Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Valid from 01/04/2014

Arbedion ar gyfer archwilwyr a benodwyd o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os, yn union cyn y daw adran 11 (archwilio cyfrifon cyrff llywodraeth leol yng Nghymru) i rym, bydd penodiad person fel archwilydd mewn perthynas â chyfrifon corff llywodraeth leol yng Nghymru yn cael effaith o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

(2)Bydd y penodiad hwnnw o’r person fel archwilydd yn parhau i gael effaith tan ddiwedd y cyfnod y penodwyd y person ar ei gyfer (oni ddaw’r penodiad i ben yn gynnar).

(3)Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, gyda’r addasiadau canlynol, yn gymwys mewn perthynas ag archwilydd y mae ei benodiad yn parhau yn rhinwedd is-baragraff (2)—

(a)bydd Rhan 2 ac adran 64E(4) yn cael effaith fel pe na baent wedi cael eu diwygio gan y Ddeddf hon, a

(b)bydd adran 20 yn cael effaith fel pe bai pob cyfeiriad at Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gyfeiriad at SAC (a bydd unrhyw raddfa ffioedd sydd eisoes wedi ei rhagnodi gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan yr adran honno yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r archwilydd y mae ei benodiad i barhau tan ei bod yn cael ei hamrywio neu’n cael ei disodli gan raddfa a ragnodwyd gan SAC, ac oni bai fod hynny’n digwydd).

(4)Mae darpariaethau canlynol Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn cael effaith mewn perthynas ag archwilydd y mae ei benodiad yn cael ei barhau gan is-baragraff (2) fel pe na baent wedi cael eu diwygio gan y Ddeddf hon—

(a)adran 16(2)(e);

(b)adran 25(5)(b).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)