RHAN 3AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
I128Swyddogaethau’r Cynulliad Cenedlaethol
1
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy reolau sefydlog, wneud darpariaeth ynghylch arfer y swyddogaethau a roddir iddo gan neu o dan y Ddeddf hon.
2
Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn cynnwys dirprwyo swyddogaethau i’r Llywydd, y Dirprwy Lywydd, i bwyllgor neu is-bwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol neu i gadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor o’r fath (ond nid yw’n gyfyngedig i hynny).
3
Nid yw’r adran hon yn gymwys i swyddogaethau’r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 30 (gorchmynion).
I229Indemnio
1
Mae unrhyw swm sy’n daladwy gan berson sydd wedi ei indemnio o ganlyniad i unrhyw atebolrwydd am dor-dyletswydd i’w godi ar a’i dalu o Gronfa Gyfunol Cymru.
2
Rhaid i’r atebolrwydd beidio â bod i berson arall sydd wedi ei indemnio.
3
Mae’r canlynol yn bersonau wedi eu hindemnio—
a
Archwilydd Cyffredinol, neu gyn-Archwilydd, a benodwyd o dan y Ddeddf hon;
b
SAC;
c
cyn-aelod neu aelod presennol o SAC;
d
cyn-gyflogai neu gyflogai presennol i SAC;
e
person sy’n darparu, neu sydd wedi darparu, gwasanaethau i’r Archwilydd Cyffredinol neu i SAC o dan drefniadau a wnaed gan SAC.
4
Ystyr tor-dyletswydd at ddibenion is-adran (1) yw tor-dyletswydd (p’un ai o dan gontract neu gytundeb neu fel arall, a ph’un ai oherwydd gweithred neu anweithred) yr aed iddi gan berson sydd wedi ei indemnio wrth arfer swyddogaethau sydd i’w harfer gan y person hwnnw yn unol â darpariaeth o ddeddfiad.
I330Gorchmynion
1
Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.
2
Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn o dan adran 33 (darpariaethau trosiannol, atodol etc) sy’n cynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n addasu fel arall ddeddfiad (ac eithrio deddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn is-ddeddfwriaeth) neu offeryn uchelfreiniol onid oes drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
3
Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys gorchymyn o dan y Ddeddf hon, ac eithrio offeryn sy’n cynnwys gorchymyn o dan adran 35 (cychwyn) yn unig, yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol.
4
Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn o dan y Ddeddf hon (ar wahân i orchymyn o dan adran 35 (cychwyn)) yn cynnwys pŵer—
a
i wneud darpariaeth wahanol at achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol, neu at ddibenion gwahanol;
b
i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodol neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau ar achosion penodol;
c
i wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth arbed, darpariaeth gysylltiedig a darpariaeth arall sy’n angenrheidiol neu yn briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
I431Cyfarwyddiadau
1
O ran unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y Ddeddf hon—
a
rhaid ei roi yn ysgrifenedig;
b
caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach;
c
caiff wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau ar achosion penodol;
d
caiff wneud darpariaeth wahanol at achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol, neu at ddibenion gwahanol.
2
Nid yw is-adran (1) yn cyfyngu ar bwerau o dan y Ddeddf hon i roi cyfarwyddiadau.
I532Dehongli
Yn y Ddeddf hon—
ystyr “Archwilydd Cyffredinol” (“Auditor General”) yw Archwilydd Cyffredinol Cymru (gweler Pennod 1 o Ran 1);
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;
mae i “corff llywodraeth leol” (“local government body”) yr ystyr a roddir yn adran 12 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004;
ystyr “Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly Commission”) yw Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw unrhyw ddeddfiad, pryd bynnag y’i pasiwyd neu y’i gwnaed, yn cynnwys—
- a
deddfiad a gynhwysir yn y Ddeddf hon, yn unrhyw Ddeddf arall gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu yn unrhyw Fesur Cynulliad, a
- b
is-ddeddfwriaeth (yn ystyr Deddf Dehongli 1978) p’un a yw wedi ei wneud o dan Ddeddf Cynulliad, neu Fesur Cynulliad neu fel arall;
- a
ystyr “Llywodraeth Cymru” (“Welsh Government”) yw Llywodraeth Cynulliad Cymru;
ystyr “SAC” (“WAO”) yw Swyddfa Archwilio Cymru (gweler Pennod 1 o Ran 2).
I633Darpariaethau trosiannol, atodol ac arbed etc
1
Mae Atodlen 3 (darpariaethau trosiannol etc) yn cael effaith.
2
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth arbed, darpariaeth gysylltiedig a darpariaeth arall sy’n briodol yn eu barn hwy mewn cysylltiad â’r Ddeddf hon neu i roi effaith lawn i’r Ddeddf hon.
3
Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (2) yn cynnwys, ymysg pethau eraill, diwygiadau i, neu ddiddymiadau a dirymiadau o, unrhyw ddeddfiad neu offeryn uchelfreiniol.
4
Nid oes dim yn Atodlen 3 yn cyfyngu ar y pŵer a roddir gan is-adran (2); a chaiff gorchymyn o’r fath, ymysg pethau eraill, wneud addasiadau i’r Atodlen honno.
I734Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Mae Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) yn cael effaith.
I835Cychwyn
1
Daw’r darpariaethau canlynol i rym ar y diwrnod y bydd y Ddeddf hon yn cael Cydsyniad Brenhinol—
a
adran 30;
b
yr adran hon;
c
adran 36.
2
Yn ddarostyngedig i is-adran (1), daw’r Ddeddf hon i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
3
Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—
a
gwneud darpariaeth ar gyfer pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;
b
cynnwys darpariaeth atodol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth arbed, darpariaeth gysylltiedig a darpariaeth arall sy’n ymwneud â chychwyn.
I936Enw byr
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.