ATODLEN 3Darpariaethau trosiannol, atodol ac arbed

RHAN 3TROSGLWYDDO SWYDDOGAETHAU ETC

Trosglwyddo eiddo arall a hawliau a rhwymedigaethau eraill

10(1)Ar y diwrnod trosglwyddo, trosglwyddir i SAC yr eiddo, yr hawliau a’r rhwymedigaethau y mae gan yr Archwilydd Cyffredinol hawl iddynt, neu y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ddarostyngedig iddynt mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir, a byddant wedi eu breinio yn SAC o’r diwrnod hwnnw ymlaen.

(2)Mae is-baragraff (1) yn gweithredu mewn perthynas ag eiddo, hawliau a rhwymedigaethau—

(a)p’un a ellid fod wedi eu trosglwyddo fel arall ai peidio;

(b)ni waeth pa fath o ofyniad am gydsyniad a fyddai’n gymwys fel arall.

(3)Caiff unrhyw beth (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sy’n ymwneud â’r canlynol—

(a)unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir, neu

(b)unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddir yn rhinwedd is-baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir,

ac sydd yn y broses o gael ei wneud gan yr Archwilydd Cyffredinol, neu mewn perthynas ag ef, yn union cyn y diwrnod trosglwyddo, barhau i gael ei wneud o’r diwrnod hwnnw ymlaen gan SAC neu mewn perthynas â hi.

(4)Bydd unrhyw beth a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol neu mewn perthynas ag ef at ddibenion y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir, neu

(b)unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddir yn rhinwedd is-baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir,

ac sydd yn cael effaith yn union cyn y diwrnod trosglwyddo yn cael effaith fel petai wedi ei wneud gan SAC neu mewn perthynas â hi o’r diwrnod hwnnw ymlaen.

(5)Mewn unrhyw offerynnau, contractau neu achosion cyfreithiol sy’n ymwneud â’r canlynol—

(a)unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir, neu

(b)unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddir yn rhinwedd is-baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir,

ac sydd wedi eu gwneud neu eu cychwyn cyn y diwrnod trosglwyddo, mae cyfeiriad at yr Archwilydd Cyffredinol i’w drin o’r diwrnod hwnnw ymlaen fel cyfeiriad at SAC neu fel petai’n cynnwys cyfeiriad at SAC.

(6)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract cyflogaeth fel aelod o staff yr Archwilydd Cyffredinol a drosglwyddir i SAC yn rhinwedd paragraff 5.

(7)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “diwrnod trosglwyddo” (“transfer day”), mewn perthynas â swyddogaeth a drosglwyddir, yw’r diwrnod pan ddaeth y swyddogaeth yn arferadwy gan SAC am y tro cyntaf;

  • ystyr “swyddogaeth a drosglwyddir” (“transferred function”) yw swyddogaeth—

    (a)

    a roddir i SAC neu a osodir arni gan ddarpariaeth o’r Ddeddf hon sydd yn ailddeddfu (gydag addasiadau neu hebddynt) ddarpariaeth o unrhyw ddeddfiad a roddodd yr un swyddogaeth neu swyddogaeth sylweddol debyg i’r Archwilydd Cyffredinol neu a osododd swyddogaeth felly arno, neu

    (b)

    a roddir i SAC neu a osodir arni gan unrhyw ddeddfiad o ganlyniad i ddiwygio’r deddfiad hwnnw gan y Ddeddf hon neu odani.