xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1LL+CYMGorffori Swyddfa Archwilio Cymru

RHAN 7LL+CRHEOLAU GWEITHDREFNOL

CyffredinolLL+C

27Rhaid i SAC wneud rheolau at ddibenion rheoleiddio gweithdrefnau SAC.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(xiii)

Cworwm ar gyfer cyfarfodydd SACLL+C

28(1)Rhaid i’r rheolau ddarparu am gworwm ar gyfer unrhyw gyfarfodydd SAC (gan gynnwys cyfarfodydd pwyllgorau neu is-bwyllgorau a sefydlir o dan baragraff 29).

(2)Caiff y rheolau ddarparu bod cworymau gwahanol yn gymwys i amgylchiadau gwahanol (er enghraifft, mewn perthynas â chyfarfodydd penodol neu at ddibenion penodol).

(3)Rhaid i’r rheolau ddarparu na ellir bodloni cworwm ar unrhyw adeg oni bai bod mwyafrif yr aelodau sy’n bresennol yn aelodau anweithredol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I4Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(xiv)

PwyllgorauLL+C

29(1)Caiff y rheolau gynnwys—

(a)darpariaeth ar gyfer sefydlu pwyllgorau SAC, ac i’r pwyllgorau hynny sefydlu is-bwyllgorau, a

(b)darpariaeth i reoleiddio gweithdrefnau’r pwyllgorau a’r is-bwyllgorau hynny.

(2)Caiff cyflogai i SAC nad yw’n aelod sy’n gyflogai fod yn aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor.

(3)Caiff person nad yw’n aelod o SAC nac yn gyflogai i SAC fod yn aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor, ar yr amod nad oes dim un o swyddogaethau SAC yn cael ei dirprwyo i’r pwyllgor neu’r is-bwyllgor (gweler paragraff 32).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I7Atod. 1 para. 29(2)(3) mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

Cynnal pleidleisiauLL+C

30Rhaid i’r rheolau gynnwys darpariaeth ynghylch cynnal pleidleisiau at ddiben penodi aelodau sy’n gyflogeion (gweler paragraff 16).

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I9Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(xvi)