ATODLEN 1YMGorffori Swyddfa Archwilio Cymru
RHAN 8MATERION ERAILL
31Dilysrwydd
Nid effeithir ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan SAC (gan gynnwys unrhyw beth a wneir gan ei haelodau anweithredol, yr aelodau sy’n gyflogeion, unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor, a chan unrhyw gyflogai i SAC) gan—
a
swydd wag, neu
b
penodiad diffygiol.
32Dirprwyo swyddogaethau
1
Caiff SAC ddirprwyo ei swyddogaethau i—
a
unrhyw un o’i haelodau, cyflogeion neu bwyllgorau, neu
b
i berson sy’n darparu gwasanaethau i SAC.
2
Caiff pwyllgor ddirprwyo swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau a ddirprwywyd iddo) i is-bwyllgor.
3
Nid yw dirprwyo swyddogaeth yn atal SAC na’r pwyllgor (yn ôl y digwydd) rhag gweithredu’r swyddogaeth ei hun.
4
Nid yw dirprwyo swyddogaeth yn effeithio ar gyfrifoldeb SAC neu’r pwyllgor (yn ôl y digwydd) am y swyddogaeth.
5
Ni chaniateir dirprwyo swyddogaethau o dan y darpariaethau canlynol—
a
adran 20(1)(a) (amcangyfrif incwm a gwariant SAC am bob blwyddyn ariannol);
b
adran 25(1) (paratoi cynllun blynyddol ar gyfer pob blwyddyn ariannol gyda’r Archwilydd Cyffredinol);
c
paragraff 27 o Ran 7 o’r Atodlen hon (gwneud rheolau at y diben o reoleiddio gweithdrefn SAC);
d
paragraff 34(2) o Ran 8 o’r Atodlen hon (argymell person i archwilio cyfrifon SAC, etc);
e
paragraff 3 o Ran 2 o Atodlen 2 (paratoi adroddiad neu adroddiad interim, ar y cyd, bob blwyddyn ariannol ar arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC);
f
paragraff 5 o Ran 3 o Atodlen 2 (dynodi person arall, dros dro, i arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol).
33Cyfrifon SAC
1
Yr Archwilydd Cyffredinol fydd y swyddog cyfrifyddu ar gyfer SAC.
2
Rhaid i’r swyddog cyfrifyddu, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, yn unol â chyfarwyddiau a roddir gan y Trysorlys—
a
cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a
b
paratoi datganiad o gyfrifon.
3
Rhaid i ddatganiad o gyfrifon roi barn wir a theg ar—
a
cyflwr materion SAC ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, a
b
incwm a gwariant SAC yn ystod y flwyddyn ariannol.
4
Mae’r cyfarwyddiadau y caiff y Trysorlys eu rhoi yn cynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i) gyfarwyddiadau yn ymwneud â’r canlynol—
a
y materion a’r trafodion ariannol y mae’r cyfrifon neu’r datganiad o gyfrifon i ymwneud â hwy;
b
yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cyfrifon a’r modd y mae’r cyfrifon i’w cyflwyno;
c
y dulliau a’r egwyddorion y mae’r cyfrifon i’w paratoi yn unol â hwy;
d
yr wybodaeth ychwanegol (os oes gwybodaeth felly) sydd i ddod gyda’r cyfrifon neu’r datganiad o gyfrifon.
5
Caiff y cyfarwyddiadau y caniateir i’r Trysorlys eu rhoi hefyd gynnwys cyfarwyddiadau i baratoi cyfrifon sy’n ymwneud â materion a thrafodion ariannol personau ac eithrio SAC.
6
Mae gan swyddog cyfrifyddu SAC, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid SAC, gyfrifoldebau eraill a bennir o bryd i’w gilydd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Archwilio SACetc
34
1
Y Cynulliad Cenedlaethol sydd i benodi person yn archwilydd cyfrifon SAC, ac i bennu telerau penodi’r person hwnnw.
2
Caiff SAC argymell person at ddibenion is-baragraff (1).
3
Dim ond os yw’r person yn archwilydd cymwysedig fel y’i ddiffinnir yn adran 19 y mae person yn gymwys i’w benodi.
4
Os yw person a benodir yn archwilydd yn peidio â bod yn archwilydd cymwysedig, mae’r person yn peidio â bod yn archwilydd.
5
Rhaid i’r person a benodir yn archwilydd roi sylw i’r safonau a’r egwyddorion y byddai disgwyl i ddarparwr proffesiynol arbenigol o wasanaethau cyfrifyddu neu archwilio eu dilyn.
6
Rhaid i SAC dalu tâl cydnabyddiaeth i’r archwilydd fel y darperir ar ei gyfer gan delerau penodi’r archwilydd, neu o dan y telerau hynny.
35
1
O ran datganiad o gyfrifon a baratoir o dan baragraff 33, rhaid iddo—
a
cael ei lofnodi gan swyddog cyfrifyddu SAC, a
b
cael ei gyflwyno gan gadeirydd SAC i’r archwilydd a benodwyd o dan baragraff 34,
heb fod yn hwyrach na 5 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef.
2
Rhaid i’r archwilydd—
a
ymchwilio i unrhyw ddatganiad o gyfrifon a dderbynnir ganddo o dan is-baragraff (1) a’i ardystio, a
b
gosod y datganiad o gyfrifon fel y’i hardystiwyd ganddo ynghyd â’i adroddiad arno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
3
Rhaid i’r archwilydd, yn benodol, fod yn fodlon, ar ôl ymchwilio i ddatganiad o gyfrifon a gyflwynir iddo—
a
bod y gwariant yr aed iddo ac y mae a wnelo’r datganiad ag ef yn gyfreithlon ac yn unol â’r awdurdod sydd yn ei lywodraethu;
b
nad yw arian y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef, a gafodd SAC at ddiben penodol neu at ddibenion penodol, wedi ei wario ond at y diben hwnnw neu’r dibenion hynny;
c
bod y datganiad o gyfrifon yn cydymffurfio â gofynion unrhyw ddeddfiad sy’n gymwys i’r cyfrifon neu’r datganiad o gyfrifon;
d
bod arferion priodol wedi eu dilyn wrth baratoi’r datganiad o gyfrifon.
4
Mae gan yr archwilydd yr hawl, ar bob adeg resymol, i gael gafael ar bob dogfen yr ymddengys i’r archwilydd ei bod yn angenrheidiol at ddibenion archwilio’r cyfrifon.
5
Caiff yr archwilydd—
a
ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n dal, neu’n atebol am ddogfen o’r fath, ddarparu unrhyw gymorth, gwybodaeth neu esboniad y mae’n rhesymol yn credu ei fod neu ei bod yn angenrheidiol at y dibenion hynny;
b
ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol ddarparu cyfrifon i’r archwilydd, ar adegau a bennir ganddo, o ran y trafodion hynny (gan y person perthnasol) a bennir gan yr archwilydd.
6
Ystyr “person perthnasol” yw—
a
yr Archwilydd Cyffredinol,
b
SAC, neu
c
unrhyw berson y mae’r cyfrifon yn ymwneud â’i faterion a’i drafodion ariannol o ganlyniad i baragraff 33(5).
7
Caiff yr archwilydd—
a
cynnal ymchwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y modd y mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi defnyddio adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol;
b
cynnal ymchwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y modd y mae SAC wedi defnyddio adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau SAC;
c
gosod adroddiad o ganlyniadau unrhyw ymchwiliadau o’r fath gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
8
At ddibenion cynnal ymchwiliadau o’r fath—
a
mae gan yr archwilydd hawl i gael gafael, ar bob adeg resymol, ar bob dogfen ym meddiant neu o dan reolaeth yr Archwilydd Cyffredinol neu SAC, y mae ar yr archwilydd angen rhesymol amdano at y dibenion hynny;
b
caiff yr archwilydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n dal, neu’n atebol am, unrhyw un o’r dogfennau hynny, ddarparu unrhyw gymorth, gwybodaeth neu esboniad y mae’n rhesymol yn credu ei fod neu ei bod yn angenrheidiol at y dibenion hynny.
36Tystiolaeth ddogfennol
1
Mae gosod sêl SAC i’w ddilysu â llofnod—
a
aelod o SAC, neu
b
cyflogai i SAC a awdurdodwyd (naill ai’n gyffredinol neu’n benodol) ar gyfer y diben hwnnw gan SAC.
2
Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei chyflawni’n briodol o dan sêl SAC, neu yr honnir ei bod wedi ei llofnodi ar ei rhan—
a
i gael ei derbyn yn dystiolaeth, a
b
oni phrofir i’r gwrthwyneb, rhaid cymryd ei bod wedi’i chyflawni neu ei llofnodi felly.