu gwneud o dan baragraff 27 o Atodlen 1
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys tan y gwneir y rheolau cyntaf o dan baragraff 27 o Atodlen 1.
2
Penderfynir ar unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan SAC (gan gynnwys unrhyw fater sydd i’w benderfynu at ddibenion paratoi neu wneud y rheolau hynny) yn unol â’r weithdrefn a bennir gan gadeirydd SAC (a all gynnwys y weithdrefn ar gyfer pennu cworwm ar gyfer unrhyw gyfarfod y mae’r mater i’w benderfynu ynddo).