ATODLEN 3Darpariaethau trosiannol, atodol ac arbed
RHAN 3TROSGLWYDDO SWYDDOGAETHAU ETC
10Trosglwyddo eiddo arall a hawliau a rhwymedigaethau eraill
1
Ar y diwrnod trosglwyddo, trosglwyddir i SAC yr eiddo, yr hawliau a’r rhwymedigaethau y mae gan yr Archwilydd Cyffredinol hawl iddynt, neu y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ddarostyngedig iddynt mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir, a byddant wedi eu breinio yn SAC o’r diwrnod hwnnw ymlaen.
2
Mae is-baragraff (1) yn gweithredu mewn perthynas ag eiddo, hawliau a rhwymedigaethau—
a
p’un a ellid fod wedi eu trosglwyddo fel arall ai peidio;
b
ni waeth pa fath o ofyniad am gydsyniad a fyddai’n gymwys fel arall.
3
Caiff unrhyw beth (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sy’n ymwneud â’r canlynol—
a
unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir, neu
b
unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddir yn rhinwedd is-baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir,
ac sydd yn y broses o gael ei wneud gan yr Archwilydd Cyffredinol, neu mewn perthynas ag ef, yn union cyn y diwrnod trosglwyddo, barhau i gael ei wneud o’r diwrnod hwnnw ymlaen gan SAC neu mewn perthynas â hi.
4
Bydd unrhyw beth a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol neu mewn perthynas ag ef at ddibenion y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—
a
unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir, neu
b
unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddir yn rhinwedd is-baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir,
ac sydd yn cael effaith yn union cyn y diwrnod trosglwyddo yn cael effaith fel petai wedi ei wneud gan SAC neu mewn perthynas â hi o’r diwrnod hwnnw ymlaen.
5
Mewn unrhyw offerynnau, contractau neu achosion cyfreithiol sy’n ymwneud â’r canlynol—
a
unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir, neu
b
unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddir yn rhinwedd is-baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir,
ac sydd wedi eu gwneud neu eu cychwyn cyn y diwrnod trosglwyddo, mae cyfeiriad at yr Archwilydd Cyffredinol i’w drin o’r diwrnod hwnnw ymlaen fel cyfeiriad at SAC neu fel petai’n cynnwys cyfeiriad at SAC.
6
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract cyflogaeth fel aelod o staff yr Archwilydd Cyffredinol a drosglwyddir i SAC yn rhinwedd paragraff 5.
7
Yn y paragraff hwn—
ystyr “diwrnod trosglwyddo” (“transfer day”), mewn perthynas â swyddogaeth a drosglwyddir, yw’r diwrnod pan ddaeth y swyddogaeth yn arferadwy gan SAC am y tro cyntaf;
ystyr “swyddogaeth a drosglwyddir” (“transferred function”) yw swyddogaeth—
- a
a roddir i SAC neu a osodir arni gan ddarpariaeth o’r Ddeddf hon sydd yn ailddeddfu (gydag addasiadau neu hebddynt) ddarpariaeth o unrhyw ddeddfiad a roddodd yr un swyddogaeth neu swyddogaeth sylweddol debyg i’r Archwilydd Cyffredinol neu a osododd swyddogaeth felly arno, neu
- b
a roddir i SAC neu a osodir arni gan unrhyw ddeddfiad o ganlyniad i ddiwygio’r deddfiad hwnnw gan y Ddeddf hon neu odani.
- a